Crynodeb cyffredinol
Ein dyfarniadau
Asesodd ein harolygiad pa mor dda mae Heddlu Gwent mewn deg maes plismona. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig mewn naw o’r deg hyn fel a ganlyn:
Gwnaethom hefyd archwilio pa mor effeithiol yw gwasanaeth Heddlu Gwent i ddioddefwyr troseddau. Nid ydym yn gwneud dyfarniad graddedig yn y maes cyffredinol hwn.
Rydym yn gosod ein canfyddiadau manwl am y pethau y mae’r llu yn eu gwneud yn dda a lle dylai’r llu wella yng ngweddill yr adroddiad hwn.
Rydym hefyd yn asesu perfformiad y llu mewn ystod o feysydd eraill, ac rydym yn adrodd ar y rhain ar wahân. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig ar gyfer rhai o’r meysydd hyn.
PEEL 2023–2025
Yn 2014, gwnaethom gyflwyno ein harolygiadau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlonrwydd yr heddlu (PEEL), sy’n asesu perfformiad pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, rydym wedi bod yn addasu ein dull yn barhaus.
Rydym wedi symud i ddull asesu parhaus, a arweinir mwy gan ddeallusrwydd, yn hytrach na’r arolygiadau PEEL blynyddol a ddefnyddiom mewn blynyddoedd blaenorol. Asesir lluoedd yn erbyn nodweddion perfformiad da, a nodir yn Fframwaith Asesu PEEL 2023–2025, ac rydym yn cysylltu ein dyfarniadau yn gliriach ag achosion pryder a meysydd i’w gwella.
Nid yw’n bosib gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y graddau a ddyfarnwyd yn yr arolygiad PEEL hwn a’r rhai o’r cylch blaenorol o arolygiadau PEEL. Mae hyn am ein bod wedi cynyddu ein ffocws ar sicrhau bod lluoedd yn cyflawni canlyniadau priodol i’r cyhoedd, ac mewn rhai achosion, rydym wedi newid yr agweddau plismona rydym yn eu harchwilio.
Y cyd-destun gweithredu i heddluoedd Cymru
Mae’n bwysig cydnabod bod lluoedd yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol i’r rhai yn Lloegr. Er nad yw plismona a chyfiawnder wedi’u datganoli i Gymru, mae gwasanaethau hanfodol megis gofal iechyd, llety, addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi. Mae hyn yn golygu bod gweithgarwch heddlu a chyfiawnder Cymru yn digwydd mewn cyd-destunau perfformiad a deddfwriaethol unigryw. Yng Nghymru, mae sefydliadau datganoledig a chyrff heb eu datganoli yn gweithio mewn partneriaeth i roi’r lefel orau bosib o wasanaeth i bobl leol. Weithiau mae hyn yn golygu bod angen i luoedd yng Nghymru gydymffurfio â gofynion rheoleiddio Cymru a Lloegr.
Terminoleg yn yr adroddiad hwn
Mae ein hadroddiadau’n cynnwys cyfeiriadau at, ymhlith pethau eraill, diffiniadau, blaenoriaethau, polisïau, systemau, cyfrifoldebau a phrosesau ‘cenedlaethol’.
Mewn rhai achosion, mae ‘cenedlaethol’ yn golygu Cymru, Lloegr, neu Gymru a Lloegr. Mewn eraill, mae’n golygu Cymru, Lloegr a’r Alban, neu’r Deyrnas Unedig gyfan.
Crynodeb Arolygiaeth Ei Fawrhydi
Rydw i’n fodlon gyda rhai agweddau o berfformiad Heddlu Gwent i gadw pobl yn ddiogel, gostwng troseddu a darparu gwasanaeth effeithiol i ddioddefwyr, ond mae meysydd lle mae angen i’r llu wella.
Mae tîm arweiniad uwch yr heddlu wedi newid yn sylweddol yn ystod blwyddyn ein harchwiliad, gyda phenodi prif gwnstabl newydd a gwneud nifer o swyddi prif swyddogion yn rhai rhan amser. Mae’r tîm arweinyddiaeth newydd yn newid model gweithredu’r llu. Mae wedi dechrau gweithio ar nifer o raglenni i helpu’r llu i gael gafael ar wybodaeth weithredol yn haws ac i weithredu’n fwy effeithiol.
Gwelsom fod amseriad a chyflymder cyfathrebiad yr arweinwyr wrth iddynt roi gwybod am y newid hwn wedi arwain at ansicrwydd ymysg y gweithlu. Byddaf yn monitro’n agos sut mae’r newidiadau i’r ffordd y mae’r llu’n gweithredu’n dod â gwelliannau sy’n ei helpu i ateb anghenion y cyhoedd yn well.
Mae Heddlu Gwent yn buddsoddi yn natblygiad ac amrywiaeth ei arweinwyr. Mae’n rhoi’r gallu i’w bersonél i gynnal safonau uchel o ymddygiad a thriniaeth deg. Yn ffodus, mae adborth gan y gweithlu’n dangos bod y llu wedi creu amgylchedd gweithio moesegol lle mae goruchwylwyr yn herio ymddygiad gwahaniaethol.
Mae’r llu’n rhagorol am gofnodi troseddau’n brydlon ac yn gywir, yn arbennig y rhai sy’n cynnwys troseddau rhywiol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Heddlu Gwent hefyd yn deall ei alw dyddiol yn dda ac yn sicrhau bod ffocws ar ei flaenoriaethu gweithrediadol. Mae’r llu wedi gwella pa mor gyflym y mae’n ateb galwadau 999. Ond mae’n dal i fod angen gwella pa mor gyflym mae’n mynd i alwadau am wasanaeth, a sut mae’n rheoli risg ar gyfer digwyddiadau nad yw’n gallu mynd iddynt yn brydlon.
Mae’r heddlu’n gwella’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i ddioddefwyr trais rhywiol a throseddau difrifol eraill. Ond, yn gyffredinol, mae’n dod â rhy ychydig o droseddwyr i gyfiawnder ac mae gormod o’i ymchwiliadau’n brin o oruchwyliaeth effeithiol.
Mae’r llu wedi adolygu strwythurau llywodraethu ar gyfer diogelu pobl sy’n agored i niwed, ond nid yw hyn eto wedi trosi’n drefniadau diogelu effeithiol. Rydym wedi gweld bod rhy ychydig o staff medrus ar rai timau i ymdopi â’r galw, gan achosi oedi a methiant i sicrhau ansawdd. Hefyd, nid yw’r llu’n cymryd digon o gyfleoedd i ddefnyddio cynlluniau datgelu a gorchmynion ataliol i ddiogelu pobl sydd mewn perygl o niwed difrifol ac mae angen gwella sut mae’n defnyddio mechnïaeth i ddiogelu dioddefwyr ac atal ail droseddu.
Byddaf yn parhau i fonitro datblygiad y llu i ymdrin â’r pryderon hyn dros y misoedd sy’n dod.
Michelle Skeer
Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi
Arweinyddiaeth
Gan ddefnyddio safonau arweinyddiaeth y Coleg Plismona fel fframwaith, rydym yn nodi yn yr adran hon y canfyddiadau pwysicaf mewn perthynas ag arweinyddiaeth y llu ar bob lefel.
Yn ystod 2024, roedd newid yn nhîm y prif swyddogion yn golygu bod mwy na hanner ei bersonél mewn swyddi dros dro ar brydiau. Mae tîm y prif swyddogion yn fwy sefydlog erbyn hyn ac mae’r llu’n parhau i ddatblygu ei uwch arweinwyr.
Mae uwch arweinwyr wedi ymateb yn dda i bryderon y gweithlu am ddiffyg gwelededd ac eglurder am flaenoriaethau’r llu. Maen nhw wedi cynyddu cyfathrebiad mewnol a rhyngweithiad gyda swyddogion a staff ar bob lefel. Dylai’r llu gyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer newid sefydliadol i’w weithlu gyda mwy o eglurder a phrydlondeb.
Mae gan Heddlu Gwent raglenni wedi’u sefydlu’n dda i ddatblygu sgiliau gweithrediadol a bugeiliol ei arweinwyr lefel ganolradd a rheng flaen. Mae hefyd wedi ymroddi i raglen hyfforddi peilot y Coleg Plismona o’r enw Arwain Timau Cynhwysol. Mae angen i’r llu sicrhau hefyd bod ganddo ddigon o ringyllod sy’n effeithiol wrth eu gwaith.
Mae buddsoddiad y llu mewn datblygu a mentora ei weithlu benywaidd wedi dod â lefelau trawiadol o ddyrchafiadau llwyddiannus. Fodd bynnag, mae angen iddo ddatblygu ei gefnogaeth ymhellach i staff o grwpiau eraill sydd wedi eu tangynrychioli.
Mae Heddlu Gwent wedi sicrhau bod ganddo strwythurau arweinyddiaeth cryf mewn meysydd critigol, megis yr ystafell reoli. Mae’n hyfforddi uwcharolygwyr i fentora darpar arweinwyr.
Mae’r llu’n deall ei heriau llesiant ac mae’n hyfforddi ei arweinwyr i gefnogi a chadw ei staff. Mae’r rhan fwyaf o’r rheolwyr yn teimlo eu bod wedi cael digon o hyfforddiant mewn arweinyddiaeth i wneud eu rolau’n effeithiol.
Mae rhagor o fanylion am arweinyddiaeth Heddlu Gwent ym mhhrif gorff yr adroddiad.
Asesiad lleihau troseddu
Mae’r asesiad gostwng troseddu’n nodi’r hyn y mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ostwng troseddu a pha mor effeithiol yw’r gwaith hwn. Nid yw’r asesiad hwn yn cynnwys ffigurau troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu. Y rheswm am hynny yw y gallent gael eu heffeithio gan amrywiadau a newidiadau mewn arferion a pholisi cofnodi, gan ei gwneud hi’n anodd gwneud cymariaethau dros amser.
Mae’r llu’n ateb galwadau brys am wasanaeth gan y cyhoedd ac yn asesu’r risg i’r galwyr yn gywir. Mae gan y llu reolaeth effeithiol ar y galw yn ei ystafell reoli. Ond mae angen i Heddlu Gwent wella pa mor brydlon y mae’n mynychu digwyddiadau; yn arbennig y rhai sy’n cynnwys pobl sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig. Dylai’r llu sicrhau ei fod yn rhoi gwybod i’r galwyr am unrhyw oedi o ran eu cyrraedd. Dylai ostwng y nifer o alwyr sy’n rhoi’r gorau i alwadau brys cyn iddyn nhw gael ateb.
Mae lefel cywirdeb y llu wrth gofnodi troseddu rhagorol ond mae’n rhaid iddo wella ei gofnodion o nodweddion gwarchodedig y dioddefwyr.
Mae’r llu wedi gwella ei gofnodion o seiliau rhesymol dros stopio a chwilio ond mae angen iddo ddeall pam fod achosion o ddefnyddio grym yn cael eu tangofnodi. Ac mae angen iddo wella trefniadau llywodraethu mewnol ac allanol a chraffu ar gyfer ei rymoedd stopio a chwilio a defnyddio grym.
Mewn rhai ardaloedd, mae Heddlu Gwent yn gweithio’n dda gyda gofal cymdeithasol ac asiantaethau partner eraill i ostwng troseddu ac anrhefn. Mae’n defnyddio cyllid Strydoedd Mwy Diogel i atal troseddu a gwella gwytnwch cymunedau. Ond mae angen iddynt sicrhau bod ganddynt fodel plismona cymdogaeth sydd ag adnoddau cynaliadwy. A dylai bod gan y tîm plismona cymdogaeth y cyfle i ganolbwyntio’n gyson ar ei gyfrifoldebau craidd, fel datrys problemau.
Mae’r llu wedi sefydlu cysylltiadau llywodraethu amlasiantaeth ar gyfer diogelu pobl agored i niwed. Ond mae angen systemau gydag asiantaethau partner eraill a digon o staff wedi eu hyfforddi’n gywir i reoli’r risgiau i ddioddefwyr agored i niwed.
Mae gan Heddlu Gwent dimau effeithiol wedi eu hyfforddi’n foddhaol sydd wedi eu hymroddi i reoli troseddwyr rhywiol a threisgar ar hyd eu bywydau, ond nid yw eto’n defnyddio mechnïaeth yn effeithiol, fel gorchmynion sifil, i atal ail droseddu a diogelu dioddefwyr rhag niwed yn y dyfodol.
Mae rhagor o fanylion am yr hyn y mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ostwng troseddu ym mhrif gorff yr adroddiad.
Darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau
Asesiad o wasanaethau dioddefwyr
Mae’r adran hon yn disgrifio ein hasesiad o’r gwasanaeth y mae Heddlu Gwent yn ei ddarparu i ddioddefwyr – o safbwynt yr adrodd am droseddau a thwy gydol yr ymchwiliad. Yn rhan o’r asesiad hwn, aethom ati i adolygu 100 o ffeiliau achos.
Pan mae’r heddlu’n cau achos o drosedd a adroddwyd, maen nhw’n aseinio ‘math o ganlyniad’ iddynt. Mae hyn yn disgrifio’r rheswm am ei gau.
Aethom ati i ddewis 100 achos i’w hadolygu, gan gynnwys o leiaf 20 yr oedd y llu wedi eu cau gyda’r math hwn o ganlyniad:
- pan oedd y drosedd wedi’i hymchwilio, ni chafwyd hyd i unrhyw un y gellid eu drwgdybio, a chaewyd yr ymchwiliad.
Er na roddwyd gradd i’n hasesiad o wasanaeth y dioddefwr, mae’r asesiad hwn yn dylanwadu ar feirniadaethau sydd wedi cael gradd mewn meysydd eraill yr ydym wedi eu hymchwilio.
Mae’r heddlu’n ateb galwadau brys yn gyflym ond mae angen gwella’r amser y mae’n gymryd i ateb galwadau nad ydynt yn rai brys
Mae’r llu’n ateb galwadau brys yn gyflym. Ond, mae angen iddo ostwng y nifer o alwadau eraill lle mae’r sawl sy’n galw’n rhoi’r ffôn i lawr cyn i’r atebwr ateb yr alwad. Yn eu galwadau, mae’r bobl sy’n ateb yr alwad yn defnyddio proses strwythuredig bob amser sy’n asesu bygythiad, niwed, risg a bod yn agored i niwed. Yn y mwyafrif o achosion, mae pobl sy’n trin galwadau’n adnabod pobl sy’n dioddef dro ar ôl tro. Maen nhw’n gwrtais ac yn rhoi cyngor am atal troseddu a diogelu tystiolaeth.
Nid yw’r heddlu bob amser yn ymateb yn brydlon i alwadau am wasanaeth neu’n cwblhau asesiadau risg priodol
Fel arfer, mae’r heddlu’n ymateb yn briodol i alwadau am wasanaeth. Ond weithiau nid yw’n ymateb o fewn yr amseriadau gosodedig. Nid yw bob amser yn rhoi gwybod i’r dioddefwyr am unrhyw oedi, sy’n olygu nad yw disgwyliadau’r dioddefwyr yn cael eu hateb bob tro. Gallai hyn achosi iddyn nhw golli hyder a rhoi’r gorau i’r broses. Nid yw’r llu bob amser yn cwblhau asesiadau risg priodol i ddioddefwyr a phobl eraill pan ddylai.
Mae cofnodion troseddau’r llu o safon ragorol
Mae gan y llu brosesau cofnodi troseddau effeithiol. Mae hefyd yn sicrhau ei fod yn cofnodi pob trosedd bron yn gywir ac yn brydlon.
Rydym yn nodi rhagor o fanylion am y ffordd y mae’r llu’n cofnodi troseddau yn yr adran ar uniondeb data am droseddu.
Nid yw’r llu’n gwneud ymchwiliadau effeithiol ac amserol bob amser neu’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r dioddefwyr bob amser
Yn y mwyafrif o achosion, mae’r llu’n ymchwilio troseddau mewn ffordd amserol. Ond nid yw bob amser yn cwblhau llinellau ymholi perthnasol a chymesur. Nid yw’r llu bob amser yn goruchwylio ymchwiliadau’n dda nac yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’w dioddefwyr. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol o fod â hyder mewn ymchwiliad gan yr heddlu pan maen nhw’n derbyn diweddariadau rheolaidd.
Mae ymchwiliad trwyadl yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y llu’n canfod ac yn arestio pobl a ddrwgdybir, gan roi canlyniad cadarnhaol i’r dioddefwr. Mewn rhai achosion, cymerodd y llu ddatganiadau personol y dioddefwr, sy’n rhoi’r cyfle i ddioddefwyr ddisgrifio sut mae’r drosedd honno wedi effeithio ar eu bywydau.
Pan fydd dioddefwyr yn tynnu eu cefnogaeth ar gyfer ymchwiliad yn ei hôl, mae’r llu’n ystyried symud ymlaen â’r achos heb gefnogaeth y dioddefwr. Gall hyn fod yn ffordd bwysig o ddiogelu’r dioddefwr ac atal rhagor o droseddau.
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau (‘Cod y Dioddefwr’) yn gofyn bod lluoedd yn gwneud asesiad anghenion ar gam cynnar er mwyn darganfod a oes angen rhagor o gymorth ar y dioddefwr. Nid yw’r llu bob amser yn gwneud yr asesiadau hyn neu’n cofnodi’r holl geisiadau am gymorth ychwanegol. Nid yw’r llu bob amser yn cyfeirio dioddefwyr at sefydliadau cefnogi arbenigol.
Mae’r llu’n aseinio’r math cywir o ganlyniad i ymchwiliad fel arfer ac yn ystyried dymuniadau’r dioddefwyr
Mae’r llu’n cau troseddau gyda’r math priodol o ganlyniad fel arfer. Nid yw bob amser yn cofnodi rhesymeg glir dros roi canlyniad penodol ac nid yw hyn bob amser yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Mae Heddlu Gwent yn gofyn am safbwyntiau’r dioddefwyr wrth benderfynu pa fath o ganlyniad i’w aseinio i ymchwiliad sydd wedi cau. Pan fo’n briodol, gall y llu ddarparu cofnod archwiliadwy o ddymuniadau’r dioddefwr. Mae’r llu’n hysbysu dioddefwyr am y cod canlyniad sydd wedi’i aseinio i’r ymchwiliad.
Cofnodi data am droseddu
Mae Heddlu Gwent yn eithriadol o ran cofnodi troseddau.
Mae Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref, sy’n darparu’r safon ar gyfer cofnodi troseddu yng Nghymru a Lloegr, wedi newid ers y tro diwethaf i ni archwilio’r llu i edrych ar uniondeb data troseddol.
Mae’r newid hwn yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y mae lluoedd yn cofnodi troseddu treisgar. Mae hyn yn golygu na allwn bellach gymharu’r canfyddiadau o’r archwiliad â’r rheiny o archwiliadau blaenorol.
Rydym yn amcangyfrif bod Heddlu Gwent yn cofnodi 95.6 y cant (+/- 2.3 o bwyntiau canran) o’r holl droseddu yr adroddir amdanynt (ag eithrio twyll).
Rydym yn amcangyfrif bod y llu’n cofnodi 94.5 y cant (+/- 4.2 o bwyntiau canran) o droseddau treisgar.
Rydym yn amcangyfrif bod y llu’n cofnodi 98.0 y cant (+/- 2.4 pwynt canran) o droseddau rhyw.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi canfyddiadau eraill ar ba mor dda y mae’r llu’n cofnodi troseddau.
Mae’r llu’n cofnodi troseddau trais yn gywir
Mae’r llu’n cofnodi troseddau treisio’n gywir. Yn ein harchwiliad, gwelsom y dylai bod Heddlu Gwent wedi cofnodi 36 trosedd o drais, a’i fod wedi cofnodi pob un o’r 36 trosedd yn gywir. Mae trais rhywiol yn un o’r troseddau mwyaf difrifol y gall dioddefwr ei brofi. Felly, mae’n arbennig o bwysig bod lluoedd yn cofnodi’r troseddau hyn yn gywir er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gwasanaeth a’r gefnogaeth y maent yn eu disgwyl a’u haeddu.
Mae’r llu’n cofnodi trosedd pan fydd yn nodi bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i ddefnyddio yn erbyn dioddefwyr
Mae’r llu’n cofnodi’r holl droseddau pan fydd troseddwyr yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Aethom ati i archwilio 50 digwyddiad. Gwelsom y dylai bod y llu wedi cofnodi 18 o droseddau, ac roedd yr 18 i gyd wedi eu cofnodi’n gywir. Yn aml iawn mae dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn wynebu camdriniaeth ac artaith am gyfnodau sylweddol o amser. Mae’n bwysig bod lluoedd yn cofnodi troseddau er mwyn helpu i ddarparu gwasanaeth effeithiol i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Eithriadol
Pwerau’r heddlu a thrin y cyhoedd yn deg ac yn barchus
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol o ran defnyddio pwerau’r heddlu a thrin pobl yn deg ac yn barchus.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â phwerau’r heddlu a thrin pobl yn deg ac yn barchus.
Mae’r rhan fwyaf o’r seiliau a gofnodir ar gyfer gwaith stopio a chwilio’r llu yn rhesymol, ac mae anghymesuredd a gofnodir yn gostwng
Yn ystod ein harchwiliad, aethom ati i adolygu sampl o 255 cofnod o stopio a chwilio o 1 Medi 2023 hyd 31 Awst 2024. Ar sail y sampl hwn, rydym yn amcangyfrif bod 81.6 y cant (+/- 4.5 o bwyntiau canran) o’r holl achosion o stopio a chwilio gan y llu yn ystod y cyfnod hwn wedi cofnodi seiliau rhesymol. Mae hyn wedi aros yr un fath i raddau mawr o’i gymharu â’r canfyddiadau o’n hadolygiad blaenorol o gofnodion rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2021, pan welsom bod gan 76.6 y cant (+/- 5.2 pwynt canran) o achosion o stopio a chwilio seiliau rhesymol wedi eu cofnodi.
O’r cofnodion a adolygwyd gennym o stopio a chwilio pobl oedd yn eu hystyried eu hunain yn bobl o gefndir lleiafrif ethnig, roedd gan 25 o 31 seiliau rhesymol wedi eu cofnodi. Fodd bynnag, canfu ein harchwiliad bod 652 o gofnodion lle’r oedd ethnigrwydd wedi’i gofnodi’n ‘anhysbys’ (heb ei nodi neu’n gwrthod ateb). Mae hyn yn golygu nad oedd modd gwybod beth oedd ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig 22.9 y cant o achosion yr ydym wedi eu harchwilio. Ni allai’r llu ddarparu’r canran o chwiliadau oedd heb gofnodi ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig o’i ddata ei hun.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd pobl Ddu neu Ddu Prydeinig 3.7 gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio ar gyfer chwiliad yng Ngwent, o’i gymharu â 3.6 gwaith yn gyffredinol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r llu’n gwybod bod angen iddo ostwng ei ddiffyg cymesuredd ymhellach o hyd. Ond mae hyn yn welliant ar y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, pan oedd pobl Ddu neu Ddu Prydeinig 6.3 gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio ar gyfer eu chwilio yng Ngwent. Fodd bynnag, nid oes sylwadau neu esboniad ar wefan y llu am ei ffigurau am anghymesuredd stopio a chwilio.
Mae Heddlu Gwent yn hyfforddi cyfran uchel o’r gweithlu mewn defnyddio grym a thriniaeth deg
Mae’r llu’n cadw presenoldeb hyfforddiant diogelwch personol cyson uchel. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewn sut i ddefnyddio grym yn gyfreithlon ac yn deg. Dywedodd y llu wrthym bod 98 y cant o swyddogion a 91 y cant o staff yr heddlu wedi mynd ar hyfforddiant yn 2024 os oedd gofyn iddynt wneud hynny. Mae’r hyfforddiant wedi’i seilio ar senarios a gwelsom ei fod yn profi dealltwriaeth hyfforddeion o’u grymoedd yn ystod y drafodaeth wedyn.
Dywedodd y llu wrthym hefyd bod 2,311 o staff wedi derbyn yr hyfforddiant No Boundaries mewn gwrth-hiliaeth, amrywiaeth a chydraddoldeb i 177 o’i staff, yn rhan o’i waith i weithredu argymhellion yr Ymholiad Angiolini sy’n ymwneud â chael gwared â hiliaeth, rhywiaeth a chasineb at fenywod. Dywedodd y llu wrthym y bydd y rhaglen yn parhau yn 2025.
Mae angen i’r llu hyfforddi cyfran uwch o swyddogion mewn defnyddio stopio a chwilio a gwella ansawdd ei adborth craffu mewnol
Mae modd craffu ar y rhan fwyaf o’r achosion o stopio a chwilio rhwng Heddlu Gwent ac aelodau’r cyhoedd gan ddefnyddio fideo a wisgir ar y corff. Dywedodd y llu wrthym bod eu cydymffurfiad wrth ddefnyddio fideo a wisgir ar y corff yn 95 y cant neu’n uwch yn gyson rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024. Hefyd, dywedodd y llu wrthym ei fod yn darparu sesiynau hyfforddi mewn stopio a chwilio i 176 o swyddogion rhwng Awst a Hydref 2024, gyda 182 pellach wedi eu hamserlennu i gael eu hyfforddi o fis Mawrth 2025. Fodd bynnag, mae hyn yn cynrychioli cyfran gweddol fach o’i swyddogion a fydd efallai angen defnyddio grymoedd stopio a chwilio.
Dywedodd y llu wrthym bod ei dîm gwella parhaus yn archwilio 100 o achosion o stopio a chwilio bob mis. Mae’r broses yn cynnwys gwylio lluniau fideo a wisgir ar y corff mewn perthynas â’r achosion hyn. Mae hyn yn ychwanegu haen ychwanegol o graffu i honno a ddarperir gan oruchwylwyr rheng flaen. Pan fydd y tîm yn ystyried bod y seiliau sydd wedi’u cofnodi ar gyfer chwiliad yn annigonol, mae’n anfon adborth at y swyddog mewn e-bost.
Ond dywedodd swyddogion wrthym nad oedd yr adborth yn eu helpu nhw i ddeall sut y dylent wella. Gwelsom mai dim ond rhoi gwybod i swyddogion eu bod wedi methu cofnodi seiliau rhesymol wrth ddarparu dolen at ddefnydd hyfforddi oedd y negeseuon e-bost. Ond nid yw’r e-byst yn egluro’r rheswm pam y mae’r tîm yn ystyried bod y seiliau a gofnodwyd yn annigonol.
Mae angen i’r llu barhau i hyfforddi cyfran uwch o swyddogion mewn defnyddio stop a chwilio. Ac mae angen iddynt sicrhau bod ei adborth o’r craffu’n ddigon manwl i hyrwyddo arferion gwell.
Mae angen i’r llu sicrhau eu bod yn rhannu gwybodaeth am blant y defnyddir grym yn eu herbyn gyda phartneriaid diogelu
Mae grymoedd gorfodi Heddlu Gwent yn ystyried data dadansoddol am oedran y bobl sydd wedi cael eu hatal a’u chwilio neu y mae grym wedi cael ei ddefnyddio yn eu herbyn. Mae’r llu’n gofyn bod ei swyddogion yn cyflwyno hysbysiadau diogelwch cyhoeddus pan maen nhw’n stopio a chwilio plant. Ond, dywedodd wrthym nad oes ganddo eto bolisi cyfatebol pan ddefnyddir grym yn erbyn plant. Mae hyn yn golygu nad yw partneriaid diogelu, fel gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, yn gwybod pryd a pham y mae plant wedi cael eu hatal yn orfodol.
Byddai cofnodi a rhannu data’n gywir ac mewn ffordd ddibynadwy yn helpu Heddlu Gwent i adnabod plant a allai fod dan risg o niwed neu o ddechrau cymryd rhan mewn troseddu.
Digonol
Ataliaeth ac atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a lleihau bregusrwydd
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol am atal ac ataliaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag atal ac ataliaeth.
Mae’r llu wedi adnewyddu ei ymrwymiad i blismona cymdogaeth
Ym mis Ionawr 2025, cyflwynodd Heddlu Gwent ei fodel gweithredu newydd. Symudodd hyn i ffwrdd oddi wrth strwythur wedi’i alinio â’r ardal blismona leol i un oedd wedi’i alinio â swyddogaethau’r llu. O ganlyniad, mae gan blismona cymdogaeth ei arweinydd uwch ymroddedig ei hun i ganolbwyntio ar berfformiad, adnoddau a sgiliau.
Mae’r llu hefyd wedi cyhoeddi ei strategaeth blismona cymdogaeth 2024–2028. Mae’r strategaeth hon yn adlewyrchu ei werthoedd, Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gweledigaeth Plismona 2030 a Chanllawiau Moderneiddio Plismona’r Gymdogaeth y Coleg Plismona.
Ond ar adeg ein harolwg, dim ond ychydig o staff a allai esbonio i ni sut mae eu gwaith yn ymwneud â’r strategaeth. Ac mae’r strategaeth hon yn dal i gyfeirio at fodel llywodraethiant yr ardal blismona leol, yn hytrach na model gweithredu newydd y llu.
Dylai’r llu sicrhau bod ei fodel gweithredu newydd yn datblygu’r dull newydd o blismona cymdogaeth yn effeithiol.
Mae timau plismona cymdogaeth wedi eu briffio’n dda ac yn gweithio’n effeithiol i ymdrin â throsedd ac anhrefn mewn cymunedau lleol
Yn y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2024, cofnododd Heddlu Gwent 10,672 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hwn yn gynnydd o 24 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 (8,619 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol). Yn yr un cyfnod, cyhoeddodd y llu 116 o orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol, sydd 17 y cant yn fwy na’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 (99 o orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol). Mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddo i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gwelsom enghreifftiau o ddogfennau tasg plismona’r gymdogaeth sy’n cael eu hymchwilio, eu casglu a’u diweddaru gan swyddogion gostwng troseddu ac anhrefn. Mae hyn yn caniatáu i’r llu friffio timau plismona’r gymdogaeth ac aseinio tasgau iddynt gan ddefnyddio gwybodaeth gyfredol am dueddiadau troseddu sy’n datblygu’n lleol, dioddefwyr agored i niwed a throseddwyr peryglus. Pan mae aseiniad tasg a briffio lleol yn gweithio’n dda, mae timau cymdogaeth yn cyflawni canlyniadau da i’w cymunedau. Er enghraifft, dywedodd y llu wrthym fod tîm Gorllewin Casnewydd wedi defnyddio mwy na 40 gwarant i chwilio yn 2024 mewn cysylltiad ag achosion a ddrwgdybwyd o gamddefnyddio cyffuriau neu o feddu’n anghyfreithlon ar gŵn XL Bully. Roedd y tîm wedi gweithio hefyd gyda staff safonau masnach i gipio mwy na £2 miliwn o sigaréts, tybaco a fêps anghyfreithlon.
Mae’r llu wedi gwneud defnydd da o gyllid Strydoedd Mwy Diogel i atal ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ac i weithio gyda phobl ifanc
Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi defnyddio dadansoddiad o’r boblogaeth oedd wedi’i seilio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol i adnabod 18 o fannau lle’r oedd troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arbennig o ddrwg. Mae’r rhain yn cyfeirio at fannau problemus ac yn defnyddio offeryn mapio i ddangos ymhle mae cynlluniau datrys problemau yn eu lle. Mae swyddogion yn gwneud patrolau ar droed lle maen nhw’n weledol iawn gan ddefnyddio cyllid Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref dros amser. Mae’r llu’n monitro’n electronig lle ac am faint o amser y mae swyddogion yn patrolio drwy dracio eu setiau radio ac mae swyddogion yn defnyddio codau QR i gofnodi eu gweithredoedd.
Yn ogystal, dywedodd y llu wrthym ei fod wedi helpu i gyflenwi 1,700 o gartrefi gyda theledu cylch cyfyng, camerâu cloch drws a mesurau diogelwch eraill. Mae’r tîm ‘We Don’t Buy Crime’ yn parhau i gynghori busnesau am atal troseddu. Mae’r llu wedi rhoi offer fel Smartwater a hyfforddiant i staff safonau masnach a nifer o adwerthwyr ail law a busnesau gwledig i helpu i adnabod eiddo sydd wedi’i ddwyn.
Mae PCSOs o’r tîm ymgysylltiad ieuenctid NXFGen a thimau wardiau lleol yn defnyddio fan gemio a brynwyd ac y rhoddwyd offer ynddo gan y llu, pan maen nhw’n mynd i ysgolion a digwyddiadau lleol. Mae’r llu’n amcangyfrif bod 200 i 400 o blant yn ymweld â’r fan yn ystod y digwyddiadau hyn. Mae hyn yn gadael i PCSOs gynnig cyngor ac ymwybyddiaeth am effaith troseddau cyllyll, camddefnyddio sylweddau a fandaliaeth. Mae’r llu hefyd wedi cyfrannu at adeiladu lloches nos i ieuenctid ym Mharc Tredegar ac i 18 mis o waith ymyrraeth ieuenctid ym Mlaenau Gwent.
Mae’r llu wedi defnyddio arolygon i ddeall effaith ei weithgaredd ar hyder y cyhoedd. Mae’n defnyddio Facebook, TikTok, X, Instagram a Snapchat i wneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd y bobl a allai wynebu neu gael eu heffeithio gan ei weithgaredd.
Mae’r llu’n cydweithio â sefydliadau eraill i ymdrin â throsedd a thawelu meddwl cymunedau mewn rhai ardaloedd
Ym mis Gorffennaf 2024, sefydlodd y llu’r cynllun Parchu Rhymni. Mae hwn yn ddull Clirio, Dal ac Adeiladu i ostwng yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hirsefydlog, y cyflenwi cyffuriau a’r trais mewn cymunedau difreintiedig gan grwpiau troseddu cyfundrefnol. Cyfathrebodd y llu ei gynlluniau drwy arolygon gyda thrigolion. Cytunodd ar weithredu gorfodol ar y cyd â safonau masnach a phartneriaid diogelwch cymunedol Caerffili Fwy Diogel. I ymdrin â’r ymddygiad troseddol hwn, defnyddiodd y llu warantau cyffuriau, gan beri arestiadau ac erlyniadau a chynyddu patrolau swyddogion ac atafaelu cerbydau. Mae’r llu’n dal i orffen y cam hwn ac mae ganddo gynlluniau gyda’r awdurdod lleol i gynnwys y gymuned yn rhan o’r broses a hyrwyddo gweithgareddau atal troseddu. Nid yw’r gweithgaredd hwn yn gyflawn eto ond mae’n fenter addawol.
Gwelsom fod dadansoddwyr yn cyflenwi gwybodaeth i gyfarfodydd perfformiad lleol am dueddiadau troseddu tymor hir a throseddwyr toreithiog. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau lle mae troseddu’n digwydd dro ar ôl tro, i lawr i fanylion stryd wrth stryd. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i’r llu friffio timau lleol yn effeithiol. Er enghraifft, yn Sir Fynwy, mewn ymateb i gynnydd mewn lladrata o siopa, cynhaliwyd gweithrediad gan dimau rhagweithiol i arestio pobl y drwgdybir eu bod yn droseddwyr toreithiog. Mae’r llu hefyd yn datblygu ymgyrch ‘Shop Watch’ gyda busnesau lleol. Dywedodd Heddlu Gwent wrthym ei fod wedi gweld gostyngiad mewn troseddau yn yr ardal.
Mae’r llu’n gweithio’n dda gyda’i gymunedau ac asiantaethau sy’n ymdrin â throsedd ac anhrefn
Mae’r llu’n gweithio gyda chymunedau sydd â llai o hyder yn yr heddlu o bosib. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, mae arweinwyr mosg cymunedol yn cwrdd yn chwarterol gyda phennaeth plismona lleol i drafod troseddau casineb. Maen nhw hefyd yn trafod digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n effeithio ar ba mor ddiogel y mae pobl yn teimlo a chyfleoedd i gynyddu diddordeb mewn digwyddiadau i bobl ifanc.
Mae timau’r gymdogaeth yng Nghasnewydd yn mynd i ddigwyddiadau a gynhelir gan gymunedau o Wlad Pwyl ac India. Mae’r llu’n gweithredu cynllun ‘Ride Along’, sy’n cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd ymuno â’i swyddogion sydd ar batrol i brofi sut beth yw plismona mewn gwirionedd.
Mae’r llu hefyd yn gweithio’n dda gydag asiantaethau eraill i ymdrin â phroblemau yn y gymdogaeth. Gwelsom enghraifft o hyn yng Nghoed-duon lle gweithiodd y llu’n agos â phartneriaid i ostwng yr anhrefn sy’n gysylltiedig â cham-drin alcohol o amgylch yr orsaf bysiau. Cyflawnwyd hyn drwy orfodi Gorchmynion Diogelu Lleoedd Cyhoeddus ac ymyrraeth a chefnogaeth iechyd a chyfiawnder ieuenctid.
Mae ardal arall o’r llu, mewn ymateb i bryder y cyhoedd am garcharorion sydd wedi eu rhyddhau’n cael cartref mewn cymunedau, gweithiodd y llu mewn partneriaeth â chynghorau i osod CCTV. Rhoddodd hyn dawelwch meddwl i bobl ac eglurder am faint y risg yr oedden nhw’n ei wynebu o weithgareddau troseddu.
Digonol
Ymateb i’r cyhoedd
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol am ymateb i’r cyhoedd.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymateb i’r cyhoedd.
Mae gan y llu strwythur arweinyddiaeth rheoli cyswllt clir ac mae’n ymdrin yn effeithiol â’r galw dyddiol
Mae’r llu wedi defnyddio gwersi a ddysgwyd o Ymholiad Arena Manceinion. Mae ganddo arweinyddiaeth uwch gweladwy yn ystafell reoli’r llu 24 awr y dydd. Yr arweinyddiaeth hon yw rheolwr digwyddiad y llu a chomander arian. Mae’n sicrhau bod y llu’n teimlo’n hyderus ei fod yn gallu deall a rheoli’r galw, yn ogystal â monitro perfformiad.
Mae gan y llu brotocolau sefydledig ar gyfer graddio digwyddiadau a gosod trefn. Mae’r rhain yn gyson â’r safonau cenedlaethol ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau.
Mae’r llu’n cynnal cyfarfodydd am alw dyddiol, perfformiad a gosod blaenoriaethau. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod staff yn cael eu defnyddio’n briodol i ateb a blaenoriaethu galwadau am wasanaeth, a bod swyddogion yn cael eu dosbarthu i ymdrin â nhw’n brydlon ac yn effeithiol.
Mae byrddau wal gweladwy’n dangos i staff a rheolwyr lle mae perfformiad yn dderbyniol neu’n heriol ar draws ei ddulliau cysylltu 999, 101 a switsfwrdd. Mae staff rheoli cyswllt yn amlsgiliedig fel bod y llu’n gallu eu hailddefnyddio nhw i amrywiol swyddogaethau er mwyn darparu gwytnwch mewn cyfnodau o alw mawr.
Mae’r llu’n ateb galwadau 999 yn brydlon yn gyson
Yn y flwyddyn hyd 31 Hydref 2024, atebodd Heddlu Gwent 93.3 y cant o’i alwadau 999 o fewn 10 eiliad, yn unol â safonau cenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys lefel gyson o berfformiad wrth ateb o leiaf 90 y cant o alwadau 999 o fewn 10 eiliad bob mis o 30 Mehefin hyd 31 Hydref 2024.
Ffigur 1: Y gyfran o alwadau 999 a atebwyd o fewn 10 eiliad gan luoedd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2024

Ffynhonnell: amseroedd ateb galwadau 999 gan BT
Nodwch: Yr amser ateb galwadau yw’r amser y mae’n ei gymryd i alwad gael ei drosglwydddo o BT i lu, a’r amser a gymerir gan y llu hwnnw i ateb yr alwad.
Mae’r gwelliant hwn yn cynrychioli ffocws cyson a phendant ar wella trin galwadau brys i’r cyhoedd. Nawr gall galwyr fod yn hyderus os byddan nhw’n deialu 999 y bydd eu galwad yn cael ei hateb yn brydlon.
Dylai’r llu ostwng y nifer o alwadau nad ydynt yn rhai brys y mae galwyr yn rhoi’r gorau iddynt
Yn dilyn ein harchwiliad y n 2022, yn rhan o achos pryder ehangach, roeddem yn argymell bod angen i’r llu ostwng y nifer o alwadau 101 nad oeddent yn rhai brys y rhoddwyd y gorau iddynt gan alwyr.
Yn y flwyddyn yn gorffen ar 30 Medi 2024, derbyniodd Heddlu Gwent 227 o alwadau 101 nad oeddent yn rhai brys i bob 1,000 o’r boblogaeth. Roedd hynny’n cyfateb â chyfraddau lluoedd eraill yng Nghymru a Loegr.
Dywedodd y llu wrthym fod 12.6 y cant ar gyfartaledd o alwadau 101 nad oeddent yn rhai brys wedi rhoi’r gorau i’w galwad cyn iddynt gael eu hateb, yn y 12 mis o fis Chwefror 2024 hyd fis Ionawr 2025. Fel y nodwyd yn arweiniad ac egwyddorion strategaeth rheoli cysylltiad cenedlaethol 2020, dylai lluoedd heb switsfwrdd amcanu i gael cyfradd rhoi’r gorau i alwadau sy’n is na 10 y cant. Er bod angen o hyd i’r llu wella’r nifer o alwadau 101 nad ydynt yn rhai brys y mae galwyr yn rhoi’r gorau iddynt, mae’r canfyddiadau hyn yn cynrychioli gwelliant ers ein harchwiliad diwethaf.
Mae’r bobl sy’n trin galwadau’n asesu’r risg o niwed i ddioddefwyr yn effeithiol ac yn blaenoriaethu presenoldeb mewn digwyddiadau’n gywir
Yn ystod ein hasesiad o wasanaeth y dioddefwyr, gwelsom fod staff yr ystafell reoli wedi gwneud asesiad strwythuredig o’r risg o niwed i ddioddefwyr mewn 67 o’r 71 o achosion a archwiliwyd gennym. Roedd pob un o’r 67 asesiad risg yn ystyrlon. Roedd y gweithwyr oedd yn ymdrin â galwadau’n blaenoriaethu pa mor argyfyngus oedd galwadau mewn 86 o 97 o achosion.
Roedd y llu wedi gwirio a oedd digwyddiadau’n cynnwys dioddefwyr oedd yn cysylltu dro ar ôl tro neu ddioddefwyr agored i niwed mewn 76 o 84 a 79 o 87 o alwadau, yn y drefn honno.
O’r galwadau a archwiliwyd gennym, gwelsom fod pobl sy’n ateb y galwadau’n gwrtais, proffesiynol a bron bob amser yn darparu cyngor priodol am atal troseddu. Mae canfyddiadau ein hasesiad o wasanaeth y dioddefwr yn cynrychioli gwelliant sylweddol yn ansawdd y gwaith o drin galwadau ers ein harchwiliad yn 2022.
Digonol
Ymchwilio i droseddau
Mae Heddlu Gwent angen gwella o ran ymchwilio i droseddau.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymchwilio troseddau.
Mae’r llu’n gwella ei allu a’i gapasiti i ymchwilio trosedd ddifrifol a chymhleth yn effeithiol
Yn ein hadroddiad ymchwilio yn 2022, dywedasom fod angen i’r llu wneud yn siŵr bod ganddo ddigon o staff medrus i ymchwilio trosedd yn effeithiol ar ran y cyhoedd a bod ei drefniadau llywodraethiant a chraffu wedi dod â gwell safonau o ymchwiliad. Roedd hwn yn faes i’w wella ar gyfer y llu.
Bryd hynny yn y llu, roedd 65 y cant o 257 o swyddi ymchwilwyr wedi’u hachredu wedi eu llenwi gan naill ai ymchwilwyr lefel 2 PIP neu ymchwilwyr dan hyfforddiant. O 31 Mawrth 2024, roedd gan y llu 64 y cant o’i 256 o ymchwilwyr lefel 2 PIP achrededig mewn swydd, a 65 o ymchwilwyr dan hyfforddiant yn erbyn y diffyg o 92 o ymchwilwyr wedi’u hachredu. Mae hyn yn nifer uwch o ymchwilwyr dan hyfforddiant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae hyn yn rhoi gwell siawns i’r llu gyrraedd ei niferoedd gofynnol o ymchwilwyr wedi’u hyfforddi’n llawn. Dywedodd Heddlu Gwent wrthym ei fod yn disgwyl cyrraedd neu fynd yn uwch na’i nifer gofynnol o ymchwilwyr lefel 2 PIP cymwysedig yn 2025. Mae hyn yn galonogol, ond dylai’r llu sicrhau ei fod yn gallu cadw ei ymchwilwyr ac felly wella ei allu i ymchwilio troseddau difrifol a chymhleth yn effeithiol.
Mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn defnyddio canlyniadau’n briodol, yn unol â’i bolisïau ei hun a pholisïau cenedlaethol, er mwyn cyflawni canlyniadau boddhaol i ddioddefwyr
Yn ein harchwiliad yn 2022, un maes i’w wella a roesom i’r llu oedd cofnodi safbwyntiau dioddefwyr oedd yn tynnu eu cefnogaeth i ymchwiliadau yn ei hôl. Roeddem hefyd wedi dweud y dylai’r llu ddogfennu a oedd wedi symud agwedd seiliedig ar dystiolaeth yn ei flaen, neu wedi ceisio symud un ymlaen, er mwyn mynd ar ôl erlyniadau os nad oedd dioddefwyr yn cefnogi gweithrediad yr heddlu.
Yn galonogol, yn ein hasesiad o wasanaeth y dioddefwyr yn 2024, gwelsom mewn 23 o 26 o achosion bod y llu wedi cofnodi’r rheswm pam yr oedd dioddefwyr wedi tynnu cefnogaeth am erledigaeth yn ei hôl. Gwelsom hefyd eu bod yn ystyried dulliau wedi eu harwain gan dystiolaeth mewn 9 allan o 11 o achosion perthnasol. Ac mae proses gwblhau’n derfynol y llu ar gyfer ymchwiliadau’n gofyn bod goruchwylwyr yn esbonio a yw dulliau sydd wedi’u harwain gan dystiolaeth wedi derbyn ystyriaeth.
Ond yn ein hasesiad o wasanaeth y dioddefwr, gwelsom hefyd, o’r achosion a archwiliwyd, bod y llu’n defnyddio canlyniadau cywir mewn dim ond 51 o 66 o achosion a’i fod yn goruchwylio’n effeithiol dim ond 59 o’r 72 o droseddau a gwblhawyd. Cofnododd resymau clir dros ddefnyddio canlyniad ar ddim ond 51 o 63 o achosion. Yn y mwyafrif o achosion, pan oedd yn defnyddio canlyniadau anghywir, roedd llinellau ymholi ymarferol o hyd y gallai fod wedi eu dilyn i ddarparu’r siawns o ddod â throseddwr i gyfiawnder.
Mae angen i Heddlu Gwent ddeall gwir faint ei ddosbarthu anghywir. Clywodd fwrdd effeithiolrwydd gweithrediadol y llu bod 1,081 o droseddau yn atebol i gyfyngiadau amser statudol ym mis Hydref 2024, a oedd o bosib y tu hwnt i’r cyfyngiad amser o chwe mis ar gyfer erlyniad. Roedd hyn yn golygu na allai’r llu bellach gyflawni canlyniad ar ran dioddefwyr.
Gwelsom mewn achosion o ymchwiliadau anghyflawn i droseddau gyda chyfyngiad amser, bod polisi’r llu’n cyfarwyddo ymchwilwyr yn anghywir i aseinio canlyniad gan feio anawsterau tystiolaethol, nid diffyg ymchwiliad amserol. Dywedodd y llu wrthym ei fod yn defnyddio’r polisi hwn rhwng Chwefror 2023 a Rhagfyr 2024. Erbyn hyn mae Heddlu Gwent wedi cywiro ei bolisi fel ei fod yn gyson gydag arweiniad cenedlaethol. Ac mae’n archwilio ei achosion caeedig i ddeall maint ei ddosbarthiadau angywir.
Mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn cydymffurfio â holl ofynion y Cod Dioddefwyr
Mae gan Heddlu Gwent uned gofal i ddioddefwyr a thystion sefydledig. Mae’n cysylltu â dioddefwyr ar ôl iddynt roi gwybod am drosedd ac wedi i bobl a ddrwgdybir gael eu cyhuddo, er mwyn cefnogi dioddefwyr drwy’r broses llys. Ond gwelsom nad yw lefelau staffio parhaol wedi cynyddu ers i’r uned ddechrau yn 2016, er gwaethaf y cynnydd mewn galw. Mae cyfarfodydd llywodraethu’r llu’n cydnabod bod gan yr uned gofal tystion nifer uchel o achosion fesul swyddog, a’u bod ar ei hôl hi o ran cysylltu â defnyddwyr.
Gwelsom fod agweddau o gydymffurfiad â’r Cod Dioddefwyr a allai fod yn well. Yn ei hasesiad o wasanaeth y dioddefwr, gwelsom fod y llu yn amlwg yn cofnodi asesiadau o anghenion dioddefwyr mewn dim ond 66 o 85 o achosion a ymchwiliwyd gennym. Lle’r oedd hawl gan ddioddefwyr i gael gwasanaeth manylach, cofnododd y llu hyn ar ddim ond 14 o 35 achlysur. Roedd yn cytuno ar gontractau dioddefwyr mewn dim ond 61 o 74 o achosion. Os nad oedd ddioddefwyr yn cefnogi gweithredu gan yr heddlu, roedd y llu’n cofnodi’r rhesymau am hyn mewn 23 o 30 achosion.
Ym mis Gorffennaf 2024, dywedodd Heddlu Gwent wrthym ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr oddeutu 90 y cant o’r amser, gyda’r tîm ymchwilio trais rhywiol yn cydymffurfio oddeutu 98 y cant o’r amser. Ond ni all y llu fod yn hyderus eto o’i gyfraddau cydymffurfio, sydd wedi eu seilio ar sampl bychan o 30 achos bob chwarter, a welwyd yn system rheoli tystion y llu.
Dylai’r llu wneud yn siŵr ei fod yn monitro cydymffurfiad yn effeithiol gyda’r Cod Dioddefwyr.
Angen gwella
Amddiffyn pobl fregus
Mae Heddlu Gwent angen gwella sut mae’n diogelu pobl agored i niwed.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn diogelu pobl agored i niwed.
Mae gan y llu strategaeth sefydledig a fframweithiau gwella i ddiogelu pobl agored i niwed, ond nid yw eto’n glir pa mor effeithiol ydyn nhw
Yn ein harolwg 2022, gwelsom fod y llu’n brin o lywodraethiant ymroddedig a strwythuredig ag iddo ffocws ar gyfer diogelu pobl agored i niwed. Roedd hon yn faes ar gyfer gwella i Heddlu Gwent.
Mae strategaeth pobl agored i niwed y llu’n cadarnhau ei ymrwymiad i wella ei ddiwylliant a’i ymateb gweithrediadol i ddiogelu pobl agored i niwed, yn cynnwys gwella arweiniad, gallu a chapasiti. Mae traciwr Cynllun Gweithredu Pobl Agored i Niwed Cenedlaethol yn adnabod yr amcanion gwella a phwy sy’n gyfrifol am gynnydd. Mae swyddogion a staff yn diweddaru camau gweithredu’n rheolaidd ac mae’n glir pwy sy’n gyfrifol amdanyn nhw.
Mae gan y llu hefyd fwrdd ymroddedig i fenywod a merched agored i niwed a thrais yn eu herbyn. Gall y rhai sy’n mynychu symud unrhyw bryderon am effeithiolrwydd perfformiad y llu yn y maes hwn i fyny at y bwrdd effeithiolrwydd gweithrediadol.
Mae’r llu wedi symud ymlaen o ran sefydlu fframwaith llywodraethiant ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd. Mae’r ‘Cynllun Darparu ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched 2021–24’ yn rhestru 24 o amcanion gwella gydag arweinydd strategol. Mae’r cynllun yn rhoi sgôr coch, oren neu wyrdd i bob amcan i ddynodi ei gynnydd hyd yn hyn. Ond gwelsom nad oedd y llu wedi diweddaru’r cynllun ers 2023.
Mae angen i Heddlu Gwent gynnal y momentwm ar gyfer ei gynlluniau er mwyn sicrhau eu bod yn hyrwyddo gwelliannau clir.
Mae gan y llu lywodraethiant priodol ar gyfer rheoli’r galw am gynhadledd asesu risg amlasiantaeth, ond mae angen gwella ei brosesau sicrhau ansawdd
Yn ein harchwiliad yn 2022, gwelsom nad oedd y llu bob amser yn rheoli ei alw am gynhadledd asesu risg amlasiantaethol (MARAC) bob amser. Roedd hwn yn un maes i’r llu ei wella.
Aethom ati i ymchwilio’r mater hwn eto yn ystod yr ymchwiliad hwn. Mae’r llu’n cydweithio ag asiantaethau statudol a gwirfoddol i gynnal gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig risg uchel drwy ei grwpiau llywio camdriniaeth ddomestig a MARAC. Mae protocol gweithredu a chynllun gweithredu MARAC yn darparu strwythur ar gyfer gwaith gwella. Yn goruchwylio MARAC mae’r bwrdd diogelu rhanbarthol, y bwrdd comisiynu adolygiadau dynladdiad domestig, a’r cynllun darparu ar gyfer trais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
Mae’r llu wedi creu swyddi cadeirydd MARAC ymroddedig, gan ddefnyddio cyllid tasgio a chydgysylltu amlasiantaethol (MATAC). Gwelsom fod y gwaith o wneud penderfyniadau MARAC yn gadarn, yn adnabod risgiau i ddioddefwyr yn effeithiol ac yn cyfrannu at gynllunio diogelwch a rheoli troseddwyr.
Ond mae angen i’r llu sicrhau bod ei sicrhad ansawdd o MARAC wedi ei seilio ar ddata. Er ei fod yn archwilio MARAC bob mis, mae’r rhesymeg am ddewis themâu, er enghraifft troseddu yn erbyn pobl hŷn, yn digwydd ar hap ac nid yw wedi ei seilio ar gwestiynu’r data. Mae Cynllun Gweithredu MARAC 2024 y llu yn esbonio nad oes gan weinyddwyr MARAC y gallu i gadw trac ar gynnydd camau gweithredu cynllunio diogelwch. Yn ogystal, mae grŵp archwilio MARAC yn adolygu dogfennaeth, fel adroddiadau a chofnodion, ond nid yw’n arsylwi cyfarfodydd.
Mae hyn yn cyfyngu ar oruchwyliaeth y llu o ba mor effeithiol y mae MARAC yn gostwng y risg i ddioddefwyr agored i niwed.
Mae gan y llu brosesau i reoli’r tebygolrwydd y bydd y troseddwyr camdriniaeth ddomestig mwyaf toreithiog yn troseddu, ond dylai wneud mwy i ddeall pa mor effeithiol ydyw mewn atal achosion ailadroddus o gam-drin domestig
Yn Hydref 2024, dechreuodd y llu ddefnyddio Prosiect CARA. Mae hyn yn caniatáu iddo gynnig rhybuddion i droseddwyr camdriniaeth ddomestig ar yr amod eu bod yn mynd i weithdai i’w helpu nhw i newid eu hymddygiad er gwell. Mae hyn yn rhoi mwy o opsiynau i’r llu ostwng troseddu ailadroddus ac yn diogelu’r dioddefwyr. Bydd angen i’r llu werthuso dros amser beth yw effaith yr ymyriad hwn ar ddioddefaint dro ar ôl tro neu fwy difrifol.
Mae Heddlu Gwent yn defnyddio’r broses MATAC i weithio gydag asiantaethau partner i reoli a gostwng y tebygolrwydd y bydd troseddwyr camdriniaeth ddomestig sy’n troseddu’n aml yn achosi rhagor o niwed, neu niwed mwy difrifol i ddioddefwyr. Mae’r asiantaethau partner hyn yn cynnwys prawf, trefniadau diogelu’r cyhoedd amlasiantaethol (MAPPA) a Phrosiect Rheoli Troseddwyr Difrifol a Pheryglus Integredig Cymru (WISDOM). Mae’r llu hefyd yn defnyddio matrics i edych ar amlder troseddu, pa mor ddiweddar y troseddwyd a pha mor ddifrifol yw’r troseddau (RFG) i ddod o hyd i’r troseddwyr sydd fwyaf tebygol o ail droseddu o ddata a gwybodaeth y mae’r llu yn eu dal. Gwelsom fod y matrics yn cael ei ddefnyddio i friffio timau plismona lleol i dorri ar draws ymddygiad troseddol.
Fodd bynnag, nid yw’r llu’n gallu defnyddio’r wybodaeth o’i systemau cofnodi digwyddiadau a throsedd neu reolaeth a galw yn hawdd i adnabod neu gynhyrchu adroddiadau sy’n dangos faint o droseddau camdriniaeth ddomestig ailadroddus y mae’n eu cofnodi. Mae hyn yn golygu na all y llu ddeall nac adeiladu ar hyder y cyhoedd o ran pa mor ddiogel y maen nhw’n teimlo am ei effeithiolrwydd i atal troseddu dro ar ôl tro.
Mae angen i’r llu wella sut mae’n monitro troseddu ailadroddus i ddeall pa mor effeithiol yw ei ymdrechion i ymdrin â’r mater hwn.
Angen gwella
Rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol o ran rheoli troseddwyr a phobl dan amheuaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddwyr a phobl dan amheuaeth.
Mae gan y llu drefniadau arweiniad ac adnoddau effeithiol ar gyfer rheolaeth hyd oes ar droseddwyr rhyw a throseddwyr ymosodgar
Mae uwcharolygydd ymroddedig yn arwain rheolaeth ar droseddwyr rhyw a throseddwyr ymosodgar (MOSOVO) y llu. Mae gan y timau hyn lywodraethiant glir ar berfformiad o fewn yr uned diogelu’r cyhoedd. Mae dogfennau perfformiad yn cefnogi’r llywodraethiant hwn. Maen nhw’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am lwythi gwaith, cydymffurfiad ag amseriadau disgwyliedig ar gyfer troseddwyr sy’n ymweld, a gorfodi torri amodau trwydded.
Mae’r timau bron â bod wedi eu staffio’n llawn a’u hyfforddi, ac mae ganddynt lwythi gwaith y gellir eu rheoli. Dywedodd y llu wrthym bod 60 i 64 o droseddwyr wedi eu dyrannu i bob rheolwr troseddu; cymhareb y mae’n rhagweld y bydd yn gostwng gyda’r recriwtiad staff newydd sydd wedi’i gynllunio. Dylai’r llu barhau i fonitro dyraniad achosion. Mae’n gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol o ran rheoli risgiau y mae troseddwyr yn eu creu. A hefyd, i’w sicrhau ei hun am lesiant rheolwyr troseddu.
Mae’r llu’n cydymffurfio â safonau disgwyliedig rheoli troseddwyr
Mae Heddlu Gwent yn cydymffurfio â’r arferion proffesiynol awdurdodedig (APP) ar gyfer rheolaeth adweithiol troseddwyr. Hefyd, gwelsom fod ymweliadau’r llu â throseddwyr yn ymweliadau heb eu cyhoeddi a bod o leiaf dau aelod o staff yn eu gwneud nhw. Mae hyn yn werthfawr o ran sicrhau bod y rheolwyr troseddwyr yn gallu gweithio’n ddiogel a bod eu hymweliadau’n effeithiol. Mae’r timau hefyd yn cydweithredu â thîm ymchwilio ar-lein yr heddlu (POLIT) i sicrhau bod ymweliadau’n amserol.
Mae’r llu’n defnyddio’r system rheoli risgiau gweithredol (ARMS) i asesu tebygolrwydd pob troseddwr o achosi niwed. Mae’n cwblhau asesiadau bob 12 mis neu’n gynharach os gallai newid sylweddol mewn amgylchiadau troseddwyr effeithio ar y risg maen nhw’n ei achosi. Gwelsom fod 23 o asesiadau a 43 o ymweliadau â throseddwyr yn hwyr yn cael eu gwneud. Nid oedd unrhyw rai o’r rhain yn hwyr iawn, ond mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn gwneud asesiadau risg yn brydlon.
Mae gan y llu dimau gydag adnoddau da sydd wedi eu hyfforddi’n dda i ymdrin â throseddau rhyw ar-lein yn erbyn plant a’r risg a achosir gan droseddwyr rhyw cofrestredig
Gwelsom fod y POLIT wedi’i staffio’n llawn bron iawn, gyda lefelau isel o absenoldeb salwch a llwythi achos y gellir ymdopi â nhw. Mae’r llu’n cynnig sgrinio llesiant seicolegol blynyddol i’r holl staff POLIT a MOSOVO staff. Mae hyn yn lliniaru effeithiau eu hymwneud tymor hir â throseddwyr risg uchel a deunydd niweidiol ar-lein.
Gwelsom fod y llu’n hyfforddi staff POLIT i asesu’r risg o ymddygiad troseddol yn fanwl gywir, gan ddefnyddio offeryn asesu risg rhyngrwyd Caint (KIRAT). Yn ogystal, mae gan POLIT ymchwilwyr cyfryngau digidol ymroddedig wedi’u hyfforddi i helpu swyddogion i archwilio dyfeisiau a ganfuwyd yn ystod gweithrediad gwarantau. Gall ymchwilwyr cyfryngau digidol ddefnyddio meddalwedd fforensig digidol lefel uwch pan fydd chwiliadau’n digwydd i archwilio dyfeisiau. Mae hyn yn lleihau’r angen am atafaelu a thynnu offer yn gorfforol, sy’n gallu cymryd amser. Dywedodd y llu wrthym nad oes fawr ddim ceisiadau am archwilio dyfeisiau’n fwy manwl sydd ar ei hôl hi gan yr uned fforensig; sy’n golygu y gall ymchwilio achosion yn gyflymach.
Mae timau MOSOVO wedi eu hyfforddi i ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg sydd ar gael iddynt i fonitro gweithredoedd troseddwyr rhyw ac i ymchwilio i droseddau posibl a gyflawnwyd ganddynt. Mae staff MOSOVO ac ymchwilwyr cyfryngau digidol yn archwilio dyfeisiau personol troseddwyr yn gyflym gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol. Mae’r dechnoleg hon yn ei gwneud yn gyflymach a haws i chwilio am weithgareddau meithrin perthynas amhriodol neu gynnwys niweidiol a gweithredu os byddent yn dod o hyd i hynny.
Pan mae troseddwyr yn cael eu cyhuddo o droseddau rhyw perthnasol, mae’r tîm MOSOVO yn gwneud cais am Orchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO). Mae hyn yn gwahardd gallu troseddwyr i gyflawni rhagor o ymddygiad niweidiol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd y llu wedi gwneud cais llwyddiannus am 71 SHPO gyda 32 achos wedi’u cofnodi o dorri gorchmynion. Mae hyn yn gynnydd o’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, pan oedd 59 o SHPO wedi eu cyhoeddi a 23 wedi eu torri.
Yn ogystal, ym mis Hydref 2024, dywedodd y llu wrthym bod yr holl achosion o dorri trwydded troseddwyr yn cael eu cofnodi fel troseddau. Dywedodd y llu wrthym fod 93 y cant o’r achosion o dorri rheolau wedi diweddu gyda dwyn troseddwr i gyfiawnder. Felly, mae’r llu’n adnabod ac ymdrin yn effeithiol â throseddwyr sy’n methu cydymffurfio â’r amodau a roddir arnynt.
Mae hyn yn galonogol ac yn awgrymu bod y llu’n rheoli ymddygiad y troseddwyr hyn yn effeithiol.
Mae’r llu’n defnyddio amrywiaeth o feddalwedd i ymchwilio camdriniaeth plant ar-lein
Mae staffio mewn POLIT yn cynnwys swyddog adnabod dioddefwr sy’n uwchlwytho delweddau i’r Gronfa Ddata Lluniau Cam-drin Plant (CAID). Mae hyn yn helpu’r llu i adnabod a diogelu dioddefwyr. Ac mae’n caniatáu i’r llu annog dioddefwyr i gefnogi ymchwiliadau os yw hynny’n briodol. Yn ogystal, mae staff POLIT wedi cael eu hyfforddi i raddio difrifoldeb delweddau a ganfuwyd ar ddyfeisiau, i helpu ymchwiliad llwyddiannus troseddau.
Mae’r llu’n asesu’n brydlon y risgiau y mae troseddwyr rhyw ar-lein yn eu hachosi, mae’n cymryd camau gorfodi priodol, ac mae’n cynnal diogelu parhaus
Mae staff POLIT yn gwneud asesiadau risg KIRAT yn brydlon gyda throseddwyr sy’n cael gafael ar ddelweddau amhriodol o blant. Mae hyn yn caniatáu iddynt gymryd camau gorfodi, fel arestiadau a gwarantau chwilio, ar y cyfle priodol cyntaf. Gwelsom fod gweithredu gorfodi wedi digwydd o fewn yr amseriadau disgwyliedig ar gyfer y lefel risg a gyflwynwyd ar gyfer pob achos a archwiliwyd gennym. Mae hyn yn lleihau’r cyfle i bobl a ddrwgdybir gyflawni troseddau pellach neu droseddau mwy difrifol.
Hefyd gwelsom fod y llu’n rhoi gwybod i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol plant heb oedi pan mae’n canfod plant sy’n gysylltiedig â throseddwyr. Felly, roedd hi’n bosibl gwneud gwaith cynllunio diogelwch a rhannu gwybodaeth ar y cyfle cynharaf.
Unwaith y cymerir cam gweithredu yn erbyn troseddwyr a ddrwgdybir, mae swyddogion POLIT yn rhoi rhybuddion hysbysu ar system gorchymyn a rheoli’r llu a’r system cofnodi troseddau a digwyddiadau. Felly os bydd pobl a ddrwgdybir yn cymryd rhan mewn digwyddiadau dilynol, gall POLIT ddeall a yw risgiau a achosir ganddynt neu iddynt, o’u camau gweithredu eu hunain neu weithredoedd pobl eraill, wedi newid. Yna gallant gymryd camau priodol.
Mae’r llu’n monitro ac yn blaenoriaethu arestiad troseddwyr a ddrwgdybir, ond mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod ganddynt yr adnoddau i wneud hynny’n gyson
Yn ein hasesiad gwasanaeth y dioddefwr, gwelsom fod 18 allan o 20 o arestiadau wedi eu gwneud ar y cyfle priodol cynharaf. Gwelsom fod cyfarfodydd rheoli dyddiol ar lefel leol a lefel y llu yn monitro a blaenoriaethu arestiad drwgdybwyr ar sail y risgiau maen nhw’n eu hachosi i’r cyhoedd. Lle byddant ar gael, mae’r llu’n dyrannu swyddogion o dimau rheoli troseddwyr a rhagweithiol arbenigol i wneud arestiadau.
Fodd bynnag, dywedodd swyddogion ymateb wrthym nad oes ganddynt ddigon o staff ar ddyletswydd yn aml iawn i arestio pobl a ddrwgdybir y gofynnir iddynt eu cadw yn y ddalfa. Mae cyfarfodydd perfformiad lleol yn monitro ymchwiliadau y mae angen eu symud ymlaen. Ond gwelsom nifer o droseddau, yn cynnwys camdriniaeth ddomestig a throseddau treisgar, oedd heb gael eu diweddaru’n ystyrlon ers wythnosau neu fisoedd. Doedden nhw ddim chwaith yn cynnwys manylion ceisiadau i arestio neu gynlluniau wedi’u dogfennu i arestio neu ddosbarthu manylion y person a ddrwgdybid fel rhywun yr oeddent eisiau cael hyd iddynt ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC).
Digonol
Adeiladu, cefnogi ac amddiffyn y gweithlu
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol o ran adeiladu, cefnogi a diogelu’r gweithlu.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn datblygu, yn cefnogi ac yn diogelu ei weithlu.
Mae gwasanaeth iechyd galwedigaethol y llu’n darparu cymorth ac ymyriadau priodol
Mae gan Heddlu Gwent strategaeth llesiant a chynllun darparu ac mae’n gweithio tuag at alinio ei ddarpariaeth gyda’r arferion gorau a argymhellwyd gan Oscar Kilo yn ei Fframwaith Lles y Golau Glas. Mae’r llu hefyd wedi cyflawni’r safonau sylfaen iechyd galwedigaethol.
Mae’r llu’n darparu ymateb prydlon fwy a mwy i anghenion llesiant ei weithlu. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2024, yr amser ar gyfer cael apwyntiad iechyd galwedigaethol yn dilyn atgyfeiriad oedd 2.3 diwrnod ar gyfartaledd. Mae hyn yn welliant o’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, pan oedd yr amser aros yn 8.1 diwrnod.
Nododd Heddlu Gwent bod angen iddo wella cymorth a chefnogaeth i gyflogeion oedd yn gadael y llu a’u teuluoedd, yn rhan o’r cyflwyniad i Gyfamod yr Heddlu. Comisiynodd y llu ofal iechyd preifat optio i mewn a chynnwys teuluoedd y gweithwyr yn ei gwmpas. Hefyd, ymestynnodd y llu ei ddarpariaeth absenoldeb maethu a gofalwyr. Cyfrannodd y gwaith hwn at lwyddiant y llu i ennill Gwobr Cyfamod yr Heddlu yng Ngwobrau Cenedlaethol Llesiant yr Heddlu yn 2024.
Mae’r llu’n darparu amrywiaeth dda o fesurau ataliol a chefnogol, yn cynnwys cymorth i swyddogion a staff sydd wedi wynebu trawma
Mae’r llu’n defnyddio rhaglen fonitro seicolegol Oscar Kilo i swyddogion a staff mewn rolau a aseswyd yn rhai sydd â’r risg uchaf o gael effaith seicolegol.
Mae gan y llu lysgenhadon llesiant ymhob adran a dywedodd wrthym ei fod yn hyfforddi mwy o lysgenhadon i gynyddu’r ystod o gymorth. Mae hefyd yn hyfforddi staff i fod yn weithwyr cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Mae’r llu hefyd wedi defnyddio watsys darllen bio-straen i roi adborth ar lefelau straen a phatrymau cysgu staff yr ystafell reoli. Mae’r llu’n gwerthuso ei ddysgu o’r treial hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r llu’n trosi canlyniadau’r fenter hon yn waith gwella llesiant.
Mae gan y llu hefyd gynlluniau i ddarparu rhaglen y gampfa, gwiriadau pwysedd gwaed a sesiynau ymwybyddiaeth am alcohol i swyddogion a staff.
Mae’r asesiadau Operation Hamphsire a rheoli risgiau trawma (TRiM) a ddefnyddir i gefnogi swyddogion, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr yr ymosodwyd arnynt neu a wynebodd ddigwyddiadau trawmatig wedi eu sefydlu’n dda. Gwelsom fod y llu’n nodi cyfleoedd i gynnig cymorth Operation Hamphsire a/neu TRiM mewn cyfarfodydd rheolwyr dyddiol.
Mae’r llu’n helpu goruchwylwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau i gefnogi staff sydd wedi anafu neu sy’n sal. Mae’n rhoi hyfforddiant yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Arweinwyr Rheng Flaen, ynghyd â chwrs llesiant gorfodol i reolwyr llinell. Ond dywedodd y llu wrthym hefyd nad yw cyfarfodydd rheolwyr dyddiol a goruchwylwyr yn nodi digon o gyfleoedd i wneud asesiadau TRiM. Nid yw’r staff chwaith yn gofyn amdanynt pan fo raid. Os na all swyddogion a staff gyrchu cyfleoedd i gael cymorth, gallent ddioddef effeithiau salwch hirsefydlog. Dylai’r llu sicrhau ei fod bob amser yn cynnig cymorth trawma i’r rhai a allai elwa.
Mae angen i’r llu hefyd sicrhau ei fod yn deall y ffactorau sy’n cyfrannu at ymosodiadau ar swyddogion a’i fod yn gwneud gwaith ataliol neu hyfforddiant. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd 31 y cant o’r ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu’n cynnwys anaf. Roed hyn 6 phwynt canran yn uwch na chyfartaledd y 42 llu yng Nghymru a Lloer y mae gennym ddata ar eu cyfer.
Mae’r llu’n hyfforddi ac yn grymuso ei weithlu a’i arweinwyr i greu gweithle moesegol a chynhwysol
Yn ein harolwg o’r gweithlu PEEL, cytunodd 91.2 y cant (516 o 566 o ymatebwyr) bod eu rheolwr llinell yn creu amgylchedd gwaith moesegol. A chytunodd 93.1 y cant (527 o 566 o ymatebwyr) bod eu rheolwr llinell yn herio ymddygiad gwahaniaethol.
Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi ymrwymo i hyfforddiant peilot y Coleg Plismona – Arwain Timau Cynhwysol. Mae’r hyfforddiant yn edrych ar herio casineb at ferched, rhywiaeth a hiliaeth. Mae’r llu’n disgwyl i’r staff i gyd gwblhau e-ddysgu gorfodol i roi dealltwriaeth gadarn iddyn nhw o ddeddfwriaeth gydraddoldeb berthnasol. Clywsom hefyd bod mwy na 1,500 o swyddogion a staff wedi mynychu No Boundaries, sef hyfforddiant gwrth-hiliaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol. Yn ogystal, mae’r llu’n gweithio i wella diwylliant y gweithlu drwy ei ymgyrchoedd Step Up, Step In, a Set the Tone, sy’n amcannu i roi’r sgiliau i staff i herio aflonyddu rhywiol.
Mae’r llu’n gweithio i ddeall a chefnogi profiad recriwtiaid newydd, ac i’w hannog i aros
Mae gan y llu fap ffordd cadwraetth 7a sy’n amlinellu ei ddull o gadw swyddogion sy’n fyfyrwyr, sef y dull o annog a mentora, hyfforddi, a gwobrwyo a chydnabyddiaeth. Mae’r llu’n arolygu swyddogion sy’n fyfyrwyr er mwyn cael adborth am eu profiad. Mae’n cyflwyno’r adborth i fyrddau llywodraethu.
I gefnogi swyddogion sy’n fyfyrwyr, mae’r uned datblygiad proffesiynol yn gwneud gwiriadau rheolaidd gyda swyddogion yn ystod eu cyfnod gweithrediadol o ddeg wythnos cyntaf, Mae’r gweithgor cefnogi myfyrwyr yn cwrdd yn fisol ac yn cynnwys timau hwb lles, gweithredu cadarnhaol a chwnstabl-diwtor. Mae’r grŵp yn cyfarfod i gytuno ar gymorth i swyddogion newydd eu penodi a’i roi ar waith.
Er gwaethaf hyn, nid yw pob rhingyll y buom yn siarad â nhw’n wybodus am gyfweliadau aros, a ddylai ddigwydd pan fydd aelodau o’r gweithlu’n dangos eu bod yn ystyried gadael. Dywedodd y llu wrthym bod y mwyafrif o swyddogion a gymerodd ran mewn cyfweliadau aros gyda staff adnoddau dynol a chadeiryddion rhwydwaith cymorth yn dewis aros gyda’r llu.
Mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod ymdrechion y llu i gefnogi myfyrwyr yn llwyddiannus. Yn ein harolwg y gweithlu PEEL, rydym wedi cynnwys cwestiynau penodol i recriwtiaid newydd. O’r ymatebwyr newydd eu recriwtio, cytunodd 76.7 y cant (48 o 193) bod eu rheolwr llinell yn meithrin amgylchedd o ymddiriedaeth a hyder.
Mae’r llu’n cefnogi a chreu cyfleoedd i aelodau’r gweithlu o rai grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli ddatblygu a symud ymlaen
Mae ‘Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28’ y llu’n nodi’n glir ei fod wedi’i ymrwymo i recriwtio, cefnogi, datblygu a chadw staff o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli. Mae cynllun darparu cefnogol yn amcannu i hyrwyddo cynrychiolaeth gytbwys yn strwythur arweinyddiaeth y llu drwy fentora a chynorthwyo, gyda hyrwyddiad gan y tîm gweithredu cadarnhaol.
Mae gan y llu rwydweithiau cymorth staff gweithredol y mae gan y rhan fwyaf ohonynt brif swyddog ymroddedig i gynrychioli eu mewnwelediadau yn y rhengoedd uwch.
Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi cyrraedd statws Arweinydd Hyderus am Anabledd, felly gall staff a swyddogion gydag anabledd fod yn hyderus y byddant yn cael eu cefnogi pan fo’r angen. Mae’r llu hefyd wedi cynnal grwpiau ffocws a gweithdai gydag aelodau benywaidd o’r gweithlu er mwyn deall y rhwystrau i’w cynnydd. Mae esiamplau ymarferol o gymorth wedi cynnwys merched mewn digwyddiadau plismona, cyfweliadau ffug a gweithdai gyda rhwydweithiau cefnogi staff. Mae’r llu’n defnyddio’r rhain i ddeall a herio rhwystrau yn y gweithle i swyddogion a staff benywaidd. Yn ogystal, mae gan y llu raglen datblygu talent beilot fewnol o’r enw Evolution. Yn ei charfan gyntaf, roedd 9 allan o’r 11 aelod o staff a gymerodd ran yn fenywaidd. Mae’r llu hefyd yn cefnogi’r rhaglen datblygu aweinyddiaeth Aspire.
Mae’r llu wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu’r gyfran o swyddogion benywaidd drwy brosesau dyrchafu. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd 37.4 y cant o swyddogion Heddlu Gwent yn fenywaidd, o’i gymharu â’r boblogaeth leol o 50.8 y cant, ar sail cyfrifiad poblogaeth 2021. Yn yr un cyfnod, roedd swyddogion benywaidd yn cyfrif am 47.3 y cant o ddyrchafiadau.
Ond mae’r llu’n cydnabod bod angen iddo wneud rhagor i ddarganfod rhwystrau ar gyfer grwpiau eraill sydd wedi eu tangynrychioli. Mae’r llu’n parhau i weithredu’r rhaglen Cyfresi Dysgu Gweithredu Proffesiynol (PALS) sy’n cefnogi datblygiad staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Fodd bynnag, mae PALS wedi bod yn brin o unrhyw ganlyniadau arwyddocaol. Dim ond un aelod o staff a gefnogwyd gan y rhaglen sydd wedi cael ei ddyrchafu’n llwyddiannus. Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi cydnabod hyn a’i fod yn llunio ei raglen ei hun ar lun PALS.
Digonol
Arweinyddiaeth a rheoli’r llu
Mae arweinyddiaeth a rheoli Heddlu Gwent angen gwella.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth a rheoli.
Mae gan y llu brosesau rheoli perfformiad a llywodraethu effeithiol
Mae gan y llu brosesau rheoli perfformiad a llywodraethu effeithiol, gyda defnydd cynyddol o ddata a dadansoddiad. Mae’n defnyddio data am berfformiad yn aml i helpu i wneud penderfyniadau ac mae’n cynhyrchu pecynnau perfformiad misol ar gyfer byrddau llywodraethu’r llu. Mae’n aml yn defnyddio data mewn cyfarfodydd, fel cyfarfodydd Pacesetter sy’n darparu rheolaeth effeithiol ar y galw dyddiol ac ar osod blaenoriaethau.
Mae proses datganiad rheoli llu effeithiol ar waith. Mae hwn yn rhoi rôl integrol i’r ddogfen yng nghylch cynllunio’r llu. Mae datganiad rheoli’r llu’n fanwl ac mae’n gwneud defnydd da o’r data sydd ar gael er mwyn caniatáu i’r llu ddeall y galw cyfredol a galw’r dyfodol. Mae hyn yn helpu’r llu i dargedu ei adnoddau tuag at gwrdd â’i flaenoriaethau.
Mae’r llu’n dangos gwell cynllunio strategol. Mae Cynllun strategol newydd ar Dudalen. Mae hwn wedi’i gefnogi gan ragor o gynlluniau tactegol ar gyfer pob maes o weithrediadau. Er gwaethaf hynny, gwelsom nad yw penderfyniadau cynllunio’r gweithlu bob amser yn lliniaru canlyniadau eu gweithrediad. Er enghraifft, gwelsom ddiffyg swyddogion ymateb hyfforddedig oedd yn gofyn bod timau plismona’r gymdogaeth yn darparu staff dros dro. Yna roedd hyn wedyn yn effeithio ar gapasiti’r timau hyn.
Dylai’r llu wneud yn siŵr bod sgiliau’r gweithlu wedi eu dosbarthu’n gyfartal cyn belled ag y bo modd er mwyn ateb y galw’n effeithiol
Dywedodd Heddlu Gwent wrthym eu bod yn gwneud archwiliad sgiliau i alinio sgiliau ei staff â’r model gweithredu newydd ac ateb y galw’n effeithiol. Dywedodd y llu wrthym bod eu system rheoli adnoddau’n defnyddio technoleg sydd wedi mynd yn hen ffasiwn. Mae hyn yn cyfyngu ar ddealltwriaeth lawn o alluoedd ei weithlu.
Gwelsom esiamplau o’r diffyg dealltwriaeth hwn. Er enghraifft, clywsom gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi i ymateb a swyddogion gyda sgiliau arbenigol, fel tactegau mynd i mewn i dai neu ddefnyddio dyfeisiau dargludo ynni, eu bod yn cael eu symud yn rheolaidd o’u rolau i helpu adrannau eraill.
Dylai’r llu sicrhau ei fod yn deall sgiliau’r gweithlu a sut y gall eu defnyddio nhw’n effeithiol i ateb y galw.
Mae arweinwyr uwch yn ymroddedig i wella eu gwelededd i’r gweithlu ac mae’r llu’n buddsoddi mewn gwella sgiliau ei arweinyddiaeth
Mae tîm y prif swyddog wedi mynd trwy flwyddyn o newid, gyda nifer sylweddol o swyddi uwch wedi eu llenwi ar sail dros dro am gyfnodau hir. Mae’r llu’n gwella gwelededd ac eglurder ei negeseuon i’r gweithlu. Ac mae uwch arweinwyr yn ceisio deall barn a sylwadau swyddogion a staff.
Mae’r prif gwnstabl yn mynychu sioeau teithiol yn rheolaidd i ganfod sylwadau ac i roi gwybod am flaenoriaethau a chynlluniau. Mae aelodau tîm y prif swyddog yn gwneud shifftiau cysgodi’n rheolaidd gyda swyddogion a staff. Dywedodd y llu wrthym ei fod yn defnyddio ei gyfarfod Mewnweledigaeth yr Arweinyddiaeth i ystyried sut i wella prosesau gwaith sydd wedi eu seilio ar adborth gan y gweithlu o’r shifftiau cysgodi hyn. Ond soniodd rhai swyddogion a staff y buom yn siarad â nhw am ddiffyg gwelededd yr arweinwyr strategol a gweithrediadol uwch.
Mae gan y llu raglen wedi’i datblygu’n dda i ddatblygu sgiliau a hyder ei arweinwyr rheng flaen, ond mae’n dal i fod yn brin o allu a phrofiad ar lefel y rhingyllod. Mae Heddlu Gwent yn nodi ac yn dyrannu opsiynau datblygiad arweinwyr drwy ei broses adolygu datblygiad personol. Mae’r llu wedi mabwysiadu fframwaith arweinyddiaeth y Coleg Plismona sydd wedi cael croeso gan y staff. Mae arolygwyr a rhingyllod newydd eu dyrchafu’n derbyn hyfforddiant arweinyddiaeth rheng flaen a rheng ganol. Ac mae’r llu wedi hyfforddi’r holl uwcharolygwyr fel mentoriaid i gefnogi cyd arweinwyr a’r rhai sydd eisiau bod yn arweinwyr.
Roedd canlyniadau ein harolwg PEEL o’r gweithlu’n dangos hyn: o’r staff oedd â chyfrifoldebau rheolwr llinell, roedd 74.2 y cant (124 o’r 167 o ymatebwyr) yn teimlo bod y llu wedi eu hyfforddi nhw ddigon i wneud eu rôl. Ond dim ond 21.4 y cant (40 o 166 o ymatebwyr) ddywedodd wrthym bod canllawiau goruchwylio effeithiol y Coleg Plismona wedi cael eu rhannu gyda nhw. Dylai’r llu sicrhau bod goruchwylwyr yn ymwybodol o’r egwyddorion a’r arferion arweinyddiaeth gorau.
Mae’r llu’n gwella cynhyrchiant drwy ddata, technoleg a chydweithio
Mae’r llu’n cydweithio’n effeithiol â Heddlu De Cymru drwy rannu cost rhai swyddogaethau. Mae’r rhain yn cynnwys arfau tân, gwasanaethau cyfreithiol ar y cyd, TG, gwasanaethau gwyddonol a chaffael. Mae ffocws penodol ar fuddsoddi mewn technoleg fwy newydd. Mae gan y llu hefyd swyddog budd-daliadau lleol sy’n adolygu effeithiolrwydd rhaglenni lleol.
Mae’r llu’n adolygu ei alluoedd TG ac mae’n gweithio i wneud rhai prosesau a rhaglenni’n fwy effeithlon. Mae’r llu’n dibynnu ar QlikView a Power BI tra bo’n datblygu ei brosiect dadansoddeg data ar y cyd. Ond nid yw ei systemau’n effeithiol ac effeithlon. Er enghraifft, dywedodd y llu wrthym bod y prosesau sy’n tynnu gwybodaeth o Siop Ddata Fyd-eang y llu’n gallu methu am nad yw’r rhwydwaith yn ddigon cyflym. Er bod Heddlu Gwent yn gweithio ar rwydwaith newydd, nid yw swyddogion a staff yn gallu cael mynediad cyflym bob amser at y system rheoli a gorchymyn mwyaf cyfredol a’r data cofnodi troseddau a digwyddiadau.
Yn galonogol, mae’r llu’n cydnabod ei fod yn brin o ddata cronnus hawdd ei gyrchu o’i systemau adnoddau dynol a rheoli adnoddau, troseddau, gorchymyn a rheolaeth. Mae’r llu wedi cychwyn ar raglen ddadansoddi data ar y cyd gyda Heddlu De Cymru, gan ddefnyddio cyflenwr allanol. Mae’r llu’n disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gwblhau rhwng Ebrill a Medi 2025.
Edrychwn ymlaen at fanteision y cydweithio hwn i ddealltwriaeth y llu o’i alw a’i sgiliau.
Yn ogystal, dywedodd y llu wrthym y dylai ei Raglen Effeithiolrwydd Prosesau weithredu rhai tasgau ailadroddus yn awtomatig gyda data rheoli o’i system gorchymyn a rheoli (Storm) a’i system gofnodi data a digwyddiadau (Niche). Bydd y Rhaglen Gwasanaethau’r Dioddefwr yn rhoi’r diweddaraf i ddioddefwyr troseddau am hynt yr ymchwiliadau ar ran y llu.
Mae’r rhaglenni hyn yn dal i fod ar y cam datblygu ond maen nhw’n esiampl galonogol o waith y llu i wella pa mor effeithiol y mae’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd.
Mae cynlluniau ariannol yn gynaliadwy yn y tymor byr, ond nid yw’r llu wedi ymdrin eto â phwysau tymor hir
Mae’r llu’n dangos rheolaeth ariannol effeithiol drwy wneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ganddo ar gael. Mae wedi’i alinio â Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ac mae gan uwch arweinwyr fynediad at gyrsiau ymwybyddiaeth ariannol. Mae gan y llu oruchwyliaeth ariannol dda dros y gwariant. Yn ystod cyfarfodydd a’r byrddau, mae’r tîm cyllid yn herio gofynion ariannu’n rheolaidd. Mae hyn yn gwneud uwch arweinwyr yn ymwybodol o gyfyngiadau cyllidebol fel eu bod yn eu hystyried nhw mewn perthynas â chynlluniau strategol a busnes.
Yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, derbyniodd y llu gyfanswm o £173 miliwn mewn cyllid. Roedd hyn yn cynnwys £68 miliwn (39.1 y cant) o ariannu llywodraeth ganolog, £26 miliwn (15.0 y cant) gan grant yr heddlu a £79 miliwn o’r praesept (45.7 y cant).
Mae’r rhagolygon ariannol o fewn y cynllun ariannol canol tymor wedi eu seilio ar dybiaethau realistig am wariant a chyllid y dyfodol. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, roedd y llu’n rhagweld i gychwyn y byddai diffyg o £4.62 miliwn cyn cyllideb a setliad. Dywedodd y llu wrthym bod hyn yn awr yn £1.68 miliwn, am fod Setliad yr Heddlu’n darparu lefel uwch o gyllid na’r disgwyl. Mae modd rheoli hyn drwy wariant doeth. Mae’r dull pum mlynedd yn llai hyderus. Mae’r cynllun yn dangos nad yw cyllidebau refeniw 2024/25 a 2025/25 yn gytbwys. Bydd angen i’r llu ddod o hyd i arbedion pellach i dalu’r diffyg ariannol a ragwelir o £4.4 miliwn yn 2027/28 fel y mae yn y cynllun ariannol.
Yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, lefelau’r cronfeydd wrth gefn defnyddadwy oedd £29.8 miliwn. Dywedodd y llu wrthym y bydd hyn yn gostwng i £21.2 miliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 a rhagwelir y bydd yn gostwng ymhellach, ac nid yw hynny’n gynaliadwy yn y tymor hwy. Dywedodd y llu wrthym hefyd eu bod yn cymryd £7 miliwn o’i gyllideb refeniw i ariannu gwariant hanfodol. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, efallai y bydd yn anodd cyflawni lefelau uwch o arian wrth gefn. Gallai hyn effeithio ar y darlun ariannol tymor hwy am mai yr unig ffordd o sicrhau cyllido pellach yw drwy fenthyg.
Angen gwella
Am y data
SYLWCH: Mae’r holl ddolenni yn y deilsen hon yn mynd â chi i dudalen Saesneg, defnyddiwch y botwm Cymraeg ar frig y dudalen ar y chwith i gyfieithu’r dudalen i’r Gymraeg.
Data in this report comes from a range of sources, including:
- the Home Office;
- the Office for National Statistics;
- our inspection fieldwork; and
- data we collected from the 43 territorial police forces in England and Wales.
For any charts and tables included in this report, we have listed the data source underneath.
Methodology
Data that we collect from police forces
We collect data from police forces twice a year. We agreed the design and schedule of this data collection with forces and other interested parties, including the Home Office.
Our analysts check and evaluate the collected data. We contact the force if we have any initial queries. Following this, we carry out an in-depth data review and make further contact with the force if needed. This process gives forces several opportunities to quality assure and validate the information they shared to make sure it is accurate.
We then share our analysis with the force by uploading the data to online dashboards. As they can review own and other forces’ data in context, forces can identify any notable differences or other inconsistencies.
Forces considered in this report
This report presents the results from a PEEL inspection of one of the 43 territorial police forces in England and Wales. British Transport Police is outside the scope of this report.
Any aggregated totals for England and Wales exclude data from the British Transport Police, which means that the totals will differ from those published by the Home Office. If any other police forces didn’t supply data and aren’t included in the total figures, we will mention this.
Timeliness of the data
We use data that has been collected outside our PEEL inspection to support our fieldwork.
This report contains the latest data available before the start of our inspection and the data that the force gave us during our inspection. If more recent data becomes available after our inspection fieldwork and shows that the force’s performance has changed, we will comment on this.
Reporting rates per population
In this report, we sometimes present information as rates per 1,000 population in each police force area. This allows our data to be comparable across all forces. Where population data is used in our calculations, we use the latest mid-year population estimates from the Office for National Statistics.
Reporting where the force is significantly different from the average
In this report, we have included bar charts with dotted red lines to show where a force is significantly different from the average for forces in England and Wales.
The dotted lines on the bar charts show one standard deviation above and below the unweighted average of all forces. Standard deviation summarises the difference between each individual value and the average and can be used to identify extreme or rare values.
Forces that are more than one standard deviation above or below the average are considered significantly different. These forces are outside the red dotted lines on our bar charts and we have highlighted them in either a dark blue (forces above average) or light blue (forces below average) colour. Typically, 32 percent of forces will be above or below these lines for any given measure.
Reporting on police workforce survey data
We survey the police workforce throughout England and Wales to understand their experiences at work. The survey is an opportunity for the whole workforce to share their views with us. It is a valuable source of information as it isn’t possible to speak to everyone in a force during our inspection.
However, the responses we receive come from a non-statistical, voluntary sample within the workforce. The number of responses also varies between forces. This means that the results may be not representative of the workforce population.
We treat the results with caution and don’t use them to assess police forces. Instead, we use the results to establish themes that should be explored further during our inspection fieldwork. The results can also be used to give more evidence and validate information from other sources.
Victim service assessment
We carry out a victim service assessment for all forces as part of our inspection programme.
We assess the service that a force provides to victims. This is from the point of reporting a crime and throughout an investigation.
We also evaluate how forces record crimes. We assess every force on its crime recording practices at least once every three years.
Details of the technical methodology for the victim service assessment.
Stop and search audits
We carry out a stop and search audit for all forces as part of our inspection programme.
Our stop and search audits allow us to evaluate how well forces use their stop and search powers. We review how many stop and searches a force carried out under section 1 of the Police and Criminal Evidence Act 1984 or section 23 of the Misuse of Drugs Act 1971. We analyse:
- the rate of disproportionality in use of stop and search by ethnicity;
- the proportion of stop and searches that had reasonable grounds;
- the outcomes of the stop and searches that the force carried out; and
- find rates (the rates at which officers find what they are searching for in a stop and search encounter).