Crynodeb cyffredinol
Ein dyfarniadau
Asesodd ein harolygiad pa mor dda mae Heddlu Dyfed-Powys mewn naw maes plismona. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig mewn wyth o’r naw hyn fel a ganlyn:
Gwnaethom hefyd archwilio pa mor effeithiol yw gwasanaeth Heddlu Dyfed-Powys i ddioddefwyr troseddau. Nid ydym yn gwneud dyfarniad graddedig yn y maes cyffredinol hwn.
Yng ngweddill yr adroddiad hwn, rydym yn nodi ein canfyddiadau manwl ynghylch y pethau y mae’r llu’n eu gwneud yn dda a lle y dylai wella.
PEEL 2023–2025
Yn 2014, gwnaethom gyflwyno ein harolygiadau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlonrwydd yr heddlu (PEEL), sy’n asesu perfformiad pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, rydym wedi bod yn addasu ein dull yn barhaus.
Rydym wedi symud i ddull asesu parhaus, a arweinir mwy gan ddeallusrwydd, yn hytrach na’r arolygiadau PEEL blynyddol a ddefnyddiom mewn blynyddoedd blaenorol. Asesir lluoedd yn erbyn nodweddion perfformiad da, a nodir yn Fframwaith Asesu PEEL 2023–2025, ac rydym yn cysylltu ein dyfarniadau yn gliriach ag achosion pryder a meysydd i’w gwella.
Nid yw’n bosib gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y graddau a ddyfarnwyd yn yr arolygiad PEEL hwn a’r rhai o’r cylch blaenorol o arolygiadau PEEL. Mae hyn am ein bod wedi cynyddu ein ffocws ar sicrhau bod lluoedd yn cyflawni canlyniadau priodol i’r cyhoedd, ac mewn rhai achosion, rydym wedi newid yr agweddau plismona rydym yn eu harchwilio.
Y cyd-destun gweithredu i heddluoedd Cymru
Mae’n bwysig cydnabod bod lluoedd yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol i’r rhai yn Lloegr. Er nad yw plismona a chyfiawnder wedi’u datganoli i Gymru, mae gwasanaethau hanfodol megis gofal iechyd, llety, addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi. Mae hyn yn golygu bod gweithgarwch heddlu a chyfiawnder Cymru yn digwydd mewn cyd-destunau perfformiad a deddfwriaethol unigryw. Yng Nghymru, mae sefydliadau datganoledig a chyrff heb eu datganoli yn gweithio mewn partneriaeth i roi’r lefel orau bosib o wasanaeth i bobl leol. Weithiau mae hyn yn golygu bod angen i luoedd yng Nghymru gydymffurfio â gofynion rheoleiddio Cymru a Lloegr.
Terminoleg yn yr adroddiad hwn
Mae ein hadroddiadau’n cynnwys cyfeiriadau at, ymhlith pethau eraill, diffiniadau, blaenoriaethau, polisïau, systemau, cyfrifoldebau a phrosesau ‘cenedlaethol’. Mewn rhai achosion, mae ‘cenedlaethol’ yn golygu Cymru, Lloegr, neu Gymru a Lloegr. Mewn eraill, mae’n golygu Cymru, Lloegr a’r Alban, neu’r Deyrnas Unedig gyfan.
Crynodeb Arolygiaeth Ei Fawrhydi
Rwy’n fodlon â’r rhan fwyaf o agweddau ar berfformiad Heddlu Dyfed-Powys wrth gadw pobl yn ddiogel, lleihau troseddu a darparu gwasanaeth effeithiol i ddioddefwyr. Ond mae meysydd lle mae angen i’r llu wella.
Rwy’n cydnabod mai Heddlu Dyfed-Powys yw’r llu sy’n derbyn yr ail swm uchaf o gyllid y pen o’r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n cofnodi nifer cyfartalog o ddigwyddiadau ar gyfer lluoedd yng Nghymru. Mae cyflwyno system cofnodi troseddau Niche wedi creu cyfnod o newid sylweddol i’r llu dros y misoedd diwethaf. Mae’r system wedi effeithio ar amseroldeb rhai gweithgareddau wrth i swyddogion a staff addasu i ffordd newydd o weithio. Mae’r llu wedi cyflawni rhai safonau trawiadol wrth ymchwilio i droseddau yn effeithiol, ond mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau canlyniadau priodol i ddioddefwyr.
Mae gen i bryderon ynghylch y ffordd y mae’r llu yn asesu risg digwyddiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Canfu’r tîm arolygu fod amrywiaeth o droseddau difrifol wedi’u graddio’n amhriodol mewn categori risg is. Gallai methu â nodi risg a darparu diogelu a chymorth priodol olygu bod pobl agored i niwed mewn perygl o niwed pellach. Mae’r llu wedi ymrwymo i sicrhau bod pob digwyddiad sy’n ymwneud â cham-drin domestig yn cael asesiad risg eilaidd gan staff arbenigol. Byddaf yn monitro cynnydd yn y maes hwn yn agos.
Dylai’r llu sicrhau bod ganddo strwythur llywodraethu effeithiol ar waith i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed. Nid oedd gan drefniadau llywodraethu y ffocws a’r strwythur y mae eu hangen i ddeall y risg y mae’r llu yn ei rheoli ac ymateb yn briodol i bryderon.
Rhaid i’r llu sicrhau ei fod yn ateb mwy o alwadau 101 o fewn y cyfnod amser a argymhellir, a deall pam na atebir galwadau. Gallai galwadau heb eu hateb olygu na fydd y cyhoedd yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu, a gallai effeithio ar eu hyder yn Heddlu Dyfed-Powys. Mae hefyd angen i’r llu barhau i wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys.
Canfuom fod ymdrechion y llu i wella perfformiad yn cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol. Ond gwelsom hefyd fod rhai swyddogion a staff yn teimlo bod hyn yn creu amgylchedd cystadleuol. Gallai hyn arwain at swyddogion a staff yn canolbwyntio ar fesurau perfformiad penodol yn hytrach nag ystyried y camau gweithredu mwyaf priodol i’w cymryd. Dylai’r llu sicrhau bod pawb yn deall eu fframwaith perfformiad yn iawn.
Mae swyddogion yn deall pwysigrwydd ymddygiad priodol ac yn cyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd. Mae’r llu yn annog craffu cryf a herio stopio a chwilio. Ond mae angen iddo wella ei drefniadau craffu allanol ar gyfer defnyddio grym.
Braf oedd gweld dull y llu o ddatrys problemau. Mae hefyd yn dda am fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i atal. Ond dylai Heddlu Dyfed-Powys wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu â phobl leol.
Mae’r llu yn defnyddio data’n effeithiol i ddeall ei gyllid, ac rydym yn ei ystyried yn arfer addawol. Mae hyn yn sicrhau bod y llu yn deall gwir gost ei adnoddau a lefel y cyllid sydd ar gael. Mae’r arfer eisoes yn cael ei rannu gyda lluoedd eraill yn genedlaethol.
Roedd yn siomedig, fodd bynnag, gweld nad yw’r llu yn mynd i’r afael â lles ei weithlu yn gyson. Roedd swyddogion a staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda gan eu goruchwylwyr uniongyrchol. Ond gallai’r llu wneud mwy i ddeall y galw a roddir ar ei swyddogion a’i staff, a darparu cymorth lles priodol.
Rwy’n falch o’r ffordd y mae’r llu wedi ymateb i’m pryderon, a byddaf yn monitro cynnydd yn agos.
Wendy Williams
Arolygiaeth Cwnstabliaeth i Fawrhydi
Arweinyddiaeth
Gan ddefnyddio disgwyliadau arweinyddiaeth y Coleg Plismona fel fframwaith, yn yr adran hon rydym yn nodi’r canfyddiadau pwysicaf sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth yr heddlu ar bob lefel.
Mae gan y tîm prif swyddogion yn Heddlu Dyfed-Powys flaenoriaethau clir, sy’n cael eu cyfathrebu’n eang ledled y llu. Mae gan y llu ddiwylliant perfformio cryf. Canfuom fod arweinwyr yn asesu perfformiad eu timau yn erbyn canlyniadau a blaenoriaethau.
Fodd bynnag, nid yw elfennau o brosesau llywodraethu a chynllunio mewn rhai meysydd hanfodol o blismona yn effeithiol eto. Nid yw pob arweinydd yn cymryd cyfrifoldeb am eu cynlluniau. Ac mae arweinwyr weithiau’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blismona gweithredol heb y craffu neu’r oruchwyliaeth angenrheidiol gan y grŵp prif swyddogion.
Mae arweinwyr yn deall ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth a’i fanteision sefydliadol. Maent yn dangos cred mewn arweinyddiaeth gynhwysol ac yn meithrin diwylliant cynhwysol a chefnogol yn y llu. Roedd bron pob swyddog ac aelod staff y siaradom â nhw yn falch o weithio i Heddlu Dyfed-Powys, ac yn disgrifio “ymdeimlad teuluol” i’r llu ar lefelau arweinyddiaeth lleol. Ond gwelsom nad oedd pob swyddog yn credu bod uwch arweinwyr yn deall eu pryderon a’u hanghenion lles yn llawn. Nid oeddent bob amser yn teimlo bod uwch swyddogion yn weladwy ac yn hygyrch.
Mae’n ymddangos bod uwch arweinwyr wedi ymrwymo i ddatblygu arweinyddiaeth ar bob lefel. Ond yn ein harolygiad, gwelsom nad oedd digon o gefnogaeth ar waith i oruchwylwyr sy’n dechrau rolau arweinyddiaeth am y tro cyntaf. Golyga hyn nad oedd gan rai swyddogion y sgiliau hanfodol i reoli timau a pherfformiad yn effeithiol.
Mae gan uwch arweinyddiaeth y llu heriau i ddelio â nhw, megis recriwtio a chadw swyddogion a staff mewn rhai meysydd pwysig mewn marchnad swyddi gystadleuol. Maen nhw hefyd yn wynebu’r her o fflyd sy’n heneiddio. Mae’r anawsterau yn y meysydd hyn i’w teimlo ar draws y llu, sy’n cael effaith ar forâl a pherfformiad ymhlith swyddogion a staff. Ond mae’r llu mewn sefyllfa ariannol iach, ac mae’n ailgynllunio ei fodel gweithredu i wella perfformiad sefydliadol.
Mae rhagor o fanylion am arweinyddiaeth Heddlu Dyfed-Powys wedi’u cynnwys ym mhrif gorff yr adroddiad.
Asesiad lleihau troseddu
Mae’r asesiad lleihau troseddu yn nodi’r hyn y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei wneud i leihau troseddu, a pha mor effeithiol yw’r gweithredu hyn. Nid yw’r asesiad hwn yn cynnwys ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu. Mae hyn oherwydd y gall amrywiadau a newidiadau mewn arferion a pholisi cofnodi effeithio arnynt. Golyga hyn ei bod yn anodd gwneud cymariaethau dros amser.
Er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol i’r cyhoedd, mae angen i Heddlu Dyfed‑Powys sicrhau ei fod yn ateb galwadau brys a di-frys yn ddigon cyflym, ac yn deall pam y gallai galwadau beidio â chael eu hateb. Dylai’r llu sicrhau bod contract dioddefwr yn cael ei gwblhau lle bo hynny’n briodol. Mae’n bwysig bod y llu yn ymgynghori ac yn ystyried barn dioddefwyr er mwyn helpu i gynnal eu hyder mewn ymchwiliadau.
Mae gan y llu ddull effeithiol o ddatrys problemau. Mae hyn yn helpu i adnabod problemau lleol a chasglu gwybodaeth sy’n helpu i leihau troseddu. Gwelsom hefyd fod y llu yn effeithiol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i atal. Ond mae angen i Heddlu Dyfed-Powys wella’r ffordd mae’n cyfathrebu â phobl leol.
Mae’r llu yn deall ac yn gwella’r ffordd y mae’n defnyddio pwerau stopio a chwilio drwy ddadansoddi a monitro mewn cyfarfodydd lefel llu. Gall ddangos bod ei ddefnydd o stopio a chwilio ar y cyfan yn deg ac yn effeithiol. Mae hyn yn helpu i leihau troseddu. Ond dylai’r llu sicrhau bod swyddogion yn deall ei amcan strategol wrth gynyddu’r defnydd o stopio a chwilio.
Mae gan y llu drefniadau llywodraethu effeithiol ar gyfer safonau ymchwilio. Mae hyn yn arwain at ymchwiliadau sy’n cael eu goruchwylio’n dda ac sy’n cael eu cynnal yn effeithiol. Nod y llu yw gwella canlyniadau i ddioddefwyr drwy ddilyn pob trywydd ymholi priodol. Ond mae angen gwneud mwy i sicrhau canlyniadau priodol i ddioddefwyr. Bydd hyn yn helpu i atal troseddu pellach.
Nid yw’r llu bob amser yn archwilio nac yn cofnodi safbwynt plant mewn cartrefi lle mae achos o gam-drin domestig wedi digwydd. Gall methu ag archwilio a chofnodi safbwynt plant yn ddigonol leihau’r tebygolrwydd y bydd y cymorth cywir yn cael ei roi ar waith i ddiogelu plant ac atal troseddu pellach.
Mae rhagor o fanylion am yr hyn y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei wneud i leihau troseddu wedi’i gynnwys ym mhrif gorff yr adroddiad.
Darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau
Asesiad o wasanaethau dioddefwyr
Mae’r adran hon yn disgrifio ein hasesiad o’r gwasanaeth y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei ddarparu i ddioddefwyr. Mae hyn o adeg adrodd am drosedd drwyddo i’r ymchwiliad. Fel rhan o’r asesiad hwn, gwnaethom adolygu 100 o ffeiliau achos.
Pan fydd yr heddlu’n cau achos o drosedd a adroddwyd, maent yn neilltuo ‘math o ganlyniadau’ iddo. Mae hyn yn disgrifio’r rheswm dros ei gau.
Gwnaethom ddewis 100 o achosion i’w hadolygu, gan gynnwys o leiaf 20 y mae’r llu wedi’u cau gyda’r canlyniad canlynol:
Nid yw camau ffurfiol yn erbyn y troseddwr er budd y cyhoedd – penderfyniad yr heddlu (canlyniad 10).
Er nad yw ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr yn cael ei raddio, mae’n dylanwadu ar ddyfarniadau yn y meysydd eraill yr ydym wedi’u harchwilio sy’n cael eu graddio.
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys a di-frys, ond mae’n brysbennu galwadau yn effeithiol ac yn nodi dioddefwyr mynych
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys. Mae angen iddo hefyd leihau’r nifer o alwadau di-frys y mae’r galwyr yn rhoi’r gorau iddynt am nad ydynt yn cael eu hateb. Pan fydd yn ateb galwadau, mae’n ystyried bygythiad, niwed, risg a bregusrwydd. Mae’n nodi dioddefwyr mynych, sy’n golygu ei fod yn gwbl ymwybodol o amgylchiadau’r dioddefwr wrth ystyried ei ymateb. Mae trinwyr galwadau yn gwrtais ac yn rhoi cyngor i ddioddefwyr ar sut i gadw tystiolaeth.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r heddlu’n ymateb yn brydlon i alwadau am wasanaeth
Ar y rhan fwyaf o achlysuron, mae’r llu yn ymateb i alwadau am wasanaeth yn briodol ac o fewn amserlenni penodol. Ond nid yw’r llu bob amser yn dweud wrth ddioddefwyr am oedi, sy’n golygu nad yw disgwyliadau dioddefwyr bob amser yn cael eu bodloni. Gall hyn achosi i ddioddefwyr golli hyder a datgysylltu o’r broses.
Mae’r llu yn cynnal ymchwiliadau effeithiol ac amserol
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r llu yn cynnal ymchwiliadau mewn modd amserol, ac yn cwblhau llinellau ymholiadau perthnasol a chymesur. Mae’r llu yn goruchwylio ymchwiliadau’n dda ac yn rhoi diweddariadau i ddioddefwyr yn rheolaidd. Ond nid yw’r llu bob amser yn cwblhau contract dioddefwr. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol o fod â hyder mewn ymchwiliad gan yr heddlu pan fyddant yn cael diweddariadau rheolaidd.
Mae ymchwiliad trylwyr yn cynyddu’r tebygolrwydd o adnabod ac arestio troseddwyr, gan roi canlyniad cadarnhaol i’r dioddefwr. Yn y rhan fwyaf o achosion, cymerodd y llu ddatganiadau personol dioddefwyr. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddioddefwyr ddisgrifio sut mae’r drosedd honno wedi effeithio ar eu bywyd.
Nid yw’r llu bob amser yn ystyried y cyfle i symud achos ymlaen pan fydd y dioddefwr yn tynnu eu cefnogaeth yn ôl. Gall hyn fod yn ddull pwysig o ddiogelu’r dioddefwr ac atal troseddau pellach rhag cael eu cyflawni. Ac nid yw’r llu bob amser yn cofnodi a yw wedi ystyried defnyddio gorchmynion sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu dioddefwyr, megis Hysbysiad Amddiffyn Trais Domestig neu Orchymyn Amddiffyn Trais Domestig.
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yn gofyn i luoedd gynnal asesiad anghenion yn gynnar er mwyn pennu a oes angen cymorth ychwanegol ar ddioddefwyr. Fel arfer, mae’r llu yn cynnal yr asesiad hwn ac yn cofnodi’r cais am gymorth ychwanegol.
Mae’r llu yn ystyried dymuniadau dioddefwyr a chefndir y troseddwyr, ac fel arfer mae ganddo gofnod archwiliadwy o ddymuniadau’r dioddefwyr
Mae’r llu fel arfer yn cau troseddau gyda’r math priodol o ganlyniad, ac yn cofnodi rheswm clir dros ddefnyddio canlyniad penodol. Mae’r llu fel arfer yn ceisio barn dioddefwyr wrth benderfynu pa fath o ganlyniad i’w neilltuo i ymchwiliad wedi’i gau. Pan fo angen, cafodd swyddogion a staff gofnod archwiliadwy o ddymuniadau dioddefwyr. Rhoddodd yr heddlu wybod i ddioddefwyr am y cod canlyniad a neilltuwyd i’r ymchwiliad.
Pwerau’r heddlu a thrin y cyhoedd yn deg ac yn barchus
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol o ran defnyddio pwerau’r heddlu a thrin pobl yn deg ac yn barchus.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â thrin pobl yn deg, yn briodol ac yn barchus.
Mae’r llu yn deall pam a sut mae’n rhaid iddo drin y cyhoedd gyda thegwch a pharch
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn darparu ystod o hyfforddiant sy’n cynnwys sgiliau cyfathrebu effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o ragfarn ddiarwybod, sy’n ceisio sicrhau y gall y llu gydnabod eu rhagfarnau eu hunain a gwella eu sgiliau cyfathrebu â’r cyhoedd. Mae’r hyfforddiant hwn hefyd yn cael ei roi i aelodau newydd. Gwelsom fod gan y llu ddealltwriaeth dda o’r pynciau hyn.
Mae gan y llu bolisi clir ar sut a phryd y dylai swyddogion ddefnyddio fideo a wisgir ar y corff. Mae’r polisi yn nodi enghreifftiau o ddefnyddio grym, arestiadau, a stopio a chwilio. Mae’n dangos sut y gellir defnyddio fideo a wisgir ar y corff i gasglu tystiolaeth, ac ar ben hynny mae hefyd yn darparu mwy o dryloywder, sy’n helpu i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona.
Gwnaethom hefyd edrych ar recordiadau fideo a wisgir ar y corff o stopio a chwilio sy’n dangos sut yr oedd y swyddog yn rhyngweithio â’r person a chwiliodd. Dangosodd y recordiadau hyn fod y rhan fwyaf o ryngweithiadau o safon dda. Canfuom hefyd fod y llu’n archwilio’r defnydd o fideo a wisgir ar y corff mewn achosion o stopio a chwilio a defnyddio grym. Dywedodd y llu wrthym fod dros 90 y cant o gydymffurfiad â’r polisi fideo a wisgir ar y corff mewn achosion o stopio a chwilio. Dywedodd hefyd wrthym fod oddeutu 85 y cant o gydymffurfiad â’r polisi mewn achosion o ddefnyddio grym. Mae’r llu yn gweithio i gynyddu’r canrannau hyn.
Fodd bynnag, dywedodd rhai swyddogion wrthym eu bod yn aneglur ynghylch pa ddigwyddiadau y bu’n rhaid iddynt ddefnyddio fideo a wisgir ar y corff ar eu cyfer. Roeddent hefyd yn aneglur p’un a oedd fideo a wisgir ar y corff yn orfodol yn ystod stopio a chwilio. Dylai’r llu wneud yn siŵr bod pob swyddog yn ymwybodol o’i ganllawiau fideo a wisgir ar y corff.
Mae’r llu yn dysgu o ddigwyddiadau stopio a chwilio a defnyddio grym
Mae’r llu yn cynnal cyfarfodydd ar y defnydd moesegol o bwerau’r heddlu. Mae’r cyfarfod hwn yn cynnwys rhannu set gynhwysfawr o ddata ar y defnydd o rym a stopio a chwilio. Mae cynrychiolwyr yr heddlu o bob ardal blismona leol yn mynychu cyfarfod defnydd moesegol o bwerau’r heddlu. Mae hyn yn sicrhau bod dysgu’n cael ei rannu’n effeithiol, a bod y camau a gymerir yn gyson ar draws yr heddlu.
Gwelsom rywfaint o dystiolaeth o’r heddlu yn rhannu gwersi a ddysgwyd o’r craffu mewnol hwn, ac o ddadansoddi dysgu sefydliadol ehangach. Mae hyn yn cynnwys y llu’n addasu’r hyfforddiant a roir i swyddogion yn seiliedig ar ganfyddiadau a wnaed yn y cyfarfod defnydd moesegol o bwerau’r heddlu. Mae’r heddlu’n bwriadu cynyddu’r ystod o ddata mae’n ei defnyddio. Mae hyn yn cynnwys data i ddeall sut mae gwahanol ddefnydd o dactegau grym yn cael eu defnyddio ar bobl ag anabledd.
Mae’r llu yn annog craffu allanol ac annibynnol cryf ar stopio a chwilio
Mae’r llu yn gweithredu ar y craffu a’r herio gan grŵp ymgynghorol annibynnol i wella defnydd swyddogion o bwerau stopio a chwilio. Mae gan y grŵp gadeirydd annibynnol ac aelodaeth amrywiol. Mae’r aelodau wedi cael sesiynau hyfforddi, er enghraifft ar noeth-chwilio a defnyddio siwtiau gwrth-rwygo, i’w helpu i berfformio eu rôl o graffu ar y llu yn hyderus. Ac mae’r llu yn gwneud ymdrech ymwybodol i recriwtio aelodau ieuenctid i’r panel i gynyddu amrywiaeth.
Mae’r llu yn rhoi cofnodion fideo a wisgir ar y corff o stopio a chwilio i aelodau’r grŵp fel y gallant adolygu ansawdd y seiliau rhesymol a gofnodwyd. Mae adborth gan y grŵp weithiau’n cael ei roi i swyddogion. Ond dywedodd rhai swyddogion wrthym nad oeddent wedi cael unrhyw adborth ar eu defnydd o stopio a chwilio gan eu goruchwyliwr unigol nac unrhyw grŵp monitro ehangach. Dylai’r llu rannu adborth gan grwpiau monitro allanol gyda swyddogion yn gyson.
Mae’r llu wedi gwella sut mae’n cofnodi’r defnydd o rym
Yn ystod ein harolygiad diwethaf, canfuom nad oedd swyddogion bob amser yn cwblhau ffurflen defnyddio grym pan oedd angen. Mae’n braf gweld bod y llu bellach yn cydymffurfio â gofynion recordio cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer categorïau’r grym a ddefnyddir.
Trwy edrych ar y nifer o arestiadau sy’n digwydd, gallwn gyfrifo beth ddylai’r lleiafswm o achosion o rym a gofnodwyd mewn ardal heddlu fod. Byddai pob arestiad fel arfer yn cyfrif fel defnydd o rym (er enghraifft, oherwydd defnyddio gefynnau). O’r herwydd, dylai’r nifer o ddigwyddiadau lle defnyddiwyd grym fod o leiaf mor uchel â’r nifer o arestiadau. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, cofnododd Heddlu Dyfed‑Powys 5,572 o achosion lle defnyddiwyd grym. Yn seiliedig ar y nifer o arestiadau yn yr un cyfnod, byddem wedi disgwyl i’r llu gofnodi 6,077 o achosion o ddefnyddio grym. Mae hyn yn awgrymu y gallai’r llu fod yn tangofnodi rhywfaint. Dylai’r llu barhau i sicrhau bod pob achos o ddefnyddio grym yn cael ei gofnodi’n gywir.
Digonol
Ataliaeth ac atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a lleihau bregusrwydd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol o ran atal ac ataliaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag atal ac ataliaeth.
Mae’r llu yn datblygu ei ymateb plismona yn y gymdogaeth i sicrhau mwy o gysondeb ar draws ei ardaloedd plismona
Rhennir y llu yn bedair partneriaeth diogelwch cymunedol, y mae pob un ohonynt yn gyfrifol am ardal ddaearyddol wahanol. Mae’r materion ar gyfer pob partneriaeth yn amrywio, am fod gan bob ardal boblogaethau, demograffeg a lefelau gwahanol o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dechreuodd y llu ailfodelu’r swyddogaeth plismona yn y gymdogaeth yn ystod ein harolygiad. Mae wedi creu hybiau atal lleol ym mhob un o bedair ardal yr heddlu. Bydd pob hyb lleol yn dod o dan oruchwyliaeth uniongyrchol rhingyll. Bydd ganddo:
- arweinydd ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- arweinydd datrys problemau ac atal;
- arweinydd ymgysylltu;
- arweinydd gweithgarwch wedi’i dargedu; ac
- arweinydd bregusrwydd.
Mae’r canolfannau hyn yn cyd-fynd â’r tîm canolog, a byddant yn hyrwyddo ymarfer mwy cyson ar draws pedair ardal y llu. Ond byddant hefyd yn gallu cynnig cymorth wedi’i deilwra i’r tîm cymdogaeth lleol yn seiliedig ar eu blaenoriaethau a’u hanghenion penodol.
Sefydlwyd yr hybiau atal lleol ym mis Mawrth 2023, ac mae gan rai swyddi gwag o hyd. Ond maent yn dechrau cefnogi timau plismona yn y gymdogaeth ar draws y llu, gan ddarparu trosolwg gwerthfawr o weithgarwch a hyrwyddo cysondeb yn eu dull gweithredu.
Mae ymrwymiad y llu i gynyddu cysondeb ei ymagwedd at blismona yn y gymdogaeth yn gadarnhaol. Cefnogir hyn gan ei strategaeth plismona yn y gymdogaeth, sy’n dilyn canllawiau plismona cymdogaeth cenedlaethol. Canfuom fod swyddogion ar draws pob ardal yn deall rôl plismona yn y gymdogaeth wrth ddiogelu pobl ac atal troseddu drwy ddatrys problemau a chymryd rhan weithredol mewn cymunedau lleol.
Mae’r llu yn deall ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae gan y llu gydlynydd ymddygiad gwrthgymdeithasol canolog sy’n goruchwylio cynlluniau datrys problemau’r llu. Mae’r cydlynydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhoi cymorth ac arweiniad i’r pedair ardal blismona leol, sydd oll â swyddog ymddygiad gwrthgymdeithasol pwrpasol.
Canfuom fod swyddogion cymdogaeth yn defnyddio amrywiaeth o bwerau i geisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys gorchmynion sifil megis Gorchmynion Ymddygiad Troseddol.
Gwelsom hefyd enghreifftiau da o dimau plismona yn y gymdogaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Un enghraifft o hyn oedd cynllun datrys problemau yn ymwneud â pherson agored i niwed ag anghenion cymhleth a oedd yn camddefnyddio sylweddau ac yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol a oedd yn cyfrannu at yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweithiodd swyddogion yn agos gyda phartneriaid o:
- asiantaethau tai;
- y gwasanaeth prawf;
- gofal cymdeithasol oedolion; a
- gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.
Trwy weithio’n agos gyda gwasanaethau partner, sicrhaodd y llu fod yr unigolyn yn cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt, a helpodd hynny i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach.
Mae gan y llu wefan fewnol sy’n ymroddedig i ddatrys problemau. Mae gan y wefan lawer o ganllawiau i swyddogion ar sut i ddefnyddio dull datrys problemau o leihau troseddu, gan gynnwys pecyn cymorth ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r Coleg Plismona wedi gwneud sylwadau cadarnhaol ar y pecyn cymorth, ac yn sôn amdano ar ei wefan ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, cofnododd y llu 15,900 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, cofnododd y llu 7,894 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn dangos bod y nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r flwyddyn flaenorol wedi gostwng oddeutu 50 y cant. Roedd y 7,894 digwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 yn cynrychioli 15.3 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn o fewn yr ystod arferol o’i gymharu â lluoedd eraill.
Mae’r llu yn effeithiol wrth nodi troseddau niwed uchel, cefnogi dioddefwyr a lleihau aildroseddu
Mae’r llu yn gwneud defnydd da o ddata i ddeall troseddau caffael difrifol. Mae’r math hwn o drosedd yn cynnwys bwrgleriaeth ddomestig, lladrata personol, dwyn o berson, a dwyn cerbyd modur neu o gerbyd modur. Mae’r llu’n defnyddio data i helpu i dargedu ei adnoddau. Mae hyn yn helpu’r llu i arestio troseddwyr a sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2022, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 1,598 o droseddau caffael difrifol. O’r rhain, neilltuwyd canlyniad ‘troseddau a ddaeth gerbron llys’, megis cyhuddiad, i 10.1 y cant ohonynt. Hon oedd y gyfran uchaf ar draws pob llu yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r llu yn cynnal cyfarfodydd partneriaeth diogelwch cymunedol a chyfarfodydd tasgau heddlu lleol misol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar leoliadau ac unigolion problemus sy’n ddioddefwyr mynych. Roedd y cyfarfodydd a welsom wedi adnabod yn glir bygythiadau, niwed a risg yn y cymunedau. Roedd y cyfarfodydd hefyd yn sicrhau bod eglurder ynghylch pwy fyddai’n cael y dasg o leihau neu atal y bygythiad, y niwed a’r risg. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau megis gwaith ymyrraeth gynnar wedi’i dargedu, a nodi a phatrolio mannau problemus.
Gwelsom ddefnydd da o ddata i gefnogi canlyniadau’r cyfarfodydd partneriaeth diogelwch cymunedol a chyfarfodydd tasgau heddlu lleol misol. Ond gallai’r llu wella ei ddealltwriaeth o faterion sy’n dod i’r amlwg. Canfuom fod y rhan fwyaf o staff cymdogaeth yn gwybod sut i gyrchu gwybodaeth o systemau’r heddlu. Ond roedd cyflwyno system TG newydd (Niche) wedi creu oedi dros dro wrth i swyddogion a staff addasu i ffyrdd newydd o weithio.
Nid oes gan y llu ddadansoddwyr lleol i gasglu gwybodaeth am fygythiadau a risgiau i dimau cymdogaeth. Mae dadansoddwyr y llu yn gwneud y gwaith hwn, sy’n cynyddu’r galw ar yr adnodd cyfyngedig hwn. Dylai’r llu wneud yn siŵr bod swyddogion a staff yn deall yn well sut i ddefnyddio offer hunanwasanaeth, megis Niche. Dylai’r llu sicrhau bod swyddogion a staff yn gwybod sut i ddefnyddio offer adrodd data ei system adrodd troseddau newydd i ddeall y galw lleol yn well. Dylai’r llu hefyd sicrhau bod ganddo ddigon o ddadansoddwyr i helpu timau cymdogaeth i ddeall a gweithredu ar droseddu ac anhrefn lleol.
Mae’r llu’n cymryd ymagwedd ataliol at ystod eang o droseddau
Mae’r llu yn cymryd ymagwedd ataliol at faterion difrifol megis camfanteisio’n rhywiol ar blant a delio cyffuriau llinellau cyffuriau. Mae swyddogion arbenigol yn trafod arwyddion a pheryglon y troseddau hyn yn rheolaidd gydag ysgolion, yn ogystal â chyngor atal troseddu arall. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y llu i’r fenter SchoolBeat ar draws Cymru. Er mwyn cefnogi’r fenter hon, mae’r llu wedi buddsoddi mewn swyddogion ysgol wedi’u hyfforddi’n arbennig, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ysgolion, plant a phobl ifanc am:
- peryglon defnyddio a chamddefnyddio sylweddau;
- llinellau cyffuriau;
- cam-drin domestig;
- ecsbloetiaeth;
- bwlio;
- ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- diogelwch ar y rhyngrwyd;
- arfau;
- radicaleiddio; a
- cydlyniant cymunedol.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, dywedodd y llu wrthym ei fod yn weithredol mewn 318 o ysgolion ar draws ei ardal, gan gyrraedd mwy na 83,000 o blant.
Mae tîm INTACT y llu yn gweithio gyda phobl ifanc y nodwyd eu bod wrth risg cyflawni, neu ddioddef, drais difrifol neu droseddau cyfundrefnol. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae tîm INTACT wedi cynnig ymyriadau wedi’u targedu i fwy na 600 o blant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys clybiau paffio a chynlluniau dargyfeirio eraill.
Mae’r llu wedi amcangyfrif bod 72 y cant o’r bobl a gymerodd ran mewn cynlluniau dargyfeiriol INTACT heb gael unrhyw gyswllt pellach â’r heddlu am o leiaf 3 mis wedi hynny. Yn 2022, enillodd tîm INTACT wobr ymarfer diogelu.
Mae gan y llu ddull effeithiol o ddatrys problemau
Mae gan y llu gydlynydd datrys problemau penodol wedi’i leoli yn ei hyb atal canolog yn ei bencadlys. Mae’r swyddog hwn yn cadeirio cyfarfod partneriaeth datrys problemau misol. Yn y cyfarfod hwn, mae swyddogion, staff a phartneriaid o asiantaethau eraill yn trafod cynlluniau er mwyn cydlynu eu gweithgarwch i leihau troseddu a bregusrwydd ar draws y llu. Mae’r partneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr tai, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac arweinwyr awdurdodau lleol, ymhlith eraill.
Mae’r llu yn defnyddio’r dull OSARA o ddatrys problemau. Mae’r dull hwn yn cynnwys y camau canlynol:
- amcan
- sganio
- dadansoddi
- adolygu
- asesu.
Yn ystod ein harolygiad, canfuom fod y llu yn defnyddio cynlluniau datrys problemau a ddilynodd y strwythur cydnabyddedig hwn. Roedd y cynlluniau’n drylwyr ac yn fanwl ar bob cam o’r broses. Mae enghreifftiau o’r problemau a elwodd o’r dull hwn yn cynnwys:
- ffermydd canabis;
- defnydd jet-sgi ar hyd dyfroedd Cymru;
- casglu cocos ar hyd arfordir Cymru; a
- defnyddio beiciau modur oddi ar y ffordd.
Roedd y cynlluniau datrys problemau yn cynnwys ystod eang o asiantaethau eraill, megis:
- y Comisiwn Coedwigaeth;
- cynrychiolwyr o’r diwydiant pysgota;
- cynghorau sir; a
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.
Roedd gan y llu gynlluniau mwy traddodiadol hefyd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, dwyn o siop, cardota, niwsans sŵn a phroblemau tebyg eraill.
Canfuom hefyd nad oedd y dull datrys problemau wedi’i gyfyngu i dimau plismona yn y gymdogaeth. Gwelsom enghreifftiau o gynlluniau datrys problemau a ddefnyddiwyd i wella dull y llu o uniondeb data troseddau ac i reoli ymateb yr heddlu i anfon swyddogion i ddigwyddiadau.
Mae’r llu yn darparu datblygiad proffesiynol i’w dimau plismona yn y gymdogaeth a’i weithlu ehangach
Mae’r llu yn darparu datblygiad proffesiynol parhaus i’w swyddogion cymdogaeth, gan gynnwys hyfforddiant ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, gorchmynion sifil, atal troseddu a datrys problemau. Mae swyddogion hefyd yn cwblhau pecyn hyfforddiant achrededig ledled Cymru ochr yn ochr â hyfforddiant a roddir gan y Coleg Plismona. Roedd y rhan fwyaf o’r staff cymdogaeth y siaradom â nhw yn fodlon ar yr hyfforddiant a gawsont, ac yn teimlo eu bod yn barod i gyflawni eu dyletswyddau dydd i ddydd.
Mae pob myfyriwr newydd yn derbyn sesiwn hyfforddiant gan arweinydd datrys problemau’r heddlu, fel y gallant ddysgu sut i ddefnyddio dull datrys problemau orau. O ganlyniad, mae’n ymddangos bod newid diwylliannol wedi bod. Mae mwy o unedau bellach yn gweld manteision defnyddio dull datrys problemau o ymdrin â materion plismona eraill.
Digonol
Ymateb i’r cyhoedd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol o ran ymateb i’r cyhoedd.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymateb i’r cyhoedd.
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys 114,999 o alwadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn yn is na’r disgwyl o’i gymharu â lluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.
Ar 31 Mai 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ddata ar amserau ateb galwadau 999. Amser ateb galwadau yw’r amser a gymerwyd i drosglwyddo galwad i lu, a’r amser a gymerwyd i’r llu hwnnw i’w ateb. Yng Nghymru a Lloegr, dylai lluoedd anelu at ateb 90 y cant o’r galwadau 999 o fewn 10 eiliad. Rydym wedi defnyddio data’r Swyddfa Gartref i asesu pa mor gyflym mae lluoedd yn ateb galwadau 999.
Mae’r data’n dangos nad yw Heddlu Dyfed-Powys bob amser wedi gallu ateb galwadau 999 yn brydlon. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, atebodd Heddlu Dyfed-Powys 82.6 y cant o’i alwadau 999 o fewn 10 eiliad. Roedd hyn yn is na’r safon ddisgwyliedig o ateb 90 y cant o fewn 10 eiliad. Os nad yw galwadau am wasanaeth yn cael eu hateb yn brydlon, mae’n bosib na fydd swyddogion heddlu’n cael eu hanfon i ddiogelu dioddefwyr yn ddigon cyflym. Gall methu ag ateb galwadau’n brydlon hefyd arwain at golli hyder y cyhoedd a chyfleoedd ymchwiliol.
Ffigur 1: Cyfran o alwadau 999 a atebwyd o fewn 10 eiliad gan luoedd yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023
Gall y llu nodi a deall risg ar y cyswllt cyntaf
Mae’r trinwyr galwadau yn ystafell reoli’r llu yn blaenoriaethu galwadau’n effeithiol ac yn defnyddio dull strwythuredig i asesu bygythiad, niwed, risg, ymchwiliad, bregusrwydd ac ymgysylltu (THRIVE). Yn ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr, gwelsom fod hyn yn wir mewn 62 o’r 63 achos a adolygwyd gennym. Roedd blaenoriaethu galwad gyntaf yn gywir ym mhob un o’r 78 achos a adolygom. Canfuom hefyd fod goruchwyliaeth effeithiol o alwadau o fewn ystafell reoli’r llu ym mhob un o’r 21 achos a adolygwyd. Ac roedd trinwyr galwadau yn gwrtais ac yn broffesiynol ym mhob un o’r 74 achos a adolygwyd gennym. Mae’r canlyniadau hyn yn cymharu’n ffafriol ag adolygiadau gwasanaethau dioddefwyr eraill a gynhelir mewn lluoedd eraill.
Mae’r llu yn cynllunio ac yn rheoli ei ymateb dydd i ddydd i alwadau am wasanaeth
Mae’r llu yn defnyddio data am y nifer o ddigwyddiadau a gyfeirir gan aelodau’r cyhoedd i gynllunio bod digon o swyddogion ymateb ar ddyletswydd bob dydd. Mae’r llu hefyd yn defnyddio’r data hyn i gynllunio ar gyfer cyfnodau brig galw, megis digwyddiadau gwyliau blynyddol a gwyliau tymhorol.
Canfuom fod y cynllunio hyn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Roedd presenoldeb y llu mewn digwyddiadau o fewn yr amser presenoldeb gofynnol mewn 50 o 54 achos a adolygom.
Mae’r llu hefyd yn olrhain amserau mynychu fesul ardal mewn cyfarfodydd perfformiad lleol. Canfuom nad yw pob ardal yn bodloni’u hamserau presenoldeb targed yn rheolaidd. Dywedodd rhai timau wrthym nad oedd ganddynt ddigon o swyddogion ar gael neu nad oedd ganddynt fynediad at gerbydau ag offer priodol, a gyfrannodd at oedi.
Dylai’r llu barhau i fonitro’r pryderon hyn a sicrhau bod gan ei dimau ymateb ddigon o swyddogion ar ddyletswydd a mynediad at gerbydau addas.
Mae staff a goruchwylwyr ystafell reoli’r llu yn cynnig cyngor amser real i’w hymatebwyr cyntaf i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu’n gynnar mewn safleoedd trosedd
Yn ystod ein harolygiad, gwelsom fod staff a goruchwylwyr yn yr ystafell reoli yn monitro trosglwyddiadau radio gan swyddogion sy’n mynychu troseddau. Mae’r staff a’r goruchwylwyr yn yr ystafell reoli yn rhoi cyngor ysgrifenedig yn y cofnod digwyddiad y gall swyddogion sy’n mynychu ei weld. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod trinwyr galwadau yn nodi cyfleoedd i sicrhau tystiolaeth fforensig cyn gynted â phosib. Mae hyn hefyd yn golygu bod swyddogion sy’n mynychu yn gwybod pa gamau i’w hystyried pan fyddant yn mynd i ddigwyddiadau neu safleoedd trosedd fel bod tystiolaeth yn cael ei chasglu mor gynnar ac effeithiol â phosib.
Yn ystod ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr, canfuom fod trinwyr galwadau wedi rhoi cyngor cywir ar gadw tystiolaeth mewn 29 o’r 32 achos a adolygwyd gennym. Cynigiodd y trinwyr galwadau gyngor atal troseddau priodol i ddioddefwyr troseddau mewn 32 allan o 38 o achosion.
Mae gan y llu lywodraethu a hyfforddiant effeithiol o fewn yr ystafell reoli
Mae gan ystafell reoli’r heddlu dîm arweinyddiaeth effeithiol ac ymgysylltiol. Canfuom fod goruchwylwyr wedi’u grymuso i wella perfformiad a llywio penderfyniadau. Cefnogwyd hyn gan hyfforddiant goruchwylwyr, sy’n cynnwys cyfle ar gyfer hyfforddiant a mentora a gynigir drwy’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig.
Mae gan y llu raglen hyfforddiant lawn ar gyfer ei holl drinwyr galwadau, ac mae’n datblygu llwybr hyfforddi i staff gyflawni fframwaith cymhwyster a chredyd mewn rheoli cyswllt a thrin digwyddiadau. Bydd hyn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr, Abertawe.
Mae’r llu yn defnyddio technoleg i helpu ag adrodd ac ymchwilio cychwynnol i droseddau a digwyddiadau
Mae gan y llu ‘ddesg ddigidol’ 24 awr. Mae staff y ddesg yn ymateb i aelodau’r cyhoedd sy’n cysylltu â’r llu gan ddefnyddio Single Online Home, Twitter, Facebook, ac e-byst yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r wybodaeth a gafwyd o’r ymatebion hyn yn cael ei defnyddio i greu adroddiadau trosedd a digwyddiadau, ac i benderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol. Mae’r llu yn hyfforddi’r holl staff trin galwadau i weithio ar y ddesg ddigidol. Bydd hyn yn gwella gallu’r llu i ymateb i ddigwyddiadau yn brydlon ac yn effeithiol ymhellach.
Digonol
Ymchwilio i droseddau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol o ran ymchwilio i droseddau.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymchwilio troseddau.
Mae’r llu yn cynnal ymchwiliadau trylwyr ac effeithiol ar ran y cyhoedd
Canfu ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr fod y llu wedi cynnal ymchwiliadau effeithiol mewn 95 o’r 100 achos a adolygwyd gennym. Daeth ymchwiliadau i ben ar ôl i bob cyfle rhesymol i gasglu tystiolaeth gael eu cymryd mewn 95 o’r 100 achos a adolygom. Rhoddodd y llu adroddiadau trosedd i ymchwilwyr medrus priodol ym mhob un o’r 100 achos a adolygwyd.
Mae hyn yn golygu bod dioddefwyr wedi derbyn lefel briodol o wasanaeth yn y rhan fwyaf o achosion adolygwyd gennym. Canfuom hefyd fod tystiolaeth o gynllun ymchwilio priodol mewn 54 o’r 57 achos a adolygom. Ac mewn 27 o’r 28 achos perthnasol a adolygwyd, gwnaed arestiadau o fewn amserlen briodol.
O’r herwydd, gall y cyhoedd fod yn sicr bod Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliadau trylwyr ac effeithiol ar eu rhan.
Mae oedi sylweddol o fewn tîm fforensig digidol y llu
Er gwaethaf effeithiolrwydd ymchwiliadau’r llu, gwelsom fod gan y llu heriau wrth archwilio dyfeisiau digidol yn brydlon, megis ffonau a chyfrifiaduron. Yn aml mae tystiolaeth sylweddol ar y dyfeisiau hyn, a gall unrhyw oedi cyn cael gafael ar y dystiolaeth hon ohirio cyfiawnder i ddioddefwyr.
Mae’r uned fforenseg ddigidol yn gyfrifol am dynnu tystiolaeth o ddyfeisiau digidol. Dywedodd y llu wrthym fod gan yr uned 125 o ddyfeisiau yn aros i’w harchwilio ym mis Gorffennaf 2020. Ar adeg ein harolygiad, roedd yr ôl-groniad wedi codi i fwy na 350 o ddyfeisiau yn aros i’w harchwilio. Yr amser aros ar gyfartaledd oedd pum mis o’r adeg pan gyflwynodd ymchwilwyr ddyfais i’r adeg pan gawsant y dystiolaeth wedi’i lawrlwytho ohoni. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith ar amseroldeb ymchwiliadau. Mae’r llu yn ymwybodol o’r ôl-groniadau, ac yn ddiweddar mae wedi recriwtio mwy o ymchwilwyr cyfryngau digidol i’r adran. Gwelsom dystiolaeth galonogol bod y llu’n dechrau lleihau’r ôl-groniadau.
Mae’r llu yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i ddioddefwyr drwy ddilyn erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth
Yn ystod ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr, gwelsom dystiolaeth bod y llu yn ystyried erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth lle bo hynny’n addas, yn enwedig mewn achosion cam-drin domestig. Yn 2020, aeth wyth cyhuddiad a arweinir gan dystiolaeth i’r llys o’r llu. Cynyddodd hyn i 48 yn 2022. O’r 48 cyhuddiad hyn, arweiniodd 30 at erlyniadau llwyddiannus. Yn ystod ein harolygiad, gwelsom fod staff ymchwiliol a swyddogion mewn lifrai yn siarad yn gadarnhaol am eu profiad o erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth. Ac mae llwyddiant y llu yn y maes hwn yn dangos ffocws parhaus ar erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth a’r ffordd orau y gellir mynd ar eu trywydd. Gwelsom y ffocws hwn yn ystod cyfarfodydd rheoli dyddiol.
Mae’r llu yn sicrhau bod goruchwyliaeth effeithiol o ymchwiliadau
Yn 89 o’r 91 ymchwiliad a adolygwyd gennym, rhoddwyd goruchwyliaeth briodol ac effeithiol i ymchwilwyr, gan gynnwys cyfarwyddyd a chyngor. Roedd hyn yn cynnwys goruchwylwyr yn creu cynlluniau ymchwilio yn fuan ar ôl iddynt ddyrannu troseddau i ymchwilydd. Rhoddodd hyn arweiniad i ymchwilwyr a gwneud yn siŵr eu bod yn cynnal yr ymholiadau cywir.
Ond dywedodd rhai goruchwylwyr wrthym nad oedd ganddynt y gallu i oruchwylio ymchwiliadau yn gyson yn eu timau. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod system cofnodi troseddau newydd o’r enw Niche wedi’i rhoi ar waith. Mewn rhai ardaloedd plismona lleol, dywedodd swyddogion wrthym hefyd nad oedd goruchwylwyr yn adolygu llwythi gwaith mor aml ag y dylen nhw. Dylai’r llu sicrhau bod canfyddiadau cadarnhaol ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr yn gyson ar draws y llu.
Dylai’r llu sicrhau bod pob ymchwilydd yn teimlo eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith
Dywedodd y rhan fwyaf o’r swyddogion a’r staff y siaradom â nhw wrthym fod eu goruchwylwyr yn gefnogol. Dywedon nhw fod goruchwylwyr yn cymryd eu lles o ddifrif ac yn adolygu ymrwymiadau llwyth gwaith yn rheolaidd. Dywedodd llawer o swyddogion a staff wrthym fod llwythi gwaith yn briodol ac yn hylaw. Ond mae gan rai swyddogion mewn swyddi arbenigol niferoedd uwch o achosion. Mae hwn yn fater penodol i’r unedau ymchwilio lleol a’r timau ymchwilio ar y cyd. Er bod y swyddogion hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu goruchwylwyr, dywedodd rhai wrthym nad oedd modd rheoli eu llwythi gwaith. Dywedodd rhai swyddogion wrthym fod hyn yn effeithio ar eu lles a faint o amser y gallent ei roi i bob ymchwiliad. Canfuom fod ymchwilwyr wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr. Ond gwelsom hefyd fod rhai timau yn teimlo bod eu llwyth gwaith yn uwch na’u gallu i ymchwilio i’w llwyth achosion presennol yn effeithiol.
Digonol
Amddiffyn pobl fregus
Mae Heddlu Dyfed-Powys angen gwella sut mae’n diogelu pobl agored i niwed.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn diogelu pobl agored i niwed.
Mae’r llu wedi gwella sut mae’n defnyddio’r pwerau sydd ar gael i ddiogelu pobl agored i niwed
Mae’r llu yn deall ei ddefnydd o bwerau i ddiogelu pobl, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gam-drin domestig.
Mae’r Cynllun Datgelu Trais Domestig, a elwir hefyd yn Gyfraith Clare, yn rhoi’r ‘hawl i ddioddefwr ofyn’. Mae hyn yn golygu y gall dioddefwr ofyn i’r heddlu a allai eu partner beri risg iddynt ar sail hanes blaenorol eu partner o drais neu gam-drin domestig. Mae gan yr heddlu opsiwn ‘hawl i wybod’ mewn amgylchiadau penodol, sy’n eu galluogi i rannu gwybodaeth ag unigolion yn rhagweithiol am hanes blaenorol eu partner o gam-drin neu drais. O’r herwydd, gall yr unigolyn ystyried pa risg y gallai partner posib ei pheri.
Mewn cyfarfodydd rheoli dyddiol mewn ardaloedd plismona lleol, mae’r llu yn ystyried ac yn blaenoriaethu ceisiadau am ddatgeliadau yn unol â’r meini prawf ‘hawl i ofyn’ a ‘hawl i wybod’. Mae swyddogion arbenigol yn ystyried ac yn blaenoriaethu ceisiadau eto yn ystod cyfarfodydd trafodaeth partneriaeth dyddiol.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi 2022, gwnaeth Heddlu Dyfed-Powys 217 o geisiadau ‘hawl i wybod’, sy’n cyfateb i 4.2 cais fesul 10,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn yn uwch na’r cyfartaledd ar draws pob llu yng Nghymru a Lloegr o 3.5 cais fesul 10,000 o’r boblogaeth.
Os yw’r heddlu’n credu y gallai person fod mewn perygl parhaus o gam-drin domestig, gallant wneud cais i’r llysoedd am wneud Gorchymyn Amddiffyn Trais Domestig yn erbyn y troseddwr.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi 2022, gwnaeth Heddlu Dyfed-Powys geisiadau Gorchymyn Amddiffyn Trais Domestig mewn 18.3 o bob 1,000 o droseddau a gofnodwyd yn ymwneud â cham-drin domestig. Roedd hyn yn uwch na’r cyfartaledd ar draws lluoedd Cymru a Lloegr o 12 cais fesul 1,000 o’r boblogaeth.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi 2022, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys hefyd 44 achos o dorri rheolau Gorchymyn Amddiffyn Trais Domestig, sy’n cyfateb i 8.5 achos o dorri fesul 100,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn yn uwch na’r disgwyl o’i gymharu â lluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r llu yn cyfrannu at effeithiolrwydd cyfarfodydd trafod dyddiol amlasiantaethol
Mae’r llu yn gweithio’n effeithiol gydag asiantaethau eraill, megis gofal cymdeithasol oedolion a phlant a gwasanaethau tai a iechyd, i fynd i’r afael â bregusrwydd. Gan nad ydynt i gyd yn gweithio yn yr un adeilad, maent yn cynnal cyfarfodydd rhithwir i drafod achosion risg uchel sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Fel arfer cynhelir y cyfarfodydd rhithwir dri diwrnod yr wythnos, er bod un ardal wedi cynyddu hyn i bedair gwaith yr wythnos i ateb y galw presennol. Mae hwn yn ymrwymiad adnoddau sylweddol i’r heddlu ac asiantaethau partner. Mae swyddogion a staff yn cydweithio’n effeithiol ac yn dosbarthu gwybodaeth mewn modd prydlon i gefnogi diogelu. Ceir cynrychiolaeth eang o bartneriaid ym mhob cyfarfod, er bod rhywfaint o anghysondeb yn y cynrychiolwyr o ardal yr awdurdod lleol.
Yn gyffredinol, mae’r llu yn asesu atgyfeiriadau wedi’u categoreiddio fel risg uchel gan swyddogion o fewn 24 awr. Gwelsom enghreifftiau da o weithio mewn partneriaeth i ddiogelu’r dioddefwyr a nodwyd yn y cyfarfodydd hyn. Mae’r heddlu ac asiantaethau partner yn rhannu gwybodaeth mewn modd prydlon. Mae’r cyfarfodydd yn adolygu’r digwyddiad a hanes y dioddefwr. Yn ystod un cyfarfod, gwelsom fod yr asiantaethau a oedd yn bresennol, a oedd yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, gofal iechyd a gwasanaethau tai, eisoes wedi bod mewn cysylltiad â dioddefwyr ac wedi casglu gwybodaeth. Lle bo’n briodol, roeddent wedi cysylltu ag ysgolion i drefnu gofal bugeiliol i’r plant hynny mewn cartrefi y mae achosion o gam-drin domestig yn effeithio arnynt. Mae hyn yn gadarnhaol, am ei fod yn golygu y gellir trefnu cynllunio diogelwch ar gyfer dioddefwyr yn gyflym, ac mae penderfyniadau amlasiantaethol ynghylch sut i ymateb i risg.
Ar ôl pob trafodaeth achos, mae’r heddlu ac asiantaethau partner yn y cyfarfod yna’n ystyried a yw’r achos yn risg uchel ac angen cymorth pellach. Os felly, byddant yn cyfeirio at y Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) a gynhelir ym mhob ardal blismona leol.
Mae’r llu yn cyfrannu at MARAC sy’n effeithiol ar y cyfan
Mae MARAC wedi hen ymsefydlu o fewn yr heddlu. Fe’u cynhelir bob pythefnos ym mhob un o’r pedair ardal awdurdod lleol. Mae MARAC yn clywed achosion y mae’r llu ac asiantaethau partner eisoes wedi eu hystyried mewn cyfarfod trafod dyddiol. Yn y MARAC yr aethom iddynt, gwelsom bresenoldeb da a chyfranogiad gan asiantaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys:
- gwasanaethau cymdeithasol;
- gwasanaethau plant;
- sefydliadau tai a iechyd; a
- cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a rhywiol (IDVA ac ISVA).
Gwelsom rannu gwybodaeth yn rhagweithiol a gweithgareddau a gynhaliwyd i gefnogi diogelu dioddefwyr a theuluoedd.
Yn ystod ein harolygiad, gwnaethom arsylwi pum MARAC, a oedd i gyd yn cael eu cadeirio gan arolygydd neu ringyll gyda gwybodaeth pwnc. Nid oedd rhai o’r MARAC yn gosod amserlenni na chamau olrhain yn deillio o’r drafodaeth ddyddiol na’r cyfarfod MARAC blaenorol. O’r herwydd, nid oedd yn glir a oedd camau diogelu wedi’u cwblhau. Os nad oeddent, efallai bod hyn wedi gadael unigolion heb y gefnogaeth gywir a heb unrhyw fodd o ddwyn yr asiantaethau i gyfrif.
Canfuom hefyd y gallai’r llu fod yn ailadrodd ymdrechion o fewn prosesau MARAC. Gwnaethom arsylwi y cyfarfodydd dyddiol sy’n digwydd cyn a rhwng MARAC. Canfuom fod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol a bod camau gweithredu wedi’u gosod. Ond digwyddodd y broses hon weithiau eto yn y MARAC. Yn aml, asiantaethau partner sy’n ymuno â’r drafodaeth ddyddiol fyddai’r un partneriaid yn cymryd rhan yn y MARAC. Felly, efallai y byddant yn clywed ac yn rhannu’r un wybodaeth. Efallai y hoffai’r llu feddwl a oes angen y ddwy broses. Gallai ystyried newidiadau bach i’r drafodaeth ddyddiol a allai osgoi’r angen am MARAC.
Nid yw’r swyddogion sy’n ymateb bob amser yn archwilio nac yn cofnodi safbwynt plant mewn cartrefi lle mae digwyddiad cam-drin domestig wedi digwydd
Yn ystod ein harolygiad, cawsom adborth gan dimau arbenigol y gallai ansawdd ffurflenni asesiad risg Cam-drin Domestig, Stelcio, Aflonyddu a Thrais ar sail Anrhydedd ac atgyfeiriadau diogelu neu berson agored i niwed a gyflwynir gan swyddogion ymateb fod yn amrywiol. Dywedwyd wrthym fod rhai swyddogion yn ymddangos yn amharod i siarad â phlant. Gwnaethom adolygu rhai enghreifftiau a chanfod bod rhai o safon dda. Ond yn aml roedd llais y plentyn ar goll neu’n anghyflawn. Gall methu ag archwilio a chofnodi safbwynt plant yn iawn leihau’r tebygolrwydd y bydd y llu yn rhoi’r cymorth cywir ar waith i ddiogelu plant yn y sefyllfaoedd hyn.
Rydym yn sicr, yn dilyn adborth, bod y llu bellach wedi sefydlu proses yn ei gyfarfod llywodraethu dyddiol i sicrhau bod manylion plant yn cael eu gwirio ac yn destun sicrhau ansawdd. Mae’r gwiriadau hyn hefyd yn cynnwys sicrhau ansawdd llais y plentyn. Mae’r llu yn cynnwys y broses hon yn ei fframwaith perfformiad.
Pan fydd y llu yn nodi bod plentyn yn byw mewn cartref lle mae achos o gam-drin domestig wedi digwydd, canfuom fod atgyfeiriad awtomatig i ysgol y plentyn yn cael ei wneud yn dilyn protocolau Ymgyrch Encompass. Mae hyn yn dweud wrth yr ysgol bod eu disgybl yn aelod o aelwyd lle mae cam-drin domestig wedi digwydd. Mae hyn yn helpu’r ysgol i weithredu i gefnogi’r plentyn.
Angen gwella
Rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol o ran rheoli troseddwyr a phobl dan amheuaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddwyr a phobl dan amheuaeth.
Mae’r llu yn dilyn mynd ar ôl troseddwyr yn effeithiol ac yn rheoli pobl dan amheuaeth heb eu trin
Mae’r llu yn goruchwylio dal pobl dan amheuaeth a phobl maent yn chwilio amdanynt yn effeithiol. Mae’r ardal hon wedi gwella ers ein harchwiliad diwethaf. Mae prif swyddogion yn craffu ar weithgarwch sy’n ymwneud â throseddwyr risg uchel heb eu trin yng nghyfarfod rheoli dyddiol y llu. Mae pob uwcharolygydd plismona lleol yn cael ei ddal i gyfrif am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr arestio yn ystod y cyfarfod. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae’r llu yn trafod troseddwyr nad ydynt eto wedi cael eu harestio, ac yn rhoi ymyriadau a chamau gweithredu priodol ar waith. Trafodir troseddwyr y mae adrannau eraill angen help i ddod o hyd iddynt a’u harestio hefyd yn y cyfarfod rheoli dyddiol.
Gwnaethom hefyd arsylwi ar reoli pobl dan amheuaeth a throseddwyr heb eu trin ar lefel fwy lleol. Mae timau cymdogaeth ac arbenigol yn cael y dasg o ddod o hyd i droseddwyr sy’n profi’n anoddach eu dal. Roedd bron pob swyddog y siaradom â nhw yn gadarnhaol ynghylch y ffordd y mae’r llu yn targedu troseddwyr. Mae’r llu yn rhoi sylw penodol i rai mathau o droseddwyr. Er enghraifft, Ymgyrch Manatee yw’r broses ar gyfer arestio pobl sydd dan amheuaeth o gam-drin domestig, ac mae Ymgyrch Wolf yn ymwneud ag unigolion eraill sydd dan amheuaeth o droseddu difrifol.
Mae gan y llu fesurau sicrwydd ar gyfer penderfyniadau rhyddhau dan ymchwiliad, defnyddio mechnïaeth cyn cyhuddo a phresenoldeb gwirfoddol
Canfuom fod y llu yn defnyddio rhyddhawyd dan ymchwiliad (RUI), presenoldeb gwirfoddol a mechnïaeth cyn cyhuddo yn briodol ac yn effeithiol.
Mae’r adran cyfiawnder troseddol yn goruchwylio’r broses rheoli mechnïaeth yn briodol. Mae system ddalfeydd a reolir yn ganolog yn rhoi gwybod i swyddogion pryd mae dyddiadau mechnïaeth yn agosáu. Mae hyn yn eu helpu i gynnal ymchwiliadau cyn gynted â phosib a diogelu dioddefwyr. Mae hefyd yn golygu bod llai o risg y bydd y dyddiadau mechnïaeth yn mynd heibio heb gymryd camau pellach.
Mae’r llu yn dda am nodi cyfleoedd diogelu a gosod amodau mechnïaeth. Roedd mechnïaeth wedi’i deall yn dda yn y llu, yn ogystal â pham y caiff ei defnyddio i ddiogelu dymuniadau’r dioddefwr ac ar gyfer pryderon eraill ynghylch diogelu’r cyhoedd. Mae’r llu yn cynnal asesiad THRIVE os yw rhywun dan amheuaeth yn cael ei ryddhau heb fechnïaeth, neu os yw’r person dan amheuaeth yn cael ei ryddhau o fechnïaeth i RUI. Mae’r dioddefwr yn cael gwybod am y canlyniadau gwaredu ac mae goruchwylwyr yn goruchwylio’r defnydd o fechnïaeth a RUI.
Roedd swyddogion y siaradom â nhw yn deall y prosesau sy’n ymwneud â mechnïaeth, RUI a phresenoldeb gwirfoddol. Roeddent hefyd yn deall pwysigrwydd canolog dioddefwyr i’r prosesau. Mae’r llu yn gwneud defnydd da o’i systemau TG i reoli achosion mechnïaeth a RUI. Bydd y llu yn ychwanegu data ar fechnïaeth ac RUI at ddangosfyrddau data presennol y gall swyddogion eu defnyddio.
Mae’r llu yn sicrhau bod timau sy’n rheoli troseddwyr a allai fod yn beryglus yn cael eu hyfforddi’n briodol, ond nid yw pob aelod o staff yn teimlo’n hyderus yn defnyddio offer arbenigol
Mae’r llu yn gwneud defnydd effeithiol o ystod eang o offer digidol i gefnogi monitro troseddwyr a allai fod yn beryglus. Mae’r llu yn defnyddio rhaglen o’r enw eSafe i fonitro defnydd o’r rhyngrwyd gan droseddwyr rhyw cofrestredig, sy’n aml yn cael ei gosod fel rhan o amodau o fewn gorchymyn atal niwed rhywiol. Ond gwelsom, er bod gan yr heddlu 200 o drwyddedau eSafe, bod llai na 100 yn cael eu defnyddio. Gallai’r llu wella’r ffordd y mae’n dyrannu ac yn defnyddio’r trwyddedau hyn i wneud y gorau o gasglu gwybodaeth a chyfleoedd ymchwiliol.
Dywedodd rhai swyddogion wrthym, er iddynt gael hyfforddiant ymarferol, eu bod yn teimlo’n llai hyderus gydag offer digidol arbenigol eraill oherwydd nad ydynt yn hawdd eu defnyddio. Dylai’r llu ystyried a ddylid monitro defnyddio’r offer hyn a beth y gellid ei wneud i annog defnydd ehangach.
Mae’r llu wedi gwella ansawdd y cynlluniau rheoli risg a ddefnyddir i reoli troseddwyr peryglus
Mae’r llu yn defnyddio’r system rheoli risg gweithredol (ARMS) i reoli’r risg a berir gan droseddwyr peryglus. Mae cynnwys ac ansawdd y cynlluniau rheoli risg wedi gwella ers ein harolygiad diwethaf. Mae’r llu yn cydymffurfio ag arweiniad trefniadau diogelu’r cyhoedd amlasiantaethol ar gyfer cwblhau ARMS.
Roedd yr holl staff y siaradom â nhw yn ymwybodol o’r arweiniad ymarfer proffesiynol awdurdodedig ac yn ceisio sicrhau eu bod yn cwblhau ARMS o fewn y cyfnodau amser gofynnol. Roedd staff yn teimlo eu bod yn gallu cadw i fyny â’r 12 adolygiad misol, ond nid oeddent bob amser yn gallu cwblhau ARMS o fewn y 15 niwrnod i newidiadau mewn unrhyw asiantaeth arweiniol.
Er gwaethaf hyn, gwelsom fod ôl-groniadau mewn asesiadau risg ac ymweliadau yn gymharol fach. Un broblem oedd na allai’r llu ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd am yr ymweliad hynaf heb ei gynnal â throseddwr rhyw cofrestredig. Mae’r wybodaeth hon yn helpu’r heddlu i ddeall lefel y risg mewn timau rheoli troseddwyr a maint y gofynion a roddir arnynt. Dylai’r llu sicrhau bod y lefel hon o fanylder yn hysbys i uwch arweinwyr.
Mae gan y llu ddull cadarnhaol o ymchwilio i ddelweddau anweddus o blant
Gwnaethom arolygu Heddlu Dyfed-Powys yn ystod un o’n harolygiadau thematig diweddar, Arolygiad o ba mor dda y mae’r heddlu a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn mynd i’r afael â cham-drin rhywiol a chamfanteisio ar blant ar-lein. Yn ein harolygiad, gwnaethom ystyried pa mor dda y mae lluoedd yn mynd i’r afael â cham-drin rhywiol ar-lein a chamfanteisio’n rhywiol ar blant. Canfuom fod Heddlu Dyfed-Powys yn cyflogi dadansoddwr i adolygu gwybodaeth gwe-sgwrsio a gymerwyd o gyfrifiaduron pobl dan amheuaeth. Mae hyn yn helpu i nodi troseddwyr posib eraill a phlant sydd wrth risg. Mae’r llu yn ymchwilio i’r achosion mwyaf pryderus ar unwaith, sydd wedi arwain at nifer o blant sydd mewn perygl yn cael eu hadnabod a’u diogelu.
Mae tîm ymchwilio ar-lein pedoffiliaid yr heddlu yn nodi ac yn gweithredu yn erbyn troseddwyr sy’n cyrchu delweddau anweddus o blant
Canfuom fod y llu yn gweithredu’n brydlon ac yn effeithiol yn erbyn troseddwyr sy’n cyrchu delweddau anweddus o blant, yn unol â chyfnodau amser offeryn asesu risg rhyngrwyd Caint. Cafodd yr holl swyddogion a staff eu hyfforddi’n briodol yn y model asesu risg hwn, ac roedd asesiadau risg o ansawdd digonol. Mae lefel y risg a nodwyd yn pennu pa mor brydlon y dylai’r llu gyflawni camau gorfodi. Mae’r camau gweithredu yn cynnwys gwneud cais am warant a’i gweithredu i arestio’r person dan amheuaeth, a chymryd dyfeisiau yr amheuir eu bod yn cael eu defnyddio i gyrchu delweddau anweddus o blant. Canfuom fod y llu yn trin achosion risg uchel a risg canolig yn gyflym. Weithiau, roedd achosion risg isel yn mynd y tu hwnt i’r terfyn amser penodedig, ond nid oedd hyn yn arferol. Roedd ôl-groniadau ac oedi yn gymharol fach.
Mae gwarantau yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â’r uned fforensig ddigidol (DFU). Mae’r DFU yn gyfrifol am archwilio dyfeisiau. Lle bo’n bosib, bydd y DFU hefyd yn darparu swyddog adran ymchwilio i droseddau lleol, a fydd yn dod yn swyddog ar gyfer yr achos. Mae’r tîm ymchwilio ar-lein pedoffiliaid yn rhoi dyfeisiau a gymerwyd i’r DFU i’w harchwilio. Mae’r swyddog adran ymchwilio i droseddau lleol yn yr achos wedyn yn gyfrifol am gynnydd mewn achosion. Mae gan y DFU fan wedi’i haddasu’n arbennig sydd ag offer digidol i frysbennu dyfeisiau a ddefnyddir mewn cyfeiriad penodol.
Gwelsom hefyd fod y llu yn effeithiol wrth rannu pryderon â phartneriaid, megis gofal cymdeithasol plant. Pan nodir bod plentyn wedi’i gysylltu â throseddwr sy’n cael mynediad at ddelweddau anweddus o blant, cyfeirir at ofal cymdeithasol plant mewn digon o amser i drafodaeth strategaeth ddigwydd cyn gweithredu’r warant. Yna gall y gwasanaeth gofal cymdeithasol plant fynychu’r drafodaeth i gefnogi cwblhau gwarant.
Canfuom fod rhai ymchwilwyr yn yr adran ymchwilio i droseddau wedi adrodd am lwyth gwaith uchel oherwydd yr achosion ychwanegol a dderbyniwyd gan y tîm ymchwilio ar-lein pedoffiliaid. Canfuom hefyd fod y ddealltwriaeth o les pobl dan amheuaeth ar ôl arestio yn oddrychol. Canfuom fod y ddealltwriaeth hon yn dibynnu ar sgiliau a gwybodaeth y swyddog yn yr achos a ddyrannwyd o fewn yr adran ymchwilio i droseddau leol.
Digonol
Adeiladu, cefnogi ac amddiffyn y gweithlu
Mae Heddlu Dyfed-Powys angen gwella o ran adeiladu a datblygu ei weithlu.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn datblygu, yn cefnogi ac yn diogelu ei weithlu.
Mae angen i’r llu wella sut mae’n adnabod arweinwyr llinell gyntaf posib
Mae’r tîm uwch-swyddogion yn cael gwybod am unrhyw swyddog sy’n cael ei raddio yn rhagorol yn eu trafodaeth adolygiad datblygiad personol. Mae hyn yn galluogi’r tîm i ystyried eu datblygiad ymhellach. Ond gall y diffiniad o rhagorol fod yn oddrychol. Ac mae pryderon ynghylch defnyddioldeb yr adolygiad datblygiad personol yn awgrymu efallai nad dyma’r ffordd orau o adnabod darpar ymgeiswyr ar gyfer eu datblygu.
Barn gyffredinol y staff y siaradom â nhw oedd bod rhaid i’r unigolion a oedd am symud ymlaen chwilio am gyfleoedd datblygu eu hunain. Priodoledd pwysig i unrhyw arweinydd yw nodi cydweithwyr sydd â photensial arwain neu allu arall. Ond prin y gwelsom dystiolaeth o hyn yn ystod ein harolygiad.
Mae hyn yn golygu y gallai’r llu fod yn colli cyfleoedd i adnabod a datblygu doniau. Dylai’r llu feddwl am y camau y gall eu cymryd i adnabod arweinwyr y dyfodol ac unigolion dawnus eraill.
Mae’r llu yn darparu ystod o fesurau lles, ond prin yw’r ymwybyddiaeth ohonynt ar draws y gweithlu
Mae gan y llu amrywiaeth o opsiynau i gefnogi lles, gan gynnwys:
- Care First (rhaglen cymorth i weithwyr);
- Pencampwyr Golau Glas (cynllun ymwybyddiaeth iechyd meddwl);
- Oscar Kilo (cynllun cymorth cymheiriaid ar gyfer swyddogion heddlu);
- mentora gwrthdro;
- tudalennau cyngor ar les ariannol;
- cefnogaeth rieniol;
- Prostate Cymru;
- cefnogaeth menopos;
- achrediad cyflogwr cyfeillgar i endometriosis; a
- rhwydweithiau cefnogi staff.
Ond roedd ymwybyddiaeth staff o’r ystod o opsiynau cefnogaeth yn ymddangos yn gyfyngedig, yn enwedig ymhlith timau ymateb a phlismona yn y gymdogaeth. Roedd y rhan fwyaf yn gwybod bod gan yr heddlu uned iechyd galwedigaethol (OHU), ond nid oeddent yn gwybod mwy na hynny. Dywedodd y rhan fwyaf o swyddogion y byddent yn mynd at eu harweinydd llinell gyntaf pe bai angen cymorth arnynt. Gallai hyn olygu na fydd swyddogion yn cael y cymorth cywir, yn enwedig am nad oedd rhai goruchwylwyr yn gwbl ymwybodol o’r ystod o opsiynau cefnogaeth a oedd ar gael.
Mae safle lles penodol ar fewnrwyd yr heddlu yn rhoi arweiniad ac yn rhannu gweithgareddau a allai helpu swyddogion a staff i wella a chynnal eu lles. Ond ychydig iawn o staff y siaradom â nhw oedd yn ymwybodol o’i fodolaeth. Dywedodd y rhai a oedd yn ymwybodol o’r safle mewnrwyd fod mewnrwyd y llu yn anodd ei lywio. Dylai’r llu ystyried sut y gallai wella ymwybyddiaeth swyddogion o’r opsiynau lles sydd ar gael.
Mae’r heddlu wedi gwella capasiti a gallu ei OHU
Mae’r llu wedi wynebu heriau sylweddol o ran adnoddau ei OHU. Mae swyddi gwag wedi effeithio ar amserau aros i bobl sy’n ceisio defnyddio’r gwasanaeth. Gwnaed hyn yn waeth gan ddaearyddiaeth wledig helaeth Dyfed-Powys. Ac mae rhai clinigwyr wedi gorfod cyflawni dyletswyddau gweinyddol tra bod swyddi yn wag. Ond mae’r llu wedi bod yn rhagweithiol wrth recriwtio i lenwi swyddi. Yn 2022, penododd y llu reolwr newydd, ac ers hynny mae wedi llenwi pob swydd wag. O ganlyniad, mae’r llu yn adrodd ei fod wedi lleihau amser aros yr OHU yn sylweddol i gyfartaledd o 11 diwrnod.
Mae tîm yr OHU wedi sicrhau eu bod yn gweithio tuag at gyflawni safonau’r Ansawdd Effeithiol Diogel Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol. Mae’r rheolwr wedi sicrhau bod y tîm yn cynnal datblygiad proffesiynol parhaus yn fisol i wella’r gwasanaeth y mae’r OHU yn ei gynnig. Mae’r rheolwr hefyd wedi sicrhau bod yr OHU yn mabwysiadu protocolau goruchwylio ac archwilio clinigol. Mae’r OHU yn trosglwyddo ei holl gofnodion papur i gronfa ddata electronig, a fydd hefyd yn gwella ei pherfformiad.
Mae’r OHU wedi cael ei hadolygu gan gymheiriaid, ac mae’n gweithio’n gadarnhaol drwy gynllun gweithredu 27 pwynt. Dywedodd y llu wrthym fod 18 allan o 27 o’r camau hyn wedi’u cwblhau erbyn mis Mawrth 2023.
Nododd swyddogion a goruchwylwyr sydd wedi cael mynediad at yr OHU brofiadau cadarnhaol a oedd yn gwella eu hiechyd a’u lles.
Mae gan y llu ymateb rheoli risg effeithiol i ddigwyddiadau trawmatig yn y gwaith
Gwelsom dystiolaeth dda bod yr heddlu yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo rheoli risg trawma (TRiM). Dangosodd bron pob swyddog y siaradom â nhw ymwybyddiaeth o gynllun TRiM ac ymrwymiad yr heddlu i’w hyrwyddo. Mae’r llu hefyd wedi cydnabod bod TRiM wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer digwyddiadau critigol. Mae’n cyflwyno proses newydd o’r enw ADJUST, a fydd yn dilyn rhai egwyddorion TRiM ond a fydd ar gael i ystod ehangach o swyddogion ar gyfer mwy o ddigwyddiadau. Dylai hyn fod yn gam cadarnhaol i wella lles cyffredinol staff.
Mae gan y llu ddealltwriaeth dda o’r heriau y mae recriwtiaid newydd yn eu hwynebu
Mae’r llu wedi gwneud cynnydd da o ran recriwtio swyddogion drwy’r Rhaglen Ymgodiad yr Heddlu newydd a rhaglenni mynediad fframwaith cymwysterau addysg plismona. Mae’r llu wedi buddsoddi mwy o adnoddau yn ei dîm dysgu a datblygu i sicrhau y gall gefnogi a hyfforddi’r swm o recriwtiaid newydd. Mae hyn yn cynnwys rhingyll ac wyth cwnstabl. Mae’r llu hefyd wedi creu dwy swydd newydd cymorth i fyfyrwyr swyddogion, i gynnig cefnogaeth fugeiliol i’r myfyrwyr.
Mae’r holl diwtoriaid sy’n cael eu neilltuo i fyfyriwr yn cael eu hyfforddi i safon genedlaethol. Mae’r pennaeth dysgu a datblygu yn gwirio ddwywaith yr wythnos gydag arweinwyr adrannol i gefnogi cynnydd myfyrwyr.
Mae’r llu bob amser yn ceisio sicrhau nad yw myfyrwyr swyddogion yn gweithio ar eu pennau eu hunain mewn lleoliadau anghysbell, ond ni allant bob amser sicrhau hyn oherwydd gofynion gweithredol. Dywedodd rhai myfyrwyr eu bod yn teimlo’n agored i niwed ac nad oedd ganddynt yr offer i ddelio â rhai materion gweithredol. Yn yr achosion hyn, gallai cyfaill neu fentor gynnig cefnogaeth werthfawr. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gennym rhwng 14 Chwefror a 24 Mawrth 2023, fodd bynnag, nid oedd gan 62.2 y cant o recriwtiaid newydd gyda llai na phum mlynedd o wasanaeth yn y sector (97 o 156 o ymatebwyr) gyfaill na mentor. Mae hyn yn rhywbeth y gallai’r llu ei adolygu.
Dywedodd llawer o fyfyrwyr fod gwneud gradd yn ogystal â gwaith heddlu yn straen, ac yn cael effaith sylweddol ar eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Dywedodd llawer o fyfyrwyr eu bod yn aml yn gweithio ar ddiwrnodau gorffwys i gwblhau portffolio eu gradd. Ond mae’r llu wedi bod yn rhagweithiol wrth sicrhau bod swyddogion yn cael diwrnodau dysgu gwarchodedig ar gyfer eu datblygiad parhaus.
Mae swyddogion myfyrwyr yn cael sesiynau unigol personol gyda thiwtoriaid yn wythnos 3 ac wythnos 21 i drafod cynnydd a lles. Dywedodd rhai myfyrwyr y byddent yn croesawu rhagor o sesiynau yn ystod y cyfnod dwys hwn o newid. Ond roedd yn galonogol nodi bod 92.4 y cant o recriwtiaid newydd (144 o 156 o ymatebwyr) yn cytuno bod eu rheolwr llinell yn meithrin amgylchedd o ymddiriedaeth a hyder.
Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr swyddogion yn ymddangos yn gyffrous ynghylch y posibilrwydd o ddod yn swyddogion heddlu cadarnhaol, ac roeddent yn edrych ymlaen at yrfa gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd staff eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwahaniaethol
Roedd bron neb o’r staff y siaradom â nhw yn ystod ein harolygiad erioed wedi bod yn dyst i unrhyw ymddygiad gwahaniaethol. Dywedodd y rhan fwyaf y byddent yn teimlo’n hollol gyfforddus yn herio ymddygiad o’r fath petaent yn ei weld. Roedd y rhan fwyaf o staff hefyd yn credu y byddai eu goruchwylwyr yn herio ymddygiad gwahaniaethol o’r fath.
Cefnogwyd y canfyddiadau hyn gan arolwg staff a gynhaliom, a oedd yn nodi bod:
- 93.2 y cant (603 o 647 o ymatebwyr) yn cytuno bod eu rheolwr llinell yn creu amgylchedd gwaith moesegol; a
- 92.5 y cant (598 o 647 ymatebwyr) yn cytuno bod eu rheolwr llinell yn herio ymddygiad gwahaniaethol.
Mae’r llu yn ymdrechu i gadw recriwtiaid newydd a deall pam y gallent adael yr heddlu
Mae’r llu wedi mabwysiadu’r fframwaith ymadawyr cynnar, ac mae ganddo broses i annog pobl a allai ystyried gadael cyn ymddeol i ‘ddweud ac aros’. Anogir goruchwylwyr i gael sgyrsiau cynnar gyda darpar ymadawyr i ddeall y rhesymau pam y gallent fod yn ystyried newid gyrfa.
Mae arbenigwyr AD bellach yn cynnig cynnal cyfweliadau ymadael gyda’r holl ymadawyr i ddeall rhwystrau i gadw staff. Nod hyn yw rhoi mwy o hyder i’r rhai sy’n gadael siarad yn agored am eu rhesymau dros adael. Mae hyn hefyd yn caniatáu i’r llu ystyried mynd i’r afael â’r ffactorau a allai achosi i berson adael, os yw’n briodol. Bydd canfyddiadau cyfweliadau ymadael hefyd yn rhoi mwy o eglurder i’r heddlu ar unrhyw batrymau a thueddiadau dros amser, fel y gall ystyried camau gweithredu perthnasol. Nododd adborth gan sawl swyddog bod costau byw a chyflog yn ffactorau sylweddol a oedd yn cyfrannu at adael yr heddlu, yn enwedig i swyddogion gyda chymudiadau hir, o ystyried cost uwch tanwydd.
Mae’r llu yn trafod ymadawyr mewn cyfarfodydd grŵp adnoddau strategol i ystyried opsiynau ar gyfer cadw. Canfuom fod gwybodaeth am pam y gallai swyddogion ystyried gadael yn ddatblygedig ac yn aeddfed ar y lefel strategol. Ond gallai goruchwylwyr llinell gyntaf elwa o wybod mwy am y themâu a nodwyd yn y cyfarfodydd adnoddau. Gall hysbysu mwy o oruchwylwyr ynghylch y rhwystrau i gadw eu helpu i gynnig cymorth wedi’i deilwra’n lleol ac annog pobl i aros yn y llu.
Mae’r llu yn creu cyfleoedd i swyddogion a staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ddatblygu a symud ymlaen
Gwelsom oruchwyliaeth strategol, llywodraethu a chymhwyso adnoddau cadarnhaol i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd hyn yn cynnwys goruchwyliaeth glir gan uwch swyddogion.
Mae gan y llu:
- cynllun gweithredu hil clir;
- strategaeth gweithredu cadarnhaol;
- grŵp gweithlu cynrychioliadol sefydledig sy’n adrodd yn ôl i’r grŵp cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; a
- grŵp diwylliannol.
Canmolodd y Coleg Plismona’r llu am ei asesiad effaith ar gydraddoldeb. Mae gan y llu gynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer recriwtio, cadw a datblygu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Roedd uwch arweinwyr yn ymroddedig ac yn angerddol am y ffrwd waith hon.
Mae’r llu yn defnyddio ‘cyfrifiannell effaith andwyol’ i fonitro effaith cyfleoedd am ddyrchafiad. Mae hyn yn sicrhau nad yw grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol dan anfantais annheg mewn gweithdrefnau dyrchafu sefydledig. Mae opsiynau cymorth ychwanegol ar gael i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys gweithdai ymgyfarwyddo, ymarfer a pharatoi ar gyfer cyfweliad, a rhaglen sbringfwrdd ar gyfer swyddogion benywaidd. Mae’r llu hefyd yn cynnig rhaglenni dysgu i gefnogi swyddogion a staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hyn yn galonogol, ond nid oedd pob swyddog ac aelod staff y siaradom â nhw yn ymwybodol o’r mesurau hyn.
Ar hyn o bryd, nid oes gan y llu unrhyw swyddogion benywaidd yn uwch na rheng uwcharolygydd. Ond mae’r llu yn adolygu dulliau i roi cyfleoedd i ddarpar uwch arweinwyr benywaidd helpu eu datblygiad a’u cynnydd.
Mae’r llu yn helpu rhwydweithiau cefnogi staff i annog ceisiadau am ddyrchafiad neu ddatblygu ochrol gan staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r llu wedi cynnal grwpiau ffocws gyda swyddogion a staff benywaidd i drafod y rhwystrau i gynnydd. Mae’r llu yn hybu ac yn gwerthfawrogi gallu iaith Gymraeg ar bob lefel.
Angen gwella
Arweinyddiaeth a rheoli’r llu
Mae arweinyddiaeth a rheoli Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol.
Mae’r llu yn defnyddio data yn effeithiol i ddeall ei gyllid
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio data yn effeithiol i reoli a deall ei gyllid. Mae hyn yn sicrhau bod y llu yn deall gwir gost ei adnoddau a lefel y cyllid sydd ar gael. Mae ganddo ddull disgybledig o ddefnyddio cyllid yn effeithiol a chefnogi’r timau rheoli ehangach i wneud arbedion.
Er enghraifft, mae cyfarfod perfformiad yr heddlu yn cynnwys adran ar adrodd ariannol. Yn ystod y cyfarfod hwn, gall yr arweinydd ariannol esbonio beth mae’r llu yn ei wario ac ym mha feysydd. Mae’r data hwn ar gael i lawr i lefel swyddogion rheng flaen, ac mae’n gysylltiedig â pherfformiad. Mae’n hawdd deall y taflenni data a ddefnyddir i reoli cyllid. Mae’r adran gyllid yn defnyddio systemau data effeithiol i sicrhau bod y taflenni data hyn ar gael. Mae’r wybodaeth a drafodir hefyd yn ymdrin â chyllid lluoedd tebyg a statws cyllid yn genedlaethol i ganiatáu i Heddlu Dyfed-Powys gymharu ei berfformiad ariannol â lluoedd eraill. Mae’r adroddiad ariannol hwn yn ddarn manwl o waith a gefnogir gan fuddsoddiad mewn Cyflawni Rhagoriaeth Ariannol mewn Plismona. Bydd hyn yn rhoi’r llu mewn sefyllfa gref i ddeall buddsoddiadau a chynhyrchiant.
Mae’r llu eisoes yn rhannu’r arfer gyda lluoedd eraill yn genedlaethol.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth a rheoli.
Mae cynlluniau ariannol yr heddlu, gan gynnwys ei raglen fuddsoddi, yn fforddiadwy, a byddant yn helpu’r llu i barhau i fodloni gofynion yn y dyfodol
Mae’r llu yn dangos rheolaeth ariannol effeithiol. Mae’n gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael. Ac mae ei gynlluniau ariannol yn uchelgeisiol ac yn gynaliadwy. Cyfanswm y cyllid ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys yw £133.414 miliwn y flwyddyn. Cododd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yr archebiant £1.87 y mis ar gyfer eiddo band D yn ardal y llu i £22.49 y flwyddyn (cynnydd o 7.75 y cant). Bydd y cynnydd hwn yn codi cyfanswm archebiant o £72.518 miliwn.
Mae’r rhagolygon ariannol o fewn y cynllun ariannol canol tymor yn seiliedig ar ragdybiaethau realistig ynghylch cyllid a gwariant yn y dyfodol. Mae angen i’r llu wneud arbedion, ac mae wedi nodi’r meysydd lle byddant yn cael eu gwneud. Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi nodi £6.4 miliwn o arbedion i’w gwneud yn 2022/23. Mae’r llu yn amcangyfrif y bydd angen gwneud arbedion pellach dros y tymor canolig i gydbwyso’r gyllideb a chynnal lefelau presennol gwasanaeth.
Mae’r llu yn hyderus bod modd cyflawni’r arbedion gofynnol. Ond nid yw’n llenwi swyddi gwag, sy’n golygu bod gwaith ychwanegol yn cael ei drosglwyddo i staff a swyddogion presennol. Dylai’r llu barhau i fonitro a deall y cynnydd yn y galw a achosir gan y gyfradd swyddi gwag.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, derbyniodd Dyfed-Powys 48.6 y cant o’i gyllid o archebiant. Mae hyn yn uwch na’r disgwyl o’i gymharu â lluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.
Ffigure 3: Cyfran o’r cyllid a dderbyniwyd drwy archebiant ar draws yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023
Mae gan y llu fframwaith cynllunio strategol sy’n sicrhau ei fod yn mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, ond mae rhai bylchau yn y fframwaith
Mae uwch swyddogion yn deall blaenoriaethau’r llu yn effeithiol. Ond nid yw cyfathrebu strategaeth yr heddlu bob amser yn glir i swyddogion rheng flaen. Weithiau nid oedd y swyddogion hyn yn gallu esbonio blaenoriaethau’r llu a sut roeddent yn ymwneud â’u gweithgareddau rheolaidd. Mae’r llu yn adolygu ei fodel gweithredu yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben ac yn gallu ymateb i ofynion sy’n newid. Ac mae trefniadau llywodraethu’r llu yn dangos rhywfaint o ddefnydd effeithiol o ddata, sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o agweddau ar ei berfformiad. Ond roedd sawl mesur perfformiad manylach ar goll mewn rhai meysydd plismona pwysig. Roedd hyn yn wir ym meysydd cam-drin domestig, lle nad oedd digon o oruchwyliaeth a llywodraethu o ran perfformiad cyffredinol yr heddlu. Golyga hyn fod rhai meysydd perfformiad gwael ar draws y llu ddim yn cael eu cydnabod, a allai adael pobl yn agored i risg bellach o niwed.
Mae’r llu yn dechrau buddsoddi mewn ymagwedd arweinyddiaeth strwythuredig, ond mae angen iddo sicrhau bod uwch arweinwyr yn weladwy
Gwelsom lawer o bositifrwydd yn y llu o ran arweinyddiaeth ‘llinell gyntaf’. Roedd y rhan fwyaf o’r swyddogion a’r staff y siaradom â nhw yn gadarnhaol am eu goruchwylwyr a’u harweinwyr uniongyrchol, gan ddweud bod llawer yn ofalgar ac yn dosturiol. Yn yr arolwg gweithlu a gynhaliom, cytunodd 84.5 y cant o’r ymatebwyr (547 allan o 647) â’r datganiad bod eu rheolwr llinell yn meithrin amgylchedd o ymddiriedaeth a hyder. Dywedodd y rhan fwyaf fod gan y llu “ymdeimlad teuluol”.
Ond dywedodd llawer o swyddogion nad oedd hyn yn ymestyn drwy bob lefel arweinyddiaeth. Adroddodd rhai grwpiau mai ychydig o ryngweithio oedd gydag arolygwyr, prif arolygwyr ac uwcharolygwyr, os o gwbl. Nododd swyddogion fod rhai uwcharolygwyr yn rhagweithiol iawn. Ond roedd rhai yn adrodd ymagwedd lai gweladwy, yn enwedig mewn lleoliadau mwy anghysbell. Dywedodd rhai swyddogion fod gan arweinwyr arddull arweinyddiaeth gefnogol iawn. Adroddodd swyddogion eraill achlysuron pan ymddengys bod yr ymagwedd at arweinyddiaeth yn drafodaethol.
Cytunodd rhai swyddogion y gallai galwadau ar uwch arweinwyr a daearyddiaeth helaeth eu hardaloedd effeithio ar eu hargaeledd. Ond roedd rhai swyddogion yn teimlo y gallai rhai uwch arweinwyr wneud mwy i wella arweinyddiaeth weladwy.
Ar adeg ein harolygiad, roedd y llu wedi datblygu rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth i helpu i gefnogi ei arweinwyr, sydd i fod i ddechrau ym mis Rhagfyr 2023. Ac mae’r llu wedi ymrwymo i sicrhau bod uwch arweinwyr yn fwy gweladwy ac yn ymgysylltu mwy â’r gweithlu. Roedd y dull newydd hwn wedi dechrau ychydig cyn ein harolygiad, ac roedd yn cynnwys y prif gwnstabl cynorthwyol yn ymweld ag ardaloedd o fewn yr heddlu i siarad â swyddogion a staff. Dylai’r llu sicrhau bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu ar draws pob rheng.
Digonol
Am y data
SYLWCH: Mae’r holl ddolenni yn y deilsen hon yn mynd â chi i dudalen Saesneg, defnyddiwch y botwm Cymraeg ar frig y dudalen ar y chwith i gyfieithu’r dudalen i’r Gymraeg.
Data in this report is from a range of sources, including:
- Home Office;
- Office for National Statistics (ONS);
- our inspection fieldwork; and
- data we collected directly from all 43 police forces in England and Wales.
When we collected data directly from police forces, we took reasonable steps to agree the design of the data collection with forces and with other interested parties such as the Home Office. We gave forces several opportunities to quality assure and validate the data they gave us, to make sure it was accurate. We shared the submitted data with forces, so they could review their own and other forces’ data. This allowed them to analyse where data was notably different from other forces or internally inconsistent.
We set out the source of this report’s data below.
Methodology
Data in the report
British Transport Police was outside the scope of inspection. Any aggregated totals for England and Wales exclude British Transport Police data, so will differ from those published by the Home Office.
When other forces were unable to supply data, we mention this under the relevant sections below.
Outlier Lines
The dotted lines on the Bar Charts show one Standard Deviation (sd) above and below the unweighted mean across all forces. Where the distribution of the scores appears normally distributed, the sd is calculated in the normal way. If the forces are not normally distributed, the scores are transformed by taking logs and a Shapiro Wilks test performed to see if this creates a more normal distribution. If it does, the logged values are used to estimate the sd. If not, the sd is calculated using the normal values. Forces with scores more than 1 sd units from the mean (i.e. with Z-scores greater than 1, or less than -1) are considered as showing performance well above, or well below, average. These forces will be outside the dotted lines on the Bar Chart. Typically, 32% of forces will be above or below these lines for any given measure.
Population
For all uses of population as a denominator in our calculations, unless otherwise noted, we use ONS mid-2020 population estimates.
Survey of police workforce
We surveyed the police workforce across England and Wales, to understand their views on workloads, redeployment and how suitable their assigned tasks were. This survey was a non-statistical, voluntary sample so the results may not be representative of the workforce population. The number of responses per force varied. So we treated results with caution and didn’t use them to assess individual force performance. Instead, we identified themes that we could explore further during fieldwork.
Victim Service Assessment
Our victim service assessments (VSAs) will track a victim’s journey from reporting a crime to the police, through to outcome stage. All forces will be subjected to a VSA within our PEEL inspection programme. Some forces will be selected to additionally be tested on crime recording, in a way that ensures every force is assessed on its crime recording practices at least every three years.
Details of the technical methodology for the Victim Service Assessment.
Data sources
999 calls
Data on 999 calls is provided by BT. Call answering time is the time taken for a call to be transferred from BT to a force, and the time taken by that force to answer the call. This data is provided for all 43 police forces in England and Wales and covers the year ending 31 March 2023
Crime outcomes
We took data on crime outcomes from the April 2023 release of the Home Office police-recorded crime and outcomes data tables.
Total police-recorded crime includes all crime (except fraud) recorded by all forces in England and Wales (except BTP). Home Office publications on the overall volumes and rates of recorded crime and outcomes include British Transport Police, which is outside the scope of this HMICFRS inspection. Therefore, England and Wales rates in this report will differ from those published by the Home Office.
Police-recorded crime data should be treated with care. Recent increases may be due to forces’ renewed focus on accurate crime recording since our 2014 national crime data inspection.
For a full commentary and explanation of crime and outcome types please see the Home Office statistics.
Clare’s Law
We requested data on applications and disclosures under Clare’s Law directly from all 43 police forces in England and Wales. This data is as provided by forces in October 2022 and refers to the 12 months to 30 September 2022.
Domestic Violence Protection Orders
We collected this data directly from all 43 police forces in England and Wales. This data is as provided by forces in October 2022 and covers the year ending 30 September 2022
Funding
We collected this data directly from all 43 police forces in England and Wales. This data is as provided by forces in April 2023.
Gwybodaeth Bellach a Dogfennau
SYLWCH: Mae’r holl ddolenni yn y deilsen hon yn mynd â chi i dudalen Saesneg, defnyddiwch y botwm Cymraeg ar frig y dudalen ar y chwith i gyfieithu’r dudalen i’r Gymraeg.
Download the PDF report
Dyfed Powys PEEL assessment 2023–2025
More about Dyfed Powys Police
You can find more about Dyfed Powys Police on our dedicated force page.
What Dyfed Powys Police says
The force area’s 518,062 residents are spread over 4,188 square miles, which is over half the land mass of Wales. We have 13,842 miles of roads, two large ports, and 350 miles of coastline. Rurality impacts the way we serve and engage with the public, and we have a dedicated rural crime team.
The niche operating system has been a period of significant change over recent months which has impacted the force in several areas, such as training, file preparation, resilience and wellbeing of staff and officers.
Read more from Dyfed Powys Police
Our work
Find out more about HMICFRS’s work and other inspection areas.
Other forces
Find out how well other forces have performed during their PEEL assessment.
Progress
You can view the recommendations for all forces made by HMICFRS on our Progress against recommendations page. This shows how much progress has been made on these recommendations.
Data and methodology
Detailed information about the inspection methodology