Crynodeb cyffredinol
Ein barn
Gwnaeth ein harolygiad asesu pa mor dda yw Heddlu Dyfed-Powys mewn 13 maes o blismona. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig mewn 11 o’r 13 hyn fel a ganlyn:
Gwnaethom hefyd arolygu pa mor dda y mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Gofyniad Plismona Strategol, a pha mor dda y mae’n diogelu’r cyhoedd rhag bygythiadau arfog. Nid ydym yn gwneud dyfarniadau graddedig yn y meysydd hyn.
Rydym yn nodi ein canfyddiadau manwl am bethau y mae’r llu yn eu gwneud yn dda ac unrhyw feysydd i’w gwella yng ngweddill yr adroddiad hwn.
Gwirfoddolodd tri llu i beilota ein dull newydd o PEEL. Dyma oedd y tri llu a wnaeth wirfoddoli:
- Heddlu Dyfed-Powys;
- Heddlu Suffolk; ac
- Heddlu Glannau Mersi.
Oherwydd bod y lluoedd hyn wedi gwirfoddoli i beilota ein dull newydd, gwnaethom gynnig ymweld â nhw eto, pan wnaethom adolygu unrhyw dystiolaeth newydd a allai newid un o’n dyfarniadau. Ni gwnaethom arolygu’r llu yn llawn eto; yn hytrach, gwnaethom ganolbwyntio ar y meysydd lle’r oeddem wedi asesu bod angen ar y llu i’w gwella yn ystod ein harolygiad cychwynnol.
Gwnaethom ein dyfarniadau cychwynnol ym mis Mai 2021 a’n dyfarniadau o’r ail hymweliad ym mis Mai 2022.
Data yn yr adroddiad hwn
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan i weld yr adroddiad hwn a dewiswch yr adran ‘Am y data’.
Newidiadau pwyisg i PEEL
Yn 2014, cyflwynwyd ein harolygiadau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlondeb heddlu (PEEL), sy’n asesu perfformiad pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, rydym wedi bod yn addasu ein dull gweithredu yn barhaus ac rydym wedi gweld y newidiadau mwyaf arwyddocaol yn ystyod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym yn symud tuag at ddull asesu parhaus, sy’n cael ei arwain gan ddeallusrwydd, yn hytrach na’r arolygiadau PEEL blynyddol a ddefnyddiwyd gennym mewn blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, rydym wedi integreiddio ein rhaglen dreigl o arolygiadau cywirdeb data troseddu i’r asesiadau PEEL hyn. Bydd ein hasesiad gwasanaeth dioddefwyr PEEL nawr yn cynnwys elfen cywirdeb data troseddu mewn pob asesiad arall o leiaf. Rydym hefyd wedi newid ein dull o lunio dyfarniadau graddedig. Rydym bellach yn asesu lluoedd o ran nodweddion perfformiad da, a nodir yn Fframwaith Asesu PEL 2021/22, ac rydym yn cysylltu ein dyfarniadau ar gyfer achosion pryder a meysydd i’w gwella yn gliriach. Rydym hefyd wedi ehangu ein system flaenorol ar gyfer llunio dyfarniadau o bedair lefel i bum lefel. O ganlyniad, gallwn ddatgan yn fwy manwl lle rydyn ni’n ystyried bod angen gwelliant ac amlygu y ffyrdd gorau o wneud pethau yn fwy effeithlon.
Fodd bynnag, mae’r newidiadau hyn yn golygu nad yw’n bosib gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y graddau a ddyfarnwyd eleni a’r graddau o arolygiadau blaenorol PEEL. Nid yw gostyngiad o ran dyfarnu gradd, yn enwedig o fod yn dda i fod yn ddigonol, o reidrwydd yn golygu bod y perfformiad wedi bod yn llai, oni bai bod yn cael ei nodi gennym yn yr adroddiad.
Y cyd-destun gweithredu i luoedd Cymru
Mae’n bwysig cydnabod bod lluoedd yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd‑destun gwahanol i luoedd yn Lloegr. Er nad yw plismona a chyfiawnder wedi’i ddatganoli i Gymru, mae gwasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, llety, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn ddatganoledig. Mae hyn yn golygu bod gweithgareddau heddlu a chyfiawnder Cymru o ran perfformiad a chyd-destunau deddfwriaethol yn unigryw. Yng Nghymru, mae sefydliadau datganoledig a rhai sydd heb gael eu datganoli yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu’r lefel orau bosib o wasanaeth i bobl leol.
Weithiau, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i luoedd Cymru gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol Cymru a Lloegr.
Sylwadau Arolygydd EM
Rwy’n falch o berfformiad Heddlu Dyfed-Powys wrth gadw pobl yn ddiogel a lleihau troseddu, er bod angen iddynt wella mewn rhai meysydd er mwyn rhoi gwasanaeth da sy’n gyson.
Dyma’r canfyddiadau yr ydw i’n eu hystyried i fod y fwyaf pwysig o’n hasesiadau o’r llu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r llu’n adnabod galwyr sy’n ffonio sawl tro a’r rhai sy’n agored i niwed, ac mae ei broses cofnodi troseddau o safon ddigonol
Mae systemau TG gwell yng nghanolfan gyfathrebu’r llu yn helpu i nodi galwyr sy’n ffonio sawl tro. Mae hyn yn golygu y gellir ystyried unrhyw fregusrwydd o ran dull y llu o drin y dioddefwr. Mae’r llu wedi gwella ei broses cofnodi troseddau ac rydym yn amcangyfrif bod Heddlu Dyfed-Powys yn cofnodi 91.6 y cant (gan gynnwys cyfwng hyder +/- 2.7 y cant) o’r holl droseddau a adroddwyd (heb gynnwys twyll).
Mae angen i’r llu wella’r ffordd y mae’n craffu ar stopio a chwilio a defnydd o rym
Nid yw’r llu yn ystyried y data yn fanwl iawn. Nid yw hefyd yn gwneud dadansoddiad i ddeall yn iawn os yw’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio’n deg ac effeithiol. Nid yw’r ffurflenni ‘defnydd o rym’ bob amser yn cael eu cwblhau.
Mae plismona bro yn gweithio’n dda, ac mae’r llu yn blaenoriaethu atal troseddu ac yn cydweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn datrys problemau
Mae gan y llu ddull effeithiol o ddatrys problemau. Mae’n gweithio gydag asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus ac yn canolbwyntio ar atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu pobl sy’n agored i niwed. Mae timau bro yn cysylltu ac yn gweithio gyda’u cymunedau.
Mae’r llu yn cynnal y mwyafrif o’i ymchwiliadau ar ran dioddefwyr yn dda, ond mae angen gwella sut mae’n ymchwilio i stelcian ac aflonyddu
Gwnaethom ganfod bod ymchwiliadau yn digwydd yn effeithiol ac yn amserol, a’u bod yn cael eu cynnal gyda goruchwyliaeth briodol. Cafodd y mwyafrif o ddioddefwyr eu diweddaru drwy gydol yr ymchwiliadau. Ond, mae angen gwella safon ymchwiliadau stelcian ac aflonyddu.
Mae trefniadau effeithiol mewn lle i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed
Mae swyddogion a staff yn deall pwysigrwydd diogelu pobl sy’n agored i niwed, ac mae’r llu’n gweithio gydag asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth a deall bregusrwydd yn well.
Mae dealltwriaeth dda o les staff a swyddogion a sut i ddatblygu’r gweithlu
Mae’r llu yn cynnig ystod dda o gymorth lles i’w weithlu, ac yn cymryd camau i wneud ei weithlu’n fwy cynrychioliadol yn ei gymunedau.
Mae’r llu yn rhoi gwerth am arian i’r cyhoedd ac yn rheoli’r galw yn dda
Mae gan y llu ddealltwriaeth effeithiol o’r galw ym mhob maes. Mae’n sicrhau bod ganddo’r gallu a’r lle i ddiwallu a rheoli gofynion presennol a rhai yn y dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithlon.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r llu wedi rhoi prosesau newydd ar waith sydd wedi arwain at welliannau mewn gwahanol feysydd. Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau mwy fanwl yr arolygiad hwn a byddaf yn parhau i fonitro cynnydd y llu.
Wendy Williams
Arolygydd Heddlu EM
Asesiad lleihau troseddu
Rydym wedi nodi saith thema sy’n sail i allu llu i leihau troseddu’n effeithiol sydd, gyda’i gilydd, yn caniatáu asesiad o’r graddau y mae’r llu yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau troseddu. Asesiad naratif yw hwn, gan y gall ffigurau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu gael eu heffeithio gan amrywiadau a newidiadau mewn polisi ac ymarfer cofnodi, gan ei gwneud hi’n anodd gwneud cymariaethau dros amser.
Mae gan y llu ethos o atal troseddu. Gwelsom enghreifftiau da o broblemau yn cael eu datrys gyda gwaith dadansoddi. Mae swyddogion lleol yn gweithio gydag asiantaethau eraill i ddefnyddio tactegau ataliol, yn seiliedig ar strategaeth plismona bro gynhwysfawr.
Ffactorau eraill sy’n cyfrannu at allu’r llu i leihau troseddu yw:
- gwell perthynas â’i holl gymunedau, meithrin ymddiriedaeth a hyder i ganiatau casglu cudd-wybodaeth a helpu i leihau troseddu;
- gallu ei swyddogion i adnabod pobl sy’n agored i niwed a rhoi diogelu ar waith;
- ei broses cofnodi troseddau, sydd o safon ddigonol;
- ei ddealltwriaeth o’r galw a’r gallu yn ei dimau bro, gan sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i ddeilio â digwyddiadau yn effeithiol ac i gynnal gweithgareddau atal troseddu;
- ei uned asesu risg eilaidd, sy’n dod ag arbenigwyr o bob rhan o’r llu at ei gilydd i weithio gyda sefydliadau eraill i gefnogi pobl sy’n agored i niwed; ac
- ei raglen rheoli integredig troseddwyr, sy’n seiliedig ar droseddwyr sy’n achosi’r bygythiad, risg a’r niwed mwyaf.
Rwy’n falch bod y llu yn mynd i’r afael â’r meysydd cywir o blismona i leihau troseddu.
Ond, mae’n bosib y bydd y maes canlynol yn effeithio yn negyddol ar allu’r llu I leihau troseddu:
- cwblhau ymchwiliadau troseddu gan ddefnyddio canlyniadau nad yw wedi’u penderfynu mewn llys sy’n amhriodol I’r troseddwr oherwydd ymddygiad troseddu blaenorol.
Darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol am ddarparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau o ran pa mor dda y mae’r llu yn darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau.
Mae’r broses cofnodi troseddau’r llu o safon ddigonol o ran sicrhau bod dioddefwyr yn cael lefel briodol o wasanaeth
Mae’r broses cofnodi troseddau’r lle wedi gwella. Rydym yn amcangyfrif bod Heddlu Dyfed-Powys yn cofnodi 91.6 y cant (gan gynnwys cyfwng hyder o +/- 2.7 y cant) o’r holl droseddau a adroddwyd (heb gynnwys twyll). Nid yw hyn wedi newid llawer ers canfyddiadau ein harolygiad blaenorol yn 2021. Rydym yn amcangyfrif na gofnododd y llu ddim mwy na 3,600 o droseddau yn ystod blwyddyn ein harolygiad.
Rydym yn amcangyfrif bod y llu yn cofnodi 88.4 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 4.3 y cant) o droseddau treisgar. Nid yw hyn wedi newid llawer ers canfyddiadau ein harolygiad blaenorol yn 2021.
Rydym yn amcangyfrif bod y llu yn cofnodi 98.8 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 1.6 y cant) o droseddau rhywiol. Mae hwn yn welliant ystadegol arwyddocaol o’i gymharu â chanfyddiadau ein harolygiad blaenorol yn 2021, lle gwelsom 92.2 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 4.0 y cant) o droseddau rhywiol wedi’u cofnodi.
Gwelsom fod y llu wedi ateb galwadau’n ddigon cyflym, roedd y safon trin galwadau yn dda, ac roedd y trinwyr galwadau yn cofnodi manylion yn gywir
Mae’r llu’n ateb galwadau brys a rhai nad ydynt yn rhai brys yn ddigon cyflym. Mae’n monitro cyfraddau trin galwadau mewn cyfarfod rheoli dyddiol sy’n adolygu perfformiad ar gyfer pob cyfnod o 24 awr. Mae dangosfwrdd yn dangos gwybodaeth am y cyfraddau ateb ar gyfer galwadau brys a rhai nad ydynt yn rhai brys. Mae adnoddau’n cael eu hadolygu i sicrhau bod digon ohonynt ar gael ar gyfer y cyfnod 24 awr ganlynol. Gwneir addasiadau yn seiliedig ar y galw a ragwelir – er enghraifft, tywydd braf dros y penwythnos. Roedd y trinwyr galwadau yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn dangos empathi tuag at alwyr ym mron pob achos a adolygwyd gennym. Defnyddiwyd asesiad risg cychwynnol strwythuredig (THRIVE) mewn 70 allan o 75 achos a adolygwyd gennym a chofnodwyd yr asesiad yn glir ar log y digwyddiad.
Mae’r llu yn nodi galwyr sy’n ffonio sawl tro, a galwyr sy’n agored i niwed ac eraill yn yr aelwyd a all hefyd fod yn agored i niwed
Mae’r llu wedi uwchraddio ei system TG i helpu i drinwyr galwadau yng nghanolfan gyfathrebu’r llu i nodi galwyr sy’n ffonio sawl tro. Gwnaeth eu hadnabod mewn 76 allan o 80 achos a adolygwyd gennym. Gwnaethpwyd gwiriadau hefyd i benderfynu os oedd y galwr yn agored i niwed mewn 76 o’r 80 achos. Mae’r wybodaeth yma’n cael ei defnyddio wrth i’r llu ystyried pa ymateb y dylai’r dioddefwr ei dderbyn.
Mae’r llu’n sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu rhoi i staff sydd â digon o brofiad a bod dioddefwyr yn cael eu diweddaru’n gyson
Gwelsom fod y trefniadau ar gyfer dyrannu troseddau a gofnodwyd ar gyfer ymchwilio yn unol â pholisi’r llu. Ym mron pob un o’r achosion a adolygwyd gennym (89 o 90), dyrannwyd achosion i’r adran fwyaf priodol i’w ymchwilio yn bellach. Cafodd dioddefwyr eu diweddaru am yr ymchwiliad. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol i deimlo’n sicr mewn ymchwiliad gan yr heddlu pan fyddan nhw’n derbyn diweddariadau yn rheolaidd.
Digonol
Cofnodi data am droseddu
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol yn ei broses cofnodi troseddau.
I gyfieithu’r cynnwys hwn i’r Gymraeg, defnyddiwch y botwm Cymraeg frig y dudalen ar y chwith.
Accurate crime recording is vital to providing a good service to the victims of crime. We inspected crime recording in Dyfed-Powys as part of our victim service assessments (VSAs). These track a victim’s journey from reporting a crime to the police, through to the outcome.
All forces are subject to a VSA within our PEEL inspection programme. In every other inspection forces will be assessed on their crime recording and given a separate grade.
You can see what we found in the ‘Providing a service to victims of crime’ chapter of this report.
Digonol
Ymgysylltu a thrin y cyhoedd yn deg a gyda pharch
Mae Heddlu Dyfed-Powys angen gwella sut mae’n trin pobl yn deg a gyda pharch.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â thrin pobl yn deg a gyda pharch.
Mae angen i’r llu wella sut mae’n craffu ar ei bwerau stopio a chwilio a defnydd o rym fel bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio’n deg ac yn effeithiol
Nid yw cyfarfod ‘defnyddio pwerau yn foesegol’ y llu bellach yn cael ei gynnal mor rheolaidd ag yr oedd. Ac er bod cynrychiolwyr yn ei fynychu yn yr llu, mae angen iddo fod yn fwy cadarn wrth herio a chwestiynu’r data a’r wybodaeth i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud. Mae angen gwella’r ffordd y mae materion pwysig yn cael eu datblygu yn y llu. Ar hyn o bryd, nid yw’r ‘bwrdd gweithrediadau arbenigol’ (y fforwm mae’r cyfarfod ‘defnyddio pwerau’r heddlu yn foesegol’ yn adrodd iddo) bob amser yn ystyried pwerau stopio a chwilio a defnyddio data a gwybodaeth y llu. Felly, mae goruchwyliaeth gyfyngedig o’r defnydd o’r pwerau hyn, ac ni all y llu fod yn sicr bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio’n deg ac yn briodol.
Mae panel sicrhau ansawdd Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) yn cynnwys aelodau annibynnol o’r cyhoedd sy’n ystyried agweddau gwahanol ar berfformiad y llu. Mae’n adolygu sampl o achosion lle defnyddiwyd pwerau stopio a chwilio a lle defnyddiwyd grym, drwy wylio darn ffilm fideo o gamera corff, ac yn rhoi adborth i’r llu ar welliannau y dylai eu gwneud. Adolygwyd pwerau ‘Stopio a Chwilio’ ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2021 ac adolygwyd defnydd o rym ym mis Mai 2021.
Yn gyffredinol, mae swyddogion yn yn deall sut i ddefnyddio pwerau stopio a chwilio’n deg, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y rheswm dros ddefnyddio’r pŵer bob amser yn rhesymol
Dangosodd swyddogion lefel resymol o ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n sail briodol i ddefnyddio pwerau stopio a chwilio. Yn ystod ein harolygiad, gwnaethom adolygu sampl o 254 o gofnodion stopio a chwilio o 1 Ionawr 2020 i 31 Rhagfyr 2020. Yn seiliedig ar y sampl hon, rydym yn amcangyfrif bod 85.4 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 4.2 y cant) o’r holl chwiliadau gan y llu yn ystod y cyfnod hwn â seiliau rhesymol wedi’u cofnodi. Nid yw hyn wedi newid llawer ers canfyddiadau ein hadolygiad blaenorol yn 2019. O’r cofnodion a adolygwyd gennym ar gyfer stopio a chwilio am bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, roedd gan 11 o 12 sail resymol wedi ei gofnodi.
Gwnaeth swyddogion ddefnyddio camerâu corff os oeddynt yn cynnal chwiliad, ac roedd goruchwylwyr ar y cyfan yn craffu ar ffurflenni stopio a chwilio swyddogion.
Roedd rhai swyddogion yn teimlo’n llai hyderus wrth gynnal stopio a chwilio. Dylai swyddogion fod yn hyderus a phrofiadol gan wybod pryd mae stopio a chwilio yn briodol. Dylent gofnodi’r seiliau yn iawn ar gyfer unrhyw chwiliad fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod chwiliadau yn cael eu cyflawni yn deg ac yn briodol.
Mae’r llu’n gweithio’n dda gyda’i gymunedau i ddeall a gweithredu ar yr hyn sy’n bwysig iddynt
Mae’r llu a’r PCC yn gweithio gyda chymunedau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, megis drwy dimau plismona bro, timau troseddau gwledig a sesiynau byw cyfryngau cymdeithasol lle gall aelodau’r cyhoedd rannu eu cwestiynau a’u pryderon. Mae’r llu hefyd yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw’r cyhoedd at faterion fel apelio am wybodaeth i helpu datrys troseddau, canlyniadau llysoedd a diweddariadau ynglyn ag ymchwiliadau sy’n denu diddordeb y gymuned. Mae’r llu a’r PCC hefyd yn cynnwys y gymuned wrth helpu’r llu i wella drwy gynnal grŵp cynghori annibynnol a phanel sicrhau ansawdd. Mae fforwm ymgysylltu â dioddefwyr wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod llais y dioddefwr yn cael ei glywed mewn unrhyw raglenni newid arfaethedig. Er enghraifft, gwnaeth aelodau’r fforwm sylwadau ar becyn gwybodaeth i ddioddefwyr, sy’n amlinellu beth i’w ddisgwyl yn ystod ymchwiliad a’r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr. Mae’r llu a’r PCC yn cydnabod yn glir bwysigrwydd anghenion, dewisiadau a phryderon gwahanol eu cymunedau, ond byddent yn elwa o werthuso’r ffyrdd mwyaf effeithiol o weithio gyda’r cyhoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
Mae gan y gweithlu ddealltwriaeth effeithiol ar sut i ymddwyn yn deg a sut i fynd i’r afael ag ymddygiad annheg, ac mae ganddo sgiliau cyfathrebu da ar gyfer rhyngweithio â’r cyhoedd
Mae hyfforddiant y llu ar gyfer atal ymddygiad annheg a gwella sgiliau cyfathrebu effeithiol wedi ei effeithio gan y pandemig. Er hyn, dangosodd swyddogion ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ymddygiad annheg a sut i’w wrthwynebu; dywedodd y mwyafrif ohonynt y bydden nhw’n herio cydweithwyr pe baen nhw’n teimlo nad oedd ymddygiad yn dderbyniol.
Gwnaeth swyddogion ddangos sgiliau cyfathrebu da a darparu enghreifftiau o adegau yr oedden nhw wedi defnyddio’r sgiliau hyn i ddelio â digwyddiad anodd neu ddan straen, neu wrth siarad â rhywun ag anableddau dysgu neu anghenion iechyd meddwl. Roedden nhw’n sylweddoli efallai mai dyma fydd yr unig ryngweithio rhwng yr unigolyn a’r heddlu, felly mae’n hynod o bwysig i sicrhau bod eu cyfathrebu’n briodol.
Angen gwella
Atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dda am atal a rhwystro.
Arferion arloesol
Mae dull y llu at ailfodelu plismona bro a defnyddio egwyddorion rheoli newid yn arfer arloesol
Adolygodd y llu ei ddull o blismona bro ac ystyriodd amrywiaeth o opsiynau i ailfodelu ei ddull. Gweithredodd raglen o newidiadau er mwyn sicrhau bod pwrpas a dyfodol clir i blismona bro yn y llu. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghori sylweddol gyda’r gweithlu. Y nod oedd i dimau bro allu cyflawni eu rolau’n effeithiol, cael mynediad at yr oruchwyliaeth, adnoddau a hyfforddiant cywir, a chael eu gweld fel timau arbenigol a nad ydynt yn cael eu tynnu oddi wrth eu prif ddyletswyddau i weithio mewn rolau eraill. Cyflwynwyd y model newydd ym mis Tachwedd 2019. Mae’r holl staff yn gefnogol iawn o’r ffordd newydd o weithio ac o’r dull a gymrodd y llu at y newidiadau. Erbyn hyn, mae timau bro yn gallu datrys problemau a defnyddio patrolau wedi’u targedu, ac maen nhw’n cysylltu â’u cymunedau.
Arferion arloesol
Mae’r llu a PCC yn helpu i feithrin gwydnwch o fewn cymunedau lleol
Cyflwynwyd ‘cyllidebu cyfranogol’ i’r llu ar ddechrau 2020. Ei nod yw creu cysylltiadau gweithio agosach gyda chymunedau a rhoi cyfle iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch sut y defnyddir arian cyhoeddus. Rhoddwyd arian i amrywiaeth o grwpiau i helpu yn null y llu o ymdrin â gwydnwch cymunedol, atal troseddu a throseddau difrifol a threfnedig.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag atal a rhwystro.
Mae gan blismona bro strwythur clir: mae’r llu’n deall y galw sy’n wynebu ei dimau bro ac yn rheoli ei adnoddau i gyrraedd y galw hwn
Datblygwyd strategaeth plismona bro y llu yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mae hyn yn cysylltu â blaenoriaethau’r llu a chynllun yr heddlu a throseddu, ac yn rhoi pwrpas clir i dimau plismona bro. Mae’r strategaeth yn gosod ei phwrpas fel a ganlyn:
- nodi, deall a thargedu gweithgarwch i fynd i’r afael â blaenoriaethau a phroblemau yn y gymuned, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth;
- mynd ati i weithio gyda chymunedau gyda phwrpas clir; a
- bod yn fedrus wrth ddatrys problemau, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gweithio gyda sefydliadau partner, a thrwy hynny leihau’r galw ar yr heddlu a sefydliadau partner.
Mae’r llu’n deall y galwadau a roddir ar ei dimau bro ac yn lleihau’r amlder y gofynnir i swyddogion bro wneud rolau eraill yn y llu. Ers ailstrwythuro plismona bro, mae swyddogion a staff yn teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth gliriach o’u rolau a’u cyfrifoldebau. Maen nhw’n meddwl bod eu rôl wedi cael ei broffesiynoli ac maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Felly, maen nhw’n gallu canolbwyntio ar y gweithgareddau atal troseddu hynny sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae gan y llu systemau TG effeithiol sy’n ei helpu i ddeall cryfderau ac anghenion y gymuned, cynorthwyo â swyddogion bro a chadw gwybodaeth am sut y maent yn cyflawni eu gweithgareddau
Mae’r llu wedi datblygu system TG y gellir ei ddefnyddio trwy ddyfeisiadau symudol swyddogion. Mae’n system gynhwysfawr ar sail dyddiadur sy’n caniatáu i swyddogion gofnodi eu gwaith, rhyngweithiadau, digwyddiadau ac ymrwymiadau o fewn y gymuned. Yna mae’r system yn rhoi hyn i gyd ar fap, gan ganiatáu i dimau weld y data’n fanylach. Mae’n hefyd yn dangos lleoliadau troseddau a digwyddiadau, sydd yn eu helpu i lywio gweithgareddau atal troseddu a chymunedol. Mae system TG wahanol yn dangos gwybodaeth am faint o amser mae swyddogion yn ei dreulio nad yw mewn gorsafoedd ac yn eu cymunedau. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod swyddogion yn gwneud y mwyaf o’u hamser yn gweithio gyda chymunedau lleol.
Mae gan y llu ddull effeithiol o ddatrys problemau, gan weithio gydag asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar atal troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a bregusrwydd
Mae’r llu yn defnyddio model OSARA ar gyfer datrys problemau. Mae’n defnyddio ei systemau TG i helpu gyda hyn. Mae’r ddwy system yma’n caniatáu i wybodaeth gan yr heddlu ac asiantaethau eraill gael eu cofnodi, diweddariadau i’w hychwanegu ac adolygiadau goruchwylwyr i ddigwydd. Mae gan y llu gysylltiad da gan yr asiantaethau eraill y mae’n gweithio gyda nhw wrth ddatrys problemau a gweithgareddau atal troseddu. Er enghraifft, mae’n gweithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub, awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â gwersylla gwyllt ar y rhwydwaith ffyrdd. Bu’r llu hefyd yn gweithio gyda’r awdurdod lleol, tai a thrigolion pan ddefnyddiwyd gwesty i gartrefu pobl ddigartref. Mae’r llu’n gwerthuso ei ddull o ddatrys problemau er mwyn sicrhau bod y broses yn effeithiol. Mae’n rhannu enghreifftiau o arfer da, yn fewnol ac yn allanol, ac wedi datblygu cylchlythyr. Dylai datrys problemau yn effeithiol a gweithgareddau ymyrraeth gynnar helpu pobl sy’n agored i niwed a chymunedau ac yn lleihau’r galw ar blismona ac asiantaethau partner.
Da
Ymateb i’r cyhoedd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dda am ymateb i’r cyhoedd.
Arferion arloesol
Mae gan y llu gynllun i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cyfathrebu gyda’r heddlu, felly does dim rhaid iddyn nhw ailadrodd gwybodaeth bersonol
Mae gan y llu gynllun Pegasus ar gyfer pobl sydd ag anabledd neu salwch sy’n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gyfathrebu gyda’r heddlu mewn sefyllfa argyfwng neu anodd. Maen nhw’n cofrestru eu gwybodaeth ac yn rhoi cyfrinair o’u dewis. Os oes angen iddyn nhw ffonio’r heddlu wedyn, gallan nhw ddweud eu bod nhw ar gynllun Pegasus a rhoi eu cyfrinair, ac mae modd cael eu manylion yn syth. Mae hyn yn eu hosgoi rhag gorfod ailadrodd manylion personol ac yn gwneud y triniwr galwadau yn ymwybodol ei bod yn bosibl fod angen help a chefnogaeth ychwanegol arnynt.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymateb i’r cyhoedd.
Mynychir galwadau o fewn yr amserlenni a gytunwyd arnynt
Mae gan y llu bedwar gradd ymateb, sy’n cael ei diffinio fel: ‘ar unwaith’, gyda tharged o 20 munud i fod yn bresennol; ‘blaenoriaeth’, gyda tharged o 60 munud i fod yn bresennol (neu ddatrysiad o bell lle bo hynny’n briodol); ‘wedi’i drefnu’, lle nad oes amser targed (neu ddatrysiad o bell lle bo hynny’n briodol) a ‘datrys heb fod yn bresennol’, lle nad oes amser targed (neu mewn amgylchiadau penodol heb gyfranogiad pellach gan yr heddlu). Rhaid i oruchwylwyr awdurdodi unrhyw israddio o ran ymateb, megis newid digwyddiad o flaenoriaeth i wedi’i drefnu. Gwelsom, os oedd angen ymateb, p’un a oedd yn cael ei israddio neu beidio, bod digwyddiadau’n cael eu mynychu’n gyffredinol o fewn yr amser presenoldeb gofynnol.
Mae’r llu wedi gwella’r wybodaeth sydd ar gael i swyddogion am bobl sy’n agored i niwed er mwyn iddynt allu gwneud asesiad mwy cywir o’r lefel risg
Cafodd y ffaith nad oedd y llu yn asesu pob achos o gam-drin domestig ei nodi fel achos pryder ar ôl ein harolygiad diwethaf. Rhoddwyd desg fregusrwydd mewn lle yng nghanolfan gyfathrebu’r heddlu yn Ebrill 2019. Mae hyn wedi helpu’r llu i fynd i’r afael â’r problemau a ddarganfuwyd gennym yn y maes hwn. Mae’r ddesg fregusrwydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i swyddogion am alwr, megis hanes blaenorol a gwybodaeth bwysig arall, wrth iddynt deithio i ddigwyddiad. Mae’r ddesg hefyd yn monitro galwadau wrth iddyn nhw ddod i mewn, er mwyn ceisio sicrhau bod dioddefwyr bregus yn cael eu nodi. Mae hyn yn golygu bod gan swyddogion well gwybodaeth ar gael iddynt pan fyddan nhw’n mynychu digwyddiadau a chynnal asesiadau risg.
Pan fydd swyddogion yn mynychu digwyddiadau, maen nhw’n cynnal asesiadau risg, fel DASH a THRIVE. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod bygythiadau, risgiau a niwed posibl i bobl sy’n agored i niwed yn cael ei nodi fel bod modd rhoi diogelu a chymorth priodol ar waith.
Mae rheolwyr llinell/goruchwylwyr yn darparu cefnogaeth dda i staff canolfan gyfathrebu’r llu a swyddogion ymateb
Roedd swyddogion a staff sy’n gweithio yng nghanolfan gyfathrebu’r llu yn gadarnhaol am y gefnogaeth y maen nhw’n ei dderbyn gan eu rheolwyr llinell a’u goruchwylwyr. Mae llwyth gwaith a lles yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd rheolaidd un-i-un. Mae goruchwylwyr yn aml yn mynychu digwyddiadau gyda’u swyddogion i roi cefnogaeth ac arweiniad, sy’n arbennig o ddefnyddiol i swyddogion sy’n ddibrofiad.
Dylai’r llu wella sut mae’n craffu ar ei berfformiad trin galwadau
Ar 31 Mai 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ddata ar amseroedd ateb galwadau 999. Amser ateb galwadau yw’r amser a gymerwyd i alwad gael ei drosglwyddo i’r llu, a’r amser a gymerodd y llu hwnnw i’w ateb. Yng Nghymru a Lloegr, dylai heddluoedd anelu at ateb 90 y cant o’r galwadau hyn o fewn 10 eiliad.
Gan nad oedd y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’r data hwnnw pan wnaethom ein dyfarniad, rydym wedi defnyddio data a ddarparwyd gan lluoeddoedd i asesu pa mor gyflym y maent yn ateb galwadau 999. Yn y dyfodol, byddwn yn defnyddio’r data a gyflenwyd gan y Swyddfa Gartref.
Trafodir perfformiad trin galwadau mewn cyfarfod rheoli dyddiol, gan ddefnyddio dangosfwrdd perfformiad. Ond nid oes goruchwyliaeth fwy strwythuredig a manwl o berfformiad trin galwadau yn digwydd yn rheolaidd. Mae bwrdd gweithrediadau arbenigol y llu’n ystyried rhai agweddau ar berfformiad yn y ganolfan gyfathrebu, megis yr amser cyfartalog a gymerwyd i ateb galwadau 999/101 a’r math o alwadau sy’n dod i law. Ond mae gan y cyfarfod agenda fawr, ac mae hyn yn cyfyngu ar y cyfle i drafod. Mae ‘bwrdd perfformiad y llu’ hefyd yn ystyried gwybodaeth am berfformiad trin galwadau, ond nad yw hyn yn digwydd yn rheolaidd a chafodd ei wneud ddiwethaf ym mis Tachwedd 2021. Mae’r llu’n cynhyrchu data manwl am drin galwadau, felly dylai ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynnal craffu rheolaidd ac i gefnogi trafodaeth fel bod modd nodi themâu a thueddiadau.
Dylai’r llu sicrhau bod staff canolfannau cyfathrebu yn deall sut mae cael gafael ar wasanaethau tîm brysbennu iechyd meddwl
Cyn y pandemig, roedd nyrsys iechyd meddwl yn gweithio yng nghanolfan gyfathrebu’r llu. Er mwyn lleihau nifer y bobl a oedd yn gweithio yn y ganolfan, ac er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol, newidodd y bwrdd iechyd drefniant gweithio nyrsys i weithio yn rhithiol. Hefyd, roedd rhai swyddogion wedi cael hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ac a oedd hefyd yn cynorthwyo staff trin galwadau. Roedd rhai o’r trinwyr galwadau a wnaethom siarad â nhw yn ansicr ynglŷn â sut i gael cyngor arbenigol ar faterion iechyd meddwl. Gall hyn effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a gynigir i rai pobl sy’n profi iechyd meddwl gwael.
Da
Ymchwilio i droseddau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol wrth ymchwilio i droseddau.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymchwilio i droseddau.
Ar y cyfan mae’r llu’n cynnal ymchwiliadau effeithiol, amserol gyda lefelau priodol o oruchwylio
Mewn 89 allan o’r 90 achos a adolygwyd gennym, dyrannwyd ymchwiliadau i dimau priodol ac yn unol â pholisi dyrannu trosedd y llu. Mewn 75 o’r 90 achos, cafwyd ymchwiliadau effeithiol. Roedd ymchwiliadau’n cael eu goruchwylio’n dda, a chafodd dioddefwyr eu diweddaru drwy gydol y broses. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol i deimlo’n sicr mewn ymchwiliad gan yr heddlu pan fyddan nhw’n derbyn diweddariadau rheolaidd.
Mae’r llu’n gwella ei allu i gasglu tystiolaeth ddigidol o ffonau symudol, cyfrifiaduron a dyfeisiau electronig eraill
Mae’r llu wedi cynnal adolygiad o’i gallu i gasglu tystiolaeth ddigidol. Mae wedi cyflogi staff sy’n asesu pa mor gyflym y mae angen casglu tystiolaeth ddigidol, gan ddefnyddio matrics bygythiad, niwed a risg. Mae rhywfaint o arian ychwanegol wedi’i ddarparu, sydd wedi helpu’r llu gytundebu dyfeisiau allanol ar gyfer casglu tystiolaeth. Trwy ddatganiad rheoli’r llu, mae’r llu wedi gwneud rhai rhagamcanion ynglŷn â pha adnoddau y bydd eu hangen yn y dyfodol a sut y gellir cyflawni hyn.
Mae’r llu’n dangos gofal dioddefwyr effeithiol ac mae’n ymygyslltu â’i ymchwiliadau
Mae’r llu, ar y cyfan, yn cydymffurfio â’r Côd Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau ac yn cynnal lefelau cyswllt y cytunwyd arnynt gan ddioddefwyr. Mae swyddogion yn gwybod am bwysigrwydd diweddaru dioddefwyr. Gwnaethon ni ganfod bod y llu yn darparu gofal dioddefwyr effeithiol yn y mwyafrif o’i ymchwiliadau. Cafodd asesiadau anghenion dioddefwyr eu cynnal mewn 61 allan o 73 o’r achosion a adolygwyd gennym. Mae’r rhain yn helpu i nodi a oes angen cymorth ychwanegol ar ddioddefwyr. Ond weithiau ni chymerwyd datganiadau personol dioddefwyr. Mae’r rhain yn bwysig gan eu bod yn rhoi cyfle i ddioddefwyr ddisgrifio sut mae troseddu wedi effeithio ar eu bywydau.
Mae cynllun ar waith i gynyddu’r nifer o ymchwilwyr, ond mae angen i’r llu ystyried a yw hyn yn ddigon i ateb y galw yn y dyfodol
Mae datganiad rheoli’r llu (FMS) yn dangos gwell dealltwriaeth o’r galw ymchwilio ac yn disgrifio rhai o’r problemau sy’n wynebu’r llu. Mae cyflwyno’r prosiect End to End wedi cyfeirio mwy o ymchwiliadau tuag at ateb dros y ffôn. Dylai hyn sicrhau bod mwy o ymchwiliadau’n cael digon o staff. Mae gan y llu gynllun gwydnwch ymchwiliadau i helpu gyda recriwtio, cadw, hyfforddi a lles ymchwilwyr. Mae’n defnyddio llwybr ditectif gwnstabl llwybr cyflym ar gyfer y rhai yn eu cyfnod prawf sy’n dangos dawn i ymchwilio. Ond mae angen iddo ystyried a fydd y trefniadau hyn yn ddigon i ateb y galw ymchwilio yn y dyfodol.
Mae angen i’r llu ddeall pam bod ganddo gyfradd canlyniad 16 uchel, ac mae angen iddo gymryd camau i sicrhau ei fod yn mynd yn ei flaen gydag erlyniadau sy’n cael eu harwain gan dystiolaeth
Dywedodd swyddogion wrthym y bydden nhw’n dilyn erlyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar ran y dioddefwr pe bai’r dioddefwr yn tynnu eu cefnogaeth i erlyn yn ôl, a gwelsom fod y defnydd o ganlyniad 16 yn briodol mewn 18 allan o’r 20 achos a adolygwyd gennym. Ond mae gan y llu gyfradd 16 canlyniad uchel o’i gymharu â lluoedd eraill. Gallai hyn awgrymu nad yw’r heddlu’n cael ei arwain gan y dystiolaeth wrth ddilyn erlyniadau. Mae’r llu yn ymwybodol o hyn. Mae wedi cynnal adolygiad ac mae tîm bellach yn goruchwylio’r defnydd o ganlyniad 16 i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n briodol.
Mae swyddogion yn teimlo bod ganddyn nhw’r amser a’r sgiliau priodol ar y cyfan i gynnal ymchwiliadau ac maen nhw’n cael cefnogaeth dda gan reolwyr llinell
Dywedodd swyddogion a staff wrthym fod ganddyn nhw’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r profiad angenrheidiol i gynnal ymchwiliadau’n effeithiol. Maen nhw’n teimlo’n eu bod yn cael cefnogaeth dda gan reolwyr llinell, er bod y pandemig wedi effeithio ar ddigwyddiadau hyfforddi wedi’u cynllunio. Dangosodd y gweithlu ymwybyddiaeth dda o’i rwymedigaethau o ran datgelu a’r gofyniad i gydymffurfio â newidiadau diweddar. Nododd y mwyafrif o’r gweithlu fod llwyth gwaith ymchwilio yn rhesymol.
Digonol
Amddiffyn pobl fregus
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dda am amddiffyn pobl fregus.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn amddiffyn pobl bregus.
Mae’r llu yn deall natur a graddfa bregusrwydd ac mae ganddo drefniadau effeithiol i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed
Mae gan y llu strategaeth bregusrwydd, sy’n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer amddiffyn pobl sy’n agored i niwed. Prif nodau’r strategaeth yw annog dull meddwl agored; i roi bregusrwydd wrth galon y gwasanaeth; i gydnabod lle mae problemau sylfaenol yn bodoli; a darparu gwasanaeth wedi ei deilwra sy’n ystyried anghenion unigolion, fel bod yr asiantaeth fwyaf priodol yn darparu cefnogaeth ac ymyrraeth. Cefnogir y strategaeth gan gynllun gweithredu bregusrwydd, sy’n cael ei oruchwylio gan fwrdd bregusrwydd strategol y llu. Mae datganiad rheoli’r llu (FMS) yn dangos dealltwriaeth gynyddol o’r galw am amddiffyn pobl sy’n agored i niwed. Mae’r llu wedi cynnal dadansoddiad ar wahân o batrymau a mathau o droseddu fel bod modd cydnabod y dioddefwyr mwyaf bregus ac aildroseddwyr. Mae’r llu’n gweithio gydag asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth a deall bregusrwydd yn well, er enghraifft, lle mae potensial i blant gael eu camfanteisio trwy eu cynnwys mewn troseddu cyfundrefnol.
Mae swyddogion a staff yn deall pwysigrwydd diogelu pobl sy’n agored i niwed, ac mae gan yr heddlu berthynas gweithio effeithiol gydag asiantaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i roi cymorth parhaus
Mae swyddogion a staff yn deall yn glir bwysigrwydd sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn cael cyngor diogelu ac yn cael eu cyfeirio at asiantaethau cyhoeddus a thrydydd sector am gymorth. Mae swyddogion cam-drin domestig y llu yn rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig, ac mae timau bro yn cydnabod dioddefwyr a lleoliadau sy’n cael eu nodi sawl tro ac yn rhoi cymorth i bobl sy’n agored i niwed yn y gymuned.
Mae gan y llu wasanaeth dioddefwyr a thystion o’r enw Goleudy, sy’n rhoi cymorth i bob dioddefwr trosedd sydd angen cymorth, p’un a yw’r digwyddiad wedi cael ei adrodd i’r heddlu ai peidio. Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd wedi dioddef y niwed mwyaf, megis dioddefwyr troseddau difrifol, ailddioddefwyr a’r rhai mwyaf bregus a brawychus.
Mae’r ddesg fregusrwydd yn dod â dull cydgysylltiedig o gefnogi pobl sy’n agored i niwed i sicrhau nad yw cyfleoedd i ddiogelu yn cael eu colli
Mae’r ddesg fregusrwydd yn dod â’r holl swyddogion a staff sy’n rhan o ddiogelu dioddefwyr bregus ynghyd, fel timau cam-drin domestig, timau cam-drin plant ac oedolion a swyddogion bro. Prif ffocws yr uned yw cam-drin domestig, darparu gwasanaethau diogelu gydag asiantaethau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, goruchwylio asesiadau risg a diogelu atgyfeiriadau, a chefnogi ardaloedd plismona lleol.
Mae’r uned asesu risg eilaidd yn darparu goruchwyliaeth effeithiol o asesiadau risg, peth cofnodi troseddau a thrafodaethau aml-asiantaeth rhithiol i sicrhau bod diogelu yn cael ei roi ar waith
Mae’r ddesg fregusrwydd yn rhan o’r uned asesu risg eilaidd. Mae staff yn yr uned hon yn adolygu asesiadau risg DASH i sicrhau bod lefelau risg yn briodol. Os ydynt yn gweld nad yw trosedd sy’n ymwneud â pherson bregus wedi’i chofnodi, mae materion yn cael eu cyfeirio yn ôl at swyddog yr achos. Cynhelir cyfarfodydd rhithiol gyda chyrff aml-asiantaeth dair gwaith yr wythnos ar gyfer pob un o’r pedair ardal awdurdod lleol. Mae trafodaethau dyddiol, wedi’u cadeirio gan dditectif sarjant o’r ddesg fregusrwydd, yn canolbwyntio’n bennaf ar achosion o gam-drin domestig. Mae manylion achos yn cael eu rhannu gydag asiantaethau eraill cyn pob cyfarfod fel bod y rhai sy’n mynychu yn gallu paratoi. Mae’r asiantaethau hyn yn cynnwys tai, iechyd, gwasanaethau plant ac ymgynghorydd annibynnol ar drais yn y cartref (IDVA). Mae pob un o’r cyfranwyr yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i sicrhau bod cynlluniau diogelu yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Mae’r uned asesu risg eilaidd yn ystyried achosion a fyddai fel arfer wedi gorfod aros tan y MARAC nesaf. Mae MARAC yn bodoli ar gyfer pob ardal awdurdod lleol. Mae cynadleddau’n cael eu cynnal yn rhithiol ar hyn o bryd. Mae’r asiantaethau sy’n cael eu cynrychioli yn MARAC yn cynnwys iechyd, gwasanaethau prawf, gwasanaethau plant, tai, IDVA a swyddogion cam-drin domestig. Ers cyflwyno’r asesiad risg eilaidd, mae angen cyfeirio llai o achosion at MARAC, sy’n golygu y gellir treulio mwy o amser ar achosion risg uwch a chymhleth. Mae pob cyfrannwr yn rhoi diweddariadau a rhannu gwybodaeth, ac mae’r cyfarfod yn cytuno ar gamau gweithredu i gynnal mesurau diogelu.
Mae’r llu yn defnyddio pwerau sydd ar gael i amddiffyn a diogelu pobl sy’n agored i niwed a dioddefwyr pan fo hynny’n briodol
Mae swyddogion a staff yn deall y pwerau sydd ar gael i amddiffyn pobl fregus a dioddefwyr. Mae cyfarfodydd MARAC yn ystyried ‘Cyfraith Clare’ i sicrhau bod dioddefwyr posib a’u plant yn ymwybodol o ymddygiad sarhaus neu dreisgar blaenorol partner newydd. Mae Hysbysiadau Gwarchod Rhag Trais Domestig (DVPNs) a Gorchmynion Gwarchod Rhag Trais Domestig (DVPOs) wedi’u cynllunio i roi amddiffyniad ar unwaith i ddioddefwyr yn dilyn digwyddiad o drais yn y cartref. Mae’r rhain yn cael eu hystyried fel mater o drefn gan swyddogion ac fe’u trafodir mewn cyfarfodydd rheoli dyddiol a chyfarfodydd asesu risg eilaidd. Mae trafodaethau o’r fath yn sicrhau bod diogelu wedi’i ystyried a chamau’n cael eu cymryd i amddiffyn y dioddefwr. Ond dangosodd asesiad y gwasanaeth dioddefwyr nad oedd DVPOs bob amser yn cael eu hystyried. Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, gwnaeth Heddlu Dyfed-Powys 12.5 o geisiadau Gorchymynion Gwarchod Rhag Trais Domestig ar gyfartaledd fesul 1,000 o droseddau yn ymwneud â cham-drin domestig. Mae hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd ymgeisio yn yr holl luoedd, sef 10.1 cais i bob 1,000 o droseddau.
Ceisiadau Gorchmynion Gwarchod Rhag Trais Domestig am bob 1,000 o droseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021
Da
Rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol am reoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth.
Arferion arloesol
Mae’r llu yn rhagweithiol yn y modd y mae’n defnyddio ac yn monitro gorchmynion atal niwed rhywiol
Mae’r llu yn defnyddio gorchmynion atal niwed rhywiol (SHPO) i amddiffyn y cyhoedd rhag y troseddwyr mwyaf peryglus. Mae gan y llu dîm canolog sy’n cael gwybod am unrhyw droseddau rhywiol sy’n mynd i’r llys, ac yna mae’r tîm yn gweithio gyda’r adran gwasanaethau cyfreithiol i greu cais SHPO. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw gyfleoedd i amddiffyn y dioddefwr yn cael eu colli. Mae gan y llu offer digidol angenrheidiol ar waith, ac mae’r staff wedi cael eu hyfforddi i fonitro’r mathau hyn o orchmynion.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth.
Mae MOSOVO a thimau plismona bro yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau eu bod yn cael gwybod am droseddwyr rhyw cofrestredig yn y gymuned. Mae swyddogion bro yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio eu cynlluniau patrôl a gallant gyflwyno gwybodaeth i dîm MOSOVO am droseddwyr rhyw yn eu hardal. Mae hyn yn helpu gwybodaeth i gael ei rhannu’n effeithiol fel bod tîm MOSOVO yn cael gwybod am unrhyw newid mewn ymddygiad, rhag ofn bod angen cymryd camau.
Mae gan y llu ddigon o staff a’r gallu yn ei dîm ymchwilio ar-lein (POLIT)
Mae POLIT yn gyfrifol am nodi rhannu delweddau anweddus o blant fel bod modd gweithredu mewn ffordd amserol. Mae system rheoli achosion i sicrhau bod risgiau’n cael eu nodi mewn achosion sy’n aros i gael eu hadolygu, a gwelsom nad oedd llwyth o waith sylweddol yn aros i’w wneud. Mae’r llu wedi cynyddu nifer y staff sydd yn y tîm yn ddiweddar.
Mae ymchwilwyr fforensig digidol yn mynychu pob gwarant gyda POLIT i sicrhau mai ond y dyfeisiau hynny sy’n dal delweddau amhriodol sy’n cael eu cipio
Pan fydd y POLIT yn mynychu cyfeiriad i gynnal gwarant ar amheuaeth o ddelweddau amhriodol ar ddyfais ddigidol, mae’r aelodau yn mynd yno gydag ymchwilydd fforensig digidol. Mae’r ymchwilydd yn gallu adolygu sawl dyfais i weld pa rai allai fod â delweddau amhriodol arnynt, yn hytrach na gorfod atafaelu pob dyfais yn y cyfeiriad. Mae hyn yn arbed cryn amser ac adnoddau, ac yn golygu mai dim ond y ddyfais gyda’r delweddau sy’n cael ei atafaelu.
Mae’r llu yn cymryd dull aml-asiantaeth drwy’r rhaglen rheoli integredig troseddwyr (IOM) yn rheoli troseddwyr i leihau aildroseddu a newid ymddygiad
Mae’r llu yn rhan o IOM Cymru, sy’n darparu fframwaith ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i sefydliadau weithio gyda’i gilydd i leihau troseddu ac aildroseddu trwy wella rheoli risg ac adferiad. Mae gan y llu berthynas weithio dda gyda chydweithwyr gwasanaeth prawf i reoli aildroseddwyr. Mae cyfarfodydd rheolaidd yn adolygu’r troseddwyr hynny sydd yn rhaglen IOM ar hyn o bryd, yn ystyried cyfeiriadau newydd iddi, ac yn asesu effeithiolrwydd y cynllun rheoli risg. Er enghraifft, gellir derbyn troseddwyr rhyw cofrestredig ar un o raglenni IOM, sy’n caniatáu i lefelau ychwanegol o ymyrraeth ddigwydd, megis atgyfeiriadau at gefnogaeth asiantaeth allanol a monitro gwell gan dîm MOSOVO. Mae hyn yn arfer da ac yn helpu tuag at leihau ail-droseddu a cheisio newid ymddygiad.
Mae gan y llu drefniadau effeithiol i fonitro’r defnydd o fechnïaeth cyn codi tâl, rhyddhawyd o dan ymchwiliad (RUI) a phresenoldeb gwirfoddol
Defnyddir proses asesu risg THRIVE wrth reoli mechnïaeth cyn codi tâl, RUI a phresenoldeb gwirfoddol. Mae swyddogion yn deall y broses gyfarwydd hon yn dda, ac mae’n amlwg bod dioddefwyr a diogelu yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau. Os newidir mechnïaeth cyn codi tâl i RUI, mae’n rhaid awdurdodi hyn drwy’r arolygydd ar ddyletswydd a chofnodi’r rhesymeg dros y newid hwnnw. Goruchwylir presenoldeb gwirfoddol gan sarjant y ddalfa a fydd yn sicrhau bod bregusrwydd wedi cael ei ystyried a bod sail resymegol glir yn cael ei gofnodi. Mae’r llu wedi creu proses TG i reoli pob achos mechnïaeth ac RUI, gyda dangosfwrdd sy’n dangos gwybodaeth o’r system ddalfa, fel dilyniant achosion, dyddiadau pwyisg a throseddau. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys mewn fframwaith perfformiad y llu ar lefel ardal blismona leol ac mewn cyfarfodydd perfformiad y llu, er mwyn craffu mwy.
Digonol
Amharu ar droseddau difrifol a threfnedig
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol am reoli troseddau difrifol a threfnedig (SOC).
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddau difrifol a threfnedig.
Mae’r llu yn gwneud defnydd effeithiol o gudd-wybodaeth i nodi, deall a blaenoriaethu SOC
Mae’r llu yn defnyddio MoRiL i asesu SOC. Mae’r asesiad hwn yn llywio asesiad strategol cynhwysfawr y llu ac yn tynnu ar wybodaeth gan asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus. Mae strategaeth rheoli’r llu yn cael ei lywio’n glir gan yr asesiad strategol. Mae gan y llu broffil SOC ar gyfer pob un o’r pedair ardal awdurdod lleol. Mae pob un o’r rhain wedi’u creu gan ddefnyddio gwybodaeth gan sefydliadau partner, ac yn tynnu sylw at risgiau bregusrwydd i bobl y gellid eu cynnwys mewn troseddu a dod yn ddioddefwyr. Mae bwrdd partneriaeth strategol mewn lle i adolygu diweddariadau a newidiadau arfaethedig, ac mae trafod a gwrthwynebu iach gan yr asiantaethau sy’n mynychu. Mae byrddau partneriaethau lleol hefyd ar waith ar gyfer y pedair ardal awdurdod lleol. Mae’r llu’n adnewyddu ei ddull SOC gydag asiantaethau partner, gan fod y cynllun presennol yn canolbwyntio gormod ar yr heddlu ac nid yw’n cyd-fynd â’r proffiliau SOC presennol.
Mae gan y llu staff a gallu effeithiol i fynd i’r afael â SOC a chadw’r cyhoedd yn ddiogel
Mae gan y llu strwythurau clir i oruchwylio SOC a sicrhau bod swyddogion a staff yn atebol iddynt. Mae’r cyfarfodydd grŵp tasgu SOC a’r grŵp datblygu cudd-wybodaeth y llu (FIDG) yn ganolog i’r gwaith cydlynu i fynd i’r afael â SOC. Mae gan y cyfarfodydd hyn agenda strwythuredig, ac mae camau gweithredu a phenderfyniadau yn cael eu cofnodi a’u monitro. Mae ardaloedd plismona lleol yn rhan o’r gwaith tasgu SOC. Gwelsom dystiolaeth dda o geisiadau am gefnogaeth gan yr ardaloedd plismona lleol ar gyfer SOC yn cael eu hystyried. Mae presenoldeb priodol mewn cyfarfodydd rheoli dyddiol ac maen nhw’n cynnal craffu manwl ar droseddau a phroblemau sy’n dod i’r amlwg i nodi materion SOC posibl.
Mae proses glir lle mae tasgu SOC yn penodi swyddogion cyfrifol arweiniol (LROs) ar gyfer pob grŵp troseddu cyfundrefnol. Mae’r swyddogion hyn yn arwain gwaith datblygu cynlluniau 4P, gan ddefnyddio arbenigedd i greu’r ymateb gorau i fynd i’r afael â grwpiau troseddu cyfundrefnol. Ond mae peth anghysondeb o ran sut mae cynlluniau 4P yn cael eu datblygu trwy’r llu.
Mae’r llu’n ceisio atal pobl rhag cymryd rhan mewn SOC
Mae gan y llu strategaeth a brandio newydd ar gyfer cyfathrebu mewnol ac allanol, sy’n rhan bwysig o ddatblygiad ei ffocws ar atal SOC. Mae hefyd wedi penodi cydlynydd SOC. Mae cyllidebu cyfranogol (a drafodir yng nghwestiwn Atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol) hefyd yn helpu dull y llu o atal SOC. Mae ymwybyddiaeth dda yn y llu o bwysigrwydd atal pobl rhag cael eu cynnwys mewn SOC.
Mae angen i’r llu sicrhau bod y dull o atal pobl yn y system cyfiawnder troseddol rhag aildroseddu yn cael ei ddeall yn glir
Mae’r llu yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) a’r uned cudd-wybodaeth carchardai rhanbarthol (RPIU) i reoli troseddwyr SOC sydd yn y carchar. Mae cynrychiolydd o’r RPIU yn aelod FIDG, felly maen nhw’n ymwybodol o’r grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n cael eu trafod, ynghyd ag unrhyw aelodau perthnasol a allai fod yn y carchar. Mae Rhaglen Cudd-wybodaeth ar y cyd (JIP) gyda HMPPS. Fforwm aml-asiantaeth yw hwn sy’n mynd i’r afael â SOC mewn carchardai a chymunedau. Mae’n dod â’r heddlu, carchardai a’r gwasanaeth prawf at ei gilydd i rannu cudd-wybodaeth a chytuno ar gamau gweithredu ar gyfer amharu ar droseddu cyfundrefnol.
Roedd yn amlwg yn ystod ein harolygiad bod rhai swyddogion yn ansicr am sut y dylid rheoli troseddwyr SOC pan fyddant yn y carchar. Mae’r llu yn ymwybodol o’r broblem hon ac yn cymryd camau i egluro ei brosesau. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod pob cyfle yn cael ei gymryd i atal ac amharu ar droseddu cyfundrefnol.
Digonol
Bodloni'r Gofyniad Plismona Strategol
Prif ganfyddiadau
Nid ydym yn graddio lluoedd ar y rhan hon o’n hasesiad. Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau ar gyfer pa mor dda y mae Heddlu Dyfed-Powys yn bodloni’r gofyniad plismona strategol (SPR).
Mae dealltwriaeth dda o’r bygythiadau a restrir yn y Gofyniad Plismona Strategol – maent yn cael eu blaenoriaethu, ac mae’r llu yn gweithio gyda lluoedd cyfagos a sefydliadau eraill i fynd i’r afael â nhw
Mae’r Gofyniad Plismona Strategol (SPR) yn cynnwys bygythiadau difrifol sy’n torri ar draws ffiniau’r heddlu, yn bennaf terfysgaeth, digwyddiad seiberddiogelwch cenedlaethol, troseddau difrifol a threfnus, bygythiadau i drefn gyhoeddus, argyfyngau sifil a cham-drin plant yn rhywiol. Mae’r chwe bygythiad yn rhan annatod o weithdrefnau cynllunio busnes y llu. Cyfeirir atynt yn asesiad strategol y llu ac yn ei datganiad rheoli’r llu (FMS), ac maent yn rhan o’r cynllun heddlu a throseddu. Mae gan y llu rôl amlwg yn y fforwm gydnerth lleol (LRF) ac mae’n gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i atal bygythiadau SPR. Un enghraifft o hyn oedd pan wnaeth trên ddod oddi ar y cledrau yn 2020. Roedd angen gadael y trên yn gyfan gwbl a chael ymateb aml-asiantaeth i adfer diogelwch a chael y rheilffordd i weithio eto. Mae adrodd yn digwydd yn dilyn digwyddiadau o’r fath i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu gan yr holl asiantaethau dan sylw i wella ymatebion yn y dyfodol.
Mae’r llu yn cynnal asesiadau fel mater o drefn i sicrhau bod ganddo ddigon o staff a gallu i fynd i’r afael â bygythiadau SPR
Mae grŵp bygythiadau’r llu yn ystyried y bygythiad a’r risg mewn perthynas â’r strategaeth reoli a’r staff a’r gallu yn gysylltiedig â bygythiadau SPR – er enghraifft, y potensial i blant gael eu cynnwys mewn troseddu cyfundrefnol difrifol a’r risgiau a achosir gan droseddau seibr a therfysgaeth. Roedd yr FMS eisoes wedi nodi yr angen am staff ychwanegol, a threfnwyd am gael staff TG ychwanegol i liniaru rhai o’r risgiau rhag seiber-droseddu.
Mae gan y llu gynlluniau ar waith i ymdrin â bygythiadau SPR rhagweladwy ac mae’n cynnal ymarferion a hyfforddiant rheolaidd gyda sefydliadau eraill
Yn unol â Deddf Argyfyngau Sifil 2004, mae’r llu yn gweithio gyda’r LRF i gynllunio ar gyfer bygythiadau SPR, megis argyfyngau sifil. Mae cynlluniau’r LRF yn nodi rolau, cyfrifoldebau a gweithredoedd sydd eu hangen ar bob asiantaeth mewn ymateb i’r argyfwng sifil penodol, ynghyd ag unrhyw gydlynu aml-asiantaeth. Mae’r llu yn cymryd rhan mewn ymarferion rheolaidd gydag asiantaethau i asesu sut mae’n ymdrin â bygythiadau SPR. Er enghraifft, aeth y pedwar LRF Cymru ati i ymarfer eu hymateb i ddigwyddiad mawr (llifogydd). Roedd y senario hwn yn cynnwys heriau seibr sylweddol ac yn darparu pwyntiau dysgu i bob sefydliad. Gwnaeth y llu hefyd brofi ymateb y cyfryngau ar y cyd i brotest ffug ar ddyfroedd Sir Benfro gan grŵp protest hinsawdd.
Mae’r pandemig wedi cael effaith ar rhai hyfforddiant i swyddogion a staff ar sut i ymdrin â bygythiadau SPR. Er enghraifft, staff heb arfau yn ymateb i ymosodiadau terfysgol. Dylai’r ymarferion gynnwys staff y ganolfan gyfathrebu a swyddogion heb arfau gan eu bod yn debygol o fod y cyntaf i ymateb i ddigwyddiadau o’r fath. Mae dysgu yn y dosbarth wedi cael ei ohirio dros dro oherwydd y pandemig a bydd yn ailgychwyn yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Diogelu'r Cyhoedd rhag Bygythiadau Arfog
Nid ydym yn graddio lluoedd ar y cwestiwn hwn.
Arferion arloesol
Mae cydweithio adeiladol gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn dod â manteision o ran argaeledd swyddogion arfog a gwerth am arian
Mae gan y llu drefniadau ar y cyd gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i ddarparu plismona arfog. Ers deng mlynedd, mae gwasanaethau plismona arfog ym mhob llu wedi’u cyfuno i’r Cyd-Uned Arfau Saethu (JFU). Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, mae swyddogion cerbydau ymateb arfog (ARV) yn mynychu’r mwyafrif o ddigwyddiadau arfog. Mantais y dull ar y cyd yw bod safon yr hyfforddiant a’r defnydd tactegol ym mhob un o’r tri llu yr un fath. Gan amlaf, gall penaethiaid arfau saethu fod yn sicr y gall swyddogion arfog yn y tri llu weithio gyda’i gilydd yn hawdd. Y tu hwnt i’r manteision gweithredol amlwg, bydd cyfleuster hyfforddi newydd, sydd bellach yn cael ei adeiladu, yn arbed hyd at £4m o wariant cyfalaf.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn amddiffyn cymunedau rhag bygythiadau arfog.
Mae’r llu yn cymryd camau cadarnhaol i recriwtio swyddogion arfog
Mae Heddlu Dyfed-Powys, fel rhan o’i waith gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, yn cymryd camau cadarnhaol i gynnal nifer y swyddogion arfog. Yn genedlaethol, mae llawer o swyddogion yn amharod i gael hyfforddiant defnyddio arfau saethu. Gan gydnabod hyn, mae’r llu yn nodi swyddogion newydd yr heddlu a swyddogion sy’n gwasanaethu gyda dawn i blismona arfog yn gynnar yn eu gyrfaoedd. Mae cyfleoedd fel diwrnodau mentora a mewnwelediad ar gael i’w hannog i rolau plismona arfog. Mae cefnogaeth â ffocws wrth law i ymgeiswyr yn ystod cyrsiau hyfforddi. Mae ‘pinch points’, lle mae swyddogion yn fwyaf tebygol o fethu cyrsiau, yn cael eu rheoli yn ddwys gan hyfforddwyr. Mae’r mesurau hyn yn profi’n llwyddiannus wrth hybu recriwtio.
Mae cysylltiad agos gydag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru yn golygu bod cymorth arbenigol ar gael os oes angen
Os bydd digwyddiadau’n gwaethygu, ac os oes angen galluoedd arbenigol gan Heddlu Dyfed-Powys i ddatrys bygythiadau, mae gweithdrefnau sefydlog ar waith. Drwy’r trefniadau cydweithio gyda’r JFU, mae gan y llu fynediad at swyddogion arfau saethu gwrthderfysgaeth arbenigol sy’n rhan o Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru.
Mae’r llu’n cefnogi gweithdrefnau cymeradwyo cenedlaethol ar gyfer caffael arfau ac arfau rhyfel arbenigol
Oherwydd y diffygion a nodwyd yn Ymchwiliad Anthony Grainger, gwnaethom adolygu gwiriadau’r llu ar y prosesau sydd ar waith pe bai angen caffael systemau arfau newydd neu arfau rhyfel arbenigol. Mae’r JFU yn y broses o brofi arfau newydd gyda’r bwriad o ddiweddaru’r reifflau ymosod sydd ar hyn o bryd wedi eu rhoi i swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae’r llu yn gweithio’n agos gydag arweinydd plismona arfog Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Swyddfa Gartref fel rhan o’r broses gymeradwyo.
Mae penaethiaid arfau saethu yn gyfarwydd â defnyddio arfau rhyfel arbenigol
Roedd yr adroddiad am farwolaeth Anthony Grainger hefyd yn feirniadol o gymhwysedd y swyddogion yn gorchymyn gweithrediad arfog. Cyfeiriwyd yn benodol at awdurdodi a defnyddio arfau rhyfel arbenigol yn dactegol. Mae’n bwysig bod penaethiaid arfau saethu yn gyfarwydd â’r manteision, y risgiau a’r effeithiau corfforol sydd gan ddyfeisiau o’r fath ar unigolion. Mae awdurdodi a defnyddio arfau rhyfel arbenigol yn rhan o’r rhaglenni hyfforddi a datblygu a gynigir i benaethiaid arfau saethu strategol a thactegol. Mae penaethiaid arfau saethu yn wybodus wrth ddefnyddio arfau rhyfel arbenigol a sut gallant gyfrannu at ddiwedd llwyddiannus gweithrediadau arfog.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys gynlluniau effeithiol mewn lle i fynd i’r afael â bygythiadau rhagweladwy
Rydym yn disgwyl i luoedd gael cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â bygythiadau rhagweladwy. Mae gan Heddlu Dyfed-Powys, fel rhan o’r trefniadau gwaith cydweithredol gyda’r JFU, gynlluniau gweithredol ar waith ar gyfer lleoliadau a allai fod yn darged i ymosodiadau terfysgol. Drwy raglen o ymarferion, mae cyfleoedd i brofi’r cynlluniau hyn yn rheolaidd. Er bod COVID-19 wedi cael effaith ar y rhaglen, fel arfer byddai ymarferion yn cynnwys y fyddin a gwasanaethau brys eraill. Gwelsom fod ymarferion hyfforddi hefyd yn cael eu hadolygu’n ofalus fel bod pwyntiau dysgu yn cael eu nodi a bod gwelliannau yn cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol.
Mae’r llu yn adrodd yn rheolaidd ar weithrediadau arfog i sefydlu meysydd i’w gwella
Yn ogystal ag adrodd am ymarferion hyfforddi gyda’r holl swyddogion dan sylw, gwelsom fod Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn adolygu canlyniad holl ddigwyddiadau drylliau y mae swyddogion yn eu mynychu. Rheolir hyn gan y JFU. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y ffyrdd gorau o weithio a meysydd i’w gwella yn cael eu cydnabod. Gwelsom fod yr wybodaeth hon hefyd yn cael ei defnyddio i wella hyfforddiant a gweithdrefnau gweithredol.
Mae dealltwriaeth y llu o fygythiadau yn gwella, ond mae gwaith i’w wneud o hyd
Mae bygythiad strategol plismona arfog ac asesiad risg (APSTRA) y JFU yn nodi’r bygythiadau. Cyhoeddir APSTRA yn flynyddol ac mae cofrestr risg a chynllun gweithredu yn cyd-fynd â hi. Mae’n cyd-fynd â’r safonau a nodir gan Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Ond, mae modd gwella rhai meysydd. Mae angen diweddaru rhai o’r data sy’n cefnogi’r APSTRA, ac mae’n ond yn rhagweld galw dros gyfnod o dair blynedd yn hytrach nag y mae gyda FMS, sydd â rhagamcaniad pedair blynedd. Rydym yn sicr bod y materion hyn yn cael sylw.
Dylai fod cydlynu gwell o swyddogion sy’n cael defnyddio tasers yn Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru
Mae anghysonderau wedi codi wrth ddefnyddio arfau llai marwol yn Heddlu Dyfed‑Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Fel y mae gyda lluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr, mae nifer cynyddol o swyddogion anarfog yn cael arfau llai angheuol i’w hamddiffyn eu hunain a’r cyhoedd. Mae’r arfau mwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd yn ddyfeisiau ynni, sydd fel arfer yn cael eu cyfeirio atynt fel tasers. Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid cysylltu defnyddio arfau llai marwol â’r bygythiadau a’r risgiau a amlinellir yn yr APSTRA. Ond mae gan y tri llu drefniadau ar wahân. Dylai’r broses o ddewis, hyfforddi a defnyddio swyddogion taser gael eu cydlynu’n well. Byddai hyn yn gwella cydymffurfiaeth â safonau cenedlaethol ac yn dod â mwy o sicrwydd bod swyddogion sy’n cael defnyddio tasers ar gael pan fo angen.
Adeiladu, cefnogi ac amddiffyn y gweithlu
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dda am adeiladu a datblygu ei weithlu.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn adeiladu ac yn datblygu ei weithlu.
Mae’r llu wedi gwella ei phrosesau dyrchafu ac mae swyddogion a staff ar y cyfan yn gadarnhaol am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt
Mae’r llu wedi datblygu cynllun gweithlu sy’n gysylltiedig â’r meysydd hynny lle mae angen recriwtio fwyaf. Mae’n seiliedig ar ddadansoddiad o’r galw. Er enghraifft, nod y rhaglen dditectif llwybr carlam yw mynd i’r afael â phrinder mewn timau ymchwilio. Mae’r llu hefyd wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’w brosesau dyrchafu ers ein harolygiad diwethaf. Mae’r mwyafrif o’r gweithlu bellach yn gweld prosesau dyrchafu fel rhai teg a gonest ac mae’n cydnabod y gwaith y mae’r llu yn ei wneud i wella cyfleoedd.
Mae’r llu’n cymryd camau gweithredu i wneud ei weithlu’n fwy cynrychioliadol yn ei gymunedau
Mae gan y llu grŵp gweithlu cynrychioli, sy’n ystyried sut mae’r gweithlu yn cynrychioli holl nodweddion gwarchodedig. Mae’r llu’n cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd yn y maes hwn. Ond mae’n hyderus bod ganddo’r wybodaeth sydd ei hangen i ddeall pa mor gynrychioliadol yw ei gweithlu yn ei gymunedau.
Mae’r llu wedi cynnal ymchwil gyda myfyrwyr du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig o brifysgol leol i ddeall eu canfyddiadau ynghylch plismona a’r rhwystrau i weithio iddyn nhw. Mae’r llu wedi penodi swyddog gweithredu positif i gefnogi recriwtio gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bu hefyd yn cynnal gweithdai cyn cychwyn ymgyrch recriwtio cwnstabliaid yr heddlu. Yn ddiweddar, mae’r llu wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n ymgeisio am rolau cwnstabl heddlu.
Mae cyfleoedd dysgu a datblygu ar gael i swyddogion a staff, ac mae ganddynt fynediad at broses adolygu datblygiad perfformiad effeithiol
Mae swyddogion a staff yn ymwybodol o’r cyfleoedd datblygu sydd ar gael iddynt. Maent ar y cyfan yn gadarnhaol am yr hyn sydd ar gael iddynt, gan gynnwys cyfleoedd gydag adrannau eraill. Mae’r pandemig wedi cael effaith ar hyfforddiant rheolaidd, ac mae rhai sesiynau bellach yn cael eu cynnal o bell. Mae llawer o gweithlu yn teimlo bod eu rheolwr yn deall eu hanghenion datblygu ac yn cefnogi eu datblygiad. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd, ac mae’r system rheoli perfformiad y llu, proffil datblygu ac asesu (DAP), ar gyfer y mwyafrif o aelodau’r gweithlu yn cael ei gwblhau. Er nad yw pawb yn deall yn iawn sut mae’r system yn berthnasol iddyn nhw, mae’r mwyafrif o staff yn ei ddefnyddio, ac mae’n cael ei ddefnyddio fwyfwy i gefnogi prosesau dyrchafu.
Mae ‘unedau tiwtoriaid’ wedi’u sefydlu mewn rhai rhannau o’r llu er mwyn cefnogi swyddogion myfyrwyr. Mae tiwtoriaid sydd wedi’u lleoli mewn gorsafoedd lleol yn darparu cymorth amser real ac hyfforddiant ar sail senario, sy’n gwneud mynediad i gymorth yn haws. Roedd swyddogion newydd yn gadarnhaol am y gefnogaeth hon sy’n eu helpu i roi dysgu yn y dosbarth ar waith. Yn seiliedig ar lwyddiannau presennol, gallai’r llu ystyried ehangu’r rhaglen i gynyddu’r cymorth sydd ar gael.
Mae’r llu’n gwneud cynnydd da gyda fframwaith cymwysterau addysg plismona (FfCAP/PEQF)
Mae’r llu’n gwneud cynnydd da wrth weithredu PEQF trwy ei waith gyda Phrifysgol De Cymru ac yn cefnogi i’w fyfyrwyr. Mae’r llu yn hyfforddi swyddogion ar gyfer Prentisiaeth Gradd Cwnstabl yr Heddlu a’r Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd. Mae’r llu o’r farn ei bod mewn sefyllfa dda i gefnogi swyddogion newydd ar y rhaglenni hyn, gyda’r grŵp cyntaf wedi graddio yn gynharach eleni.
Mae gan y llu drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod swyddogion a staff yn cael eu harchwilio i’r lefel briodol, ond mae’n dibynnu ar broses â llaw
Ar hyn o bryd mae gan y llu broses â llaw i sicrhau bod swyddogion a staff yn cael eu harchwilio. Mae hyn yn dibynnu ar bobl yn diweddaru taenlenni ac yn monitro rhestrau cylchredu’r llu ac e-byst. Byddai’r llu yn elwa o system electronig awtomataidd i reoli’r cysylltiad rhwng adnoddau dynol a systemau archwilio. Gwelsom fod y mwyafrif o’r gwaith yn uned archwilio’r llu yn effeithiol, a bod y lefel gywir o archwilio gan lawer o’r gweithlu ar gyfer y rolau sy’n cael eu gwneud. Mae prosesau yn cael eu rheoli’n dda, er bod y prosesau yn cymryd llawer o amser i staff. Mae’r llu wedi prynu system rheoli archwiliadau ar y we, a fydd yn darparu dull effeithlon. Er hynny, mae’r broses o’i weithredu wedi’i ohirio oherwydd y pandemig.
Mae’r llu’n dda am fonitro anghyfartaledd posibl mewn systemau archwilio ac mae ganddo broses effeithiol ar waith i adolygu penderfyniadau. Mae’r llu yn ymwybodol o’r galw presennol ac yn y dyfodol a fydd yn cael ei gynhyrchu gan swyddogion newydd oherwydd rhaglen ymgodiad yr heddlu.
Mae gan y llu’r gallu i fonitro ei holl systemau TG ar gyfer llygredd posibl
Mae’r llu’n gallu monitro ei holl systemau TG i nodi unrhyw ddefnydd amhriodol. Yn ystod ein harolygiad, gwnaethom adolygu sawl eitem o ddeallusrwydd llygredd posibl, a chanfod defnydd helaeth o’r feddalwedd monitro TG i gydnabod llygredd posibl. Gwelsom enghreifftiau o’r llu yn defnyddio meddalwedd i nodi a diogelu dioddefwyr sy’n agored i niwed. Mae’r llu yn ymwybodol bod angen iddo sicrhau ei fod yn gallu defnyddio’r feddalwedd hon ar unrhyw raglenni newydd neu systemau TG y bydd yn eu cyflwyno yn y dyfodol.
Mae’r llu yn deall ac yn gweithredu ar y bygythiad a’r risg a achosir gan lygredd o’r heddlu
Mae gan y llu asesiad bygythiad strategol cynhwysfawr yn ei le, ynghyd â strategaeth reoli, ond nad oes gan y llu gynllun cyflenwi ar hyn o bryd. Byddai cynllun o’r fath yn ei helpu i weithredu ei strategaeth yn fwy effeithiol. Mae gan uned gwrthderfysgaeth y llu ddigon o staff i ateb ei galw presennol, ond mae angen adolygu hyn yn rheolaidd.
Mae swyddogion a staff ar y cyfan yn ymwybodol o arwyddion rhywun a allai fod yn camddefnyddio’u rôl at bwrpas rhywiol. Mae pob sarjant wedi cael sgwrs ynglyn ag arwyddion rhybudd posib i edrych amdano. Mae rhai fideos ‘amlinellu’ animeiddiedig 60 eiliad defnyddiol, sy’n ymdrin â themâu megis cymdeithasau amhriodol a’r gofyniad i adrodd, wedi ymddangos ar safle fewnrwyd y llu. Mae’r rhain hefyd wedi cael eu rhannu gyda sefydliadau partner. Er y byddai rhai swyddogion a staff yn defnyddio llinell adrodd gyfrinachol y llu, o’r enw ‘bad apple’, mae eraill yn dal i bryderu nad yw adroddiadau’n ddienw.
Mae’r llu’n darparu ystod dda o gymorth lles i’w weithlu, ac mae rheolwyr llinell yn ystyried lles eu swyddogion a’u staff fel mater o drefn
Mae strategaeth lles yr heddlu, Strategaeth Arweinyddiaeth a Lles Calon (2017–21), yn gosod ei gweledigaeth fel a ganlyn: “Cyflawni rhagoriaeth trwy ofal, gwerthoedd ac ymgysylltiad ein pobl a rhoi arweiniad a lles wrth wraidd popeth a wnawn”. Mae gan yr heddlu amrywiaeth dda o ddarpariaeth lles sydd ar gael i’w swyddogion a’i staff. Mae’n ymgynghori ag undebau ac ardaloedd plismona lleol er mwyn deall pa ddarpariaeth y gallai fod ei hangen. Mae swyddogion a staff ar y cyfan yn gadarnhaol am y ddarpariaeth lles y gallant fanteisio arni, a chael cefnogaeth a dealltwriaeth dda gan reolwyr llinell am eu hanghenion lles. Ond mae angen i’r llu sicrhau bod gan y rhai sy’n byw mewn rhannau mwy anghysbell o ardal y llu fynediad cyfartal at ddarpariaeth lles. Byddai’r llu hefyd yn elwa o werthuso’r ddarpariaeth les bresennol fel ei fod yn deall pa ddarpariaethau yw’r rhai mwyaf effeithiol. Sylw amserol yw hyn o ystyried bod y llu eisoes wedi dechrau datblygu strategaeth newydd yn lle Calon.
Mae cymorth iechyd galwedigaethol yn gyffredinol yn cael ei ystyried yn gadarnhaol, ond mae angen gwneud mwy i ailgyflwyno cefnogaeth rhagweithiol i swyddogion a staff sy’n gweithio mewn rolau risg uchel
Cynhaliodd y Coleg Plismona adolygiad gan gymheiriaid o ddarpariaeth iechyd galwedigaethol y llu yn 2020. Yn yr adolygiad hwn, gwnaethpwyd sawl argymhelliad gyda’r bwriad o wella’r gwasanaeth, ac ers hynny mae’r llu wedi rhoi cynllun ar waith. Nawr mae angen i’r llu sicrhau bod y cynllun hwn yn cynnwys ffyrdd y gellir rhai sy’n gweithio mewn rhannau anghysbell o ardal y llu cael mynediad at iechyd galwedigaethol. Mae angen iddo hefyd sicrhau ei fod yn cynnal gwiriadau lles rhagweithiol ar y swyddogion a’r staff hynny sy’n gweithio mewn rolau risg uchel ac a allai fod yn delio â digwyddiadau trawmatig. Bydd archwiliadau o’r fath yn penderfynu os yw’r gwaith yn effeithio ar staff ac os oes angen gwell cymorth lles.
Mae angen i’r llu barhau i wneud gwelliannau i’r ffyrdd y mae ei bwyllgor moeseg yn gweithio
Adolygodd y llu ei bwyllgor moeseg yn 2020, yn dilyn adborth gan HMICFRS ac yn dilyn ei adolygiad mewnol. Newidiodd y llu’r llwybr cyfeirio i’r pwyllgor, a gwnaeth hyn wella nifer yr atgyfeiriadau cyfyngderau moesegol. Ond mae’r pwyllgor yn dal i dderbyn atgyfeiriadau nad ydynt yn gyfyngderau moesegol ac, yn hytrach, sy’n faterion y dylid eu hystyried gan reolwyr llinell ac adnoddau dynol. Mae angen codi ymwybyddiaeth am rôl a swyddogaeth y pwyllgor moeseg a’r math o bethau y dylid eu cyfeirio ato. Dylid rhoi adborth ar gyfyngderau moesegol sydd wedi’u trafod i’r gweithlu i wella dysgu a gwella lefelau cyffredinol o ddealltwriaeth.
Da
Cynllunio strategol, rheoli’r sefydliad a gwerth am arian
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ddigonol am weithredu’n effeithlon.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor effeithlon yw’r llu.
Mae’r llu’n cydweithio i wella gwasanaethau ac yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl o weithio ar y cyd yn unol â’i rwymedigaethau statudol
Rheolir llywodraethu cydweithio trwy drefniant Cydweithredu Cymru Gyfan. Mae’n cynnwys tîm bychan sydd wedi ei ariannu gan bedwar llu Cymru er mwyn rheoli cydweithio. Mae ei flaenoriaethau’n cynnwys effeithlonrwydd systemau TG ar gyfer recriwtio, hyfforddi ac adnoddau dynol. Mae cydweithio sefydledig yn cynnwys Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru, o’r enw Tarian (yr uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol), Cyd-Uned Arfau Saethu (Heddlu Dyfed-Powys/Heddlu Gwent/Heddlu De Cymru), Rhaglen Fforensig Cymru Gyfan, Rhaglen Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan a Rhaglen Recriwtio Cymru Gyfan.
Mae’r llu yn gallu mesur y manteision sy’n deillio o gydweithrediadau. O’r ‘Cydweithrediad Gwasanaethau Goleuadau Glas’ a gafodd ei ysbrydoli gan y Swyddfa Gartref, rhaglen genedlaethol sydd â’r nod o wneud £20m o arbedion gan wasanaethau brys, bydd lluoedd Cymru yn arbed £1m bob blwyddyn. Erbyn hyn mae lluoedd Cymru yn arbed £700,000 bob blwyddyn trwy ‘e-recriwtio’ ar y cyd. Tystiolaeth bellach o ymrwymiad y llu at gydweithio proffesiynol yw datblygiad Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Cymru gyfan (SARCs). Bydd cydweithrediad diweddaraf y llu ar gyfer ei system rheoli cofnodion newydd hefyd yn gwella effeithlonrwydd.
Mae’r llu yn rheoli’r galw presennol yn dda
Mae gan y llu ddealltwriaeth effeithiol o’r galw ym mhob maes. Mae datganiad rheoli’r llu (FMS) yn defnyddio cyfuniad o ddulliau ystadegol ac ansoddol er mwyn penderfynu lefel y risg ar gyfer pob rhan o’r llu. Mae’n hefyd yn rhoi manylion ar beth mae’r llu yn ei wneud i wella gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae’r FMS yn mynd â’r darllenydd drwy bethau yn rhesymegol: dadansoddiad o’r galw; nodi pwysau presennol ac yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar y gweithlu; penderfynu ar feysydd ar gyfer buddsoddi; ac yna nodi’r risg ar gyfer meysydd nad yw’n gallu ei staffio oherwydd nad oes ganddo’r gyllideb.
Mae’r buddsoddiad y mae’r llu wedi’i wneud wrth ddeall y galw yn gadarnhaol, a gwelsom enghreifftiau o’r llu yn nodi materion lleol a chenedlaethol sy’n dod i’r amlwg a oedd yn caniatáu iddo symud staff o amgylch ardal y llu i ateb y galw. Un enghraifft o hyn yw Ymgyrch Lion, sy’n rheoli’r cynnydd yn y galw a achoswyd gan dwristiaeth yn Ninbych-y-pysgod yn ystod misoedd yr haf.
Mae’r llu’n sicrhau bod ganddo’r gallu a’r lle sydd ei angen arno i fodloni a rheoli gofynion cyfredol yn y modd mwyaf effeithlon
Mae gan y llu allu ym mhob un o’i ardaloedd plismona lleol i ddelio gyda’i droseddau a’i alw am ddigwyddiadau. Mae hyn yn rhoi darlun blynyddol o gost, oriau a chanran yr amser sy’n cael ei dreulio ar bob math o ddigwyddiad trosedd. Er enghraifft, yn Sir Gaerfyrddin yn 2018/19, y math o droseddu oedd yn digwydd amlaf oedd ymosod yn achosi anaf, a gostiodd £1m ac a gymrodd 21,000 awr, gan lenwi 13 y cant o amser plismona yr ardaloedd plismona lleol oedd ar gael.
Mae gan y llu broses sy’n ystyried pob agwedd ar swyddi gwag yn y gweithlu, ardaloedd risg a phwysau tebygol, ac sy’n amlinellu’r camau sydd i’w cymryd. Mae cysylltiad clir gyda FMS, ond gwelsom fod rhai rhannau o’r llu yn profi pwysau llwythi gwaith, er enghraifft, y tîm ymchwilio ar-lein (POLIT). Yn ddiweddar, bu’r llu yn hysbysebu rolau yn ei hadran ymchwiliadau troseddol (CID), ond ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau. Mae’r llu’n gweithio i ddarganfod pam fod swyddogion a staff yn amharod i symud I’r maes ymchwiliadau, tra’n mynd ati i edrych ar atebion.
Mae’r llu yn deall galw’r dyfodol ac yn bwriadu sicrhau bod ganddo’r adnoddau cywir mewn lle i ddiwallu anghenion y dyfodol
Mae gan y llu ddealltwriaeth dda o’r galw yn y dyfodol ac mae’n defnyddio gwybodaeth o’i ddadansoddiad data i gychwyn ei fuddsoddiad yn y dyfodol. Er enghraifft, cafodd y tîm troseddau ac asesu digwyddiadau a sefydlwyd yn 2017 ei ddisodli gan brosiect End to End, sydd wedi cael ei ymchwilio’n dda. Bydd y rhaglen waith hon yn gofyn am fonitro a goruchwylio i sicrhau bod y gwaith a’r buddsoddiad yn darparu’r gwelliannau disgwyliedig.
Mae’r llu wedi ystyried ble orau i gael y swyddogion ychwanegol a recriwtiwyd drwy’r rhaglen ymgodiad. Mae popeth mewn lle i gyrraedd ei darged recriwtio. O’r garfan ddyrchafol, cafodd 22 eu recriwtio ym mis Ionawr 2020 a recriwtiwyd 20 arall ym Mehefin 2020. Bydd y cynlluniau presennol yn cyrraedd y targed ymgodiad erbyn Mawrth 2022.
Mae’r llu wedi sicrhau cydbwysedd da rhwng arbedion a buddsoddiadau. Mae’n werth nodi sut mae pwysau galw FMS yn gysylltiedig â thwf ymgodiad ym mhob maes plismona. Mae’r FMS yn dangos ymwybyddiaeth y llu o’i rwymedigaethau i ddarparu gwerth am arian. Mae’r llu’n dangos ymwybyddiaeth o’r ffordd orau o ddefnyddio’r rhaglen ymgodiad i fynd i’r afael â’r galw yn y dyfodol. Mae wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn plismona bro, wedi’i gychwyn gan ei ddealltwriaeth o’r galw a blaenoriaethau lleol.
Mae’r llu’n gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael, ac mae ei gynlluniau yn uchelgeisiol ac yn gynaliadwy
Mae cynlluniau ariannol y llu yn uchelgeisiol ac yn sicrhau cydbwysedd da rhwng buddsoddi mewn meysydd sydd angen eu blaenoriaethu a gwneud arbedion o ran effeithlonrwydd. Mae’r cyllidebau refeniw a chyfalaf wedi’u strwythuro tuag at newid sylweddol i sicrhau gwelliannau i wasanaethau a gwneud arbedion.
Mae’r llu wedi amlinellu yn yr FMS lle y bydd yn gwneud buddsoddiad ychwanegol i gadw i fyny â’r galw y mae wedi’i gydnabod. Bwriad y llu yw cynyddu ei weithlu (y tu hwnt i ddyraniad codiad yr heddlu o 84 o swyddogion) i roi adnoddau i’r blaenoriaethau a amlinellir yn yr FMS. Bydd angen twf o £6m yn y gweithlu ar gyfer hyn. Mae’r prif feysydd twf yn cynnwys ymateb, ymchwiliadau a staffio yng nghanolfan gyfathrebu’r llu.
Mae’r llu’n buddsoddi mewn ystadau ac asedau, a fydd yn gwella gwasanaethau ac effeithlonrwydd. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £18m i ganoli cyfleusterau dalfa yn Sir Gaerfyrddin, buddsoddiad o £8m mewn cyfleuster hyfforddi ar gyfer y Cyd-Uned Arfau Saethu (a rennir gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru), gorsaf heddlu newydd (neu wedi’i hadnewyddu) yn Aberhonddu, gosod system rheoli cofnodion newydd (NICHE), uwchraddio offer camerâu corff, a gosod cerbydau fflyd newydd, a fydd yn cynnwys 18 o gerbydau trydan.
Mae’r llu wedi dangos ei fod yn parhau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd a gwella cynhyrchiant
Mae gan y llu hanes da o gyflawni arbedion a gwella effeithlonrwydd. Ers cyflwyno cyfyngiadau cyllidebol yn 2010/11, mae’r llu wedi gwneud dros £30m o arbedion. Mae hyn yn cynrychioli tua chwarter ei chyllideb refeniw bresennol o £119m.
Mae’r llu wedi cryfhau ei ffordd o reoli gwelliannau gwasanaethau, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ac mae’r rhain i’w gweld yn gweithio’n effeithiol. Er enghraifft, mae’r grŵp cyllid ac effeithlonrwydd yn monitro ‘cofrestr presenoldeb buddion’ i olrhain cynnydd yr holl welliannau gwasanaethau. Mae buddion yn cael eu categoreiddio o dan benawdau penodol, megis gwella prosesau, arbedion ariannol ac ansawdd y gwasanaeth. Gwnaeth y gofrestr olrhain gwelliannau i sicrhau £80,000 o gyllid grant ar gyfer canolfan bregusrwydd y llu. Defnyddir y cyllid hwn i gaffael dyfeisiau tagio sydd wedi’u cynllunio i gynnal gwahanu corfforol rhwng dioddefwyr bregus a’u cam-drinwyr.
Ar hyn o bryd, mae’r llu yn gweithredu cynlluniau i wella gwasanaethau drwy ddefnyddio technoleg. O raglen gyfalaf deng mlynedd gwerth £86m y llu, neilltuir £25m ar gyfer gwella technoleg. Mae’r ffocws ar hyn o bryd ar osod system rheoli cofnodion newydd, radios newydd, uwchraddio i offer fideo wedi’i wisgo ar y corff, a chyflwyno Office 365 ar gyfrifiaduron yr heddlu fel rhan o’r rhaglen genedlaethol. Mae ymchwil a datblygiad y dyfodol yn rhan o raglen Cymru Gyfan ac yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, cyfieithu/trawsgrifio, adnabod llais, dadansoddeg fideo a chydweithio mewn ystafelloedd rheoli.
Digonol
Am y data
I gyfieithu’r cynnwys hwn i’r Gymraeg, defnyddiwch y botwm Cymraeg frig y dudalen ar y chwith.
Data in this report is from a range of sources, including:
- Home Office;
- Office for National Statistics (ONS);
- our inspection fieldwork; and
- data we collected directly from all 43 police forces in England and Wales.
When we collected data directly from police forces, we took reasonable steps to agree the design of the data collection with forces and with other interested parties such as the Home Office. We gave forces several opportunities to quality assure and validate the data they gave us, to make sure it was accurate. We shared the submitted data with forces, so they could review their own and other forces’ data. This allowed them to analyse where data was notably different from other forces or internally inconsistent.
We set out the source of this report’s data below.
Methodology
Data in the report
British Transport Police was outside the scope of inspection. Any aggregated totals for England and Wales exclude British Transport Police data, so will differ from those published by the Home Office.
When other forces were unable to supply data, we mention this under the relevant sections below.
Most similar groups
We compare each force’s crime rate with the average rate for forces in its most similar group (MSG). MSGs are groups of similar police forces, based on analysis of demographic, social and economic factors which relate to crime. We could not identify any forces similar to City of London Police. Every other force has its own group of up to seven other forces which it is most similar to.
An MSG’s crime rate is the sum of the recorded crimes in all the group’s forces divided by its total population. All of the most similar forces (including the force being compared) are included in calculating the MSG average.
More information about MSGs can be found on our website.
Outlier Lines
The dotted lines on the Bar Charts show one Standard Deviation (sd) above and below the unweighted mean across all forces. Where the distribution of the scores appears normally distributed, the sd is calculated in the normal way. If the forces are not normally distributed, the scores are transformed by taking logs and a Shapiro Wilks test performed to see if this creates a more normal distribution. If it does, the logged values are used to estimate the sd. If not, the sd is calculated using the normal values. Forces with scores more than 1 sd units from the mean (i.e. with Z-scores greater than 1, or less than -1) are considered as showing performance well above, or well below, average. These forces will be outside the dotted lines on the Bar Chart. Typically, 32% of forces will be above or below these lines for any given measure.
Population
For all uses of population as a denominator in our calculations, unless otherwise noted, we use ONS mid-2019 population estimates.
Survey of police workforce
We surveyed the police workforce across England and Wales, to understand their views on workloads, redeployment and how suitable their assigned tasks were. This survey was a non-statistical, voluntary sample so the results may not be representative of the workforce population. The number of responses per force varied. So we treated results with caution and didn’t use them to assess individual force performance. Instead, we identified themes that we could explore further during fieldwork.
Victim Service Assessment
Our victim service assessments (VSAs) will track a victim’s journey from reporting a crime to the police, through to outcome stage. All forces will be subjected to a VSA within our PEEL inspection programme. Some forces will be selected to additionally be tested on crime recording, in a way that ensures every force is assessed on its crime recording practices at least every three years.
Details of the technical methodology for the Victim Service Assessment.
Data sources
Crime outcomes
We took data on crime outcomes from the April 2022 release of the Home Office police-recorded crime and outcomes data tables.
Total police-recorded crime includes all crime (except fraud) recorded by all forces in England and Wales (except BTP). Home Office publications on the overall volumes and rates of recorded crime and outcomes include British Transport Police, which is outside the scope of this HMICFRS inspection. Therefore, England and Wales rates in this report will differ from those published by the Home Office.
Police-recorded crime data should be treated with care. Recent increases may be due to forces’ renewed focus on accurate crime recording since our 2014 national crime data inspection.
For a full commentary and explanation of crime and outcome types please see the Home Office statistics.
Domestic violence protection orders
We collected this data directly from all 43 police forces in England and Wales. This data is as provided by forces in May 2021.