Crynodeb cyffredinol
Ein dyfarniadau
Asesodd ein harolygiad pa mor dda mae Heddlu De Cymru mewn deg maes plismona. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig mewn naw o’r deg hyn fel a ganlyn:
Gwnaethom hefyd archwilio pa mor effeithiol yw gwasanaeth Heddlu De Cymru i ddioddefwyr troseddau. Nid ydym yn gwneud dyfarniad graddedig yn y maes cyffredinol hwn.
Rydym yn gosod ein canfyddiadau manwl am y pethau y mae’r llu yn eu gwneud yn dda a lle dylai’r llu wella yng ngweddill yr adroddiad hwn.
Rydym hefyd yn asesu perfformiad y llu mewn ystod o feysydd eraill, ac rydym yn adrodd ar y rhain ar wahân. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig ar gyfer rhai o’r meysydd hyn.
PEEL 2023–2025
Yn 2014, gwnaethom gyflwyno ein harolygiadau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlonrwydd yr heddlu (PEEL), sy’n asesu perfformiad pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, rydym wedi bod yn addasu ein dull yn barhaus.
Rydym wedi symud i ddull asesu parhaus, a arweinir mwy gan ddeallusrwydd, yn hytrach na’r arolygiadau PEEL blynyddol a ddefnyddiom mewn blynyddoedd blaenorol. Asesir lluoedd yn erbyn nodweddion perfformiad da, a nodir yn Fframwaith Asesu PEEL 2023–2025, ac rydym yn cysylltu ein dyfarniadau yn gliriach ag achosion pryder a meysydd i’w gwella.
Nid yw’n bosib gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y graddau a ddyfarnwyd yn yr arolygiad PEEL hwn a’r rhai o’r cylch blaenorol o arolygiadau PEEL. Mae hyn am ein bod wedi cynyddu ein ffocws ar sicrhau bod lluoedd yn cyflawni canlyniadau priodol i’r cyhoedd, ac mewn rhai achosion, rydym wedi newid yr agweddau plismona rydym yn eu harchwilio.
Y cyd-destun gweithredu i heddluoedd Cymru
Mae’n bwysig cydnabod bod lluoedd yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol i’r rhai yn Lloegr. Er nad yw plismona a chyfiawnder wedi’u datganoli i Gymru, mae gwasanaethau hanfodol megis gofal iechyd, llety, addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi. Mae hyn yn golygu bod gweithgarwch heddlu a chyfiawnder Cymru yn digwydd mewn cyd-destunau perfformiad a deddfwriaethol unigryw. Yng Nghymru, mae sefydliadau datganoledig a chyrff heb eu datganoli yn gweithio mewn partneriaeth i roi’r lefel orau bosib o wasanaeth i bobl leol. Weithiau mae hyn yn golygu bod angen i luoedd yng Nghymru gydymffurfio â gofynion rheoleiddio Cymru a Lloegr.
Terminoleg yn yr adroddiad hwn
Mae ein hadroddiadau’n cynnwys cyfeiriadau at, ymhlith pethau eraill, diffiniadau, blaenoriaethau, polisïau, systemau, cyfrifoldebau a phrosesau ‘cenedlaethol’.
Mewn rhai achosion, mae ‘cenedlaethol’ yn golygu Cymru, Lloegr, neu Gymru a Lloegr. Mewn eraill, mae’n golygu Cymru, Lloegr a’r Alban, neu’r Deyrnas Unedig gyfan.
Crynodeb Arolygiaeth Ei Fawrhydi
Goruchwyliodd Arolygydd EF Wendy Williams yr arolygiad hwn tan 31 Mawrth 2024, pan ddaeth ei chyfnod i ben. Dyma ei sylwadau ar berfformiad y llu. Ar adeg cyhoeddi, Michelle Skeer sy’n gyfrifol am Heddlu De Cymru.
Rydym yn hapus gyda rhai agweddau ar berfformiad Heddlu De Cymru wrth atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r llu yn dda am hyrwyddo gweithle diogel a chroesawgar. Rydym yn fodlon â’r rhan fwyaf o agweddau eraill ar berfformiad y llu, ond mae meysydd lle mae angen iddo wella.
Yn 2023, wynebodd Heddlu De Cymru her plismona anhrefn ar raddfa fawr yn Nhrelái, Caerdydd, ac yna ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder cymunedol. Fe wnaeth arweinyddiaeth a threfniadau arwain a rheoli y llu ei helpu i gydlynu ei ymateb cychwynnol yn dda. Defnyddiodd y llu, yn yr enghraifft hon ac eraill, ei ddata ei hun a data partneriaeth i ddeall pryderon y cymunedau yr oedd eu hangen fwyaf arno i gymryd rhan.
Mae Heddlu De Cymru yn blaenoriaethu sut mae’n amddiffyn diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus. Mae’r llu wedi mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddefnyddio ymagwedd amlasiantaethol at ddatrys problemau. I wneud hynny, mae wedi defnyddio arian o Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref, sy’n caniatáu i luoedd ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn mentrau atal troseddu.
Mae Heddlu De Cymru yn cael ei ystyried yn gyflogwr croesawgar gan ei weithlu, ac mae ganddo gyfradd nodedig is o ymddiswyddiadau gwirfoddol gan swyddogion heddlu o’i gymharu â chyfartaledd Cymru a Lloegr. Ond mae angen i’r llu sicrhau bod ei holl swyddogion a staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn rhan o’i benderfyniadau.
Mae gan y llu raglen drawsnewid i sicrhau y gall ei swyddogaeth rheoli cysylltiadau ateb y galw presennol ac yn y dyfodol. Mae hyn eisoes wedi arwain at fanteision clir o ran arweinyddiaeth a helpu’r cyhoedd i gysylltu ag ef ar-lein.
Yn ein harolygiad, gwelsom fod Heddlu De Cymru yn asesu risg ac yn blaenoriaethu digwyddiadau yn effeithiol. Nid yw’r llu wedi gwneud digon o gynnydd, fodd bynnag, wrth ateb galwadau brys yn brydlon. Mae angen iddo hefyd fynd i ddigwyddiadau cam-drin domestig yn ddigon cyflym fel y gall dioddefwyr fod yn hyderus y byddant yn cael eu diogelu.
Nid yw’r llu yn nodi troseddau na phobl agored i niwed sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyson nac yn effeithiol. Mae hyn yn peri pryder, ac yn golygu nad yw’r llu yn manteisio ar bob cyfle i gadw dioddefwyr agored i niwed yn ddiogel.
Mae’n galonogol bod y rhan fwyaf o ymchwiliadau troseddol a archwiliwyd gan ein harolygiad wedi’u cynnal a’u goruchwylio’n dda. Cafodd y rhan fwyaf o ddioddefwyr eu cefnogi a’u hymgynghori’n briodol. Yn ne Cymru, mae nifer gymharol uchel o droseddwyr cam-drin domestig yn cael eu dwyn gerbron llys.
Mae’r llu yn gweithio i sicrhau bod ganddo ddigon o bersonél medrus yn y lleoedd iawn i ymchwilio i droseddau i’r safon ddisgwyliedig. Ond, mewn rhai achosion, nid yw’r gwaith hwn wedi trosi i ganlyniadau eto. Ar y cyfan, nid oes digon o droseddwyr yn cael eu dwyn gerbron llys. Yn aml, mae swyddogion amhrofiadol neu anfedrus yn ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth.
Ers ein harolygiad diwethaf, mae Heddlu De Cymru wedi gwella ei ymateb pan adroddir bod plant ar goll. Mae’r llu bellach wedi ymrwymo timau i amddiffyn plant rhag cael eu hecsbloetio’n droseddol. Mae’n darparu gwybodaeth amserol am y Cynllun Datgelu Trais Domestig i ddioddefwyr posib yn amlach. Ond mae rhai o’r gwelliannau hyn yn ddiweddar, ac nid ydynt yn gyson eto ar draws pob maes yn y llu.
Mae’r llu yn dyrannu digon o adnoddau ar gyfer rheoli’r troseddwyr mwyaf peryglus gydol eu hoes yn effeithiol. Rydym yn pryderu, fodd bynnag, nad yw’r llu bob amser yn hysbysu’r asiantaethau partner yn brydlon pan fydd yn amau y gallai plant fod wrth risg niwed gan droseddwyr ar-lein.
Mae gan Heddlu De Cymru drefniadau cydweithredol cryf gyda lluoedd eraill ac asiantaethau partner i ddarparu gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i’r cyhoedd. Mae’r llu yn cael ei ariannu ar gyfradd uwch na’r cyfartaledd o’i gymharu â lluoedd eraill ledled Cymru a Lloegr. Gwelsom fod ei ddealltwriaeth ariannol a’i gynllunio yn gadarn. Rhaid i’r llu sicrhau, fodd bynnag, y gall ei allu dysgu a datblygu gyflawni ei gynlluniau hyfforddi, a bod ganddo ddigon o staff TG i gefnogi rhaglenni gwella eraill.
HMI Michelle Skeer
Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi
Arweinyddiaeth
Gan ddefnyddio safonau arweinyddiaeth y Coleg Plismona fel fframwaith, yn yr adran hon rydym yn nodi’r canfyddiadau pwysicaf sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth y llu ar bob lefel.
Mae tîm prif swyddogion Heddlu De Cymru mewn cyfnod pontio, gyda nifer o swyddi wedi’u meddiannu dros dro. Mae’r prif swyddogion dros dro hyn, fodd bynnag, yn uwch arweinwyr profiadol, sydd â gwybodaeth sylweddol am y llu a’r meysydd y maent yn eu harwain. Mae uwch arweinwyr yn cyfathrebu blaenoriaethau a chynlluniau’r llu yn glir i’r gweithlu cyffredinol. Gallai’r llu hysbysu ei bersonél yn well am ei gynlluniau ar gyfer newid, megis ad-drefnu timau i fynd i’r afael â galw’r cyhoedd am wasanaethau, yn well.
Mae Heddlu De Cymru yn buddsoddi mewn datblygu sgiliau a gallu ei arweinwyr gweithredol i gefnogi’r gweithlu a gwella perfformiad.
Mae’r llu yn cynyddu ei gyfran o arweinwyr gweithredol ac uwch arweinwyr benywaidd, ond nid yw’r llwyddiant hwn wedi’i ailadrodd eto mewn rolau arweinyddiaeth canol-radd. Ac nid yw buddsoddiad nodedig y llu mewn datblygu swyddogion a staff du a lleiafrifoedd ethnig wedi trosi eto’n gynrychiolaeth fwy mewn swyddi uwch arweinyddiaeth.
Mae Heddlu De Cymru yn deall ei heriau galw a lles, yn ogystal â sut y gall arweinyddiaeth effeithiol helpu i wneud y gorau o berfformiad y gweithlu. Mae’r llu yn sicrhau bod ganddo’r arweinwyr cywir mewn meysydd allweddol, megis ei ystafell reoli a diogelu’r cyhoedd.
Mae’r llu wedi ymateb i adborth y gweithlu am welededd a hygyrchedd uwch arweinwyr drwy gynyddu cyfleoedd i ryngweithio â swyddogion a staff ar bob lefel. Mae gan brif swyddogion gyfrifoldebau clir dros waith i wella perfformiad, diogelu lles a gwaredu rhwystrau i weithio’n effeithlon.
Mae uwch arweinwyr Heddlu De Cymru yn cymryd ymagwedd gydweithredol gyda lluoedd eraill a phartneriaid y tu allan i blismona i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched a hiliaeth.
Mae rhagor o fanylion am arweinyddiaeth Heddlu De Cymru wedi’u cynnwys ym mhrif gorff yr adroddiad.
Asesiad lleihau troseddu
Mae’r asesiad lleihau troseddu yn nodi’r hyn y mae Heddlu De Cymru yn ei wneud i leihau troseddu, a pha mor effeithiol yw’r gweithredu hyn. Nid yw’r asesiad hwn yn cynnwys ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu. Mae hyn oherwydd y gall amrywiadau a newidiadau mewn arferion a pholisi cofnodi effeithio arnynt, gan ei gwneud hi’n anodd gwneud cymariaethau dros amser.
Mae’r llu yn trin galwadau am wasanaeth gan y cyhoedd yn effeithiol ac yn asesu’r risg i alwyr yn gywir. Mae ganddo ddealltwriaeth dda o’i ystafell reoli a’r galw am ymateb. Ond mae angen i’r llu wella pa mor brydlon y mae’n ateb galwadau 999 ac yn mynychu digwyddiadau. Mae angen iddo ailasesu’r risg i ddioddefwyr os bydd oedi cyn mynychu.
Mae’r llu’n cofnodi troseddau i lefel gyffredinol dderbyniol o gywirdeb, ond rhaid iddo wella sut mae’n cofnodi dioddefwyr agored i niwed a throseddau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r llu wedi gwella o ran cofnodi seiliau rhesymol dros stopio a chwilio. Mae’n llai effeithiol wrth gofnodi defnyddio grym.
Mae’r llu yn deall tensiynau a blaenoriaethau cymunedol yn dda. Mae’n cydweithio’n effeithiol â phartneriaid i gadw cymunedau a phobl agored i niwed yn ddiogel ac i fynd i’r afael â throseddau cymdogaeth. Mae ganddo ymagwedd sefydledig at ddatrys problemau.
Mae’r llu yn ymrwymo adnoddau i wella safonau ymchwiliol. Mae angen iddo wella blaenoriaethu hyfforddiant ar gyfer ymchwilwyr anarbenigol a dod â mwy o droseddwyr o flaen eu gwell.
Mae’r llu wedi gwneud gwelliannau clir i’w ddull o ymdrin â phlant coll; camfanteisio rhywiol a throseddol ar blant; a datgelu gwybodaeth am droseddwyr cam-drin domestig. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd i gynnal y cynnydd hwn.
Yn gyffredinol, mae gan y llu drefniadau effeithiol ar gyfer mechnïaeth a rheoli’r troseddwyr mwyaf peryglus gydol eu hoes. Mae angen iddo wella pa mor gyflym y mae’n rhannu gwybodaeth am blant sydd wrth risg.
Mae rhagor o fanylion am yr hyn y mae Heddlu De Cymru yn ei wneud i leihau troseddu wedi’i gynnwys ym mhrif gorff yr adroddiad.
Darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau
Asesiad o wasanaethau dioddefwyr
Mae’r adran hon yn disgrifio ein hasesiad o’r gwasanaeth y mae Heddlu De Cymru ynei ddarparu i ddioddefwyr. Mae hyn o adeg adrodd am drosedd drwyddo i’r ymchwiliad. Fel rhan o’r asesiad hwn, gwnaethom adolygu 100 o ffeiliau achos.
Pan fydd yr heddlu’n cau achos o drosedd a adroddwyd, maent yn neilltuo ‘math o ganlyniadau’ iddo. Mae hyn yn disgrifio’r rheswm dros ei gau.
Gwnaethom ddewis 100 o achosion i’w hadolygu, gan gynnwys o leiaf 20 y mae’r llu wedi’u cau gyda’r canlyniad canlynol:
Lle bu datrysiad cymunedol.
Er nad yw ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr yn cael ei raddio, mae’n dylanwadu ar ddyfarniadau yn y meysydd eraill yr ydym wedi’u harchwilio sy’n cael eu graddio.
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys a di-frys
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau 999 brys a lleihau’r nifer o alwadau 101 di-frys y mae galwyr yn eu gadael oherwydd nad ydynt yn cael eu hateb yn brydlon.
Mae’r llu yn adnabod ac yn cofnodi dioddefwyr sy’n agored i niwed a mynych yn effeithiol
Pan fydd y llu yn ateb galwadau, mae’n defnyddio proses strwythuredig sy’n ystyried bygythiad, niwed, risg a bregusrwydd. Mae’n nodi dioddefwyr mynych ac agored i niwed, sy’n golygu ei fod yn gwbl ymwybodol o amgylchiadau’r dioddefwr wrth ystyried pa ymateb y dylid ei ddarparu. Mae trinwyr galwadau yn gwrtais ac yn rhoi cyngor i ddioddefwyr ar atal troseddu a sut i gadw tystiolaeth.
Nid yw’r llu yn mynychu digwyddiadau yn ddigon cyflym
Nid yw Heddlu De Cymru bob amser yn mynychu digwyddiadau o fewn amserlenni penodol. Nid yw bob amser yn rhoi gwybod i ddioddefwyr am oedi, sy’n golygu nad yw disgwyliadau dioddefwyr bob amser yn cael eu bodloni. Gall hyn achosi i ddioddefwyr golli hyder a datgysylltu o’r broses.
Mae’r llu yn cofnodi troseddau a adroddir iddo i safon ddigonol
Mae’r llu yn cofnodi troseddau i safon ddigonol. Mae hyn yn golygu bod dioddefwyr yn derbyn gwasanaeth priodol gan ymchwilwyr troseddol.
Mae angen i’r llu wella ei brosesau cofnodi troseddau, fodd bynnag, i sicrhau bod yr holl droseddau a adroddir iddo yn cael eu cofnodi’n gywir.
Rydym yn gosod rhagor o fanylion am gofnodi troseddau y llu yn yr adran Uniondeb data troseddau.
Mae’r llu yn cynnal ymchwiliadau effeithiol, amserol a dan oruchwyliaeth dda
Ym mron pob achos a archwiliwyd, cynhaliodd y llu ymchwiliadau mewn modd amserol, gan gwblhau llinellau ymholiad perthnasol a chymesur. Mae’r llu yn goruchwylio ymchwiliadau’n dda ac yn rhoi diweddariadau i ddioddefwyr yn rheolaidd. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol o fod â hyder mewn ymchwiliad gan yr heddlu pan fyddant yn cael diweddariadau rheolaidd.
Mae ymchwiliad trylwyr yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd troseddwyr yn cael eu hadnabod a’u harestio, ac, felly, yn rhoi canlyniad cadarnhaol i’r dioddefwr.
Ym mhob achos gwnaethom eu harchwilio, cofnododd y llu a oedd yn ystyried defnyddio gorchmynion a gynlluniwyd i ddiogelu dioddefwyr, megis Hysbysiad Gwarchod Trais Domestig neu Orchymyn Amddiffyn Trais Domestig.
Mae’r llu yn helpu dioddefwyr i gael mynediad at eu hawliau yn unol â’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yn ei gwneud yn ofynnol i luoedd asesu a oes angen cymorth ychwanegol ar ddioddefwyr yn gynnar mewn ymchwiliad. Cynhaliodd y llu yr asesiad hwn a chofnodi’r cais am gymorth ychwanegol ym mhob achos a archwiliwyd.
Ym mron pob achos, cymerwyd datganiadau personol dioddefwyr, a roddodd gyfle i ddioddefwyr ddisgrifio sut mae’r drosedd wedi effeithio ar eu bywyd.
Mae’r llu yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau da i ddioddefwyr drwy ddilyn ymchwiliadau a arweinir gan dystiolaeth pan fo’n briodol
Ym mhob achos pan dynnodd dioddefwyr gefnogaeth i ymchwiliad yn ôl, ystyriodd y llu symud ymlaen â’r achos heb gefnogaeth y dioddefwr. Gall hyn fod yn ddull pwysig o ddiogelu’r dioddefwr ac atal troseddau pellach rhag cael eu cyflawni.
Mae’r llu bob amser yn neilltuo’r math cywir o ganlyniad wrth gau ymchwiliad
Mae’r llu yn cau troseddau gyda’r math priodol o ganlyniad. Mae’n cofnodi rhesymeg glir dros ddefnyddio canlyniad penodol, ac mae hyn yn cael ei oruchwylio’n effeithiol.
Mae’r llu bron bob amser yn ystyried ac yn cofnodi dymuniadau dioddefwyr
Mae’r llu yn ceisio ac yn ystyried barn y dioddefwr a chefndir y troseddwr wrth benderfynu sut i gofnodi canlyniad ymchwiliad wedi’i gau. Pan fo angen, mae ymchwilwyr yn cael cofnod archwiliadwy o ddymuniadau’r dioddefwr. Mae’r llu yn hysbysu dioddefwyr am y canlyniad a neilltuwyd i’r ymchwiliad.
Cofnodi data am droseddu
Uniondeb data troseddau
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol o ran cofnodi troseddau.
Mae Rheolau Cyfri’r Swyddfa Gartref, sy’n darparu’r safon ar gyfer cofnodi troseddau yng Nghymru a Lloegr, wedi newid ers y tro diwethaf i ni archwilio’r llu ar gyfer uniondeb data troseddau.
Mae’r newid hwn yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y mae lluoedd yn cofnodi troseddau treisgar. Mae hyn yn golygu na allwn bellach gymharu’r canfyddiadau o’r archwiliad hwn â’r rhai o archwiliadau blaenorol.
Rydym yn amcangyfrif bod Heddlu De Cymru yn cofnodi 92.9 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 2.8 y cant) o’r holl droseddau yr adroddwyd amdanynt (ac eithrio twyll). Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar y digwyddiadau a samplwyd gan ddefnyddio’r fethodoleg uniondeb data troseddau safonol. Yn ein hapsampl ychwanegol o ddigwyddiadau, fodd bynnag, canfuom nad oedd rhai troseddau’n cael eu cofnodi.
Rydym yn amcangyfrif bod y llu yn cofnodi 92.8 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 4.8 y cant) o droseddau treisgar. Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar ddigwyddiadau a samplwyd gan ddefnyddio’r fethodoleg uniondeb data troseddau safonol. Yn ein hapsampl ychwanegol o ddigwyddiadau, fodd bynnag, canfuom nad oedd rhai troseddau treisgar yn cael eu cofnodi.
Rydym yn amcangyfrif bod y llu yn cofnodi 93.4 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 4.4 y cant) o droseddau rhywiol. Gwnaethom edrych ar ddetholiad ar hap ychwanegol o ddigwyddiadau lle nad oedd digon o fanylion wedi’u cofnodi i ddosbarthu’r drosedd. Yn y detholiad hwn, ni ddaethom o hyd i unrhyw droseddau rhywiol. Mae hyn yn golygu bod y ganran hon yn adlewyrchu amcangyfrif mwy cywir o ba mor dda y mae’r llu yn cofnodi troseddau rhywiol.
Nid yw’r llu yn dosbarthu’r holl ddigwyddiadau a adroddir iddo yn gyson
Gwnaethom gynnal archwiliad ychwanegol o ddigwyddiadau nad oedd y llu wedi cofnodi digon o fanylion ar eu cyfer i allu penderfynu pa fath o drosedd yr oeddent yn ymwneud â hi. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd gweld a oedd y llu yn cofnodi’r holl droseddau neu’r rhan fwyaf ohonynt yn gywir. Mewn rhai achosion, gwelsom droseddau nad oeddent wedi’u cofnodi o gwbl. Os nad oes gan y llu ddull cyson o nodi’r math o ddigwyddiadau a adroddir iddo, ni all fod yn hyderus ei fod yn cofnodi ac yn ymchwilio i bob trosedd yn gywir ar ran dioddefwyr.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi canfyddiadau eraill ar ba mor dda y mae’r llu’n cofnodi troseddau.
Mae’r llu’n cofnodi troseddau’n gyflym
Mae’r llu’n cofnodi troseddau’n gyflym. Canfuom fod 95 y cant o’r holl droseddau wedi eu cofnodi o fewn 24 awr. Mae’n bwysig cofnodi troseddau cyn gynted â phosib, am ei fod yn helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau cymorth y mae eu hangen arnynt, ac y gellir sefydlu ymchwiliad effeithiol.
Nid yw’r llu bob amser yn cofnodi troseddau treisio yn gywir
Er bod y llu yn cofnodi’r rhan fwyaf o droseddau rhywiol yn gywir, dylai gymryd mwy o ofal i sicrhau bod dosbarthu troseddau treisio yn gywir. Canfuom fod 40 o droseddau treisio wedi’u dosbarthu a’u cofnodi’n gywir. Cofnodwyd tair arall, fodd bynnag, fel achosion o dreisio (dosbarthiad N100) ac un fel ymosodiad rhywiol, nid fel treisio. Yn ogystal, cofnodwyd pedair trosedd treisio pan ddylent fod wedi’u dosbarthu fel N100, ac ni chofnodwyd tair N100 arall o gwbl. Treisio yw un o’r troseddau mwyaf difrifol y gall dioddefwr ei dioddef. Mae’n arbennig o bwysig, felly, bod troseddau’n cael eu cofnodi a’u dosbarthu’n gywir, i sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gwasanaeth a’r gefnogaeth y maent yn eu disgwyl a’u haeddu.
Digonol
Pwerau’r heddlu a thrin y cyhoedd yn deg ac yn barchus
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol o ran defnyddio pwerau’r heddlu a thrin pobl yn deg ac yn barchus.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â phwerau’r heddlu a thrin pobl yn deg ac yn barchus.
Mae’r llu yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i’w weithlu ynghylch sut i gyfathrebu’n effeithiol a thrin pobl yn deg
Mae Heddlu De Cymru yn darparu rhaglen gynhwysfawr o ddysgu gorfodol i hyfforddi swyddogion a staff ar sut i gyfathrebu â phobl yn effeithiol ac yn empathig. Mae’r pynciau yn cynnwys datrys gwrthdaro, gwaith tîm a chydnabod bregusrwydd. Dywedodd y personél y siaradom â nhw wrthym fod dealltwriaeth o ragfarn ddiarwybod, a thriniaeth deg ac annheg, yn rhan o’r holl hyfforddiant ystafell ddosbarth ac ymarferol, sy’n seiliedig ar senario. Dywedodd y llu wrthym fod ei seminarau ‘Siarad am Hil’ wedi cael cyfradd presenoldeb o 85 y cant. Mae hyn yn cyfateb i dros 5,000 o swyddogion a staff.
Mae polisi fideo a wisgir ar y corff (BWV) y llu yn ailadrodd egwyddorion arfer da a nodir yng nghanllawiau presennol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer defnyddio BWV a monitro gan oruchwylwyr. Dywedodd y rhan fwyaf o swyddogion y siaradom â nhw wrthym eu bod yn deall y polisi. Gwnaethom hefyd archwilio detholiad o recordiadau BWV o achosion o stopio a chwilio a defnyddio grym. Yn ystod y rhan fwyaf o ryngweithiadau, roedd swyddogion yn barchus ac yn esbonio’n glir eu defnydd o bwerau i aelodau’r cyhoedd.
Dywedodd llawer o swyddogion a staff wrthym nad yw camerâu BWV y llu yn aml yn recordio rhyngweithiadau oherwydd methiant batri. Er gwaethaf hyn, dywedodd y llu wrthym, yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, cofnodwyd dros 95 y cant o achosion o stopio a chwilio a thros 90 y cant o ddigwyddiadau lle defnyddiwyd grym ar BWV. Mae’r llu wedi cynghori swyddogion a staff ar ofal batri, ond mae angen iddynt sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hyderus bod eu hoffer yn ddibynadwy.
Mae defnydd cyson uchel o BWV yn bwysig er mwyn cynnal hyder y cyhoedd bod y llu yn dryloyw ac yn agored am sut mae’n defnyddio ei bwerau.
Mae’r rhan fwyaf o swyddogion yn deall ac yn defnyddio pwerau stopio a chwilio yn deg ac yn briodol
Gwnaethom adolygu sampl o 281 o gofnodion stopio a chwilio o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2022. Yn seiliedig ar y sampl hon, rydym yn amcangyfrif bod seiliau rhesymol i 86.5 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 3.9 y cant) o achosion o stopio a chwilio a gynhaliwyd gan y llu yn ystod y cyfnod hwn. Mae hwn yn welliant ystadegol arwyddocaol o’i gymharu â’n harolygiad blaenorol, pan ganfuom fod 71.1 y cant (gyda chyfwng hyder o +/- 5.7 y cant) o achosion o stopio a chwilio wedi cofnodi seiliau rhesymol. O’r 35 cofnod o stopio a chwilio am bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a adolygwyd gennym, cofnodwyd seiliau rhesymol mewn 31.
Yn ddiweddar, mae’r llu wedi adnewyddu hyfforddiant stopio a chwilio ar gyfer swyddogion a goruchwylwyr, gan ddefnyddio fideos o ddigwyddiadau stopio a chwilio i annog trafodaeth. Mae’r llu yn gwahodd aelodau’r gymuned i arsylwi ar y sesiynau. Mae myfyrwyr swyddogion yn profi sefyllfaoedd ymarferol drwy gydol eu cwrs hyfforddiant cychwynnol.
Gwelsom nad oedd y rhan fwyaf o swyddogion y siaradom â nhw, fodd bynnag, yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau ar noeth-chwilio plant neu chwilio pobl ar safle ysgol. Mae angen i’r llu sicrhau bod pob swyddog yn hyderus i ddefnyddio eu pwerau yn gyfreithlon ac yn deg.
Mae’r llu yn deall sut a chyda pha effaith y mae’n defnyddio pwerau stopio a chwilio, ond mae ei ddefnydd o stopio a chwilio yn lleihau
Mae’r llu yn defnyddio dangosfwrdd data i fonitro amlder a chanlyniadau stopio a chwilio a defnyddio grym gan swyddogion. Mae’r data yn cael eu rhannu fesul oedran, rhywedd ac ethnigrwydd. Mae’r llu hefyd yn monitro cwynion am ddefnyddio grym a stopio a chwilio.
Mae swyddogion yn cofnodi stopio a chwilio yn electronig gan ddefnyddio’r ap iPatrol ar ddyfeisiau symudol. Rhaid i ringylliaid adolygu rhesymoldeb pob cofnod chwilio. Mae arolygwyr yn craffu ar bob chwiliad person o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae’r llu wedi cyflwyno proses newydd sy’n cefnogi ac yn datblygu swyddogion sy’n methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, cynhaliodd Heddlu De Cymru 9,900 o achosion o stopio a chwilio. Roedd hyn yn ostyngiad o 39.1 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Mae data mwy diweddar yn dangos gostyngiad pellach o 28.3 y cant i 7,102 o achosion o stopio a chwilio yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2023.
Mae’r llu yn deall p’un a yw’n defnyddio pwerau stopio a chwilio yn gymesur
Er mwyn archwilio data anghymesuredd ar gyfer cyfraddau stopio a chwilio rhwng pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phobl gwyn, rydym yn archwilio gwerthoedd. Mae gwerth llai na 0.8 yn dangos bod person o gefndir lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol na rhywun sy’n wyn o gael ei stopio a’i chwilio. Mae gwerth sy’n uwch na 1.25 yn dangos bod rhywun o gefndir lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael ei stopio a’i chwilio.
Yn ne Cymru, mae pobl ddu dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl gwyn, sy’n is na’r gyfradd anghymesuredd o 4.8 yng Nghymru a Lloegr am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022. Mae’r llu yn cydnabod bod ganddo fwy i’w wneud o hyd i ddileu chwilio pobl ddu yn anghymesur. Dywedodd y llu wrthym fod ei ddata ei hun ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 yn dangos bod pobl ddu 3.1 gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl gwyn.
Nid yw’r llu wedi datblygu ei baneli craffu allanol ar stopio a chwilio a defnyddio grym eto
Yn ein harolygiad blaenorol, canfuom y dylai fod gan baneli craffu allanol y llu ar gyfer defnyddio grym a stopio a chwilio gadeirydd annibynnol, a bod ganddynt aelodaeth fwy amrywiol wedi’i hyfforddi’n well.
Dywedodd y llu wrthym fod aelodau’r panel wedi dewis peidio â chael cadeirydd annibynnol, ond mae aelodau’r grŵp ymgynghorol annibynnol yn arwain rhai cyfarfodydd. Nid oes gan baneli hyfforddiant rheolaidd o hyd ar bwerau’r heddlu i stopio a chwilio neu ddefnyddio grym. Ac nid oes ganddynt aelodau sydd â phrofiad uniongyrchol o ddefnyddio pwerau’r heddlu. Mae’n annhebygol y bydd cadeiryddion ac aelodau panel heb eu hyfforddi yr un mor effeithiol wrth roi adborth sy’n hyrwyddo gwelliannau yn ymarfer yr heddlu.
Yn galonogol, roedd gan bob cyfarfod a welsom restr o gamau gweithredu yn ymwneud ag adborth a roddwyd i swyddogion neu gwestiynau am ymddygiad penodol a welwyd gan baneli blaenorol. Roedd mynychwyr yr heddlu yn gallu diweddaru aelodau’r grŵp ynghylch pob cam. Drwy wneud hynny, dangosodd y llu ei fod yn gweithredu ar adborth o graffu allanol ar ei ddefnydd o bwerau’r heddlu. Ychydig o swyddogion y siaradom â nhw, fodd bynnag, oedd yn ymwybodol o unrhyw adborth gan baneli craffu allanol.
Dywedodd y llu wrthym ei fod yn bwriadu mabwysiadu proses debyg i’r hyn a ddefnyddir gan Heddlu Glannau Merswy, sy’n cynnwys croestoriad ehangach o’r cyhoedd i graffu ar bwerau’r heddlu. Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd y gwaith gwella hwn.
Mae’r llu yn gwahodd adborth gan y cyhoedd ar eu hyder yn y ffordd y mae swyddogion yn defnyddio eu pwerau
Er mis Mehefin 2023, mae’r llu wedi defnyddio ei wasanaeth negeseua ar-lein De Cymru yn Gwrando i ofyn i’w gymunedau pa mor hyderus ydyn nhw yn nefnydd y llu o stopio a chwilio. Mae’r llu hefyd yn gwneud hyn cyn ac ar ôl gweithrediadau plismona i fynd i’r afael â mater penodol, megis troseddau cyllyll. Mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu dadansoddi yn ôl lleoliad, ethnigrwydd, oedran a rhywedd; ac maent yn helpu’r llu i ddeall yr effaith y mae ei ddefnydd o bwerau’r heddlu yn ei chael ar gymunedau.
Digonol
Ataliaeth ac atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a lleihau bregusrwydd
Mae Heddlu De Cymru yn dda am atal ac ataliaeth.
Ymarfer arloesol
Mae’r llu yn rhannu gwybodaeth â phartneriaid a chyflogwyr er mwyn helpu i atal pobl sy’n debygol o gymryd rhan mewn ymddygiad niweidiol rhag gwneud hynny
Pan ystyrir bod hyn er budd y cyhoedd, mae’r llu yn anfon llythyron am bobl a arestiwyd a allai achosi niwed yn y gwaith at asiantaethau partner neu eu cyflogwyr. Er enghraifft, efallai y bydd person yn gyrru dro ar ôl tro pan nad yw’n ffit i wneud hynny oherwydd yfed neu gyffuriau, pan fydd eu swydd yn gofyn iddynt yrru. Neu efallai y byddant yn dangos tueddiad i ddefnyddio trais neu gam‑drin, a allai eu gwneud yn anaddas i gael cyswllt â menywod, merched neu bobl agored i niwed yn eu gwaith. Os hysbysir, gall yr asiantaeth bartner neu’r cyflogwr ystyried pa gamau i’w cymryd i atal yr unigolyn rhag cael cyfle i achosi niwed tra yn y gwaith.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag atal ac ataliaeth.
Mae’r llu yn blaenoriaethu lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond dylai fuddsoddi mewn proffesiynoli plismona yn y gymdogaeth
Mae gan Heddlu De Cymru fframwaith plismona yn y gymdogaeth newydd, sy’n llywio sut mae’n bodloni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol. Mae bwrdd y rhaglen plismona yn y gymdogaeth a chyfarfodydd perfformiad lleol yn dwyn rheolwyr plismona lleol i gyfrif am gysylltu â chymunedau, lleihau troseddu, nodi bregusrwydd a gweithio gyda phartneriaid.
Canfuom, er bod cyfarfodydd perfformiad lleol yn derbyn diweddariadau misol gan arolygwyr, roedd y rhain yn tueddu i fod yn gyfrifon anecdotaidd o weithgarwch yn hytrach na bod yn gysylltiedig â chanlyniadau clir. Mae dyfeisio cerdyn sgorio perfformiad plismona yn y gymdogaeth yn flaenoriaeth i’r llu, ond nid yw wedi gwneud unrhyw gynnydd sylweddol gyda hyn. Er mwyn cynnal hyder ei gymunedau, mae angen i’r llu allu dangos effaith gwaith ei swyddogion ar lefelau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r llu wedi oedi cyn creu cwrs plismona yn y gymdogaeth penodol oherwydd diffyg capasiti yn ei adran dysgu a datblygu. Mae’r llu yn gwneud iawn am hyn drwy hyfforddi swyddogion heddlu cymdogaeth mewn datrys problemau a gweithgarwch datblygu arall. Dylai gyflawni ei gynlluniau, fodd bynnag, i hyfforddi timau plismona yn y gymdogaeth fel arbenigwyr.
Mae’r llu yn defnyddio ei ddata ei hun a phartneriaid i nodi lleoliadau wrth risg a phobl y mae angen eu cadw’n ddiogel
Mae’r llu yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys arolygon, data Mosaic a gwybodaeth gan bartneriaid, megis gwasanaethau iechyd a thân, i nodi ei gymunedau mwyaf difreintiedig. Mae dadansoddwyr deallusrwydd a thimau troseddau casineb yn cynhyrchu adroddiadau tensiynau cymunedol am ddigwyddiadau rhyngwladol, cenedlaethol neu leol a allai gynyddu’r tebygolrwydd o droseddau neu anhrefn casineb. Mae timau lleol yn creu cynlluniau ymgysylltu sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o ble mae angen i’r llu weithio galetaf wrth wella ymddiriedaeth yn ei allu i gadw pobl yn ddiogel.
Mae dadansoddwyr deallusrwydd yn cynhyrchu proffiliau problemau ar gyfer materion megis trais difrifol, troseddau casineb a chamfanteisio. Mae briffiau dyddiol a data hunanwasanaeth yn helpu swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i ddeall beth yw eu blaenoriaethau.
Mae Ymgyrch Sentinel y llu yn targedu ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy anfon swyddogion ychwanegol i ardaloedd o 300 metr sgwâr lle mae problemau wedi’u nodi. Mae’r llu yn tracio radio llaw a radio cerbydau’r heddlu yn electronig i sicrhau bod swyddogion yn patrolio yn yr ardaloedd cywir ac yn ddigon hir i fynd i’r afael â phroblemau a nodwyd.
Yn dilyn anhrefn ar raddfa fawr yn Nhrelái, Caerdydd ym mis Mehefin 2023, defnyddiodd y llu ddata a gwybodaeth o wasanaethau addysg a ieuenctid i nodi ardaloedd â nifer uchel o blant nad oeddent mewn addysg ffurfiol. Yna cyfarfu’r llu, gyda chefnogaeth ei swyddogion cyswllt ysgolion, â sefydliadau partner i drefnu digwyddiadau i gynnwys plant a rhieni. Rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r gwaith hwn yn cael eu gwerthuso.
Mae de Cymru yn profi lefelau is o rai troseddau cymdogaeth sy’n peri risg uchel o niwed. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, cofnododd Heddlu De Cymru 0.48 o droseddau cyllyll fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn yn is na’r gyfradd ar draws pob llu yng Nghymru a Lloegr (0.85 fesul 1,000 o’r boblogaeth), ond yn dal o fewn yr ystod ddisgwyliedig o’i gymharu â lluoedd ledled Cymru a Lloegr.
Mae’r llu yn rhoi cyfleoedd i’w gymunedau ei hysbysu am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw
Mae’r llu yn defnyddio De Cymru yn Gwrando, gwasanaeth negeseua ar-lein, i ofyn i’w gymunedau am y materion sydd bwysicaf iddynt. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn cynnal arolygon carreg y drws ac yn annog pobl i gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth. Er mwyn helpu pobl nad ydynt ar-lein i gyfathrebu â swyddogion cymdogaeth, mae’r llu yn dal i ddefnyddio cyfarfodydd Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd, a sesiynau briffio stryd gyda chynghorwyr lleol.
Mae canlyniadau’r holl weithgarwch hwn yn caniatáu i’r llu friffio ei dimau yn effeithiol ynghylch materion allweddol a ble a phryd i batrolio i dawelu meddyliau cymunedau. Mae’r llu hefyd yn dweud wrth ei gymunedau am broblemau mewn ardal benodol neu am gamau y mae wedi’u cymryd drwy bostio diweddariadau ar wefan De Cymru yn Gwrando a gwasanaeth negeseua cyfryngau cymdeithasol Orlo y llu.
Mae’r llu yn gweithio gyda phartneriaid i wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel
Mae’r llu yn cydweithio â phartneriaethau diogelwch cymunedol i gynnal diogelwch yn economi’r nos. Mae swyddogion trwyddedu yn gweithio gyda thafarndai a chlybiau nos lle mae data’r llu yn dangos bod trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn debygol o ddigwydd i sicrhau bod staff diogelwch yn gallu cynnal diogelwch. Drwy wneud hynny, mae’r llu yn annog busnesau i gydweithredu er mwyn atal erledigaeth a chamfanteisio.
Mae Ymgyrchoedd Minerva a Ferndown yn defnyddio swyddogion dillad plaen i helpu menywod a allai fod yn agored i niwed neu sydd mewn lleoliadau anniogel i aros yn ddiogel. Mae’r swyddogion hyn hefyd yn nodi dynion sy’n arddangos ymddygiad ymosodol neu ysglyfaethus a, lle bo hynny’n bosib, eu harestio a’u herlyn.
Mae’r llu yn cynnwys sefydliadau eraill wrth ddatrys problemau
Mae’r llu yn defnyddio cynlluniau OSARA i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymdogaeth sy’n gofyn am waith partneriaeth tymor hwy. Gwelsom enghreifftiau o gynlluniau wedi’u hymchwilio’n dda i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol a chynlluniau yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â gofal cymdeithasol plant yn seiliedig ar y dull 4P llwyddiannus. Roedd y rhan fwyaf o’r cynlluniau a welsom wedi cael eu hadolygu’n rheolaidd gan arolygwyr. Mae enghreifftiau o gynlluniau llwyddiannus i arwain datrys problemau yn y dyfodol yn hawdd eu gweld ar safle mewnrwyd y llu.
Mae Unedau Rheoli Sylfaenol (BCU) Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot wedi cydnabod bod gwyliau ysgol a phenwythnosau yn gysylltiedig â chynnydd mewn dwyn o siop ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn rhai trefi. Mewn ymateb, mae’r BCU wedi sefydlu tîm newydd o swyddogion i atal troseddu ac i weithredu yn erbyn troseddwyr. Cynhelir y fenter mewn cydweithrediad ag ardal gwella busnes leol, sy’n darparu cyllid i addysgu busnesau am fasnachu cyfrifol ac atal troseddau.
Ym Mhontypridd, mae’r llu wedi mabwysiadu ymagwedd Clirio, Cadw ac Adeiladu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyflenwi cyffuriau a thrais hirsefydlog mewn cymuned ddifreintiedig. Mae’r llu wedi defnyddio ystod o dactegau i fynd i’r afael â’r ymddygiad troseddol hwn, neu ‘glirio’ yr ymddygiad troseddol hwn, gan gynnwys gweithredu gwarantau cyffuriau, patrolau uwch swyddogion ac atafaeliadau cerbydau. Er mwyn ‘cadw’ hyder y cyhoedd yn yr amgylchedd newydd ddiogel, mae’r llu wedi dechrau cynllunio gweithgareddau dylunio troseddau allan wrth gydweithio â’r cyngor, cymdeithas dai a chlwb pêl-droed i gynnal digwyddiadau cymunedol. Er mwyn helpu i ‘adeiladu’ cymuned gryfach, dywedodd y llu wrthym ei fod yn bwriadu defnyddio ei wirfoddolwyr cymorth heddlu a negeseua De Cymru yn Gwrando i gynnal cysylltiad cyhoeddus ochr yn ochr â’i weithgarwch adfywio gyda sefydliadau partner. Rydym yn edrych ymlaen at weld gwerthusiad o ddatrys problemau mewn partneriaeth y llu.
Mae panel y tîm allgymorth gweithwyr rhyw yn ddull addawol o helpu pobl sy’n cysgu allan a gweithwyr rhyw i gael lloches a mynychu grwpiau cymorth neu raglenni dargyfeiriol. Mae paneli partneriaeth, sy’n aml yn cael eu cadeirio gan arolygwyr yr heddlu, ac yn cynnwys asiantaethau megis tai, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol i oedolion, yn cyfarfod i leihau tebygolrwydd unigolion o droi at droseddu neu gamddefnyddio sylweddau neu o gael eu camfanteisio.
Ond canfu ein harolygiad fod diffyg mewn cynlluniau OSRA o ddadansoddi manwl o’u heffeithiolrwydd o ran lleihau troseddu ac anhrefn neu arbed amser yr heddlu a phartneriaid. Heb werthusiad manwl o gynlluniau, ni all y llu farnu’n hyderus a yw llwyddiannau ymddangosiadol yn debygol o fod yn gynaliadwy neu a yw problemau wedi’u dadleoli yn unig.
Mae’r llu yn cynnwys aelodau’r gymuned yn ei waith i gadw cymunedau’n fwy diogel
Mae gan y llu ddinasyddion mewn tîm plismona sy’n recriwtio aelodau gwirfoddol o’r cyhoedd ac yn darparu cyfleoedd iddynt gyfrannu at gadw cymunedau’n fwy diogel. Mae gan y llu hybiau myfyrwyr sy’n gwirfoddoli mewn tair prifysgol, ac mae’r gwirfoddolwyr hyn yn helpu i redeg bysiau diogelwch nos mewn ardaloedd prysur yn economi’r nos. Mae gwirfoddolwyr cymorth yr heddlu hefyd yn gwneud ymweliadau atal troseddu â dioddefwyr byrgleriaeth i leihau’r tebygolrwydd o erledigaeth fynych.
Mae gan y llu hefyd sawl hyb gwirfoddolwyr ifanc yr heddlu, sy’n cael eu cydlynu gan dimau plismona yn y gymdogaeth. Mae’r hybiau’n cael eu sefydlu mewn ardaloedd sy’n cynnwys cymdogaethau sydd â lefelau uwch o amddifadedd ac sy’n cynnwys plant a phobl ifanc, mewn ymgais i’w dargyfeirio oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu.
Mae Ymgyrch Makesafe yn defnyddio swyddogion a gwirfoddolwyr cymorth yr heddlu i brofi a all gwestai a llety gwely a brecwast adnabod troseddwyr posib sy’n defnyddio eu heiddo i gyflawni cam-drin plant. Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithredu fel prynwyr prawf mewn siopau sy’n gwerthu sigaréts ac alcohol i wirio a yw manwerthwyr yn gweithredu o fewn y gyfraith o ran gwerthu i blant.
Da
Ymateb i’r cyhoedd
Mae angen i Heddlu De Cymru wella wrth ymateb i’r cyhoedd.
Ymarfer arloesol
Mae Heddlu De Cymru yn gwella’r ffordd y mae’n asesu risg galwadau gan y cyhoedd ac yn blaenoriaethu presenoldeb mewn digwyddiadau
Mae’r llu wedi gwrando ar adborth gan ei staff rheoli galwadau am faint o amser mae’n ei gymryd a blaenoriaethu galwadau am wasanaeth gan ddefnyddio model asesu risg strwythuredig THRIVE. Canfu’r llu bod asesiadau THRIVE yn rhy aml yn cael eu cwblhau yn ôl-weithredol, neu fod defnyddio’r mnemonig yn fethodolegol yn cymryd gormod o amser i bobl sy’n cymryd galwadau i brosesu’r wybodaeth a phenderfynu ar sut i flaenoriaethu ymateb y digwyddiad.
Mae’r llu wedi dechrau treialu SAR (crynodeb o’r Amgylchiadau, Asesiad, Ymateb – penderfyniad graddio yn seiliedig ar y model penderfynu cenedlaethol) fel dewis amgen yn hytrach na defnyddio THRIVE. I ddechrau, mae’r llu yn hyfforddi nifer bach o staff i ddefnyddio SAR wrth geisio adborth gan y Coleg Plismona a chomisiynu gwerthusiad o ddiogelwch ac effeithiolrwydd yr ymagwedd.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymateb i’r cyhoedd.
Mae’r llu yn buddsoddi mewn gwell gwasanaethau rheoli cysylltiadau
Ar adeg ein harolygiad, roedd Heddlu De Cymru wedi dechrau prosiect gwella parhaus ar gyfer ei adran rheoli cysylltiadau. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol, sydd eisoes wedi creu strwythur rheoli gweithredol a chymorth newydd, proffil galw ac adnoddau i helpu’r llu i ateb y galw am ei wasanaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae’r llu hefyd wedi ehangu ei swyddogaeth cyswllt digidol. Canfuom fod ymholiadau gan y cyhoedd gan ddefnyddio sgwrsio byw, e-byst a Single Online Home yn cael eu trin yn brydlon ac yn effeithiol.
Dywedodd y llu wrthym ei fod yn datblygu parhad busnes a chynlluniau adnoddau tymor hwy, ac yn cynnal adolygiad o’i swyddogaeth anfon i ddigwyddiadau a’i ofynion hyfforddiant, wrth baratoi ar gyfer ei system rheoli cysylltiadau newydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r llu yn trosi’r gwaith trawsnewid hwn yn wasanaethau cynaliadwy gwell i’r cyhoedd.
Mae’r llu yn gwella pa mor dda mae’n ateb galwadau di-frys
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Mehefin 2023, derbyniodd Heddlu De Cymru 275 o alwadau 101 di-frys fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn yn cyd-fynd â lluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd y llu wrthym fod 14 y cant o alwadau i’w gyfleuster 101 di-frys wedi’u gadael gan alwyr cyn iddynt gael eu hateb. Mae’r gyfradd gadael hon yn uwch na’r safon ddisgwyliedig o 10 y cant ar gyfer lluoedd heb switsfwrdd. Mae hyn yn welliant, fodd bynnag, ar ganfyddiadau ein harolygiad diwethaf.
Mae angen i’r llu wella sut mae’n monitro ac yn rheoli’r risg o niwed i ddioddefwyr pan fydd oedi cyn anfon swyddogion
Esboniodd anfonwyr digwyddiadau y gallant fonitro digwyddiadau brys, ond nad oes ganddynt lawer o gyfleoedd i adolygu logiau hŷn. Cawsom fod nifer o logiau digwyddiadau cam-drin domestig a phobl coll yn aros i swyddogion gael eu hanfon iddynt. Roedd rhai o’r rhain yn ddyddiau oed, ond nid oedd goruchwylwyr wedi adolygu asesiadau risg na gwiriadau deallusrwydd. Nid oedd unrhyw un wedi cysylltu â’r dioddefwyr i ailasesu’r tebygolrwydd presennol y byddant yn dod i niwed.
Pan fydd anfonwyr yn gorffen trin galwadau brys, maent yn blaenoriaethu’r ôl-groniad digwyddiadau yn seiliedig ar y raddfa flaenoriaeth wreiddiol, ac nid yn ôl dealltwriaeth wedi’i hailasesu o lefel y risg.
Mae angen i’r llu ddeall y risg bresennol o fewn ei alw heb ei ddiwallu, fel y gall ddiwallu anghenion dioddefwyr troseddau sydd angen cymorth ar frys yn fwy prydlon.
Mae’r llu wedi gwella ei ymateb i adroddiadau o blant coll ac agored i niwed, ond dylai sicrhau bod yr ymateb hwn effeithiol yn gyson
Canfu ein harolygiad diwethaf, a oedd yn archwilio adroddiadau pobl coll mewn nifer o ardaloedd y llu, a chanfyddiadau mwy diweddar yr arolygiad amlasiantaeth ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin 2023, fod angen i Heddlu De Cymru ymateb yn gyson ac yn effeithiol i adroddiadau o blant coll.
Ers hynny, mae’r llu wedi ymateb yn gadarnhaol drwy adolygu ei bolisi a’i strwythur sefydliadol. Mae’r tîm pobl coll canolog wedi derbyn hyfforddiant i adnabod ac amddiffyn plant ac oedolion coll ac sy’n agored i niwed.
Archwiliodd ein harolygiad ymchwiliadau pobl coll ar draws ardal y llu. Canfuom fod trinwyr galwadau a thimau pobl coll arbenigol yn aml yn barnu’n gywir y tebygolrwydd o bobl coll yn dod i niwed. Pan oedd angen i oruchwylwyr ymateb gadarnhau asesiadau risg, fodd bynnag, neu fod angen i swyddogion tasg gynnal ymholiadau, roedd oedi hir. Roedd adolygiadau rhai goruchwylwyr yn defnyddio iaith a gafodd yr effaith o awgrymu mai plant coll oedd yn gyfrifol am roi eu hunain wrth risg niwed.
Gwelsom enghreifftiau hefyd o swyddogion yn methu â chymryd cyfleoedd i siarad â phlant i wirio eu lles, neu pan oedd eu rhieni yn eu gwrthod, methu mynnu gwneud hynny. Weithiau ni chafodd hysbysiadau diogelu’r cyhoedd ar gyfer plant coll neu a oedd wedi dioddef cam-drin domestig eu cwblhau am ddyddiau.
Er bod y llu wedi gwneud cynnydd addawol, mae rhywfaint o’i waith gwella yn ddiweddar, a bydd yn cymryd amser i ddatblygu i fod yn ymateb sy’n briodol i risg yn gyson i amddiffyn plant coll ac agored i niwed.
Mae gan y llu ddealltwriaeth dda o ba mor aml a pham mae’r cyhoedd yn cysylltu a sut i ateb y galw am ei wasanaethau
Mae’r llu yn defnyddio ystod o offer dadansoddol i ddeall y galw dyddiol am ei wasanaethau rheoli cysylltiadau, ac a yw aelodau’r cyhoedd yn dewis cysylltu ag ef dros y ffôn neu drwy ddulliau digidol. Gall y llu hefyd ragweld y cynnydd tebygol yn y galw fel y gall wneud penderfyniadau ynghylch y nifer o staff a’r gwelliannau technolegol y bydd eu hangen arno yn y dyfodol.
Mae’r ystafell reoli yn defnyddio ‘mapiau gwres’ galw i farnu pryd i ddefnyddio timau mewnol, megis y ddesg ddigidol, i gefnogi ateb galwadau brys. Mae’r system ‘llwybr uchel’ yn monitro argaeledd staff yr ystafell reoli, a gall newid galwadau rhwng gweithredwyr ar adegau lle mae galw mawr amdanynt. Yn galonogol, ychydig o enghreifftiau a welsom o giwiau o alwadau heb eu hateb.
Gall y llu fonitro a dadansoddi cyflymder cyfartalog trin galwadau a pha mor hir y mae pob tîm yn ei gymryd i ddelio â galwadau brys a di-frys. Mae hyn yn golygu y gall benderfynu sut i wella ei wasanaeth i’r cyhoedd yn y tymor byr a’r tymor hwy. Ond gwelsom hefyd fod y llu weithiau’n dibynnu ar weithio goramser, a dywedodd rhai staff wrthym eu bod yn teimlo dan bwysau i’w wneud.
Ar ôl dysgu o Ymchwiliad Arena Manceinion, mae gan bob tîm yn yr ystafell reoli ddau reolwr digwyddiadau’r llu i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer rheoli digwyddiadau a pherfformiad gweithredol dyddiol. Mae hwn wedi bod yn fuddsoddiad a weithredwyd yn ddiweddar mewn arweinyddiaeth, ac edrychwn ymlaen at adolygu ei effaith ar ddarparu gwell gwasanaeth i’r cyhoedd.
Mae’r llu yn asesu’r risg o niwed i ddioddefwyr ac yn blaenoriaethu ei bresenoldeb mewn digwyddiadau yn gywir
Canfu ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr fod staff yr ystafell reoli ym mhob achos yn cynnal asesiad o’r risg o niwed i ddioddefwyr. Gwnaed gwiriadau i nodi a oedd achosion yn ymwneud â dioddefwyr agored i niwed ym mron pob achos. Cafodd galwadau eu blaenoriaethu’n gywir yn ôl pa mor frys yr oedd angen presenoldeb ym mhob un o’r 95 achos a adolygwyd.
Gall aelodau’r cyhoedd fod yn hyderus y bydd eu galwadau yn cael eu rheoli yn effeithiol pan fyddant yn galw Heddlu De Cymru.
Mae’r llu yn rhoi cyngor priodol i’r rhan fwyaf o alwyr am gadw tystiolaeth ac atal troseddu
Canfu ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr, o’r achosion a adolygwyd gennym, fod y rhai sy’n cymryd galwadau wedi manteisio ar bron pob cyfle i roi cyngor priodol i alwyr ynghylch sut i gadw tystiolaeth cyn i swyddogion gyrraedd. Mae hyn yn golygu y gall y llu leihau’r tebygolrwydd o golli tystiolaeth, a allai helpu i ddatrys troseddau.
O’r galwadau a adolygwyd gennym, rhoddwyd cyngor i bob galwr am atal troseddu lle bo hynny’n briodol. Os rhoddir cyngor priodol i alwyr am atal troseddu cyn i swyddogion fynychu, maent yn debygol o fod mewn llai o berygl o droseddu pellach.
Angen gwella
Ymchwilio i droseddau
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol o ran ymchwilio i droseddau.
Ymarfer addawol
Mae Heddlu De Cymru yn datblygu ymagwedd ymchwiliol ac amddiffyn gyfunol at wella canlyniadau i ddioddefwyr cam-drin domestig
Mae Ymgyrch Diogel yn cynnwys anfon ymchwilwyr ymroddedig i ymweld, cymryd datganiadau a chynnig cymorth amddiffyn i ddioddefwyr cam-drin domestig, tra bo’r troseddwr dan amheuaeth yn y ddalfa. Roedd gan lawer o’r dioddefwyr yr ymwelodd swyddogion â hwy hanes hir o brofi cam-drin domestig, ac ni wnaethant gefnogi erlyniad yn y lle cyntaf.
Mae gwerthusiad o Ymgyrch Diogel gan Brifysgol Caerdydd yn dangos, pan gaiff y dull hwn ei fabwysiadu, bod niferoedd uwch o ddioddefwyr yn cefnogi erlyniad a bod mwy o droseddwyr yn cael eu cyhuddo neu eu rhybuddio.
Mae Ymgyrch Diogel wedi cael ei threialu yn un o’r tair uned reoli sylfaenol yn Heddlu De Cymru. Ni ellir barnu eto ei chynaladwyedd na’i heffaith ar erledigaeth fynych pan fo mwy o ddioddefwyr yn gysylltiedig, ond mae’r gwerthusiad yn addawol.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymchwilio troseddau.
Mae’r llu yn cynnal ymchwiliadau trylwyr ac effeithiol ar ran y cyhoedd ac yn dangos ei ymrwymiad i ddioddefwyr
Canfu ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr fod ymchwilwyr wedi cwblhau ymchwiliad effeithiol yn 97 o’r 100 achos a archwiliwyd gennym, a bod bron pob achos wedi cael ei oruchwylio’n briodol. Ychydig o ymchwiliadau a oedwyd, a chafodd bron pob un eu dyrannu i ymchwilwyr medrus priodol.
Mae’r llu yn cofnodi dymuniadau dioddefwyr yn effeithiol ac a yw erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth wedi cael eu hystyried
Canfu ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr fod eu barn a’u penderfyniadau wedi cael eu cofnodi’n briodol mewn 21 allan o 23 achos lle penderfynodd dioddefwyr beidio â chefnogi erlyniad. O’r 85 achos a archwiliwyd, cofnodwyd y canlyniad cywir ar bob achlysur. Mae’r llu wedi gwneud cynnydd calonogol ers ein harolygiad diwethaf, a nododd sicrhau bod cofnodi barn a phenderfyniadau dioddefwyr yn archwiliadwy fel maes i’w wella.
Mae gan y llu lywodraethu wedi’i strwythuro’n dda i fynd i’r afael â chapasiti a safonau ymchwiliol, ond dylai wella ei allu i ddadansoddi galw a pherfformiad
Mae gan Heddlu De Cymru sawl cyfarfod cysylltiedig sy’n rheoli ei ymagwedd at wella ansawdd ymchwiliadau. Mae mynychwyr cyfarfod perfformiad y llu yn trafod y nifer o ymchwiliadau, llwythi gwaith ymchwilwyr a chanlyniadau i ddioddefwyr. Mae’r bwrdd synergedd a grŵp llywio’r hyb yn darparu llywodraethiant i sicrhau bod digon o bersonél medrus yn y mannau cywir i ymchwilio i droseddau i’r safon ddisgwyliedig. Mae gan y llu hefyd fframwaith perfformiad i sicrhau ei fod yn ymchwilio i droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig i safonau derbyniol.
Mae systemau TG megis Data Depot a Power BI yn caniatáu i’r llu weld galw, perfformiad goruchwylio a llwythi gwaith ei ymchwiliadau troseddol. Ond gwelsom nad oedd gan y llu ddigon o allu dadansoddol i ddeall pob agwedd ar y data hyn yn well. Er enghraifft, ni all ddeall yn llawn eto pa mor dda y mae ei hybiau ymchwilio yn rheoli’r galw. Nid yw’r llu wedi gwerthuso pa mor effeithiol y mae’n ystyried anghenion dioddefwyr wrth ryddhau pobl sydd dan amheuaeth o gam-drin domestig ar fechnïaeth, sy’n ofynnol yn unol â Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022.
Mae ymchwilwyr anarbenigol yn profi galw mawr
Canfuom, yn gyffredinol, fod gan adrannau ymchwilio i droseddau, timau ymchwilio i dreisio a hybiau ymchwilio lwythi achosion dichonadwy.
Ond gwelsom hefyd fod y nifer gyffredinol o droseddau heb ganlyniad terfynol wedi’i neilltuo iddynt eto yn cynyddu’n sydyn. Rhwng mis Chwefror a mis Hydref 2023, cynyddodd y nifer o droseddau yr ymchwiliwyd iddynt gan swyddogion ymateb nad oedd canlyniad wedi’i neilltuo iddynt o 3,692 i 10,128. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 40 y cant o’r holl ymchwiliadau troseddol gan y llu.
Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi creu strwythur llywodraethu newydd i’w helpu i ddeall pa mor dda y mae’n delio â throseddau a digwyddiadau a adroddwyd iddo ar ran dioddefwyr. Canfu ein harolygiad, fodd bynnag, nad oedd gan y llu ddealltwriaeth glir o pam bod swyddogion ymateb yn cadw’r cyfrifoldeb am nifer cynyddol o ymchwiliadau. Dywedwyd wrthym, er mwyn cadw llwythi gwaith yn ddichonadwy, y bydd hybiau ymchwilio yn aml yn gwrthod derbyn ymchwiliadau newydd. Mae hyn yn golygu bod rhaid i swyddogion ymateb gadw cyfrifoldeb am achosion. Dywedodd ringylliaid ac arolygwyr wrthym eu bod yn ei chael hi’n anodd cadw golwg ar a yw eu swyddogion yn ymchwilio’n brydlon i droseddau ac yn diweddaru dioddefwyr. Os yw swyddogion ymateb yn gyfrifol am ymchwilio i nifer cynyddol o droseddau, wrth barhau i ymateb i ddigwyddiadau, efallai na fydd dioddefwyr yn cael cyfiawnder yn brydlon ac yn effeithlon.
Digonol
Amddiffyn pobl fregus
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol o ran diogelu pobl agored i niwed.
Ymarfer arloesol
Mae Heddlu De Cymru yn darparu arweiniad ar unwaith ac yn effeithiol i helpu ei weithlu i amddiffyn pobl agored i niwed, gan gynnwys dioddefwyr stelcio
Mae’r llu yn gwybod bod angen iddo wella diogelwch dioddefwyr stelcio. Mae wedi datblygu ap i helpu personél i gynnal asesiadau risg cam-drin domestig a chyfeirio dioddwfwyr at wasanaethau a gomisiynwyd a chyngor.
Ar adeg ein harolygiad, roedd y llu wedi cyflwyno’r ap yn ddiweddar, ac nid oedd eto wedi gwerthuso ei effaith ar atgyfeiriadau. Mae’r llu hefyd yn ychwanegu mwy o ymarferoldeb i’r ap ar gyfer mathau eraill o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â phobl agored i niwed.
Ymarfer arloesol
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd camau i wella hyder menywod a merched yn ei ymrwymiad i’w diogelu rhag trais a cham-drin a gyflawnir gan yr heddlu
Mae’r llu yn cydnabod pwysigrwydd meithrin a chynnal ymddiriedaeth menywod a merched fel eu bod yn hyderus y bydd y llu’n gweithredu i’w cefnogi a’u hamddiffyn os bydd swyddogion heddlu neu staff yr heddlu yn troseddu yn eu herbyn.
Mae’r llu wedi comisiynu gwasanaeth ar gyfer dioddefwyr trais a gyflawnir gan yr heddlu yn erbyn menywod, gan gynnwys cam-drin domestig a thrais difrifol. Bwriad cefnogaeth arbenigol i ddioddefwyr yw mynd i’r afael â’r anghydbwysedd pŵer sy’n gysylltiedig â throseddwyr heddlu. Mae’r gwaith hwn mewn partneriaeth â swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu De Cymru a Gwent.
Mae’r fenter hon yn newydd, a bydd angen gwerthusiad gofalus, sensitif a thrylwyr.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn diogelu pobl agored i niwed.
Mae gan y llu arweinyddiaeth ymroddedig i ddiogelu pobl agored i niwed, ac mae’n asesu gwybodaeth bregusrwydd yn brydlon
Mae gan Heddlu De Cymru strategaeth rheoli a bregusrwydd newydd ar gyfer diogelu pobl agored i niwed. Mae hyn yn helpu’r llu i feincnodi ei safonau yn erbyn rhai’r Cynllun Gweithredu Bregusrwydd Cenedlaethol. Canfuom fod uwch arweinwyr gwybodus wedi gwneud penderfyniadau effeithiol am adnoddau i gefnogi nodau’r llu i fynd i’r afael â bregusrwydd. Canfuom hefyd fod yr arweinwyr hyn yn gweithio gydag asiantaethau partner i gefnogi ymdrechion ar y cyd yn y maes hwn.
Canfuom fod gan y llu brosesau effeithiol ar gyfer treialu asesiadau risg cam-drin domestig. Mae dangosfwrdd data galw canolog yn caniatáu iddo farnu lle mae’r galw ar ei uchaf yn y llu, ac i ddyrannu aseswyr risg ychwanegol i fynd i’r afael â’r galw hwnnw’n brydlon. Er enghraifft, gwelsom nifer isel o hysbysiadau diogelu’r cyhoedd yn disgwyl asesiad eilaidd. Mae hyn yn lleihau’r posibilrwydd o oedi wrth weithredu i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed difrifol.
Mae’r llu wedi gwella ei allu i fynd i’r afael ag ecsbloetiaeth
Erbyn hyn, mae gan y llu dîm penodol sy’n mynd i’r afael â chamfanteisio troseddol ar blant, ac mae ganddo dimau sy’n cefnogi oedolion sy’n ddioddefwyr ac yn gweithredu yn erbyn troseddwyr. Roedd hwn yn faes i’w wella o’n harolygiad diwethaf, lle dywedom nad oedd gan y llu dimau ymroddedig i ymchwilio i a tharfu ar gamfanteisio troseddol ar blant.
Gwelsom fod y timau newydd wedi’u hyfforddi’n gynhwysfawr. Mae’r llu yn defnyddio marcwyr rhybuddio yn briodol i helpu personél i nodi plant sy’n cael eu camfanteisio neu droseddwyr posib.
Yn ogystal, gwelsom fod y tîm camfanteisio wedi gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid. Gwelsom y llu yn cymryd rhan mewn trafodaethau cynllunio diogelwch mewn paneli camfanteisio ar blant amlasiantaeth gyda phartneriaid gofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol.
Mae’r llu yn gweithio gyda’i bartneriaid i ddiogelu menywod a merched rhag trais a cham-drin drwy newid ymddygiad troseddwyr
Ym mis Tachwedd 2023, dechreuodd y llu ddefnyddio Prosiect CARA. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer cynnig rhybuddiadau i droseddwyr cam-drin domestig ar yr amod eu bod yn mynychu gweithdai i’w helpu i newid eu hymddygiad yn gadarnhaol. Mae hyn yn rhoi mwy o opsiynau i’r llu leihau troseddu mynych ac amddiffyn dioddefwyr.
Dim ond yn ddiweddar y mae’r llu wedi mabwysiadu Prosiect CARA, felly er yn galonogol, bydd angen gwerthuso’r effaith ar erledigaeth fynych neu fwy difrifol dros amser.
Mae’r llu yn cydweithio â phartneriaid i gadw pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel drwy drefniadau amddiffyn amlasiantaethol
Canfuom fod y llu wedi cynnal ymchwil yn brydlon i’r risg o niwed a berir i bobl a nodir mewn hysbysiadau diogelu’r cyhoedd ac atgyfeiriadau amddiffyn o ofal cymdeithasol plant. Gwelsom ychydig iawn o enghreifftiau o oedi wrth rannu gwybodaeth a thrafodaethau strategaeth gyda phartneriaid. Mae cyfarfodydd misol rhwng rheolwyr hybiau amddiffyn amlasiantaethol (MASH) a chymheiriaid gofal cymdeithasol plant yn helpu i sicrhau bod trefniadau rhannu gwybodaeth ac amddiffyn yn gweithio’n effeithiol.
Gellir cynnal MASH o bell ar-lein neu dros y ffôn. Yn aml, mae cael yr heddlu a sefydliadau partner gyda’i gilydd yn yr un lle yn golygu eu bod yn gallu rhannu gwybodaeth yn well a datblygu arferion gwaith effeithiol. Ar hyn o bryd mae MASH gyda’r heddlu, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn yr un lleoliad mewn un ardal yn unig o’r llu. Mae angen i’r llu barhau i annog ei bartneriaid i efelychu trefniadau MASH ym mhob rhan o’r llu er mwyn lleihau’r oedi posib o ran cymryd camau i amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed.
Mae’r llu yn cefnogi dioddefwyr, ond mae angen gwneud hynny’n gyson
Mae’r llu yn cynnal arolygon gyda dioddefwyr cam-drin domestig a throseddau eraill i ddeall eu profiad o’r broses cyfiawnder troseddol. Dywedodd y llu wrthym fod canlyniad yr arolwg bodlonrwydd dioddefwyr ar gyfer y tri mis hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023 yn dangos bod 82.6 y cant o ddioddefwyr cam-drin domestig yn fodlon ar eu profiad cyffredinol gyda Heddlu De Cymru. Dim ond 56.1 y cant o ddioddefwyr, fodd bynnag, oedd yn gadarnhaol ynghylch y cyswllt dilynol gan ymchwilwyr.
Mae gan y llu dîm ymroddedig sy’n cefnogi dioddefwyr ar ôl i droseddwr dan amheuaeth gael eu cyhuddo. Ond dylai’r llu sicrhau ei fod yn deall y gefnogaeth barhaus y mae ei hangen ar ddioddefwyr, a’i fod yn cefnogi dioddefwyr yn effeithiol i gynnal eu hyder a’u cefnogaeth i erlyniadau.
Canfuom fod y llu wedi dysgu o brofiad i wella’r ffordd y mae’n diogelu dioddefwyr agored i niwed. Mae tîm troseddau mawr y llu yn nodi cyfleoedd dysgu o adolygiadau lladdiadau domestig a digwyddiadau eraill a allai fod yn angheuol. Mae hyn wedi’i ymgorffori mewn hyfforddiant ar gyfer ditectif ringylliaid i helpu i wella amddiffyn dioddefwyr. Mae’r llu hefyd wedi defnyddio data dynladdiadau yn ymwneud â dynion dros 25 oed mewn mannau cyhoeddus i hyrwyddo ei ymgyrch Un Ergyd yn Distrywio Bywydau.
Mae angen i’r llu werthuso ei drefniadau Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg
Canfu ein harolygiad fod cyfarfodydd Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) yn cael eu cadeirio gan dditectif arolygyddion profiadol, a nododd risgiau a chytuno ar gamau amddiffyn priodol gydag asiantaethau partner. Cynhelir cyfarfodydd MARAC naill ai’n wythnosol neu bob pythefnos.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, trafododd y llu 5,172 o achosion mewn cyfarfodydd MARAC. Roedd hyn yn uwch na’r 2,150 o achosion a argymhellwyd gan SafeLives yn seiliedig ar faint y boblogaeth leol. Nid yw’r sefyllfa hon wedi newid yn sylweddol ers ein harolygiad diwethaf. Mewn rhai o ardaloedd y llu, megis Caerdydd, gwelsom fod trafodaethau am feini prawf atgyfeirio wedi’u cynnal gyda grŵp llai o asiantaethau partner. Mae’r trafodaethau hyn yn penderfynu a yw atgyfeiriad i gyfarfod MARAC yn debygol o arwain at gynllunio diogelwch mwy effeithiol. Dylai hyn helpu i leihau unrhyw atgyfeiriadau diangen.
Mae’r nifer o droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gofnodwyd gan Heddlu De Cymru yn parhau i gynyddu. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, cofnododd y llu 9,582 o droseddau cysylltiedig â cham-drin domestig mynych, sy’n cyfateb i 7.2 o droseddau cam-drin domestig mynych fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn cymharu â’r 5,960 o droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig mynych a gofnodwyd yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 (sy’n cyfateb i 4.5 trosedd fesul 1,000 o’r boblogaeth).
Ffigur 5 : Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig mewn cyfnod 12 mis treigl fesul 1,000 o’r boblogaeth a gofnodwyd gan Heddlu De Cymru rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 a’r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023
Ffynhonnell: Casglu a dadansoddi data gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi
Mae angen i’r llu werthuso a yw ei ddulliau amrywiol o reoli’r nifer o ddigwyddiadau cam-drin domestig risg uchel a’u risg o niwed yr un mor effeithiol wrth atal digwyddiadau cam-drin domestig mynych.
Digonol
Rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol o ran rheoli troseddwyr a phobl dan amheuaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddwyr a phobl dan amheuaeth.
Mae gan y llu brosesau sefydledig i flaenoriaethu arestio troseddwyr dan amheuaeth
Mae cyfarfod misol y llu ar niferoedd pobl dan amheuaeth, pobl sy’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad (RUI) a mechnïaeth, dan gadeiryddiaeth prif swyddog, yn monitro data perfformiad pob BCU sy’n ymwneud ag arestio a rheoli troseddwyr dan amheuaeth.
Mae cyfarfodydd rheoli dyddiol yn sicrhau bod rheolwyr lleol yn cael y cymorth y mae ei angen i arestio troseddwyr dan amheuaeth sy’n peri’r risg uchaf o niwed i ddioddefwyr. Caiff swyddogion eu briffio drwy ddogfennau trosglwyddo sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd am y bobl dan amheuaeth y disgwylir iddynt eu harestio. Canfuom fod y rhan fwyaf o dasgau lle bo angen arestio pobl dan amheuaeth wedi cael eu hadolygu’n rheolaidd, ac ailasesu’r risg.
Dywedodd y llu wrthym fod swyddogion heddlu cymdogaeth ac aelodau o dimau eraill, megis swyddogion arfau tanio, wedi cymryd rhan mewn ymgyrch ddeuddydd yn ddiweddar i arestio troseddwyr dan amheuaeth â blaenoriaeth uchel. Dywedodd y llu wrthym hefyd fod pob BCU yn cynnal gweithrediadau yn rheolaidd i arestio pobl dan amheuaeth. Mae uwch arweinwyr yn sicrhau bod digon o bersonél i arestio a darparu ar gyfer carcharorion mewn dalfeydd ac i’w cyfweld.
Mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn cynnal ei allu i arestio pobl dan amheuaeth. Ym mis Mai 2023, nid oedd 324 o bobl dan amheuaeth wedi cael eu harestio eto, ac erbyn Awst 2023 roedd 421 o bobl dan amheuaeth ar y gweill. Po hiraf y caniateir i’r troseddwyr dan amheuaeth aros yn rhydd, y mwyaf o ddioddefwyr a allai fod wrth risg niwed.
Mae gan y llu brosesau a llywodraethu cynhwysfawr i sicrhau ei fod yn defnyddio mechnïaeth ac RUI yn effeithiol
Canfu ein harolygiad fod y rhan fwyaf o adolygiadau ac awdurdodiadau ar gyfer mechnïaeth neu RUI yn gymesur, wedi’u cyfiawnhau yn glir, ac yn cydbwyso anghenion yr ymchwiliad a mesurau i ddiogelu dioddefwyr. Mae polisi’r llu yn glir bod rhaid i arolygydd awdurdodi rhyddhau troseddwyr dan amheuaeth troseddau difrifol a cham-drin domestig ar RUI, ac y dylid ceisio barn dioddefwyr.
Mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn defnyddio mechnïaeth i ymchwilio’n effeithiol i droseddau a diogelu dioddefwyr
Mae rhingylliaid mechnïaeth yn gyfrifol am sicrhau bod swyddogion ymchwilio yn gwneud cais am ymestyn mechnïaeth neu ei throsi’n RUI. Mae rhingylliaid mechnïaeth, fodd bynnag, hefyd yn gyfrifol am y broses bwcio i mewn ac asesu risg i bobl dan amheuaeth sy’n dod i orsaf heddlu yn wirfoddol. Dywedodd arolygwyr a rhingylliaid y tîm ymateb wrthym y gallant ei chael hi’n anodd adolygu mechnïaeth ac RUI ochr yn ochr â’u gofynion eraill.
Gwelsom enghreifftiau o bobl dan amheuaeth a oedd yn ateb mechnïaeth mewn gorsaf heddlu, ond yna nid oedd medd delio â nhw. Roedd hyn oherwydd bod y rhingyll mechnïaeth eisoes yn brysur yn delio â mynychwyr eraill neu nad oedd swyddogion ymchwilio wedi datblygu ymchwiliadau, ac nad oeddent yn bresennol i ddarparu diweddariadau i staff y ddalfa. Yn yr amgylchiadau hyn, mae mechnïaeth yn aml yn darfod i mewn i RUI. Mae hyn yn golygu nad yw dioddefwyr bellach yn cael eu hamddiffyn rhag niwed gan amodau mechnïaeth, yn aml heb roi unrhyw fesurau diogelu amgen ar waith.
Ym mis Mehefin 2023, bu HMICFRS a’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn arolygu cyfleusterau dalfeydd Heddlu De Cymru ar y cyd. Yn yr archwiliad hwnnw, canfuom fod angen i’r llu gyhuddo pobl dan amheuaeth yn gynt ar ôl penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyhuddo. Canfuom hefyd fod angen i’r llu sicrhau bod swyddogion a staff sy’n gyfrifol am ddiogelu dioddefwyr yn cael eu hysbysu cyn gynted ag y bydd mechnïaeth yn newid i RUI.
Mae timau rheoli troseddwyr yn gweithio’n dda i asesu a rheoli’r risgiau a berir gan droseddwyr, ond mae angen i’r llu sicrhau bod llwythi gwaith yn parhau i gael eu monitro
Mae’r timau rheoli troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar (MOSOVO) a’r tîm ymchwiliadau ar-lein pedoffiliaid yn cael eu harwain gan uwcharolygwyr yn uned reoli amddiffyn a diogelu’r cyhoedd. Mae polisi MOSOVO y llu yn nodi’n glir cyfrifoldebau goruchwylwyr a rheolwyr troseddwyr, ac yn ymgorffori canllawiau Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd.
Mae’r llu yn cydymffurfio â’r ymarfer proffesiynol awdurdodedig ar gyfer rheoli troseddwyr adweithiol, gan gynnwys ymweliadau dirybudd, gyda dau griw. Gwelsom ychydig iawn o ymweliadau cartref hwyr.
Canfuom fod timau MOSOVO wedi’u staffio’n dda, ond er bod llwythi achosion yn ddichonadwy ar hyn o bryd, roeddent yn cynyddu. Dywedodd y llu fod oddeutu 50 o droseddwyr wedi’u neilltuo i bob rheolwr troseddwyr. Mae angen iddo gadw achosion yn ddigon isel i leihau’r risgiau y mae troseddwyr yn eu peri ac i ddiogelu lles y gweithlu.
Mae’r llu yn asesu tebygolrwydd pob troseddwr o achosi niwed i’r cyhoedd gan ddefnyddio asesiadau’r system rheoli risg gweithredol. Canfu ein harolygiad fod 120 o asesiadau yn hwyr. Er nad oedd unrhyw oedi yn hir, mae angen i’r llu sicrhau ei fod yn asesu risg troseddwyr yn brydlon.
Mae’r holl droseddwyr rhyw cofrestredig yn cael eu nodi ar system cofnodi troseddau a digwyddiadau’r heddlu, Niche. Dim ond y rhai yr ystyrir eu bod yn cynrychioli risg benodol, fodd bynnag, sydd hefyd yn cael eu nodi ar y system gorchymyn a rheoli (Control Works). Mae’r diffyg cysondeb hwn yn golygu efallai na fydd swyddogion sy’n mynychu digwyddiadau yn adnabod troseddwyr mewn categorïau risg is, hyd yn oed os y’u ceir yng nghwmni pobl agored i niwed.
Mae angen i’r llu sicrhau bod yr holl bersonél sy’n ymwneud â rheoli’r troseddwyr mwyaf peryglus gydol eu hoes wedi’u hyfforddi’n ddigonol
Mae’r holl bersonél sy’n rheoli troseddwyr rhyw a threisgar yn cael hyfforddiant MOSOVO, asesiadau system rheoli risg gweithredol a sut i ddefnyddio’r system Cofrestr Troseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw.
Mae’r llu yn defnyddio meddalwedd Magnet Outrider i ganfod cynnwys niweidiol ar ddyfeisiau electronig troseddwyr rhyw cofrestredig, ond gwelsom nad oedd pob swyddog a staff yn hyderus yn ei defnyddio. Canfuom hefyd nad oedd gan ddechreuwyr newydd mewn timau MOSOVO o gefndir y tu allan i’r heddlu unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn dyletswyddau heddlu cyffredinol. Roedd hyn yn cynnwys, er enghraifft, sut i gymryd datganiadau a defnyddio radio’r heddlu. Ni chafodd pob aelod o staff eu hyfforddi i ddefnyddio Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu. Mae hyn yn golygu efallai na fydd staff yn gwybod a yw rhai troseddwyr wedi cael eu harestio o’r blaen ac nad ydynt wedi’u cyhuddo na’u rhybuddio am droseddau anwedduster. Felly, efallai y bydd gan reolwyr troseddwyr ddealltwriaeth anghyflawn o’r peryglon posib a berir gan droseddwyr.
Mae’r llu yn cymryd camau gorfodi amserol yn erbyn y rhan fwyaf o droseddwyr ar-lein sy’n peri risg i blant, ond rhaid asesu risgiau’n brydlon
Canfuom fod tîm ymchwilio ar-lein yr heddlu wedi’i staffio’n ddigonol i ateb ei alw presennol.
Pan hysbysir y llu am drosedd a amheuir, cynhelir ymchwil gan ddefnyddio cofnodion troseddol a gwiriadau deallusrwydd. Yna defnyddir offeryn asesu risg y rhyngrwyd Kent i asesu difrifoldeb y bygythiad a berir gan y sawl dan amheuaeth. Canfu ein harolygiad fod aelodau o dîm ymchwilio ar-lein yr heddlu wedi gweithredu yn y rhan fwyaf o achosion risg uchel a chanolig ac o fewn yr amserlenni a argymhellir.
Ond gwelsom nad oedd hyn bob amser yn wir mewn achosion risg isel. Cyn ein harolygiad, dywedodd y llu wrthym fod ôl-groniad o hyd at 80 achos yn aros am gamau gorfodi. Er bod yr ôl-groniad wedi lleihau erbyn ein harolygiad, cyflawnwyd y gostyngiad hwn gan swyddogion a staff yn gweithio goramser, sy’n annhebygol o fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Dangosodd rhai achosion risg isel a archwiliwyd gennym fod asesiadau sy’n defnyddio offeryn asesu risg y rhyngrwyd Kent wedi’u gohirio am wythnos neu fwy. Mae hyn yn golygu bod yr oedi cyn gweithredu mewn gwirionedd yn hirach nag y gallent ymddangos o ddealltwriaeth fras o ddata perfformiad, ac y gallai dioddefwyr barhau i fod wrth risg niwed am gyfnod hwy.
Digonol
Adeiladu, cefnogi ac amddiffyn y gweithlu
Mae Heddlu De Cymru yn dda o ran adeiladu, cefnogi a diogelu’r gweithlu.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn datblygu, yn cefnogi ac yn diogelu ei weithlu.
Mae’r llu yn blaenoriaethu iechyd a lles ei weithlu gyda chynllun clir a mesurau cymorth
Mae’r llu yn defnyddio’r Fframwaith Lles Golau Glas i lywio sut mae’n deall ac yn cefnogi lles ei weithlu. Mae bwrdd lles y llu yn monitro cynnydd ei gynllun gweithredu lles, sy’n cynnwys arweinyddiaeth, iechyd meddwl a rheoli absenoldeb.
Mae’r llu wedi cynyddu mynediad at gwnsela i bersonél y mae eu swyddi’n achosi’r risg uchaf o salwch iechyd meddwl drwy ddod i gysylltiad rheolaidd â thrawma, megis y rhai sy’n ymchwilio i droseddau cam-drin plant neu reoli’r troseddwyr mwyaf peryglus. Dywedodd y llu wrthym fod 26 adran neu dîm bellach yn cael sgrinio seicolegol, felly gellir cyfeirio swyddogion sydd angen cymorth iechyd meddwl at y rhaglen cymorth i weithwyr.
Mae swyddogion yn cael cynnig cwnsela rheoli risg trawma pan fyddant yn agored i ddigwyddiadau trawmatig yn y gwaith. Dywedodd y rhan fwyaf o swyddogion wrthym fod Ymgyrch Hampshire, sy’n mandadu cyfres o gamau gweithredu cefnogol i swyddogion yr ymosodwyd arnynt yn ystod eu dyletswydd, yn brydlon ac yn effeithiol.
Mae pecyn cymorth lles ac adnoddau mewnrwyd helaeth hefyd ar gael ar gyfer arweiniad pellach a hunangymorth. Dywedodd swyddogion a staff y siaradom â nhw eu bod yn gweld yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol.
Mae’r llu hefyd yn ymateb i ffactorau y tu allan i’r gweithle a allai effeithio ar iechyd meddwl neu emosiynol swyddogion a staff. Er enghraifft, mae’r llu yn caniatáu i bersonél gael eu cyflog yn gynharach yn y mis i liniaru pwysau costau byw.
Mae gwasanaeth iechyd galwedigaethol y llu yn darparu cymorth ac ymyriadau sy’n gwella lles swyddogion a staff
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, roedd gan Heddlu De Cymru 12.8 o atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol fesul 100 o swyddogion a staff. Roedd hyn yn is na’r disgwyl o’i gymharu â lluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Gostyngodd yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer apwyntiadau o 24 diwrnod yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 i 16 diwrnod yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023.
Ffigur 6 : Nifer o atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol fesul 100 o swyddogion a staff yn ôl lluoedd yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023
Ffynhonnell: Casglu a dadansoddi data gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi
Ond dywedodd nifer o bobl wrthym nad ydynt yn gallu cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i dderbyn cymorth lles oherwydd eu llwyth gwaith a lefelau galw. Dywedodd ymatebwyr arolwg ymgysylltu mewnol y llu eu bod yn poeni am waith pan nad oeddent ar ddyletswydd. Os na all personél anghofio am bwysau gwaith neu flaenoriaethu eu hiechyd, efallai y byddant yn mynd yn sâl neu’n gadael.
Mae’r llu yn hyrwyddo amgylchedd gwaith moesegol a chefnogol, ond mae angen iddo sicrhau bod yr holl staff yn teimlo eu bod wedi’u gwerthfawrogi
Cynhaliwyd arolwg gweithlu rhwng 3 Gorffennaf 2023 a 4 Awst 2023. Ar y cyfan, roedd 79.2 y cant o’r ymatebwyr (373 o 471) yn teimlo ymdeimlad o berthyn i Heddlu De Cymru, ac roedd 84.1 y cant (396 o 471) yn teimlo’n falch o fod yn aelod o’r llu.
Gofynnwyd cwestiynau i bob ymatebydd yn ymwneud ag ymddygiad eu rheolwr llinell. Canfuom fod 90.1 y cant (424 o 471) o’r ymatebwyr yn cytuno bod eu rheolwr llinell yn herio ymddygiad gwahaniaethol, a bod 88.1 y cant (415 o 471) yn cytuno bod eu rheolwr llinell yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol. Canfu ein harolwg hefyd fod 86.6 y cant (408 o 471) o’r ymatebwyr yn cytuno bod eu rheolwr llinell yn modelu safonau ymddygiad uchel.
Mae’r canlyniadau hyn yn debyg yn fras i arolwg ymgysylltu â’r gweithlu mewnol diweddar y llu ei hun.
Mae’r llu yn cynnig y rhaglen ‘archwilio’ i helpu staff yr heddlu i ddatblygu drwy gyfleoedd cysgodi, secondiad i adrannau eraill a chyfrannu at brosiectau gwella’r llu. Er gwaethaf hyn, dim ond 37 y cant (90 o 243) o ymatebwyr staff yr heddlu yn ein harolwg oedd yn cytuno eu bod yn teimlo yr un mor werthfawr â swyddogion heddlu. Dylai’r llu gymryd camau i ddeall yr anghyfartaledd canfyddedig hwn.
Yn gadarnhaol, mae’r llu wedi buddsoddi i atgyfnerthu dealltwriaeth y gweithlu o’i gyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo triniaeth deg. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu wedi mynychu’r seminarau ar y we ‘Let’s talk about race’, a hyfforddiant ‘Inclusion matters, diversity wins’. Mae gweithdai datblygu cynhwysiant yn hyrwyddo disgwyliad y llu bod personél yn herio ymddygiad amhriodol ac annheg.
Mae’r llu yn gweithio i gadw ei weithlu a chefnogi myfyrwyr swyddogion
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, dim ond 29 y cant o swyddogion heddlu a adawodd Heddlu De Cymru oherwydd ymddiswyddiad gwirfoddol. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru a Lloegr o 43 y cant.
Dywedodd myfyrwyr swyddogion wrthym fod y llu a’i oruchwylwyr yn creu amgylchedd croesawgar, a bod y llu yn cynnal arolygon i nodi sut y gellid gwella hyfforddiant ac ymgyfarwyddo yn y dyfodol. Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi newid ei ddarparwr graddau yn ddiweddar, sydd wedi arwain at ostyngiad o 33 y cant mewn gwaith academaidd. Mae cynnwys y cwrs bellach yn fwy perthnasol i’r rôl plismona y mae myfyrwyr swyddogion yn gweithio tuag ati.
Mae’r llu hefyd wedi dadansoddi effaith amser dysgu gwarchodedig (PLT) myfyrwyr swyddogion ar gyfer y timau y maent yn gweithio ynddynt. Er gwaethaf hyn, dywedodd y llu wrthym fod rheoli PLT yn parhau i fod yn her. Dywedodd rhai swyddogion wrthym fod diwrnodau PLT yn dal i gael eu canslo fel y gallant gyflawni dyletswyddau, neu fod PLT wedi’i drefnu ar ôl sifft nos. Yn ddiweddar, mae’r llu wedi cyflwyno polisi sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod prif arolygydd symud diwrnod PLT myfyriwr swyddog fel bod tarfu ar waith academaidd ond yn digwydd pan fo angen.
Mae’r llu yn dangos ei ymrwymiad i gadw a datblygu gyrfaoedd swyddogion a staff o gefndiroedd amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol
Mae cynllun cydraddoldeb strategol y llu yn cadarnhau ei ymrwymiad i gyflawni ei ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus statudol drwy wella datblygiad a chadw swyddogion a staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phersonél benywaidd. Mae’r llu yn cynnig cyfweliadau ymadael i ddeall pam mae personél o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn gadael, ac a oes materion penodol sy’n cyfrannu at hyn.
Mae’r rhaglen ‘Atlas’ yn darparu cyfleoedd rhwydweithio a mentora i swyddogion a staff o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i helpu i ddatblygu a chynnal eu gyrfaoedd. Siaradodd y personél yn gadarnhaol am yr hyder y maent wedi’i fagu drwy’r rhaglen. Mae rhwydwaith cydraddoldeb rhyweddol y llu yn helpu swyddogion a staff benywaidd i ddatblygu eu potensial drwy seminarau hyrwyddo, mentora a hyfforddi. Mae’r rhwydwaith hefyd yn helpu i hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a lles. Mae’r llu yn hyrwyddo ymgyrch HeForShe, sy’n annog cydweithwyr gwrywaidd i hyrwyddo cydraddoldeb rhyweddol.
Mae’r llu yn cynyddu’r gyfran o swyddogion heddlu benywaidd sy’n cael dyrchafiad. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, roedd 34.7 y cant (44 o 127) o swyddogion heddlu a ddyrchafwyd yn fenywod. Mae hwn yn gynnydd addawol a pharhaus o’i gymharu â data o’r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, pan roedd 25 y cant (33 o 132) o ddyrchafiadau yn fenywod; a’r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, pan roedd 24.2 y cant (22 o 91) o ddyrchafiadau yn fenywod. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, cyfradd y swyddogion benywaidd a adawodd y llu oedd 22.4 y cant. Mae hyn yn sylweddol is na’r cyfartaledd yng Nghymru a Lloegr o 30.9 y cant.
Dywedodd y llu wrthym, er ei fod yn dyrchafu mwy o swyddogion benywaidd i reng rhingyll neu brif uwcharolygydd a’n uwch, mae angen mwy o gynrychiolaeth amrywiol arno ar bob lefel arweinyddiaeth. Mae’n llai llwyddiannus o ran dyrchafu digon o swyddogion benywaidd i rengoedd arolygydd, prif arolygydd a rolau arolygol. Ar hyn o bryd, nid oes gan y llu swyddogion sy’n gwasanaethu o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn uwch na rheng prif arolygydd.
Mae’r llu yn cynnwys ei rwydweithiau cymorth i’r gweithlu yn dda, ond dylid cyfathrebu cynlluniau yn well
Mae gan y llu rwydweithiau a chymdeithasau cymorth datblygedig i gynrychioli buddiannau’r gweithlu cyffredinol a grwpiau lleiafrifol. Ond dywedodd rhai aelodau o’r rhwydweithiau hyn nad oedd ganddynt ddeialog reolaidd gydag uwch arweinwyr enwebedig.
Mae cynllun cydraddoldeb strategol y llu yn canolbwyntio ar ddenu, datblygu a chadw swyddogion a staff lleiafrifoedd ethnig a benywaidd. Dywedodd lawer o’r personél ac aelodau’r rhwydweithiau cymorth wrthym fod y ffocws datganedig hwn wedi arwain at grwpiau eraill, fel y rhai ag anghenion niwroamrywiol neu gyfeiriadedd LGBTQ+, yn teimlo’n llai gwerthfawr.
Dangosodd data o’n harolwg y gweithlu fod 73.8 y cant o’r ymatebwyr (348 o 471) yn cytuno bod Heddlu De Cymru yn ystyried eu sgiliau a’u galluoedd wrth eu defnyddio neu ddyrannu tasgau. Ond dywedodd rhai ymatebwyr wrthym nad yw rheolwyr llinell wir yn deall anabledd. Dywedodd rhai personél ag anghenion niwroamrywiaeth neu gyfrifoldebau gofal eu bod yn credu eu bod yn cael eu symud i rolau er hwylustod gweithredol, yn hytrach na chael cymorth i aros yn eu swyddi blaenorol gyda chymorth addasiadau rhesymol.
Aseswyd Heddlu De Cymru o dan y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol, a chyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Mai 2023. Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol am y llu mewn perthynas â chynwysoldeb, her, moeseg ac atebolrwydd. Dywedodd y llu wrthym, fodd bynnag, fod 24 y cant o’r ymatebwyr yn teimlo dan anfantais oherwydd eu rhywedd, oedran, anabledd neu gyfrifoldebau gofal.
Mae angen i’r llu gyfathrebu’n well sut mae’n bwriadu cynyddu cyfleoedd i bob aelod o’i weithlu.
Mae’r llu yn gweithio i roi’r sgiliau a’r hyder i’w oruchwylwyr i arwain eu timau, ond mae angen iddo sicrhau eu bod yn mynychu’r hyfforddiant gofynnol
Mae rhaglen ddatblygu’r llu ar gyfer arweinwyr llinell gyntaf yn hyfforddi rhingylliaid sydd newydd eu dyrchafu i oruchwylio ymchwiliadau a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hefyd yn eu helpu i ddeall gofynion y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona yn well. Rhaid i gwnstabliaid fynychu’r hyfforddiant hwn i fod yn gymwys i gael dyrchafiad i reng rhingyll. Mae gan y llu gynlluniau i hyfforddi rhingylliaid a staff heddlu sydd eisoes wedi cymhwyso pan fydd ganddo’r gallu i wneud hynny.
Ond dywedodd sawl rhingyll dros dro wrthym eu bod wedi bod yn perfformio’r rôl am fisoedd neu flynyddoedd heb unrhyw hyfforddiant. Ar adeg ein harolygiad, dywedodd y llu wrthym mai dim ond dwy ran o dair o leoedd hyfforddi oedd wedi’u harchebu. Ac mewn rhai lleoliadau, ni allai’r rhingyll fynychu hyfforddiant oni bai bod myfyriwr swyddog yn cyflawni’r rôl rhingyll dros dro yn eu habsenoldeb.
Mae angen i’r llu sicrhau bod yr holl oruchwylwyr yn mynychu’r hyfforddiant y mae ei angen arnynt i ennill y sgiliau a’r hyder i arwain timau a gwasanaethu’r cyhoedd yn effeithiol.
Da
Arweinyddiaeth a rheoli’r llu
Mae arweinyddiaeth a rheoli Heddlu De Cymru yn ddigonol.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth a rheoli.
Mae’r llu yn cynnwys ei gymunedau ac yn cydweithio â rhwydweithiau’r heddlu ac asiantaethau partner i ddarparu gwell gwasanaethau i’r cyhoedd
Mae’r llu yn cydweithio’n dda â’i luoedd cyfagos, sydd wedi’i adlewyrchu yn ei uned arfau tanio ar y cyd, uned ymchwilio gwyddonol ar y cyd, yr adran gwasanaethau cyfreithiol a’r is-adran gwasanaethau digidol. Mae’r llu yn gwneud defnydd da o swyddogaethau a rennir gyda Heddlu Gwent, sy’n rhoi gwerth am arian i’r ddau lu.
Mae’r llu yn cydweithio’n genedlaethol, wedi buddsoddi mewn argyfyngau sifil, recriwtio a hyfforddiant taser. Mae’n gweithio’n dda gyda sefydliadau partner i gyflawni ei flaenoriaethau. Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi gweithio gydag un awdurdod unedol i ariannu swyddi swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol. Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar lefel weithredol i ddeall yr effaith y mae’r ymagwedd Gofal Cywir Person Cywir yn debygol o’i chael ar yr ymddiriedolaeth ambiwlans leol a gwasanaethau cysylltiedig.
Mae’r llu yn defnyddio gwasanaeth negeseua ar-lein De Cymru yn Gwrando i gynnwys ei gymunedau, ac mae’n gobeithio cyrraedd 100,000 o bobl. Mae’n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac arolygon a luniwyd gan Ipsos i greu targedau micro-rawd (ardaloedd o 300 metr sgwâr) ar gyfer ei dimau plismona yn y gymdogaeth. Mae wedi creu swyddi rheolwr diogelwch cymunedol ym mhob BCU i reoli adnoddau partneriaeth yn fwy effeithiol.
Mae’r llu wedi gwella ei strwythur llywodraethu i’w helpu i gyflawni ei gynlluniau, ond mae angen gwell dealltwriaeth arno o bwysau galw
Mae’r llu wedi creu strwythur llywodraethu newydd ac yn cynnal cyfarfodydd gweithredol i fonitro perfformiad, lles, adnoddau a rhaglenni gwaith yn well. Mae’n sicrhau bod ei benderfyniadau am sut i wella gwasanaethau, megis drwy ehangu rhai adrannau, wedi’u cefnogi gan ddadansoddiad ariannol. Mae prosiectau newydd yn cael eu cynyddu i fwrdd cynhyrchiant, arloesi ac effeithlonrwydd y llu cyn eu cymeradwyo. Mae’r llu yn defnyddio arolygon i nodi meysydd lle mae angen iddo wella, megis gwelededd ei uwch arweinwyr.
Gwelsom, fodd bynnag, nad yw’r llu ar hyn o bryd yn deall lefelau amser i ffwrdd yn lle cyflog (TOIL) na’r rhesymau dros ei gronni. Mae’r llu wedi gwella ei system adnoddau gyffredinol fel y gall nawr ddeall gwariant ar oramser i lefel adrannol o fanylder. Ym mis Awst 2023, dywedwyd wrthym fod y llu wedi defnyddio £307,000 yn ormod o oramser. Mae uwch arweinwyr yn cydnabod bod y llu’n dal i ddefnyddio gormod o oramser, er bod gweithlu’r llu wedi cynyddu ers i Raglen Uplift yr Heddlu ddechrau.
Yn ogystal, dywedodd y llu wrthym fod diffyg cydymffurfio â chynlluniau salwch cefnogol ar gyfer swyddogion absennol a staff sy’n sâl. Dywedwyd wrthym fod hyn yn debygol o fod am nad yw goruchwylwyr amhrofiadol yn defnyddio’r broses yn effeithiol. Mae’r llu yn derbyn bod angen iddo wneud mwy i sicrhau ei fod yn deall ei alw, a sut mae hynny’n effeithio ar lwyth gwaith ei swyddogion a’i staff.
Mae’r llu yn darparu hyfforddiant arweinyddiaeth i’w bersonél, ond mae angen i uwch arweinwyr fod yn fwy gweladwy ac ymwneud â’r gweithlu
Mae’r llu wedi creu rhaglen datblygu arweinwyr llinell gyntaf ar gyfer goruchwylwyr gweithredol, ac mae’n disgwyl mabwysiadu rhaglen datblygu arweinyddiaeth lefel ganolig y Coleg Plismona yn 2024.
Dywedodd swyddogion a staff wrthym fod y tîm prif swyddogion yn annog herio a thrafodaeth ymhlith ei weithlu. Mae’r llu yn perfformio’n well o ran y nifer o gwynion a godwyd ac a gwblhawyd na’r lluoedd eraill sydd wedi’u grwpio yn yr un modd.
Mae gan y llu rai prif swyddogion dros dro o fewn tîm sydd fel arall yn sefydlog a sefydledig. Mae deiliaid swyddi dros dro yn uwch arweinwyr profiadol sydd â gwybodaeth sylweddol am y llu a’u portffolios. Mae uwch arweinwyr yn cyfathrebu blaenoriaethau a chynlluniau’r llu yn glir i’r gweithlu cyffredinol.
Dywedodd y llu wrthym, fodd bynnag, fod ei arolwg ymgysylltu â’r gweithlu mewnol wedi canfod nad oedd gan ymatebwyr hyder mewn tegwch prosesau dyrchafu a gwelededd a hygyrchedd uwch arweinwyr.
Mae’r llu wedi ymateb yn dda ac yn gyflym i bryderon yr arolwg. Er enghraifft, mae prif swyddogion wedi cynnal sesiynau briffio ‘nôl i’r llawr’, ac mae’r llu yn sicrhau bod uwch arweinwyr yn gweithio o orsafoedd lleol lle bo hynny’n ymarferol. Dywedodd personél wrthym, fodd bynnag, y gallai’r llu roi gwybod i’w weithlu yn well am ei gynlluniau ar gyfer newid.
Mae diffyg capasiti presennol y llu mewn dysgu a datblygu, TG a thrwyddedu arfau tanio yn rhwystro darparu gwasanaethau
Ar hyn o bryd mae gan y llu gyfradd swyddi gwag gyffredinol o 9 y cant. Mae hyn yn cynnwys maes allweddol trwyddedu arfau tanio, sy’n bwysig i helpu’r llu i reoleiddio mynediad y cyhoedd at arfau marwol.
Ar adeg ein harolygiad, roedd gan y llu 41 o swyddi gwag allan o 180 o staff (23 y cant) yn ei swyddogaeth TG, sy’n effeithio ar ei allu i fodloni’r gofynion a roddir arno. Mae hyn yn peri risg i’r llu. Mae’n ymwybodol na all gyfateb i lefelau cyflog y diwydiant ar hyn o bryd, gyda chyflogau oddeutu £5,000 i £10,000 yn is na’r rhai yn y sector preifat. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd denu a chadw’r swyddogion a’r staff y mae eu hangen ar y llu.
Nid oes gan y swyddogaeth dysgu a datblygu ychwaith y gweithlu y mae ei angen arno i gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol. Gyda mwy o recriwtio wedi’i gynllunio ar gyfer 2024, mae angen i’r llu flaenoriaethu capasiti yn y maes hwn. Mae’n ymwybodol o’r mater hwn, ac mae wedi tynnu sylw ato fel risg yn ei ddatganiad rheoli’r llu. Mae hyn yn golygu y gall y llu flaenoriaethu gwella ei gapasiti fel rhan o’i gynllunio yn y dyfodol.
Mae’r llu yn deall ei gyllid yn ddigonol ac yn defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i leddfu effeithiau gwariant
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, derbyniodd y llu gyfanswm o £402.9m mewn cyllid, sef £307,000 fesul 1,000 o’r boblogaeth. O gyfanswm ei gyllideb, mae’r llu yn derbyn 37 y cant o braesept y Dreth Gyngor, sef £152.1m. Mae’r llu yn cael ei ariannu ar gyfradd uwch na’r cyfartaledd o’i gymharu â’r holl heddluoedd eraill ar draws Cymru a Lloegr.
Ffigur 7 : Cyfanswm cyllid fesul 1,000 o’r boblogaeth yn ôl lluoedd yng Nghymru a Lloegr ym mlwyddyn ariannol 2022/23
Ffynhonnell: Casglu a dadansoddi data gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi
Mae cronfa wrth gefn gyffredinol y llu yn £10.3 miliwn ar hyn o bryd. Mae hyn £2.1m islaw strategaeth wrth gefn y llu, ond mae’n synhwyrol.
Mae cynlluniau ariannol y llu yn ddigonol. Mae’r cynllun ariannol tymor canolig yn ddigonol, ac mae’r llu wedi ein sicrhau ei fod ar y trywydd iawn i wneud yr arbedion (£20 miliwn) y mae eu hangen arno erbyn 2027.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, roedd gan Heddlu De Cymru 15.1 y cant o swyddogion mewn rolau cymorth. Roedd hyn yn gyson â’r disgwyliadau ar gyfer lluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Digonol
Am y data
SYLWCH: Mae’r holl ddolenni yn y deilsen hon yn mynd â chi i dudalen Saesneg, defnyddiwch y botwm Cymraeg ar frig y dudalen ar y chwith i gyfieithu’r dudalen i’r Gymraeg.
Data in this report comes from a range of sources, including:
- the Home Office;
- the Office for National Statistics;
- our inspection fieldwork; and
- data we collected from the 43 territorial police forces in England and Wales.
For any charts and tables included in this report, we have listed the data source underneath.
Methodology
Data that we collect from police forces
We collect data from police forces twice a year. We agreed the design and schedule of this data collection with forces and other interested parties, including the Home Office.
Our analysts check and evaluate the collected data. We contact the force if we have any initial queries. Following this, we carry out an in-depth data review and make further contact with the force if needed. This process gives forces several opportunities to quality assure and validate the information they shared to make sure it is accurate.
We then share our analysis with the force by uploading the data to online dashboards. As they can review own and other forces’ data in context, forces can identify any notable differences or other inconsistencies.
Forces considered in this report
This report presents the results from a PEEL inspection of one of the 43 territorial police forces in England and Wales. British Transport Police is outside the scope of this report.
Any aggregated totals for England and Wales exclude data from the British Transport Police, which means that the totals will differ from those published by the Home Office. If any other police forces didn’t supply data and aren’t included in the total figures, we will mention this.
Timeliness of the data
We use data that has been collected outside our PEEL inspection to support our fieldwork.
This report contains the latest data available before the start of our inspection and the data that the force gave us during our inspection. If more recent data becomes available after our inspection fieldwork and shows that the force’s performance has changed, we will comment on this.
Reporting rates per population
In this report, we sometimes present information as rates per 1,000 population in each police force area. This allows our data to be comparable across all forces. Where population data is used in our calculations, we use the latest mid-year population estimates from the Office for National Statistics.
Reporting where the force is significantly different from the average
In this report, we have included bar charts with dotted red lines to show where a force is significantly different from the average for forces in England and Wales.
The dotted lines on the bar charts show one standard deviation above and below the unweighted average of all forces. Standard deviation summarises the difference between each individual value and the average and can be used to identify extreme or rare values.
Forces that are more than one standard deviation above or below the average are considered significantly different. These forces are outside the red dotted lines on our bar charts and we have highlighted them in either a dark blue (forces above average) or light blue (forces below average) colour. Typically, 32 percent of forces will be above or below these lines for any given measure.
Reporting on police workforce survey data
We survey the police workforce throughout England and Wales to understand their experiences at work. The survey is an opportunity for the whole workforce to share their views with us. It is a valuable source of information as it isn’t possible to speak to everyone in a force during our inspection.
However, the responses we receive come from a non-statistical, voluntary sample within the workforce. The number of responses also varies between forces. This means that the results may be not representative of the workforce population.
We treat the results with caution and don’t use them to assess police forces. Instead, we use the results to establish themes that should be explored further during our inspection fieldwork. The results can also be used to give more evidence and validate information from other sources.
Victim service assessment
We carry out a victim service assessment for all forces as part of our inspection programme.
We assess the service that a force provides to victims. This is from the point of reporting a crime and throughout an investigation.
We also evaluate how forces record crimes. We assess every force on its crime recording practices at least once every three years.
You can find details of the technical methodology for the victim service assessment on our website.
Stop and search audits
We carry out a stop and search audit for all forces as part of our inspection programme.
Our stop and search audits allow us to evaluate how well forces use their stop and search powers. We review how many stop and searches a force carried out under section 1 of the Police and Criminal Evidence Act 1984 or section 23 of the Misuse of Drugs Act 1971. We analyse:
- the rate of disproportionality in use of stop and search by ethnicity;
- the proportion of stop and searches that had reasonable grounds;
- the outcomes of the stop and searches that the force carried out; and
- find rates (the rates at which officers find what they are searching for in a stop and search encounter).