Crynodeb cyffredinol
Ein dyfarniadau
Yr oedd ein harolygiad yn asesu pa mor dda y mae Heddlu De Cymru mewn 10 o feysydd plismona. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig mewn 8 o’r 9 rhain fel a ganlyn:
Fe wnaethom hefyd edrych i weld pa mor effeithiol y mae’r gwasanaeth mae Heddlu De Cymru’n ei roi i ddioddefwyr troseddau. Nid ydym yn gwneud dyfarniad graddedig yn y maes hwn yn gyffredinol.
Yr ydym yn cyflwyno ein canfyddiadau manwl am yr hyn mae’r llu yn ei wneud yn dda a lle dylai’r llu wella yng ngweddill yr adroddiad hwn.
Newidiadau pwysig i PEEL
Yn 2014, fe wnaethom gyflwyno ein harolygiadau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu (PEEL), sy’n asesu perfformiad pob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, buom yn addasu ein hymagwedd yn gyson, ac eleni gwelwyd y newidiadau mwyaf arwyddocaol hyd yma.
Yr ydym yn symud at ymagwedd o asesu parhaus, wedi’i harwain gan wybodaeth, yn hytrach na’r arolygiadau PEEL blynyddol a ddefnyddiwyd gennym dros y blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, yr ydym wedi gwneud ein harolygiadau treigl o uniondeb data am droseddau yn rhan o’r asesiadau PEEL hyn. Bydd ein hasesiad PEEL o wasanaethau i ddioddefwyr nawr yn cynnwys elfen o uniondeb data am droseddau mewn o leiaf bob yn ail asesiad. Yr ydym hefyd wedi newid ein hymagwedd at ddyfarniadau graddedig. Bellach, yr ydym yn asesu lluoedd yn ôl nodweddion perfformiad da, a nodir yn Fframwaith Asesu PEEL 2021/22, ac yn cysylltu ein dyfarniadau yn gliriach ag achosion pryder a meysydd gwella. Yr ydym hefyd wedi ehangu ein system flaenorol o bedair haen o ddyfarniadau i bum haen. O’r herwydd, gallwn nodi yn fanylach lle rydym yn ystyried fod angen gwella ac amlygu yn fwy effeithiol y ffyrdd gorau o wneud pethau.
Fodd bynnag, mae’r newidiadau hyn yn golygu nad oes modd gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y graddau a ddyfarnwyd eleni â’r rhai o arolygiadau blaenorol PEEL. Nid yw gostyngiad mewn gradd, yn enwedig o dda i ddigonol, o angenrheidrwydd yn golygu y bu gostyngiad mewn perfformiad, oni fyddwn yn dweud hynny yn yr adroddiad.
Mae’n bwysig cydnabod bod lluoedd yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol i luoedd yn Lloegr. Er nad yw plismona a chyfiawnder wedi’u datganoli yng Nghymru, mae gwasanaethau hanfodol megis iechyd, llety, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Golyga hyn bod gweithgaredd plismona a chyfiawnder yng Nghymru yn digwydd mewn cyd-destun perfformiad a chyfreithiol unigryw. Yng Nghymru, gweithia sefydliadau datganoledig ac annatganoledig mewn partneriaeth er mwyn darparu y gwasanaeth gorau posib i bobl leol.
Golyga hyn bod lluoedd yng Nghymru weithiau yn gorfod cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol Seisnig a Chymreig.
Sylwadau Arolygydd EF
Yr wyf yn falch o berfformiad Heddlu De Cymru o ran cadw pobl yn ddiogel a lleihau troseddu, er bod angen iddynt wella mewn rhai meysydd er mwyn rhoi gwasanaeth sy’n gyson dda.
Y canfyddiadau hyn yn fy marn i yw’r rhai pwysicaf o’n hasesiadau o’r llu dros y flwyddyn a aeth heibio.
Mae angen i’r llu wella’r modd y mae’n cofnodi digwyddiadau o stopio a chwilio, a’i drefniadau craffu allanol
Mae perfformiad y llu o ran cofnodi seiliau rhesymol dros chwilio aelodau o’r cyhoedd wedi gostwng. Mae angen i hyn wella er mwyn dangos i’r cyhoedd fod ei ddefnydd o bwerau’r heddlu yn deg ac effeithiol. Yn ddiweddar, ffurfiodd Heddlu De Cymru baneli craffu allanol, ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd yn hyn o beth dros y misoedd nesaf.
Mae angen i Heddlu De Cymru wella’u hymagwedd at amddiffyn plant rhag y perygl o niwed a cham-fanteisio
Nid oes gan y llu eto y staff â’r sgiliau priodol wedi’u neilltuo i ddiogelu plant. Hefyd, mae angen i’r modd y mae’r llu yn asesu ac yn rheoli’r risg o niwed i blant y dywedir eu bod ar goll fod yn fwy effeithiol.
Mae’r llu yn blaenoriaethu atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatrys problemau
Mae’r llu yn buddsoddi mewn strwythur newydd o blismona cymdogaeth sydd yn rhoi blaenoriaeth i’r hyn sydd o bwys i bobl leol, ac yn ymateb i hynny. Mae timau plismona cymdogaeth yn gweithio’n dda gyda phartneriaid i ddatrys problemau a gwella ansawdd bywyd i gymunedau.
Mae’r llu yn cynnal y rhan fwyaf o ymchwiliadau ar ran dioddefwyr yn dda, gan ddarparu’r lefel briodol o gyngor a chefnogaeth, ond mae angen gwella’r ymateb i alwadau cychwynnol gan y cyhoedd
Mae ymchwiliadau yn effeithiol ac yn cael eu goruchwylio’n dda, ac y mae Heddlu De Cymru yn llwyddo i gyhuddo neu gyhoeddi gwysion i niferoedd cymharol uchel o’r rhai a amheuir o droseddu ar ran dioddefwyr. Mae’r rhan fwyaf o ddioddefwyr yn cael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf trwy gydol yr ymchwiliadau. Fodd bynnag, mae angen i’r llu wella ei ymateb i’r cyswllt cyntaf gan y cyhoedd. Rhaid hefyd parhau i wella’r amser mae’n ei gymryd iddynt ymateb i alwadau brys a rhai heb fod yn frys er mwyn gofalu bod y cyhoedd yn derbyn ateb prydlon i’w galwadau am wasanaeth.
Mae’r llu yn gweithio gyda phartneriaid i gyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth aildroseddu ac y mae’n cymryd camau effeithiol yn erbyn pobl sy’n cyflwyno risg i blant
Mae rheolwyr troseddwyr yn cyd-gysylltu eu gwaith gyda phartneriaid i annog pobl i ymwrthod â throseddu mwy difrifol neu aildroseddu. Mae staff penodedig yn gweithio gyda chamdrinwyr domestig. Mae’r llu yn arloesol yn y modd mae’n gweithredu i amddiffyn plant rhag pobl yr amheuir eu bod yn cyflawni troseddau’n ymwneud â delweddau anweddus.
Mae’r llu yn rhoi gwerth am arian i’r cyhoedd, yn rheoli’r galw yn dda ac yn meddu ar gynlluniau cyraeddadwy ar gyfer y dyfodol
Mae’r llu yn cynllunio’n systemaidd i reoli bygythiadau a risgiau i’w cymunedau, a sut y mae’n anelu at fodloni disgwyliadau’r cyhoedd. Mae amcanion gweithredol yn llywio cyllidebu soffistigedig. Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i wella eu gwasanaethau trwy weithio’n effeithiol gyda lluoedd eraill.
Wendy Williams
Arolygydd Heddlu EF
Asesiad lleihau troseddu
Rydym wedi nodi saith thema sy’n sail i allu llu i leihau troseddu’n effeithiol; gyda’i gilydd, mae’r rhain yn caniatáu i ni asesu i ba raddau y mae’r llu yn gwneud popeth yn ei allu i leihau troseddu. Asesiad naratif yw hwn, gan y gall y ffigyrau am droseddau a gofnodir gan yr heddlu ddod dan effaith amrywiadau a newidiadau mewn polisi ac ymarfer cofnodi, sy’n ei gwneud yn anodd cymharu dros amser.
Mae Heddlu De Cymru yn dadansoddi’r galwadau o ddydd i ddydd ar ei wasanaethau o’r pwynt lle derbynnir galwadau am wasanaeth, fel y gall ddefnyddio’i staff yn hyblyg i ymateb i droseddau ac ymchwilio iddynt. Mae’r llu yn gwella ei dealltwriaeth o ble mae angen iddi ganolbwyntio gwaith ei adnoddau plismona cymdogaeth. Mae hefyd yn mabwysiadu strwythur rheoli newydd i flaenoriaethu atal a rhwystro troseddu ac anhrefn.
Mae’r llu am gryfhau ei gallu i leihau troseddau trwy wneud yr isod:
- cyfrannu at waith amlasiantaethol i amddiffyn plant sydd mewn perygl o fod yn ddioddefwyr troseddau rhyw, esgeulustod a cham-drin, ac atal dioddefwyr cam-drin domestig rhag dioddef hynny eto;
- mabwysiadu dulliau i ddatrys problemau yn y tymor byr a’r tymor hir a, chydag asiantaethau sy’n bartneriaid, cynnig cefnogaeth gynnar i bobl fregus rhag iddynt ddod yn ddioddefwyr troseddau neu gyflawnwyr troseddau;
- rheoli’r risg mae troseddwyr cyson yn ei chyflwyno a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio i leihau aildroseddu;
- cynnal ymchwiliadau trylwyr ac effeithiol ar ran y cyhoedd a dangos ei ymrwymiad i ddioddefwyr. Mae trefniadau llywodraethu ar waith i wneud yn siŵr fod perfformiad da yn cael ei gynnal a bod safonau’n parhau i wella; a
- buddsoddi mewn dulliau newydd a mwy effeithiol o ymchwilio i drais a throseddau rhywiol difrifol, a gwneud yn siŵr y gall dioddefwyr gyrchu cyfiawnder yn gynt.
Rwy’n falch o ddweud fod y llu yn ymdrin â’r meysydd plismona cywir i leihau troseddu.
Ond gall y meysydd canlynol effeithio’n negyddol ar allu’r llu i wneud y canlynol:
- Nid yw’r llu eto yn nodi nac yn rheoli’n gyson y risg i blant yr adroddir amdanynt fel rhai ar goll, neu a allai fod mewn perygl o gamfanteisio neu gam-drin.
- Nid yw eto yn gyson yn ateb galwadau am wasanaeth yn ddigon buan, sy’n golygu na all rhai o ddioddefwyr troseddu elwa o bresenoldeb prydlon yr heddlu.
- Nid yw’r llu bob amser yn ymchwilio I nac yn asesu’r risg i’r cyhoedd a gyflwynir gan rai o’r troseddwyr â risg uchaf; rhaid gwneud hyn i leihau eu risg o droseddu.
Darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau
Asesiad o wasanaethau i ddioddefwyr
Mae’r adran hon yn disgrifio ein hasesiad o’r gwasanaeth mae dioddefwyr yn ei dderbyn gan Heddlu De Cymru, o’r pwynt o adrodd am drosedd drwodd at y canlyniad terfynol. Fel rhan o’r asesiad hwn, fe wnaethom adolygu 130 o ffeiliau achos yn ogystal ag 20 rhybudd, dulliau datrys cymunedol ac achosion lle adnabuwyd rhywun dan amheuaeth ond na chefnogodd y dioddefwr gamau gan yr heddlu, neu y tynnodd gefnogaeth yn ôl. Er nad oes gradd i’r asesiad hwn, y mae’n dylanwadu ar ddyfarniadau graddedig yn y meysydd eraill a arolygwyd gennym.
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys a rhai heb fod yn frys
Pan fydd dioddefwr yn cysylltu â’r heddlu, mae’n bwysig i’r alwad gael ei hateb yn gynnar a bod y wybodaeth iawn yn cael ei gofnodi’n gywir ar systemau’r heddlu. Dylai’r wybodaeth gael ei hasesu, gan gymryd i ystyriaeth fygythiad, risg a natur fregus. A dylai’r dioddefwr gael y cyngor diogelu priodol.
Nid yw’r llu ar hyn o bryd yn bodloni safonau cenedlaethol o ran ateb galwadau brys a rhai nad ydynt yn frys. Fodd bynnag, mae’n gwella ei berfformiad yn y maes hwn. Pan atebir galwadau, mae natur fregus y dioddefwr yn cael ei asesu gan ddefnyddio proses strwythuredig, a chaiff dioddefwyr ailadroddus eu hadnabod. Fel arfer, mae dioddefwyr yn cael cyngor am atal troseddu a sut i gadw tystiolaeth.
Mae’r llu yn ymateb yn brydlon i alwadau am wasanaeth yn y rhan fwyaf o achosion
Dylai llu anelu at ymateb i alwadau am wasanaeth o fewn yr amserlenni a gyhoeddir ganddynt, ar sail y flaenoriaeth a roddir i’r alwad. Dylai newid blaenoriaeth yr alwad dim ond os tybir bod y flaenoriaeth wreiddiol yn amhriodol, neu os bydd gwybodaeth bellach yn awgrymu bod angen newid. Dylai’r ymateb ystyried y risg a natur fregus y dioddefwr, gan gynnwys gwybodaeth a gafwyd wedi’r alwad.
Ar y rhan fwyaf o achlysuron, mae’r llu yn ymateb yn briodol i alwadau. Fodd bynnag, weithiau mae eu hymateb y tu allan i amserlenni cydnabyddedig y llu, sy’n golygu nad atebir disgwyliadau’r dioddefwr. Gall hyn beri i ddioddefwyr golli hyder a cholli cysylltiad. Mae’r llu yn defnyddio system o alw’n ôl yn effeithiol ar gyfer galwadau nad ydynt yn rai brys. Neilltuir staff priodol i ymateb i ddigwyddiadau.
Mae’r llu yn neilltuo troseddau i staff priodol, a hysbysir dioddefwyr yn brydlon os nad ymchwilir ymhellach i’r trosedd
Dylai heddluoedd fod â pholisi i sicrhau bod troseddau’n cael eu neilltuo i swyddogion neu staff a hyfforddwyd yn briodol er mwyn ymchwilio iddynt neu, os yw hyn yn briodol, nad ymchwilir iddynt ymhellach. Dylid cymhwyso’r polisi hwn yn gyson. Dylid hysbysu dioddefwr y drosedd am y dyraniad ac a ymchwilir ymhellach i’r drosedd.
Mae trefniadau’r llu ar gyfer neilltuo troseddau i ymchwilio iddynt yn unol â’u polisi, ac yn y rhan fwyaf o achosion, caiff y drosedd ei neilltuo i’r adran fwyaf priodol er mwyn ymchwilio ymhellach. Mae dioddefwyr fel arfer yn cael y wybodaeth ddiweddaraf mewn da bryd os nad ymchwilir ymhellach i’r drosedd y gwnaethant adrodd amdani. Mae hyn yn bwysig er mwyn rhoi’r lefel briodol o wasanaeth i ddioddefwyr, ac i reoli disgwyliadau.
Mae’r rhan fwyaf o ymchwiliadau yn effeithiol, a chaiff dioddefwyr y lefel o gyngor a chefnogaeth sy’n briodol i’r drosedd
Dylai heddluoedd ymchwilio i droseddau yr adroddir amdanynt yn gyflym, yn gymesur ac yn drwyadl. Dylid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr am yr ymchwiliad. Dylai fod gan y llu hefyd drefniadau llywodraethu effeithiol er mwyn sicrhau bod safonau ymchwilio yn uchel.
Mae ymchwiliadau yn cael eu cynnal yn brydlon a maent yn berthnasol, ac yn y rhan fwyaf o achosion, cwblheir llinellau ymchwilio cymesur. Mae goruchwyliaeth dda ar ymchwiliadau, a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i’r rhan fwyaf o ddioddefwyr. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol o fod â hyder yn ymchwiliad yr heddlu pan gânt wybodaeth yn rheolaidd. Mae ymchwiliad trylwyr yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff y troseddwyr eu hadnabod, ac y caiff y dioddefwr ganlyniad cadarnhaol.
Mae datganiadau personol dioddefwyr yn caniatáu i ddioddefwyr ddisgrifio’r effaith gafodd y drosedd ar eu bywydau. Mae’r rhain yn cael eu cymryd yn y rhan fwyaf o achosion. Pan yw dioddefwyr yn tynnu’n ôl eu cefnogaeth i ymchwiliad, mae’r llu yn ystyried parhau i fwrw ymlaen â’r achos. Mae hyn yn ddull pwysig o ddiogelu’r dioddefwr ac atal troseddau pellach rhag cael eu cyflawni. Fodd bynnag, nid yw’r llu bob amser yn ystyried defnyddio gorchmynion a fwriadwyd i amddiffyn dioddefwyr, megis hysbysiad amddiffyn rhag trais domestig (DVPN) neu orchymyn (DVPO).
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau (VCOP) yn mynnu bod asesiad o anghenion yn cael ei gynnal yn gynnar er mwyn penderfynu a oes ar ddioddefwyr angen am gefnogaeth.
Mae’r llu yn neilltuo’r math iawn o ganlyniad yn y rhan fwyaf o achlysuron, ond nid oes cofnod archwiliadwy o ddymuniadau dioddefwyr bob amser yn cael ei wneud. Dylai’r llu wneud yn siŵr eu bod yn dilyn canllawiau a rheolau cenedlaethol am benderfynu canlyniad pob adroddiad am drosedd. Dylai ystyried natur y drosedd, y troseddwr a’r dioddefwr. A dylai ddangos yr arweiniad a’r diwylliant angenrheidiol i sicrhau bod y defnydd o ganlyniadau’n briodol.
Mewn achosion priodol, gall y troseddwyr hynny a ddygir i gyfiawnder gael rhybudd neu gosb gymunedol. I’w gymhwyso a’i gofnodi yn gywir, rhaid iddo fod yn briodol i’r troseddwr, a rhaid ystyried barn y dioddefwr. Yn y rhan fwyaf o achosion a adolygwyd gennym, yr oedd y troseddwr yn bodloni’r meini prawf cenedlaethol am ddefnyddio’r canlyniadau hyn, ond nid oedd barn y dioddefwr bob amser yn cael ei geisio ac o’r herwydd ei ystyried.
Lle mae rhywun dan amheuaeth yn cael ei adnabod, ond nad yw’r dioddefwr yn cefnogi camau gan yr heddlu, neu’n tynnu’r gefnogaeth yn ôl, dylai’r llu fod â chofnod y gellir ei archwilio i gadarnhau penderfyniad y dioddefwr, fel y gall gau’r ymchwiliad. Nid oedd y dystiolaeth hon yn bresennol yn y rhan fwyaf o achosion a adolygwyd gennym. Golyga hyn efallai na fydd dymuniadau’r dioddefwr yn cael eu cynrychioli na’u hystyried yn llawn.
Ymgysylltu a thrin y cyhoedd yn deg a gyda pharch
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol am drin pobl yn deg a chyda pharch.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi’r prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â thrin pobl yn deg a chyda pharch.
Mae’r llu yn gwella’r modd y mae’n ymgysylltu â’i holl gymunedau amrywiol i ddeall ac ymateb i’r hyn sy’n bwysig iddynt
Mae’r llu yn gwybod fod llawer o’i ddata am boblogaeth yn seiliedig ar ganlyniadau cyfrifiad 2011 ac na chynhaliwyd archwiliadau gwahaniaethau hil yn Ne Cymru na Lloegr. Mae’r llu yn defnyddio meddalwedd i osod cymdogaethau mewn grwpiau o 140 aelwyd. Mae hyn yn ei helpu i ddeall cyfansoddiad ei gymunedau yn well a’r effaith y gall ei gweithgareddau plismona ei chael. Yng Nghaerdydd, mae’r llu yn defnyddio Ymgyrch Perception i gyfathrebu â chymunedau y mae troseddau cyllyll yn effeithio arnynt, a’r plismona cysylltiedig â hyn. Mae’r bwrdd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn cwrdd i ystyried pa mor unedig a hyderus mae cymunedau yn teimlo.
Mae cyfarfod cymuned a thensiynau yn trafod materion o ddiddordeb i’r gymuned, fel newidiadau yng nghymysgedd y boblogaeth, neu sut mae’r modd y bydd y llu yn ymateb i ddigwyddiadau o anhrefn cyhoeddus ar raddfa fawr yn effeithio ar hyder y cyhoedd. Mae pob uned reoli sylfaenol (BCU) yn defnyddio asesiadau effaith cymunedol i wneud yn siŵr fod y timau plismona cymdogaeth yn cyfathrebu â phobl leol, ac i gytuno ar ba weithgareddau plismona a phartneriaeth sydd eu hangen i reoli tensiynau.
Mae arolygydd penodedig a’r bartneriaeth diogelwch cymunedol yn rheoli grwpiau cydlynu cymunedol (GCC) dan gadeiryddiaeth annibynnol. Er enghraifft, yng Nghaerdydd mae’r GCC wedi gweithio a chyfathrebu gyda chymunedau ar ôl protestiadau a marwolaethau aelodau’r cyhoedd yn dilyn cyswllt â’r heddlu. Mae GCC yn helpu i esbonio i gymunedau sut y mae’r heddlu yn defnyddio pwerau stopio a chwilio. Mae gweithgareddau a drefnir, megis gemau pêl-droed a chriced, a ‘chystadlaethau pobi’, yn helpu i chwalu ymdeimlad o rwystrau rhwng y llu a’r cyhoedd.
Yn ddiweddar, cyflwynodd Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) ‘Sgwrs y Lleisiau Ifanc’. Mae’r fenter hon ar y cyd yn gwahodd pobl ifanc i siarad am yr hyn sy’n effeithio arnynt hwy, ac i roi sylwadau am yr hyn sy’n cael ei wneud. Mae ymwneud â phobl ifanc wedi newid y ffordd mae’r llu yn cyfleu ei neges am wrthwynebu troseddau cyllyll. Er enghraifft, arweiniodd adborth gan bobl ifanc y llu i ddefnyddio’i logos a’i gweithwyr yn llai amlwg o lawer ar gyfryngau gweledol.
Mae Heddlu De Cymru yn annog eu dinasyddion i ymwneud â phlismona, er y gallai hyrwyddo cyfleoedd i wneud hynny yn well
Mae grŵp cynghori annibynnol (GCA) sydd newydd ei ffurfio yn helpu’r llu i ddeall sut y mae ei waith yn effeithio ar gymunedau. Mae’r grŵp yn rhoi adborth i’r llu am agweddau ar ei waith (er enghraifft, ei strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar drais yn erbyn menywod a merched), gan ei annog i ystyried canfyddiadau’r cyhoedd a dioddefwyr.
Mae gan y llu 250 o wirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr o’r pedair prifysgol yn ardal y llu. Mae’r myfyrwyr yn helpu’r timau plismona cymdogaeth yng nghanol dinasoedd gyda bysus cymorth am alcohol. Mae’r rhain yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc feddw a all fod angen help a lle diogel.
Mae cwnstabliaid arbennig yn rhoi miloedd o oriau o’u gwirfodd bob blwyddyn, a maent yn aelodau o’r timau plismona lleol. Mae’r llu yn annog pobl ifanc i ddod yn rhan o blismona. Mae cynllun gwirfoddolwyr ifanc yr heddlu, mewn 14 canolfan leol, yn cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn arolygon cyhoeddus, helpu timau trwyddedu a chael profiad o blismona trwy gyswllt â gwahanol adrannau. Mae ceisiadau yn cael eu monitro er mwyn gwneud yn siŵr fod y llu yn annog ac yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a difreintiedig.
Mae llawer o fentrau cymunedol ar waith, megis Gwarchod Cymdogaeth, Gwylio Cyflymder a Phatrôl Pawennau, ond mae’n anodd dod o hyd iddynt ar y wefan. Gallai hyn rwystro darpar-wirfoddolwyr.
Mae Heddlu De Cymru wedi datblygu arferion da i’w helpu i ddeall sut y mae ei swyddogion yn defnyddio grym neu bwerau stopio a chwilio
Mae Heddlu De Cymru wedi creu dangosfwrdd data i fonitro stopio a chwilio a’r defnydd o rym. Mae’n dangos yn gynhwysfawr pa mor aml y mae’r swyddogion yn defnyddio’r pwerau hyn, y bobl y defnyddir hwy arnynt, a’r canlyniadau. Hyd yma, ni all ddadansoddi a chwiliwyd pobl oherwydd amheuaeth eu bod â chyffuriau yn eu meddiant at eu defnydd personol, neu o fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi i eraill. Ond mae’r llu yn gweithio tuag at gyrraedd y nod hwn. Yn y cyfamser, gall swyddogion chwilio am y wybodaeth hon eu hunain. Mae grŵp atebolrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu, sy’n goruchwylio pa mor deg ac effeithiol y mae’r heddlu yn defnyddio eu pwerau, yn defnyddio data’r dangosfwrdd i nodi mannau lle mae angen gwella.
Digonol
Atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Heddlu De Cymru yn dda am atal a rhwystro.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag atal a rhwystro.
Mae Heddlu De Cymru yn blaenoriaethu ac yn cyd-gysylltu’r modd y mae’n atal troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a bregusrwydd
Mae gan y llu strwythur llywodraethu clir. Gall arweinwyr weld pa mor dda y mae’n gweithio i atal, trin a rhwystro troseddu ac anhrefn a, lle bo angen, penderfynu sut i wella perfformiad. Mae’r bwrdd strategol plismona lleol yn defnyddio fframwaith perfformiad i ddeall sut mae amcanion ymgysylltu wedi ei dargedu â chymunedau, datrys problemau ac amlygrwydd staff yn cael eu bodloni. Mae hyn yn golygu y gall y llu farnu pa mor dda y mae ei gyswllt â’r cyhoedd yn gwella ansawdd bywyd pobl.
Mae’r llu wedi dadansoddi pa mor aml y bu angen i gwnstabliaid cymdogaeth yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (SCCH) ymateb i alwadau brys neu i staffio cylchoedd safleoedd troseddau, yn hytrach na gweithio yn eu sectorau eu hun. Dengys hyn fod gan dimau cymdogaeth lai o amser i weithio ar atal troseddau a datrys problemau yn eu hardal leol. Mae’r llu yn lansio strwythur plismona cymdogaeth newydd, gyda’i dîm arwain ei hun, er mwyn sicrhau y parheir i ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r gymuned.
Mae gan dimau plismona cymdogaeth ddealltwriaeth dda o’r hyn sydd o bwys i bobl leol
Mae’r llu yn cydnabod nad yw cyfarfodydd traddodiadol yr heddlu a chymunedau ynghyd (PACT) yn cael eu mynychu’n dda ac nad ydynt yn ffordd effeithiol o gyfathrebu â phobl sy’n tueddu i beidio â chefnogi cyfarfodydd ffurfiol. Mae timau plismona cymdogaeth yn defnyddio arolygon ar stepen y drws a, chyda chynghorwyr lleol, yn cynnal briffiadau stryd i drigolion. Mae hyn yn helpu’r llu i gysylltu â’r gymuned gyfan, gan gynnwys y sawl nad ydynt yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd timau cymdogaeth yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud a chyfleu’r hyn mae’r heddlu yn ei wneud am eu pryderon.
Mae PCSOs yn gwneud yn siŵr fod proffiliau ward yn cynnwys manylion unigolion a rhwydweithiau allweddol y gellir cysylltu â hwy pan fydd ar y llu angen help i esbonio eu gweithredoedd i gymunedau a chynnal eu hyder wedi digwyddiadau difrifol neu drawmatig. Mae proffiliau ward hefyd yn cynnwys manylion am droseddwyr peryglus neu bobl fregus na fyddai fel arfer yn ymgysylltu â’r llu.
Mae timau plismona cymdogaeth yn gweithio gyda chyd-gysylltwyr ardaloedd lleol y cyngor i gefnogi pobl fregus. Er enghraifft, dywedwyd wrthym am glwb cymdeithasol i drigolion byddar a nodwyd trwy’r gwaith hwn. Arweiniodd hyn at well ymwneud a’r heddlu, a PCSOs yn dysgu iaith arwyddion i’w helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol.
Mae’r gweithgarwch hwn yn helpu’r llu i ddeall yr hyn mae’n rhaid iddo ganolbwyntio arnynt i gwrdd ag anghenion pobl leol yn well.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnwys sefydliadau eraill wrth ddatrys problemau. Mae’r gwaith yn cael ei werthuso a rhennir enghreifftiau da
Canfuom fod ‘cynllun ar dudalen’ (POP) a chynlluniau amcan, sganio, dadansoddi, adolygu ac asesu (OSARA) ar gyfer problemau llai cymhleth yn gyffredinol wedi eu hystyried yn dda ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan arolygwyr. Mewn rhai achosion, nid oedd cymaint o ystyriaeth ynghylch a oedd achosion problemau wedi eu trin neu ond wedi’u symud i rywle arall. Mae ymgynghorwyr tactegol ym maes lleihau troseddau yn gwerthuso cynlluniau llwyddiannus ac yn eu storio ar fewnrwyd y llu fel enghreifftiau o arfer da. Mae hyn yn golygu y gellir eu defnyddio neu eu haddasu i ddatrys problemau tebyg. Mae cyfarfodydd yr unedau rheoli sylfaenol (BCU) yn trafod cynlluniau nad ydynt yn cyflawni canlyniadau llwyddiannus. Mae hyn yn caniatáu i’r llu drefnu bod adnoddau ychwanegol yr heddlu ar gael i helpu neu gydgysylltu gweithredoedd gydag awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a busnesau i ddatrys problemau troseddu ac anhrefn sydd wedi parhau’n hwy neu sy’n fwy cymhleth.
Rhoddwyd enghreifftiau i ni o dimau plismona cymdogaeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu pobl ddigartref oedd yn byw ar y stryd ddod o hyd i lety diogel, a’i gwneud yn llai tebygol y gallent droseddu neu fod yn agored i gam-fanteisio.
Mae’r llu yn gwella ei ddealltwriaeth o’r galwadau ar blismona cymdogaeth er y gallai wneud gwell defnydd o’i ddata ei hun a data partneriaid
Canfuom fod rhai o’r staff cymdogaeth, ond nid pob un, yn gwybod sut i ddefnyddio dulliau hunangymorth i gyrchu gwybodaeth o system gofnodi troseddau a digwyddiadau’r llu. Nid oes dadansoddwyr lleol i gynhyrchu gwybodaeth am fygythiadau a risgiau i dimau cymdogaeth. Nid oes dadansoddwyr penodedig chwaith i gefnogi gwaith y partneriaethau diogelwch cymunedol, felly dadansoddwyr y llu sy’n gwneud hyn. Mae angen i’r llu wneud yn siŵr fod ei staff yn gwybod sut i ddefnyddio dulliau hunangymorth a bod â digon o allu dadansoddi i helpu timau cymdogaeth i ddeall a gweithredu ar broblemau troseddu ac anhrefn lleol.
Mae porthol ymgysylltu newydd yn cofnodi pa mor aml y mae swyddogion a staff yn cwrdd â’r cyhoedd ac yn siarad â hwy, a’r camau a gymerir i ymateb i bryderon. Mae timau plismona cymdogaeth wedi defnyddio’r porthol i gofnodi manylion o fwy na 11,300 o ddigwyddiadau o ymgysylltiadau ag aelodau’r cyhoedd. Gall y staff ddefnyddio swyddogaeth map sy’n dangos y mannau lle mae aelodau’r cyhoedd wedi siarad â’r staff am broblemau, a lle mae cynlluniau POP neu OSARA eisoes ar waith. Fel hyn, mae’r llu yn gwella’r modd y mae’n cyfateb ei waith datrys problemau a phryderon pobl leol.
Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd lle nad oedd gan y staff gymaint o ddealltwriaeth o ddefnyddio’r porthol neu nad oeddent yn frwd amdano, yr oedd llai o dystiolaeth fod cynlluniau POP neu OSARA wedi eu creu. Mae hyn yn golygu nad yw’r porthol eto mor effeithiol ag y gallai fod.
Ni all system gofnodi troseddau a digwyddiadau’r llu eto ddangos yn awtomatig sut y mae tueddiadau troseddau casineb yn adlewyrchu haenau o hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth rhywedd. I wneud iawn am ddiffyg cefnogaeth dadansoddi, mae’r llu yn defnyddio dangosfwrdd data hunanwasanaeth i wneud yn siŵr fod staff plismona lleol yn ymwybodol o densiynau’n codi mewn cymunedau.
Mae’r llu yn gweithio gydag asiantaethau sy’n bartneriaid i gymryd camau cynnar i amddiffyn y cyhoedd rhag cyffuriau niweidiol
Mae’r llu yn gweithio gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, i ddilyn ymagwedd iechyd a gorfodaeth ar y cyd at y defnydd o gyffuriau. Mae’r llu yn cymryd rhan ym mheilot Prosiect ADDER, gyda’r nod o adnabod gwybodaeth yn gynnar, a’i rhannu, am gyffuriau niweidiol sy’n cylchredeg.
Yn un o ardaloedd y llu, mae proses ar waith i gynnal profion cyflym ar sylweddau am gyffuriau a gafwyd yn ystod achosion o wenwyno angheuol a heb fod yn angheuol. Rhennir y wybodaeth hon wedyn gyda Dyfodol, asiantaeth camddefnyddio sylweddau, i wneud yn siŵr y rhennir y wybodaeth gywir am gyffuriau niweidiol sy’n cylchredeg. Mae’n rhy gynnar i farnu pa mor llwyddiannus y bydd y fenter.
Da
Ymateb i’r cyhoedd
Mae Heddlu De Cymru yn dda am ymateb i’r cyhoedd.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, yr ydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymateb i’r cyhoedd.
Mae staff yr ystafell reoli yn gwirio am risgiau a bregusrwydd, ac yn eu hadnabod yn gywir, pan yw aelodau’r cyhoedd yn adrodd am droseddau a digwyddiadau
Canfu ein hasesiad o wasanaethau i ddioddefwyr fod safon trin galwadau yn uchel. Defnyddiwyd proses adnabod ac asesu risg THRIVE am y rhan fwyaf o ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt ac a adolygwyd gennym. Yr oedd trinwyr galwadau yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn cydymdeimlo â’r galwyr, gan roi cyngor am atal troseddau yn y rhan fwyaf o achosion. Canfuom fod gwiriadau yn cael eu cynnal am fregusrwydd, a lle bo hynny wedi ei nodi, ei fod wedi ei gofnodi ar bron bob achlysur a adolygwyd gennym. Am bob galwad a archwiliwyd gennym, cafodd digwyddiadau eu neilltuo i dîm priodol. Mae’r canlyniadau hyn yn gadarnhaol. Fodd bynnag, dylai’r llu barhau i ddatblygu ei brosesau er mwyn gofalu bod trinwyr galwadau yn adnabod ac yn cofnodi pob dioddefwr ailadrodd.
Mae’r llu yn dda am ofalu y gall y cyhoedd gysylltu â hwy mewn nifer o ffyrdd ac yn gwneud yn siŵr fod swyddogion yn ateb galwadau am wasanaeth pan fydd angen
Mae tîm datrys digwyddiadau y ganolfan gwasanaeth i’r cyhoedd (PSC) sy’n seiliedig ar waith desg yn brysbennu ac yn ymdrin â llawer o ddigwyddiadau nad ydynt yn argyfyngau ac y gellir ymchwilio iddynt heb fod angen i swyddog heddlu fynychu’n gorfforol. Golyga hyn y gall y llu flaenoriaethu ei adnoddau am alwadau risg-uchel.
Ymatebodd y llu i gynnydd yn nifer y bobl sy’n dewis cysylltu â hwy ar-lein trwy greu desg ddigidol. Mae’r ddesg hon yn delio ag ymholiadau trwy Single Online Home – llwyfan y mae gwasanaethau heddlu yn ei ddefnyddio i greu presenoldeb ar-lein sydd yn gyson yn genedlaethol ond wedi ei frandio’n lleol. Mae wedyn yn monitro ac yn ymateb i gyswllt trwy gyfryngau cymdeithasol. Fel hyn, mae’r llu yn ei gwneud yn haws i’r cyhoedd gysylltu yn y dull sydd orau ganddynt.
Mae Heddlu De Cymru yn mynychu digwyddiadau yn briodol ac yn brydlon
Yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, mynychodd swyddogion o fewn yr amseroedd a gyhoeddwyd gan y llu. Lle bu oedi, ymyrrodd goruchwylwyr yn y rhan fwyaf o achosion. Yn gyffredinol, roedd galwyr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw oedi cyn i rywun fynychu. Cawsom fod trinwyr galwadau yn ymchwilio ac yn cofnodi gwybodaeth berthnasol am bobl a llefydd oedd yn rhan o ddigwyddiadau. Y mae cyfarfodydd tasgio a rheoli dyddiol yn gwneud yn siŵr fod swyddogion yn cael eu neilltuo i ymdrin â digwyddiadau lle mae angen o hyd i gasglu tystiolaeth, ymweld â dioddefwyr a’u hamddiffyn, ac arestio’r sawl a amheuir o droseddu. Mae hyn yn golygu, yn gyffredinol, fod swyddogion yn cyrraedd yn gyflymach i helpu dioddefwyr a bod ganddynt ddigon o wybodaeth i ddarparu gwasanaeth da.
Canfu ein harolygiad fod y staff yn gadarnhaol am y gwasanaeth brysbennu iechyd meddwl a gyllidir gan y llu. Seilir hyn yn yr ystafell reoli. Mae gweithwyr brysbennu yn cyrchu cofnodion iechyd pobl y crybwyllir eu bod mewn gofid oherwydd eu cyflwr meddyliol, rhoi cyngor i swyddogion sy’n mynychu digwyddiadau ac, mewn sawl achos, atal arestio neu gadw yn ddiangen gan ddefnyddio pwerau dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Golyga hyn fod dod i gysylltiad â phobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl yn debygol o gael gwell canlyniadau.
Mae angen i’r llu wella pa mor dda y mae ei swyddogion yn casglu tystiolaeth pan ydynt yn mynychu troseddau
Dysgodd ein harolygiad am sawl enghraifft pan nad oedd swyddogion a ymatebodd i alwadau am wasanaeth wedi manteisio ar gyfleoedd cynnar i gasglu tystiolaeth. Er enghraifft, siarad â thystion, gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws neu gymryd meddiant o arddangosion. Mae hyn yn golygu y bydd y sawl a amheuir o droseddau yn aros yn hwy nag y dylent cyn cael eu cyfweld tra bod tystiolaeth yn cael ei chasglu. Mae hyn yn rhoi mwy o alw ar dimau ymchwilio. Mae’r llu wedi cynllunio hyfforddiant i oruchwylwyr timau ymateb i helpu i wella ansawdd ymchwiliadau cychwynnol, er na chychwynnodd hyn eto.
Mae Heddlu De Cymru yn cynllunio a rheoli eu hangen o ddydd i ddydd i ymateb i alwadau am wasanaeth yn dda, er bod angen iddynt wneud yn siŵr bod ganddynt ddigon o adnoddau i wneud hynny
Mae’r llu yn defnyddio gwybodaeth am alw i gynllunio i gael digon o swyddogion ymateb ar ddyletswydd bob dydd, ac am gyfnodau lle mae’r galw yn uchel, megis ar adeg gwyliau mawr blynyddol a digwyddiadau chwaraeon o bwys. Pan na fydd gan rai timau ymateb ddigon o swyddogion ar ddyletswydd, bydd cyfarfodydd rheoli dyddiol yn neilltuo swyddogion cymdogaeth neu dimau arbenigol i helpu i fynychu galwadau brys. Mae hyn yn golygu, er bod y cyhoedd yn gweld swyddog heddlu pan fo angen brys am hynny, nad yw blaenoriaethau eraill (megis plismona cymdogaeth) yn derbyn yr un gwasanaeth.
Dengys dadansoddiad gweithgarwch y llu am fis Hydref 2021 fod timau ymateb yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn ymdrin â digwyddiadau am dros 90 y cant o’u hamser. Mae’n cydnabod fod hyn yn rhy uchel. Mae llawer o dimau heb fod â digon o swyddogion neu yrwyr ymateb brys hyfforddedig ar ddyletswydd bob dydd. Nid oes chwaith ddigon o ymatebwyr cyntaf ar gyfer troseddau rhyw, sydd i fod i gasglu tystiolaeth fforensig gan ddioddefwyr a chyfrannu at erlyniadau llwyddiannus. Dywedodd y staff wrthym eu bod yn aml yn rhy brysur yn ymateb i alwadau brys i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yr ‘awr euraidd’ i gasglu tystiolaeth gan ddioddefwyr a lleoliadau troseddau.
Mae angen i’r llu wneud yn siŵr bod gan dimau ymateb ddigon o swyddogion wedi eu hyfforddi’n addas ar ddyletswydd.
Da
Ymchwilio i droseddau
Mae Heddlu De Cymru yn dda am ymchwilio i droseddau.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymchwilio i droseddau.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021, cafodd 7.6 y cant o droseddau rhywiol yn Ne Cymru ganlyniad o gyhuddo neu wysio. Er bod hyn yn is na’r cyfartaledd ar draws pob math o drosedd, dyma oedd y gyfradd uchaf o’r rhai a gyhuddwyd neu a wysiwyd am droseddau rhywiol ar draws holl heddluoedd Cymru a Lloegr.
Cyfran o droseddau rhywiol a gofnodwyd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021 gyda chanlyniad o ‘cyhuddo/gwysio’ (deilliant 1)
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021, cafodd 9.2 y cant o’r holl droseddau wedi’u seilio ar ddioddefwyr yn Ne Cymru ganlyniad o gyhuddo neu wysio. Mae hyn yn ystadegol yn arwyddocaol uwch na’r cyfartaledd ar draws pob llu, sef 6.4 y cant.
Cyfran yr holl droseddau wedi’u seilio ar ddioddefwyr a gofnodwyd yn y flwyddyn yn diweddu 30 Mehefin 2021 gyda chanlyniad o ‘gyhuddo/gwysio’ (deilliant 1)
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliadau trylwyr ac effeithiol ar ran y cyhoedd, ac yn dangos eu hymrwymiad i ddioddefwyr
Canfu ein hasesiad o wasanaethau i ddioddefwyr fod staff wedi cwblhau ymchwiliad effeithiol mewn 68 o’r 70 achos a archwiliwyd gennym. Daeth bron bob achos i ben ar ôl cymryd pob cyfle rhesymol i gasglu tystiolaeth. Ni chafodd dim un ymchwiliad, bron, ei oedi, a chafodd bron i bob un ei neilltuo i ymchwilwyr gyda’r sgiliau priodol.
Mewn 63 o 64 achos, canfuom fod y dioddefwr wedi derbyn lefel briodol o wasanaeth. Yr oedd ymchwilwyr yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddu (VCOP), wedi cysylltu â dioddefwyr fel yr oeddent wedi addo ei wneud ym mhob achos a chofnodwyd hyn yn briodol. Er bod ein canfyddiadau yn gyffredinol yn gadarnhaol, cymerwyd datganiadau personol dioddefwr mewn pedwar o bob pum achos yn unig. Mae hyn yn golygu y cafodd y rhan fwyaf o ddioddefwyr, ond nid pob un, gyfle i ddisgrifio’r effaith gafodd y drosedd ar eu bywydau.
Canfu ein harolygiad fod ymchwilwyr a goruchwylwyr yn dibynnu ar dempledi wrth adolygu ymchwiliadau. Er y gall templedi roi cysondeb a strwythur, gall gorddibyniaeth arnynt arwain at adolygiadau generig o ymchwiliadau, gan godi’r posibilrwydd o golli llinellau ymchwilio penodol. Mae angen i’r llu ofalu fod yr holl adolygiadau wedi eu teilwra i ymchwiliadau penodol.
Mae Heddlu De Cymru yn sicrhau yr ymchwilir i droseddau difrifol gan staff â’r sgiliau penodol, er bod baich gwaith rhai timau yn drwm
Ail-drefnodd y llu ei dimau ymchwilio, gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol i ddeall faint o staff sydd angen eu hyfforddi i ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth.
Mae Heddlu De Cymru yn llu peilota i Ymgyrch Soteria. Ffordd newydd yw hon o ymchwilio i drais rhywiol, gyda’r nod o wneud ymchwiliadau i drais a throseddau rhywiol difrifol yn fwy trylwyr ac effeithiol, a lleihau’r tebygolrwydd o aildroseddu. Creodd y llu dimau arbenigol i ymchwilio i drais ac y mae’n gweithio gyda phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol i ehangu galluedd llysoedd a chaniatáu i ddioddefwyr gael cyfiawnder yn gynt.
Mae gan adrannau troseddau mawr, trais, troseddau rhywiol difrifol, cam-drin plant ac adrannau ymchwilio i droseddwyr (CID) bolisïau dyrannu er mwyn gwneud yn siŵr bod eu beichiau gwaith yn briodol i’w hyfforddiant a’u sgiliau. Er y dylai canolfannau ymchwilio edrych i mewn yn bennaf i droseddau niferus, llai difrifol, mae goruchwylwyr y CID a’r canolfannau yn gytûn ar ba adran ddylai ddelio ag achosion ymylol a all fod yn fwy cymhleth. Fel hyn, mae’r llu yn gwneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd y safonau gorau o ymchwilio i ddioddefwyr.
Fodd bynnag, adroddodd y canolfannau, timau ymchwilio eraill a goruchwylwyr fod ganddynt llwythi achosion trwm a lefelau uchel o absenoldeb salwch, a oedd yn ei dro yn rhoi mwy o bwysau ar y staff. Yr oedd rhai aelodau staff y buom yn siarad â hwy yn mynegi diffyg hyder ym mha mor dda y mae’r llu yn deall y galwadau sydd ar y sawl sy’n ymchwilio.
Mae angen i’r llu wneud yn siŵr ei fod yn cyflawni ei gynlluniau i hyfforddi, datblygu a chadw staff sy’n ymchwilio i droseddau
Mae gan Heddlu De Cymru gynllun gwytnwch ditectifs a llwybr cyflym i symud o fod yn gwnstabl heddlu i dditectif gwnstabl. O 31 Mawrth 2021 ymlaen, yr oedd 90 y cant o dditectifs naill ai wedi cymhwyso neu’n gweithio tuag at gymhwyster PIP lefel 2. Dyma isafswm lefel y cymhwysedd i ymchwilwyr i droseddau difrifol a chymhleth a argymhellir gan y Coleg Plismona. Mae’r llu hefyd yn cyhoeddi pecyn cymorth fel llawlyfr cyfarwyddo i staff sy’n ymchwilio i droseddau. Fodd bynnag, mae’n cael trafferth annog ditectifs i aros mewn rolau anarbenigol yn y CID nac i ddenu swyddogion i weithio yn y canolfannau ymchwilio.
Mae’r hybiau yn ymchwilio i’r rhan fwyaf o achosion o droseddau cysylltiedig â cham-drin domestig, ac mewn rhai achosion, ymosodiadau difrifol. Maent yn cyrraedd safonau da o ymchwilio ar ran dioddefwyr.
Mae’r llu yn cydnabod fod nifer yr ymchwiliadau gan yr hybiau’n uchel. Mae goruchwylwyr hybiau wedi eu hyfforddi i PIP lefel 2. Bu’r llu yn gweithio i hyfforddi ac achredu ymchwilwyr a swyddogion ymateb i PIP lefel 1, sef isafswm lefel y cymhwysedd i’r sawl sy’n ymchwilio i nifer uchel o droseddau a rhai â blaenoriaeth a argymhellir gan y Coleg Plismona. Fodd bynnag, mae sawl achos yn ddifrifol a chymhleth eu natur. Dywedodd swyddogion ymchwilio a swyddogion ymateb y buom yn siarad â hwy nad oeddent wedi eu hyfforddi i safon PIP 1, neu eu bod wedi derbyn hyfforddiant dim ond pan oeddent yn swyddogion a oedd yn fyfyrwyr.
Bwriada’r llu hyfforddi goruchwylwyr ymateb i PIP lefel 1 a gwella safon yr hyfforddiant i diwtoriaid. Fodd bynnag, ar adeg yr arolygiad, yr oedd y cynlluniau hyn wedi eu gohirio tan o leiaf Ebrill 2022.
Hyd nes y bydd swyddogion ymchwilio a goruchwylwyr wedi eu hyfforddi a’u datblygu yn briodol, mae’n debyg y bydd angen iddynt weithio’n galetach na’u cydweithwyr a hyfforddwyd yn llawn i gael yr un canlyniadau da i ddioddefwyr. Bydd angen iddynt hefyd ddibynnu’n drymach ar gefnogaeth goruchwylwyr a byddant yn llai tebygol o aros yn eu rolau.
Da
Amddiffyn pobl fregus
Mae angen i Heddlu De Cymru wella o ran amddiffyn pobl fregus.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn amddiffyn pobl fregus.
Mae gan y llu strategaeth, modd llywodraethu a threfniadau clir gyda phartneriaid i amddiffyn oedolion a phlant bregus
Mae gwaith y llu i wella’r modd y mae’n amddiffyn pobl fregus yn gysylltiedig â’r Cynllun Gweithredu Bregusrwydd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y gellir barnu problemau yn ôl blaenoriaethau y cytunir yn genedlaethol arnynt. Mae strategaethau a pholisïau i fynd i’r afael â cham-drin domestig, troseddu rhywiol difrifol, cam-fanteisio ar blant, a thrais yn erbyn menywod a merched yn nodi sut y mae disgwyl i’r llu a phartneriaid amddiffyn dioddefwyr a’r rhai a allai fod yn ddioddefwyr.
Mae’r llu wedi datblygu ei strategaeth trais yn erbyn menywod a merched 2021-2024 gyda sefydliadau sy’n bartneriaid. Mae hyn yn gwneud yn siŵr fod gan y llu a phartneriaid ymagwedd a rennir am fynd i’r afael â thrais a cham-drin.
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd ymagwedd arloesol at atal niwed trwy gynnig cefnogaeth gynnar i bobl fregus
Roedd yn galondid i ni ddysgu bod y llu wedi creu cynllun peilot ar gyfer y broses atgyfeirio cymorth cynnar, mewn partneriaeth a gofal cymdeithasol plant. Nod y peilot yw cynnig cefnogaeth i blant a theuluoedd na fyddai fel arfer yn ateb trothwy ffurfiol y gwasanaethau cymdeithasol am help. Mae hyn hefyd yn lleihau’r cymhlethdod diangen o hysbysiadau gwarchod y cyhoedd (PPN) yn bennaf at ddibenion gwybodaeth yn hytrach nag adnabod risg wirioneddol.
Gallai’r llu fod yn fwy effeithiol o ran deall eu data eu hunain a data partneriaid i reoli risg a galw yn well
Mae’r llu yn gweithio i ddeall y cynnydd yn nifer y cynadleddau amddiffyn plant ac adroddiadau am gamfanteisio ar blant a’u cam-drin, ac a oedd gan sefydliadau sy’n bartneriaid wahanol ganfyddiadau o risg. Bydd hyn yn helpu’r llu i farnu faint o staff fydd arnynt eu hangen i amddiffyn plant yn effeithiol. Er enghraifft, mae staff penodedig o adran gwarchod y cyhoedd yn mynychu bron bob cynhadledd gychwynnol amlasiantaethol amddiffyn plant. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch a oes angen cynllun amddiffyn i blant dan drafodaeth. Fodd bynnag, er bod adroddiadau’r heddlu yn cael eu rhannu o hyd gydag asiantaethau eraill, does dim digon o staff i fynd i gyfarfodydd adolygu cynlluniau amddiffyn plant. Mae hyn yn golygu nad yw’r llu bob tro yn chwarae rhan weithredol mewn penderfyniadau am risgiau i blant.
Canfu ein harolygiad, pan fydd staff yn gosod marciau rhybudd am ‘linellau cyffuriau’ a chamfanteisio ar blant yn droseddol ar system gofnodi troseddau a digwyddiadau’r llu a Chyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC), nad ydynt yn gyson wrth esbonio natur y risgiau i blant. Mae hyn yn golygu na fydd gan swyddogion ddigon o wybodaeth am blant sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio, nac am y cyflawnwyr yr amheuir eu bod yn camfanteisio, i gymryd y camau priodol. Mae angen i’r llu sicrhau bod eu staff yn dilyn eu canllawiau ar greu ac esbonio marcwyr.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio’n dda gydag asiantaethau sy’n bartneriaid i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig, er bod niferoedd yr achosion risg-uchel yn rhy uchel
Canfuom, ar y cyfan, fod swyddogion heddlu oedd yn cadeirio cynadleddau asesu risg amlasiantaethol (MARAC) yn wybodus am y modd mae’r heddlu ac asiantaethau sy’n bartneriaid yn amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig. Yr oeddent yn adnabod risgiau yn dda ac yn cytuno ar gynlluniau diogelwch gyda’r partneriaid hyn. Dywedodd y partneriaid wrthym fod timau gwarchod y cyhoedd a phlismona lleol yn rhannu gwybodaeth am bobl fregus yn dda, ac yn eu gwahodd i ddigwyddiadau hyfforddi.
Cynrychiolir y llu hefyd ar y grŵp llywio MARAC. Mae hyn yn gwneud yn siŵr fod gweithdrefnau a threfniadau rhannu gwybodaeth yn cael eu dilyn yn gyson a bod cyllid ar gael i’r gwasanaeth ymgynghorydd trais domestig annibynnol (IDVA) i barhau i gefnogi dioddefwyr.
Mae pobl a atgyfeiriwyd dro ar ôl tro at MARAC yn cael eu fflagio ar systemau’r llu, fel bod staff sy’n mynychu digwyddiadau yn gwybod am unrhyw hanes o gam-drin domestig risg-uchel. Cynhelir trafodaethau cynllunio diogelwch dyddiol gydag asiantaethau sy’n bartneriaid am ddigwyddiadau o gam-drin domestig risg-uchel yr adroddir amdanynt dros nos. Mae’r rhain yn gwneud yn siŵr fod dioddefwyr yn cael eu gwarchod yn ddi-oed, yn hytrach nag aros am achosion i gael eu trafod yn y MARAC nesaf, a allai gael ei gynnal wythnos neu fwy yn ddiweddarach. Bwriedir i drafodaethau dyddiol hefyd gadw niferoedd achosion MARAC i rai y mae modd eu rheoli, fel bod penderfyniadau gwell o ran cynllunio diogelwch yn cael eu gwneud i ddioddefwyr a’u plant.
Fodd bynnag, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021, cadeiriodd Heddlu De Cymru 4,404 MARAC. Mae hyn yn cyfateb i 82 am bob 10,000 o fenywod yn ardal y llu, sef yn fras, ddwywaith y gyfradd a argymhellir gan SafeLives o 40 achos am bob 10,000 o fenywod. Mewn un ardal, ymatebodd y llu i’r cynnydd yn y galw trwy roi’r gorau i’r arfer o drafod yn ddyddiol a chynyddu amlder cyfarfodydd MARAC. Mae angen i’r llu ddeall pam bod cymaint o ddioddefwyr risg-uchel fel y gall naill ai gymryd camau i atal y risg rhag gwaethygu neu neilltuo adnoddau I ddiwallu’r galw.
Angen gwella
Rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol am reoli troseddwyr a’r sawl dan amheuaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, yr ydym yn gosod allan ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth.
Sefydlodd Heddlu De Cymru brosesau i flaenoriaethu arestio y sawl a amheuir o droseddau
Mae cynrychiolwyr o bob adran sy’n ymwneud â phlismona gweithredol o ddydd i ddydd yn bresennol mewn cyfarfodydd rheoli lleol dyddiol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn adolygu ac yn blaenoriaethu arestio’r sawl a amheuir o droseddu a gwneud yn siŵr fod swyddogion yn cael eu neilltuo i wneud hynny. Dywedodd y staff y buom ni’n siarad â hwy eu bod yn gwybod pa droseddwyr dan amheuaeth oedd angen eu harestio bob tro yr oeddent hwy ar ddyletswydd.
Mae gan Heddlu De Cymru brosesau clir i wneud yn siŵr fod y ffordd y mae’n rheoli’r sawl a amheuir trwy ddefnyddio mechnïaeth, rhyddhau dan ymchwiliad ac ymbresenoli gwirfoddol yn briodol ac yn bosib ei reoli
Gallai holl staff y ddalfa a’r swyddogion ymchwilio y buom ni’n siarad â hwy esbonio polisïau a gweithdrefnau’r llu i sicrhau y gwneir defnydd priodol o fechnïaeth a rhyddhau dan ymchwiliad (RUI). Pan oedd angen, mae arolygwyr o adran y ddalfa yn awdurdodi rhyddhau’r sawl a amheuir ar fechnïaeth neu RUI. Maent hefyd yn helpu i gynnal safonau trwy adolygu ansawdd penderfyniadau eu cydweithwyr. Golyga hyn fod y goruchwylwyr mwyaf gwybodus yn penderfynu sut i reoli’r tebygolrwydd y bydd y sawl a amheuir yn aildroseddu ac yn cyflwyno risg i ddioddefwyr pan ydynt yn gadael gorsaf yr heddlu.
Mae’r llu wedi creu ap i hysbysu Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fod rhywun a amheuir ar fechniaeth neu RUI. Mae hyn yn caniatau i CPS gymryd terfynau amser mechnïaeth i ystyriaeth wrth roi cyngor neu ofyn am gael mwy o dystiolaeth fel y gall wneud penderfyniad ynghylch cyhuddo. Yr oedd pob swyddog ymchwilio y buom ni’n siarad â hwy yn gwybod sut i ddefnyddio hyn.
Fodd bynnag, mae angen i’r llu leihau a chadw i lawr nifer yr achosion o bobl a amheuir sydd RUI, neu sydd wedi dod o’u gwirfodd i orsaf heddlu i’w cyfweld, ac sy’n aros yn agored am gyfnodau maith. Yn ôl dadansoddiad y llu ei hun, ar 1 Tachwedd 2021 yr oedd 1,039 o bobl dan amheuaeth a fu RUI am fwy na 180 diwrnod. Mae hyn yn uwch nag yn Awst 2020, pan amcangyfrifodd y llu fod 834 o bobl dan amheuaeth wedi bod RUI am fwy na 180 diwrnod. Archwiliodd y llu ddetholiad ar hap o 1,561 o gofnodion mynychu gwirfoddol agored ar ei system cofnodi troseddau a digwyddiadau a chael bod 60 o 100 yn dal i gael eu dangos fel ymchwiliadau byw. Os bydd ymchwiliadau yn cymryd mwy o amser na’r hyn sy’n angenrheidiol i’w datrys, nid yw dioddefwyr troseddau yn derbyn y gwasanaeth prydlon a haeddant.
Mae’r llu yn gwella’r ffordd y mae’n defnyddio dewisiadau cyfiawnder troseddol i gyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth aildroseddu
Mae modd defnyddio rhybuddion amodol a chosbau cymunedol, lle maent yn briodol, fel dewis arall yn hytrach nag anfon troseddwyr i’r llys. Yn ddiweddar, mae’r llu wedi hyfforddi eu staff am hyn ac wedi gwella’r modd y mae’n defnyddio’r system o gofnodi troseddau a digwyddiadau. Golyga hyn y gall wneud defnydd mwy effeithiol o fesurau i atal pobl rhag troseddu yn y dyfodol, megis ymyriadau ymwybyddiaeth o alcohol, cyffuriau a ddioddefwr, a chyrsiau addysg am gamblo.
Mae’r llu yn cymryd camau effeithiol yn erbyn pobl sy’n cyflwyno risg i blant
Mae tîm archwiliadau ar-lein yr heddlu (POLIT) yn ymgynghori â’r gwasanaethau cymdeithasol cyn cymryd camau yn erbyn pobl yr amheuir eu bod yn cyflawni troseddau sy’n cynnwys delweddau anweddus. Mae hyn yn galluogi agwedd ar y cyd i ddiogelu unrhyw blant a allai fod mewn perygl o niwed.
Mae swyddogion cudd-wybodaeth yn dadansoddi ac yn brysbennu pob achos a atgyfeirir at POLIT, gan flaenoriaethu camau gorfodi, megis gwarantau chwilio. Fodd bynnag, fe welsom fod 70 i 80 achos yn aros i’w gweithredu. Er nad oedd yr un o’r rhain â’r risg uchaf, oherwydd bod y rhain wedi eu blaenoriaethu, mae’r achosion sydd wedi cronni yn dal i beri pryder. Mae’r llu am ehangu’r tîm POLIT fel bod camau’n cael eu cymryd ar unwaith yn erbyn pobl sy’n cyflwyno risg i blant.
Mae timau cymdogaeth yn gwybod am y troseddwyr peryglus yn eu hardal, ond mae angen i’r llu wella’r modd y mae’n cofnodi achosion o dorri gofynion cofrestru troseddwyr rhyw
Mae timau MOSOVO yn briffio adrannau eraill am droseddwyr sy’n cyflwyno risg uwch. Fodd bynnag, nid yw rheolwyr troseddwyr yn gyson wrth gofnodi torri gofynion cofrestru troseddwyr rhyw cofrestredig ar system gofnodi troseddau a digwyddiadau’r llu. Golyga hyn nad oes gan bob tîm cymdogaethau diogelach wybodaeth gyfoes am droseddwyr a allai fod yn beryglus yn eu hardal leol.
Mae’r llu yn gweithio’n dda gyda sefydliadau sy’n bartneriaid i reoli’r troseddwyr hynny sy’n debygol o aildroseddu ac y mae wedi creu rhai mentrau sy’n dangos addewid
Mae Heddlu De Cymru yn defnyddio’r fersiwn gyfredol o’r strategaeth genedlaethol integredig ar gyfer rheoli troseddwyr (IOM). Mae dethol a rheoli ymgeiswyr am IOM sydd fwyaf tebygol o elwa o gefnogaeth yn cael ei wneud gydag asiantaethau sy’n bartneriaid, megis y gwasanaeth prawf. Gwelsom fod gan staff IOM y gallu i weithio gyda’r holl droseddwyr maent yn eu rheoli i leihau’r risg o aildroseddu. Mae’r llu yn defnyddio Gwaith dadansoddi i olrhain yr effaith ar gyfraddau aildroseddu fel y gall farnu a yw rheolaeth IOM yn helpu i leihau troseddu.
Yn ddiweddar, creodd y llu reolwyr troseddau cam-drin ddomestig (DAOM), sy’n rhan o IOM. Nod DAOM yw adnabod camdrinwyr a allai gael eu hatgyfeirio at raglenni fel DRIVE a Clear, ac a allai felly gael eu hatgyfeirio i ffwrdd oddi wrth droseddu amlach neu fwy difrifol yn erbyn dioddefwyr. Maent yn defnyddio’r matrics diweddar, amlder, difrifoldeb a cham-drin domestig (RFG+) i nodi pa droseddwyr i gynnig hyn iddynt, ar sail y risg bosib maent yn debygol o’i chynnig. Fe welsom gyfleoedd i DAOM weithio’n agosach gyda staff adran gwarchod y cyhoedd sydd yn cefnogi dioddefwyr cam-drin-domestig. Byddai hyn yn cynnig cyd-gysylltu cefnogaeth yn well fyth.
Er bod hyn yn addawol, mae’r fenter yn ei chyfnod cynnar ac y mae’n rhy gynnar i farnu ei heffaith ar aildroseddu.
Digonol
Amharu ar droseddau difrifol a threfnedig
Yr ydym bellach yn arolygu troseddau cyfundrefnol difrifol (SOC) ar sail ranbarthol, yn hytrach nag arolygu pob llu yn unigol yn y maes hwn. Mae hyn er mwyn i ni allu bod yn fwy effeithiol ac effeithlon yn y modd yr arolygwn yr holl system SOC, fel sy’n cael ei nodi yn strategaeth SOC Llywodraeth EM.
Mae pob llu yn mynd i’r afael â SOC trwy weithio gydag unedau troseddau cyfundrefnol rhanbarthol (ROCU). Mae’r unedau hyn yn arwain yr ymateb rhanbarthol i SOC trwy roi mynediad at adnoddau ac asedau arbenigol i darfu ar y grwpiau troseddu cyfundrefnol (OCG) sydd yn debygol o beri’r niwed mwyaf.
Trwy ein harolygiadau newydd, byddwn yn ceisio deall pa mor dda y mae lluoedd a ROCUs yn gweithio mewn partneriaeth. O ganlyniad, yr ydym nawr yn arolygu ROCUs a’u lluoedd gyda’i gilydd ac yn adrodd am berfformiad rhanbarthol. Mae lluoedd a ROCUs bellach yn cael eu graddio ac adroddir amdanynt mewn adroddiadau SOC rhanbarthol.
Ni chwblhawyd ein harchwiliad SOC o Heddlu De Cymru eto. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda’n canfyddiadau (gan gynnwys gradd y llu) a dolen i’r adroddiad rhanbarthol unwaith i’r arolygiad gael ei gwblhau.
Adeiladu, cefnogi ac amddiffyn y gweithlu
Mae Heddlu De Cymru yn ddigonol am adeiladu a datblygu ei weithlu.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn adeiladu ac yn datblygu ei weithlu.
Mae Heddlu De Cymru yn hyrwyddo diwylliant moesegol, gydag arweiniad clir sy’n cefnogi gwelliant trwy ddysgu
Dywedodd staff yn holl ardaloedd y llu fod y prif gwnstabl a’r uwch-arweinwyr yn dangos arweiniad clir ar faterion moesegol. Fodd bynnag, canfuom nad oedd rhai aelodau staff yn ymwybodol o waith y pwyllgor moeseg. Felly, dylai’r llu sicrhau eu bod yn hyrwyddo hyn yn well.
Mae Heddlu De Cymru yn annog ei staff i fyfyrio ar eu harfer a’u perfformiad, i wella’r modd y maent yn gweithio. Trwy weithdai Ymgyrch Ninian, mae pennaeth yr adran safonau proffesiynol yn gweithio gyda goruchwylwyr i annog yr ymagwedd hon. Cynhyrchodd y llu becyn cymorth cyfarwyddyd i hyrwyddo dealltwriaeth o arfer myfyriol. Gwelsom sawl enghraifft wedi’u dogfennu o’r modd y cymhwyswyd arfer myfyriol fel y gall y staff adolygu, dysgu a gwella o ganlyniad i ddigwyddiadau y deliwyd â hwy.
Dywedodd staff wrthym y byddent yn teimlo’n hyderus ac yn debygol o gael cefnogaeth petai angen iddynt herio neu adrodd am ymddygiad amhroffesiynol.
Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad cynhwysol a chefnogol
Mabwysiadodd y llu y Fframwaith Safon Cydraddoldeb Cenedlaethol i lywio pa mor dda y mae’n gwella cydraddoldeb triniaeth a chyfle, amrywiaeth a chynhwysiant i’w holl staff. Mae’r bwrdd rhaglen cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), dan gadeiryddiaeth y dirprwy brif gwnstabl, yn goruchwylio gwaith i wella pa mor gynrychioliadol y mae’r gweithlu o’r cymunedau mae’n wasanaethu, a pha mor dda y mae’r staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Mae perthynas waith gadarnhaol a chryf rhwng y prif gwnstabl a Chymdeithas yr Heddlu Du. Arweiniodd hyn at sesiynau ‘Gadewch i Ni Siarad am Hil’, sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo trafodaethau agored am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Cymerodd dros 4,000 aelod o staff ran yn y sesiynau, a hwyluswyd gan sawl elusen sydd wedi ymrwymo i ddileu anghydraddoldeb hil. Anfonodd y llu arolygon allan i’r gweithlu cyn ac ar ôl y sesiynau. Yr oedd y rhain yn mesur sut farn sydd ar y staff ar weithgareddau i annog grwpiau a dangynrychiolir i ymuno â’r llu a symud i fyny’r rhengoedd, a themâu ehangach am hil a chydraddoldeb.
Mae rhaglen Atlas a gychwynnwyd yn ddiweddar yn rhoi i swyddogion heddlu a staff o gefndiroedd du ac ethnig lleiafrifol fynediad at rwydweithio a mentora. Dywedodd y staff wrthym fod eu cynnwys yn Atlas wedi cyfrannu at eu cred fod Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr diogel a chefnogol i’w holl weithwyr.
Mae’r llu yn deall lles ei weithlu ac y mae’n gweithio i wella’r modd y mae’n cefnogi hyn, er bod lefelau salwch yn rhy uchel
Mae strategaeth lles y llu yn esbonio sut y bwriada wella ei amgylchedd gwaith a sgiliau arwain, ac i helpu’r staff i gadw’n iach yn y gwaith neu ddychwelyd o salwch. Yr oedd y staff yn gyffredinol yn wybodus ac yn gadarnhaol am y gefnogaeth lles a gynigir gan y llu, a sut i’w chyrchu.
Mae’r llu wedi cyflwyno Gofal yn Gyntaf, gwasanaeth ar-lein i helpu swyddogion a staff i ymdopi â straen, gorbryder ac iselder. Mae hyn yn ategu gwaith eu cwnselwyr mewnol. Dywedodd y staff wrthym, yn gyffredinol, fod modd cael cwnsela yn brydlon unwaith iddynt gael eu hatgyfeirio, gydag oedi ambell waith. Siaradodd y swyddogion yn gadarnhaol am y cynllun cefnogi saith-pwynt mae’r llu yn ei ddefnyddio yn dilyn ymosodiadau ar staff. Yr oeddent hefyd yn gwerthfawrogi’r cyswllt dilynol gan uwch-reolwyr.
Mae’r llu’n gwybod, er gwaethaf eu mentrau lles, fod eu cyfraddau salwch cyffredinol yn rhy uchel ac yn cynyddu. Mae salwch meddwl wedi cyrraedd lefelau sy’n peri pryder arbennig. Mae lefelau salwch ar eu huchaf lle mae’r galw drymaf, er enghraifft, canolfannau ymchwilio. Hefyd, mae’r llu yn cael anhawster denu staff i lenwi swyddi gwag. Mae’n dadansoddi gwybodaeth am salwch er mwyn deall faint, pa mor aml ac am ba hyd y mae gweithwyr yn sâl.
Cysylltir prosesau arfarnu’r llu â datblygu ac achredu, ac y mae’r gweithlu yn ymddiried ynddynt
Yn ein hadroddiad yn 2018/2019, fe wnaethom ddweud bod angen i’r llu sicrhau bod systemau, prosesau a chanllawiau effeithiol ar waith i reoli perfformiad unigolion mewn modd y mae’r gweithlu yn rhoi gwerth arnynt.
‘Perform’ yw’r enw ar system arfarnu’r llu, ac y mae eu data hwy yn awgrymu bod cyfradd gwblhau uchel iawn i’r adolygiadau diwedd-blwyddyn. Fodd bynnag, mae angen i gyfradd gwblhau adolygiadau interim gan oruchwylwyr trwy gydol y flwyddyn wella. Mae arfarniadau Perform yn cyfrannu hyd at 25 y cant o gredyd i swyddogion sy’n perfformio’n dda tuag at ddyrchafiadau a datblygu, gan gynnwys y cynllun adnabod dawn. Mae proses ddilysu yn gwneud yn siŵr fod goruchwylwyr yn gyson wrth ddyfarnu perfformiad aelodau unigol o’r staff fel bod credyd yn cael ei roi yn deg.
Defnyddir Perform hefyd i wirio achrediad PIP i staff sy’n ymchwilio i droseddau. Dywedodd y rhan fwyaf o’r staff wrthym fod cyfarfodydd Perform yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn cael eu cofnodi, a’u bod yn ymdrin â’u lles a’u datblygiad, a bod y system yn ddefnyddiol i staff sydd angen cefnogaeth neu sydd am ddatblygu.
Mae’r llu yn gwella eu trefniadau llywodraethu er mwyn sicrhau bod eu gweithlu yn cynrychioli cymunedau yn well
Cydnabu’r llu fod angen iddynt wella eu strwythur llywodraethu i gael gwell lefelau cynrychiolaeth, ac y mae’n gweithio tuag at hyn. Edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau.
Mae gan y llu dîm gweithlu cynrychioliadol mawr ac y mae’n cymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth mewn canolfannau cymuned, temlau, colegau a chlybiau ieuenctid. Mae aelodau’r tîm yn rhoi cyflwyniadau, sy’n hyrwyddo plismona fel gyrfa. Mae’r tîm yn dod yn ôl i gysylltiad â phobl sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymgeisio, yn cynnal sesiynau dal i fyny i gynnal eu diddordeb ac yn cynnal ffug‑gyfweliadau i ddarpar-ymgeiswyr. Bwriada’r llu ddarparu bwrsariaethau i ymgeiswyr o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol.
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywedd y llu yn cysylltu ag aelodau benywaidd y staff i ddeall pam nad ydynt yn ymgeisio am rai cyfleoedd am ddyrchafiadau, ac i’w hannog i wneud hynny. Nid yw’n glir eto sut y mae’r llu yn gweithredu ar y wybodaeth hon.
Mae dangosfwrdd codi amrywiaeth yn helpu’r llu i ddeall faint o bobl â nodweddion gwarchodedig sy’n gwneud cais ac yn gweithio i’r sefydliad, yn ceisio ac yn cael dyrchafiad, a faint sy’n gadael y sefydliad. Mae’r dangosfwrdd hefyd yn helpu’r llu i ragfynegi pa mor llwyddiannus y mae eu gweithredu cadarnhaol yn debygol o fod o ran helpu i wella amrywiaeth y gweithlu, ac yna treialu agweddau newydd os bydd angen.
Mae’r bwrdd EDI yn monitro sut mae’r llu yn cyrraedd ei amcan o wneud y gweithlu mor gynrychioliadol o’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu â sy’n bosibl. Rhaid i’r strwythur llywodraethu EDI ofalu bod gan yr uwch-swyddogion sy’n gyfrifol am y cynllun ddigon o gefnogaeth i alluogi’r llu i gyrraedd ei nod o wella amrywiaeth y gweithlu.
Mae angen i Heddlu De Cymru wneud yn siŵr y gall gymryd camau effeithiol i gadw ei swyddogion iau sydd yn y gwasanaeth
Mae’r llu yn gweithio er mwyn deall pam fod swyddogion heddlu yn gadael o fewn blynyddoedd cyntaf eu gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n dilyn Prentisiaeth Gradd yr Heddlu a swyddogion benywaidd. Mae’r llu hefyd yn cynnig cyfweliadau ymadael i’r holl staff sy’n gadael.
Dywedodd swyddogion oedd yn fyfyrwyr wrthym eu bod yn teimlo’n rhwystredig oherwydd anawsterau cydbwyso gwaith cwrs y radd, dyddiau gorffwys yn cael eu canslo, a gofynion goramser. Mae angen i’r llu fynd i’r afael â’r materion hyn a deall yn well sut y gall osgoi colli swyddogion sy’n fyfyrwyr er mwyn gallu parhau I fodloni ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol i’r cyhoedd.
Fetio a gwrth-lygredd
Yr ydym nawr yn arolygu’r modd y mae lluoedd yn ymdrin â fetio a gwrth-lygredd yn wahanol. Mae hyn er mwyn i ni allu bod yn fwy effeithiol ac effeithlon yn y modd y byddwn yn arolygu’r maes hwn o fusnes yr heddlu sydd â risg uchel iawn.
Mae llygredd mewn lluoedd yn cael ei drin gan unedau arbenigol, wedi’u cynllunio i fynd ati i dargedu bygythiadau o lygredd. Mae llygredd yn yr heddlu yn hynod niweidiol ac yn risg sylweddol i ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd. Mae disgwyliad cenedlaethol o ran safonau a cyflwyno’r bygythiad mwyaf.
Trwy ein harolygiadau newydd, rydym yn ceisio deall pa mor dda y mae lluoedd yn cymhwyso’r safonau hyn. O ganlyniad, rydym bellach yn arolygu lluoedd ac yn adrodd ar risgiau a pherfformiad cenedlaethol yn y maes hwn. Byddwn yn graddio ac yn adrodd ar berfformiad lluoedd ar wahân.
Nid yw arolygiad fetio a gwrth-lygredd Heddlu De Cymru eto wedi ei gwblhau. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda’n canfyddiadau a’r adroddiad ar wahân unwaith y bydd yr adolygiad wedi ei orffen.
Digonol
Cynllunio strategol, rheoli’r sefydliad a gwerth am arian
Mae Heddlu De Cymru yn dda am weithredu’n effeithlon.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn gweithredu’n effeithlon.
Mae gan y llu fframwaith effeithiol o gynllunio strategol er mwyn sicrhau eu bod yn ymdrin â materion sydd o bwys yn lleol ac yn genedlaethol
Mae gan y llu ymagwedd gadarn at gynllunio strategol. Mae’n defnyddio prosesau systematig i ddeall bygythiadau a risgiau i’r gymuned yn well, a beth yw disgwyliadau’r cyhoedd.
Mae gan y llu strwythur llywodraethu cadarn. Mae’n cylchredeg dogfennau ac yn defnyddio sianeli mewnol, megis mewnrwyd y llu, i wneud yn siŵr fod blaenoriaethau yn cael eu cyfathrebu i’r staff. Mae’r llu yn datblygu ei fframwaith perfformiad i sicrhau y bydd yn dal ati i geisio gwella. Mae’n datblygu ei offer data ac wedi strwythuro cyfarfodydd gweithredol, sy’n cydweddu penderfyniadau gweithredol gyda blaenoriaethau er mwyn sicrhau bod y llu yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig.
Mae’r llu yn rheoli’r galw presennol sydd arnynt yn dda
Mae gan y llu ymagwedd sefydledig a chadarn at ddeall a rheoli’r galw.
Mae grwpiau galw a pherfformiad y llu yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod pob ardal yn deall blaenoriaethau ac y mae’r rhain yn cael eu mapio yn ôl y galw a’r adnoddau. Ymysg gwybodaeth mae data am berchenogaeth a galw. Mae cyfarfod perfformiad y llu, dan gadeiryddiaeth y dirprwy brif gwnstabl, yn canolbwyntio ar y galwadau cenedlaethol, lleol ac ar y llu, a materion perfformiad. Mae diweddariadau o gyfarfodydd am y galw a’r perfformiad lleol yn rhan annatod o’r cyfarfod hwn.
Mae’r llu yn cydnabod fod angen gwella’i dealltwriaeth o’r galw ehangach. Mae cynlluniau yn eu lle i ddatblygu ei offeryn dadansoddi, PowerBI, a fydd yn gwella gallu’r llu i gydweddu’r adnoddau â’r galw.
Mae’r llu yn gwneud y defnydd gorau o’r arian sydd ar gael iddynt, ac y mae eu cynlluniau yn uchelgeisiol ac yn gynaliadwy
Mae’r llu yn gadarn o ran rheoli ei gyllid ac y mae wedi datblygu ymagweddau soffistigedig at gyllidebu. Mae’r llu yn gwneud yn siŵr fod amcanion gweithredol a pherfformiad yn llywio’r ffordd y mae’n neilltuo arian ac adnoddau.
Mae’r gronfa gyffredinol £1.2m islaw strategaeth wrth gefn y llu. Dylid cadw’r gronfa gyffredinol ar 3 y cant o’r gwariant gros. Mae hyn yn fras yn £11.1m i Heddlu De Cymru, ond y mae’n £9.9m ar hyn o bryd. Mae’r llu wedi nodi hyn ac yn bwriadu ailgyflenwi’r gronfa wrth gefn trwy gydol y flwyddyn ariannol.
Mae gan y llu gynllun ariannol tymor-canol cytbwys seiliedig ar ragdybiaethau realistig am gostau’r dyfodol. Buddsoddir mwy mewn gwneud yn sicr fod cyllid cadarn yn cael ei ddeall mewn arweinyddiaeth, gan gynnwys cymryd rhan yn y rhaglen Cyflawni Rhagoriaeth Cyllid mewn Plismona.
Mae’r llu yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i wella gwasanaethau trwy gydweithio ac yn gwneud y mwyaf o’r manteision
Mae’r llu wedi ymrwymo i wella gwasanaethau trwy gydweithredu effeithiol, ac y mae’n chwilio am gyfleoedd i weithio gydag eraill.
Mae prosesau da a llywodraethu cryf ar gael gydag adolygiadau ac archwiliadau strwythuredig, ac ymrwymiad i ddeall manteision. Er enghraifft, mae gan y llu drefniadau Cynllunio Adnoddau Strategol Cydweithredol gyda Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru, sy’n ymdrin â’r cynnydd a gynlluniwyd yn niferoedd yr heddlu. Mae trefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau cryf ar gael ym mhob llu. Cefnogir y rhain gan ddata cynhwysfawr a gwybodaeth reoli. Mae’r llu hefyd wedi datblygu cysylltiadau cydweithredol cryf ar lefel strategol.
Dylai’r llu wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio’i swyddogion heddlu yn y ffordd orau a bod penderfyniadau ynghylch rheoli’r galw yn rhoi gwerth am arian
Mae nifer uchel o swyddogion yn gwneud gwaith cefnogi. Er bod perfformiad yn dda, dylai’r llu barhau i adolygu hyn er mwyn gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad hwn yn gwella gwasanaethau. Efallai nad gosod nifer uchel o swyddogion mewn rolau cefnogi yw’r defnydd gorau o adnoddau i gefnogi plismona gweithredol, a gwasanaeth cyhoeddus neu i reoli’r galw y mae’r llu yn ei wynebu.
Mae’r llu yn gweithio i ddeall eu gallu yn well a gwella’r ffordd y mae’n defnyddio ei adnoddau i reoli’r galw.
Mewn partneriaeth â Heddlu Gwent, mae wedi datblygu offeryn adnoddau dynol fydd yn cydweddu ei adnoddau’n effeithiol i’r galw. Bydd hyn yn gosod y naill lu a’r llall ar flaen y gad yn y modd mae heddluoedd yn deall ac yn defnyddio adnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon.
Cyflwynodd y llu yr ymagwedd hon i’w cydweithwyr cenedlaethol, ac os caiff ei weithredu’n llwyddiannus, gall y pecyn fod yn newid cadarnhaol yn y maes gwaith hwn.
Da
Am y data
I gyfieithu’r cynnwys hwn i’r Gymraeg, defnyddiwch y botwm Cymraeg frig y dudalen ar y chwith.
Data in this report is from a range of sources, including:
- Home Office;
- Office for National Statistics (ONS);
- our inspection fieldwork; and
- data we collected directly from all 43 police forces in England and Wales.
When we collected data directly from police forces, we took reasonable steps to agree the design of the data collection with forces and with other interested parties such as the Home Office. We gave forces several opportunities to quality assure and validate the data they gave us, to make sure it was accurate. We shared the submitted data with forces, so they could review their own and other forces’ data. This allowed them to analyse where data was notably different from other forces or internally inconsistent.
We set out the source of this report’s data below.
Methodology
Data in the report
British Transport Police was outside the scope of inspection. Any aggregated totals for England and Wales exclude British Transport Police data, so will differ from those published by the Home Office. When other forces were unable to supply data, we mention this under the relevant sections below.
Outlier Lines
The dotted lines on the Bar Charts show one Standard Deviation (sd) above and below the unweighted mean across all forces. Where the distribution of the scores appears normally distributed, the sd is calculated in the normal way. If the forces are not normally distributed, the scores are transformed by taking logs and a Shapiro Wilks test performed to see if this creates a more normal distribution. If it does, the logged values are used to estimate the sd. If not, the sd is calculated using the normal values. Forces with scores more than 1 sd units from the mean (i.e. with Z-scores greater than 1, or less than -1) are considered as showing performance well above, or well below, average. These forces will be outside the dotted lines on the Bar Chart. Typically, 32% of forces will be above or below these lines for any given measure.
Population
For all uses of population as a denominator in our calculations, unless otherwise noted, we use ONS mid-2020 population estimates.
Survey of police workforce
We surveyed the police workforce across England and Wales, to understand their views on workloads, redeployment and how suitable their assigned tasks were. This survey was a non-statistical, voluntary sample so the results may not be representative of the workforce population. The number of responses per force varied. So we treated results with caution and didn’t use them to assess individual force performance. Instead, we identified themes that we could explore further during fieldwork.
Victim Service Assessment
Our victim service assessments (VSAs) will track a victim’s journey from reporting a crime to the police, through to outcome stage. All forces will be subjected to a VSA within our PEEL inspection programme. Some forces will be selected to additionally be tested on crime recording, in a way that ensures every force is assessed on its crime recording practices at least every three years.
Details of the technical methodology for the Victim Service Assessment.
Data sources
Stop and Search
We took this data from the November 2020 release of the Home Office Police powers and procedures statistics. The Home Office may have updated these figures since we obtained them for this report.
Crime outcomes
We took data on crime outcomes from the November 2021 release of the Home Office police-recorded crime and outcomes data tables.
Total police-recorded crime includes all crime (except fraud) recorded by all forces in England and Wales (except BTP). Home Office publications on the overall volumes and rates of recorded crime and outcomes include British Transport Police, which is outside the scope of this HMICFRS inspection. Therefore, England and Wales rates in this report will differ from those published by the Home Office.
Police-recorded crime data should be treated with care. Recent increases may be due to forces’ renewed focus on accurate crime recording since our 2014 national crime data inspection.
For a full commentary and explanation of crime and outcome types please see the Home Office statistics.
Cases discussed and recommended cases to discuss at multi-agency risk assessment conferences (MARAC)
This data was obtained from SafeLives. SafeLives may have updated these figures since we obtained them for this report.