Crynodeb cyffredinol
Ein barn
Gwnaeth ein harolygiad asesu pa mor dda yw Heddlu Gwent mewn deg maes o blismona. Rydym yn gwneud dyfarniadau graddedig mewn naw o’r deg hyn fel a ganlyn:
Fe wnaethom hefyd edrych i weld pa mor effeithiol y mae’r gwasanaeth a rydd Heddlu Gwent i ddioddefwyr troseddau. Nid ydym yn gwneud dyfarniadau graddedig yn y meysydd hyn.
Rydym yn nodi ein canfyddiadau manwl am bethau y mae’r llu yn eu gwneud yn dda ac unrhyw feysydd i’w gwella yng ngweddill yr adroddiad hwn.
Newidiadau pwysig i PEEL
Yn 2014, cyflwynwyd ein harolygiadau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlondeb heddlu (PEEL), sy’n asesu perfformiad pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, rydym wedi bod yn addasu ein dull gweithredu yn barhaus ac rydym wedi gweld y newidiadau mwyaf arwyddocaol yn ystyod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym yn symud tuag at ddull asesu parhaus, sy’n cael ei arwain gan ddeallusrwydd, yn hytrach na’r arolygiadau PEEL blynyddol a ddefnyddiwyd gennym mewn blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, rydym wedi integreiddio ein rhaglen dreigl o arolygiadau cywirdeb data troseddu i’r asesiadau PEEL hyn. Bydd ein hasesiad gwasanaeth dioddefwyr PEEL nawr yn cynnwys elfen cywirdeb data troseddu mewn pob asesiad arall o leiaf. Rydym hefyd wedi newid ein dull o lunio dyfarniadau graddedig. Rydym bellach yn asesu lluoedd o ran nodweddion perfformiad da, a nodir yn Fframwaith Asesu PEEL 2021/22, ac rydym yn cysylltu ein dyfarniadau ar gyfer achosion pryder a meysydd i’w gwella yn gliriach. Rydym hefyd wedi ehangu ein system flaenorol ar gyfer llunio dyfarniadau o bedair lefel i bum lefel. O ganlyniad, gallwn ddatgan yn fwy manwl lle rydyn ni’n ystyried bod angen gwelliant ac amlygu y ffyrdd gorau o wneud pethau yn fwy effeithlon.
Fodd bynnag, mae’r newidiadau hyn yn golygu nad yw’n bosib gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y graddau a ddyfarnwyd eleni a’r graddau o arolygiadau blaenorol PEEL. Nid yw gostyngiad o ran dyfarnu gradd, yn enwedig o fod yn dda i fod yn ddigonol, o reidrwydd yn golygu bod y perfformiad wedi bod yn llai, oni bai bod yn cael ei nodi gennym yn yr adroddiad.
Y cyd-destun gweithredu i luoedd Cymru
Mae’n bwysig cydnabod bod lluoedd yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd‑destun gwahanol i luoedd yn Lloegr. Er nad yw plismona a chyfiawnder wedi’i ddatganoli i Gymru, mae gwasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, llety, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn ddatganoledig. Mae hyn yn golygu bod gweithgareddau heddlu a chyfiawnder Cymru o ran perfformiad a chyd-destunau deddfwriaethol yn unigryw. Yng Nghymru, mae sefydliadau datganoledig a rhai sydd heb gael eu datganoli yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu’r lefel orau bosib o wasanaeth i bobl leol.
Weithiau, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i luoedd Cymru gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol Cymru a Lloegr.
Sylwadau Arolygydd EM
Rwy’n fodlon ar rai agweddau ar berfformiad Heddlu Gwent o ran cadw pobl yn ddiogel a lleihau troseddu, ond mae meysydd lle mae angen i’r llu wella.
Dyma’r canfyddiadau rwy’n eu hystyried y pwysicaf o’n hasesiadau o’r llu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae angen i’r llu wella sut mae’n ateb ac yn mynychu galwadau am wasanaeth, a sut mae’n adnabod galwyr agored i niwed
Nid yw trinwyr galwadau yn ateb galwadau brys yn ddigon cyflym. Ac ar sawl achlysur, nid ydynt yn cynnal asesiadau risg trylwyr pan fydd trosedd a digwyddiadau’n cael eu hadrodd i’r ystafell reoli. Yn rhy aml, nid yw’r llu yn bodloni ei amserlenni cyhoeddedig ei hun ar gyfer mynychu digwyddiadau, ac nid yw’n rhoi cyngor priodol ar atal troseddu na diogelwch i alwyr sy’n aros i swyddogion gyrraedd.
Mae angen i’r llu wella sut mae’n cofnodi Stopio a Chwilio a’i drefniadau craffu allanol
Mae angen i berfformiad y llu wrth gofnodi seiliau rhesymol neu ei chwiliadau o aelodau’r cyhoedd wella, i ddangos i’r cyhoedd bod ei ddefnydd o bwerau’r heddlu yn deg ac yn effeithiol. Mae gan Heddlu Gwent baneli craffu allanol sydd angen cynyddu pa mor aml y caiff stopio a chwilio a defnydd o rym gan swyddogion eu monitro.
Mae Heddlu Gwent yn defnyddio ffyrdd newydd ac addawol i gysylltu â’i gymunedau amrywiol ac i gynyddu hyder y cyhoedd
Mae’r llu’n defnyddio ffyrdd amrywiol o adnabod a chyfathrebu gyda’i gymunedau, gan gynnwys rhai efallai na fyddent bob amser ag ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu. Mae’r llu’n defnyddio rhai mentrau ymyrraeth gynnar addawol gyda phobl ifanc, ac mae wedi buddsoddi mewn dulliau newydd i helpu pobl i deimlo’n fwy diogel mewn mannau cyhoeddus.
Mae’r llu’n blaenoriaethu atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatrys problemau
Mae timau plismona yn y gymdogaeth yn gweithio’n dda gyda phartneriaid, megis tai a iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, a thimau diogelwch cymunedol, i ddatrys problemau a gwella ansawdd bywyd cymunedau. Mae atal a lleihau troseddu yn seiliedig ar ddadansoddi a deallusrwydd i sicrhau bod y llu’n defnyddio ei adnoddau’n effeithiol.
Mae angen i Heddlu Gwent wneud yn siŵr bod ganddo ddigon o staff â sgiliau priodol i ymchwilio’n effeithiol i droseddau ar ran dioddefwyr
Yn rhy aml, nid yw ymchwiliadau i droseddau’n brydlon, yn drylwyr nac wedi’u goruchwylio’n effeithiol. Nid oes gan y llu gynllun realistig a chynaliadwy eto i sicrhau bod ganddo ddigon o ymchwilwyr cymwys i ateb ei alw presennol neu yn y dyfodol.
Mae’r llu’n gweithio’n dda gyda phartneriaid i weithredu yn erbyn pobl sy’n peri risg i blant, ac i ddiogelu dioddefwyr posib
Mae rheolwyr troseddwyr yn gweithio gyda phartneriaid, fel y Gwasanaeth Prawf, i ddargyfeirio troseddwyr rhywiol a threisgar, a drwgweithredwyr cam-drin domestig, i ffwrdd o droseddu pellach neu fwy difrifol. Mae staff ymroddedig yn gweithio i ddiogelu plant sydd wrth risg camfanteisio rhywiol neu droseddol ac i amharu ar ymddygiad troseddwyr.
Mae angen i’r llu sicrhau bod ganddo brosesau effeithiol a digon o staff medrus i ddiogelu dioddefwyr agored i niwed
Nid oes gan Heddlu Gwent ddigon o staff hyfforddedig ar hyn o bryd i fodloni gofynion cadw dioddefwyr cam-drin domestig yn ddiogel. Mae ôl-groniadau o geisiadau am wybodaeth am brosesau rheoli cam-drin domestig yn rhy uchel, ac nid yw’r risg yn cael eu hasesu’n effeithiol.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio’n galed i greu gweithle cadarnhaol a chynhwysol gyda chymorth lles da
Mae arweinyddiaeth y llu yn hyrwyddo safonau moesegol a phroffesiynol cadarnhaol, ac mae ei gymorth lles yn gynhwysfawr. Rwy’n ymwybodol o adroddiadau yn y wasg yn gwneud honiadau difrifol am ymddygiad cyn-swyddogion a swyddogion presennol Heddlu Gwent, ill dau ynghylch y defnydd o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ac ymddygiad tuag at gydweithwyr yn y gweithle. Nid oedd yr honiadau hyn yn rhan o’n harolygiad, ac maent yn cael eu hymchwilio ar wahân. Bydd arolygiadau’r llu yn y dyfodol yn ystyried canlyniad yr ymchwiliad hwnnw ac i ba raddau y gellir dod i gasgliadau ynghylch effeithiolrwydd ymdrechion yr arweinyddiaeth i hyrwyddo safonau moesegol cryf ac ymddygiad derbyniol.
Dylai’r llu wneud yn siŵr bod ganddo fframwaith cynllunio strategol effeithiol i ateb ei alw a gwella perfformiad
Mae Heddlu Gwent yn rheoli’r arian sydd ar gael iddo yn drwyadl, er gwaethaf rhai heriau cyllido. Ond gallai’r llu gymryd camau yn fwy prydlon ac effeithiol lle mae diffyg gallu ateb galwadau yn achosi perfformiad llai effeithiol.
Wendy Williams
Arolygydd Heddlu EM
Rydym wedi nodi saith thema sy’n tanategu gallu llu i leihau troseddu yn effeithiol sydd, wedi’u cymryd gyda’i gilydd, yn caniatáu asesiad o’r graddau y mae’r llu yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau troseddu. Asesiad naratif yw hwn, oherwydd gall amrywiadau a newidiadau effeithio ar ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu, gan ei gwneud hi’n anodd gwneud cymariaethau dros amser.
Mae Heddlu Gwent yn anelu at gryfhau ei allu i leihau troseddu drwy:
- adnabod grwpiau o bobl ifanc a chymunedau amrywiol a gweithio gyda nhw i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn ddioddefwyr, yn droseddwyr neu’n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- cyfrannu at waith amlasiantaeth i ddiogelu plant ac oedolion sydd wrth risg dod yn ddioddefwyr camfanteisio a throseddau rhyw;
- mabwysiadu dulliau datrys problemau tymor byr a thymor hwy a, gydag asiantaethau partner megis manwerthwyr, defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o atal a lleihau dwyn, lladrata a bwrgleriaeth; a
- rheoli’r risg y mae troseddwyr rhywiol parhaus, treisgar a difrifol yn ei pheri, a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio i leihau aildroseddu.
Rwy’n falch bod y llu’n mynd i’r afael â rhai o’r meysydd plismona cywir i leihau troseddu. Ond gall y meysydd canlynol effeithio’n negyddol ar allu’r llu i wneud hyn:
- Nid yw’r llu eto’n ateb nac yn mynychu galwadau am wasanaeth yn ddigon cyflym, nac yn asesu’n drylwyr y risgiau i alwyr, sy’n golygu nad yw rhai dioddefwyr troseddau yn elwa o bresenoldeb prydlon a phriodol yr heddlu.
- Nid yw eto’n ymchwilio’n gyson nac yn goruchwylio’r ymchwiliad i droseddau ar ran dioddefwyr i safon dderbyniol.
- Nid yw’r llu eto’n defnyddio pwerau i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig na rheoli gofynion diogelu pobl agored i niwed yn effeithiol.
- Nid yw trefniadau llywodraethu Heddlu Gwent eto’n caniatáu iddo gydnabod a gwella perfformiad llai effeithiol yn gyflym, na sicrhau bod ganddo ddigon o staff medrus i ymchwilio i droseddau ar ran dioddefwyr.
Darparu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau
Asesiad o wasanaethau i ddioddefwyr
Mae’r adran hon yn disgrifio ein hasesiad o’r gwasanaeth y mae Gwent Police yn ei ddarparu i ddioddefwyr. Mae hyn o adeg adrodd am drosedd drwyddo i’r ymchwiliad. Fel rhan o’r asesiad hwn, gwnaethom adolygu 90 o ffeiliau achos.
Pan fydd yr heddlu’n cau achos o drosedd a adroddwyd, caiff ei nodi â’r hyn a elwir yn ‘fath o ganlyniad’. Mae hyn yn disgrifio’r rheswm dros ei gau.
Gwnaethom hefyd adolygu 20 achos yr un pan ddefnyddiwyd y mathau canlynol o ganlyniad:
- Adnabuwyd rhywun dan amheuaeth, a chefnogodd y dioddefwr gamau’r heddlu, ond ataliodd anawsterau tystiolaethol weithredu pellach (canlyniad 15).
- Adnabuwyd rhywun dan amheuaeth, ond roedd anawsterau tystiolaethol, ac ni chefnogodd y dioddefwr weithredu’r heddlu neu tynnwyd y gefnogaeth yn ôl (canlyniad 16).
- Adnabuwyd rhywun dan amheuaeth ond daeth y terfyn amser ar gyfer erlyn i ben (canlyniad 17).
Er nad yw’r asesiad hwn yn cael ei raddio, mae’n dylanwadu ar ddyfarniadau yn y meysydd eraill yr ydym wedi’u harchwilio sy’n cael eu graddio.
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys a di-frys. Nid yw dioddefwyr mynych ac agored i niwed bob amser yn cael eu hadnabod
Pan mae dioddefwr yn cysylltu â’r heddlu, mae’n bwysig bod eu galwad yn cael ei ateb yn gyflym a bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi’n gywir ar systemau’r heddlu. Dylid siarad â’r galwr mewn modd proffesiynol. Dylid asesu’r wybodaeth, gan ystyried bygythiad, niwed, risg, ac a yw’r galwr yn agored i niwed. A dylai’r dioddefwr gael cyngor diogelu priodol.
Mae angen i’r llu wella’r amser mae’n ei gymryd i ateb galwadau brys a di-frys. Pan fydd galwadau’n cael eu hateb, ni asesir bob amser a yw’r dioddefwr yn agored i niwed gan ddefnyddio proses strwythuredig. Nid yw dioddefwyr mynych bob amser yn cael eu hadnabod, sy’n golygu nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei hystyried wrth benderfynu ar yr ymateb y dylai’r dioddefwr ei dderbyn. Nid yw trinwyr galwadau bob amser yn rhoi cyngor i ddioddefwyr ar atal troseddu ac ar sut i gadw tystiolaeth.
Mewn llawer o achosion, nid yw’r llu’n ymateb yn brydlon i alwadau am wasanaeth
Dylai llu anelu at ymateb i alwadau am wasanaeth o fewn yr amserlenni y mae wedi’u gosod, sy’n cael eu penderfynu ar sail y lefel blaenoriaethu a roddwyd i’r alwad. Dylai newid blaenoriaeth galwadau dim ond os ystyrir bod y blaenoriaethu gwreiddiol yn amhriodol, neu os yw gwybodaeth bellach yn awgrymu bod angen newid. Dylai ymateb y llu ystyried risg ac a yw’r dioddefwr yn agored i niwed, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a gafwyd ar ôl yr alwad.
Ar y rhan fwyaf o achlysuron, gwelsom fod y llu wedi ymateb i alwadau gydag adnoddau priodol. Ond nid yw bob amser yn ymateb o fewn amserlenni penodol. Nid yw dioddefwyr bob amser yn cael gwybod am oedi, felly nid yw eu disgwyliadau bob amser yn cael eu bodloni. Gall hyn achosi i ddioddefwyr golli hyder a datgysylltu o’r broses.
Mae’r llu’n sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu dyrannu i staff sydd â lefelau profiad addas
Dylai pob llu a chwnstabliaeth gael polisi i wneud yn siŵr bod ymchwiliadau’n cael eu dyrannu i swyddogion neu staff sydd wedi’u hyfforddi’n addas. Dylai ei bolisi hefyd sefydlu pan na fydd trosedd yn cael ei hymchwilio ymhellach. Dylid cymhwyso’r polisi yn gyson. Dylid rhoi gwybod i ddioddefwr y drosedd pwy sy’n trin eu hachos. Dylent hefyd gael gwybodaeth lawn am y penderfyniad i gau’r ymchwiliad.
Cawsom fod y llu wedi dyrannu troseddau a gofnodwyd ar gyfer ymchwiliad yn ôl ei bolisi. Ym mron pob achos, rhoddwyd y drosedd i’r adran fwyaf priodol er mwyn ymchwilio ymhellach.
Nid yw’r llu bob amser yn cynnal ymchwiliadau effeithiol a phrydlon
Dylai heddluoedd a chwnstabliaethau ymchwilio i droseddau a adroddwyd yn gyflym, yn gymesur ac yn drylwyr. Dylid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr am yr ymchwiliad, a dylai lluoedd a chwnstabliaethau fod â threfniadau llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau bod safonau ymchwilio yn uchel.
Nid oedd y llu bob amser yn cynnal ymchwiliadau’n brydlon nac yn cwblhau’r holl linellau ymchwiliad perthnasol a chymesur. Nid oedd ymchwiliadau bob amser wedi’u goruchwylio’n dda, ac ni chafodd pob dioddefwr ddiweddariadau drwy gydol eu hymchwiliad. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol o fod â hyder mewn ymchwiliad gan yr heddlu pan fyddant yn cael diweddariadau rheolaidd.
Mae ymchwiliad trylwyr yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd troseddwyr yn cael eu hadnabod ac o ganlyniad terfynol cadarnhaol i’r dioddefwr. Nid oedd y llu bob amser yn cymryd datganiadau personol dioddefwyr, sy’n golygu na chafodd dioddefwyr gyfle i ddisgrifio sut effeithiodd y drosedd ar eu bywyd.
Pan dynnodd dioddefwyr gefnogaeth yn ôl ar gyfer ymchwiliad, nid oedd y llu bob amser yn ystyried parhau â’r achos heb gefnogaeth y dioddefwr. Gall hyn fod yn ddull pwysig o ddiogelu’r dioddefwr ac atal troseddau pellach rhag cael eu cyflawni. Ym mhob achos, ni wnaeth y llu gofnodi a oedd yn ystyried defnyddio gorchmynion a gynlluniwyd i ddiogelu dioddefwyr, megis Gorchymyn Amddiffyn Trais Domestig (DVPO) neu Hysbysiad Gwarchod Trais Domestig (DVPN).
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yn gofyn i luoedd gynnal asesiad anghenion yn gynnar er mwyn penderfynu a oes angen cymorth ychwanegol ar ddioddefwyr. Nid oedd y llu bob amser yn cynnal yr asesiad hwn nac yn cofnodi’r cais am gefnogaeth ychwanegol.
Nid yw’r llu bob amser yn neilltuo’r math cywir o ganlyniad. Nid yw cofnod archwiliadwy o ddymuniadau dioddefwyr bob amser yn cael ei gynnal
Dylai’r llu wneud yn siŵr ei fod yn dilyn canllawiau a rheolau cenedlaethol ar gyfer penderfynu ar y math o ganlyniad y bydd yn ei roi i bob adroddiad o drosedd. Wrth benderfynu’r math o ganlyniad, dylai’r llu ystyried natur y drosedd, y troseddwr a’r dioddefwr. Dylai’r penderfyniadau hyn gael eu cefnogi a’u goruchwylio gan arweinwyr ledled y llu.
Pan fydd rhywun dan amheuaeth wedi’i adnabod a’r dioddefwr wedi cefnogi gweithredu gan yr heddlu, ond mae anawsterau amlwg yn atal camau pellach, dylid rhoi gwybod i’r dioddefwr am y penderfyniad i gau’r ymchwiliad. Cafodd dioddefwyr wybod bob amser am y penderfyniad i beidio cymryd unrhyw gamau pellach ac i gau’r ymchwiliad. Defnyddiodd y llu y canlyniad hwn yn anghywir ar sawl achlysur.
Pan fydd rhywun dan amheuaeth wedi’i adnabod ond nid yw’r dioddefwr yn cefnogi gweithredu pellach neu’n tynnu cefnogaeth i’r heddlu yn ôl, dylid cadw cofnod archwiliadwy gan y dioddefwr yn cadarnhau eu penderfyniad. Bydd hyn yn caniatáu cau’r ymchwiliad. Roedd tystiolaeth o benderfyniad y dioddefwr yn absennol yn y rhan fwyaf o achosion a adolygwyd. Mae hyn yn golygu risg na allai dymuniadau dioddefwyr gael eu cynrychioli’n llawn a’u hystyried cyn i’r ymchwiliad gael ei gau.
Rhaid i drosedd y gellir ei herlyn mewn llys ynadon yn unig ddechrau o fewn chwe mis i’r drosedd gael ei chyflawni. Gellir cau trosedd os oes rhywun dan amheuaeth wedi’i adnabod ond mae’r terfyn amser wedi dod i ben. Defnyddiodd y llu y canlyniad hwn yn anghywir ar sawl achlysur.
Ymgysylltu a thrin y cyhoedd yn deg a gyda pharch
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol sut mae’n trin pobl yn deg a gyda pharch.
Arfer arloesol
Mae’r llu yn defnyddio dulliau cadarnhaol a newydd i ymgysylltu â phobl ifanc
Mae’r Rhaglen Cymunedau a’r Heddlu yn fenter gadarnhaol ac addawol. Mae swyddogion cymorth cymunedol (CSO) yn darparu rhaglen ddysgu fodiwlaidd i blant sydd wedi eu gwahardd o’r ysgol, gan gynnwys rhai o gymunedau mewnfudwyr. Mae’r rhaglen yn datblygu dealltwriaeth dysgwyr o rôl yr heddlu. Mae hefyd yn ymdrin â’r hyn a olygir gan berthnasoedd cadarnhaol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch ar-lein.
Mae’r llu wedi creu rôl swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu cenhedlaeth nesaf. Mae’r rhain yn CSO sy’n gweithio’n benodol gyda phobl ifanc i annog ymddygiadau cadarnhaol a’u dargyfeirio rhag troseddu. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu cenhedlaeth nesaf yn cefnogi rhaglenni cadetiaid yr heddlu a rhaglenni heddlu bach mewn ysgolion. Ac yn fwyaf trawiadol, maent yn defnyddio’r gêm Minecraft i gysylltu â phobl ifanc ac addysgu pobl ifanc ynghylch diogelwch ar-lein.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â thrin pobl yn deg a gyda pharch.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio’n dda i adnabod a cheisio barn ei holl gymunedau amrywiol
Mae’r llu’n casglu barn ei gymunedau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r arolwg cyhoeddus blynyddol ‘Eich Llais’ yn helpu’r llu i greu ei strategaeth ymgysylltu. Defnyddir hyn wedyn i lunio cynlluniau lleol i gyfathrebu â nhw ac i ddarparu gwasanaethau plismona i boblogaeth Gwent. Mae arweinwyr cyfathrebu ym mhob ardal blismona leol yn monitro adborth y cyhoedd, gan sicrhau bod cyfathrebu digidol gyda chymunedau yn broses ddwyffordd.
Mae CSO Ymgysylltu ym mhob ardal awdurdod lleol yn gweithio i adnabod a chynnwys cymunedau amrywiol ac sydd newydd sefydlu yn ardal y llu. Er enghraifft, dysgodd ein harolygiad fod y llu wedi gosod posteri mewn un ardal a oedd yn helpu ac yn annog cymuned Swdanaidd i adrodd am droseddu. Roedd hyn oherwydd lefel isel o adrodd am droseddau o’r gymuned hon.
Dysgom fod yr heddlu wedi gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol mewn ardal arall i ddarparu ffonau clyfar i rai aelodau o’r gymuned sydd heb fynediad at dechnoleg i’w galluogi i gael mynediad at wasanaethau ar-lein.
Fodd bynnag, tan fod data Cyfrifiad Cymru a Lloegr 2021 wedi’u cyhoeddi’n llawn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r llu yn dibynnu ar ei staff sydd wedi’u lleoli’n lleol i adnabod a gweithio gyda’i gymunedau amrywiol.
Mae’r llu’n gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â hyder a diogelwch y cyhoedd
Mae’r llu wedi defnyddio cyllid Strydoedd Saffach i ganolbwyntio ar helpu’r cyhoedd i deimlo’n fwy diogel a’u bod yn gallu cael mynediad at yr heddlu. Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau lleol wneud cais am fuddsoddiad mewn mentrau i wella diogelwch cymunedol. Yng Ngwent, mae hyn wedi cynnwys gwneud arolygon o drais yn erbyn menywod a merched, a pha mor ddiogel mae pobl yn teimlo ar y strydoedd ac yn eu cartrefi. Mewn dull newydd, mae’r llu wedi prynu cerbydau tuk-tuk tair olwyn i’w gosod yng Nghasnewydd a’r Fenni er mwyn i’r cyhoedd eu defnyddio fel mannau diogel ac i adrodd am drosedd. Mae gweithgarwch llwyddiannus, megis gweithrediad i fynd i’r afael â chamfanteisio rhywiol oedolion, yn cael ei fwydo’n ôl i’r cyhoedd a phartneriaid troseddau ac anhrefn.
Fel hyn, gall Heddlu Gwent ddangos sut mae’n blaenoriaethu cadw diogelwch a hyder y cyhoedd.
Mae’r llu’n cynnig cyfleoedd niferus ac amrywiol i’r cyhoedd gefnogi gwasanaeth plismona Gwent
Mae gan Heddlu Gwent grŵp cynghori annibynnol sefydledig sydd yn cynghori’r llu yn dilyn digwyddiadau critigol. Mae hefyd yn helpu i gysylltu â chymunedau er mwyn cynnal hyder y cyhoedd. Mae cwnstabliaeth arbennig y llu, a oedd ar adeg yr arolygiad yn gyfanswm o 79 o gwnstabliaid arbennig, yn cyfrannu llawer o oriau o blismona gwirfoddol. Mae’n hawdd dod o hyd i gyfleoedd i’r cyhoedd ddod yn wirfoddolwyr cymorth yr heddlu ar wefan yr heddlu.
Mae’r llu wedi sefydlu prosesau mewnol i graffu ar y defnydd o rym a stopio a chwilio, ond nid oes gan yr holl staff hyder yn eu hyfforddiant
Mae’r llu’n deall effaith ei ddefnydd o stopio a chwilio a defnyddio grym. Mae rhingylliaid ac arolygwyr yn adolygu fideo sy’n cael ei wisgo ar y corff a chofnodion a ddogfennwyd o achosion er cyfreithlondeb a thegwch. Mae byrddau craffu mewnol misol yn rhoi adborth i oruchwylwyr ac ymarferwyr ar themâu a thueddiadau mewn ymarfer cadarnhaol neu lai cadarnhaol. Maen nhw hefyd yn adnabod unrhyw berfformiad sy’n achosi pryder neu’n gofyn am egluro cynnal rhai achosion o stopio a chwilio. Dywedodd y llu wrthym ei fod yn amcangyfrif bod ei swyddogion wedi defnyddio fideo a wisgwyd ar y corff yn ystod stopio a chwilio neu lle defnyddiwyd grym mewn 95 y cant o achlysuron. Gall y byrddau hyn archwilio data cynhwysfawr i ddeall a yw swyddogion yn defnyddio grym neu bwerau stopio a chwilio yn anghymesur. Gall y cyhoedd gael mynediad at y wybodaeth a’r cofnodion hyn gan fyrddau craffu mewnol ac allanol ar wefan y llu.
Canfu ein harolygiad fod swyddogion wedi’u hyfforddi ar sut i ddefnyddio grym a stopio a chwilio pobl yn deg ac yn briodol. Mae’r llu’n mabwysiadu’r cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb ac ar-lein newydd sy’n cael eu cymeradwyo gan y Coleg Plismona. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o driniaeth deg ac annheg wedi’u cynnwys mewn cynnyrch hyfforddi.
Yn ein hadroddiad yn 2018/19, argymhellom fod y llu yn sicrhau bod aelodau priodol o’i weithlu wedi’u hyfforddi mewn ac yn deall rhagfarn ddiarwybod. Canfu ein harolygiad fod gan recriwtiaid newydd hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod, a’i fod wedi’i addysgu fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant diogelwch swyddogion.
Gallai’r llu fanteisio ar y cyfle i wneud defnydd ehangach o rywfaint o hyfforddiant sgiliau cyfathrebu presennol. Er enghraifft, gellid cynnig yr hyfforddiant y mae staff rheoli cysylltiadau yn ei gael i ddeall seicoleg iaith i staff eraill sydd â chysylltiad â’r cyhoedd. A chawsom fod CSO wedi dweud wrthym nad oeddent bob amser yn teimlo’n hyderus bod eu hyfforddiant diogelwch swyddogion yn ddigon i’w cadw’n ddiogel mewn sefyllfaoedd yn cynnwys gwrthdaro.
Mae Heddlu Gwent wedi sefydlu paneli allanol i graffu ar ddefnydd ei swyddogion o rym a stopio a chwilio, ond dylid craffu ar y pwerau hyn yn amlach
Mae paneli craffu allanol y llu ar gyfer stopio a chwilio a defnyddio grym yn cynnwys aelodau’r cyhoedd. Cânt eu cadeirio a’u rhedeg yn annibynnol, mewn partneriaeth â swyddfa’r comisiynydd heddlu a throseddu. Mae aelodau’r panel yn cael eu hyfforddi i ddeall sut mae’r heddlu’n defnyddio eu pwerau ac wedi gwylio swyddogion yn ystod eu hyfforddiant. Mae achosion i’w hystyried, yn ogystal â’r fideo sy’n cael ei wisgo ar y corff, yn cael eu dewis ar hap. Mae’r llu hefyd wedi creu panel craffu ieuenctid.
Mae’r paneli’n cwrdd bob tri mis, ond yn archwilio’r defnydd o stopio a chwilio neu ddefnyddio grym mewn cyfarfodydd bob yn ail. Er mwyn i’r cyhoedd fod yn hyderus bod defnydd swyddogion o bwerau yn cael ei ystyried yn annibynnol yn briodol o ran nifer ac amlder, dylai’r llu wneud yn siŵr bod stopio a chwilio a defnyddio grym yn cael eu craffu bob tri mis.
Dylai aelodaeth y prif banel oedolion hefyd gael ei ddatblygu i gynnwys pobl sydd â phrofiad byw o gael eu chwilio neu ddefnydd o rym.
Digonol
Atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Heddlu Gwent yn dda am atal a rhwystro.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud ag atal a rhwystro.
Mae gan y llu strategaeth plismona yn y gymdogaeth sy’n canolbwyntio ar atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu pobl agored i niwed
Mae strategaeth plismona yn y gymdogaeth y llu yn canolbwyntio ar weithgarwch atal a datrys problemau ar sail tystiolaeth gan ei dimau plismona yn y gymdogaeth. Mae ei flaenoriaethau yn gyson â rhai Cynllun Heddlu a Throseddu Gwent 2021-2025. Datblygwyd y Cynllun ar ôl siarad â chymunedau amrywiol Gwent i ddeall pa faterion sy’n bwysig iddynt.
Defnyddir y strategaeth i greu blaenoriaethau lleol. Mae’r arolygwyr yn cadeirio sesiynau briffio ddwywaith y dydd a phob pythefnos lle maent yn adolygu data troseddau ac anhrefn presennol. Maent hefyd yn adolygu mentrau parhaus ac arfaethedig i osod blaenoriaethau a chynlluniau patrolio timau cymdogaeth. Gall swyddogion a staff hefyd gael mynediad at gynlluniau patrolio wedi’u blaenoriaethu a sesiynau briffio ar fewnrwyd y llu i gyfarwyddo gwaith timau cymdogaeth.
Mae’r llu’n deall y galw ar blismona yn y gymdogaeth yn dda drwy ddefnyddio dadansoddi a rhannu data gyda phartneriaid
Mae dadansoddwyr ymroddedig yn yr hyb datrys problemau yn defnyddio offeryn mapio amgylchiadau personol yn seiliedig ar wybodaeth yr heddlu ac asiantaeth bartner (megis gwasanaethau cymdeithasol) am ffactorau a allai ddylanwadu ar risg person o fod yn rhan o droseddu neu gael eu camfanteisio. Mae hyn yn caniatáu i dimau plismona yn y gymdogaeth ddeall ac ymyrryd yn well yn gyflym i leihau bygythiadau a risgiau a achosir gan bobl beryglus ac agored i niwed yn eu hardal. Ond dylai’r llu wneud yn siŵr bod mwy o staff cymdogaeth yn gwybod sut i ddefnyddio’r offeryn dadansoddi hunanwasanaeth QlikView i gael gwybodaeth o system cofnodi troseddau a digwyddiadau y llu. Byddai hyn yn lleihau eu dibyniaeth ar ddadansoddwyr. Dywedodd rhai staff wrthym nad oeddent yn hyderus nac wedi’u hyfforddi i ddefnyddio QlikView.
Mae swyddogion lleihau troseddu ac anhrefn yn cwrdd ag asiantaethau megis tai a iechyd; gwasanaethau cymdeithasol; timau diogelwch cymunedol; ac asiantaethau gwirfoddol sy’n cefnogi pobl â digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau. Maent yn rhannu gwybodaeth am bobl agored i niwed, troseddwyr mynych a risg uchel, a lleoliadau lle gall troseddu ac anrhefn fod yn digwydd. Yn y modd hwn, gall partneriaid gynllunio a blaenoriaethu eu gweithgarwch ar y cyd.
Mae’r arolygwyr yn cadeirio cyfarfodydd tasgu bob pythefnos gyda’r awdurdod lleol, y gwasanaethau brys a phartneriaid yn y sector gwirfoddol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn penderfynu ynghylch cyfrifoldeb rhyngasiantaethol am gamau i leihau troseddu ac anrhefn. Defnyddir gwybodaeth o’r prosesau hyn gan swyddogion a goruchwylwyr lleihau troseddu ac anhrefn i lenwi ‘wal briffio’ a ‘dyddiadur patrôl’ electronig i gyfarwyddo a diweddaru patrolau a gweithgarwch datrys problemau.
Yn y modd hwn, gellir cyfeirio staff plismona yn y gymdogaeth i helpu i ddiogelu’r bobl a’r lleoliadau cywir.
Mae’r llu’n gweithio i ddeall a gweithredu ar yr hyn sy’n bwysig i’w gymunedau, ond dylai gofnodi a defnyddio ei weithgarwch ymgysylltu â’r gymuned yn fwy effeithiol
Mae swyddogion cymorth cymunedol (CSO) yn gweithio gyda’r cymunedau y mae’r llu yn eu gwasanaethu drwy gynnal meddygfeydd mewn lleoedd megis canolfannau cymunedol a chaffis. Mae hefyd yn gwneud hyn drwy ymweliadau cyswllt ag ysgolion a thrwy gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn helpu timau cymdogaeth i ddysgu am bryderon yn gynt nag aros am ganlyniadau’r arolygon Eich Llais blynyddol. Dylai’r llu sicrhau y caiff cyfrifon eu rheoli i ganiatáu i bryderon a fynegir drwy’r sianeli hyn gael sylw cyflym a chyson.
Ar hyn o bryd, defnyddir taenlen i gofnodi manylion natur ac ansawdd yr ymgysylltu gan dimau cymdogaeth gyda’r cyhoedd. Ond nid yw’n hawdd cael y wybodaeth hon na chysylltu’r wybodaeth hon â gweithgarwch datrys problemau neu atal troseddu. I fynd i’r afael â hyn, mae Heddlu Gwent yn creu porth ymgysylltu electronig mewn cydweithrediad â llu cyfagos. Mae Heddlu Gwent yn datblygu ei allu i olrhain presenoldeb a symudiad staff a cherbydau mewn cymdogaethau yn electronig er mwyn gallu deall a dangos pa mor effeithiol mae’n gweithredu ar bryderon y gymuned. Nid yw’r gwaith gwella hwn wedi’i orffen eto, ac mae angen ei werthuso i ddeall ei effaith ar leihau troseddu a gwella hyder y cyhoedd.
Mae gan Heddlu Gwent ymagwedd gadarnhaol ac effeithiol tuag at blismona, yn seiliedig ar dystiolaeth a datrys problemau
Mae Dangos y Drws i Drosedd yn fenter gan y llu i atal, targedu a lleihau bwrgleriaeth, trin nwyddau wedi’u dwyn, dwyn o orsafoedd petrol, a’r niwed sy’n deillio o’r math hwn o droseddu. Mae’n gwneud hyn drwy rannu amrywiaeth o wybodaeth gyda phartneriaid cymunedol, diwydiant a gorfodi’r gyfraith. Mae tîm Dangos y Drws i Drosedd yn rhoi cyngor a llenyddiaeth wedi’u teilwra i fanwerthwyr a busnesau gwledig. Mae gwybodaeth a deallusrwydd yr heddlu a phartneriaid am droseddwyr ac eiddo sydd wedi’u dwyn yn cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio i gael gwarantau chwilio ac arestio troseddwyr.
I ddechrau, menter beilot oedd Dangos y Drws i Drosedd, gan ddefnyddio cyllid Strydoedd Saffach. Mae bellach yn dîm parhaol ar ôl i’r llu werthuso ei effeithiolrwydd drwy ddadansoddi canlyniadau troseddau, swm a gwerth eiddo sy’n cael ei adfer, a’r effaith gadarnhaol ar hyder y cyhoedd.
Mae arweinydd datrys problemau’r llu, sy’n gweithio o’r hyb datrys problemau, yn cynghori ar dactegau sydd wedi llwyddo o’r blaen. Gall yr holl staff ddod o hyd i enghreifftiau o gynlluniau plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau, ynghyd â phecyn cymorth tactegol a gwybodaeth weithredol, ar fewnrwyd y llu. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys sut i gael gorchmynion sifil, tactegau i leihau troseddau gwledig, ac enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol lleol a chenedlaethol.
Roedd cynlluniau plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau a archwiliwyd gan ein harolygiad yn seiliedig ar sganio a dadansoddi cadarn. Roeddent yn cael eu diweddaru a’u hadolygu’n rheolaidd gan oruchwylwyr. Cafodd cynlluniau a gwblhawyd eu gwerthuso a’u graddio, a rhoddwyd adborth i arweinwyr ardaloedd plismona lleol i hyrwyddo gwelliannau.
Mae angen i’r llu wneud yn siŵr ei fod yn deall ac yn lliniaru effaith y galw a newid sefydliadol ar blismona yn y gymdogaeth
Mae’r llu yn caniatáu i swyddogion cymdogaeth a staff eraill gefnogi plismona ymateb pan fo’r galw’n uchel. Ond dywedodd swyddogion cymdogaeth y siaradom â nhw eu bod yn aml yn cael y gwaith o ateb y galw am ymateb. Golyga hyn na allent ganolbwyntio ar ymgysylltu a datrys problemau ar gyfer eu cymunedau, hyd yn oed pan anfonwyd hwy i ddigwyddiadau yn eu hardal. Dywedodd staff a goruchwylwyr wrthym nad oes dull o fesur pa mor aml y caiff staff eu defnyddio i gyflawni tasgau sy’n eu tynnu oddi wrth eu gwaith plismona yn y gymdogaeth. Dywedont wrthym hefyd nad oes dull o fesur effaith hyn.
Dywedodd sawl CSO wrth ein harolygwyr am ddiffyg arweinyddiaeth gyson o fewn timau plismona yn y gymdogaeth. Er enghraifft, dywedodd rhai staff eu bod wedi cael 4 goruchwyliwr newydd mewn 18 mis, gan ei wneud yn ofynnol iddynt helpu rhingylliaid newydd i ymgyfarwyddo â’u rolau yn barhaus. Ac mae ymgeiswyr swyddogion heddlu aflwyddiannus weithiau’n cael cyfle i fod yn CSO dros dro, gyda’r bwriad o ailymgeisio i fod yn swyddog heddlu yn y dyfodol. Dywedodd rhai CSO wrthym i hyn wneud iddynt deimlo bod eu rôl yn cael ei dibrisio.
Dywedodd rhai swyddogion heddlu wrthym nad oeddent wedi cael hyfforddiant diweddar ar ddeddfwriaeth berthnasol na datrys problemau ar gyfer eu rôl. Dywedodd rhai CSO wrthym nad ydynt yn elwa o ddatblygiad proffesiynol parhaus na hyfforddiant datrys problemau o’r un ansawdd â’u cydweithwyr sy’n swyddogion heddlu. Er i’r llu ddweud wrthym ei fod wedi dechrau gwneud hynny yn ddiweddar, dylai sicrhau ei fod yn cwblhau mabwysiadu’r rhaglen hyfforddiant plismona yn y gymdogaeth Cymru gyfan.
Da
Ymateb i’r cyhoedd
Mae Heddlu Gwent yn annigonol am ymateb i’r cyhoedd.
DIWEDDARIAD: Rhwng 25 a 29 Medi 2023, gwnaethom ailedrych ar yr heddlu i adolygu cynnydd yn erbyn yr achos pryder hwn.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymateb i’r cyhoedd.
Mae Heddlu Gwent yn gwella sut y defnyddia dechnoleg i helpu ag adrodd am a chynnal ymchwiliad cychwynnol troseddau a digwyddiadau
Mae’r ddesg ddigidol 24 awr a grëwyd yn ddiweddar yn defnyddio technoleg i ymateb i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â’r heddlu gan ddefnyddio Single Online Home, Twitter, Facebook ac e-bost yn Gymraeg ac yn Saesneg. Defnyddir gwybodaeth i greu adroddiadau troseddau a digwyddiadau a phenderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol. Mae’r tîm ymateb rhithwir (VRT) newydd ei sefydlu yn defnyddio technoleg fideo-gynadledda GoodSam i gymryd adroddiadau o droseddu. Mae hyn yn caniatáu i ddioddefwyr a thystion rannu eu lleoliad, a siarad drwy fideo byw gyda’r VRT gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. Golyga hyn y gall y llu barhau i gasglu gwybodaeth werthfawr am droseddau a digwyddiadau yn gyflym, er nad oes heddwas yn bresennol yn gorfforol.
Mae’r llu’n rhagweld y bydd y VRT yn helpu i sicrhau y caiff swyddogion ymateb eu defnyddio dim ond pan fydd angen eu presenoldeb corfforol. Bydd hyn, yn ei dro, yn gwella pa mor brydlon ac effeithiol mae swyddogion yn mynd i ddigwyddiadau. Er yn addawol, nid yw effeithiolrwydd y VRT wrth reoli galw gan sicrhau bod troseddau’n cael eu hymchwilio ar ran y cyhoedd yn briodol wedi’i werthuso’n drwyadl eto.
Mae Heddlu Gwent yn deall ac yn rheoli ei alw dyddiol am ymateb i ddigwyddiadau yn dda, ond yn aml nid oes digon o staff neu gerbydau ar gael
Canfu ein harolygiad fod y llu yn deall ac yn rheoli’r galw dyddiol am ymateb yn dda drwy gyfarfodydd rheoli dyddiol. Mae galwadau am wasanaeth, diogelu pobl agored i niwed neu ar goll, ac arestio troseddwyr dan amheuaeth i gyd yn cael eu blaenoriaethu gan ddefnyddio swyddogion ymateb a staff o adrannau eraill yn hyblyg.
Ond dywedodd llawer o dimau ymateb y siaradom â nhw eu bod yn gweithredu gydag oddeutu hanner isafswm y nifer o swyddogion a argymhellir gan y llu. Mewn rhai lleoliadau yr ymwelodd ein harolygiad â nhw, dywedodd staff wrthym nad oedd digon o gerbydau ar gael, gyda swyddogion angen patrolio neu ymateb mewn parau yn lle ar wahân. Gallai hynny effeithio ar faint o ddigwyddiadau y gallai’r llu fynd iddynt yn brydlon. Mae’r llu wedi buddsoddi mewn technoleg i’w helpu i ddeall dyraniad mwyaf effeithlon ei fflyd cerbydau.
Bu’r llu’n araf yn mynd i’r afael â rhai o’r ffactorau sy’n ei atal rhag darparu gwasanaeth amserol i’r cyhoedd. Nid yw’r llu wedi mynd i’r afael â rhai meysydd yn brydlon lle gallai wella ei ymateb i ddigwyddiadau, er bod data ar gael yn rhwydd a oedd yn dangos y problemau. Yn sgil ein hadborth, mae’r llu wedi creu cyfarfod rheoli dyddiol a chynllun gwella i fonitro a gwella sut mae’n ymateb i’r cyhoedd a pha mor gyflym mae’n mynychu digwyddiadau. Ni ddechreuodd y gwaith gwella hwn, fodd bynnag, tan ar ôl canfyddiadau ein hasesiad o’r gwasanaeth dioddefwyr. Ar adeg ein harchwiliad, nid oedd wedi arwain at welliannau sylweddol, cyson na pharhaus.
Annigonol
Ymchwilio i droseddau
Mae Heddlu Gwent angen gwella wrth ymchwilio i droseddau.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn ymchwilio i droseddau.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio i wella trefniadaeth ei dimau ymchwilio troseddol, ond nid yw’n glir a fydd hyn yn arwain at safonau ymchwilio gwell ar ran y cyhoedd
Mae’r llu’n ad-drefnu ei dimau ymchwilio, gan ddefnyddio dadansoddiad o’r gweithlu a data galw er mwyn deall faint o staff hyfforddedig y mae eu hangen i ymchwilio’n effeithiol i droseddau.
Mae Heddlu Gwent nawr yn cymryd rhan yn Ymgyrch Soteria, sef ymagwedd newydd sy’n ceisio gwneud ymchwiliadau i drais a throseddau rhywiol difrifol yn fwy trylwyr ac effeithiol, a lleihau’r tebygolrwydd o aildroseddu. Mae’r tîm ymchwilio trais arbenigol newydd yn gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol gyda’r nod o sicrhau gwell mynediad at gyfiawnder i ddioddefwyr. Nid yw effeithiolrwydd y gwasanaeth a ddarperir gan y timau ymchwilio i drais, ac a oes ganddynt adnoddau priodol, wedi’u gwerthuso’n llawn eto.
Cafodd ein harolygiad swyddogion ymateb yn gyfrifol am wneud cynnydd da gyda niferoedd uchel o achosion troseddol, gan gynnwys troseddau meddiant cyffuriau a lladrata, wrth angen ymateb i alwadau brys am wasanaeth o hyd hefyd. Roedd cyngor goruchwyliwr ar goll weithiau. Mynegodd swyddogion ddiffyg hyder yn eu hyfforddiant i lunio ffeiliau achos a chyflawni eu rhwymedigaethau i ddatgelu deunydd a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliadau yn unol â chanllawiau’r twrnai cyffredinol.
Er mwyn helpu i gynyddu’r tebygolrwydd o erlyniadau llwyddiannus ar ran dioddefwyr, mae’r llu wedi ehangu ei dîm adeiladu ffeiliau achos cam-drin domestig peilot i gynnwys pob ymchwiliad i drosedd nad yw’n gymhleth. Bwriedir i’r tîm newydd fod yn rhan o hyb ymchwilio wedi’i staffio gan gwnstabliaid heddlu, ditectifs ac ymchwilwyr staff heddlu. Bwriedir iddo leihau’r galw ar swyddogion rheng flaen. Ond, am nad oes gan y llu’r adnoddau i allu gweithredu hyb cwbl weithredol tan haf 2023, ni ellir asesu’r effaith ar wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i ddioddefwyr troseddau eto.
Dylai’r llu sicrhau bod ei waith cadarnhaol i gefnogi dioddefwyr trosedd yn gyson
Mae’r uned gofal dioddefwyr yn gweithio’n dda i wneud yn siŵr bod y llu yn cyflawni ei rwymedigaethau ynghylch y cod dioddefwyr. Mae dioddefwyr trosedd yn cael gwybod am ddatblygiadau, eu cyfeirio at asiantaethau allanol lle bo angen, a’u cefnogi drwy’r broses gyfiawnder troseddol. Mae’r llu’n cynnal arolygon i ddeall pa mor fodlon y mae dioddefwyr trosedd ar eu profiad o bob cam o’r broses ymchwilio. Yna ystyrir canlyniadau’r arolwg mewn cyfarfodydd llywodraethu.
Rhaid cydbwyso gwaith cadarnhaol yr uned gofal dioddefwyr, fydd bynnag, â chanfyddiadau ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr a’n gweithgarwch arolygu eraill. Gwelsom fod swyddogion wedi ymgysylltu’n dda â dioddefwyr mewn 49 o 60 achos a adolygwyd gennym, gydag amlder anghyson o gyswllt â dioddefwyr.
Oni bai bod pob dioddefwr trosedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hysbysu drwy gydol ymchwiliadau, gallent golli hyder, tynnu eu cefnogaeth i erlyniadau ar unrhyw adeg, a bod yn amharod i adrodd am drosedd yn eu herbyn yn y dyfodol.
Angen gwella
Amddiffyn pobl fregus
Mae Heddlu Gwent angen gwella am amddiffyn pobl fregus.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn amddiffyn pobl fregus.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio’n dda i ddiogelu plant ac oedolion sydd wrth risg camfanteisio rhywiol neu droseddol a chaethwasiaeth fodern
Mae gan y llu dîm penodol o swyddogion i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed rhag camfanteisio rhywiol neu droseddol. Mae’r tîm yn defnyddio dioddefwyr, troseddwyr, lleoliadau a dadansoddi themâu. Mae hyn yn ei helpu i ddilyn ac amharu ar weithgarwch troseddol a phenderfynu sut i ddiogelu plant gydag asiantaethau partner fel rhan o’r panel camfanteisio plant amlasiantaeth. Roedd asiantaethau partner yn siarad yn gadarnhaol am amlder ac ansawdd y trefniadau rhannu gwybodaeth, sy’n caniatáu i bob gweithiwr proffesiynol ddeall y risgiau i bobl agored i niwed yn gynhwysfawr. Er bod niferoedd achosion yn uchel i’r rhan fwyaf o swyddogion, canfuwyd bod cynlluniau rheoli risg yn cael eu diweddaru’n rheolaidd a’u goruchwylio’n dda.
Mae’r llu yn cymryd rhan mewn cynllun peilot addawol sy’n cynnwys y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau o bobl yr amheuir eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn cael eu trafod gan y llu a phartneriaid diogelu. Golyga hyn bod achosion yn debygol o gael eu hymchwilio a bod dioddefwyr agored i niwed yn cael eu diogelu rhag camfanteisio pellach yn gyflymach.
Mae gan y llu dimau ymroddedig sefydledig i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig, a allai gael eu staffio’n well. Nid oes gan rai staff ddealltwriaeth gynhwysfawr o ddioddefwyr agored i niwed
Mae’r tîm diogelu cam-drin domestig yn adolygu adroddiadau cam-drin domestig newydd ac yn creu cynllun diogelwch wedi’i deilwra ar gyfer anghenion y dioddefwr. Mae’r tîm yn ychwanegu marcwyr rhybudd at y system cofnodi troseddau a digwyddiadau yn y llu, ac yn rhoi gwaith dilynol i staff i gadw’r dioddefwr yn ddiogel. Mae’r tîm diogelu cam-drin domestig hefyd yn gwneud gwaith samplu a sicrhau ansawdd ar asesiad risg priodol rhai digwyddiadau cam-drin domestig. Dysgom, fodd bynnag, fod y tîm yn gweithredu gyda phedwar swyddog safonau ymchwilio yn hytrach na’i gapasiti llawn o chwech. Mae hyn yn cynyddu llwyth gwaith aelodau staff unigol.
Cawsom fod y llu yn credu bod swyddogion a rhingylliaid ar y cyfan yn barnu difrifoldeb y risg i ddioddefwyr yn gywir. Weithiau, fodd bynnag, maent yn methu â chydnabod ffactorau a allai gynyddu’r perygl i ddioddefwyr, megis dangosyddion ymddygiad gorfodi a rheoli, neu wahanu’n ddiweddar o bartner treisgar. Ac roedd rhai staff ystafell reoli methu dangos dealltwriaeth i’n harolygwyr bod pobl agored i niwed yn cael eu categoreiddio’n ehangach na phlant a dioddefwyr cam-drin domestig.
Mae’r llu’n parhau i hyfforddi swyddogion a staff i allu cydnabod a deall bregusrwydd. Ond oni bai bod swyddogion a staff yn nodi achosion o gam-drin domestig yn effeithiol, efallai na fyddant yn gallu atal dioddefwyr rhag dioddef niwed difrifol.
Mae angen i Heddlu Gwent wella’r ffordd y mae’n cofnodi ac yn rheoli adroddiadau o blant coll
Yn gyffredinol, mae polisi pobl goll y llu yn gyson ag arfer a argymhellir gan arferion proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona, er nad yw’n defnyddio’r categori ‘dim risg amlwg’ ar gyfer plant yr adroddwyd eu bod ar goll heb fod unrhyw risgiau amlwg i’w diogelwch. Yn hytrach, cedwir adroddiadau o’r fath ar y system gorchymyn a rheoli fel ‘pryder ynghylch diogelwch’. Canfu ein harolygiad, fodd bynnag, nad oedd y llu wedi rhoi unrhyw ganllawiau safonol i staff ystafell reoli er mwyn gwirio pryd neu os oedd y plant hynny wedi dychwelyd adref, neu a oeddent nawr wrth risg. Felly, gallai plant fod yn agored i niwed corfforol, emosiynol neu rywiol difrifol am beth amser heb wirio eu lles.
Yn ogystal, nid oedd y llu’n gallu adrodd yn gywir y categoreiddio asesu risg cychwynnol ar gyfer 14.1 y cant o’r 2,725 o ddigwyddiadau yn ymwneud â phlant coll yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022. Os nad yw’r llu’n gwybod pa mor ddifrifol yw’r risgiau i blant coll, ni all fod yn hyderus ei fod wedi cymryd camau priodol i’w cadw’n ddiogel. Ni all ychwaith ddefnyddio ei ddata mewn perthynas â’r nifer o blant coll i ragweld faint o staff y mae eu hangen arno i ateb y galw yn y dyfodol.
Mae angen i Heddlu Gwent wella pa mor effeithiol mae’n defnyddio pwerau i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig
Mae’r cynllun datgelu trais domestig ‘hawl i wybod’ yn caniatáu i’r heddlu ddatgelu gwybodaeth yn rhagweithiol i unigolion am hanes blaenorol eu partner o gam-drin domestig, lle byddai gwneud hynny’n helpu dioddefwyr posib i wneud penderfyniadau ynghylch eu diogelwch personol. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, fodd bynnag, cymhareb isel o 0.2 cynllun datgelu trais domestig oedd yn datgelu ceisiadau am achosion ‘hawl i wybod’.
Yn ogystal, fel rhan o’n hasesiad o wasanaethau dioddefwyr, gwelsom yn yr wyth achos lle gellid bod wedi cael gorchymyn amddiffyn megis DVPN, DVPO neu Orchymyn Amddiffyn rhag Stelcio i helpu i gadw dioddefwyr yn ddiogel, ni chymerwyd y cyfle. Er mwyn cefnogi ei fwriad presennol i hyfforddi staff o fis Hydref 2022 ymlaen, mae’r llu wedi gweithredu ar y canfyddiadau hyn, gyda ffocws dyddiol ar gynyddu’r nifer o DVPN awdurdodedig. Fodd bynnag, mae cyfraddau trosi DVPN, sy’n diogelu dioddefwyr am hyd at 48 awr, i DVPO, a roddir gan lys ac sy’n para hyd at 28 diwrnod, wedi gostwng. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, trosodd y llu 76 o 77 DVPN awdurdodedig i geisiadau DVPO. Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi trosi 34 o 53 o DVPN awdurdodedig i geisiadau DVPO rhwng 1 Medi a 30 Tachwedd 2022.
Oni bai bod DVPN yn cael eu trosi’n gyson ac yn effeithiol i DVPO, gall eu gwerth ataliaeth leihau, gan annog drwgweithredwyr a niweidio hyder a chefnogaeth dioddefwyr.
Angen gwella
Rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth
Mae Heddlu Gwent yn dda am reoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn rheoli troseddwyr a’r rhai dan amheuaeth.
Mae Heddlu Gwent yn defnyddio prosesau sefydledig i flaenoriaethu ac arestio pobl dan amheuaeth yn dda
Fel rhan o’n hasesiad o wasanaethau dioddefwyr, gwelsom arestio o fewn amserlen briodol mewn 27 o’r 29 achos a adolygom. Mae cyfarfodydd rheoli dyddiol yn adolygu ac yn blaenoriaethu arestio troseddwyr dan amheuaeth, gan ddefnyddio staff o bob adran sy’n gyfrifol am blismona gweithredol dydd i ddydd i wneud yn siŵr bod arestio’n digwydd yn gyflym. Mae timau’r adran ymchwilio i droseddau yn defnyddio rhestr drosglwyddo o bobl dan amheuaeth, sy’n un o swyddogaethau’r system cofnodi troseddau a digwyddiadau. Ac mae’r llu wedi gwella ei ganllawiau i staff ar gyfer cylchredeg hunaniaeth pobl dan amheuaeth ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
Golyga hyn fod staff yn canolbwyntio ar ddal troseddwyr dan amheuaeth ar ran dioddefwyr, ac y gallant ddefnyddio systemau gwybodaeth i hysbysu cydweithwyr yn brydlon ynghylch unigolion y mae angen eu harestio.
Mae gan y llu lywodraethu, polisi a chraffu clir i sicrhau defnydd priodol o fechnïaeth cyn cyhuddo, rhyddhau dan ymchwiliad, a phresenoldeb gwirfoddol troseddwyr dan amheuaeth
Mae’r gweithgor mechnïaeth a rhyddhau dan ymchwiliad (RUI) yn defnyddio set gynhwysfawr o ddata i wneud yn siŵr bod goruchwylwyr yn archwilio’r cyfiawnhad dros roi mechnïaeth a’r hyd amser y mae pobl dan amheuaeth yn parhau ar fechnïaeth. Mae system cofnodi troseddau a digwyddiadau y llu yn atal ymchwiliadau rhag cael eu cwblhau, oni bai bod cofnodion dalfa wedi eu cau. Mae hyn yn helpu i sicrhau nad yw troseddwyr dan amheuaeth yn aros ar fechnïaeth neu’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad am gyfnod hirach na’r angen.
Roedd yr holl staff a oedd yn rhan o’r ymchwiliad i drosedd a rheoli mechnïaeth y gwnaethom siarad â nhw yn gallu esbonio’r prosesau ar gyfer awdurdodi ac adnewyddu’r defnydd o fechnïaeth a RUI. Mae hyn yn golygu, os yw staff a goruchwylwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau i ddefnyddio pwerau cyfreithiol i reoli pobl dan amheuaeth, y bydd dioddefwyr troseddau wedi’u diogelu’n ddigonol ac yn cael gwasanaeth priodol.
Dylai Heddlu Gwent sicrhau bod ymchwilwyr yn dilyn ei brosesau o ran defnydd priodol o fechnïaeth, RUI a mynychu gwirfoddol
Mae arolygwyr dalfa ymroddedig yn awdurdodi rhyddhau pobl dan amheuaeth ar fechnïaeth yn ystod y dydd a gyda’r hwyr. Mae hyn yn golygu bod penderfyniadau ynghylch defnyddio pwerau i reoli pobl dan amheuaeth i ddiogelu dioddefwyr yn aml yn cael eu gwneud gan y goruchwylwyr mwyaf gwybodus a phrofiadol.
Mae gan y llu brosesau cynhwysfawr ac effeithlon ar gyfer cofnodi presenoldeb gwirfoddol troseddwyr dan amheuaeth mewn gorsafoedd heddlu i gael eu cyfweld am droseddau. Cyn presenoldeb rhywun dan amheuaeth, rhaid i swyddogion ymchwilio gwblhau asesiad er mwyn deall a rheoli unrhyw risg o niwed y gallai’r person dan amheuaeth ei achosi i’w hunain neu eraill. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael os oes angen. Mae presenoldeb pobl dan amheuaeth mewn gorsaf heddlu yn cael ei gofnodi ar system ddalfa’r llu, ac mae eu hawliau cyfreithiol yn cael eu hesbonio gan ringyll dalfa. Er mwyn sicrhau y defnyddir y gweithdrefnau’n briodol, mae angen awdurdod arolygydd os oes disgwyl y bydd drwgweithredwr cam-drin domestig dan amheuaeth yn mynychu’n wirfoddol yn hytrach na’i arestio.
Mae tîm ymroddedig yn defnyddio dyddiadur mechnïaeth ac yn gosod negeseuon atgoffa i swyddogion yn yr achos ar system ddalfa’r llu. Mae cyfrifiannell mechnïaeth a dogfennau cyfarwyddyd ar gael i swyddogion eu defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn deall ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau i wneud yn siŵr y defnyddir mechnïaeth yn briodol.
Fodd bynnag, dysgom am nifer o enghreifftiau lle’r oedd pobl dan amheuaeth wedi’u harestio wedi dychwelyd ar fechnïaeth heb i ymchwilwyr ddilyn llinellau ymchwiliad. Cawsom wybod hefyd am achosion lle nad oedd y swyddogion ar gael i esbonio cynnydd yr ymchwiliad. Yna ni fyddai gan swyddogion y ddalfa unrhyw opsiwn heblaw caniatáu i fechnïaeth ddarfod i RUI. Mae hyn yn golygu nad yw dioddefwyr, gan gynnwys dioddefwyr troseddau cam-drin domestig, bellach yn cael eu diogelu rhag yr unigolion sydd dan amheuaeth gan amodau mechnïaeth.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio’n dda i ddiogelu dioddefwyr drwy reoli troseddwyr sy’n cyflawni troseddau cymdogaeth a cham-drin domestig, gan ddefnyddio rhai mentrau addawol
Mae Heddlu Gwent yn defnyddio dull sgôr ail-garcharu grŵp troseddwyr i benderfynu a yw risg troseddwyr o aildroseddu yn debygol leihau drwy reoli troseddwyr integredig cefnogol. Mewn rhai ardaloedd, mae timau rheoli troseddwyr integredig yn gweithio gyda’r gwasanaeth prawf i reoli troseddwyr sy’n peri risg uchel neu uchel iawn o niwed i ddioddefwyr, drwy Rheoli Troseddwyr Difrifol a Pheryglus Integredig Cymru.
Mae Heddlu Gwent yn un o chwe llu sy’n rhan o brosiect peilot tagio GPS Troseddau Meddiangar ar gyfer troseddwyr difrifol dwyn, lladrata a bwrgleriaeth sydd wedi’u rhyddhau o garchar. Gellir mapio symudiadau troseddwyr yn erbyn ymchwilio i’r mathau hyn o droseddau, fel y gellir eu rhwystro rhag aildroseddu neu eu hystyried fel pobl dan amheuaeth posib.
Mae’r llu’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid a’r Gwasanaeth Prawf mewn cyfarfod pontio Y2A (Ieuenctid i Oedolion) i drafod unrhyw blant sy’n troseddu sydd wedi neu ar fin cyrraedd 17 oed a hanner. Yn y modd hwn, gellir ystyried y risg barhaus y bydd plant yn cyflawni troseddau pellach neu fwy difrifol wrth iddynt drosglwyddo i drefniadau cyfiawnder troseddol i oedolion.
Mae’r treial Tasgau a Chydlynu Amlasiantaeth yn dadansoddi diweddaredd, amlder a difrifoldeb troseddau a digwyddiadau cam-drin domestig. Golyga hyn y gall y llu adnabod y rhai sy’n cyflawni cam-drin domestig ym mhob ardal blismona leol sydd fwyaf tebygol o achosi niwed pellach neu fwy difrifol i ddioddefwyr. Yna cynigir rhaglenni dargyfeiriol i droseddwyr gyda’r bwriad o leihau eu troseddu. Er ei bod yn addawol, nid yw’r fenter wedi’i gwerthuso, ac mae’n rhy gynnar i farnu pa mor effeithiol y bydd hi o ran lleihau’r risg o aildroseddu.
Mae’r llu’n rheoli’r troseddwyr mwyaf difrifol yn unol â safonau cenedlaethol. Dylai wneud yn siŵr bod ansawdd yr oruchwyliaeth yn gadarn er mwyn mynd i’r afael â gwaith hwyr yn gyflym
Mae’r llu’n asesu ac yn rheoli’r bygythiad posib i’r cyhoedd gan droseddwyr rhywiol a threisgar drwy ddefnyddio rheolaeth risg weithredol. Cawsom fod y rhan fwyaf o gynlluniau rheoli risg yn gyfredol, yn fanwl ac yn drylwyr, gydag ychydig o ôl-groniadau asesu risg gweithredol. Ond canfu ein harolygiad hefyd y bu crynhoad diweddar o weithgarwch ymweld gan reolwyr troseddwyr. Cyn hyn, roedd llawer o ymweliadau â throseddwyr yn hwyr.
Dysgom fod timau plismona yn y gymdogaeth wedi cael eu briffio’n dda ynghylch troseddwyr rhyw cofrestredig, troseddwyr peryglus, a’r rhai sydd ar fin cael eu rhyddhau o’r carchar. Mae swyddogion deallusrwydd maes a swyddogion lleihau troseddu ac anhrefn yn rhoi’r briffiad. Gall staff cymdogaeth ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddiogelu eu cymunedau.
Mae tîm ymchwilio ar-lein heddlu’r llu yn ymchwilio i droseddwyr sydd dan amheuaeth cyrchu delweddau anweddus o blant. Gall yr uned ymdopi â’r llwyth gwaith, gydag ôl-groniadau bach. Ond dylai’r llu sefydlu amserlenni penodol ar gyfer pa mor aml y mae adolygiadau o’r risgiau a gyflwynir gan achosion sydd wedi pentyrru yn digwydd. Heb adolygiadau rheolaidd wedi’u trefnu, gall y potensial i droseddwyr allu cyflawni troseddau difrifol yn erbyn pobl agored i niwed gynyddu.
Mae tîm ymchwilio ar-lein yr heddlu yn mynd ar drywydd troseddwyr dan amheuaeth drwy weithredu gwarantau chwilio a defnyddio pwerau arestio a mechnïaeth yn briodol. Defnyddir ymchwilwyr cyfryngau digidol i wneud yn siŵr y gellir cyrchu cynnwys digidol o ddyfeisiau electronig a’u lawrlwytho fel tystiolaeth pan fydd gwarantau’n cael eu gweithredu. Fel hyn, gall tîm ymchwilio ar-lein yr heddlu sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth a thystiolaeth i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell ac i ddiogelu dioddefwyr cyn gynted â phosib.
Gall ceisiadau arholi di-frys i’r uned archwilio fforensig digidol gymryd pump i chwe mis i’w cwblhau, ond gellir delio ag achosion risg uchel mewn mater o ddyddiau.
Yn fisol, mae swyddog adnabod dioddefwyr y llu yn rheoli’r system cronfa ddata delweddau cam-drin plant, yn ogystal â meddalwedd adnabod rhannu ffeiliau cyfoed i gyfoed y System Diogelu Plant Ar-lein Rhag Troseddau ar y Rhyngrwyd. Caiff y system diogelu plant ei hadolygu o leiaf ddwywaith y mis. Yn y modd hwn, gall y llu ddefnyddio’r holl systemau gwybodaeth yn effeithiol i gefnogi ymchwiliadau i ddioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol ar-lein, a’u diogelu.
Ceisir gorchmynion amddiffyn niwed rhywiol adeg euogfarn ar gyfer pob achos, ac fe’u drafftiwyd gan ringyll dditectif yn y tîm rheoli troseddwyr rhywiol a throseddwyr treisgar i sicrhau gwaharddiadau wedi’u teilwra, cyson, o ansawdd da ar gyfer y rhai sy’n peri risg rywiol i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o roi gorchmynion sy’n diogelu dioddefwyr posib yn effeithiol.
Mae atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol yn cael eu cwblhau ar gam cynnar, ac yna eto ar ôl cael a gweithredu gwarantau. Mae hyn yn sicrhau y gall partneriaid helpu i reoli diogelu pobl sydd wrth risg o hyd.
Canfyddom y gallai goruchwyliaeth fod wedi bod yn fwy pendant wrth sicrhau bod rheolwyr troseddwyr yn cael mynediad i gartrefi troseddwyr yn ddi-oed. Canfu ein harolygiad fod rhai ymweliadau wedi’u cyhoeddi ymlaen llaw. Er nad oedd hyn yn gyffredin, mae’n rhywbeth y dylai’r llu geisio osgoi dod yn gyffredin.
Mae’n ymddangos bod cofnodion y llu a archwiliom yn dangos cynnal ymweliadau â throseddwyr rhyw cofrestredig gan reolwyr troseddwyr unig. Dywedodd y llu wrthym nad oedd pob aelod staff a oedd yn rhan o’r ymweliadau hynny wedi eu cofnodi bob tro. Mae hyn yn anghyson â’r arfer cadarnhaol a argymhellir gan ymarfer proffesiynol awdurdodedig. Canfuwyd bod yr ymweliadau unigol hyn wedi’u cymysgu â’r rhai a gynhelir gan ddau reolwr troseddwyr. Nodwyd gweithgarwch criw unigol ymddangosiadol, fodd bynnag, ar bob cofnod y cafodd yr archwiliodd ein harolygiad, sy’n dangos bod hyn yn arfer cyffredin. Mae’n bwysig bod yr heddlu yn ystyried yr arferion gorau cenedlaethol ar gyfer rheoli troseddwyr i amddiffyn enw da a lles staff a throseddwyr agored i niwed.
Da
Amharu ar droseddau difrifol a threfnedig
Yr ydym bellach yn arolygu troseddau difrifol a threfnedig (SOC) ar sail ranbarthol, yn hytrach nag arolygu pob llu yn unigol yn y maes hwn. Mae hyn er mwyn i ni allu bod yn fwy effeithiol ac effeithlon yn y modd yr arolygwn yr holl system SOC, fel sy’n cael ei osod allan yn strategaeth SOC Llywodraeth EM.
Mae pob llu yn mynd i’r afael â SOC trwy weithio gydag unedau troseddau trefnedig rhanbarthol (ROCU). Mae’r unedau hyn yn arwain yr ymateb rhanbarthol i SOC trwy roi mynediad at adnoddau ac asedau arbenigol i darfu ar y grwpiau troseddu trefnedig (OCG) sydd yn debygol o beri’r niwed mwyaf.
Trwy ein harolygiadau newydd, byddwn yn ceisio deall pa mor dda y mae lluoedd a ROCU yn gweithio mewn partneriaeth. O ganlyniad, yr ydym yn awr yn arolygu ROCU a’u lluoedd gyda’i gilydd ac yn adrodd am berfformiad rhanbarthol. Mae lluoedd a ROCU bellach yn cael eu graddio ac adroddir amdanynt mewn adroddiadau SOC rhanbarthol.
Ni chwblhawyd ein harchwiliad SOC o Heddlu Gwent eto. Byddwn yn cyfoesi ein gwefan gyda’n canfyddiadau (gan gynnwys gradd y llu) a dolen i’r adroddiad rhanbarthol unwaith i’r arolygiad gael ei gwblhau.
Adeiladu, cefnogi ac amddiffyn y gweithlu
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol am adeiladu a datblygu ei weithlu.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor dda y mae’r llu yn adeiladu ac yn datblygu ei weithlu.
Mae arweinyddiaeth Heddlu Gwent yn gweithio’n galed i hyrwyddo safonau moesegol cryf ac ymddygiad derbyniol, gan gynnwys pwysigrwydd adrodd am gamymddwyn
Cynhyrchir strategaeth hyder a diwylliant y llu mewn partneriaeth â swyddfa’r comisiynydd heddlu a throseddu. Mae’r strategaeth yn nodi sut y bydd yn gweithio i wella hyder y cyhoedd a’i weithlu bod Heddlu Gwent yn sefydliad moesegol, teg a diogel i weithio ynddo. Caiff safonau’r llu eu hyrwyddo gan yr uwch arweinwyr, a’u hatgyfnerthu mewn negeseuon, cyfarfodydd llywodraethu a hyfforddiant. Roedd bron pob aelod staff y siaradom â nhw yn ymwybodol o’r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt, ac yn siarad yn gadarnhaol am ymrwymiad arweinyddiaeth y llu.
Mae gan y llu fwrdd diwylliant sefydledig. Mae ganddo hefyd bwyllgorau moeseg mewnol ac allanol, gydag aelodaeth annibynnol. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad i’r tîm prif swyddogion ar faterion y mae’r llu yn eu hwynebu. Gwelsom ymwybyddiaeth anghyson o swyddogaethau’r pwyllgorau ymhlith rhai aelodau o’r gweithlu.
Mae’r llu’n gweithio i gynyddu ei ddefnydd o ymarfer myfyriol, a dysgom am rai enghreifftiau lle defnyddiwyd ymagwedd ‘gwersi a ddysgwyd’ i adrodd i staff wedi digwyddiadau. Mae’r adran safonau proffesiynol yn darparu hyfforddiant i helpu rheolwyr i ddeall sut y dylid trin achlysuron lle’r oedd ymddygiad swyddogion yn is na’r safonau disgwyliedig fel cyfleoedd i ddysgu ac i wella, yn hytrach na throi at weithdrefnau camymddwyn. Ond mae gan y llu ragor i’w wneud, er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn gweithredu’n foesegol yn gyson a bod yr holl staff o’r farn bod hyn yn wir.
Mae’r llu wedi gweithio gyda’r elusen Chwarae Teg i gynnal gweithdai gyda’r staff. Mae hyn mewn ymdrech i ddeall sut mae’r llu yn gwerthfawrogi, yn trin ac yn cyfathrebu â’i weithlu amrywiol. Mae Chwarae Teg hefyd yn arolygu staff ynghylch y pwnc hwn. Roedd canlyniadau arolwg 2021, a gyhoeddwyd yng ngwanwyn 2022, yn cynnwys sgoriau ffafriol uchel ar gyfer tegwch a chynhwysiant, gan gynnwys perthnasoedd gwaith. Ond yn bryderus, dywedodd nifer uchel o staff a swyddogion heddlu eu bod yn dyst neu’n destun ymddygiad amhriodol yn y gwaith, neu’n cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu rhywedd.
Roedd y rhan fwyaf o staff y gwnaethom siarad â nhw yn gwybod sut i ddefnyddio’r system adrodd gyfrinachol ar gyfer materion camymddwyn. Dywedodd staff hefyd bod gwybodaeth am y safonau disgwyliedig o ran amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn hawdd i’w canfod ar fewnrwyd y llu. Dywedodd y mwyafrif o’r staff a holom eu bod yn hyderus i adrodd am ymddygiad amhriodol, ac o gael cefnogaeth goruchwylwyr. Dywedodd y llu hefyd ei fod wedi darparu sesiynau hyfforddi gyda’r bwriad o roi’r wybodaeth a’r hyder i staff a goruchwylwyr adrodd am ddrwgweithredu. Roedd adroddiadau o gamymddwyn wedi cynyddu ers i’r sesiynau hynny gael eu rhedeg.
Dylai’r llu gael gwell dealltwriaeth o faint mae’r holl weithlu yn teimlo wedi’u gwerthfawrogi a’u cynnwys
Roedd y rhan fwyaf o staff y siaradom â nhw yn ymwybodol ohonynt, ac yn siarad yn gadarnhaol am gynllun Ignite, sy’n annog gweithwyr i wneud awgrymiadau am sut i wella’r ffordd y mae’r llu yn gweithio. Roeddent hefyd yn ymwybodol o’r cynllun gwobrwyo a chydnabod Byddwch yn Falch, ac yn siarad yn gadarnhaol amdano. Dywedodd rhwydweithiau staff, megis Ffederasiwn yr Heddlu; Unsain; a’r rhai sy’n ymwneud â chefnogi buddiannau staff mewn perthynas â’u rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, cefndiroedd ethnig lleiafrifol, ffydd neu anabledd; eu bod yn teimlo bod arweinyddiaeth y llu yn eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac yn gwrando arnynt.
Mae’r llu hefyd yn cynnal arolygon canfyddiad diwylliannol gydag ymunwyr i ddeall profiad staff iau mewn gwasanaeth. Dilynir i fyny ar y rhain bob chwe mis. Mae hyn yn cefnogi nod y llu i helpu staff newydd i deimlo’n barod am yrfa yn yr heddlu, ac i sicrhau bod modd gwneud gwelliannau a allai eu hatal rhag eisiau gadael.
Mae Chwarae Teg hefyd wedi cynnal arolygon. Dywedodd y llu wrthym fod arolwg 2020 wedi denu cyfradd ymateb o 21 y cant, a bod arolwg 2021 wedi cael adborth gan 18 y cant o’r gweithlu. Roedd dros chwarter yr ymatebwyr yn dangos diffyg hyder o ran tegwch a thryloywder prosesau hyrwyddo, ac mewn cyfleoedd gweithio hyblyg. Dylai’r llu ystyried y canfyddiadau hyn a sut i annog cyfradd ymateb uwch i gael canlyniadau cynrychioladol.
Mae’r llu’n parhau i weithio gyda Chwarae Teg i weithredu ar ganlyniadau gweithdai ac arolygon. Yn ddiweddar enillodd y llu Wobr Arian Chwarae Teg gan yr elusen am gydraddoldeb rhywedd, mewn cydnabyddiaeth am ei waith i greu gweithle cynhwysol. Nid yw’r llu wedi cynnal arolwg staff cyffredinol yn ddiweddar er mwyn deall hyder y gweithlu bod Heddlu Gwent yn lle diogel i weithio.
Oni bai bod gan y llu ddealltwriaeth dda o ddiwylliant a barn ei weithlu, mae’n annhebygol y bydd yn gallu hyrwyddo newid sefydliadol effeithiol.
Mae angen i Heddlu Gwent gymryd camau effeithiol i annog neu ganiatáu i staff barhau i weithio iddo
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, roedd gan Heddlu Gwent gyfradd ymuno o 13.1 y cant o swyddogion heddlu cyfwerth ag amser llawn (FTE). Hon oedd yr ail gyfradd ymuno uchaf ar draws yr holl luoedd, ac yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr o 9.2 y cant.
Ffigur 4: Cyfradd ymuno yr heddlu ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr yn y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2022
Sylwer: Cyfrifir y gyfradd ymuno drwy rannu’r nifer o ymunwyr drwy gydol y flwyddyn ariannol â chyfanswm y swyddogion ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, roedd cynnydd o 6.3 y cant yng nghyfanswm nifer FTE ei weithlu. Dyma oedd y cynnydd cyfrannol uchaf mewn maint FTE gweithlu holl luoedd Cymru a Lloegr y flwyddyn honno. Mae hyn yn golygu bod cyfran uchel o’i swyddogion yn ddibrofiad. Gall hyn yn ei dro olygu bod llai o staff profiadol yn gymwys neu eisiau symud i swyddi arbenigol, megis dod yn dditectif neu wneud cais am ddyrchafiad. Mae’r llu hefyd angen deall pam bod pobl eisiau gadael, ac yna eu hannog i aros. Er enghraifft, yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, roedd 40 y cant o’r heddweision FTE a adawodd Heddlu Gwent yn fenywod. Dyma oedd yr ail gyfran uchaf o fenywod sy’n gadael pob llu ledled Cymru a Lloegr. Mae staff yr heddlu mewn rolau arbenigol, megis dadansoddwyr, hefyd yn gadael y llu, sy’n golygu bod rolau cymorth pwysig yn wag. Mae’r llu’n cynnig cyfweliad wyneb yn wyneb i’r holl staff sy’n gadael neu’n nodi y gallent adael i ddeall eu rhesymau dros wneud hynny. Ond nid yw’r ddealltwriaeth hon wedi cyfieithu i wella lefelau cadw staff eto.
Mae angen i’r llu gynnal gweithlu sefydlog, medrus a phrofiadol er mwyn caniatáu iddo ddarparu gwasanaeth cyson o ansawdd uchel i’r cyhoedd.
Mae’r llu yn cymryd camau effeithiol fel bod ei weithlu yn adlewyrchu’i gymunedau’n well
Mae cynllun cydraddoldeb strategol ar y cyd a chynllun gweithredu cadarnhaol y llu yn rhoi’r cyfeiriad sydd ei angen ar yr heddlu i recriwtio a chadw gweithlu sy’n cynrychioli poblogaeth leol Gwent yn gywir. Mae data’r gweithlu yn helpu’r llu i ddeall cyfrannau a nodweddion amrywiol ei staff presennol, yn ogystal â staff a swyddogion heddlu newydd eu recriwtio. Mae’r tîm gweithredu cadarnhaol a chymdeithasau staff sy’n cynrychioli aelodau o’r gweithlu sydd â nodweddion gwarchodedig yn cynnal digwyddiadau recriwtio cymunedol. Maent hefyd yn cefnogi ac yn mentora recriwtiaid newydd a staff presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Mae’r gweithgarwch hwn wedi gweld peth llwyddiant. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, roedd 3.6 y cant o swyddogion FTE Heddlu Gwent o gefndiroedd lleiafrifol ethnig. Roedd hyn yn agos at gyfran y boblogaeth breswyl yng Ngwent sydd o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, sy’n 3.9 y cant.
Ond mae’r llu hefyd yn ymwybodol na all ddenu digon o geisiadau gan fenywod eto. Ym mis Chwefror 2022, dywedodd y llu wrthym mai dim ond 26.7 y cant o’i ymgeiswyr oedd yn fenywod. Ar 31 Mawrth 2022, roedd cynrychiolaeth fenywaidd swyddogion heddlu (FTE) yng Ngwent yn 34.8 y cant, a oedd yn uwch na chyfradd Cymru a Lloegr o 33.5 y cant. Ond, yn y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022, roedd 32.5 y cant o swyddogion sy’n ymuno â’r heddlu yn fenywod. Mae hyn yn is na’r gyfradd ar draws Cymru a Lloegr o 41.1 y cant.
Mae Heddlu Gwent yn darparu cymorth iechyd a lles cynhwysfawr i’r gweithlu, ond mae rhai staff yn amau ei effeithiolrwydd
Cafodd y llu ei adolygu gan wasanaeth lles cenedlaethol yr heddlu yn ddiweddar, a barnwyd ei fod yn darparu gwasanaeth da ar y cyfan.
Roedd y staff y siaradom â nhw yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch y ddarpariaeth lles a iechyd galwedigaethol a gynigir gan y llu. Adroddodd y staff am ychydig o achosion o oedi pan gawsont eu cyfeirio at yr adran iechyd galwedigaethol a lles, sydd hefyd yn rhoi cyngor i oruchwylwyr. Mae’r llu’n defnyddio Care First, gwasanaeth ar-lein i helpu swyddogion a staff i ymdopi â straen, gorbryder ac iselder. Mae hyn yn ategu’r gefnogaeth wyneb yn wyneb a gynigir.
Mae gwybodaeth gynhwysfawr am fentrau, gan gynnwys gwirfoddolwyr cymorth ymroddedig, ar gael ar fewnrwyd y llu. Er enghraifft, mae teithiau cerdded lles yn cael eu hyrwyddo, ac felly hefyd yr elusen genedlaethol Papyrus ar gyfer atal hunanladdiad. Caniateir i bencampwyr lles, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi cydweithwyr ag anghenion lles penodol, megis y rhai sy’n delio â’r menopos neu endometriosis, i ddefnyddio amser dyletswydd i wneud hynny. Mae’r llu’n gweithredu pasbortau lles i helpu gweithwyr i esbonio eu hanghenion niwroamrywiaeth, megis dyslecsia, i gydweithwyr a goruchwylwyr.
Dywedodd y rhan fwyaf o staff a siaradodd â ni am yr ymagwedd bersonol ac empathig a gymerodd uwch swyddogion pan oedd staff wedi profi trawma neu ymosodiadau. Mae rheoli risg trawma wedi’i ddeall yn dda, ac yn cael ei gynnig yn brydlon i staff. Mae Ymgyrch Hampshire, sy’n ei gwneud yn ofynnol i oruchwylwyr sicrhau bod cefnogaeth ar gael i swyddogion a staff sydd wedi dioddef ymosodiad, yn cael ei defnyddio’n briodol. I helpu’r gweithlu i reoli eu hiechyd eu hunain, mae’r llu wedi darparu hyfforddiant gwytnwch trawma.
Ond roedd llawer o staff yn teimlo bod rhai mentrau lles yn arwynebol ac nad ydynt, er eu bod yn dda eu bwriad, yn lliniaru ffactorau achosol salwch. Dywedodd staff yn y rhan fwyaf o adrannau, ond yn benodol yn yr adrannau ymateb, diogelu’r cyhoedd a’r ddalfa, wrth ein harolygwyr am eu pryderon ynghylch llwyth gwaith uchel a niferoedd staff isel. Arweiniodd hyn at lai o gyfleoedd i gymryd gwyliau blynyddol, morâl isel a diffyg teimlo eu bod wedi’u gwerthfawrogi.
Yn ogystal, mae’r llu wedi gwneud y penderfyniad i dalu swyddogion a ddewisodd gymryd amser i ffwrdd yn lle oriau goramser a weithiwyd os nad oeddent wedi cymryd yr amser hwnnw i ffwrdd o fewn tri mis. Er ei bod yn gyfreithlon gwneud taliadau o’r fath i ddigolledu swyddogion am weithio oriau hir, mae’n golygu na fyddant yn cael cyfle i gymryd amser i ffwrdd o’r gweithle i orffwys ac adfer.
Os nad yw’r llu’n mynd i’r afael yn effeithiol â’r ffactorau y mae’r gweithlu’n credu sy’n cael effaith niweidiol ar eu hiechyd, efallai na fydd darpariaeth lles gynhwysfawr hyd yn oed yn atal staff rhag mynd yn sâl.
Mae’r llu yn deall ac yn gweithio i ddiwallu anghenion datblygu’r gweithlu
Defnyddir system arfarnu’r llu, Perform, i adnabod staff dawnus sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd neu y mae angen cymorth arnynt i gynnal neu wella eu perfformiad. Rhannodd y staff y siaradodd ein timau â nhw farn gymysg ar hyn, gyda rhai’n disgrifio Perform fel offeryn datblygu defnyddiol ac eraill yn ei ddisgrifio fel ymarfer di-werth, ticio blwch.
Mae’r llu wedi penderfynu y dylid cynnal cyfarfodydd arfarnu rhwng staff a goruchwylwyr bob chwe mis yn hytrach na phob tri mis. Dywedodd y llu wrthym, fodd bynnag, o’r 1,973 o ffurflenni gwirio ym mis Tachwedd 2022, 1,579 a gwblhawyd (82.5 y cant).
Os bydd cyfarfodydd arfarnu wedi’u gohirio neu os nad ydynt yn digwydd, efallai na chymerir cyfleoedd i nodi anghenion lles a datblygu neu reoli a gwella perfformiad.
Mae gan Heddlu Gwent raglen hyfforddi’r gweithlu tair blynedd dreigl i wneud yn siŵr bod capasiti dysgu a datblygu yn gallu diwallu anghenion datblygiad proffesiynol parhaus yr heddlu. Caiff y rhaglen ei llunio gydag arweinwyr adrannol i wneud yn siŵr bod hyfforddiant yn diwallu anghenion y gweithlu.
Yn ddiweddar, mae’r llu wedi dechrau fframwaith datblygu arweinyddiaeth dwy flynedd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu arweinwyr moesegol, cynhwysol a thosturiol. Mae hyn yn cynnwys cwrs pum niwrnod i oruchwylwyr dros dro neu newydd eu dyrchafu. Mae’r cwrs yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i arwain staff, rheoli gwrthdaro a pherfformio, cael sgyrsiau anodd, a datblygu gwytnwch. Ac mae’r llu’n rhoi arian i staff astudio a pharatoi ar gyfer prosesau dyrchafu rhingylliaid i geisio denu rhagor o swyddogion i geisio dyrchafiad.
Er yn addawol, nid yw effeithiolrwydd y rhaglen o ran gwella safonau arweinyddiaeth wedi’i werthuso eto.
Digonol
Cynllunio strategol, rheoli’r sefydliad a gwerth am arian
Mae Heddlu Gwent yn ddigonol am weithredu’n effeithlon.
Prif ganfyddiadau
Yn yr adran hon rydym yn nodi ein prif ganfyddiadau sy’n ymwneud â pha mor effeithlon yw’r llu.
Mae’r llu’n gwneud defnydd teg o’r arian sydd ar gael iddo, ac mae ei gynlluniau’n uchelgeisiol, ond mae heriau cyllido i’w goresgyn
Mae’r llu’n drwyadl wrth reoli ei gyllid ac wedi datblygu dulliau soffistigedig o gyllidebu gyda llywodraethu cryf ar waith. Mae gan y llu strwythur da ar waith ar gyfer dyrannu ei gyllid a’i fuddsoddiad sydd ar gael yn effeithiol. Mae’n adolygu ei asedau ehangach yn rheolaidd, sy’n cynnwys fflyd a thechnoleg, i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad yn cefnogi darparu gwasanaethau yn effeithiol. Gall y cyhoedd fod yn sicr bod Heddlu Gwent yn rheoli ei gyllid yn effeithlon.
Ond mae heriau y mae angen i’r llu fynd i’r afael â nhw. Mae angen buddsoddi yn yr ystâd bresennol, ac mae gan y strategaeth ystadau heriau sylweddol o ran ystâd etifeddiaeth a fforddiadwyedd. Mae’r awydd i greu cyfleusterau modern a fydd yn gwella effeithlonrwydd yn cyflwyno her ariannu sylweddol.
Nodwyd bwlch ariannol hefyd o £6.8m dros ddwy flynedd nesaf y cynllun cyllid tymor canolig. Er bod gan y llu ddigon o gronfeydd wrth gefn i reoli rhai agweddau o’r bwlch hwn, mae’n ddibynnol ar ddefnyddio archebiannau ac arbedion effeithlonrwydd pellach i gefnogi ei uchelgais yn y dyfodol. Ond mae’r effaith hon wedi’i lliniaru gan y ffaith bod yr uwch swyddog sydd â chyfrifoldeb dros reoli adnoddau yn eglur ynghylch yr heriau y mae’r llu yn eu hwynebu, ac mae dealltwriaeth glir o fforddiadwyedd cynlluniau’r dyfodol.
Mae’r llu wedi ymrwymo i wella gwasanaethau drwy gydweithio effeithiol ac yn chwilio am gyfleoedd i weithio gydag eraill
Mae’r llu wedi ymrwymo i gydweithio ac yn chwilio am gyfleoedd i wella ei wasanaethau drwy weithio gyda Grŵp Plismona Cymru Gyfan a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cydweithrediadau ar waith gan y llu yn dangos llywodraethu cryf, gyda chefnogaeth adolygiadau ac archwiliadau strwythuredig. Mae’r rhain yn caniatáu i’r llu ddeall manteision cydweithio. Cefnogir hyn gan ddata a gwybodaeth reoli gynhwysfawr.
Daethom o hyd i enghreifftiau cadarnhaol o gydweithio, gan gynnwys y trefniadau Cynllunio Adnoddau Strategol ar y Cyd, a luniwyd gan y llu gyda Heddlu De Cymru. Defnyddir y rhain i gydlynu Rhaglen Ddyrchafu’r Heddlu ar draws y ddau lu. Mae’r system yn caniatáu i’r llu gefnogi ei staff yn fwy effeithiol, gan ddeall oriau a weithiwyd, goramser, cylchdroi a chynllunio olyniaeth. Mae gan y llu ddealltwriaeth glir hefyd o ofynion hyfforddiant a sgiliau a ddelir o fewn y sefydliad.
Mae’r llu yn gwella cynhyrchiant drwy ddatrysiadau technolegol, ond dylai sicrhau y defnyddir data i wella’r ffordd y rheolir y galw
Mae’r llu wedi ymrwymo i wneud arbedion a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon o weithio lle bynnag y bo modd. Mae wedi buddsoddi yn ei TG ac yn darparu technoleg gyfoes i’w weithlu, megis gliniaduron, i wella cynhyrchiant.
Mae’r llu hefyd wedi buddsoddi yn ei systemau data ac yn datblygu sut mae’n defnyddio data i wella perfformiad. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno apiau sy’n rhoi gwybodaeth i’r dadansoddwyr rheng flaen a pherfformiad. Cefnogir hyn gan ymwybyddiaeth dda o’r buddion y gall y buddsoddiad hwn eu cyflwyno. Ond mae angen i’r system ddata aeddfedu ymhellach, a dylid ei chefnogi gan ddadansoddiad effeithiol i wella’r ffordd y rheolir galw. Mae’r llu wedi dechrau gwneud hyn, yn enwedig o ran datblygu ei ddull o flaenoriaethu prosiectau. Mae hyn wedi egluro’n glir beth y mae’r llu eu hangen neu’n disgwyl ei gyflawni yn erbyn yr hyn y gall ei gyflawni’n rhesymol gyda’i adnoddau sydd ar gael.
Dylai’r llu hefyd sicrhau yr adolygir rhoi systemau TG ar waith, a bod swyddogion a staff yn defnyddio systemau newydd yn gyson ac yn effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau bod systemau’n darparu’r hyn a ddisgwylir drwy ddefnydd effeithiol.
Digonol
Am y data
I gyfieithu’r cynnwys hwn i’r Gymraeg, defnyddiwch y botwm Cymraeg frig y dudalen ar y chwith.
Data in this report is from a range of sources, including:
- Home Office;
- Office for National Statistics (ONS);
- our inspection fieldwork; and
- data we collected directly from all 43 police forces in England and Wales.
When we collected data directly from police forces, we took reasonable steps to agree the design of the data collection with forces and with other interested parties such as the Home Office. We gave forces several opportunities to quality assure and validate the data they gave us, to make sure it was accurate. We shared the submitted data with forces, so they could review their own and other forces’ data. This allowed them to analyse where data was notably different from other forces or internally inconsistent.
We set out the source of this report’s data below.
Methodology
Data in the report
British Transport Police was outside the scope of inspection. Any aggregated totals for England and Wales exclude British Transport Police data, so will differ from those published by the Home Office.
When other forces were unable to supply data, we mention this under the relevant sections below.
Outlier Lines
The dotted lines on the Bar Charts show one Standard Deviation (sd) above and below the unweighted mean across all forces. Where the distribution of the scores appears normally distributed, the sd is calculated in the normal way. If the forces are not normally distributed, the scores are transformed by taking logs and a Shapiro Wilks test performed to see if this creates a more normal distribution. If it does, the logged values are used to estimate the sd. If not, the sd is calculated using the normal values. Forces with scores more than 1 sd units from the mean (i.e. with Z-scores greater than 1, or less than -1) are considered as showing performance well above, or well below, average. These forces will be outside the dotted lines on the Bar Chart. Typically, 32% of forces will be above or below these lines for any given measure.
Population
For all uses of population as a denominator in our calculations, unless otherwise noted, we use ONS mid-2020 population estimates.
Survey of police workforce
We surveyed the police workforce across England and Wales, to understand their views on workloads, redeployment and how suitable their assigned tasks were. This survey was a non-statistical, voluntary sample so the results may not be representative of the workforce population. The number of responses per force varied. So we treated results with caution and didn’t use them to assess individual force performance. Instead, we identified themes that we could explore further during fieldwork.
Victim Service Assessment
Our victim service assessments (VSAs) will track a victim’s journey from reporting a crime to the police, through to outcome stage. All forces will be subjected to a VSA within our PEEL inspection programme. Some forces will be selected to additionally be tested on crime recording, in a way that ensures every force is assessed on its crime recording practices at least every three years.
Details of the technical methodology for the Victim Service Assessment.
Data sources
Cases discussed and recommended cases to discuss at multi-agency risk assessment conferences (MARAC)
This data was obtained from SafeLives. SafeLives may have updated these figures since we obtained them for this report.
Workforce figures (including ethnicity)
This data was obtained from the Home Office annual data return 502. The data is available from the Home Office’s published police workforce England and Wales statistics or the police workforce open data tables. The Home Office may have updated these figures since we obtained them for this report.
The data gives the full-time equivalent workforce figures as at 31 March 2022. The figures include section 38-designated investigation, detention or escort officers, but not section 39-designated detention or escort staff. They include officers on career breaks and other types of long-term absence but exclude those seconded to other forces.