Archwiliad i ymateb rhanbarthol y gogledd-orllewin i droseddau difrifol a chyfundrefnol
Fel rhan o’n harolygiadau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu, gwnaethom archwilio pa mor dda y mae heddluoedd yn mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol (SOC).
Yn 2022, fe wnaethom newid sut rydym yn archwilio’r agwedd hon ar blismona, i ymgorffori arolygiadau o’r deg rhanbarth, yn ogystal â’r naw uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol (ROCUs) ledled Cymru a Lloegr a’r 43 heddlu heddlu. Mae hyn yn gwella ein dealltwriaeth o ba mor dda y mae heddluoedd a ROCUs yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â SOC.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys adrannau ar y canlynol:
- Canfyddiadau rhanbarthol – crynodeb o dystiolaeth arolygu.
- Y ROCU a’r lluoedd unigol – y ROCU a phob llu unigol yn cael dyfarniad graddiedig