Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru comisiwn arolygu: Cylch gorchwyl
Contents
Print this document
Cefndir
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad annibynnol gan Fenella Morris KC i ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar 3 Ionawr 2024, defnyddiodd Llywodraeth Cymru ei phŵerau cyfarwyddo o dan adran 29(5) a (6) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Fe ddiswyddodd yr aelodau etholedig o swyddogaethau llywodraethu’r awdurdod tân a phenododd bedwar comisiynydd.
Mae’r Comisiynwyr yn gyfrifol am sicrhau bod yr argymhellion o’r adolygiad annibynnol, ac i adolygiadau thematig eraill gan y cynghorydd tân i Lywodraeth Cymru, yn cael eu gweithredu’n llawn lle bo modd. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu mewn modd cynaledig.
Pwrpas
Ar 4 Gorffennaf 2024, gofynnodd y comisiynwyr i Arolygydd Gwasanaethau Tân ac Achub am gymorth, yn unol â phwerau o dan Atodlen A3 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, i gynnal arolygiad llawn o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer y gweithgaredd arolygu hwn.
Arolygiad
Fe wnaethom ddatblygu ein methodoleg arolygu gyfredol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yn Lloegr, felly byddwn yn ystyried ac yn cymhwyso addasiadau priodol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Byddwn yn asesu:
- y gwasanaeth gweithredol y mae’n ei darparu i’r cyhoedd, gan gynnwys effeithiolrwydd ei weithgareddau atal, amddiffyn ac ymateb;
- ei effeithlonrwydd, gan gynnwys pa mor dda y mae’n darparu gwerth am arian, yn dyrannu adnoddau i gyfateb â risg ac yn cydweithredu â gwasanaethau brys; a
- pa mor dda y mae’r gwasanaeth yn gofalu am ei bobl, gan gynnwys hyrwyddo gwerthoedd a diwylliant gwasanaeth, hyfforddi ei staff a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt, sicrhau tegwch ac amrywiaeth yn y gweithlu, a datblygu arweinyddiaeth a gallu gwasanaeth.
Bydd yn nodi unrhyw feysydd i’w gwella ac achosion sy’n peri pryder yn y meysydd hyn, a byddwn yn darparu argymhellion i fynd i’r afael â hwy. Byddwn hefyd yn amlygu unrhyw feysydd o arfer addawol ac arloesol, lle bo’n briodol.
Bydd yr adroddiad yn barod i’w gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2025.
Nôl i’r cyhoeddiad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru comisiwn arolygu: Cylch gorchwyl