Adroddiad i effeithiolrwydd trefniadau fetio a gwrth-lygredd yn Heddlu De Cymru

Published on: 21 November 2022

Amdanom ni

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (HMICFRS) yn asesu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub yn annibynnol, er budd y cyhoedd. Wrth baratoi ein hadroddiadau, rydym yn gofyn y cwestiynau y byddai’r cyhoedd yn eu gofyn ac yn cyhoeddi’r atebion ar ffurf hygyrch. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd i ddehongli’r dystiolaeth a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.

Cyflwyniad

Fetio, monitro TG a gwrth-lygredd: da

Ym mis Medi 2021, newidiodd HMICFRS y ffordd y mae’n adrodd ar ba mor effeithiol y mae heddluoedd yn rheoli fetio a gwrth-lygredd.

Yn flaenorol, fe wnaethom arolygu’r meysydd hyn fel rhan o’n rhaglen effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu (PEEL) a darparu ein canfyddiadau yn adroddiad yr arolygiad.

Mae’r trefniadau newydd yn golygu y byddwn yn arolygu pob heddlu ar wahân i PEEL, ond byddwn yn parhau i ddefnyddio’r un dulliau arolygu. Yna byddwn yn cynhyrchu adroddiad ar gyfer pob heddlu yn cynnwys ein canfyddiadau, dyfarniadau graddedig ac unrhyw feysydd i’w gwella neu achosion o bryder. Bydd yr adroddiad hwn ar gael trwy ddolen we gan adroddiad diweddaraf PEEL yr heddlu.

Ym mis Ebrill 2022, fe wnaethom arolygu Heddlu De Cymru i archwilio effeithiolrwydd fetio, monitro TG a gwrth-lygredd yr heddlu. Gwnaethom friffio uwch bersonél yn yr heddlu ar ddiwedd yr arolygiad.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein canfyddiadau. Mae’n cynnwys maes i’w wella a nodwyd ar adeg yr arolygiad, yr ydym yn cydnabod y gallai’r heddlu fod wedi mynd i’r afael ag ef eisoes.

Pa mor effeithiol mae’r llu yn fetio ei swyddogion a’i staff?

Mae gan Heddlu De Cymru system TG rheoli fetio i reoli fetio’n effeithiol, gan sicrhau ei fod yn adnewyddu’r holl gliriadau fetio ar gyfer y gweithlu o bryd i’w gilydd yn unol â’r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig ar fetio. Mae’r system yn tynnu sylw at adnewyddiadau dri mis ymlaen llaw. Mae hyn yn gadael i uned fetio’r heddlu (FVU) gynllunio ac anfon dogfennau perthnasol a nodiadau atgoffa i’r gweithlu. Mae gan yr heddlu broses uwchgyfeirio sefydledig os na cheir ymateb i’r cais adnewyddu o fewn mis.

Mae’r FVU yn cadw rhestr gweithlu ac yn ei diweddaru bob chwe mis. Mae hyn yn ei alluogi i wirio bod gan bob deiliad swydd y lefel gywir o fetio ar gyfer eu rôl. Cadarnhaodd ein hap samplu fod gan yr holl swyddogion a staff a oedd yn eu swyddi y lefel gywir o fetio ar adeg ein harolygiad.

Mae’r rheolwr fetio yn cynnal adolygiad o wiriad fetio unigolyn mewn achosion o gamymddwyn difrifol lle nad yw’r unigolyn yn cael ei ddiswyddo.

Mae gan yr heddlu brosesau effeithiol yn eu lle i sicrhau bod staff yn hysbysu’r FVU trwy Ymgyrch Ninian am unrhyw newid mewn amgylchiadau. Mae hon yn broses sicrwydd uniondeb sy’n gysylltiedig â’r adolygiad datblygu perfformiad blynyddol. Mae Grŵp Cynghori Cenedlaethol Gwrth-lygredd yr Heddlu wedi rhannu hyn yn genedlaethol fel arfer da.

Mae gan yr FVU ddigon o adnoddau i fodloni’r galw presennol. Mae’n cynnal cyfarfod ddwywaith yr wythnos i drafod personél, sgiliau a hyfforddiant. Mae’r FVU yn cadw taenlen o achosion cyfredol ac i bwy y cânt eu dyrannu. Dywedodd ymarferwyr fetio wrthym fod eu llwythi gwaith yn hylaw. Pan fo cynnydd yn y galw, mae’r FVU yn gweithio goramser neu’n tynnu ar adnoddau ychwanegol o ‘fanc staff’. Er enghraifft, mae wedi secondio staff dros dro i ymdrin â galw ychwanegol o’r rhaglen genedlaethol i recriwtio mwy o swyddogion.

Mae’r adran adnoddau dynol (AD) yn rhoi datganiadau blynyddol i’r FVU yn manylu ar y cynlluniau recriwtio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’n diweddaru’r FVU yn rheolaidd ar ymgyrchoedd recriwtio sydd ar ddod fel rhan o’r rhaglen genedlaethol. Mae hyn yn gadael i’r rheolwr fetio ddeall pryd y gall y galw gynyddu.

Mae gan yr heddlu system effeithiol i adnabod y lefel gywir o fetio ar gyfer swyddogion a staff. Mae ganddo restr o swyddi dynodedig sydd angen fetio rheolwyr uwch. Ar adeg ein harolygiad, roedd 161 o rolau swyddogion heddlu a 304 o rolau staff heddlu. Roedd 770 o swyddogion heddlu a 1,098 staff heddlu yn y rhain. Mae’r FVU yn cadw rhestrau ar gyfer fetio recriwtiaid a rheolwyr, syn cynnwys manylion pob unigolyn a’u statws fetio. Roedd y llu wedi adolygu a diweddaru’r ddwy restr yn ddiweddar ac yn eu cysoni bob chwe mis. Nid oes gan yr FVU gysylltiadau awtomatig ag AD ac mae’n dibynnu ar wiriadau â llaw i weld pwy sydd yn y swydd ddynodedig.

Mae’r grŵp llywio fetio a monitro strategol yn rhan o’r adran safonau proffesiynol a chaiff ei gadeirio gan swyddfa’r comisiynydd heddlu a throseddu. Mae’n cyfarfod bob chwe mis ac yn monitro data ar benderfyniadau fetio.

Er y cyflwynwyd data ar benderfyniadau fetio ar gyfer gwahanol nodweddion gwarchodedig yn y cyfarfod hwn, ni welsom unrhyw dystiolaeth o ddadansoddiad o anghymesuredd posibl. Er enghraifft, nid yw’n dadansoddi cyfran y gwrthodiadau ar gyfer ymgeiswyr â nodwedd warchodedig benodol o gymharu â chyfran y gwrthodiadau ar gyfer grŵp rheoli heb y nodwedd honno. O ganlyniad, nid oes gan y llu unrhyw ffordd o ddeall y rhesymau dros unrhyw anghymesuredd, felly nid yw’n cymryd unrhyw gamau i fynd i’r afael ag ef.

Dywedodd y rheolwr fetio fod y llu yn adolygu’r broses hon ac yn chwilio am ffyrdd o wella ei ddadansoddiad.

Yn ein hadroddiad PEEL 2018/19 PEEL: effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb – Arolygiad o Heddlu De Cymru fe nodom ni faes i’w wella, gan nodi:

“Dylai’r llu fonitrio ei benderfyniadau fetio i nodi gwahaniaethau ac anghymesuredd (e.e. grwpiau BAME), a gweithredu i’w lleihau lle bo’n briodol.”

Mae’r llu wedi dangos rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn o’r blaen, ond canfuom fod angen iddo wella’r rheolaeth o’i fetio o hyd. O ganlyniad, rydym wedi nodi hwn fel maes i’w wella.

Meysydd i’w gwella

Dylai’r llu gyflwyno system i fonitro ac ymateb i anghymesuredd yn ei benderfyniadau fetio.

Pa mor effeithiol mae’r llu yn diogelu’r wybodaeth a’r data sydd ganddo?

Gall Heddlu De Cymru fonitro ei holl systemau TG ar draws dyfeisiau llaw, symudol a bwrdd gwaith. Mae’n mynd ati’n rhagweithiol i wirio rhestrau galwadau ar ddyfeisiau symudol yn ôl rhifau a nodwyd ar gyfer dioddefwyr bregus a grwpiau troseddau trefniadol.

Mae’r llu yn effeithiol wrth ddefnyddio monitro wedi’i dargedu o unigolion pan fo cudd‑wybodaeth yn dynodi risg uwch o gamymddwyn rhywiol. Gwelsom dystiolaeth dda o fonitro TG o bobl a oedd yn destun cudd-wybodaeth arall am lygredd. Mae gan y llu bolisi monitro TG gyda chanllawiau cysylltiedig ar gyfer monitro goddefol ac wedi’u dargedu. Adolygwyd 60 eitem o gudd-wybodaeth llygredd posibl a chanfod defnydd effeithiol o feddalwedd monitro TG.

Mae’r heddlu’n cydnabod y risg sy’n gysylltiedig â defnyddio apiau wedi’u hamgryptio felly nid yw’n caniatáu hyn.

Yn seiliedig ar ofynion a llwyth gwaith yr uned gwrth-lygredd (CCU), mae gan y llu ddigon o adnoddau i ddefnyddio’r meddalwedd monitro. Cyfaddefodd y gallai fod angen mwy o adnoddau arno gan ei fod yn integreiddio ei allu i fonitro TG yn llawn. Er bod ganddo staff ymroddedig yn cefnogi’r dechnoleg, cydnabu’r llu y byddai angen adnoddau ychwanegol i fanteisio’n llawn ar fonitro TG ar gyfer pob bygythiad gwrth-lygredd.

Pa mor dda mae’r llu’n mynd i’r afael â llygredd posibl?

Mae gan yr heddlu asesiad bygythiad strategol gwrth-lygredd ar hyn o bryd. Cefnogir hyn gan strategaeth reoli a chynllun gweithredu.

Mae’r llu yn bennaf yn categoreiddio cudd-wybodaeth llygredd yn unol â’r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Cenedlaethol ar wrth-lygredd (cudd-wybodaeth). Ond canfuom fod y llu yn dueddol o ddefnyddio’r categori cam-drin safle at ddibenion rhywiol (AoPSP) yn anghywir. Er enghraifft, mae’n cofnodi cudd-wybodaeth yn ymwneud â pherthnasoedd yn y gweithle o dan gam-drin safle at ddiben rhywiol fel mater o drefn. Roedd y categori cenedlaethol hwn wedi’i fwriadu ar gyfer camddefnydd o swydd tuag at y cyhoedd. Rydym yn annog y llu i wneud yn siŵr ei fod yn defnyddio’r categori llygredd hwn mewn achosion perthnasol yn unig.

Fe wnaethom adolygu 60 o ffeiliau achos cudd-wybodaeth llygredd. Yn y rhan fwyaf o achosion, ymatebodd y CCU yn effeithiol. Gwelsom enghreifftiau o’r llu yn defnyddio ei allu archwilio i gynhyrchu tystiolaeth i gefnogi achosion troseddol a chamymddwyn. Defnyddiodd y llu ystod o dechnegau ymchwiliol i ddatblygu cudd-wybodaeth llygredd.

Mae’r CCU wedi datblygu perthynas waith dda gyda sefydliadau allanol sy’n cefnogi pobl agored i niwed. Mae’n defnyddio cyflwyniadau i dynnu sylw at arwyddion rhybudd posibl ac i annog y broses o adrodd yn gynnar.

Mae aelodau’r CCU hefyd wedi rhoi cyflwyniadau i’r gweithlu i godi ymwybyddiaeth o ddangosyddion AoPSP ac i gyfeirio at brosesau adrodd pe bai pryderon yn codi. Mae’r gweithlu yn cydnabod bod AoPSP yn llygredd difrifol.

Nôl i’r cyhoeddiad

Adroddiad i effeithiolrwydd trefniadau fetio a gwrth-lygredd yn Heddlu De Cymru