Adroddiad ar ymweliad arolygu dirybudd â dalfeydd yr heddlu yn Gogledd Cymru
Contents
Print this document
Crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio ein canfyddiadau yn dilyn arolygiad o gyfleusterau dalfeydd Heddlu Gogledd Cymru. Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM (HMICFRS) ac Arolygiaeth Carchardai EM (HMIP) ym mis Tachwedd 2021. Mae’n rhan o’n rhaglen o arolygiadau sy’n cwmpasu pob dalfa heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Fe wnaeth yr arolygiad asesu effeithiolrwydd gwasanaethau dalfa a chanlyniadau ar gyfer pobl a gedwir yn y ddalfa trwy gydol y cyfnodau cadw gwahanol. Fe wnaeth archwilio dull yr heddlu o ddarparu dalfa mewn perthynas â chadw pobl yn ddiogel ac yn barchus, gan ganolbwyntio’n benodol ar blant ac oedolion agored i niwed.
Cynhaliwyd yr arolygiad hwn yn ystod pandemig COVID-19. Rydym yn parhau i addasu ein ffyrdd o weithio i reoli’r risgiau wrth i’r pandemig barhau. Fe wnaethon roi mwy o rybudd o’r arolygiad i’r heddlu nag arfer. Ac fe wnaethom gynnal ein hadolygiadau achosion a’n dadansoddiadau, cyfweliadau a grwpiau ffocws o bell. Fe wnaethom ein harsylwadau dros y cyfnod o bythefnos, ond fe wnaethom gyfyngu ar nifer ein harolygwyr yn y dalfeydd ar unrhyw un adeg.
Fe wnaethom arolygu cyfleusterau dalfeydd yn Heddlu Gogledd Cymru ddiwethaf yn 2014. Canfuom, o’r 22 argymhelliad a wnaed yn ystod yr arolygiad blaenorol hwnnw, fod yr heddlu wedi cyflawni 15 ohonynt yn llawn neu’n rhannol.
Er mwyn helpu’r heddlu i wella, rydym wedi gwneud pedwar argymhelliad iddynt hwy (ac i’r comisiynydd heddlu a throseddu). Mae’r rhain yn mynd i’r afael â’n prif achosion o bryder. Rydym hefyd wedi amlygu 17 maes pellach i’w gwella. Mae’r rhain wedi’u nodi yn adran 6 o’r adroddiad hwn.
Arweinyddiaeth, atebolrwydd a phartneriaethau
Mae strwythur llywodraethu clir ar waith i wirio bod gwasanaethau dalfeydd yn ddiogel ac yn barchus. Mae goruchwyliaeth yn dda ar y cyfan ac yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau.
Mae gan y llu dair dalfa – yn Llai (Wrecsam), Llanelwy a Chaernarfon. Mae’n monitro lefelau staffio i wneud yn siŵr y cyflenwir am absenoldebau, a bod modd darparu cystodaeth yn ddiogel.
Mae wedi mabwysiadu Arfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona – Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig – Cadw a Chystodaeth (APP). Mae gan y llu ei bolisïau a’i ganllawiau cystodaeth ei hun hefyd. Ond nid yw’r rhain bob amser yn cael eu dilyn, yn arbennig wrth reoli risg. Canfuom hefyd arferion anghyson mewn rhai agweddau ar ddarpariaeth cystodaeth.
Mae’r llu’n monitro perfformiad ond nid yw rhai meysydd pwysig wedi’u cynnwys, megis amseroedd aros carcharorion. Mae rhywfaint o’r wybodaeth a gesglir yn anghywir, sy’n golygu nad yw darpariaeth y ddalfa yn cael ei hasesu cystal ag y gallai fod. Mae’r llu’n datblygu ‘dangosfwrdd perfformiad’ i gynnwys rhagor o wybodaeth.
Mae sawl maes lle nad yw’r llu bob amser yn diwallu gofynion deddfwriaeth a chanllawiau, fel y nodir yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a’i chodau ymarfer. Mae’r rhain yn cynnwys: rhoi’r angen am ac egluro amgylchiadau arestio; esbonio hawliau’r sawl sy’n cael eu cadw; adolygiadau cadw; ac ymwneud gan swyddogion y ddalfa ag ymchwiliadau mewn ffordd sy’n peryglu annibyniaeth eu rôl. Mae hyn yn destun pryder.
Nid yw llywodraethu a goruchwylio’r defnydd o rym yn y ddalfa’n ddigon da. Mae bwrdd craffu ar ddefnydd grym, ond nid yw ei waith monitro’n ddigon effeithiol. Mae hyn oherwydd bod rhywfaint o wybodaeth anghywir neu ar goll ynghylch pa rym a ddefnyddiwyd, gan ba swyddogion, a pham yr oedd ei angen. Canfuom fod grym yn cael ei ddefnyddio’n aml yn y ddalfa, ac yn aml i dynnu dillad yn orfodol oddi ar garcharorion. Mae’n anodd i Heddlu Gogledd Cymru ddangos, pan ddefnyddir grym yn y ddalfa, ei fod yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mewn rhai o’r achosion a welsom ar deledu cylch cyfyng, ein barn ni yw nad oedd. Mae hyn yn destun pryder.
Mae ansawdd y cofnodi ar gofnodion y ddalfa’n wael. Mae rhai cofnodion yn fanwl, ond roedd gwybodaeth bwysig ar goll o rai cofnodion. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y cyfiawnhad dros dynnu dillad carcharorion. Ac mae rhywfaint o wybodaeth yn anghywir, megis yr amseroedd a gofnodwyd o ymweliadau â chelloedd. Nid yw sicrwydd ansawdd yr heddlu ar gyfer y cofnodion hyn yn ddigon da. Mae hyn yn destun pryder pellach.
Fodd bynnag, mae cofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau andwyol yn y ddalfa, a dysgu oddi wrthynt, yn dda (mae digwyddiad anffafriol yn golygu unrhyw ddigwyddiad a allai, o’i ganiatáu i barhau i’w ddiwedd yn y pen draw fod wedi arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i unrhyw berson). Mae’r heddlu hefyd yn agored i graffu allanol gan sefydliadau a grwpiau annibynnola chanddynt fuddiant ym maes cystodaeth.
Mae’r llu’n deall dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. (Mae hyn yn ymwneud â dyletswydd yr heddlu i ystyried sut mae ei bolisïau a’i benderfyniadau’n effeithio ar bobl a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.) Mae’n monitro anghymesuredd mewn gwasanaethau dalfeydd i wneud yn siŵr bod canlyniadau i garcharorion yn deg, ac mae’n gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon.
Mae’r llu wedi ymrwymo i ddargyfeirio plant ac oedolion bregus I ffwrdd o’r ddalfa. Mae’n gweithio gyda sefydliadau eraill i gynnig cynlluniau dargyfeirio i atal a lleihau troseddu. Mae hefyd yn gweithio gyda’i awdurdod lleol a phartneriaid iechyd meddwl i helpu i gadw plant a phobl ag afiechyd meddwl allan o’r ddalfa.
Cyn y ddalfa: pwynt cyswllt cyntaf
Mae swyddogion rheng flaen yn deall bregusrwydd ac yn ystyried hyn wrth benderfynu a ddylid arestio rhywun. Dim ond ar ôl archwilio dewisiadau eraill y maent yn mynd â phlant i’r ddalfa.
Mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol (CJLS) sy’n gweithio yn ystafell reoli’r heddlu yn cynnig cymorth da. Mae hyn yn cynorthwyo swyddogion sy’n delio â phobl yr amheuir bod ganddynt salwch meddwl. A gall helpu i osgoi eu cadw dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Fodd bynnag, nid yw cymorth o’r fath ar gael mor hawdd pan nad yw’r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ar ddyletswydd. Yn ystod yr amseroedd hyn, yn aml ni all swyddogion siarad ag unrhyw un yn y timau argyfwng iechyd meddwl neu sefydliadau eraill i gael y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt.
Yn y celloedd cadw: cofrestru, anghenion unigol a hawliau cyfreithiol
Mae staff y ddalfa’n barchus, yn dawel ac yn hyderus wrth ymdrin â charcharorion. Maent hefyd yn rhoi amser i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae preifatrwydd a chyfrinachedd carcharorion yn cael eu cynnal yn dda ar y cyfan. Ond mae rhai arferion ar gyfer tynnu a storio dillad carcharorion yn amharchus, gyda dillad weithiau’n cael eu gadael yn y coridor.
Mae rhywfaint o ddarpariaeth dda ar gyfer pobl ag anghenion unigol. Defnyddir y Gymraeg ar lafar pan fo angen ac yn ddwyieithog ar yr holl wybodaeth brintiedig bwysig. Trefnir cyfieithu i ieithoedd eraill ar gyfer pobl sy’n cael anhawster deall Saesneg. Mae menywod yn cael eu trin â gofal a pharch. Ond mae’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau’n anghyson. Anaml y gofynnir i garcharorion a oes ganddynt unrhyw anghenion crefyddol ac mae’r stoc o ddeunyddiau crefyddol yn gyfyngedig.
Mae’r dull o nodi risg yn gyffredinol dda. Ond mae gwendidau sylweddol o ran rheoli risg. Mae rhai ffyrdd o weithio’n golygu nad yw’r llu’n sicrhau diogelwch carcharorion. Mae hyn yn destun pryder.
Yn gyffredinol, mae swyddogion y ddalfa yn cynnal asesiadau risg cychwynnol ac yn gosod lefelau arsylwi’n gywir. Fel arfer cynhelir gwiriadau arsylwi ar amser. Ond nid yw rhai ffyrdd o weithio’n dilyn canllawiau APP. Weithiau ceir ymateb anghymesur i reoli risg. Er enghraifft:
- Mae swyddogion cadw gwahanol yn y ddalfa’n aml yn cwblhau’r gwiriadau arsylwi. Mae hyn yn golygu efallai na fydd newidiadau yn ymddygiad neu gyflwr y sawl sy’n cael eu cadw yn cael eu nodi.
- Nid yw swyddogion cadw yn y ddalfa bob amser yn deffro carcharorion ar Lefel 2 yn y ffordd gywir (mae Lefel 2 yn gofyn am wiriadau deffro sy’n cael ymateb gweithredol gan y sawl sy’n cael eu cadw). Ac nid yw’r gwiriadau hyn bob amser wedi’u dogfennu’n gywir.
- Mae swyddogion y ddalfa yn tynnu dillad â chordiau ac esgidiau oddi ar y carcharorion yn hytrach na gwneud asesiad risg unigol. Anaml y mae swyddogion yn cofnodi’r cyfiawnhad dros hyn.
- Defnyddir dillad gwrth-rwygo i reoli risgiau carcharorion yn aml, yn aml heb resymau digonol pam, a heb iddynt gael eu cofnodi’n gywir. Nid yw ffyrdd eraill o reoli’r risgiau bob amser yn cael eu hystyried.
Mae’r rhan fwyaf o garcharorion yn cael eu cofrestru i’r ddalfa’n gyflym, ac mae cadw’n cael ei awdurdodi’n briodol. Ond nid yw amgylchiadau a seiliau arestio bob amser yn cael eu hesbonio o flaen y carcharor. Mae swyddogion y ddalfa’n rhoi esboniadau da i garcharorion am eu hawliau. Ond nid ydynt bob amser yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig iddynt, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) Cod C paragraff 3.2.
Mae’r llu’n ceisio symud achosion ymlaen cyn gynted â phosibl fel nad yw carcharorion yn treulio mwy o amser nag sydd angen yn y ddalfa. Nid yw adolygiadau cadw bob amser yn cael eu cynnal yn ddigon da, ond mae’r rhan fwyaf yn digwydd yn bersonol ac ar amser. Mae carcharorion sy’n cael eu rhyddhau dan ymchwiliad yn derbyn hysbysiad am y troseddau y gallent fod yn eu cyflawni os ydynt yn ymyrryd â dioddefwyr neu dystion tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo. Ond nid yw swyddogion y ddalfa bob amser yn esbonio hyn iddynt.
Mae ymagwedd yr heddlu at gŵynion tra bod unigolion yn y ddalfa’n wael. Prin yw’r hyrwyddo ar sut i wneud cwyn, nid yw pob swyddog yn glir ynghylch y gweithdrefnau i’w dilyn ac nid yw carcharorion sy’n dymuno gwneud cwyn tra yn y ddalfa bob amser yn gallu gwneud hynny cyn iddynt gael eu rhyddhau.
Yn y gell gadw, diogelu a gofal iechyd
Mae amodau cyffredinol yn y tair dalfa’n amrywio. Mae hyn oherwydd oedran a dyluniad yr adeiladau, ond maent yn lân ac mae celloedd yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Mae pwyntiau clymu posibl ym mhob cell, yn bennaf oherwydd dyluniad toiledau a sinciau.
Yn gyffredinol, gofelir yn dda am garcharorion. Roedd y rhai y buom yn siarad â nhw yn canmol y gofal a roddwyd iddynt, yn arbennig y rhai a oedd yn agored i niwed neu’n ofidus. Cynigir bwyd a diod trwy gydol y dydd. Ond nid yw staff yn ddigon rhagweithiol wrth gynnig a darparu agweddau eraill ar ofal megis cawodydd neu ddeunydd darllen.
Yn gyffredinol, mae swyddogion a staff yn deall eu cyfrifoldebau i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed. Ond nid yw trefniadau i sicrhau oedolion priodol i gefnogi plant ac oedolion agored i niwed bob amser yn arwain at yr oedolion yn cyrraedd yn ddigon cynnar. Mae hyn yn arbennig o wir y tu allan i oriau gwaith arferol. Ac nid ydym yn cael ein sicrhau bod oedolion priodol bob amser yn cael eu galw ar gyfer oedolion agored i niwed a allai fod angen un.
Mae ffocws da ar gadw plant yn y ddalfa am yr amser byrraf posibl. Mae’r plant yn derbyn gofal da tra yn y ddalfa. Ychydig sy’n cael eu cyhuddo neu y gwrthodir mechnïaeth iddynt. Ond pan yw hyn yn digwydd, nid ydynt yn cael eu symud i lety a drefnir gan yr awdurdod lleol fel y dylent fod oherwydd mai ychydig sydd ar gael.
Mae tîm nyrsio cymwys sydd wedi’i hyfforddi’n dda yn gweld y rhan fwyaf o garcharorion yn brydlon ac yn dwallu eu hanghenion iechyd. Ond weithiau mae cyfrinachedd cleifion yn cael ei beryglu pan yw nyrsys yn gofyn cwestiynau i garcharorion pan ydynt yn cael euc ofrestru, yn hytrach nag yn breifat.
Mae’r llu’n gweithio gyda sefydliadau sy’n darparu cymorth i garcharorion sy’n ddefnyddwyr cyffuriau ac alcohol. Mae hyn yn cynnwys atgyfeirio carcharorion i raglen addysg cyffuriau. Ond nid yw’r contract gofal iechyd yn ei gwneud yn ofynnol i therapi amnewid opiadau (OST) fod ar gael. Mae hyn yn wael ac nid yw’n unol â chanllawiau cenedlaethol.
Mae CJLS yn cynnig cymorth da i garcharorion ag anghenion iechyd meddwl. Dywedwyd wrthym nad oedd angen asesiadau’r ddeddf iechyd meddwl yn y ddalfa yn aml ond y gellid eu trefnu’n weddol gyflym os oedd angen.
Rhyddhau a throsglwyddo o’r ddalfa
Mae swyddogion y ddalfa yn sicrhau bod carcharorion yn cael eu rhyddhau’n ddiogel a’u bod yn gallu cyrraedd adref. Mae swyddogion heddlu yn mynd â phlant ac oedolion bregus adref pan nad oes modd eu rhyddhau i ofal oedolyn cyfrifol.
Mae cofnodion digidol ar gyfer hebrwng personau (dPERs) – sy’n darparu gwybodaeth am y sawl sy’n cael eu cadw ac unrhyw risgiau i’r asiantaeth hebrwng – ar gyfer carcharorion sy’n mynychu’r llys neu sydd wedi’u galw’n ôl i’r carchar yn cael eu cwblhau’n llawn. Mae swyd dogion y ddalfa’n gwirio ac yn cymeradwyo’r rhain.
Yn gyffredinol, mae carcharorion sy’n cael eu remandio i’r llys yn cael eu casglu’n brydlon yn y bore. Mae hyn yn dda i’r sawl sy’n cael eu cadw gan ei fod yn cadw’r amser y mae’n cael ei gadw yn nalfa’r heddlu i’r lleiafswm. Mae hyn yn welliant ers ein harolygiad yn 2014.
Achosion pryder ac argymhellion
Achos pryder
Diwallu gofynion a chanllawiau cyfreithiol
Nid yw’r heddlu bob amser yn cydymffurfio â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) a’i chodau ymarfer. Mae sawl maes lle nad yw’r gofynion bob amser yn cael eu diwallu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y rhai sy’n ymwneud â’r angen am, ac amgylchiadau, arestio;
- darparu copïau ysgrifenedig o’u hawliau a’u hawliadau i garcharorion;
- adolygiadau cadw; a
- swyddogion y ddalfa yn cyfarwyddo ymchwiliadau.
Argymhellion
Dylai’r llu gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod holl weithdrefnau ac arferion y ddalfa’n cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau.
Achos pryder
Defnydd o rym
Mae trefniadau llywodraethu a goruchwyliaeth Heddlu Gogledd Cymru o’r defnydd o rym yn y ddalfa yn gyfyngedig. Mae gwybodaeth ynghylch pa rym a ddefnyddir, gan ba swyddogion, neu pam fod ei angen yn aml yn anghyflawn neu’n anghywir. Fe’i defnyddir yn aml i dynnu dillad yn orfodol heb fawr o gyfiawnhad yn cael ei ddangos neu’n amlwg. Prin yw’r adolygiadau o ddigwyddiadau ar deledu cylch cyfyng i asesu pa mor dda y cânt eu trin neu a yw’r grym a ddefnyddir yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mae ein hadolygiad o ddigwyddiadau’n awgrymu nad oedd weithiau.
Argymhellion
Dylai’r llu graffu ar y defnydd o rym yn y ddalfa. Dylai hyn fod yn seiliedig ar wybodaeth gywir a sicrwydd ansawdd cadarn, gan gynnwys gwylio ffilm teledu cylch cyfyng o ddigwyddiadau. Dylai ddefnyddio hyn i ddangos, pan ddefnyddir grym yn y ddalfa, ei fod yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Achos pryder
Ansawdd cofnodion y ddalfa
Mae ansawdd y cofnodi ar gofnodion y ddalfa’n wael. Mae hyn oherwydd:
- mae gwybodaeth bwysig weithiau ar goll neu wedi’i chofnodi’n anghywir;
- nid yw’r rhesymau a’r cyfiawnhad dros benderfyniadau bob amser yn glir;
- mae cofnodion yn aml yn gymysgedd o destun safonol wedi’i ragboblogi, ochr yn ochr â gwybodaeth am yr hyn a wnaed – sy’n eu gwneud yn ddryslyd i’w deall; ac
- nid yw sicrwydd ansawdd yn asesu safon cofnodion nac yn nodi pryderon yn effeithiol.
Mae hyn yn ei gwneud yn anodd sefydlu sut mae carcharorion wedi cael eu trin yn y ddalfa, ac a yw’r holl brosesau wedi’u cymhwyso’n gywir.
Argymhellion
Dylai’r llu sicrhau bod y wybodaeth a gofnodir yng nghofnodion y ddalfa’n gywir ac yn gyflawn. Dylai adlewyrchu’n glir y camau unigol a gymerwyd a’r rhesymau dros unrhyw benderfyniadau ar gyfer pob carcharor. Dylai’r llu sicrhau bod ansawdd cofnodion y ddalfa’n gadarn er mwyn nodi unrhyw bryderon a gweithredu arnynt.
Achos pryder
Diogelwch carcharorion ac asesu risg
Nid yw’r llu’n rheoli risgiau carcharorion yn ddigon da oherwydd:
- Mae swyddogion cadw gwahanol yn y ddalfa’n cynnal gwiriadau felly yn aml nid oes llawer o barhad i asesu newidiadau yn ymddygiad carcharor.
- Nid yw gwiriadau deffro bob amser yn cael eu cynnal yn y ffordd gywir nac yn cael eu dogfennu’n gywir.
- Mae swyddogion y dalfeydd yn parhau i dynnu dillad gyda chordiau ac esgidiau fel mater o drefn heb asesiad risg unigol ac nid yw bob amser yn cael ei ddogfennu pryd na pham mae dillad wedi cael eu tynnu.
- Mae dillad gwrth-rwygo’n parhau i gael eu defnyddio’n fynych, yn aml heb unrhyw sail resymegol ddigonol. Ar brydiau, mae hyn yn ymddangos yn rhagataliol ac mewn llawer o achosion mae’n cael ei gyfiawnhau dim ond oherwydd nad atebodd y carcharor y cwestiynau ar gyer asesu risg. Mae hwn yn ymagwedd wrth-risg, sydd yn aml yn arwain at dynnu dillad yn ddiangen ac yn rymus.
- Nid yw ardaloedd lle mae staff yn monitro TCC yn gyson (arfer proffesiynol awdurdodedig (APP) Lefel 3) wedi’u cwmpasu gan TCC.
- Nid yw carcharorion sy’n ciwio i gael eu cofrestru’ cael eu brysbennu i’w blaenoriaethu.
- Nid yw staff y ddalfa yn cadw digon o reolaeth a goruchwyliaeth ar allweddi’r ddalfa.
Nid yw’r arferion hyn yn dilyn canllawiau APP ac o bosibl yn rhoi carcharorion mewn perygl sylweddol o niwed.
Argymhellion
Dylai’r llu gymryd camau ar unwaith i liniaru’r risg i garcharorion trwy wneud yn siŵr bod ei arferion rheoli risg yn dilyn canllawiau APP ac yn cael eu cynnal a’u cofnodi i’r safon ofynnol.
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn un mewn cyfres o arolygiadau o ddalfeydd yr heddlu a gynhelir ar y cyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM (HMICFRS) ac Arolygiaeth Carchardai EM (HMIP). Mae’r arolygiadau hyn yn rhan o raglen waith ar y cyd yr arolygiaethau cyfiawnder troseddol ac yn cyfrannu at ymateb y DU i’w rhwymedigaethau rhyngwladol o dan y Protocol Dewisol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol arall (OPCAT).
Mae rhaglen dreigl genedlaethol ar y cyd HMICFRS/HMIP o arolygiadau dirybudd o ddalfeydd yr heddlu, a ddechreuodd yn 2008, yn sicrhau bod cyfleusterau dalfeydd ym mhob un o’r 43 llu yng Nghymru a Lloegr yn cael eu harolygu’n rheolaidd.
Mae OPCAT yn mynnu bod phob man cadw’n cael ei ymweld gan gyrff annibynnol – a elwir yn Fecanwaith Ataliol Cenedlaethol (NPM) – sy’n monitro’r driniaeth a’r amodau ar gyfer carcharorion. Mae HMIP a HMICFRS yn ddau o nifer o gyrff sy’n ffurfio’r NPM yn y DU.
Mae ein harolygiadau’n asesu pa mor dda y mae pob heddlu’n cyflawni ei gyfrifoldebau am gadw’r rhai sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu yn ddiogel a’u bod yn cael eu trin yn barchus, a’r canlyniadau a gyflawnir ar gyfer carcharorion.
Gwneir ein hasesiadau yn ôl y meini prawf a nodir yn y Disgwyliadau ar gyfer Dalfeydd yr Heddlu. Ategir y safonau hyn gan safonau hawliau dynol rhyngwladol ac fe’u datblygir gan y ddwy arolygiaeth. Rydym yn ymgynghori â chyrff arbenigol eraill arnynt ar draws y sector ac maent yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i gyflawni’r arfer gorau yn y dalfeydd ac I ysgogi gwelliant.
Mae’r disgwyliadau wedi’u casglu o dan bum maes arolygu:
- arweinyddiaeth, atebolrwydd a phartneriaethau;
- cyn y ddalfa: y pwynt cyswllt cyntaf;
- yng nghelloedd y ddalfa: cofrestru, anghenion unigol a hawliau cyfreithiol;
- yng nghell y ddalfa: diogelu a gofal iechyd; a
- rhyddhau a throsglwyddo o’r ddalfa.
Mae’r arolygiadau hefyd yn asesu cydymffurfedd â chodau ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) ac Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig – Cadw a Chystodaeth y Coleg Plismona.
Mae’r fethodoleg ar gyfer cynnal yr arolygiadau yn seiliedig ar:
- adolygiad o strategaethau, polisïau a gweithdrefnau y llu;
- dadansoddiad o ddata’r llu;
- cyfweliadau â staff;
- arsylwadau mewn dalfeydd, gan gynnwys trafodaethau gyda charcharorion; ac
- archwiliad o gofnodion achosion.
Rydym hefyd yn cynnal dadansoddiad dogfennol o gofnodion dalfeydd yn seiliedig ar sampl gynrychioliadol o gofnodion dalfeydd ym mhob un o’r dalfeydd yn ardal y llu a oedd ar agor yn ystod yr wythnos cyn i’r arolygiad gael ei gyhoeddi. Ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru dadansoddwyd sampl o 94 o gofnodion. Mae’r fethodoleg ar gyfer ein harolygiad wedi’i nodi’n llawn yn Atodiad I.
Adran 1. Arweinyddiaeth, atebolrwydd a phartneriaethau
Canlyniadau disgwyliedig (adran 1)
Mae ffocws strategol ar y ddalfa, gan gynnwys trefniadau ar gyfer dargyfeirio’r rhai mwyaf agored i niwed o’r ddalfa. Mae trefniadau i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau sy’n benodol i’r ddalfa’n diogelu lles carcharorion.
Arweinyddiaeth
Mae gan y llu strwythur llywodraethu clir ar gyfer monitro’r ddarpariaeth ddiogel a pharchus o wasanaethau’r ddalfa ac i gefnogi gwelliant parhaus. Prif gwnstabl cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ddarparu gwasanaethau’r ddalfa. Mae uwch-arolygydd a phrif arolygydd yn gyfrifol am weithrediad y dalfeydd o ddydd i ddydd.
Mae trefniadau goruchwylio’n dda ar y cyfan, ac mae cyfarfodydd yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau’r dalfeydd:
- Mae prif arolygydd y ddalfa’n cynnal cyfarfod misol ar gyfer rheolwyr y ddalfa. Ymhlith y rhai sy’n mynychu mae rheolwyr y ddalfa, rheolwr nyrsys y ddalfa, swyddogion safonau proffesiynol a swyddogion hyfforddi. Maent yn trafod amrywiol faterion ynghylch y ddalfa ac yn archwilio perfformiad.
- Mae’r bwrdd gweithredol strategol yn ystyried materion y ddalfa a rhai meysydd o berfformiad yn y ddalfa.
- Mae’r bwrdd cynllunio strategol a dysgu sefydliadol yn ystyried: argymhellion HMICFRS; cwynion; ac unrhyw argymhellion a gyhoeddir gan Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
- Mae bwrdd cyfiawnder troseddol lleol, a gadeirir gan y comisiynydd heddlu a throseddu, hefyd yn goruchwylio’r ddarpariaeth ar gyfer dalfeydd.
Mae’r llu’n darparu gwasanaethau dalfa mewn tri lleoliad-yn Llai (Wrecsam), Llanelwy a Chaernarfon. Er mwyn rheoli gwasanaethau dalfa ym mhob un o’r tri lleoliad, mae:
- tri arolygydd dalfeydd;
- un arolygydd cymorth sy’n gyfrifol am bolisi;
- 36 o swyddogion y ddalfa; a
- 30 o swyddogion cadw’r ddalfa (CDO).
Mae’r llu’n cyflogi ei nyrsys dalfa ei hun, ond mae rheolaeth glinigol yn digwydd trwy gontract gyda Mountain Healthcare (MHC).
Mae lefelau staffio’n cael eu monitro’n ddyddiol ac yn gyffredinol mae unrhyw absenoldebau’n cael eu cyflenwi trwy symud staff rhwng y dalfeydd. Mae’r llu’n rheoli lefelau absenoldeb uwch oherwydd achosion COVID-19 a chyfyngiadau hunan-ynysu. Mae hyn yn golygu bod mwy o swyddogion heddlu’n gweithredu fel ‘carcharwyr’ ar gyfer absenoldebau CDO. Fodd bynnag, ni all carcharwyr gyflawni holl ddyletswyddau CDO, megis defnyddio Livescan ar gyfer olion bysedd (system a ddefnyddir i gadarnhau hunaniaeth y sawl sy’n cael eu cadw). Fe wnaeth swyddogion y gwnaethom siarad â hwy a oedd yn cyflawni’r dyletswyddau hyn ddweud wrthym nad oeddent i gyd wedi cael eu hyfforddi ar y dyletswyddau hyn ac nad oedd rhai’n hyderus wrth wneud y gwaith hwn.
Mae’r llu’n ceisio sicrhau gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau drwy fynd i’r afael â’r diffyg staff benywaidd ar gyfer y dalfeydd. Gyda’r anghydbwysedd presennol, mae’n anodd weithiau darparu aelod benywaidd o staff i gefnogi menywod yn y ddalfa. Ar adegau, mae nyrsys y ddalfa yn gwneud hyn er nad yw’n briodol i’w rôl.
Mae hyfforddiant staff yn dda. Mae pob swyddog dalfa a chadw yn cwblhau cwrs dalfa cychwynnol. Yna maent yn cysgodi staff mwy profiadol ac yn cwblhau portffolio cymhwysedd cyn iddynt ddechrau eu dyletswyddau llawn. Ar ôl hyn, mae hyfforddiant yn cynnwys tri diwrnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae dau o’r rhain ar gyfer cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelwch swyddogion, tra bod un diwrnod yn ymdrin â phynciau megis rheoli risg, cam-drin domestig a deall niwroamrywiaeth.
Mae’r llu wedi mabwysiadu Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig (APP) y Coleg Plismona. Mae ganddo hefyd ei bolisïau a’i ganllawiau ei hun ar gyfer y dalfeydd. Canfuom nad oedd y rhain yn cael eu dilyn bob amser, yn arbennig wrth reoli risg. Gwelsom wahaniaethau mewn ffyrdd o weithio yn y tair dalfa, ac weithiau rhwng staff ar sifftiau gwahanol. Er enghraifft, gwelsom anghysondebau ynghylch pryd i dynnu gefynnau, a sut y cynhaliwyd y broses gofrestru.
Ni fu unrhyw farwolaeth yn y ddalfa yng Ngogledd Cymru ers ein harolygiad yn 2014.
Meysydd i’w gwella
Dylai’r llu wneud yn siŵr bod holl staff y ddalfa yn dilyn APP (Cadw a Chystodaeth) y Coleg Plismona, yn ogystal â’i ganllawiau ei hun. Bydd hyn yn golygu bod carcharorion yn cael lefel briodol a chyson o driniaeth a gofal.
Atebolrwydd
Mae perfformiad yn cael ei fonitro yn y cyfarfodydd a ddisgrifir uchod. Mae sefydliadau eraill hefyd yn ymwneud â pheth monitro perfformiad. Mae hyn yn cynnwys nifer y carcharorion sy’n mynd i’r ddalfa, plant yn y ddalfa, a noeth-chwilio. Ond mae gwybodaeth bwysig ar goll. Mae hyn yn cynnwys amseroedd aros i garcharorion gael eu cofrestru i’r ddalfa, amseroedd cadw cyfartalog a nifer yr amseroedd y defnyddir dillad gwrth-rwygo. Mae’r heddlu’n datblygu ‘dangosfwrdd perfformiad’ i gynnwys rhagor o wybodaeth.
Mae rhywfaint o’r wybodaeth a gesglir gan y llu’n anghywir neu’n anghyflawn. Er enghraifft, nid yw holl swyddogion y ddalfa’n cofnodi’r amser y mae carcharorion yn cyrraedd y ddalfa yn gywir. Ac mae rhywfaint o wybodaeth yn anodd ei thynnu o system ddalfa’r heddlu oherwydd ei bod yn cael ei dal fel testun rhydd neu ddim yn y ffordd gywir. Er enghraifft, amseroedd aros i weld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, yr amser y mae carcharorion yn aros am asesiadau Adran 2 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a’r defnydd o offer atal. Mae hyn yn ei gwneud yn anos i’r heddlu fonitro ac asesu darpariaeth yn y dalfeydd.
Mae cofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau andwyol yn y ddalfa’n dda. Mae’r staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a chaiff pob digwyddiad ei gofnodi fel rhan o’r broses adrodd am ddigwyddiadau yn y ddalfa. Rhennir y gwersi a ddysgir o ymchwiliadau â staff trwy’r bwletinau ‘angen gwybod’ a chylchlythyr y ddalfa.
Nid yw’r llu bob amser yn diwallu’r gofynion a’r canllawiau a nodir yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) a’i chodau ymarfer. Er enghraifft:
- Nid yw amgylchiadau arestio bob amser yn cael eu hesbonio i swyddog y ddalfa ym mhresenoldeb y sawl sy’n cael eu cadw, nad yw’n diwallu gofynion paragraff 3.4 Cod C.
- Nid yw’r ‘prawf rheidrwydd’ a roddir gan swyddogion arestio i ddiwallu Cod G bob amser yn ddigon da.
- Nid yw carcharorion yn cael copi ysgrifenedig o’u hawliau fel mater o drefn, nad yw’n dilyn paragraff 3.2 Cod C.
- Nid yw adolygiadau cadw bob amser yn diwallu gofynion Cod C PACE.
- Mae swyddogion y ddalfa’n ymwneud ag ymchwiliadau fel mater o drefn. Maent yn cynnal adolygiadau sylfaenol o ymchwiliadau i asesu tystiolaeth ac i gyfeirio ymholiadau pellach. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i’w rôl o fynd ar drywydd ymchwiliadau ac yn peryglu annibyniaeth eu rôl. Mae’n groes i adran 36(5) o PACE.
Mae nifer y meysydd nad ydynt yn diwallu gofynion PACE yn destun pryder.
Defnyddir grym ac ataliaeth yn aml yn y ddalfa. Mae nifer y digwyddiadau sy’n ymwneud â defnyddio grym neu ataliaeth yn uwch nag yr ydym yn disgwyl ei weld ac wedi’i weld mewn lluoedd eraill. Mae ein harchwiliad o gofnodion dalfeydd, lluniau teledu cylch cyfyng a’n harsylwadau mewn dalfeydd yn awgrymu bod grym ac ataliaeth yn cael eu defnyddio’n aml, gan gynnwys ar gyfer tynnu dillad yn orfodol.
Nid yw llywodraethu a goruchwylio’r defnydd o rym yn ddigon da ac mae’n destun pryder. Mae’r bwrdd craffu defnydd strategol o rym yn ystyried y defnydd o rym yn y ddalfa, ond yn cael ei rwystro gan wybodaeth anghywir. Mae hyn yn golygu na all Heddlu Gogledd Cymru ddangos, pan ddefnyddir grym yn y ddalfa, ei fod yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mewn rhai o’r achosion a archwiliwyd gennym, ein barn ni yw nad oedd.
Nid oes digon o fanylion yn cael eu cofnodi ar logiau cadw i benderfynu pa rym a ddefnyddir, gan ba swyddogion, neu pam fod ei angen. Nid yw pob aelod o staff yn llenwi’r ffurflenni defnydd unigol o rym yn unol â chanllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Roedd rhai swyddogion yn aneglur pryd roedd rhaid iddynt ei wneud. Prin yw’r sicrwydd ansawdd o ddigwyddiadau yn ôl deunydd CCTV i ddangos pa mor dda yr ymdrinnir â digwyddiadau neu a yw’r grym a ddefnyddir yn gymesur ac yn gyfiawn.Yn gyffredinol, nid yw ansawdd y wybodaeth i gefnogi craffu effeithiol yn ddigon da.
Mae ansawdd y cofnodi ar gofnodion dalfeydd yn wael ac yn destun pryder. Er i ni weld rhai cofnodion manwl iawn ar gofnodion dalfeydd, nid yw gwybodaeth bwysig bob amser yn cael ei chofnodi (er enghraifft, y cyfiawnhad dros dynnu dillad carcharorion neu pan yw oedolion priodol yn cael eu galw). Nid yw rhywfaint o wybodaeth yn cael ei chofnodi’n gywir, megis yr amser mae ymweliadau â chelloedd yn digwydd, ac ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig y carcharorion.
Mae cofnodion dalfeydd yn aml yn gymysgedd o negeseuon testun safonol i atgoffa swyddogion sy’n eu cwblhau, a’r camau a gymerwyd. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer gwiriadau carcharorion ac adolygiadau PACE. Gall hyn wneud y cofnod yn ddryslyd i’w ddarllen ac yn anodd ei ddeall.
Mae arolygwyr y ddalfa’n gwneud ‘sampl ar hap’ o 20 o gofnodion bob mis. Ond nid yw’r gwiriadau hyn wedi nodi’r holl bryderon na’r gwahaniaethau mewn ffyrdd o weithio a welsom. Mae’r arolygwyr hefyd yn sicrhau ansawdd y cofnodion o’r dalfeydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Efallai y bydd mwy o fudd i arolygwyr edrych ar gofnodion o ddalfa nad yw’n un y maent yn gweithio ynddi. Disgwylir i symudiad diweddar i fonitro cofnodion ‘byw’ wella hyn.
Mae’r llu’n deall dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Dywedodd staff wrthym eu bod wedi cael hyfforddiant ar nodi a rheoli anghenion amrywiol carcharorion. Mae’r llu’n monitro anghymesuredd yn y gwasanaethau dalfa. Mae hyn er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n deg a bod camau gweithredu penodol i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon. Ond mae dangos canlyniadau teg yn anodd oherwydd nid yw ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig llawer o garcharorion yn cael ei gofnodi’n gywir.
Mae’r llu’n agored i graffu allanol gan sefydliadau annibynnol a grwpiau sydd â diddordeb yn y ddalfa. Mae gan ymwelwyr annibynnol â dalfeydd (ICVs) fynediad da i’r dalfeydd, gan gynnal ymweliadau rheolaidd â phob un ohonynt. (Mae ICVs yn wirfoddolwyr o’r gymuned leol sy’n ymweld yn ddirybudd i wirio triniaeth a lles carcharorion.) Mae staff y dalfeydd yn ymateb yn gyflym i unrhyw faterion a godir, ac mae’r prif arolygydd a rheolwr cynllun ICVs yn monitro hyn.
Mae’r comisiynydd heddlu a throseddu’n cadeirio’r bwrdd gweithredol strategol, y mae’r prif gwnstabl yn ei fynychu, a thrafodir gwybodaeth bwysig ynghylch y dalfeydd. Mae grŵp cynghori annibynnol yr heddlu a rhai grwpiau cymunedol hefyd yn cynnig craffu allanol.
Meysydd i’w gwella
Dylai’r llu gryfhau ei ddull o reoli perfformiad drwy gasglu a monitro gwybodaeth gywir ar gyfer ei brif wasanaethau, a dangos y canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer carcharorion.
Partneriaethau strategol i ddargyfeirio pobl o’r ddalfa
Mae blaenoriaeth strategol glir i ddargyfeirio plant a phobl agored i niwed o’r ddalfa. Mae’r staff yn ymwybodol o hon ac yn ei deall. Mae’r llu’n gweithio’n dda gyda sefydliadau eraill i gynnig llwybrau dargyfeirio a chynlluniau i atal a lleihau troseddu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gweithgarwch ymyrraeth gynnar ac atal wedi’i gydlynu drwy ganolfannau atal yng Nghaernarfon, Llanelwy a Llai;
- y cynllun Checkpoint, sy’n cynnig dewis arall yn lle’r opsiwn cyfiawnder troseddol i oedolion sy’n cwblhau’r cynllun yn llwyddiannus;
- cynllun llwybr menywod gyda chanolfannau yn y Rhyl, Bangor a Wrecsam;
- cynllun atgyfeirio cyffuriau; av
- ystod o fentrau Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol (CJLS).
Mae’r llu’n gweithio gyda’i sefydliadau partner ym maes iechyd meddwl i nodi, a diwallu anghenion, pobl ag afiechyd meddwl. Mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol CJLS yn gweithio yn ystafell reoli’r llu. Pan ydynt ar ddyletswydd, maent yn darparu cymorth gwerthfawr i swyddogion heddlu sy’n delio â digwyddiadau ar y stryd ac yn y ddalfa.
Mae’r llu hefyd yn gweithio gyda’i chwe awdurdod lleol, a gyda sefydliadau yn rhai o drefniadau partneriaeth ehangach Cymru, i wella canlyniadau i blant yn y ddalfa.
Adran 2. Cyn y ddalfa: y pwynt cyswllt cyntaf
Canlyniadau disgwyliedig (adran 2)
Mae swyddogion a staff yr heddlu’n mynd ati i ystyried dewisiadau eraill yn lle’r ddalfa ac, yn benodol, maent yn effro i, yn nodi ac yn ymateb yn effeithiol i wendidau a allai gynyddu’r risg o niwed. Maent yn dargyfeirio pobl sy’n agored i niwed y mae eu cadw o bosibl yn amhriodol.
Asesu yn y pwynt cyswllt cyntaf
Mae swyddogion rheng flaen yn deall bregusrwydd. Maent yn ystyried ffactorau megis salwch meddwl, ac anableddau dysgu neu gorfforol. Maent yn trin yr holl blant fel rhai sy’n agored i niwed oherwydd eu hoedran. Mae gan y llu ddiffiniad o fregusrwydd. Ond dywedodd swyddogion wrthym eu bod yn defnyddio eu barn i asesu amgylchiadau unigol unigolyn wrth fynychu digwyddiad a phenderfynu a yw’n briodol arestio rhywun.
Mae’r llu wedi darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb i helpu swyddogion i ddeall y gwahanol fathau o bobl sy’n agored i niwed. Roedd hyn yn cynnwys iechyd meddwl, cam-drin domestig a sut y gall profiadau bywyd gwael effeithio ar blant. Ond dywedodd swyddogion wrthym fod eu hyfforddiant yn aml trwy e-ddysgu yn hytrach nag wyneb yn wyneb, a fyddai, yn eu barn nhw, yn fwy buddiol.
Fe fu rhywfaint o hyfforddiant hefyd ar y cynllun atgyfeirio ‘cymorth cynnar’. Gall swyddogion ddefnyddio’r cynllun i gael cymorth i bobl agored i niwed gan sefydliadau eraill, megis gwasanaethau tai. Mae’r bobl hyn o bosibl mewn perygl o droseddu a’r gobaith yw y bydd cymorth cynnar yn atal neu’n lleihau’r risg hon.
Dywedodd swyddogion wrthym y gallai’r wybodaeth mae’r rhai sy’n trin galwadau yn ystafell reoli’r llu (sy’n cymryd galwadau gan aelodau’r cyhoedd) yn ei rhoi iddynt fod yn well weithiau. Nid yw swyddogion bob amser yn cael yr holl wybodaeth a gedwir am unigolion, neu efallai nad ydynt yn ei chael mewn pryd i’w helpu i ddelio â’r digwyddiad. Gallant ofyn am ragor o wybodaeth ac mae’r rhai sy’n delio â galwadau yn gwneud eu gorau i’w darparu. Gall swyddogion hefyd gael gwybodaeth o’u dyfeisiau symudol eu hunain, ond mae hyn yn dibynnu ar signal ffôn da a’r amser i chwilio. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae swyddogion yn gyffredinol yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i benderfynu beth i’w wneud.
Mae swyddogion yn archwilio ffyrdd eraill o ymdrin â digwyddiadau sy’n ymwneud â phlant i’w cadw allan o’r ddalfa os yn bosibl. Er enghraifft, maent yn:
- trefnu cyfweliadau mynychu’n wirfoddol yn lle mynd â phlentyn i’r ddalfa;
- mynd â phlant at aelodau eraill o’r teulu os oes angen tawelu sefyllfa;
- trafod y sefyllfa gyda gwasanaethau cymdeithasol plant i weld a allant gynnig cymorth; neu’n
- defnyddio datrysiad cymunedol ar gyfer trosedd lefel isel.
Weithiau, mae difrifoldeb trosedd, neu aildroseddu cynyddol, yn golygu mai arestio’r plentyn yw’r unig opsiwn. Ond dywedodd swyddogion fod rhaid iddynt gyfiawnhau unrhyw arestiad o blentyn i swyddogion y ddalfa wrth gyrraedd y ddalfa.
Dywedodd swyddogion wrthym eu bod yn cael cymorth da gan y gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gweithio yn ystafell reoli’r heddlu. Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn darparu cyngor a chymorth i helpu swyddogion i ddelio â phobl â salwch meddwl. Mae hyn yn cynnwys siarad yn uniongyrchol â’r person i ddeall ei anghenion yn well. Mae swyddogion yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth a dywedon nhw ei fod, yn eu barn hwy, yn helpu i osgoi cadw person dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 drwy ddod o hyd i atebion eraill.
Dywedodd swyddogion pan nad yw’r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn gweithio (maent yn gweithio rhwng 11.00am a hanner nos), mae cymorth yn fwy cyfyngedig. Yn aml ni allant siarad ag unrhyw un yn y timau argyfwng iechyd meddwl neu sefydliadau eraill i gael y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt. Dywedodd swyddogion wrthym fod hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn cadw pobl dan adran 136. Mae hyn er mwyn rheoli’r risg y mae’r person yn ei pheri iddo’i hun ac eraill yn well.
Mae swyddogion yn mynd â phobl sy’n cael eu cadw o dan adran 136 i ddalfa iechyd meddwl (man diogel sy’n seiliedig ar iechyd) er mwyn i asesiad Deddf Iechyd Meddwl gael ei gynnal. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir defnyddio dalfa’r heddlu fel man diogel. Nid oedd yr un o’r swyddogion y buom yn siarad â hwy yn gallu cofio achos lle roedd hyn wedi digwydd. Dywedodd swyddogion wrthym fod cytundeb rhwng yr heddlu a gwasanaethau iechyd meddwl yn golygu na ddylai carcharorion aros mwy na 30 munud yn y dalfeydd iechyd meddwl. Ond weithiau mae’n rhaid aros yn hirach cyn y gellir trosglwyddo’r person i weithwyr iechyd meddwl proffesiynol y GIG. Mae hyn yn ddefnydd gwael o amser swyddogion ac yn ganlyniad gwael i’r person mewn argyfwng iechyd meddwl.
Mae swyddogion yn arestio person os ydynt wedi cyflawni trosedd oni bai ei bod yn amlwg bod angen sylw meddygol ar unwaith. Mae nyrs y ddalfa’n delio ag unrhyw anghenion iechyd meddwl a nodir yn y ddalfa. Mae’r ymchwiliad yn parhau oni bai bod asesiad Deddf Iechyd Meddwl yn pennu bod angen i’r sawl sy’n cael eu cadw drosglwyddo i uned iechyd meddwl. Dywedodd swyddogion fod y sawl sy’n cael ei gadw yn cael ei gadw ymhellach o bryd i’w gilydd dan adran 136 yn y ddalfa oherwydd na ellir trefnu asesiad Deddf Iechyd Meddwl yn y ddalfa yn ddigon cyflym, neu fod cyflwr y sawl sy’n cael eu cadw’n gwaethygu.
Mae carcharorion fel arfer yn cael eu cludo i’r ddalfa mewn ceir heddlu. Mae ambiwlansys yn cael eu galw ar gyfer y rhai sy’n mynd i ddalfeydd iechyd meddwl, ond mae heddwas yn mynd gyda nhw. Os na all ambiwlans fod yn bresennol a bod car heddlu’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y carcharorion hyn, dylai parafeddyg fod yn y cerbyd hefyd.
Meysydd i’w gwella
Dylai fod gan swyddogion bob amser fynediad at gyngor gan wasanaethau iechyd meddwl i’w helpu i ymdrin â phobl â salwch meddwl yn briodol.
Adran 3. Yng nghelloedd y ddalfa: cofrestru, anghenion unigol a hawliau cyfreithiol
Canlyniadau disgwyliedig (adran 3)
Mae carcharorion yn derbyn triniaeth barchus yn y ddalfa ac adlewyrchir eu hanghenion unigol yn eu cynllun gofal a’u hasesiad risg. Rhoddir gwybod i garcharorion am eu hawliau cyfreithiol a gallant arfer yr hawliau hyn yn rhydd tra yn y ddalfa. Caiff pob risg ei nodi cyn gynted â phosibl.
Parch
Mae staff y ddalfa yn ymdrin yn dda â charcharorion, ond nid ydynt bob amser yn rhoi digon o sylw unigol iddynt. Yn gyffredinol, mae staff yn barchus, yn ddigynnwrf ac yn hyderus gyda’r carcharorion, ac yn rhoi amser a dealltwriaeth i’r rhai mwyaf bregus. Mae cyfeiriadau at garcharorion a’u hymddygiad yng nghofnodion y ddalfa fel arfer, ond nid bob amser, yn barchus ac yn briodol.
Ond mae rhyngweithiadau arferol gyda charcharorion yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa yn aml yn fyr ac yn ymarferol, yn hytrach na meithrin cydberthynas â charcharorion. Er enghraifft, wrth gofrestru, mae swyddogion y ddalfa’n mynd drwy’r rhestr o gwestiynau am anghenion yn eithaf cyflym. Maent bob amser yn gofyn a hoffai’r sawl sy’n cael eu cadw, gael sgwrs breifat ag aelod o staff. Ond, yn ein barn ni ac o’r hyn a welsom, ni ddywedodd neb yr hoffen nhw oherwydd iddo gael ei ddweud mewn ffordd mor gymhleth. Yn yr un modd, mae swyddogion y ddalfa sy’n cynnal eu hymweliadau arferol yn gyfeillgar eu tôn, ond yn aml nid ydynt yn gwneud llawer mwy na gofyn a yw’r person yn iawn.
Nid yw swyddogion y ddalfa yn aml yn gofyn i garcharorion a oes ganddynt ddibynyddion a allai gael eu heffeithio gan eu cadw.
Gwelir cyfrinachedd i raddau rhesymol ac nid yw gwybodaeth bersonol carcharorion yn cael ei harddangos mewn ystafelloedd. Mae cynllun prif ardal agored y dalfeydd yn golygu bod cofrestru’n gyfrinachol y rhan fwyaf o’r amser. Mae rhwystrau a sgriniau sylweddol yn gwahanu’r desgiau cofrestru. Fodd bynnag, ar adegau prysur gall pobl glywed trafodaethau rhwng y sawl sy’n cael eu cadw a swyddog y ddalfa. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a allai fod yn sensitif.
Mae dillad yn cael eu tynnu oddi ar garcharorion yn rhy aml heb reswm digonol (gweler adran 5: asesiad risg). Ac mae’n cael ei dorri i ffwrdd weithiau heb roi digon o sylw i urddas yr unigolyn. Yng Nghaernarfon, mae esgidiau carcharorion yn cael eu gadael fel mater o drefn ar y llawr yn y coridor y tu allan i’r gell. Mewn rhai achosion, mae dillad yn cael eu gadael allan hefyd, gan gynnwys dillad isaf. Mae diffyg preifatrwydd mewn cawodydd yn Llai a Chaernarfon (gweler adran 4: gofal carcharorion).
Meysydd i’w gwella
Dylai’r heddlu wella ei ddull o ymdrin â charcharorion ag urddas a phreifatrwydd drwy wneud yn siŵr:
- mae staff yn cyfathrebu â charcharorion mewn ffordd sy’n ymateb i’w hanghenion unigol;
- gall carcharorion ddatgelu gwybodaeth breifat neu sensitif mewn amgylchedd cyfrinachol, gan gynnwys yn ystod yr asesiad risg cychwynnol;
- gall carcharorion gael cawod mewn digon o breifatrwydd ym mhob dalfa; a
- mae dillad carcharorion yn cael eu tynnu’n barchus a’u storio’n briodol bob amser.
Diwallu anghenion amrywiol ac unigol
Yn gyffredinol, mae darpariaeth dda ar gyfer anghenion amrywiol ac unigol pobl. Mae deunyddiau printiedig pwysig ar gael yn Gymraeg. Ac roedd yn braf gweld llawer o staff yn newid yn rhwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn unol â dewis pob carcharor.
Mae staff wedi cael rhywfaint o hyfforddiant da mewn agweddau ar amrywiaeth, gan gynnwys niwroamrywiaeth. Gallant ddisgrifio’n dda sut maent wedi cefnogi carcharorion ag awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD). Mae’r llu wedi cynhyrchu llyfryn sy’n rhoi cyflwyniad i’r profiad yn y ddalfa. Mae mewn fformat hawdd ei ddarllen, darluniadol, ac mae’n cynnwys hawliau a hawliadau’r carcharorion. Mae ar gael ym mhob dalfa.
Mae menywod yn cael eu trin â gofal a pharch. Mae cynhyrchion mislif ar gael am ddim, ac yn cael eu storio’n hylanar y cyfan. Ond nid yw’r system o neilltuo swyddog benywaidd enwebedig i gynnig cymorth i bob menyw yn gweithio’n dda, ac yn aml nid yw fawr mwy nag enw ar gofnod cadw. Mae aelod benywaidd o staff fel arfer yn cael ei phenodi fel ‘hebryngwr’ ar gyfer y carcharor benywaidd. Ond gall y person fod yn rhywun na all fod ar gael ar fyr rybudd – neu’n nyrs, nad yw ei rôl broffesiynol yn gwbl gydnaws â’r rôl weithredol hon.
Mae cadair olwyn a dolen glyw ym mhob dalfa. Ond mae darparu addasiadau corfforol ar gyfer pobl ag anableddau’n anghyson. Fodd bynnag, mae’r cyfleusterau yn Llai yn weddol dda.
Yn aml nid yw swyddogion y ddalfa’n gofyn i’r sawl sy’n cael eu cadw nodi eu hethnigrwydd eu hunain, er bod cofnod yn cael ei wneud ar gofnod y ddalfa. Weithiau gofynnir y cwestiwn mewn ffordd arweiniol. Er enghraifft, ‘Ydych chi’n wyn Prydeinig?’.
Yn gyffredinol, mae carcharorion sy’n ei chael yn anodd deall Cymraeg neu Saesneg, gan gynnwys gwladolion tramor, yn cael cymorth priodol. Mae’r staff yn hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu dros y ffôn trwy ffonau deuol. Mae’r rhain yn caniatáu preifatrwydd yn ystod sgyrsiau.
Mae staff wedi derbyn hyfforddiant ar anghenion carcharorion trawsryweddol. Disgrifiodd y staff achlysuron lle maent wedi cymryd y dull cywir o chwilio, ac agweddau eraill ar gymorth, ar gyfer pobl â hunaniaethau rhywedd amrywiol.
Anaml y gofynnir i garcharorion a oes ganddynt unrhyw anghenion crefyddol. Cyfyngir y stoc o ddeunyddiau crefyddol i fatiau gweddïo a chopïau o’r Qur’an a’r Beibl.
Meysydd i’w gwella
Dylai’r llu gryfhau ei ddull o ddiwallu anghenion unigol ac amrywiol carcharorion drwy wneud yn siŵr:
- mae darpariaeth addas ar gyfer y rhai ag anableddau ym mhob ystafell;
- gofynnir i bob carcharor nodi ei ethnigrwydd;
- mae aelod benywaidd o staff ar gael yn hawdd pan gaiff ei neilltuo ar gyfer carcharorion benywaidd, ac yn cyflawni’r rôl yn effeithiol; a
- mae cyflenwad digonol o adnoddau ar gyfer y prif grefyddau ym mhob dalfa, ac fe’u rhoddir i’r rhai a all fod eu heisiau.
Asesiadau risg
Mae’r dull o nodi risg yn gyffredinol dda, ond mae gwendidau sylweddol o ran rheoli risg. Mae rhai ffyrdd o weithio yn golygu nad yw’r llu bob amser yn sicrhau diogelwch carcharorion. Mae hwn yn achos pryder yr ydym yn disgwyl i’r llu fynd i’r afael ag ef ar unwaith.
Mae’r rhan fwyaf o garcharorion yn cael eu cadw yn y ddalfa’n brydlon. Ond yn ystod cyfnodau prysur, gallant aros am amser hir mewn ystafelloedd dal neu gerbydau cyn yr awdurdodir eu cadw. Pan fydd ciwiau’n ffurfio, ychydig o reolaeth sydd i nodi pwy ddylai gael ei flaenoriaethu ar gyfer cofrestru.
Wrth gwblhau asesiadau risg cychwynnol gyda charcharorion, mae swyddogion y ddalfa’n canolbwyntio’n briodol ar nodi risgiau, ffactorau bregusrwydd a phryderon lles. Maent yn rhyngweithio’n dda â charcharorion i gwblhau’r asesiad risg. Ac maent yn gofyn cwestiynau atodol a threiddgar perthnasol pan fo angen. Ceir croesgyfeiriadau rheolaidd at farcwyr rhybudd cyfrifiadurol cenedlaethol yr heddlu i helpu i nodi ffactorau risg ychwanegol. Ond anaml y gofynnir i swyddogion sy’n arestio ac yn hebrwng a oes ganddynt unrhyw wybodaeth berthnasol i’w hychwanegu.
Pan fydd mwy nag un swyddog y ddalfa ar ddyletswydd, mae’n amlwg pwy yw swyddog dynodedig y ddalfa ar gyfer pob carcharor. Ac mae’r wybodaeth hon wedi’i dogfennu ar gofnodion.
Yn gyffredinol, mae arsylwadau carcharorion yn cael eu gosod ar lefel sy’n gymesur â’r risgiau a gyflwynir. Mae amlder gwiriadau ar garcharorion yn cael eu cynnal yn ôl yr angen yn bennaf. Ond nid yw amseroedd y gwiriadau hyn bob amser yn cael eu cofnodi’n gywir. Yn aml mae swyddogion cadw gwahanol yn y ddalfa’n cwblhau’r gwiriadau. Mae hyn yn golygu efallai na fydd newidiadau yn ymddygiad neu gyflwr y sawl sy’n cael eu cadw yn cael eu nodi.
Mae’r rhan fwyaf o garcharorion dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau yn cael eu monitro’n gywir ar lefel sy’n golygu bod angen eu deffro, fel sy’n ofynnol gan lefel 2 yn APP. Ond mewn achosion y gwnaethom eu gwylio ar CCTV, gwelsom nad yw swyddogion cadw yn y ddalfa bob amser yn deffro’r rhai ar Lefel 2 yn y ffordd gywir i wneud yn siŵr eu bod yn aros yn ddiogel. Nid yw’r gwiriadau hyn bob amser wedi’u dogfennu’n gywir. Mae gorddibyniaeth ar destun sydd wedi’i ragboblogi, a all fod yn gamarweiniol, yn hytrach na chynnwys yn gywir fanylion yr hyn a waned yn y gwiriaddeffro. Fel gyda gwiriadau eraill, mae gwahanol aelodau o staff yn aml yn cynnal y rhain. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach adnabod newidiadau yng nghyflwr y carcharorion – rhywbeth sy’n arbennig o bwysig i’r rhai sydd dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau. Nid yw’r arferion hyn yn dilyn canllawiau APP.
Mae swyddogion y ddalfa’n adolygu lefelau arsylwi yn rheolaidd. Maent fel arfer yn cofnodi digon o wybodaeth ar gofnodion y ddalfa i ddangos pryd a pham y maent wedi cael eu newid.
Pan yw’r asesiad yn dangos lefel uwch o risg, gwelir carcharorion yn agosach naill ai ar:
- Lefel 3 (arsylwi cyson trwy CCTV); neu
- Lefel 4 (goruchwyliaeth gorfforol agos).
Nid yw rhai o’r meysydd lle mae monitro Lefel 3 yn digwydd wedi’u cwmpasu gan gamerâu CCTV fel sy’n ofynnol gan ganllawiau APP.
Mae swyddogion y ddalfa yn briffio staff sy’n cynnal arsylwadau Lefel 4 (gwylio’n gyson wrth ddrysau celloedd). Ond nid yw hyn bob amser yn cael ei nodi’n ddigonol ar gofnodion. Mae swyddogion sy’n cyflawni’r dyletswyddau hyn yn aml yn aros yn eu swyddi am gyfnodau hir heb egwyl. Nid yw hyn yn dilyn canllawiau APP.
Waeth beth am gyflwyno risgiau, mae swyddogion y ddalfa – fel yn ein harolygiad yn 2014 – yn tynnu dillad â chordiau ac esgidiau oddi ar garcharorion yn hytrach na gwneud asesiad risg unigol fel mater o drefn. Anaml y cofnodir unrhyw gyfiawnhad dros hyn.
Mae swyddogion y ddalfa – fel yn ein harolygiad yn 2014 a’r un blaenorol – yn parhau i ddefnyddio dillad gwrth-rwygo’n fynych, yn aml heb gofnodi rheswm digonol. O bryd i’w gilydd, mae’n ymddangos bod defnyddio dillad gwrth-rwygo yn rhagataliol ac fel ymateb cyntaf yn hytrach nag ystyried ffyrdd eraill o reoli’r risgiau. Mewn llawer o achosion, gellir cyfiawnhau defnyddio dillad gwrth-rwygo dim ond oherwydd nad yw’r sawl sy’n cael eu cadw wedi ateb cwestiynau’r asesiad risg yn hytrach nag unrhyw bryderon penodol am risgiau a gyflwynir.
Mae carcharorion mewn dillad gwrth-rwygo yn aml yn cael eu rhoi ar arsylwadau lefel isel. Mae hyn yn awgrymu nad yw eu risgiau’n cael eu hystyried fel rhai sylweddol. Mae rhai’n cael eu gadael ag eitemau o ddillad isaf, sy’n tanseilio’r angen i dynnu dillad yn y lle cyntaf. Hyd yn oed pan yw carcharorion ar lefel uwch o arsylwi, mae eu dillad yn aml yn dal i gael eu tynnu. Mae hwn yn ymateb anghymesur i reoli risg. Ac mae’n arwain at ganlyniadau gwael i garcharorion, yn arbennig pan ddefnyddir grym i dynnu dillad. Ein barn ni yw y gallai risgiau gael eu rheoli’n well trwy lefelau uwch o arsylwi a siarad â charcharorion.
Mae trosglwyddiadau rhwng sifftiau’n cael eu cofnodi ar deledu cylch cyfyng. Mae holl staff y ddalfa, ac eithrio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn cael eu cynnwys yn rheolaidd ac mae’r ffocws ar risg a lles. Mae gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu trosglwyddiadau eu hunain ac yna’n rhannu unrhyw faterion risg a lles gyda staff y ddalfa. Ond ein disgwyliad, a chanllawiau APP, yw y dylai trosglwyddiadau gynnwys yr holl staff. Mae swyddogion y ddalfa’n ymweld ac yn rhyngweithio â charcharorion yn eu gofal ar ôl y trosglwyddo. Mae hyn wedi gwella ers ein harolygiad diwethaf.
Mae’n dda bod holl staff y ddalfa’n cario cyllyll gwrth-glymu. Mae clychau galw mewn celloedd yn glywadwy ac fel arfer maent yn cael ymateb prydlon.
Mae allweddi celloedd yn aml yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth mewn swyddfeydd, sy’n wael. Ychydig iawn o oruchwyliaeth sydd o ran pryd y cânt eu rhoi i staff nad ydynt yn staff y ddalfa, sy’n golygu na all staff y ddalfa gadw rheolaeth arnynt. Nid oes gan staff nad ydynt yn staff y ddalfa fynediad at gyllyll gwrth-glymu, sy’n golygu na allant ymateb yn gyflym os oes angen iddynt dorri clymiad oddi wrth y sawl sy’n cael eu cadw.
Hawliau cyfreithiol unigol
Mae’r rhan fwyaf o garcharorion yn cael eu cofrestru i’r ddalfa’n gyflym. Roedd hyn yn amlwg yn yr achosion y gwnaethom eu hadolygu a’u harsylwi yn ystod ein harolygiad. A chadarnhaodd swyddogion, yn gyffredinol, fod amseroedd aros byr i garcharorion gael eu cofrestru i’r ddalfa. Yn ystod sesiynau briffio trosglwyddo a chyfnodau prysur, roedd amseroedd aros yn hirach ond nid yn helaeth. Mae hyn yn dda i garcharorion.
Mae swyddogion y ddalfa’n awdurdodi carcharu’n briodol. Ond nid yw’r angen i arestio bob amser yn cael ei roi’n ddigon manwl i swyddog y ddalfa i ddiwallu gofynion Cod G PACE. Nid yw’r amgylchiadau a’r rhesymau dros arestio bob amser yn cael eu hesbonio ym mhresenoldeb y sawl sy’n cael eu cadw fel sy’n ofynnol gan God C PACE paragraff 3.4a.
Mae’r llu’n defnyddio dewisiadau eraill i ddargyfeirio pobl o’r ddalfa pan fo hynny’n briodol. Anogir presenoldeb gwirfoddol ar gyfer cyfweliadau. Mae swyddogion yn mynd â charcharorion sy’n cael eu harestio ar warant neu am dorri amodau trwydded yn uniongyrchol i’r llys neu’r carchar lle bo modd. Mae hyn yn osgoi’r angen i garcharorion fynd i’r ddalfa’n gyntaf. Hyrwyddir gwarediadau tu allan i’r llys drwy’r cynllun Checkpoint a’r rhaglenni llwybr menywod.
Dylid cadw carcharorion yn y ddalfa am y lleiafswm o amser sydd ei angen. Mae’r llu’n ceisio symud achosion ymlaen cyn gynted â phosibl i gyflawni hyn. Mae ganddo wybodaeth am faint o amser y mae carcharorion yn ei dreulio yn y ddalfa cyn iddynt gael eu rhyddhau cyn cyhuddo, a’u hamseroedd cadw cyffredinol. Ond nid yw hyn yn cael ei fonitro’n rheolaidd.
Mae gwybodaeth a ddarparwyd gan yr heddlu yn dangos bod nifer y carcharorion mewnfudo wedi gostwng yn sylweddol dros y tair blynedd diwethaf (o 193 yn y cyfnod 1 Tachwedd 2018 i 31 Hydref 2019 i 13 ar gyfer yr un cyfnod 2020 i 2021). Yn 2020/2021 treuliodd carcharorion mewnfudo 12 awr a 34 munud ar gyfartaledd dan glo ar ôl iddynt gael eu papurau mewnfudo (IS91). Unwaith y bydd y papurau hyn wedi’u cyflwyno, dylai’r gwasanaethau mewnfudo drosglwyddo’r carcharorion hyn i gyfleuster mewnfudo.
Rhoddodd rhai swyddogion y ddalfa, ond nid pob un, esboniadau da i garcharorion am eu tri phrif hawl a hawliad. Y rhain yw:
- i rywun gael ei hysbysu am eu harestiad;
- ymgynghori â chyfreithiwr a chael cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim; ac
- gweld codau ymarfer PACE.
Nid yw carcharorion yn cael gwybodaeth ysgrifenedig gyson am eu hawliau a’u hawliadau. Nid yw hyn yn diwallu gofynion Cod C PACE paragraff 3.2. Mae gan y llu lyfryn ar gyfer carcharorion, sy’n nodi eu hawliau a’u hawliadau unigol. Ond nid yw hwn bob amser yn cael ei roi iddynt. Roedd rhai gwallau yn y llyfryn hefyd. Fodd bynnag, pan wnaethom dynnu sylw at hyn, trefnodd y llu ei ddiweddaru.
Mae posteri yn hysbysebu’r hawl i gyngor cyfreithiol am ddim yn y Gymraeg a’r Saesneg ym mhob ystafell. Ond nid oedd posteri mewn ieithoedd eraill, yn unol â Chod C PACE nodyn 6H. Roedd y llu’n trefnu i gael y rhain.
Mae digon o gopïau o lyfrynnau Cod C diweddaraf PACE (Awst 2019) ym mhob un o’r dalfeydd. Ond nid yw’r rhain yn cael eu cynnig fel mater o drefn i garcharorion fel y dylent (yn unol â Chod C PACE paragraff 3.1).
Nid oedd yr un o swyddogion y ddalfa y siaradwyd â hwy yn ymwybodol o ofynion Atodiad M Cod C PACE (cyfieithu dogfennau a chofnodion pwysig y ddalfa). Gwelsom rai carcharorion â dealltwriaeth gyfyngedig o’r Saesneg a fyddai wedi elwa o’r cyfieithiadau hyn.
Mae copïau o’r fersiwn hawdd ei darllen o’r llyfryn sy’n amlinellu hawliau a hawliadau carcharorion ym mhob ystafell. Ond nid yw’r rhain yn cael eu cynnig yn gyson i oedolion agored i niwed, plant neu garcharorion eraill a fyddai’n elwa arnynt.
Mae digon o ystafelloedd cyfweld ac ymgynghori i garcharorion allu ymgynghori â’u cynrychiolwyr cyfreithiol yn breifat. Gall y rhai sy’n dymuno siarad â’u cynrychiolwyr cyfreithiol dros y ffôn hefyd wneud hynny’n breifat. Gall cynrychiolwyr cyfreithiol weld allbrint cryno o ddalen flaen cofnod cadw eu cleient ar gais.
Mae swyddogion y ddalfa’n ymwybodol o sut i gysylltu â’r llysgenadaethau, conswliaethau neu uchel gomisiynau perthnasol ar gyfer gwladolion tramor sy’n dod i’r ddalfa os bydd carcharor yn gofyn am hyn. Maent hefyd yn ymwybodol o’r gofynion i hysbysu llysgenadaethau, is-genhadon neu uchel gomisiynau pan fo cytundebau ar waith i wneud hynny.
Caiff DNA ei storio mewn rhewgelloedd dan glo a’i gasglu’n rheolaidd o’r ystafelloedd.
Meysydd i’w gwella
Dylai swyddogion y ddalfa ddarparu fersiwn hawdd ei darllen yn gyson o hawliau a hawliadau i blant, oedolion agored i niwed a charcharorion eraill a fyddai’n elwa arnynt.
Adolygiadau cadw
Nid yw adolygiadau cadw bob amser yn cael eu cynnal yn dda nac er lles gorau’r sawl sy’n cael eu cadw. Mae llawer o agweddau nad ydynt yn diwallu gofynion Cod C PACE.
Cynhelir y rhan fwyaf o adolygiadau yn bersonol gan arolygwyr gweithredol neu arolygwyr y ddalfa, a chânt eu cynnal ar amser. Yn yr adolygiadau a welsom, roedd carcharorion yn cael eu trin yn gwrtais, a thrafodwyd eu lles.
Fodd bynnag, nid oedd carcharorion bob amser yn cael gwybod am eu holl hawliau ac nid oeddent yn cael gwybod bod eu carchariad parhaus wedi’i awdurdodi. Mewn rhai achosion, awdurdodwyd cadw cyn i’r carcharorion gael y cyfle i wneud unrhyw sylwadau fel sy’n ofynnol gan God C PACE paragraff 15.3.
Canfuom, yn y rhan fwyaf o achosion i ni eu harchwilio a’u gweld lle roedd adolygiadau wedi’u cynnal tra bod carcharorion yn cysgu, nad oedd carcharorion yn cael gwybod am hynar y cyfle cyntaf. Mae hyn er gwaethaf nodi’n glir ar y cofnod cadw bod angen i hyn ddigwydd. Roedd hi weithiau rhwng pump a chwe awr cyn i garcharorion gael gwybod. Ac ni roddwyd eu hawliau a’u hawliadau eto bob amser, ac ni ofynwyd a oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud ynghylch awdurdodi eu cadw ymhellach. Nid yw hyn yn diwallu gofynion Cod C PACE paragraff 15.7.
Mynediad at gyfiawnder cyflym
Mae’r llu’n monitro pobol sy’n cael eu rhyddhau ar fechnïaeth neu sy’n destun ymchwiliad. Ac yn adolygu perfformiad cyffredinol yn rheolaidd, megis faint o achosion sydd yn y system. Dangosodd ein dadansoddiad o gofnodion cadw fod 43 y cant o achosion wedi’u cwblhau yn ystod y cyfnod cadw cyntaf. Cafodd carcharorion eu rhyddhau ar fechnïaeth neu eu rhyddhau dan ymchwiliad yn yr achosion eraill.
Mae goruchwylwyr rheng flaen yn gyfrifol am reoli’r ymchwiliadau. Ond mae swyddogion y ddalfa’n cynnal adolygiad ymchwiliad cychwynnol ar ôl i garcharor gael ei ryddhau dan ymchwiliad. Mae gweithredoedd yn cael eu cofnodi fel bod y swyddog ymchwilio’n deall pa gamau sydd angen eu cymryd.
Nid yw swyddogion y ddalfa bob amser yn esbonio i garcharorion a ryddhawyd dan ymchwiliad y troseddau posibl y gallent fod yn eu cyflawni os ydynt yn ymyrryd â dioddefwyr neu dystion tra bod yr ymchwiliad yn parhau. Rhoddir hysbysiad yn amlinellu’r rhain iddynt, ond gofynnir iddynt ei ddarllen a’i lofnodi yn unig.
Cwynion
Mae’r dull o ymdrin â chwynion tra bod carcharorion yn y ddalfa yn wael. Nid yw carcharorion sy’n dymuno gwneud cwyn tra yn y ddalfa bob amser yn gallu gwneud hynny cyn iddynt gael eu rhyddhau.
Nid oedd y staff y siaradwyd â hwy yn glir ynghylch y weithdrefn ar gyfer cymryd cwyn gan y sawl a oedd yn cael ei gadw. Dywedwyd wrthym y byddai’r carcharor yn cael ei gynghori i ffonio 101 ar ôl iddo gael ei ryddhau, neu y byddai’n hysbysu arolygydd y ddalfa yn hytrach na chymryd y gŵyn. Daethom o hyd i enghreifftiau o garcharorion a oedd am gwyno ond ni chafodd hyn ei gofnodi ar y cofnod cadw ac ni ymdriniwyd ag ef.
Mae ond ychydig o hyrwyddo, ac ond ychydig o wybodaeth am, sut i wneud cwyn tra yn y ddalfa. Mae’r daflen am Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi dyddio ac yn cyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu blaenorol.
Darparodd yr heddlu fanylion deg cwyn a wnaed yn ystod cyfnod o chwe mis hyd at fis Hydref 2021. Mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod mwy o gwynion na hyn ond nid yw’r llu yn casglu’r rhain.
Meysydd i’w gwella
Dylai carcharorion allu gwneud cwyn yn hawdd, a chyn iddynt adael y ddalfa.
Adran 4. Yng nghell y ddalfa, diogelu a gofal iechyd
Canlyniadau disgwyliedig (adran 4)
Cedwir carcharorion mewn amgylchedd diogel a glân lle caiff eu diogelwch ei amddiffyn ar bob adeg yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa. Mae swyddogion yn deall y rhwymedigaethau a’r dyletswyddau sy’n deillio o ddiogelu (amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg). Mae carcharorion yn cael mynediad at ymarferwyr gofal iechyd cymwys sy’n diwallu eu hanghenion iechyd corfforol, iechyd meddwl a defnydd sylweddau mewn modd amserol.
Mae’r amgylchedd ffisegol yn ddiogel
Ers ein harolygiad blaenorol yn 2014, mae dwy ddalfa ran-amser a dalfa amser llawn yn Wrecsam wedi cau. Bellach mae gan stad y dalfeydd yng Ngogledd Cymru dair dalfa ddynodedig amser llawn – yng Nghaernarfon, Llanelwy a chyfleuster newydd yn Llai (Wrecsam).
Mae amodau cyffredinol y tair dalfa’n amrywio oherwydd oedran a chynllun yr adeiladau, ond mae celloedd yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, ac mae glendid yn dda. Ac eithrio pedair cell yng Nghaernarfon, mae rhywfaint o olau naturiol ym mhob cell, a dim graffiti amlwg.
Mae pwyntiau clymu posibl ym mhob dalfa, yn bennaf oherwydd cynllun toiledau a sinciau. Yn ystod yr arolygiad, rhoesom adroddiad darluniadol cynhwysfawr i’r heddlu yn manylu ar y pwyntiau clymu, yn ogystal ag amodau cyffredinol.
Mae’r cyfleusterau’n amrywio yn yr ystafelloedd. Er enghraifft, mae gan gelloedd Caernarfon feinciau sydd naill ai’n rhy uchel neu’n rhy isel i ddiwallu’r canllawiau cyfredol. Hefyd, dim ond y celloedd yn Llai sydd â intercoms ar gyfer cyfathrebu o bell.
Mae system CCTV o ansawdd da ym mhob cell yn Llai. Yn y ddwy ddalfa arall, ceir cwmpas rhannol o ansawdd gwael mewn rhai celloedd. Nid yw hysbysiadau bod CCTV ar waith bob amser yn cael eu harddangos mewn man amlwg lle gall carcharorion eu gweld. Ac nid oes unrhyw hysbysiadau yn unrhyw un o’r celloedd a gwmpesir gan gamerâu.
Dylai dalfeydd gael gwiriadau cynnal a chadw rheolaidd, ond canfuom rai bylchau yn y cofnodion dyddiol, wythnosol a misol. Dywedwyd wrthym, yn y rhan fwyaf o achosion, bod atgyweiriadau’n cael eu gwneud yn gyflym.
Mae’r rhan fwyaf o staff y ddalfa yn ymwybodol o weithdrefnau gwacáu mewn argyfwng, ac mae digon o gefynnau i wacáu celloedd os oes angen. Ond ychydig o staff sydd wedi cymryd rhan mewn gwacáu corfforol i wneud yn siŵr bod y gweithdrefnau’n gweithio’n ymarferol fel sy’n ofynnol gan y rheoliadau tân. Nid oes unrhyw arwyddion allanfa dân yn cael eu harddangos yn Llanelwy.
Meysydd i’w gwella
- Dylai hysbysiadau sy’n nodi bod teledu cylch cyfyng ar waith gael eu harddangos yn amlwg ym mhob rhan o’r dalfeydd.
- Dylai’r llu gadw at ofynion cyfreithiol ar gyfer rheoliadau tân, yn arbennig ynghylch gwacáu mewn argyfwng. Dylid arddangos arwyddion allanfa dân priodol yn Llanelwy.
Diogelwch: defnydd o rym
Mae staff y dalfeydd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hyfforddiant diogelwch personol ac yn cymryd rhan mewn hyfforddiant gloywi rheolaidd.
Mae gwybodaeth am gofnodion y dalfeydd sy’n ymwneud â defnyddio grym yn aml yn gyfyngedig, ar goll neu wedi’i chofnodi’n anghywir. Canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yw, pan ddefnyddir unrhyw rym ar garcharorion y dylai pob swyddog dan sylw ei gofnodi ar ffurflen unigol. Nid yw polisi Heddlu Gogledd Cymru (a ddatblygodd mewn ymgynghoriad â grwpiau cymunedol allanol) yn mynnu bod ffurflenni defnydd o rym yn cael eu llenwi ar gyfer ‘grym corfforol meddal’ sy’n ymwneud â defnydd o efynnau sy’n cydymffurfio. Dywedodd staff wrthym nad oeddent yn cyflwyno ffurflenni defnydd o rym ar gyfer defnydd o efynnau sy’n cydymffurfio. Ond mae rhai staff yn dehongli ‘grym corfforol meddal’ yn ehangach ac nid ydynt yn llenwi ffurflenni. Mae hyn yn golygu nad yw defnydd o rym bob amser yn cael ei gofnodi pan ddylai fod. Yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, nid yw’n bosibl gwybod pa mor aml a pha fath o rym a ddefnyddir yn y ddalfa. Mae hyn yn destun pryder.
Mae cofnodi defnydd o rym yn gywir yn cael ei rwystro ymhellach oherwydd nad yw system gyfrifiadurol Heddlu Gogledd Cymru yn cyd-fynd â chanllawiau cofnodi cenedlaethol. O’r achosion a aseswyd gennym, ac o’n harsylwadau, canfuom 37 o achosion lle roedd y wybodaeth yn awgrymu bod grym wedi’i ddefnyddio. Mae hyn yn fwy o achosion nag a welsom mewn arolygiadau lluoedd eraill. Er, mewn rhai o’r achosion hyn, pan wnaethom archwilio’r ffilm TCC, nid oedd grym wedi’i ddefnyddio mewn gwirionedd.
Roedd tua dwy ran o dair o’r achosion a archwiliwyd gennym yn ymwneud â thynnu dillad carcharorion yn orfodol. Unwaith eto, mae hyn yn llawer uwch nag yr ydym wedi’i weld mewn lluoedd eraill. Fel y disgrifiwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn mewn asesiad risg, ein barn ni yw nad yw tynnu dillad bob amser yn angenrheidiol nac yn gyfiawn. Mae’n arwain at rywfaint o ddefnydd diangen o rym.
O’r achosion a adolygwyd gennym ar deledu cylch cyfyng, canfuom rai enghreifftiau da lle gwnaed ymdrechion i dawelu sefyllfaoedd. Pan ddefnyddiwyd grym, defnyddiwyd technegau’n gywir ar y cyfan. Fodd bynnag, canfuom hefyd rai technegau gwael ac arfer amharchus. Roedd hyn yn cynnwys ataliaeth hir gyda charcharorion yn gorwedd wyneb i waered a gadael carcharorion yn noeth mewn celloedd. Atgyfeiriwyd yr achosion hyn i Heddlu Gogledd Cymru er mwyn iddynt eu hadolygu a dysgu oddi wrthynt.
Mae rhywfaint o sicrwydd ansawdd o ran digwyddiadau defnydd o rym yn y ddalfa. Ond dywedwyd wrthym mai ond ychydig o ddigwyddiadau sy’n cael eu gwylio ar luniau teledu cylch cyfyng. Dywedwyd wrthym hefyd na fyddai unrhyw beth a ystyrir yn ‘rym corfforol meddal’ yn cael ei adolygu.
Mewn tri achos, defnyddiwyd chwistrell analluogi yn eu herbyn wrth gael eu harestio. Nid oedd tystiolaeth o unrhyw ôl-ofal a roddwyd i’r carcharorion hynny yn ystod eu cyfnodyn y ddalfa.
Mae’r arfer o dynnu gefynnau’n amrywio rhwng dalfeydd. Nid yw carcharorion bob amser yn cyrraedd mewn gefynnau. Ond pan ydynt yn gwneud hynny, mae rhai carcharorion sy’n cydymffurfio’n parhau i fod mewn gefynnau am gyfnod rhy hir, yn aml oherwydd eu bod yn aros am ganiatâd swyddog y ddalfa i’wtynnu.
Ychydig o noeth-chwiliadau a welsom. Roedd y rhai a welsom wedi’u cyfiawnhau’n ddigonol ac yn cael eu cynnal yn briodol.
Meysydd i’w gwella
- Dylai carcharorion dderbyn ôl-ofal priodol pan gânt eu chwistrellu ag analluogydd.
- Dylid symud gefynnau oddi ar garcharorion sy’n cydymffurfio cyn gynted â phosib.
Gofal carcharorion
Yn gyffredinol, gofelir yn dda am garcharorion, ond nid yw staff yn ddigon rhagweithiol wrth gynnig a darparu rhai agweddau ar ofal. Roedd y rhan fwyaf o garcharorion y buom yn siarad â nhw yn canmol y gofal a roddwyd iddynt. Dywedodd rhai – yn arbennig y rheini a oedd yn agored i niwed neu’n ofidus – fod y staff yn ardderchog.
Mae swyddogion y ddalfa yn darllen y rhestr o wasanaethau i garcharorion wrth eu cofrestru, ond yn ymarferol anaml y cânt eu hailgynnig neu eu darparu. Fodd bynnag, mae agweddau staff at garcharorion yn dda, ac maent yn ymateb yn gadarnhaol ac yn brydlon i geisiadau penodol.
Mae cyfleusterau paratoi bwyd yn dda ac yn cael eu cadw’n lân. Mae bwyd a diodydd yn cael eu cynnig am ddim trwy gydol y dydd, er bod yr ystod o fwyd yn fwy cyfyngedig nag a welwn yn aml. Dywedwyd wrthym fod problemau cyflenwad cenedlaethol ar gyfer danfon prydau microdon. Roedd hyn yn cyfyngu ymhellach ar y dewisiadau oedd ar gael i garcharorion ar adeg ein harolygiad. Roedd y llu’n ceisio datrys y problemau hyn.
Mae darpariaeth dda ar gyfer golchi dwylo a hylendid, er nad yw cawodydd Caernarfon a Llai yn ddigon preifat. Mae hyn oherwydd eu lleoliad a drysau siglo isel (gweler adran 3: parch). O’n harsylwadau, ac yn y cofnodion a archwiliwyd gennym, dim ond ychydig o garcharorion y cynigiwyd neu y darparwyd cawodydd iddynt. Fel arfer dim ond i’r rhai a oedd yn mynychu’r llys y cawsant eu cynnig.
Mae cyflenwad da o ddillad a blancedi ym mhob dalfa.
Mae’r iardiau ymarfer ym mhob dalfa’n addas ac yn ddigon mawr ond nid yw ymarfer corff yn cael ei gynnig fel mater o drefn. Fodd bynnag, canfuom fod staff yn aml yn awgrymu i garcharorion sy’n dangos arwyddion o straen y gallent hoffi ychydig o amser yn yr iard ymarfer corff.
Mae cyflenwad da o lyfrau yn y dalfeydd, yn bennaf nofelau Saesneg gyda nifer fechan o lyfrau mewn ieithoedd tramor. Mae ond ychydig iawn o gylchgronau a dim papurau newydd. Yn Llai, mae detholiad o lyfrau i bobl iau – sy’n dda. Yn anffodus, anaml iawn y mae staff y ddalfa yn cynnig deunyddiau darllen i garcharorion.
Mae’r llu wedi cynhyrchu llyfrynnau difyrrwch gyda phosau a gweithgareddau eraill, ac yn darparu blychau bach o bensiliau lliw i gyd-fynd â nhw. Fodd bynnag, ni welsom yr un o’r rhain yn cael eu rhoi i garcharorion yn ystod ein hymweliadau.
Meysydd i’w gwella
Dylai’r heddlu wella ei ofal ar gyfer carcharorion trwy wneud yn siŵr:
- mae carcharorion yn cael cynnig yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys llyfrau, deunyddiau difyrrwch, bwyd, ymarfer corff neu gawod; a
- mae ystod dda o fwyd ar gael bob amser.
Diogelu
Yn gyffredinol, mae swyddogion rheng flaen a swyddogion y ddalfa a staff yn deall diogelu a’u cyfrifoldebau i oedolion a phlant sy’n agored i niwed. Cefnogir hyn gan hyfforddiant i helpu staff i ddeall bregusrwydd. Mae hyn yn cynnwys anghenion niwroamrywiol a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae staff y ddalfa yn derbyn hyfforddiant ychwanegol ar y pynciau hyn.
Swyddogion arestio neu ymchwilio sy’n bennaf gyfrifol am atgyfeirio. Dywedwyd wrthym y byddent yn rhannu gwybodaeth ddiogelu gyda staff y ddalfa. Ond ychydig iawn o gofnodion, os o gwbl, a welsom ar gofnodion y ddalfa am unrhyw bryderon diogelu y gallai fod angen eu hystyried yn ystod y ddalfa. Mewn rhai cofnodion y ddalfa a archwiliwyd gennym, nid oedd yn glir sut roedd plentyn yn cyrraedd adref yn ddiogel ar ôl ei ryddhau.
Mae’r llu’n cryfhau ei ddull o ddiogelu yn y ddalfa. Yn ddiweddar, mae wedi cyflwyno system atgyfeirio ar gyfer swyddogion y ddalfa ac eraill sy’n gweithio yn y ddalfa. Mae hon i’w defnyddio pan ddaw unrhyw bryderon diogelu i’r amlwg yn ystod cyfnod yn y ddalfa. Sefydlwyd hon mewn ymateb i adborth o’n harolygiad amddiffyn plant yn 2019. Roedd staff y ddalfa yn cael eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r system newydd.
Mae polisi’r llu’n ei gwneud yn ofynnol i bob plentyn (a menyw feichiog) gael ei asesu gan nyrsys y ddalfa tra yn y ddalfa. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion iechyd a lles ehangach yn cael sylw. Ond nid oedd yn glir o gofnodion y ddalfa bod hyn bob amser yn digwydd. Mae merched yn y ddalfa yn cael eu neilltuo fel mater o drefn i aelod benywaidd o staff fel hebryngwr i gadw llygad ar eu lles, fel sy’n ofynnol yn gyfreithiol gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Fodd bynnag, nid yw’n glir bod merched bob amser yn cael gwybod am hyn na bod yr hebryngwr yn siarad â nhw. Mae bechgyn hefyd weithiau’n cael hebryngwr fel mesur diogelu ychwanegol lle teimlir y gallai hyn fod o gymorth.
Nid yw cymorth Oedolyn Priodol (AA) i blant ac oedolion agored i niwed yn y ddalfa bob amser yn ddigon prydlon. Mae’r llu’n glir y dylid sicrhau Oedolion Priodol cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Daethom o hyd i rai enghreifftiau da o hyn yn digwydd, ond gwelsom hefyd rai amseroedd aros hir heb unrhyw resymau clir pam.
Gofynnir i aelodau’r teulu neu ffrindiau yn y lle cyntaf. Gwelsom rai enghreifftiau da o swyddogion arestio’n gwneud hyn yn gyflym. Roedd hyn yn golygu bod y person yn mynd i’r ddalfa yn gyflym i gefnogi’r plentyn yn gynnar yn ei gyfnod cadw. Lle na all ffrindiau neu deulu weithredu ar ran plant, disgwylir i’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid fod yn bresennol yn ystod eu horiau gwaith. Y tu allan i’r amseroedd hyn, mae trefniadau gwahanol. Mewn tair o ardaloedd awdurdodau lleol y llu, dylai timau dyletswydd brys y gwasanaethau cymdeithasol ddarparu rhywun. Ac yn y tair ardal arall, mae’r llu’n defnyddio’r Gwasanaeth Oedolion Priodol (TAAS). Nid yw’r trefniadau hyn bob amser yn sicrhau bod cymorth Oedolion Priodol ar gael yn ddigon cyflym.
Lle na all teulu neu ffrindiau fod yn bresennol ar gyfer oedolion agored i niwed, mae’r heddlu yn defnyddio AAs gan TAAS. Comisiynir y gwasanaeth hwn drwy swyddfa’r comisiynydd heddlu a throseddu. Dechreuodd y cynllun yn ddiweddar (ar ôl disodli darparwr blaenorol) a dywedwyd wrthym ei fod yn gweithio’n dda.
Mae cofnodi gwybodaeth ar gais ac amseroedd cyrraedd ar gyfer Oedolion Priodol yn gyfyngedig. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd deall y rhesymau dros unrhyw oedi ac i’r llu ddangos pa mor dda y mae’n diwallu anghenion plant ac oedolion agored i niwed.
Nid yw Oedolion Priodol bob amser yn cael eu hystyried ar gyfer oedolion agored i niwed pan fo gwybodaeth i awgrymu y dylai hyn fod wedi digwydd. Er enghraifft, canfuom achosion lle roedd anghenion iechyd meddwl neu niwroamrywiol eraill yn nodi y dylai AA fod wedi cael ei ystyried ond nad oedd wedi cael ei ystyried.
Mae canllawiau i’r rhai sy’n cyflawni rôl AA, ond nid oedd y rhain ym mhob dalfa ac nid oeddent yn gyfoes. Lle roeddent ar gael, nid oeddem bob amser yn eu gweld yn cael eu dosbarthu neu eu hesbonio fel bod y person yn deall eu rôl.
Mae Heddlu Gogledd Cymru dim ond yn cadw plant yn y ddalfa pan fo’n gwbl angenrheidiol ac am yr amser byrraf posib. Ers 2018, mae nifer yr arestiadau plant wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gwelsom rai enghreifftiau da o ddefnyddio mechnïaeth neu ryddhau plant sy’n destun ymchwiliad yn hytrach na’u cadw yn y ddalfa yn ddiangen. Mae gwybodaeth a ddarparwyd gan y llu’n dangos bod plant yn y ddalfa, yn arbennig cyn iddynt gael eu cyhuddo, yn treulio llawer llai o amser yn y ddalfa o gymharu ag oedolion.
Lle mae plant yn cael eu cadw, mae rhai trefniadau da i helpu i gadw eu pryder neu ofid i’r lleiafswm. Mae gweithgareddau pecyn difyrrwch ar gael ym mhob dalfa. Mae’r rhain yn cynnwys posau, lliwio a deunyddiau darllen sy’n briodol i’r oedran. Dylid cynnig y rhain i bob plentyn yn y ddalfa, ond nid yw hyn bob amser yn digwydd (gweler adran 4: gofal carcharorion).
Mae gan bob un o’r tair dalfa gelloedd neu ardaloedd dynodedig sydd fel arfer yn cael eu dyrannu i blentyn i’w cadw ar wahân i garcharorion eraill. Yn Llanelwy, mae hefyd iardiau ymarfer corff pwrpasol ar gyfer merched a bechgyn. Hefyd rhoddodd staff y ddalfa y siaradwyd â nhw enghreifftiau o ganiatáu i rai plant aros allan o’u cell. Er enghraifft, ochr yn ochr â’u rhieni neu AA mewn ystafell gadw.
Mae nifer y plant sy’n cael eu cyhuddo ac y gwrthodir mechnïaeth iddynt yng Ngogledd Cymru yn weddol isel – saith rhwng 1 Tachwedd 2020 a 31 Hydref 2021. Dylid symud y plant hyn o’r ddalfa i lety diogel neu briodol (nad yw’n ddiogel). Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb statudol i ddarparu a threfnu hyn. Fodd bynnag, ni symudwyd yr un o’r plant hyn gan mai ychydig neu ddim llety sydd ar gael. Mae canlyniadau i blant yn yr amgylchiadau hyn yn dal i fod yn wael. Mae’r llu’n parhau i weithio gyda’r chwe awdurdod lleol yn ei ardal i geisio gwella’r sefyllfa ac mae’n datblygu proses uwchgyfeirio gyda nhw pan na ddarperir llety. Mae’r llu hefyd yn gweithio gyda bwrdd ehangach Cymru gyfan, sy’n edrych ar y diffyg gwelyau diogel ledled Cymru.
Mae’r llu’n monitro plant yn y ddalfa’n dda. Fe wnaeth gryfhau hyn yn ddiweddar i fynd i’r afael â phryderon a godwyd yn ein harolygiad amddiffyn plant yn 2019. Mae rheolwyr y dalfeydd yn adolygu pob achos o blant sy’n cael eu cyhuddo a’u remandio. Mae hyn er mwyn sicrhau y gofynnwyd am y math cywir o lety ac i nodi’r gwersi a ddysgwyd. Yn y tri achos a aseswyd gennym, gwnaed y ceisiadau cywir. Ceir hefyd arolygiaeth ehangach o blant yn y ddalfa. Mae hyn yn golygu trafod perfformiad yng nghyfarfodydd y ddalfa a’r rhai gydag uwch swyddogion, ac yng nghyfarfodydd perfformiad y comisiynydd heddlu a throseddu.
Meysydd i’w gwella
- Dylai’r heddlu gryfhau ei ddull o ymdrin ag Oedolion Priodol drwy wneud yn siŵr:
- mae pob oedolyn agored i niwed yn y ddalfa yn cael Oedolyn Priodol; a
- mae pob plentyn ac oedolyn agored i niwed yn y ddalfa yn cael eu cefnogi’n gyflym, a chesglir gwybodaeth i asesu hyn.
- Dylai’r llu barhau i weithio ag awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth o lety amgen i blant sy’n cael eu cyhuddo ac y gwrthodir mechnïaeth iddynt.
Llywodraethu gofal iechyd
Mae trefniadau llywodraethu wedi gwella ers ein harolygiad diwethaf. Maent bellach yn fwy effeithiol o ran sicrhau gofal diogel i garcharorion.
Mae’r llu’n comisiynu Mountain Healthcare (MHC) i ddarparu:
- polisïau a gweithdrefnau clinigol;
- goruchwyliaeth ar dîm nyrsio dalfa’r heddlu; a
- chyngor dros y ffôn gan archwilwyr meddygol fforensig pan fo angen.
Nid oes llawer o gŵynion (tri neu bedwar y flwyddyn), sydd fel arfer yn ymwneud â meddyginiaeth. Rheolir cwynion yn dda.
Mae’r contract gydag MHC yn cael ei fonitro trwy gyfarfodydd rheolaidd a data perfformiad a gwasanaeth misol.
Mae staffio wedi gwella ers ein harolygiad diwethaf. Mae’r tîm yn cynnwys rheolwr nyrsio dalfa profiadol ac arweinwyr tîm a nyrsys dalfa cymwys sy’n cael eu harwain yn dda. Gyda’i gilydd, maent yn darparu gwasanaeth 24 awr yn y dalfeydd. Mae nyrsys wedi’u hyfforddi’n dda, nifer ohonynt i lefel uwch, a chânt eu goruchwylio’n rheolaidd.
Mae cofnodion clinigol papur yn cynnwys gwybodaeth dda. Ond maent yn cymryd llawer o amser i’w paratoi ac yn gwneud archwilio’n aneffeithlon. Mae arweinwyr tîm yn asesu sampl o gofnodion nyrsys bob mis i wneud yn siŵr eu bod yndiwallu’r safonau gofynnol.
Mae’r ystafelloedd triniaeth yn Llai a Llanelwy yn dda iawn, ond mae’r un yng Nghaernarfon yn rhy fach ac mewn lleoliad gwael. Mae gwiriadau offer a mesurau rheoli heintiau’n cael eu harchwilio’n rheolaidd i fonitro diogelwch. Dim ond ar gyfer gweld a thrin carcharorion y defnyddir ystafelloedd meddygol, sy’n lleihau’r tebygolrwydd o halogiad DNA. Mae nyrsys yn cynnal samplu fforensig ym mhob dalfa.
Cedwir offer dadebru brys ym mhob man cofrestru yn y dalfeydd ac ym mhob ystafell feddygol. Mae hyn yn cynnwys diffibrilwyr allanol awtomataidd ac offer diogelu personol arall. Mae staff y ddalfa wedi’u hyfforddi i ddefnyddio cit argyfwng. Ac mae hyfforddiant bellach yn cynnwys offer ocsigen, yn dilyn gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiad andwyol.
Gofal cleifion
Yn ôl y cofnodion meddygol a archwiliwyd gennym, mae nyrsys y ddalfa yn gweld y rhan fwyaf o garcharorion o fewn ychydig funudau i gael eu hatgyfeirio. Fodd bynnag, gwneir atgyfeiriadau yn aml ar lafar ac ni chânt eu cofnodi ar y cofnod cadw. Mae rheolwr y tîm iechyd yn gweithio ar gynhyrchu canllaw i atgoffa staff y ddalfa o’r wybodaeth bwysig y mae’n rhaid iddynt ei hysgrifennu ar gofnod y ddalfa.
Mae nyrsys yn diwallu anghenion preifatrwydd ac urddas carcharorion yn dda yn yr ystafelloedd meddygol, ac maent yn gwrtais a pharchus. Fodd bynnag, gwelsom nyrsys wrth ddesgiau’r ddalfa pan oedd carcharorion yn cael eu cofrestru. Roedd rhai nyrsys weithiau’n holi’r carcharorion yn ystod asesiadau risg swyddog y ddalfa. Roedd y cwestiynau a’r ymatebion hyn yn glywadwy i swyddogion arestio a charcharorion eraill a oedd yn cael eu cofrestru gerllaw, a oedd yn peryglu cyfrinachedd.
Gallai presenoldeb nyrsys y ddalfa wrth ddesg y ddalfa fod yn ddryslyd i garcharorion oherwydd gallent gael eu hystyried yn swyddogion cadw’r ddalfa. Mae rôl y nyrsys hefyd yn mynd yn niwlog pan ydynt yn helpu gyda rhai dyletswyddau arferol yn y ddalfa, megis hebrwng carcharorion benywaidd. Er eu bod ganddynt fwriadau da a’u bod yn adlewyrchu gwaith tîm, mae’r gweithgareddau hyn yn ymestyn ffiniau proffesiynol. Dywedodd y rheolwr iechyd wrthym y byddent yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.
Mae arferion nyrsys yn seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, maent yn defnyddio asesiadau safonol ar gyfer anafiadau pen neu feddwdod alcohol i gefnogi penderfyniadau clinigol. Mae trefniadau rheoli meddyginiaeth yn dda iawn, er nad oes gan nyrsys fynediad at NHS Spine i wirio meddyginiaethau presennol cleifion. (System ar-lein yw NHS Spine sy’n caniatáu i wybodaeth feddygol cleifion gael ei rhannu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill pan fo angen.) Mae nyrsys yn rhoi meddyginiaethau i gleifion gan ddefnyddio cyfarwyddiadau grŵp cleifion ac yn siarad yn achlysurol ag archwilwyr meddygol fforensig o MHC, i drafod cleifion ag anghenion mwy cymhleth.
Mae rhai cofnodion dalfa yn cynnwys cofnodion gan nyrsys y ddalfa sy’n llawn gwybodaeth. Gan y gall cyfreithwyr neu ymwelwyr annibynnol â dalfeydd weld y wybodaeth hon, mae risg o rannu gwybodaeth feddygol gyfrinachol yn anfwriadol gyda thrydydd parti. Adolygodd y rheolwr iechyd hyn yn ystod ein harolygiad. Ers hynny maent wedi dechrau sicrhau bod cofnodion nyrsys yng nghofnodion y ddalfa yn ddefnyddiol, heb beryglu cyfrinachedd.
Meysydd i’w gwella
Dylai safonau ar gyfer perthnasoedd proffesiynol a chadw cofnodion yn y ddalfa gael eu gwirio gan archwiliad clinigol rheolaidd i sicrhau cydymffurfedd.
Camddefnyddio sylweddau
Mae’r llu’n gweithio’n dda gyda sefydliadau eraill i ofalu am ddefnyddwyr cyffuriau ac alcohol yn y ddalfa a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Mae hyn yn cynnwys:
- yr OPCC;
- awdurdodau lleol a’r gwasanaeth prawf; a
- grwpiau anllywodraethol megis y Prosiect Kaleidoscope.
Ar y cyfan, mae’r ymagwedd yng Ngogledd Cymru yn dda iawn.
Gall carcharorion â throseddau cyffuriau risg isel gael eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth Checkpoint cyn ac yn y ddalfa. Os byddant yn cymryd rhan mewn rhaglen addysg cyffuriau, bydd unrhyw erlyniad yn cael ei ohirio. Mae gwerthusiad cychwynnol o’r gwasanaeth yn awgrymu bod aildroseddu wedi lleihau.
Gall carcharorion yn y ddalfa sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol gael eu hatgyfeirio i Ddechrau Newydd. Mae hwn yn wasanaeth cyffuriau amlasiantaethol ar draws Gogledd Cymru. Mae gweithwyr Dechrau Newydd yn ffonio’r ddalfa bob diwrnod o’r wythnos i nodi carcharorion mewn angen brys. Yna maent yn ymweld â dalfeydd i siarad â charcharorion a’u helpu.
Mae carcharorion sy’n profi diddyfnu o alcohol a sylweddau’n gallu cael mynediad I ryddhad symptomatig. Gweinyddir hwn gan nyrsys y ddalfa. Nid oes therapi amnewid opiadau ar gael, yn groes i ganllawiau cenedlaethol (nid yw’n ofynnol o dan y contract gofal iechyd). Dechreuodd y llu ddarparu OST yn dilyn ein harolygiad yn 2014. Ond daeth hyn i ben pan gomisiynwyd MHC i ddarparu’r gwasanaeth. Mae hwn yn ganlyniad gwael i garcharorion fel y gwelir o’r ddau achos a ddisgrifir isod.
Yn ystod ein harolygiad, cafodd dau glaf â methadon a ragnodwyd yn y gymuned yn eu meddiant eu hatal rhag ei gymryd ar eu hamser arferol. Mewn un achos, arweiniodd hyn at ragnodi ar gyfer effeithiau diddyfnu, y gellid bod wedi eu hosgoi pe byddai OST ar gael. Yn yr achos arall, arweiniodd at ymddygiad heriol gan y carcharor oherwydd rhwystredigaeth. Dywedodd nyrsys fod y ffaith nad oedd OST ar gael, gan achosi i garcharorion ddechrau diddyfnu, yn digwydd dwy neu dair gwaith yr wythnos. Mae hyn yn annerbyniol.
Nid yw cynhyrchion disodli nicotin ar gael i garcharorion yn y ddalfa, er iddynt gael eu cyflwyno ar ôl ein harolygiad diwethaf. Mae hyn oherwydd polisi MHC. Fodd bynnag, os oes gan garcharorion y cynhyrchion hyn gyda nhw, neu os bydd rhywun yn dod â nhw i’r ddalfa ar eu cyfer, gellir eu rhoi.
Mae naloxone (a ddefnyddir i wrthsefyll effeithiau gorddos o opiadau) drwy bigiad a chwistrell trwynol mewn bagiau brys yn y dalfeydd. Mae carcharorion sy’n ymgysylltu â Dechrau Newydd yn cael cynnig hyfforddiant i ddefnyddio naloxone a chyflenwadau i’w defnyddio gartref, rhag ofn iddynt gwympo. Nid yw cyfnewid nodwyddau ar gyfer camddefnyddwyr sylweddau risg uchel ar gael yn y ddalfa. Ond gellir cael cyflenwadau gan sefydliadau y mae Dechrau Newydd yn gweithio gyda nhw.
Meysydd i’w gwella
Dylai carcharorion allu cyrchu therapi amnewid opiadau a chynhyrchion amnewid nicotin tra yn y ddalfa.
Iechyd meddwl
Mae cleifion ag anghenion iechyd meddwl yn cael cymorth da yn y dalfeydd. Mae swyddogion a nyrsys y ddalfa yn cael hyfforddiant uwch ar faterion iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu bod swyddogion y ddalfa yn gwybod pryd i atgyfeirio carcharorion at nyrsys i gael eu hasesu.
Mae’r Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol (CJLS) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn effeithiol ac yn cael ei werthfawrogi gan y llu. Swyddogaeth y CJLS yw dargyfeirio carcharorion o ddalfa’r heddlu a’r llys yng Ngogledd Cymru. Er nad oes presenoldeb cyson, mae eu staff yn ymweld â dalfeydd Llai a Llanelwy. Yng Nghaernarfon, maent yn ffonio i dderbyn atgyfeiriadau ac yn rhyngweithio â charcharorion yn ôl yr angen.
Mae nyrs iechyd meddwl CJLS yn gweithio yn yr ystafell reoli o 11.00am tan hanner nos bob dydd. Mae’r nyrs yn rhoi cyngor dros y ffôn i swyddogion ar y stryd. Maent hefyd yn siarad â charcharorion ac yn cynghori swyddogion ar opsiynau posibl ar gyfer dargyfeirio o’r ddalfa. Pan yw’r nyrs yn gysylltiedig, mae achosion o gadw dan adran 136 o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn aml yn cael eu hosgoi. Mae’r llu’n cyfarfod â gwasanaethau iechyd meddwl ac yn ystyried sut i gyflawni mwy o ddargyfeirio o’r ddalfa ac osgoi cadw dan adran 136.
Pan fydd gan nyrsys y ddalfa bryderon am iechyd meddwl y sawl sy’n cael eu cadw, maent yn gofyn i swyddogion fynd â’r sawl sy’n cael eu cadw’n uniongyrchol i adrannau brys dynodedig yr ysbyty. Ar ôl brysbennu cychwynnol, gall y gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn yr ysbyty asesu carcharorion. Dywedwyd wrthym fod hyn wedi digwydd yn brydlon. Yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad, byddai’r carcharor naill ai’n mynd i’r ysbyty i gael triniaeth neu’n dychwelyd i’r ddalfa er mwyn i’r ymchwiliad i’w hachos barhau. Dywedodd nyrsys y ddalfa wrthym fod hyn weithiau’n eu gadael yn delio â charcharorion nad oedd efallai angen eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ond yn dal i ddangos arwyddion o ofid meddwl.
Dywedwyd wrthym y gallai asesiadau Deddf Iechyd Meddwl yn y ddalfa gael eu trefnu’n brydlon hefyd. Ond dywedwyd wrthym hefyd fod carcharorion, ar adegau, wedi’u cadw dan adran 136 yn y ddalfa. Mae hyn er mwyn gallu mynd â nhw i’r ysbyty neu fan diogel iechyd ar gyfer asesiad Deddf Iechyd Meddwl. Nid yw’r rhesymau am hyn yn gwbl glir ac mae angen i’r llu fonitro a deall pryd a pham mae hyn yn digwydd.
Mae’r llu yn aml yn trosglwyddo carcharorion i’r ysbyty gan ddefnyddio ei gludiant ei hun. Mae hyn oherwydd bod gallu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb yn gyfyngedig.
Adran 5. Rhyddhau a throsglwyddo o’r ddalfa
Canlyniadau disgwyliedig (adran 5)
Mae asesiadau risg cyn rhyddhau’n adlewyrchu’r holl risgiau a nodwyd yn ystod arhosiad y sawl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa. Mae carcharorion yn cael cynnig cyngor, gwybodaeth ac yn cael eu hatgyfeirio ymlaen i asiantaethau eraill yn ôl yr angen i gefnogi eu diogelwch a lles ar ôl eu rhyddhau. Mae carcharorion yn ymddangos yn brydlon yn y llys yn bersonol neu drwy fideo.
Asesiad risg cyn rhyddhau
Mae gan yr heddlu ffocws clir ar sicrhau bod carcharorion yn cael eu rhyddhau’n ddiogel. Gwelsom rywfaint o sylw a gofal da yn cael eu rhoi i garcharorion wrth eu rhyddhau.
Mae swyddogion y ddalfa’n rhyngweithio’n dda â charcharorion i gwblhau asesiadau risg cyn rhyddhau. Maent yn defnyddio asesiadau risg cychwynnol a chynlluniau gofal yn briodol fel bod unrhyw risgiau a nodir yn cael sylw neu’n cael eu lliniaru cyn rhyddhau carcharorion. Lle mae pryderon, mae swyddogion y ddalfa’n atgyfeirio carcharorion i nyrs y ddalfa am asesiad addasrwydd i ryddhau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod anghenion carcharorion yn cael eu hasesu a’u diwallu lle bo modd cyn eu rhyddhau. Hefyd, lle bo angen, mae sefydliadau perthnasol yn cymryd rhan i gefnogi’r rhyddhau. Fodd bynnag, nid yw rhai cofnodion y dalfa’n cynnwys digon o fanylion (er enghraifft, sut mae carcharor yn cyrraedd adref ar ôl ei ryddhau).
Gall carcharorion nad oes ganddynt fodd i gyrraedd adref yn ddiogel wneud galwadau ffôn i drefnu cludiant. Gallant hefyd gyrchu tocynnau bws a chyfrifon gyda chwmnïau tacsis lleol (er nad yw hyn yn wir yng Nghaernarfon gan nad yw’r gwasanaethau hyn ar gael gan y cwmnïau bysiau a chwmnïau tacsis lleol). Telir am hwn gan yr heddlu os oes angen. Mae swyddogion heddlu yn mynd â phlant ac oedolion bregus adref pan nad oes modd eu rhyddhau i ofal oedolyn cyfrifol.
Mae taflenni sy’n cynnwys gwybodaeth am sefydliadau cymorth cenedlaethol a lleol ar gael. Rhoddir y rhain i bob carcharor ar ôl ei ryddhau, ond nid i’r rhai sy’n trosglwyddo i’r llys. Fodd bynnag, dim ond yn Gymraeg ac yn Saesneg y mae’r daflen hon ar gael.
Mae’r rhan fwyaf o swyddogion y ddalfa’n ymwybodol o’r trefniadau diogelu uwch ar gyfer y rhai sy’n cael eu harestio dan amheuaeth o gyflawni troseddau rhywiol difrifol. Dywedon nhw wrthym fod cyfnewid da o wybodaeth gan swyddogion cyfweld. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon wrth gwblhau’r asesiad risg cyn rhyddhau. Roedd gan rai swyddogion y ddalfa hefyd fynediad at daflen cymorth arbenigol i’w rhoi i garcharorion yn yr achosion hyn.
Mae swyddogion cadw’r ddalfa yn cwblhau cofnodion digidol hebrwng person (dPERs) i ddarparu gwybodaeth am y sawl sy’n cael eu cadw ac unrhyw risgiau i’r asiantaeth hebrwng. Maent hefyd yn archebu cludiant ar gyfer carcharorion sy’n mynychu’r llys neu sydd wedi’u galw’n ôl i’r carchar. Caiff y rhain eu cwblhau’n dda, ac mae swyddogion y ddalfa’n eu gwirio a’u cymeradwyo. Fodd bynnag, nid yw swyddogion y ddalfa’n cwblhau unrhyw asesiadau risg cyn rhyddhau gyda charcharorion sy’n trosglwyddo i’r llys. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl na fydd risgiau posibl yn cael sylw na chael eu lliniaru cyn trosglwyddo.
Pan yw carcharor yn cael ei drosglwyddo i ysbyty ar gyfer sylw meddygol, mae staff y ddalfa’n paratoi cofnod papur hebrwng person (PER) ar gyfer staff sy’n hebrwng. Mae hwn yn nodi risgiau a marcwyr rhybuddio, ond yn aml mae’n cael ei gwblhau’n wael. Nid yw’r methiant i gofnodi gwybodaeth berthnasol yn diwallu gofynion canllawiau APP.
Meysydd i’w gwella
Dylai’r lluwneud yn siŵr:
- mae swyddogion y ddalfa yn ymgysylltu â charcharorion sy’n cael eu trosglwyddo i’r llys, i nodi a lliniaru risgiau cyn eu trosglwyddo o ddalfa’r heddlu; a
- mae cofnodion papur hebrwng person yn cael eu cwblhau’n llawn ar gyfer carcharorion sy’n trosglwyddo i’r ysbyty, yn unol â chanllawiau APP.
Llysoedd
Mae ffyrdd o weithio rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn sicrhau, unwaith y bydd carcharorion yn cael eu remandio, eu bod fel arfer yn cael eu cyflwyno gerbron y llys cyntaf sydd ar gael. Mae hyn wedi gwella ers ein harolygiad diwethaf ac yn golygu nad yw’r rhan fwyaf o garcharorion yn cael eu cadw am gyfnod hwy nag sydd angen.
Yn gyffredinol, mae carcharorion sy’n cael eu remandio i’r llys yn cael eu casglu’n brydlon yn y bore. Gellir mynd â’r rhai sy’n cael eu harestio ar warant yn ystod y dydd yn syth i’r llysoedd ynadon lleol. Mae hyn ar yr amod bod gofod celloedd ar gael a bod gan y llys y gallu i ddelio â nhw. Mae hwn yn ganlyniad da i’r sawl sy’n cael eu cadw gan ei fod yn cadw’r amser y maent yn cael eu cadw yn nalfa’r heddlu i’r lleiafswm.
Mae trefniadau cyswllt fideo dros dro ar gael yn y dalfeydd i wrando ar achosion yn rhithiol os oes angen. Defnyddir y rhain os amheuir neu os cadarnheir bod gan y sawl sy’n cael eu cadw COVID-19 ac mae’n osgoi unrhyw angen diangen i deithio. Mae hyn yn rheoli ac yn lleihau’r risg o drosglwyddo heintiau.
Adran 6. Crynodeb o achosion pryder, argymhellion a meysydd ar gyfer gwella
Achosion pryder ac argymhellion (adran 6)
Achos pryder
Diwallu gofynion a chanllawiau cyfreithiol
Nid yw’r heddlu bob amser yn cydymffurfio â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) a’i chodau ymarfer. Mae sawl maes lle nad yw’r gofynion bob amser yn cael eu diwallu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y rhai sy’n ymwneud â’r angen am, ac amgylchiadau, arestio;
- darparu copïau ysgrifenedig o’u hawliau a’u hawliadau i garcharorion;
- adolygiadau cadw; a
- swyddogion y ddalfa yn cyfarwyddo ymchwiliadau.
Argymhellion
Dylai’r llu gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod holl weithdrefnau ac arferion y ddalfa’n cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau.
Achos pryder
Defnydd o rym
Mae trefniadau llywodraethu a goruchwyliaeth Heddlu Gogledd Cymru o’r defnydd o rym yn y ddalfa yn gyfyngedig. Mae gwybodaeth ynghylch pa rym a ddefnyddir, gan ba swyddogion, neu pam fod ei angen yn aml yn anghyflawn neu’n anghywir. Fe’i defnyddir yn aml i dynnu dillad yn orfodol heb fawr o gyfiawnhad yn cael ei ddangos neu’n amlwg. Prin yw’r adolygiadau o ddigwyddiadau ar deledu cylch cyfyng i asesu pa mor dda y cânt eu trin neu a yw’r grym a ddefnyddir yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mae ein hadolygiad o ddigwyddiadau’n awgrymu nad oedd weithiau.
Argymhellion
Dylai’r llu graffu ar y defnydd o rym yn y ddalfa. Dylai hyn fod yn seiliedig ar wybodaeth gywir a sicrwydd ansawdd cadarn, gan gynnwys gwylio ffilm teledu cylch cyfyng o ddigwyddiadau. Dylai ddefnyddio hyn i ddangos, pan ddefnyddir grym yn y ddalfa, ei fod yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Achos pryder
Ansawdd cofnodion y ddalfa
Mae ansawdd y cofnodi ar gofnodion y ddalfa’n wael. Mae hyn oherwydd:
- mae gwybodaeth bwysig weithiau ar goll neu wedi’i chofnodi’n anghywir;
- nid yw’r rhesymau a’r cyfiawnhad dros benderfyniadau bob amser yn glir;
- mae cofnodion yn aml yn gymysgedd o destun safonol wedi’i ragboblogi, ochr yn ochr â gwybodaeth am yr hyn a wnaed – sy’n eu gwneud yn ddryslyd i’w deall; ac
- nid yw sicrwydd ansawdd yn asesu safon cofnodion nac yn nodi pryderon yn
Mae hyn yn ei gwneud yn anodd sefydlu sut mae carcharorion wedi cael eu trin yn y ddalfa, ac a yw’r holl brosesau wedi’u cymhwyso’n gywir.
Argymhellion
Dylai’r llu sicrhau bod y wybodaeth a gofnodir yng nghofnodion y ddalfa’n gywir ac yn gyflawn. Dylai adlewyrchu’n glir y camau unigol a gymerwyd a’r rhesymau dros unrhyw benderfyniadau ar gyfer pob carcharor. Dylai’r llu sicrhau bod ansawdd cofnodion y ddalfa’n gadarn er mwyn nodi unrhyw bryderon a gweithredu arnynt.
Achos pryder
Diogelwch carcharorion ac asesu risg
Nid yw’r llu’n rheoli risgiau carcharorion yn ddigon da oherwydd:
- Mae swyddogion cadw gwahanol yn y ddalfa’n cynnal gwiriadau felly yn aml nid oes llawer o barhad i asesu newidiadau yn ymddygiad carcharor.
- Nid yw gwiriadau deffro bob amser yn cael eu cynnal yn y ffordd gywir nac yn cael eu dogfennu’n gywir.
- Mae swyddogion y dalfeydd yn parhau i dynnu dillad gyda chordiau ac esgidiau fel mater o drefn heb asesiad risg unigol ac nid yw bob amser yn cael ei ddogfennu pryd na pham mae dillad wedi cael eu tynnu.
- Mae dillad gwrth-rwygo’n parhau i gael eu defnyddio’n fynych, yn aml heb unrhyw sail resymegol ddigonol. Ar brydiau, mae hyn yn ymddangos yn rhagataliol ac mewn llawer o achosion mae’n cael ei gyfiawnhau dim ond oherwydd nad atebodd y carcharor y cwestiynau ar gyer asesu risg. Mae hwn yn ymagwedd wrth-risg, sydd yn aml yn arwain at dynnu dillad yn ddiangen ac yn rymus.
- Nid yw ardaloedd lle mae staff yn monitro TCC yn gyson (arfer proffesiynol awdurdodedig (APP) Lefel 3) wedi’u cwmpasu gan TCC.
- Nid yw carcharorion sy’n ciwio i gael eu cofrestru’ cael eu brysbennu i’w blaenoriaethu.
- Nid yw staff y ddalfa yn cadw digon o reolaeth a goruchwyliaeth ar allweddi’r ddalfa.
Nid yw’r arferion hyn yn dilyn canllawiau APP ac o bosibl yn rhoi carcharorion mewn perygl sylweddol o niwed.
Argymhellion
Dylai’r llu gymryd camau ar unwaith i liniaru’r risg i garcharorion trwy wneud yn siŵr bod ei arferion rheoli risg yn dilyn canllawiau APP ac yn cael eu cynnal a’u cofnodi i’r safon ofynnol.
Meysydd ar gyfer gwella
Meysydd i’w gwella
Arweinyddiaeth, atebolrwydd a phartneriaethau
- Dylai’r llu wneud yn siŵr bod holl staff y ddalfa yn dilyn APP (Cadw a Chystodaeth) y Coleg Plismona, yn ogystal â’i ganllawiau ei hun. Bydd hyn yn golygu bod carcharorion yn cael lefel briodol a chyson o driniaeth a gofal.
- Dylai’r llu gryfhau ei ddull o reoli perfformiad drwy gasglu a monitro gwybodaeth gywir ar gyfer ei brif wasanaethau, a dangos y canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer carcharorion.
Meysydd i’w gwella
Pwynt cyswllt cyntaf
Dylai fod gan swyddogion bob amser fynediad at gyngor gan wasanaethau iechyd meddwl i’w helpu i ymdrin â phobl â salwch meddwl yn briodol.
Meysydd i’w gwella
Yng nghelloedd y ddalfa: cofrestru, anghenion unigol a hawliau cyfreithiol
- Dylai’r heddlu wella ei ddull o ymdrin â charcharorion ag urddas a phreifatrwydd drwy wneud yn siŵr:
- mae staff yn cyfathrebu â charcharorion mewn ffordd sy’n ymateb i’w hanghenion unigol;
- gall carcharorion ddatgelu gwybodaeth breifat neu sensitif mewn amgylchedd cyfrinachol, gan gynnwys yn ystod yr asesiad risg cychwynnol;
- gall carcharorion gael cawod mewn digon o breifatrwydd ym mhob dalfa; a
- mae dillad carcharorion yn cael eu tynnu’n barchus a’u storio’n briodol bob amser.
- Dylai’r llu gryfhau ei ddull o ddiwallu anghenion unigol ac amrywiol carcharorion drwy wneud yn siŵr:
- mae darpariaeth addas ar gyfer y rhai ag anableddau ym mhob ystafell;
- gofynnir i bob carcharor nodi ei ethnigrwydd;
- mae aelod benywaidd o staff ar gael yn hawdd pan gaiff ei neilltuo ar gyfer carcharorion benywaidd, ac yn cyflawni’r rôl yn effeithiol; a
- mae cyflenwad digonol o adnoddau ar gyfer y prif grefyddau ym mhob dalfa, ac fe’u rhoddir i’r rhai a all fod eu heisiau.
- Dylai swyddogion y ddalfa ddarparu fersiwn hawdd ei darllen yn gyson o hawliau a hawliadau i blant, oedolion agored i niwed a charcharorion eraill a fyddai’n elwa arnynt.
- Dylai carcharorion allu gwneud cwyn yn hawdd, a chyn iddynt adael y ddalfa.
Meysydd i’w gwella
Yng nghell y ddalfa, diogelu a gofal iechyd
- Dylai hysbysiadau sy’n nodi bod teledu cylch cyfyng ar waith gael eu harddangos yn amlwg ym mhob rhan o’r dalfeydd.
- Dylai’r llu gadw at ofynion cyfreithiol ar gyfer rheoliadau tân, yn arbennig ynghylch gwacáu mewn argyfwng. Dylid arddangos arwyddion allanfa dân priodol yn Llanelwy.
- Dylai carcharorion dderbyn ôl-ofal priodol pan gânt eu chwistrellu ag analluogydd.
- Dylid symud gefynnau oddi ar garcharorion sy’n cydymffurfio cyn gynted â phosib.
- Dylai’r heddlu wella ei ofal ar gyfer carcharorion trwy wneud yn siŵr:
- mae carcharorion yn cael cynnig yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys llyfrau, deunyddiau difyrrwch, bwyd, ymarfer corff neu gawod; a
- mae ystod dda o fwyd ar gael bob amser.
- Dylai’r heddlu gryfhau ei ddull o ymdrin ag Oedolion Priodol drwy wneud yn siŵr:
- mae pob oedolyn agored i niwed yn y ddalfa yn cael Oedolyn Priodol; a
- mae pob plentyn ac oedolyn agored i niwed yn y ddalfa yn cael eu cefnogi’n gyflym, a chesglir gwybodaeth i asesu hyn.
- Dylai’r llu barhau i weithio ag awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth o lety amgen i blant sy’n cael eu cyhuddo ac y gwrthodir mechnïaeth iddynt.
- Dylai safonau ar gyfer perthnasoedd proffesiynol a chadw cofnodion yn y ddalfa gael eu gwirio gan archwiliad clinigol rheolaidd i sicrhau cydymffurfedd.
- Dylai carcharorion allu cyrchu therapi amnewid opiadau a chynhyrchion amnewid nicotin tra yn y ddalfa.
Meysydd i’w gwella
Rhyddhau a throsglwyddo o’r ddalfa
Dylai’r lluwneud yn siŵr:
- mae swyddogion y ddalfa yn ymgysylltu â charcharorion sy’n cael eu trosglwyddo i’r llys, i nodi a lliniaru risgiau cyn eu trosglwyddo o ddalfa’r heddlu; a
- mae cofnodion papur hebrwng person yn cael eu cwblhau’n llawn ar gyfer carcharorion sy’n trosglwyddo i’r ysbyty, yn unol â chanllawiau APP.
Adran 7. Atodiadau
Atodiad I: Methodoleg
Mae arolygiadau dalfeydd yr heddlu yn canolbwyntio ar brofiad a chanlyniadau carcharorion o’u pwynt cyswllt cyntaf â’r heddlu a thrwy eu cyfnod yn y ddalfa hyd at eu rhyddhau. Mae ein harolygiadau yn ddirybudd, ac rydym yn ymweld â’r heddlu dros gyfnod o bythefnos. Mae ein methodoleg yn cynnwys yr elfennau canlynol, sy’n llywio ein hasesiadau yn erbyn y meini prawf a nodir yn ein Disgwyliadau ar gyfer Dalfa’r Heddlu.
Adolygu dogfennau
Gofynnir i heddluoedd ddarparu dogfennau pwysig amrywiol i ni eu hadolygu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- polisi’r ddalfa a/neu unrhyw bolisïau ategol, megis defnydd o rym;
- polisïau darpariaeth iechyd;
- protocolau ar y cyd ag awdurdodau lleol;
- gwybodaeth am hyfforddiant staff, gan gynnwys hyfforddiant diogelwch I swyddogion;
- cofnodion unrhyw gyfarfodydd strategol a gweithredol ar gyfer y ddalfa;
- cofnodion cyfarfodydd partneriaeth;
- cynlluniau gweithredu cydraddoldeb;
- cwynion yn ymwneud â’r ddalfa yn y chwe mis cyn yr arolygiad; a
- gwybodaeth ynghylch rheoli perfformiad.
Rydym hefyd yn gofyn am ddogfennau pwysig, gan gynnwys data perfformiad, gan gomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd yn y dalfeydd a darparwyr gwasanaethau iechyd mewngymorth mewn dalfeydd, megis gwasanaethau iechyd meddwl brys a chamddefnyddio sylweddau.
Adolygu data
Gofynnir i luoedd gwblhau templed casglu data, yn seiliedig ar ddata dalfa’r heddlu ar gyfer y 36 mis blaenorol. Mae’r templed yn gofyn am ystod o wybodaeth, gan gynnwys:
- poblogaeth a thrwygyrch dalfeydd;
- gwybodaeth ddemograffig;
- nifer y mynychwyr gwirfoddol;
- amser cyfartalog yn y ddalfa;
- plant; a
- carcharorion â salwch meddwl.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi a’i defnyddio i ddarparu gwybodaeth gefndirol a helpu i asesu pa mor dda y mae’r llu’n perfformio yn ôl rhai prif feysydd gweithgarwch.
Dadansoddi cofnodion y dalfeydd
Cynhelir dadansoddiad dogfennol o gofnodion dalfeydd ar sampl cynrychioliadol o’r cofnodion dalfa a agorwyd yn yr wythnos cyn yr arolygiad ym mhob un o’r dalfeydd yn ardal yr heddlu. Mae cofnodion a ddadansoddir yn cael eu dewis ar hap. A defnyddir fformiwla ystadegol gadarn a ddarperir gan ystadegydd o adran y llywodraeth i gyfrifo maint y sampl sydd ei angen i sicrhau bod ein dadansoddiad o gofnodion yn adlewyrchu trwygyrch dalfeydd yr heddlu yn ystod yr wythnos honno. Mae gan hwn gyfwng hyder o 95 y cant gyda gwall samplu o 7 y cant. Mae’r dadansoddiad yn canolbwyntio ar hawliau cyfreithiol a thriniaeth ac amodau’r sawl sy’n cael eu cadw. Lle mae cymariaethau rhwng grwpiau neu luoedd eraill wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, mae’r gwahaniaethau hyn yn ystadegol arwyddocaol.
Mae gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng y ddwy sampl yn un sy’n annhebygol o fod wedi codi ar hap yn unig, a gellir tybio ei fod yn cynrychioli gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y ddwy boblogaeth. Er mwyn addasu gwerthoedd-p yn briodol yng ngoleuni profion lluosog, ystyriwyd bod p<0.01 yn ystadegol arwyddocaol ar gyfer pob cymhariaeth a gynhaliwyd. Mae hyn yn golygu bod dim ond un y cant o debygolrwydd bod y gwahaniaeth oherwydd siawns.
Archwiliadau achosion
Rydym yn cynnal archwiliadau manwl o oddeutu 40 o gofnodion achosion (gall y nifer gynyddu yn dibynnu ar faint a thrwybwn y llu sy’n cael ei arolygu). Rydym yn gwneud hyn i asesu pa mor dda y mae’r llu’n rheoli carcharorion sy’n agored i niwed ac elfennau penodol o’r broses garcharu. Mae’r rhain yn cynnwys archwilio cofnodion ar gyfer plant, pobl agored i niwed, unigolion â salwch meddwl, a lle mae grym wedi’i ddefnyddio ar y sawl sy’n cael eu cadw.
Mae’r archwiliadau’n archwilio ystod o ffactorau i asesu pa mor dda y caiff carcharorion eu trin a’u gofalu amdanynt yn y ddalfa. Er enghraifft, ansawdd yr asesiadau risg, a yw lefelau arsylwi’n cael eu diwallu, ansawdd ac amseroldeb adolygiadau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE), a yw plant ac oedolion agored i niwed yn cael cymorth amserol gan oedolion priodol ac a yw carcharorion yn cael eu rhyddhau’n ddiogel. Lle defnyddir grym yn erbyn carcharor, byddwn yn asesu a yw wedi’i gofnodi’n gywir ac a yw’n gymesur ac yn gyfiawn.
Arsylwadau mewn dalfeydd
Mae arolygwyr yn treulio cryn dipyn o’u hamser yn ystod yr arolygiad mewn dalfeydd yn asesu cyflwr corfforol carcharorion, ac yn arsylwi arferion gweithredol a sut yr ymdrinnir â charcharorion a’r modd y cânt eu trin. Rydym yn siarad yn uniongyrchol â swyddogion a staff gweithredol y ddalfa, ac â charcharorion i glywed eu profiad yn uniongyrchol. Rydym hefyd yn siarad â swyddogion heddlu eraill nad ydynt yn y ddalfa, cyfreithwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymwelwyr eraill â dalfeydd i gael eu barn ar sut mae gwasanaethau dalfeydd yn gweithredu. Rydym yn archwilio cofnodion y ddalfa a dogfennau perthnasol eraill a gedwir yn y ddalfa i asesu’r ffordd yr ymdrinnir â charcharorion, ac a ddilynir polisïau a gweithdrefnau.
Cyfweliadau gyda staff
Yn ystod yr arolygiad rydym yn cynnal cyfweliadau gyda swyddogion o’r llu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- prif swyddogion sy’n gyfrifol am y ddalfa;
- arolygwyr dalfeydd; a
- swyddogion â chyfrifoldeb arweiniol am feysydd megis iechyd meddwl neu gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Rydym yn siarad â phobl sy’n ymwneud â chomisiynu a rhedeg gwasanaethau iechyd, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl yn y dalfeydd ac mewn gwasanaethau cymunedol perthnasol, megis dalfeydd lleol adran 136 y Ddeddf Iechyd Meddwl. Rydym hefyd yn siarad â chydlynydd y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa ar gyfer y llu.
Grwpiau ffocws
Yn ystod yr arolygiad rydym yn cynnal grwpiau ffocws gyda swyddogion ymateb rheng flaen, a rhingylliaid ymateb. Mae’r wybodaeth a gesglir yn llywio ein hasesiad o ba mor dda y mae’r llu’n dargyfeirio pobl agored i niwed a phlant o’r ddalfa ar y pwynt cyswllt cyntaf.
Adborth i’r llu
Mae’r tîm arolygu’n darparu asesiad amlinellol cychwynnol i’r llu ar ddiwedd yr arolygiad, i roi’r cyfle iddo ddeall a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl. Yn dilyn hyn, cyhoeddir adroddiad o fewn pedwar mis yn rhoi ein canfyddiadau manwl ac argymhellion ar gyfer gwella. Disgwylir i’r llu ddatblygu cynllun gweithredu mewn ymateb i’n canfyddiadau, a byddwn yn cynnal ymweliad pellach oddeutu blwyddyn ar ôl ein harolygiad i asesu cynnydd yn ôl ein hargymhellion.
Atodiad II: Tîm arolygu
- Norma Collicott: Arweinydd arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Anthony Davies: Swyddog arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Patricia Nixon: Swyddog arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Ramzan Mohyiuddin: Swyddog arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Sutinderjit Mahil: Swyddog arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Andy Reed: Swyddog arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Viv Cutbill: Swyddog arolygu Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub AEM
- Kellie Reeve: Arweinydd tîm Carchardai AEM
- Fiona Shearlaw: Arolygydd Carchardai AEM
- Martin Kettle: Arolygydd Carchardai AEM
- Paul Tarbuck Arolygydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Carchardai AEM
- Joe Simmonds: Ymchwilydd Carchardai AEM
- Alec Martin: Ymchwilydd Carchardai AEM
Tudalen ffeithiau
Sylwch: Data wedi’u darparu gan y llu.
Llu
Heddlu Gogledd Cymru
Prif gwnstabl
Carl Foulkes
Comisiynydd heddlu a throseddu
Andrew Dunbobbin
Ardal ddaearyddol
Gogledd Cymru (Ardaloedd Awdurdod Lleol: Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn)
Dyddiad yr arolygiad diwethaf o ddalfeydd yr heddlu
2014
Dalfeydd
- Dalfa Llai, Stad Ddiwydiannol Davy Way, Llai LL12 0PG: 32 cell
- Dalfa Llanelwy, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy LL17 0HQ: 32 cell
- Dalfa Caernarfon, Lôn Maesincla, Caernarfon LL55 1BU: 16 cell
Trwygyrch blynyddol y ddalfa
9,490
Staffio yn y dalfeydd
- 1 uwch-arolygydd
- 1 prif arolygydd, arweinydd y ddalfa
- 1 arolygydd polisi’r ddalfa, cydymffurfedd a chymorth
Llanelwy
- 1 arolygydd
- 12 rhingyll
- 12 swyddog cadw’r ddalfa
Llai
- 1 arolygydd
- 12 rhingyll
- 10 swyddog cadw’r ddalfa
Caernarfon
- 1 arolygydd
- 12 rhingyll
- 8 swyddog cadw’r ddalfa
Staffio gofal iechyd
- 1 rheolwr nyrsys y ddalfa
- 4 arweinydd tîm nyrsys y ddalfa
- 12 nyrs y ddalfa
Mae Mountain Healthcare Ltd. yn llywodraethu gofal iechyd.
Nôl i’r cyhoeddiad
Adroddiad ar ymweliad arolygu dirybudd â dalfeydd yr heddlu yn Gogledd Cymru