Adolygiad ôl-archwiliad archwiliad cenedlaethol amddiffyn plant

Published on: 4 July 2022

Contents

Print this document

Cyflwyniad

Archwiliad 2019 a gynhaliwyd gan HMICFRS

Ym mis Gorffennaf 2019, archwiliodd Arolygiaeth Ei Mawrhydi o’r Heddlu a’r Gwasanaethau Tân ac Achub (HMICFRS) i weld pa mor dda y mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadw plant dan 18 oed yn ddiogel.[1]

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddasom ein canfyddiadau.

Gwnaethom ganfod fod y prif gwnstabl, eu uwch-dîm a’r comisiynydd heddlu a throsedd (CHTh) yn amlwg wedi ymrwymo i amddiffyn pobl fregus, gan gynnwys plant. Yr oedd hyn yn amlwg o gynllun heddlu a throsedd y CHTh,[2] strategaeth plant a phobl ifanc y dirprwy CHTh a blaenoriaethau’r llu.

Prosiect cenedlaethol yw rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd a gyllidir gan y Swyddfa Gartref. Ei nod yw ymdrin â’r diffyg ymyriad cynnar a gweithgaredd ataliol pan fo tystiolaeth am brofiadau andwyol mewn plentyndod. Yr oedd gwaith gyda’r rhaglen hon yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar y modd mae swyddogion yn meddwl am blant a sut y mae profiadau andwyol yn effeithio arnynt. Yr oedd y newid meddylfryd hwn yn arwain swyddogion i ymyrryd yn gynt er mwyn torri cylchoedd o gam-drin.

Trwy gydol ein harchwiliad, gwelsom enghreifftiau o waith da gan swyddogion rheng-flaen yn ymateb i ddigwyddiadau yr oedd plant yn rhan ohonynt. Yr oedd y swyddogion a’r staff y buom ni’n siarad â hwy oedd yn rheoli ymchwiliadau amddiffyn plant yn ymrwymedig ac yn ymroddedig. Yn aml iawn, roeddent yn gweithio mewn sefyllfaoedd anodd a straenllyd.

Canfuom hefyd fod y llu yn gweithio’n galed i ddiogelu iechyd a lles ei weithlu.

Dywedodd sefydliadau sy’n bartneriaid a phobl a diddordeb yng ngwaith amddiffyn plant y llu fod eu trefniadau gweithio gyda’r llu yn gryf ac yn effeithiol.

Dywedasant hefyd fod yr heddlu yn rhan o drefniadau gweithio ar y cyd, megis cyfarfodydd cyd-gordio cam-fanteisio ar blant, a’r panel cymorth cynnar yn Sir y Fflint. Yr oeddent hefyd yn dweud fod y llu yn agored i herio proffesiynol adeiladol. Er bod angen gwella rhai trefniadau o ran gweithio gyda phartneriaid, yr oedd y darlun ar y cyfan yn un cadarnhaol.

Yr oedd y llu yn rheolaidd yn adolygu gwybodaeth feintiol am nifer y digwyddiadau amddiffyn plant a’r achosion oedd ganddynt. Ond cyfyngedig oedd y wybodaeth am ansawdd y deilliannau. Yr oedd hyn yn ei gwneud yn anodd i’r llu wybod a oedd y swyddogion a’r staff yn wastad yn gwneud y penderfyniadau gorau i blant bregus.

Yr oedd yr archwiliadau achos a welsom yn dangos fod angen i’r llu wella rhai o’u hymatebion i blant oedd angen help a gwarchodaeth. Roedd y llu wedi gwneud amddiffyn plant yn flaenoriaeth ac yr oedd yr uwch-arweinwyr yn amlwg yn ymrwymedig i hyn. Ond nid oedd penderfyniadau ynghylch plant mewn risg yn gyson well o ganlyniad.

Ymysg meysydd penodol oedd angen eu gwella yr oedd:

  • yr arferion oedd ar waith wrth reoli’r sawl sy’n risg i blant, gan gynnwys gwella prydlondeb asesiadau risg a chofnodi gwybodaeth, a sicrhau bod rheoli ymatebol yn cael ei ddefnyddio’n briodol;
  • yr hyfforddiant sy’n cael ei roi i aelodau’r gweithlu sy’n ymchwilio i gam-drin plant;
  • gofalu bod swyddogion yn siarad â phlant, yn gwylio sut y maent yn ymddangos ac yn ymddwyn, a gwneud yn siŵr y rhoddir clust i’w pryderon a’u barn, gan y bydd hyn yn helpu i lunio penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn eu cylch;
  • yr ymateb i adroddiadau am blant ar goll o’u cartref neu ofal; a
  • sut mae plant sy’n cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu yn cael eu trin.

Gwelsom enghreifftiau o waith da. Ymysg meysydd penodol yr oedd:

  • Yr oedd y llu wedi ymrwymo i’r rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd.
  • Yr oedd canolfan gyswllt y llu yn defnyddio baneri ar systemau i dynnu sylw swyddogion yn y fan a’r lle at faterion pwysig. Gwelsom lawer esiampl o’r ymchwil hwn yn cael ei basio ymlaen at y swyddogion mewn digwyddiad. Yr oedd hyn yn golygu bod ganddynt wybodaeth ac yn gallu gwneud gwell penderfyniadau.
  • Yr oedd ymchwiliadau ar y cyd a manylion trafodaethau am strategaeth wedi eu cofnodi’n dda. Pan fyddant yn cael eu cwblhau gan swyddogion a staff arbenigol, yr oedd yr ymchwiliadau hyn fel arfer yn cael eu goruchwylio a’u cynnal yn dda.
  • Yr oedd ymchwiliadau i droseddwyr sy’n gwneud ac yn dosbarthu delweddau anweddus o blant yn cael eu cynnal yn sydyn.

Fodd bynnag, yr oedd angen gwelliannau, a wnaethom gyfres o argymhellion gyda’r nod o wella arferion amddiffyn plant Heddlu Gogledd Cymru.

Adolygiad ôl-archwiliad 2021 gan HMICFRS

Ym mis Tachwedd 2019, dangosodd y llu eu cynllun gweithredu i ni am ymateb i’n hargymhellion. Ers hynny, yr ydym wedi parhau i fonitro eu gweithgareddau gwella. Ym mis Mawrth 2021, gwnaethom gynnal adolygiad ôl-archwiliad i asesu ei gynnydd.

Pan oeddem yn cynllunio ein hail ymweliad â’r llu, nid oedd yn glir a fyddai modd i ni ymweld yn bersonol oherwydd pandemig COVID-19. Gwnaethom felly gynnal ein harchwiliad o bell, gan ddefnyddio galwadau fideo ar gyfer trafodaethau gyda heddweision a staff, a’u rheolwyr a’u harweinwyr, ynghyd ag adolygiadau ar-lein o ddigwyddiadau ac ymchwiliadau.

Yn ystod yr adolygiad hwn, gwnaethom y canlynol:

  • archwilio polisïau, strategaethau a dogfennau eraill y llu;
  • cyfweld uwch-arweinwyr, rheolwyr a swyddogion a staff rheng-flaen;
  • cymryd sampl o 20 digwyddiad o gam-drin domestig a 15 achos yn ymwneud â chamdriniaeth ar-lein; ac
  • archwilio 34 o achosion amddiffyn plant oedd yn ymwneud yn benodol â’r meysydd gwella a osodwyd allan yn adroddiad archwiliad 2019.

Crynodeb o ganfyddiadau o adolygiad ôl-archwiliad 2021

Yr oeddem yn falch o weld fod y llu wedi neilltuo cryn dipyn o adnoddau, amser ac ynni i ymdrin â’n hargymhellion a gwella amddiffyn plant.

Mae’r llu wedi cyflwyno proses archwilio gynhwysfawr, sy’n gadael i uwch-arweinwyr ddeall yn well berfformiad swyddogion a staff sy’n cynnal ymchwiliadau amddiffyn plant. Adroddir am y canfyddiadau i’r cyfarfod strategol amddiffyn pobl fregus, lle mae uwch-arweinwyr yr heddlu yn bresennol. Mae’r llu yn gweithredu i ymdrin â meysydd gwella a rhoi cyhoeddusrwydd i arferion da.

Er enghraifft, ym mis Hydref 2020, helpodd y broses archwilio y llu i sylweddoli nad oedd swyddogion yn gyson yn siarad â phlant nac yn trafod eu barn a’u pryderon, ac nad oeddent chwaith yn cofnodi eu hymddygiad a’u hymarweddiad. Achosodd hyn i uwch-arweinwyr greu tiwtorial ar-lein ar y pwyntiau hyn o’r enw ‘pytiau PVPU’.

Mae’r llu wedi pennu’r gofynion hyfforddi ar gyfer rolau penodol, gan wneud yn glir pa rai sydd angen hyfforddiant arbenigol. Er enghraifft, bydd tîm Amethyst, y mae ei swyddogion yn ymdrin â threisio a throseddau rhywiol difrifol, yn derbyn hyfforddiant arbenigol mewn ymchwilio i gam-drin plant oherwydd swm y gwaith amddiffyn plant mae’n wneud. Mae’r pandemig wedi torri ar draws y rhaglen hyfforddi hon, ond trefnodd y llu iddo gael ei ddarparu ym Mehefin a Medi 2021.

Datblygodd y llu gwrs hyfforddi ymchwilio ar y cyd amlasiantaethol, gan weithio gyda’u partneriaid amddiffyn plant. Mae rhai swyddogion eisoes wedi elwa o hyn.

Ym mis Gorffennaf 2020, cyflwynodd y llu ganllawiau newydd i reoli troseddau. Mae hyn yn cynnwys proses frysbennu, sy’n ystyried ffactorau risg er mwyn gwneud yn siwr fod y llu yn neilltuo achosion i swyddogion a staff gyda sgiliau priodol. Mae’r canllaw hefyd yn gwneud yn glir beth a ddisgwylir o ymchwilwyr a’u goruchwylwyr.

Bydd gan y datblygiadau hyn effaith gadarnhaol yn y tymor hwy, unwaith i’r llu ddarparu’r hyfforddiant a bod cydymffurfio â’r canllaw yn fwy cyson.

Mae’r llu wedi cynyddu’n sylweddol nifer y swyddogion a’r staff sydd wedi eu neilltuo i reoli troseddwyr. Mae ditectif arolygydd yn awr yn gyfrifol am y timau rheoli troseddwyr rhywiol a threisgar (MOSOVO) ledled y llu. Mae tri rhingyll yn ei gefnogi. Ychwanegodd y llu hefyd bedwar rheolwr troseddwyr arall, sy’n golygu fod pob rheolwr yn gyfrifol am lai o droseddwyr.

Gweithiodd y llu gyda’u partneriaid i gyflwyno Operation Encompass yn y chwe ardal awdurdod lleol. Mae hefyd wedi cwblhau adolygiad o gynadleddau asesu risg amlasiantaethol (MARACs) ac y mae yn awr yn datblygu cynlluniau gwarchod ar y cyd i ddioddefwyr a phlant yn gyflymach.

Mae canolfan gyswllt y llun yn well am nodi risg a graddio’r ymateb i blant sy’n mynd ar goll. Fel arfer, mae camau sydyn yn cael eu cymryd er mwyn ceisio eu canfod. Ond mae angen iddynt wella cynllunio gwarchodol i rai plant sy’n mynd ar goll yn rheolaidd. Mae angen hefyd iddynt wneud mwy o waith i wella’r hyn mae’n wneud pan fydd plant yn dychwelyd.

Er nad yw’r llu yn cadw llawer o blant yn y ddalfa ar ôl eu cyhuddo o drosedd, yr oeddem yn siomedig o weld fawr ddim gwelliant yn ymarferol pan fydd plant yn cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu.

Casgliad

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi canolbwyntio ar faterion amddiffyn plant ar lefel strategol, ac y mae’n dal i wneud hyn. Mae hyn yn cynnwys pwyslais ar arferion da trwy hyfforddi’r swyddogion a’r staff, darparu canllawiau, monitro perfformiad a chynnal archwiliadau rheolaidd. Mae hefyd yn dal i ddatblygu trefniadau diogelu gyda’u bartneriaid ledled y gogledd.

Rhaid i’r llu yn awr barhau i ddefnyddio archwiliadau i wneud yn siwr fod eu gwaith i fyny i safon briodol, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae angen y mwyaf o welliant, er mwyn gwneud eu harferion yn fwy cyson.

Mae angen i’r llu o hyd wneud gwelliannau mewn rhai meysydd amddiffyn plant, fel pan gedwir plant yn y ddalfa, a siarad yn gyson â phlant a gwrando ar eu barn a’u pryderon.

Er hyn, gweithiodd y llu yn ddygn i ymdrin â’r argymhellion o’n harolygiad yn 2019 a gall ddangos gwelliannau pendant mewn rhai meysydd yn sgîl hyn. Mae hyn yn arbennig o amlwg wrth reoli pobl sy’n risg i blant, pan adroddir am blant ar goll ac wrth ymchwilio i gam-drin a chamfanteisio ar blant. Mae cynnydd y llu wedi ein calonogi, ac yr ydym yn hyderus y byddant yn parhau’n ymrwymedig i wneud gwelliannau pellach.

Canfyddiadau 2021: Cyswllt cychwynnol

Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: cyswllt cychwynnol

Argymhellwn fod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu ymhen tri mis fod pryderon a barn plant yn cael eu canfod a’u cofnodi (gan gynnwys nodi eu hymddygiad a’u hymarweddiad). Bydd hyn yn helpu i ddylanwadau ar benderfyniadau a wneir yn eu cylch.

Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: cyswllt cychwynnol

Gwnaeth y llu gryn ymdrech i annog swyddogion a staff i siarad â phlant, a chofnodi’r hyn maent yn ddweud, eu hymddygiad a’u hymarweddiad. Maent hefyd wedi rhoi fideo a wisgir ar y corff i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen. Ond nid da lle gellir gwell, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae plant yn agored i gamdriniaeth ddomestig.

Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: cyswllt cychwynnol

Mae swyddogion a staff yn well wrth gofnodi barn a phryderon plant

Ers ein harchwiliad, gweithiodd y llu yn galed i annog eu swyddogion a’u staff i siarad â phlant a chofnodi eu pryderon a’u barn. Mae hyn wedi cynnwys:

  • hyfforddiant gyda mwy o ffocws, gan gynnwys ar gyfer dechreuwyr newydd;
  • wythnos ymwybyddiaeth;
  • darparu canllawiau pellach yn ystod y dyddiau datblygu rheolaidd i swyddogion a staff;
  • adran newydd yn fframwaith asesu bregusrwydd y llu;
  • briffiad saith-munud i’r holl staff; a
  • tiwtorial fideo ‘tamaid PVPU’ ar fewnrwyd y llu.

Dengys ein harchwiliadau fod swyddogion yn gwella wrth siarad â phlant a chofnodi eu hymddygiad a’u hymarweddiad. Yr oedd hyn yn amlwg mewn achosion lle’r oedd plant wedi cynhyrchu a rhannu delweddau anweddus ohonynt eu hunain. Gwelsom lawer enghraifft o swyddogion yn cyfathrebu gyda hwy i ddeall eu barn a’u pryderon. Yr oeddent yn cofnodi beth ddywedodd y plant, ac yr oedd hyn yn amlwg wedi cael dylanwad ar benderfyniadau’r swyddog.

Pan gynhaliodd y llu ymchwiliadau ar y cyd i gam-drin plant, gwelsom fod yr heddlu a’u partneriaid diogelu yn gyson yn gwrando ar blant a bod eu llais yn glir trwy gydol yr ymchwiliadau.

Mae angen i’r lle wella eto

Gwnaethom archwilio sampl o saith achos lle chwiliodd y llu gartrefi am eu bod yn amau fod trigiannydd yn rhannu delweddau o gam-drin plant ar-lein. Gwnaethom ddewis yr achosion am fod plant yn byw yn y cartref. Ni siaradodd y swyddogion ag unrhyw rai o’r plant ar yr aelwydydd hynny.

Mewn sampl tebyg o 15 digwyddiad o gamdriniaeth ddomestig pan oedd plant yn bresennol, canfuom fod swyddogion wedi siarad â’r plant mewn dim ond chwech o’r achosion hynny.

Golyga hyn, mewn rhai achosion, pan fydd y llu yn rhannu gwybodaeth gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, nid ydynt yn llawn ddeall effaith ymddygiad rheini a gofalwyr ar blant. Gallai hyn gael effaith ar benderfyniadau a wneir ynghylch y plant.

Mae’r llu yn awr yn rhoi camerâu a wisgir ar y corff i’r holl swyddogion a staff rheng-flaen

Ers ein harolygiad yn 2019, rhoddodd y llu gyfarpar fideo a wisgir ar y corff i’r holl staff rheng-flaen. Er nad ydynt wedi ei gwneud yn orfodol defnyddio’r cyfarpar dan unrhyw amgylchiad penodol, gwelsom dystiolaeth gynyddol fod swyddogion yn ei ddefnyddio’n effeithiol. Ond mewn sampl o 20 achos o gamdriniaeth ddomestig, defnyddiodd y swyddogion y cyfarpar mewn chwe achos yn unig.

Canfyddiadau 2021: Asesu a help

1. Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: asesu a help

Argymhellwn, ymhen chwe mis, fod Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal adolygiad gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol plant ac asiantaethau perthnasol eraill. Ei nod fydd gwneud yn siwr fod y llu yn ateb eu cyfrifoldebau fel sydd wedi eu gosod allan yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan pan ddaw’n fater o asesu risg, rhannu gwybodaeth a datblygu cynlluniau amddiffyn ar y cyd.

1. Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: asesu a help

Mae’r llu yn rhannu gwybodaeth yn brydlon gyda’u partneriaid amddiffyn plant. Fel arfer maent yn cynnal trafodaethau strategol yn brydlon, ond ceir oedi weithiau. Maent yn awr yn cynnal cyfarfodydd MARAC yn amlach a chyflwynodd y llu Operation Encompass.

1. Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: asesu a help

Mae’r llu yn rhannu gwybodaeth yn brydlon

Mae’r uned gyfeirio ganolog yn dal i ymchwilio i’w achosion yn drwyadl ac yn rhannu gwybodaeth yn brydlon gydag awdurdodau lleol. Mae’r ffurflenni a ddefnyddir gan y llu fel arfer yn cynnwys swm priodol o fanylion. Cawsom ein calonogi hefyd i weld pan fod naill ai’r wybodaeth a geir neu’r ymchwil yn amlygu risg sylweddol, mae’r llu yn rhannu’r adroddiad gyda’r disgwyliad clir y dylid cynnal trafodaethau strategaeth.

Ers ein harchwiliad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gweithdrefnau diogelu Cymru o’r newydd. Oedodd y pandemig hyn.

Ym mis Mawrth 2021, cynhaliodd y llu ac eraill oedd yn rhan o waith amddiffyn plant archwiliad ar y cyd o sampl bychan o achosion. Buont yn olrhain yr achosion trwy’r broses o rannu gwybodaeth a dod i’r casgliad eu bod yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau newydd.

Cadarnhaodd ein harchwiliadau fod hyn yn digwydd fel rheol, yn enwedig pan oedd y cam-drin yn glir o’r cychwyn neu ei fod yn digwydd yn y teulu. Yn yr achosion hyn, cawsom fod y llu a’u partneriaid diogelu yn cynnal trafodaethau strategaeth rhag blaen.

Mae’r llu yn dda am gofnodi manylion y trafodaethau hynny. Mae swyddogion yn dogfennu camau y cytunir arnynt ar y cyd yn glir. Canfuom, pan fod angen iddynt gymryd rhan mewn ymweliad ar y cyd â phlentyn, fod y rhain yn digwydd yn ddi-oed. Ond mae trafodaethau strategaeth fel arfer yn cynnwys cynrychiolaeth yn unig o’r heddlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant.

Mae oedi o hyd wrth drefnu gweithio ar y cyd

Gwelsom fod oedi cyn cynnal rhai trafodaethau strategaeth. Yr oedd hyn yn arbennig o amlwg mewn sefyllfaoedd lle’r oedd y risg yn cynyddu, fel pan oedd plentyn yn mynd ar goll dro ar ôl tro.

Dywedwyd wrthym fod y llu wedi gwella pa mor gyflym y mae’n difrifoli’r materion hyn gyda’u partneriaid, ond gwelsom fod angen iddynt wneud mwy i atal oedi cyn cytuno ar gynlluniau diogelu.

Cawsom fod cofnodi’r camau y cytunwyd arnynt o’r drafodaeth strategaeth yn waeth pan nad oedd tîm Onyx yn cefnogi’r plentyn. Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant sydd mewn perygl o gam-fanteisio.

Cyflwynodd y llu Operation Encompass

Mae’r llu wedi gwella’r modd y mae’n rhannu gwybodaeth gydag ysgolion trwy gyflwyno Operation Encompass. Mae’r llu yn dweud wrth ysgolion cynradd ac uwchradd yn y chwe ardal awdurdod lleol pan fo disgybl wedi gweld camdriniaeth ddomestig yn y cartref. Mae hyn yn golygu y gall y staff gefnogi disgyblion pan fo angen.

Cynhaliwyd adolygiad o MARAC ac y mae sefydliadau wedi cyflwyno gwelliannau

Yn ystod ein harchwiliad, dywedwyd wrthym y byddai’r broses MARAC yn cael ei hadolygu. Y bwriad cyntaf oedd cynnwys Cymorth i fenywod Cymru yn yr adolygiad hwn. Fodd bynnag, golygodd cost a materion ymarferol yn ystod y pandemig fod penderfyniad wedi ei wneud i gynnal yr adolygiad yn lle hynny gyda mudiadau lleol a’r elusen genedlaethol am gamdriniaeth ddomestig, SafeLives. Yr oedd hyn er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn digwydd yn brydlon.

Cytunodd y mudiadau sydd â chyfrifoldeb am MARAC i gynnal cyfarfodydd wythnosol yn hytrach na misol. Er bod y meini prawf am gyfeirio yn cwympo y tu allan i’r hyn a argymhellir gan Safelives, clywir achosion yn gynt o lawer. (Mae Safelives yn awgrymu cyfeirio os ceir tri digwyddiad mewn 12 mis. Yng ngogledd Cymru, bydd yr heddlu’n cyfeirio os ceir tri digwyddiad mewn chwe mis.)

Gall y llu a mudiadau wedyn ganolbwyntio ar yr achosion sy’n peri’r mwyaf o bryder. Maent yn trafod achosion mwy cymhleth mewn cyfarfodydd misol lle gellir treulio mwy o amser i drafod pob achos.

Mae’r llu yn parhau i weithio gyda’u partneriaid i wella rhannu gwybodaeth

Mae’r llu a phartneriaid yn ardal awdurdod lleol Conwy wedi cytuno i gynnal cynllun peilot ar system hwb diogelu amlasiantaethol (MASH). Bydd hyn yn golygu y bydd cynrychiolwyr o wahanol fudiadau sy’n gweithio yn yr un lle yn rhannu gwybodaeth ac yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd. Gobaith y mudiadau sy’n rhan o hyn yw y bydd yn gwella rhannu gwybodaeth ledled y bartneriaeth ac yn arwain at wneud penderfyniadau yn gynt ar y cyd. Yr oedd hyn yn y cyfnod cynllunio adeg ein hail ymweliad ni.

2. Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: asesu a help

Argymhellwn, ymhen tri mis, fod Heddlu Gogledd Cymru yn gwella eu harferion o ran plant sy’n mynd ar goll o gartref. Fel isafswm, dylai hyn gynnwys:

  • gofalu bod eu swyddogion a staff yn adnabod ffactorau risg;
  • ystyried y ffactorau risg hynny wrth weithio i ganfod plant sydd ar goll;
  • gweithio gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol i gyflawni oblygiadau ar y cyd o ran cynnal cyfweliadau dychwelyd adref;
  • gwneud eu swyddogion a’u staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau am amddiffyn plant y dywedir sydd ar goll o’u cartref, yn enwedig pan fod hyn yn digwydd yn rheolaidd; a
  • dangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymchwilio i lle y bu plentyn a chyda phwy.

2. Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: asesu a help

Mae canolfan gyswllt y llu yn well am nodi risg a graddio’r ymateb i blant sydd ar goll. Cymerir camau prydlon fel arfer i geisio eu canfod. Fodd bynnag, mae angen i’r llu wella eu cynllunio gwarchod i rai plant sy’n mynd ar goll yn rheolaidd. Mae angen iddynt wneud mwy o waith hefyd i wella’r hyn mae’n wneud pan fydd plant yn dychwelyd.

2. Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: asesu a help

Mae Canolfan gyswllt y llu yn well am asesu risg i blant pan fyddant yn mynd ar goll

Canfuom fod canolfan gyswllt y llu wedi gwella’r ffordd o nodi risg a graddio digwyddiadau o blant yn mynd ar goll yn unol â hynny. Mae staff gwybodaeth unswydd, a elwir yn swyddogion Gwybodaeth 24(i24), yn cefnogi’r ganolfan. Gwelsom dystiolaeth fod staff y ganolfan gyswllt yn gwneud eu hymchwil yn dda. Maent yn defnyddio fflagiau yn briodol ar eu systemau ac yn defnyddio model THRIVE i gefnogi’r penderfyniadau a wnânt. Yr oeddent fel arfer yn graddio risg yn gywir ac yr oedd y gwaith i ganfod plant yn gyson â’r raddfa.

Mae staff ychwanegol yn awr yn cefnogi’r uned ymateb dan reolaeth

Yn ein harchwiliad yn 2019, gwelsom, pan oedd yr uned ymateb dan reolaeth (MRU) yn rhy brysur, nad oedd y staff yn cwblhau eu hymholiadau cychwynnol o ran plant oedd ar goll yn gyflym am eu bod yn blaenoriaethu materion eraill.

Cyflwynodd y llu yn ddiweddar dîm ymchwilio seiliedig ar y cartref i gynnal sawl gwahanol fath o ymchwiliad y gall aelodau’r tîm eu gwneud o bell. Mae’r tîm yn cefnogi gwaith yr MRU, sy’n golygu bod mwy o allu i gynnal yr ymholiadau prydlon sydd eu hangen pan aiff plentyn ar goll.

Mae dryswch ynghylch pa system TG i’w defnyddio pan geir adroddiad am blant yn mynd ar goll

Pan geir adroddiad fod plentyn ar goll, mae’r ganolfan gyswllt yn logio hyn ar system gorchymyn a rheoli’r llu. Mae’r wybodaeth yn cael ei gopïo’n awtomatig ar system Niche y llu. Defnyddir hyn yn aml i logio ymholiadau, ond nid yw system Niche yng ngogledd Cymru wedi ei chynllunio i’w defnyddio mewn achosion pobl ar goll.

Mae gan y llu hefyd system ar wahân i bobl ar goll o’r enw iTrace. Ond nid yw swyddogion a staff yn ei defnyddio’n gyson ac y maent yn dueddol o’i ddefnyddio ar gyfer achosion mwy cymhleth yn unig. Golyga hyn fod y llu yn dal gwybodaeth bwysig am lle y gall plentyn fod wedi bod a phwy sy’n risg iddo ar wahanol systemau. Mae hynny’n gwneud asesu risg a gwneud penderfyniadau yn fwy anodd.

Mae cynlluniau da yn eu lle i rai plant

Pan wyddys fod risg fod plentyn yn dioddef cam-fanteisio, mae tîm Onyx yn datblygu cynlluniau cynhwysfawr i’w atal rhag mynd ar goll, a helpu i’w ddarganfod yn gynt pan fyddant yn mynd ar goll. Ond os bydd plentyn yn mynd ar goll yn aml ac nad yw’r llu yn ei neilltuo i dîm Onyx, nid yw’r cynllunio mor glir. Bydd y staff yn tynnu sylw at rai o’r plant hyn yng nghyfarfodydd grŵp gorchwyl a chydgordio’r llu, ond mae’r cynllunio a’r agwedd yn anghyson.

Mae’r llu yn ymwybodol o hyn a bwriadant gyflwyno proses newydd o ffriffio’r patrol a ‘chynllun tanio’.

Ni does digon o chwilfrydedd pan fydd plentyn yn dychwelyd adref

Pan geir adroddiad fod plentyn ar goll, mae swyddogion fel arfer yn cyflwyno ffurflen gyfeirio i roi gwybod i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol plant. Ond pan fydd plant yn dychwelyd, gwelsom yn rhy aml nad yw swyddogion yn cynnal cyfweliad atal, neu pan fyddant yn gwneud, nid oes ffocws ymchwiliol i’r cyfweliad. Mae hyn yn golygu fod y llu yn colli cyfle i ddeall gwybodaeth bwysig am lle bu’r plant a’r risg y gwnaethant wynebu.

Mae’r llu a’r CHTh yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i dderbyn gwybodaeth o gyfweliadau dychwelyd adref

Mae a yw plentyn yn cael cyfweliad dychwelyd adref a than ba amgylchiadau yn amrywio rhwng chwe awdurdod lleol y gogledd. Mae’r llu wedi gweithio gyda’r awdurdodau lleol i ddeall yn well pryd y gallant ddisgwyl derbyn gwybodaeth o’r cyfweliadau hyn, ond nid yw’n siwr o hyd eu bod yn derbyn yr holl wybodaeth mae arnynt eu hangen.

Yr ydym yn cydnabod fod y llu a’r CHTh wedi gweithio’n galed i geisio gwella’r sefyllfa hon. Maent yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gael ateb.

Canfyddiadau 2021: Ymchwilio

Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: ymchwilio

Argymhellwn, ymhen tri mis, y dylai Heddlu Gogledd Cymru wella eu hymchwiliadau amddiffyn plant a chamfanteisio ar blant, gan dalu sylw arbennig i’r isod:

  • neilltuo ymchwiliadau i dimau gyda’r sgiliau, gallu a medr i’w cynnal yn dda;
  • gwella’r ffordd y goruchwylir achosion a’u rheoli; a
  • rhannu gwybodaeth gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol plant pan fo risg i blentyn yn hysbys.

Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: ymchwilio

Cyflwynodd y llu ganllawiau newydd am reoli troseddau i wneud yn siwr eu bod yn neilltuo achosion i’r sawl sydd â’r sgiliau priodol. Er bod angen iddynt wella yn y maes hwn, gwelsom lawer enghraifft o ymchwiliadau da. Mae’r llu yn gynt i rannu gwybodaeth am bobl sy’n rhannu delweddau anweddus o blant. Mae swyddogion yn dda wrth gyfathrebu gyda phlant sy’n cynhyrchu delweddau anweddus ohonynt eu hunain. Ond nid yw’r llu yn archwilio llawer o’r dyfeisiadau a all gynnwys y delweddau hyn.

Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: ymchwilio

Mae’r canllawiau newydd ar reoli troseddau yn gwneud yn siwr fod y llu yn neilltuo achosion i’r tîm mwyaf addas

Cyflwynodd y llu broses a chanllawiau newydd o ran rheoli troseddau ym mis Gorffennaf 2020. Bydd ditectif ringyll yn adolygu achosion i gymryd i ystyriaeth gymhlethdod, difrifoldeb a risgiau eraill, megis pa mor fregus yw’r dioddefwr. Mae’r ditectif ringyll wedyn yn ei neilltuo i’r tîm gyda’r sgiliau mwyaf priodol. Mae’r canllawiau hefyd yn disgrifio’n glir pa weithgaredd mae’r llu yn ddisgwyl gan eu hymchwilwyr a goruchwylwyr.

Canllaw cymharol newydd yw hyn. Gwelsom rai achosion lle nad oedd y ffordd yr oedd y swyddog ymchwilio yn cofnodi gweithgaredd yn unol eto â disgwyliadau’r llu. Er enghraifft, yn y rhan fwyaf o achosion a neilltuwyd i’r uned gwarchod pobl fregus (PVPU), ni chofnododd y swyddogion gynllun ymchwilio clir. Mewn rhai achosion, nid oedd digon o oruchwylio gan oruchwyliwr neu fe gaeodd y llu yr ymchwiliad yn rhy gynnar.

Gwelsom lawer enghraifft o ymchwiliadau da

Yn ystod ein harchwiliadau, gwelsom lawer enghraifft o ymchwiliadau da o amddiffyn plant, oedd yn canolbwyntio ar ddiogelu’r plentyn ac ymchwilio i droseddau. Gwelsom achosion lle bu trafodaethau strategaeth prydlon, gyda chytuno ar gamau a’u dogfennu’n glir. A gwelsom achosion gyda goruchwylio da, penderfyniad i ddilyn llinellau ymchwilio, a chanoli ar gael y canlyniad gorau i blant.

Pan oedd y llu yn neilltuo ymchwiliadau i swyddogion nad ydynt yn arbenigwyr amddiffyn plant, roedd ganddynt gefnogaeth arbenigwyr, megis tîm Onyx. Er enghraifft:

Astudiaeth achos

Darganfu’r llu fod merch 14 oed oedd mewn gofal maeth yn feichiog. Yr oedd yn hysbys ei bod mewn risg o gamfanteisio. Neilltuodd y llu yr achos i’r CID i ymchwilio i droseddau tra bu’r tîm Onyx yn siarad â phartneriaid diogelu a gweithio gyda hwy i gefnogi’r plentyn a chasglu mwy o wybodaeth.

Gan nad oedd y tad yn hysbys, nid oedd y swyddogion yn gwybod pwy oedd yn rhoi’r risg fwyaf i’r plentyn. Cofnododd y swyddogion yn glir eu cynllun ar gyfer yr ymchwiliad a’r penderfyniadau ar y cyd a wnaethant gyda phartneriaid diogelu eraill i liniaru risgiau pellach. Yr oedd y goruchwylwyr yn rhoi trosolwg glir.

Yr oedd y plentyn yn gyndyn o gydweithredu gyda’r ymchwiliad, ond trwy ddal ati i ddilyn gwahanol linellau ymchwilio, daeth y swyddogion ymchwilio o hyd i ddyn 18 oed a amheuwyd. Arestiodd y swyddogion y dyn a’i gyfweld.

Oherwydd problemau cael digon o dystiolaeth, ni lwyddwyd i erlyn. Ond daliodd y tîm Onyx i weithio gyda’r plentyn a mudiadau oedd yn bartneriaid i rannu gwybodaeth a chytuno ar gamau i helpu i’w chadw’n ddiogel.

Mae’r llu bellach yn dwyn i mewn wasanaethau gofal cymdeithasol plant yn gynt pan fyddant yn amau fod rhywun yn dosbarthu delweddau o gam-drin plant

Mae tîm archwilio ar-lein y llu yn ymchwilio i rannu a dosbarthu delweddau anweddus o blant ar-lein. Mewn achosion lle creda’r swyddogion fod gan y sawl dan amheuaeth yn gallu mynd at blant, yr oeddem yn falch o weld fod y tîm yn awr yn rhannu gwybodaeth yn gynt gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol plant. Mae hyn yn golygu y gall y llu gasglu mwy o wybodaeth, deall risg a gwneud cynlluniau ar y cyd yn gynt.

Gwelsom fod swyddogion yn gweithio’n dda gyda phlant sy’n rhannu delweddau anweddus, ond y mae’r llu yn dal i golli cyfleoedd i archwilio dyfeisiadau ac adfer delweddau

Canfuom fod swyddogion yn dda am weithio gyda phlant a’u gofalwyr pan fo’r plentyn wedi rhannu delweddau anweddus ohono’i hun gyda’i gyfoedion. Dangosodd y swyddogion eu bod yn canolbwyntio ar farn a phryderon y plant a’u bod yn gweithredu er eu lles. Yr oeddent hefyd yn rhoi cyngor am ddiogelwch rhyngrwyd i’r plant a’u rhieni neu ofalwyr.

Ond yn aml, nid yw dyfeisiadau yn cael eu harchwilio, naill ai’n gorfforol gan y swyddog neu gan arbenigwyr fforensig. Golyga hyn y gall delweddau anweddus aros trwy amryfusedd ar ddyfeisiadau. Mae hefyd yn golygu nad oedd y swyddogion wedi gwneud gwiriadau pwysig i ofalu nad oedd neb wedi dosbarthu’r delweddau yn ehangach. Gall y ffaith nad oes gan y llu y cyfleusterau ar hyn o bryd i frysbennu dyfeisiadau yn electronig fod wedi effeithio ar benderfyniadau swyddogion ynghylch eu meddiannu.

Canfyddiadau 2021: Gwneud penderfyniadau

Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: gwneud penderfyniadau

Argymhellwn, ymhen tri mis, fod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i asiantaethau sy’n bartneriaid i sicrhau’r canlynol:

  • y cymerir plentyn i le diogel priodol pan ddefnyddir y pwerau hyn;
  • yr ymchwilir yn gywir i droseddau; a
  • fod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei gofnodi’n gywir a’i fod yn hygyrch yn rhwydd mewn pob achos pan fo pryderon am les plant.

Dylai canllawiau i staff gynnwys:

  • cyngor am ba wybodaeth y dylent gofnodi ar eu systemau, ac ar ba ffurf, i’w helpu i wneud penderfyniadau da; a
  • pwyslais ar bwysigrwydd gofalu bod cofnodion yn cael eu gwneud yn gyflym a’u cadw’n gyfoes.

Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: gwneud penderfyniadau

Darparodd y llu hyfforddiant a chanllawiau ychwanegol i’r sawl sy’n gyfrifol am awdurdodi pwerau amddiffyn. Y cam olaf yw i swyddogion fynd â phlant i orsafoedd yr heddlu ac am y cyfnod byrraf posib fel arfer. Mae gwell trosolwg yn awr o ddefnyddio’r pwerau hyn, ond rhaid i’r cofnodi wella.

Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: Gwneud penderfyniadau

Mae canllawiau a hyfforddiant wedi gwella’r defnydd o bwerau amddiffyn yr heddlu

Ers ein harchwiliad yn 2019, mae’r llu wedi darparu mwy o ganllawiau a hyfforddiant i arolygwyr rheng-flaen. Maent wedi ategu hyn a deunyddiau dysgu arlein, a gofnodwyd ganddynt a’u gwneud ar gael trwy fewnrwyd y llu.

Crëwyd ffurflen ychwanegol i swyddog dynodedig er mwyn gwella cofnodi’r defnydd o’r pŵer. Mae adran ynddi i gofnodi adolygiadau’r swyddog dynodedig a throsglwyddiadau i gydweithwyr. Dylai swyddogion hefyd ei defnyddio i ddogfennu’r amgylchiadau pan ddaeth y pŵer i ben.

Ym mhob achos a archwiliwyd gennym, defnyddiodd y swyddogion y pŵer yn briodol, a chofnodwyd rhesymeg glir dros gymryd plant i warchodaeth yr heddlu, ac yr oedd trafodaethau gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol plant yn digwydd yn brydlon.

Er i swyddogion gymryd rhai plant i orsafoedd heddlu, yr oedd hyn yn digwydd yn unig pan nad oedd dewis arall, a chadwodd y llu hwy ynddo am gyfnod mor fyr ag oedd modd.

Mae gwell goruchwyliaeth o ddefnyddio’r pŵer

Trafodir y defnydd o’r pŵer yn awr yn y cyfarfod tasg PVPU dyddiol, sy’n rhoi gwell trosolwg o’r ymateb cychwynnol i gofnodi gwybodaeth ac ymchwilio i droseddau. Ond gwelsom rai enghreifftiau o oedi ymchwiliadau, a swyddogion heb fod yn cydnabod risg ehangach i blant.

Mae cofnodi yn well, ond mae angen i’r llu wella eto

Gwelsom welliant mewn cofnodi, ond mae gormod o enghreifftiau o hyd pan nad yw’n glir a yw’r swyddog dynodedig wedi trosglwyddo ei gyfrifoldeb, neu pryd a than ba amgylchiadau y daeth y pŵer i ben.

Canfyddiadau 2021: Rheoli’r sawl sy’n risg i blant

Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: rheoli’r sawl sy’n risg i blant

Argymhellwn fod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu rhag blaen i wella’r ffordd mae’n rheoli troseddwyr rhyw cofrestredig (RSO), gan dalu sylw arbennig i’r isod:

  • sut y mae’n neilltuo troseddwyr i reolwyr;
  • sut mae’n cwblhau asesiadau system weithredol o reoli risg (ARMS);
  • sut y mae’n ymdrin â’r troseddwyr hynny nad ydynt yn cydymffurfio a gofynion hysbysu; a
  • sut y mae’n cofnodi gwybodaeth.

Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: rheoli’r sawl sy’n risg i blant

Buddsoddodd y llu mewn adnoddau ychwanegol i wella’r dull o reoli troseddwyr. Maent wedi gwella’r ffordd maent yn asesu risg, gan weithio gyda mudiadau sy’n bartneriaid a monitro ymddygiad troseddwyr. Ond rhaid iddynt wneud mwy i sicrhau, pan fydd troseddwyr rhyw cofrestredig yn methu â dweud wrth yr heddlu am newid yn eu hamgylchiadau, fod swyddogion yn cofnodi’r troseddau hyn ac yn ymchwilio iddynt.

Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: rheoli’r sawl sy’n risg i blant

Mae cynyddu lefelau staffio, ailstrwythuro, hyfforddiant a gwell goruchwyliaeth wedi gwella rheoli troseddwyr

Ers ein harchwiliad, cynhaliodd y llu adolygiad sylweddol o’u hagwedd at reoli troseddwyr. Mae ditectif arolygydd (DA) yn awr a chyfrifoldeb ledled y llu am dimau MOSOVO a MAPPA, gan ddarparu arweiniad clir a rhoi gwell trosolwg o waith y tîm. Mae ditectif ringyll unswydd ym mhob ardal blismona yn cefnogi’r DA. Mae pedwar o reolwyr troseddwyr ychwanegol, sy’n golygu bod cymhareb y troseddwyr i reolwyr yn awr o fewn lefelau rhesymol.

Yn ychwanegol at adolygu data perfformiad yn rheolaidd, mae’r DA yn cynnal panel misol gyda’i ringylliaid. Maent yn trafod achosion sy’n arbennig o heriol neu sydd angen eu cyfeirio ymlaen at fudiadau eraill.

Mae’r llu hefyd yn gweithio gyda lluoedd eraill Cymru i adolygu arferion ei gilydd.

Cefnogodd y llu un rhingyll i ddod yn hyfforddwr a achredwyd yn genedlaethol, fel y gall y swyddog yn awr hyfforddi’r tîm cyfan. O’r herwydd, gwelsom fod bron bob un o’r tîm rheoli troseddwyr wedi derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer eu rôl.

Mae’r llu yn well am asesu’r risg o du troseddwyr rhyw cofrestredig

Mae’r llu wedi gwella ei ddealltwriaeth o’r risg o du troseddwyr rhyw cofrestredig. Gwelsom eu bod wedi cwblhau asesiadau ARMS ar gyfer mwy na 90 y cant o droseddwyr a reolir. Yr oedd y rhai a archwiliwyd gennym fel arfer wedi eu cwblhau i safon uchel ac yn dangos fod rheolwyr troseddwyr wedi ymchwilio ymhellach i’r hyn a ddywedodd y troseddwr os oedd angen.

Gwelsom enghreifftiau hefyd o reolwyr yn gweithio gyda’r sefydliadau oedd yn bartneriaid, megis gwasanaethau gofal cymdeithasol plant a’r gwasanaeth prawf, i rannu gwybodaeth a thrwy hynny ddeall risg yn well. Mae’r llu yn cefnogi’r gweithgaredd hwn hefyd ac y mae felly yn dal ar gael os bydd y rheolwr yn newid.

Neilltuir troseddwyr penodol i reolwyr ac y meant yn gweithio’n agosach â swyddogion rheng-flaen

Yn 2019, gwelsom pan oedd troseddwyr i fod i gael ymweliad, fod y llu yn aml yn eu neilltuo i reolwr newydd yn hytrach nag un oedd wedi gweithio â hwy o’r blaen. Yr oedd hyn yn golygu nad oedd rheolwyr yn gyson yn gweld yr un troseddwyr.

Newidiodd y llu yr agwedd hon ac yn awr mae gan yr holl reolwyr garfan benodol o droseddwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn haws gweld newidiadau mewn ymddygiad neu amgylchiadau sydd yn gofyn am fwy o ymchwilio.

Mae’r llu yn enwebu heddweision cymdogaeth fel un pwynt cyswllt i gefnogi rheoli troseddwyr mwy problemus. Maent yn helpu trwy friffio eu cydweithwyr am y risgiau mae’r troseddwyr hyn yn roi, a threfnu gweithgareddau i reoli’r risg honno.

Mae’r llu yn defnyddio rheoli ymatebol yn unol â’r arferion gorau

Mae’r llu wedi newid y ffordd mae’n symud troseddwyr rhyw cofrestredig o reolaeth weithredol i ymatebol. Maent yn gwneud hynny yn awr os awgryma asesiad ARMS fod y troseddwyr a risg isel. Rhaid i’r rheolwr troseddwyr fod yn fodlon hefyd nad yw’r troseddwr wedi troseddu na bod yn unrhyw fath o risg mewn cyfnod o dair blynedd ac nad oed gorchymyn llys ar wahân yn bodoli. Gwneir y penderfyniad fesul achos. Mae’r rheolwr wedyn yn gosod fflag ar gofnod y troseddwr ar system Niche a bydd y tîm yn derbyn rhybudd os bydd y troseddwr hwnnw yn rhan o unrhyw ddigwyddiadau eraill yr adroddir amdanynt i’r heddlu.

Nid yw’r llu yn dal i gofnodi yn rheolaidd nac yn ymchwilio pan dorrir y gofyniad i hysbysu

Pan fydd troseddwyr yn torri eu gofynion hysbysu neu orchmynion llys, mae’r llu yn aml yn methu â chofnodi troseddau fel trosedd nac ymchwilio iddynt. Mae hyn yn golygu na fydd y llu yn llawn ddeall ymddygiad troseddwr. Ni fydd y llysoedd sy’n dedfrydu chwaith yn gwybod am y troseddau hyn pan fydd troseddwyr ger eu bron am faterion eraill. Rhaid i’r llu wneud mwy i sicrhau bod swyddogion yn cofnodi’r troseddau hyn ac yn ymchwilio iddynt.

Canfyddiadau 2021: Cadw gan yr heddlu

Argymhelliad o adroddiad archwiliad 2019: cadw gan yr heddlu

Argymhellwn, ymhen tri mis, fod Heddlu Gogledd Cymru yn adolygu sut y mae’n rheoli cadw plant yn y ddalfa. Dylid gwneud hyn ar y cyd â’r gwasanaethau gofal cymdeithasol plant ac asiantaethau eraill sy’n bartneriaid. Dylai’r adolygiad gynnwys o leiaf sut orau i wneud y canlynol:

  • gofalu bod oedolion priodol yn dod i swyddfa’r heddlu yn brydlon;
  • gwneud yn siwr fod swyddogion yn ystyried anghenion y plentyn a’i gyfeirio at y gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, pan fo angen;
  • sicrhau bod swyddogion y ddalfa yn glir am pryd y mae angen llety diogel neu beidio;
  • asesu yn gynnar yr angen am lety amgen, diogel neu fel arall, a gweithio gyda’r gwasanaethau gofal cymdeithasol plant i gael y dewis gorau i’r plentyn; a
  • pan nad oes modd dod o hyd i lety arall, cyfeirio’r broblem i fyny i ddod o hyd i ateb.

Crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad ôl-archwiliad: cadw gan yr heddlu

Er nad yw’r llu yn cadw llawer o blant yn y ddalfa ar ôl eu cyhuddo, yr oeddem yn siomedig o weld fawr ddim gwelliant yn eu harferion pan fydd plant yn cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu. Mae oedi hir yn digwydd cyn i oedolion priodol fod yn bresennol. Nid yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn gweld plant pan ddylent wneud hynny. Ac nid yw’r llu yn rhannu digon o wybodaeth gyda’r gwasanaethau gofal cymdeithasol plant am blant bregus gafodd eu harestio.

Canfyddiadau manwl o’r adolygiad ôl-archwiliad: cadw gan yr heddlu

Nid yw’r llu fel arfer yn cadw plant yn y ddalfa dros nos wedi eu cyhuddo

Yn ystod yr archwiliad hwn, gwelsom mai dim ond tri o blant oedd wedi eu cadw yn y ddalfa dros nos wedi eu cyhuddo dros y chwe mis diwethaf. Cadwyd cyfanswm o naw o blant wedi eu cyhuddo yn 2020 ar ei hyd. Gwelsom dystiolaeth hefyd fod y llu yn cysylltu’n gyflym iawn â’r awdurdod lleol perthnasol i drefnu llety amgen. Ond gwelsom enghreifftiau o ringylliaid dalfeydd heb ddeall pryd y mae angen iddynt ofyn am lety amgen. Gwelsom hefyd, pan fo’r awdurdod lleol yn camddeall y ddeddfwriaeth, nad yw hyn yn wastad yn cael ei gyfeirio ymlaen ar y pryd, sy’n golygu bod y llu yn dal i gadw rhai plant yn y ddalfa pan na ddylent fod yn gwneud hyn.

Cyfyngedig yw’r cyfleoedd am hyfforddiant ychwanegol i staff dalfeydd

Ers ein harchwiliad yn 2019, mae’r llu wedi newid patrymau shifft swyddogion a staff sy’n gweithio mewn dalfeydd, fel eu bod yn awr yn cael tridiau y flwyddyn ar gyfer hyfforddiant. Dywedwyd wrthym fod dau o’r dyddiau hyn yn cael eu treulio ar hyfforddi swyddogion mewn diogelwch a chymorth cyntaf, sy’n orfodol. Mae’r diwrnod arall fel arfer yn ymdrin â newidiadau mewn deddfwriaeth.

Mae hy yn wahanol i’r hyfforddiant rheolaidd a ddarperir gan y llu ar gyfer gwasanaethau plismona lleol, na fydd swyddogion a staff dalfeydd yn fynychu. Adeg ein harchwiliad, yr oedd y diwrnod hyfforddi arferol yn cynnwys gwybodaeth am y cysylltiadau rhwng plant yn mynd ar goll a chamfanteisio arnynt. Mae hyn yn golygu y gall y sawl sy’n gweithio yn y dalfeydd fod â llai o wybodaeth am faterion bregusrwydd.

Yn aml, mae’r llu yn dal i beidio â chyfeirio plant a gedwir yn y ddalfa ac sydd ag anghenion cymhleth at y gwasanaethau gofal cymdeithasol plant

Fel yr amlygwyd gennym yn 2019, mae gan lawer o blant a ddygir i mewn i ddalfa’r heddlu gan y swyddogion anghenion cymhleth. Maent yn aml yn fregus ac angen cefnogaeth i’w cadw’n ddiogel. Mewn llawer achos, mae angen eu cyfeirio at y gwasanaethau gofal cymdeithasol plant. Yn ystod yr archwiliad hwnnw, newidiodd y llu eu polisi i’w gwneud yn orfodol cyflwyno ffurflen gyfeirio pan fydd swyddogion yn arestio plentyn. Ond nid oedd unrhyw lywodraethiant na gwiriadau yn mynd gyda hyn, i wneud yn siwr fod swyddogion yn cyflwyno’r ffurflenni.

Ni arweiniodd yr un o’r achosion a archwiliwyd gennym yn yr ail ymweliad hwn at gyflwyno ffurflen gyfeirio.

Anghyson o hyd yw’r modd o gydnabod fod plant a gedwir yn y ddalfa yn fwy bregus

Yn 2019, gwnaethom nodi nad oedd gweithwyr iechyd proffesiynol yn asesu pob plentyn yn y ddalfa. Yn ystod ein cyfweliad diweddar, gwelsom enghreifftiau o blentyn yn amlwg angen asesiad, ond nad oedd y swyddogion na’r staff wedi gofyn am un. Golygodd hyn nad oedd y swyddogion, efallai, yn ymwybodol o anaf neu risg gynyddol arall i’r plentyn.

Yr oeddem yn dal i weld oedi mewn cael oedolion priodol i gefnogi plant yn y ddalfa

Cawsom nad yw plant a gedwir yn y ddalfa yng ngogledd Cymru yn derbyn cefnogaeth gynnar yn gyson gan oedolyn priodol. Mewn rhai o’r achosion a archwiliwyd gennym, bu oedi hir cyn i’r oedolyn priodol gyrraedd. Yr oeddent fel arfer yn cyrraedd mewn pryd i’r plentyn gael ei gyfweld, ond yn aml, nid oeddent yno yn ddigon cynnar i gynnig cefnogaeth gynnar i’w anghenion lles yn gyffredinol, a’i hawliau. Gall hyn olygu cryn oedi cyn i’r plentyn weld unrhyw un ar wahân i’r heddlu.

Yn aml, nid yw swyddogion dalfeydd yn cofnodi pryd y maent yn cysylltu ag oedolyn priodol nac yn esbonio unrhyw oedi. Mae hyn yn golygu nad yw’r llu yn deall yn iawn y rhesymau dros oedi.

Astudiaeth achos

Arestiodd swyddogion fachgen 15 oed am ddifrod troseddol a thorri mechniaeth y llys wedi iddo dorri ei dag electronig ymaith. Roedd yn hysbys ei fod yn fregus ac eisoes ar y gofrestr amddiffyn plant. Cafodd ei arestio yn hwyr yn y nos er iddo gyflawni’r drosedd bythefnos ynghynt.

Datgelodd asesiad risg cychwynnol ei fod wedi ei anafu a bod ganddo ADHD, ond nid oes cofnod fod gweithiwr iechyd proffesiynol wedi ei weld. Ni welodd ei oedolyn priodol nes i 11 awr fynd heibio ers ei gadw yn y ddlafa. Cofnododd swyddog y ddalfa ei fod wedi gwneud ymholiadau i ganfod llety diogel, er nad oedd yn briodol yn yr achos hwn.

Cyhuddodd y swyddogion y bachgen tua hanner dydd, ond ni chafodd ei gymryd i’r llys tan y diwrnod wedyn. Fe’i cadwyd yn y ddalfa am gyfanswm o 31 awr. Ni anfonodd y swyddogion gyfeiriad at y gwasanaethau gofal cymdeithasol plant.

Camau nesaf

Gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru gynnydd da mewn ymateb i’n hargymhellion yn 2019. Ond y mae’r llu yn cydnabod fod angen iddynt wella o hyd mewn rhai meysydd er mwyn rhoi deilliannau cyson gwell i blant.

Ond yr ydym yn hyderus fod y llu yn deall lle mae angen iddynt wella. Yr ydym yn fodlon hefyd fod gan uwch-arweinwyr gynlluniau i wneud y gwelliannau hynny ac i fonitro cynnydd.

Fel rhan o fonitro pob heddlu fel mater o drefn, byddwn yn parhau i werthuso perfformiad y llu yng nghyswllt yr argymhellion hyn, a chraffu’n fanylach os bydd angen.

Cyfeirnodau

[1] Am fwy o wybodaeth am ein harchwiliadau amddiffyn plant, ewch at ein gwefan.

[2] Mae rheidrwydd statudol ar y CHTh i gyhoeddi cynllun heddlu a throsedd yn y flwyddyn ariannol pryd y caiff ei h/ethol. Mae’r cynllun hwn yn gosod allan flaenoriaethau plismona gogledd Cymru dros dymor y CHTh yn ei swydd.

Nôl i’r cyhoeddiad

Adolygiad ôl-archwiliad archwiliad cenedlaethol amddiffyn plant