#022/2010 – Rhaid i Asiantaethau yn Sir Benfro wella er mwyn diogelu ac amddiffyn plant
Nid yw Asiantaethau yn Sir Benfro wedi gweithio’n effeithiol bob amser i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin gan weithwyr proffesiynol, ac mae’n rhaid gwneud gwelliannau. Dyna a gafodd ei gyhoeddi heddiw mewn adroddiad ar y cyd gan arolygiaethau.
Mae’r adroddiad, Cydadolygiad arolygiaethau o drefniadau ac ymarfer rhyngasiantaethol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn Sir Benfro yn tynnu sylw at ddiffyg arweinyddiaeth strategol, a gyfrannodd at greu diwylliant lle’r oedd yn anodd i unrhyw un o’r asiantaethau unigol gyflawni eu cyfrifoldeb i ddiogelu ac amddiffyn plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin gan weithwyr proffesiynol.
Roedd pump o arolygiaethau’n gyfrifol am gynnal y cydadolygiad – Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP).
Yn sgil cyhoeddi cydymchwiliad gan AGGCC ac Estyn ym mis Awst, a oedd yn codi cwestiynau ynghylch ansawdd cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg, galwodd Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, am gydadolygiad o gyfraniad pob asiantaeth statudol yn Sir Benfro i amddiffyn plant. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar honiadau o gam-drin neu bryderon ynghylch pobl sy’n gweithio gyda phlant, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel cam-drin proffesiynol.
Yn ôl y cydadolygiad a gyhoeddwyd heddiw, mae angen i bob asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc wella’u trefniadau rheoli mewn ymateb i bob honiad o gam-drin proffesiynol.
Mae’r arolygwyr yn ystyried bod gan y Bwrdd Lleol Diogelu Plant (LSCB), o weithio’n well ac yn fwy effeithiol, rôl allweddol i’w chwarae o ran cynnig arweiniad, gweledigaeth, cynlluniau a goruchwyliaeth er mwyn cyflawni hyn.
Wrth siarad ar ran y pum arolygiaeth, dywedodd Imelda Richardson, Prif Arolygydd AGGCC: “Mae’r arolygiad wedi canfod at ei gilydd nad oedd yr ymateb amlasiantaethol i honiadau o gam-drin proffesiynol yn canolbwyntio digon ar y plentyn, ac rydym wedi nodi nifer o welliannau allweddol sydd angen eu gwneud. Mae hyn yn cadarnhau canfyddiadau’r adroddiad cyd-ymchwilio cynharach gan AGGCC ac Estyn mewn perthynas ag ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn staff yn y gwasanaethau addysg. Fe nododd yr Arolygwyr rai ffactorau cadarnhaol hefyd – ac yn fwyaf nodedig, y parodrwydd i gydweithio ymysg rhai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol profiadol ac ymroddedig. Mae arnyn nhw angen cefnogaeth ac ymroddiad arweinwyr eu sefydliadau a Bwrdd Lleol Diogelu Plant Sir Benfro er mwyn gwella trefniadau diogelu plant yn Sir Benfro”.
Mae copi o’r adroddiad ar wefan AGGCC.
DIWEDD
Ni fydd unrhyw ddatganiadau pellach na chyfweliadau.
Ymholiadau cyffredinol – Tracy Goode Rheolwr Cyfathrebu, AGGCC tracy.goode@wales.gsi.gov.uk
0300 0628800 / 0300 0628842
Nodiadau i olygyddion
Cam-drin Proffesiynol – Honiadau o gam-drin neu achos pryder ynghylch person sy’n gweithio gyda phlant.
Ar 11 Awst, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru adroddiad ar y cyd, yn dwyn y teitl, Cydymchwiliad i’r modd y rheolwyd ac yr ymdriniwyd â honiadau o gam-drin proffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn y gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Penfro.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno manylion yr ymchwiliad i’r ffordd y rheolir ac yr ymdrinnir â honiadau o gam-drin proffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Penfro.
http://wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw/publications/ourfindings/pembrokeshire/pemb/?lang=cy
Manylion am yr Arolygiaethau
AGGCC
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn annog gwelliannau ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol trwy reoleiddio, arolygu ac adolygu a rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion a llunwyr polisi. Rydym yn cyflawni ein swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ac er ein bod yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol a Chymunedau o fewn Llywodraeth Cymru, mae nifer o fesurau diogelu ar waith i sicrhau ein hannibyniaeth weithredol. Nod ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd yw sicrhau bod profiadau defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd ein gwaith. Ein dyletswydd yw rhoi sicrwydd i ddinasyddion Cymru o ran ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy ein harolygiadau. Y sawl sy’n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau o fewn gofynion y ddeddfwriaeth a pholisïau’r llywodraeth sy’n gyfrifol am wella’r gwasanaethau hynny. Mae arolygiadau AGGCC yn rhoi atebolrwydd i’r cyhoedd a dysgu i randdeiliaid drwy enghreifftiau a gwella gwasanaethau yn barhaus. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw/?lang=en
Estyn
Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw sicrhau rhagoriaeth i bawb ym maes dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chynghori annibynnol o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod drwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998). Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk
AGIC
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am arolygu a rheoleiddio pob gofal iechyd yng Nghymru. Prif ffocws AGIC yw:
- Gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
- Gwella profiad dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru boed hynny fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, perthynas neu gyflogai.
- Atgyfnerthu llais cleifion a’r cyhoedd o ran y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
- Sicrhau bod gwybodaeth amserol, ddefnyddiol, hygyrch a pherthnasol am ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.hiw.org.uk/
Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi
Arolygiaeth annibynnol yw Arolygiaeth Prawf EM, fe’i noddir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn ag effeithiolrwydd gwaith gyda throseddwyr unigol, plant a phobl ifanc gyda’r nod o leihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd.
Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi
Arolygiaeth annibynnol yw Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC). Mae’n arolygu plismona er budd y cyhoedd, ac yn archwilio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ac awdurdodau heddlu wrth fynd i’r afael â throseddu a therfysgaeth, gwella cyfiawnder troseddol a chodi hyder. Mae HMIC yn arolygu a rheoleiddio’r 43 o heddluoedd Cymru a Lloegr ynghyd â chyrff plismona eraill.
Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan www.hmic.gov.uk