#003/2012 Gwelliannau sydd eu hangen i systemau a phrosesau adroddiadau troseddau a digwyddiadau’r heddlu
Mae adolygiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM (HMIC) ar systemau a phrosesau cofnodi trosedd wedi canfod amrywiaeth sylweddol o ran cywirdeb o hyd, er bod y mwyafrif o luoedd yn gwneud yn dda, ac y gwnaed gwelliannau.
Yn yr adolygiad cyntaf o’i fath, ‘Safle’r trosedd: Adolygiad o adroddiadau troseddau a digwyddiadau’r heddlu’, edrychwyd ar ansawdd data troseddau a digwyddiadau, a’r trefniadau sy’n bodoli er mwyn sicrhau y cynhelir ac y gwellir safonau ar draws y 43 o luoedd heddlu yn Lloegr a Chymru yn ogystal ag yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP). Dyma gyfnod cyntaf rhaglen newydd o waith gan HMIC a gynllunir i sicrhau’r cyhoedd eu bod yn derbyn gwybodaeth gywir ar droseddu gan yr heddlu.
Edrychodd HMIC yn ddwfn ar ddwy broblem: digwyddiadau a hysbyswyd gan y cyhoedd a newidiwyd yn droseddau a’r defnydd o’r categori ‘dim trosedd’ gan yr heddlu.
Mae’n bwysig i luoedd yr heddlu fod â data o ansawdd uchel er mwyn sicrhau y gallant sefydlu ble, pryd a pha mor aml mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) yn digwydd er mwyn iddynt gynllunio’u gwaith i gyflawni’r canlyniadau gorau i ddioddefwyr a chymunedau. Hefyd mae’n golygu y gall y cyhoedd, y Llywodraeth ac HMIC gael darlun cywir ynghylch troseddu ac ASB mewn ardal neilltuol.
Meddai Arolygydd Cynorthwyol Cwnstabliaeth EM, Vic Towell:
“Mae’r adolygiad hwn yn rhoi rhyw fewnwelediad i’r cyhoedd, ac yn ei dro Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd, ynghylch yr hwn sy’n digwydd pan ydynt yn adrodd am droseddau a digwyddiadau i’r heddlu. Mae’r canfyddiadau’n arwyddol gan ddarparu sicrwydd bod y ffigyrau troseddu a gyhoeddir gan eu heddluoedd yn cael eu gwirio. Er bod y mwyafrif yn gwneud yn dda, mae’r bwlch rhwng y gorau a’r gwaethaf yn aros yn rhy lydan ac mae angen iddo wella.”
Edrychodd adolygiad HMIC ar ddata digwyddiadau a throseddau gan bob un o’r 43 o luoedd ar draws Lloegr a Chymru. Er bod y samplau’n gymharol o fach, mae’r canlyniadau’n arwyddol, yn golygu eu bod yn ddigon i ddatgelu darlun ac ysgogi gweithredu. Canfyddodd HMIC bod tri chwarter o luoedd wedi gwneud penderfyniadau cywir o leiaf 90% o’r amser yn nhermau gwneud penderfyniadau cywir wrth gofnodi troseddau o ddigwyddiadau:
- gwnaeth 18 o luoedd benderfyniadau cywir mewn 95% ac yn uwch o ddigwyddiadau a wiriwyd;
- 15 o luoedd mewn 90-94% o ddigwyddiadau ac
- 11 o luoedd mewn 86-89% o ddigwyddiadau.
O bryd i’w gilydd mae’n dod yn amlwg, er enghraifft yn ystod ymchwilio i drosedd, na chyflawnwyd dim trosedd. Dan yr amgylchiadau hyn mae’r heddlu’n diwygio’r cofnod i ddangos na ddigwyddodd ‘dim trosedd’. Mae goruchwylio a chyfiawnhau’r fath benderfyniadau ‘dim trosedd’ wedi bod yn amodol ar welliant sylweddol cyffredinol ers yr archwiliwyd i’r maes hwn ddiwethaf yn 2009 (Mae trosedd yn cyfrif Ar gael gan www.hmic.gov.uk). 1 Er enghraifft, canfyddodd HMIC fod 84% o benderfyniadau ‘dim trosedd’ yn gywir yn 2011, o gymharu â 64% yn 2009, er bod rhywfaint o amrywioldeb yn aros. Ar draws yr holl gategorïau a archwiliwyd, cofnododd y lluoedd isaf 75% o benderfyniadau ‘dim trosedd’ cywir; yn y llu uchaf, cofnodwyd 100% o benderfyniadau’n briodol.
Roedd HMIC yn siomedig i ganfod nad yw rhai lluoedd yn mynd i’r afael â’r broblem o ddioddefwyr ailadrodd a hyglwyf o hyd mewn cysylltiad ag ASB Fodd bynnag, gan fod maint y sampl yn fach, mae HMIC yn bwriadu mynd i’r afael â’r broblem hon â mwy o ddyfnder fel elfen allweddol o’r ailymweliad mewn cysylltiad ag ASB, a’r ffordd mae’r gwasanaeth yn mynd i’r afael â hi, a bydd yn adrodd ar hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Er nad oes ffactor sengl sy’n cyfrannu at y ffaith bod lluoedd yn gwneud penderfyniadau da ynghylch cofnodi troseddau a digwyddiadau’n gyson, ystyrir bod nifer o agweddau’n fwyaf dylanwadol, a’r rhain yw:
- arweinyddiaeth, â llywodraethu da;
- goruchwyliaeth a;
- phobl fedrus.
Canfyddodd HMIC dystiolaeth gyfyngedig fod lluoedd yn asesu’n uniongyrchol a oedd eu harchwiliadau mewnol eu hunain ynghylch ansawdd cofnodi troseddu’n darparu hyder bod eu ffigyrau’n rhoi cyfrif cywir o’u perfformiad.
Wrth symud ymlaen, mae HMIC yn bwriadu edrych ymhellach ar y lluoedd hynny sy’n anghysbell neu’n anghyson ynglŷn â’r materion hyn.
Nodiadau i olygyddion
- Gellir dod o hyd i gopi o’r adroddiad Safle’r trosedd – Adolygiad ar adroddiadau troseddau a digwyddiadau’r heddlu ar wefan HMIC www.hmic.gov.uk
- Gellir gweld adroddiadau unigol heddluoedd ar gyfer y 43 o luoedd yn Lloegr a Chymru arwww.hmic.gov.uk
- Ceir casgliadau’r adolygiad hwn o dystiolaeth a gasglwyd drwy archwilio dogfennau allweddol; nifer gymharol fach o gofnodion digwyddiadau ac adroddiadau troseddau; cyfweliadau gyda staff, ac ymweliadau â gorsafoedd yr heddlu ac ystafelloedd rheoli’r heddlu. Roedd y data a gasglwyd yn ansoddol ei natur ar y cyfan. Dylid ystyried unrhyw ganlyniadau mesurol fel rhai arwyddol yn unig.
- Mae gan y broses gofnodi dri cham allweddol:
i. Cofnodi digwyddiad: Mae aelod o’r cyhoedd yn galw am gymorth yr heddlu, neu mae heddwas yn gweld neu’n darganfod trosedd. Mae’r heddlu’n creu cofnod digwyddiad
ii. Cofnodi trosedd: Os yw’r heddlu’n penderfynu bod trosedd wedi’i gyflawni, maent yn creu cofnod trosedd (fel arfer yn syth bin).
iii. Ymchwilio i drosedd: Mae ymchwiliadau’n cychwyn cyn gynted â phosibl, fel arfer ag ymchwiliad sylfaenol sy’n chwilio am glemiau posibl ac yn casglu tystiolaeth berthnasol. Yna mae ymchwiliad manylach yn cymryd lle er mwyn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn yr ymchwiliad sylfaenol.
- Mae’r Swyddfa Gartref yn gosod safonau ar gyfer cofnodi troseddau a digwyddiadau ill dau. Ategir y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cofnodi Troseddau gan Reolau Cyfrif y Swyddfa Gartref. Mae’r rhain yn anelu at ddarparu safonau cyson ac ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr ynghylch cofnodi troseddau ym mhob llu.
- Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM (HMIC) yn arolygiaeth annibynnol, yn arolygu plismona er lles y cyhoedd, ac yn archwilio’n llym i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ac awdurdodau’r heddlu er mwyn delio â throseddu a therfysgaeth, wella cyfiawnder troseddol a chodi hyder. Mae HMIC yn arolygu pob un o’r 43 o luoedd heddlu yn Lloegr a Chymru ac yn eu rheoleiddio ynghyd â chyrff plismona mawr eraill fel yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
- Am ragor o wybodaeth, gellir cysylltu â swyddfa wasg HMIC yn ystod oriau’r swyddfa o 8:30yb – 5:30yh Llun – Gwener ar 0203 513 0600.
- Llinell allan-o-oriau swyddfa wasg HMIC ar gyfer ymholiadau brys gan y cyfryngau yw 07836 217 729.