Adroddiad ar effeithiolrwydd trefniadau fetio a gwrthlygredd yn Heddlu Gwent
Contents
Print this document
Amdanom ni
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn asesu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub yn annibynnol, er budd y cyhoedd. Wrth baratoi ein hadroddiadau, rydym yn gofyn y cwestiynau y byddai’r cyhoedd yn eu gofyn, ac yn cyhoeddi’r atebion ar ffurf hygyrch. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd i ddehongli’r dystiolaeth a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
1. Cyflwyniad
Fetio, monitro TG a gwrthlygredd: digonol
Ym mis Medi 2021, gwnaethom newid y ffordd rydym yn adrodd ar ba mor effeithiol y mae heddluoedd yn rheoli fetio a gwrthlygredd.
Yn flaenorol, fe wnaethom arolygu’r meysydd hyn fel rhan o’n rhaglen effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu (PEEL) a darparu ein canfyddiadau yn yr adroddiad arolygu.
Mae’r trefniadau newydd yn golygu y byddwn yn arolygu pob heddlu ar wahân i PEEL, er y byddwn yn parhau i ddefnyddio’r un dulliau ac yn cynhyrchu adroddiad yn cynnwys ein canfyddiadau, dyfarniadau graddedig ac unrhyw feysydd i’w gwella neu achosion o bryder. Bydd yr adroddiad ar gael drwy ddolen we o adroddiad PEEL diweddaraf y llu.
Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaethom arolygu Heddlu Gwent i archwilio effeithiolrwydd trefniadau fetio’r heddlu, monitro TG a threfniadau gwrthlygredd. Gwnaethom friffio uwch bersonél yn yr heddlu ar ddiwedd yr arolygiad. Dylid nodi na wnaethom gasglu tystiolaeth yn ystod ein harolygiad mewn perthynas â diwylliant ehangach y gweithlu. Ni wnaethom asesu arweinyddiaeth y tîm gweithredol a’r uwch reolwyr wrth osod disgwyliadau a safonau ar draws y sefydliad.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein canfyddiadau. Mae’n cynnwys maes i’w wella a nodwyd adeg yr arolygiad, yr ydym yn cydnabod y gallai’r llu fod wedi mynd i’r afael ag ef eisoes.
2. Pa mor effeithiol y mae’r heddlu yn fetio ei swyddogion a’i staff?
Fetio ymarfer proffesiynol awdurdodedig
Yn 2021, cyhoeddodd y Coleg Plismona yr ymarfer proffesiynol awdurdodedig (APP) fetio. Mae’r APP yn egluro rôl fetio wrth asesu addasrwydd pobl i wasanaethu yng ngwasanaeth yr heddlu, fel swyddog heddlu, cwnstabl gwirfoddol neu aelod o staff. Mae’n nodi’r safonau gofynnol y dylid eu cymhwyso ar gyfer pob lefel clirio. Mae hefyd yn rhestru’r isafswm o wiriadau fetio y dylid eu cynnal ar yr ymgeisydd, ei deulu a chymdeithion. Mae gan yr APP adran fawr sy’n rhoi arweiniad ar asesu bygythiad a risg mewn perthynas â phenderfyniadau fetio.
Mae’r APP fetio yn berthnasol i’r heddluoedd a gynhelir ar gyfer ardaloedd heddlu Cymru a Lloegr fel y’u diffinnir yn adran 1 Deddf yr Heddlu 1996.
System fetio TG yr heddlu
Mae uned fetio’r heddlu (FVU) yn defnyddio system TG a gyflwynwyd yn 2010. Mae system TG wedi’i diweddaru i’w rhoi ar waith yn gynnar yn 2023. Mae’r adran AD yn rhoi gwybod i’r FVU am symudiadau cyflogai fel mater o drefn. Mae AD yn defnyddio system TG ar wahân. Mae hyn yn olrhain cynnydd recriwtio a phrosesau dyrchafiad a cheisiadau fetio newydd. Mae’r FVU yn defnyddio’r system hon er mwyn sicrhau bod gan bob swyddog ac aelod o staff y lefel gywir o fetio ar gyfer eu rôl.
Mae’r FVU yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o’i system TG i olrhain adnewyddiadau ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu bod gan y llu amser i anfon dogfennau cais cyn bod angen adnewyddu.
Fetio’r gweithlu cyfredol
Dywedodd Heddlu Gwent wrthym, ym mis Hydref 2022, fod ganddo gyfanswm o 2,626 o swyddogion heddlu, cwnstabliaid gwirfoddol, staff heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.
Dywedodd y llu wrthym fod 21 o bobl heb y lefel gywir o fetio ar gyfer eu rôl. Roedd gan y llu ymwybyddiaeth dda o’r achosion hyn. O’r rhain, roedd chwech wedi dod i ben (tri swyddog heddlu, dau aelod o staff yr heddlu ac un swyddog cymorth cymunedol yr heddlu). Roedd pob un ohonynt yn absennol o’r gwaith o ganlyniad i salwch a chyfnod mamolaeth. Mae gan y llu broses i sicrhau bod eu fetio yn cael ei flaenoriaethu pan fyddant yn dychwelyd i’r gweithle.
Galw a llwyth gwaith
Mae’r FVU yn defnyddio system TG AD i’w helpu i i reoli ei lwyth gwaith. Mae’r system TG yn dyrannu ceisiadau fetio newydd i swyddogion fetio. Mae’r FVU yn rheoli adnewyddiadau ar y system fetio TG. Ar adeg ein hadolygiad, roedd gan y llu 45 o geisiadau fetio i’w trafod.
Mae’r FVU ac AD yn cydweithio’n effeithiol i ragweld y galw. Mae rheolwr fetio’r heddlu (FVM) yn cadw cofnodion ar nifer y swyddogion newydd drwy Raglen Ymgodiad yr Heddlu flwyddyn ymlaen llaw. Gall yr FVU ystyried y wybodaeth hon gyda data adnewyddu fetio yn y dyfodol i gynllunio ymlaen.
Mae’r llu wedi cynyddu lefelau staffio yn yr FVU i ymdopi â galw ychwanegol o Raglen Ymgodiad yr Heddlu. Fodd bynnag, ar adeg ein harolygiad, nid oedd goruchwyliwr yn rheoli gweithrediad yr uned o ddydd i ddydd. Roedd y llu yn disgwyl i’r swydd hon gael ei llenwi yn gynnar yn 2023.
Mae Heddlu Gwent yn caniatáu cliriad fetio personél nad yw’n heddlu (NPPV) i gontractwyr, gwirfoddolwyr a phobl sy’n gweithio mewn sefydliadau sy’n rhannu eiddo’r heddlu. Maent yn defnyddio gwasanaeth fetio contractwyr cenedlaethol a gynhelir gan Heddlu Swydd Warwig i fetio rhai personél nad ydynt yn heddlu. Mae’r FVU hefyd yn gweithio gyda dau lu cyfagos i gynnal gwiriadau NPPV ar gyfer contractwyr.
Ar adeg ein harolygiad, dangosodd y data ar system fetio’r heddlu fod 91 o bersonél nad oeddent yn heddlu, ac ni chafodd 3 ohonynt eu fetio. Yn ogystal, roedd 24 o wirfoddolwyr a oedd yn rhan o’r rhaglen gwylio cyflymdra cymunedol yn y broses o gael eu cliriad fetio wedi’i ganslo.
Mae gan y llu broses dda i gadw cofnodion NPPV cywir. Mae aelodau o staff enwebedig ar draws y llu yn gyfrifol am hysbysu’r FVU o unrhyw newidiadau mewn personél nad ydynt yn heddlu. Mae’r FVM yn cadw taenlen i reoli’r wybodaeth hon. Pan hysbysir yr FVU nad yw unigolyn wedi’i gontractio mwyach, caiff ei gliriad ei ganslo a chaiff ei fynediad i adeiladau a TG ei ddileu.
Swyddi dynodedig
Mae gan rai rolau heddlu fynediad at wybodaeth fwy sensitif ac maent angen lefel uwch o fetio a elwir yn fetio rheolwyr (MV). Mae’r graddau y mae’r rôl yn gofyn am weithio gyda phobl agored i niwed hefyd yn ffactor i luoedd ei ystyried wrth benderfynu a yw rôl yn gofyn am MV. Mae’r APP fetio yn nodi y dylai lluoedd gadw cofnod o’r holl rolau MV ar restr fetio swyddi dynodedig.
Dywedodd y llu wrthym ei fod wedi dynodi 254 o swyddi ac yn cadw rhestr o’r rhain. Mae 659 o unigolion yn y swyddi hyn. Pan fydd AD yn creu rôl newydd, mae’r FVM yn penderfynu a oes angen MV. Adolygwyd y rhestr swyddi dynodedig ddiwethaf ar ddechrau 2022.
Mae cyfarfod rheoli adnoddau’r gweithlu yn monitro holl symudiadau swyddogion a staff. Yn gyffredinol, nid yw’r llu yn caniatáu i unigolyn dderbyn swydd ddynodedig cyn i ganiatâd MV gael ei roi. Mae’r FVU yn blaenoriaethu ceisiadau MV i sicrhau y gellir llenwi swyddi yn ddi-oed. Ar adeg ein hymweliad, roedd 15 o bobl mewn swyddi MV nad oeddent wedi cael eu fetio i’r lefel uwch. Roedd y ceisiadau hyn yn cael eu symud ymlaen gan staff FVU.
Fe wnaethom adolygu detholiad o achosion MV. Ym mhob achos, roedd yr FVU wedi cwblhau’r holl wiriadau gofynnol.
Trosglwyddeion
Mae APP fetio yn caniatáu i luoedd dderbyn cliriad fetio gan lu arall os nad yw’n fwy na blwydd oed. Ond mae llawer o luoedd yn dewis fetio swyddogion a staff sy’n newydd i’w sefydliad, hyd yn oed os ydynt yn trosglwyddo o lu arall gyda chliriad fetio cyfredol.
Mae Heddlu Gwent wedi dewis fetio pob trosglwyddai a’r rhai sydd wedi gadael y gwasanaeth ac wedi gwneud cais i ailymuno. Mae’r FVU yn gofyn am hanes cwynion ac ymddygiad adran safonau proffesiynol (PSD), yn ogystal ag unrhyw gudd‑wybodaeth uned gwrthlygredd (CCU), gan yr holl luoedd y mae’r unigolyn wedi gwasanaethu ynddynt o’r blaen.
Newid amgylchiadau
Mae’r llu wedi cymryd camau i wella ymwybyddiaeth y gweithlu bod yn rhaid iddynt roi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau personol, er enghraifft statws priodasol, newid enw neu newidiadau sylweddol i gyllid personol. Mae hyn yn cynnwys diweddariad yn newyddlen y PSD.
Mae’r FVU yn cwblhau gwiriadau fetio pryd bynnag y bydd swyddog neu aelod o staff yn symud rôl. O bryd i’w gilydd mae hyn yn nodi newidiadau mewn amgylchiadau personol. Yn yr achosion hyn, mae’r FVU yn cynnal ymholiadau fetio i nodi risgiau ac i benderfynu a effeithir ar statws fetio’r person.
Nid yw’r FVU yn derbyn llawer o hysbysiadau am newidiadau mewn amgylchiadau. Mae uwch reolwyr yn y llu yn cydnabod bod angen mwy o waith i wella ymwybyddiaeth staff i adrodd am newidiadau. Rydym yn annog y llu i gymryd camau mwy cynhwysfawr i gyflawni hyn.
Mae’r PSD yn hysbysu’r FVU o bob canlyniad cyfarfod neu wrandawiad camymddwyn. Mae’r FVU yn cydymffurfio â gofyniad yr APP i adolygu statws fetio person os bydd achos camymddwyn yn arwain ar ostyngiad mewn rheng, rhybudd ysgrifenedig neu rybudd ysgrifenedig terfynol.
Penderfyniadau fetio
Mae swyddogion fetio yn yr FVU yn cynnal yr holl wiriadau fetio perthnasol. Maent yn cyflwyno’r canlyniadau i’r FVM am benderfyniad, hyd yn oed mewn achosion syml lle nad oes unrhyw wybodaeth sy’n peri pryder. Mae hyn yn creu llwyth gwaith cynyddol ar gyfer yr FVM. Rydym yn annog y llu i gyflwyno dull haenog o wneud penderfyniadau. Bydd cyflwyno swydd goruchwyliwr yn yr FVU yn cynorthwyo gyda hyn.
Mae’r FVU yn cynnal cyfweliadau yn rheolaidd i egluro ymatebion ysgrifenedig mewn ceisiadau fetio.
Mesurau lliniaru risg
Mae’r llu yn defnyddio mesurau lliniaru risg yn rheolaidd i gefnogi ei benderfyniadau fetio. Mae hyn yn cynnwys monitro gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol ymgeiswyr ac adolygiadau rheolaidd o reolaeth ymgeiswyr o’u cyllid.
Mae’r FVU yn cyfeirio rhai achosion i’r CCU i fonitro defnydd ymgeiswyr o system TG y llu er mwyn helpu lliniaru risgiau posibl.
Mae’r llu yn cynhyrchu asesiad strategol bygythiad (STA) gwrthlygredd yn flynyddol. Mae hwn yn amlinellu’r bygythiadau sy’n wynebu’r llu ar hyn o bryd. Dywedodd staff FVU wrthym eu bod yn ymwybodol o’r bygythiadau sy’n wynebu’r llu oherwydd eu perthynas waith agos gyda’r CCU. Fodd bynnag, nid yw’r CCU wedi rhannu’r STA gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fetio yn unol â’r APP.
Apeliadau a sicrwydd ansawdd
Mae’r dirprwy brif gwnstabl (DCC) yn delio ag apeliadau fetio. Mae’r FVM yn cyflwyno achos yr apêl i banel a gynullwyd i gynghori’r DCC. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o:
- y tîm allgymorth cadarnhaol;
- AD;
- aelodau grŵp cynghori annibynnol;
- swyddfa comisiynydd yr heddlu a throseddu; a
- chymdeithasau staff.
Un o egwyddorion y Cod Ymarfer Fetio yw: “Dylai’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch cliriad fetio fod ar wahân i brosesau recriwtio a phrosesau adnoddau dynol eraill ac yn annibynnol arnynt.” Felly rydym yn cwestiynu rôl cynrychiolwyr AD a thimau allgymorth cadarnhaol ym mhroses apelio Heddlu Gwent.
Ymhellach, canfuom mai’r DCC sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ond ei fod yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am gofnodi ei resymeg i’r FVM. Mae’r dull hwn yn gwbl anfoddhaol. Nid yw’n cyd-fynd â phroses apelio dryloyw ac annibynnol, yn enwedig gan fod yr FVM yn gwneud y penderfyniad terfynol i wrthod fetio. Rydym yn annog y llu yn gryf i adolygu’r broses apelio.
Heblaw am apeliadau, nid oes proses ar hyn o bryd i sicrhau ansawdd penderfyniadau fetio. Rydym yn annog y llu i gyflwyno proses sicrhau ansawdd pan gyflwynir y strwythur FVU newydd.
Anghymesuredd
Mae’r APP yn nodi bod risg bod fetio yn cael effaith anghymesur ar grwpiau heb gynrychiolaeth. Ymhellach, mae’n ei gwneud yn ofynnol i luoedd fonitro ceisiadau fetio, ar bob lefel, yn erbyn nodweddion gwarchodedig er mwyn deall a oes unrhyw effaith anghymesur ar grwpiau penodol. Lle nodir anghymesuredd rhaid i luoedd gymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â hyn.
Mae’r llu yn dadansoddi canlyniadau pob cais fetio gan bobl sy’n datgan nodwedd warchodedig. Mae’n cynnal dadansoddiadau yn erbyn gwahanol grefyddau, oedran, rhywedd, ailbennu rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, a chefndiroedd ethnig. Mae’r FVU yn cyflwyno’r data hyn bob chwarter i dîm prif swyddog yr heddlu. Nid oes unrhyw faterion wedi eu nodi hyd yma.
Adolygiad o’r ffeil fetio
Adolygwyd 40 o benderfyniadau cliriad fetio o’r 3 blynedd flaenorol gydag arbenigwr fetio o lu arall. Roedd y ffeiliau hyn yn ymwneud â swyddogion heddlu a staff a oedd wedi cyflawni troseddau o’r blaen neu’r rhai yr oedd gan y llu bryderon eraill yn eu cylch. Roedden nhw’n cynnwys penderfyniadau fetio ynghylch trosglwyddeion a recriwtio.
Roeddem yn cytuno â’r rhan fwyaf o benderfyniadau’r llu. Ond mewn tri achos nid oedd y rhesymeg a gofnodwyd yn ystyried yr holl risgiau a nodwyd na lliniaru risg perthnasol. Er enghraifft, roedd yna achosion lle dylai’r llu fod wedi gofyn am adolygiadau parhaus o gyllid ymgeiswyr.
Yn gyffredinol, mae’r llu’n defnyddio’r APP fetio i lywio ei benderfyniadau. Ond byddai’r rhesymeg a gofnodwyd yn elwa o gyfeirio mwy penodol at yr APP a’r Model Penderfyniad Cenedlaethol. Byddai hyn yn helpu’r llu i roi cyfrif am yr holl risgiau a nodwyd ac unrhyw fesurau lliniaru posibl.
Meysydd i’w gwella
Dylai’r llu wella ei drefniadau fetio i sicrhau:
- pan fydd gwybodaeth anffafriol sy’n peri pryder wedi’i nodi yn ystod y broses fetio, caiff pob penderfyniad (gwrthodiadau, cliriadau ac apeliadau) eu hategu gan resymeg ysgrifenedig ddigon manwl, gan gynnwys cyfeiriad mwy penodol at arfer proffesiynol awdurdodedig fetio a’r Model Penderfyniad Cenedlaethol;
- wrth ganiatáu cliriad fetio i ymgeiswyr gyda gwybodaeth anffafriol sy’n peri pryder, mae’r uned fetio yn creu ac yn gweithredu strategaethau lliniaru risg effeithiol, gyda chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir a goruchwyliaeth gadarn; a
- mae’r broses apelio ar gyfer ceisiadau fetio a wrthodwyd yn gyson â’r Cod Ymarfer Fetio, yn enwedig mewn perthynas â chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau a chynnwys gweithwyr proffesiynol AD.
3. Pa mor effeithiol mae’r llu’n diogelu’r wybodaeth a’r data sydd ganddo?
Gallu monitro busnes cyfreithlon a TG
Gall Heddlu Gwent fonitro’r rhan fwyaf o’i systemau TG ar draws dyfeisiau symudol a bwrdd gwaith. Mae’n gwirio gweithgarwch ar ddyfeisiau symudol yn rhagweithiol. Mae hyn yn helpu i nodi camymddwyn posibl gan gynnwys cyswllt amhriodol â dioddefwyr agored i niwed neu grwpiau troseddu cyfundrefnol.
Mae’r CCU yn monitro unigolion yn rhagweithiol pan fo cudd-wybodaeth yn dangos eu bod yn peri risg o gamymddwyn rhywiol. Gwelsom dystiolaeth hefyd o fonitro TG o bobl a oedd yn destun gwybodaeth arall am lygredd cudd-wybodaeth. Fodd bynnag, efallai bydd y llu yn elwa o adnoddau ychwanegol wedi’u neilltuo ar gyfer monitro TG.
Mae cysylltiadau cryf rhwng yr adran TG a’r CCU. Mae pennaeth y CCU yn mynychu bwrdd darpariaethau gwasanaethau digidol bob mis, sy’n goruchwylio’r holl brosiectau TG sy’n ymwneud â dyfeisiau symudol. Mae’r CCU hefyd yn ymgynghori â chydweithwyr TG yn ystod unrhyw gaffael TG i asesu a thrafod swyddogaethau archwilio a mesurau eraill sydd wedi’u cynllunio i atal a chanfod camddefnydd.
Polisi monitro TG
Mae gan y llu bolisi monitro busnes cyfreithlon ar gyfer monitro a chofnodi cyfathrebiadau staff. Mae’r polisi yn caniatáu i’r CCU archwilio holl ddata ffonau symudol y llu. Yn ogystal, mae’n caniatáu ar gyfer monitro rhagweithiol o systemau TG i nodi a mynd i’r afael â llygredd.
Rheoli dyfeisiau digidol
Dywedodd y llu wrthym y gall TG briodoli 88 y cant o’r holl ddyfeisiau symudol y mae wedi’u rhoi i unigolion ar draws y gweithlu. Mae’r 12 y cant sy’n weddill yn ddyfeisiau hŷn heb unrhyw fodd o ddiweddaru’r feddalwedd. Mae’r llu wedi cynnal adolygiad diweddar a chanfod 126 o ffonau symudol yn cael eu defnyddio gan aelodau o’r gweithlu nad oedden nhw’n ymwybodol ohonynt. Mae 191 o ddyfeisiau symudol ychwanegol heb gyfrif amdanynt ar hyn o bryd.
Nid yw’r heddlu yn monitro rhai dyfeisiau a ddefnyddir gan un tîm arbenigol penodol. Yn ystod yr arolygiad fe wnaethom annog y llu yn gryf i fynd i’r afael â hyn ac fe’n calonogwyd bod y CCU wedi ymateb ar unwaith.
Dim ond pan fydd derbynwyr wedi cydnabod busnes monitro cyfreithlon yr heddlu yn ysgrifenedig y caiff dyfeisiau eu rhoi. Mae’r polisi hwn yn nodi y gall dyfeisiau gael eu defnyddio at ddibenion gwaith yn unig ac na ddylai fod gan ddefnyddwyr unrhyw ddisgwyliad o breifatrwydd os cânt eu defnyddio at ddefnydd personol.
Diogelwch gwybodaeth – apiau wedi’u hamgryptio
Mae gan y llu bolisi cyfryngau cymdeithasol cynhwysfawr a chanllawiau manwl. Mae’r dogfennau hyn wedi’u dosbarthu i’r gweithlu. Yn gyffredinol ni chaniateir apiau wedi’u hamgryptio ar ddyfeisiau heddlu, ond gall pennaeth y CCU awdurdodi eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol. Ar adeg ein harolygiad, nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath wedi’u gwneud.
Mae’r PSD a’r CCU yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i’r gweithlu ynghylch y risgiau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dangosodd y swyddogion a’r staff y siaradom â nhw ymwybyddiaeth o’r disgwyliadau ohonynt.
4. Pa mor dda mae’r llu yn mynd i’r afael â llygredd posibl?
Cudd-wybodaeth
Ffynonellau cudd-wybodaeth gysylltiedig â llygredd
Mae gan y llu linell adrodd gyfrinachol ddienw. Rhwng 1 Ionawr 2021 a Rhagfyr 2022, derbyniodd 94 o adroddiadau (64 yn 2021 a 54 yn 2022).
Fe wnaethom archwilio 60 o ffeiliau cudd-wybodaeth llygredd. Canfuom yn y rhan fwyaf o achosion bod cudd-wybodaeth llygredd wedi ei hadrodd yn uniongyrchol i’r CCU gan y gweithlu. Mewn 12 o’r achosion roedd yr adroddiad wedi’i wneud gan aelod o’r cyhoedd. Canfuom sawl achos a oedd yn ganlyniad i gudd-wybodaeth ragweithiol a cheisiadau am wybodaeth i PSDs eraill.
Categoreiddio llygredd yr heddlu
Mae’r heddlu yn categoreiddio cudd-wybodaeth yn gywir yn unol â’r APP gwrthlygredd.
Gweithio mewn partneriaeth i nodi llygredd posibl
Mae’r llu wedi datblygu perthynas ag asiantaethau a sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n agored i niwed. Mae’r CCU wedi darparu hyfforddiant ar gamddefnyddio swydd at ddiben rhywiol (AoPSP) i’r gwasanaethau cymdeithasol, cymdeithasau tai ac elusennau. Mae’n rhoi rhifau ffôn iddynt adrodd pryderon yn uniongyrchol i’r CCU neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Mae’r dull hwn wedi bod yn effeithiol ac wedi arwain at chwe adroddiad o amheuaeth o lygredd.
Ar adeg ein harolygiad, roedd y llu yn y broses o recriwtio arweinydd atal ac ymgysylltu pwrpasol newydd. Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd i’r llu annog asiantaethau partner i roi gwybod am AoPSP a amheuir.
Nodi bygythiadau llygredd
Asesiad bygythiad strategol gwrthlygredd
Mae gan Heddlu Gwent STA gwrthlygredd cynhwysfawr. Mae’n nodi’r prif risgiau, sy’n cynnwys camymddwyn rhywiol, datgelu gwybodaeth, bregusrwydd a chamddefnydd o systemau TG y llu.
Mae’r llu yn cyhoeddi fersiwn wedi’i olygu o’r STA ar ei fewnrwyd i gyfathrebu’r bygythiadau i’r gweithlu.
Strategaeth rheoli gwrthlygredd
Mae gan y llu strategaeth reoli gwrthlygredd yn seiliedig ar y dull 4P (ymlid, paratoi, gwarchod ac atal). Mae’n nodi’n glir y blaenoriaethau a nodir yn yr STA ac yn ei rannu gyda’r gweithlu.
Cynllun gweithredu
Mae pob un o’r bygythiadau llygredd a nodir yn yr STA a’r strategaeth reoli yn cael eu hystyried o fewn y cynllun gweithredu. Mae person dynodedig yn gyfrifol am bob tasg ac amserlenni clir ar gyfer cwblhau. Mae pennaeth y CCU yn olrhain cynnydd yn barhaus.
Rheoli bygythiadau llygredd
Datblygu cudd-wybodaeth
Adolygwyd 60 ffeil cudd-wybodaeth llygredd. Yn y rhan fwyaf o achosion, ymatebodd y CCU yn effeithiol ac maent yn defnyddio amrywiaeth dda o dechnegau i ddatblygu cudd-wybodaeth. Canfuom fod y llu wedi colli cyfleoedd i ddatblygu cudd-wybodaeth ymhellach a lliniaru risgiau llygredd mewn wyth o achosion. Roedd y rhain yn cynnwys honiadau o gamymddwyn rhywiol gan aelodau o’r gweithlu.
Mae’r CCU yn gwneud defnydd ardderchog o fonitro TG rhagweithiol. Canfuom bum achos o ddatblygiad cudd-wybodaeth rhagweithiol. Roedd y rhain yn cynnwys achosion o AoPSP.
Nodi’r rhai hynny sy’n peri risg o lygredd
Mae gan y llu broses sefydledig i gasglu cudd-wybodaeth ar ei weithlu, sydd wedi cynhyrchu 141 o adroddiadau cudd-wybodaeth dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.
Cefnogir y broses gan nifer o weithrediadau monitro rhagweithiol sy’n rheoli’r rhai sy’n peri’r risg fwyaf o lygredd. Mae’r CCU a PSD yn adolygu achosion yn fisol. Mae’r gwaith hwn yn llywio’r cyfarfod chwarterol, a gadeirir gan y dirprwy brif gwnstabl, lle rhennir cudd-wybodaeth ar aelodau’r gweithlu rhwng adrannau.
Mae’r llu yn defnyddio tri matrics risg i fonitro aelodau o’r gweithlu a all beri risg o lygredd:
- Amcan Ymgyrch Lotus yw ceisio adnabod a rheoli yr unigolion hynny sy’n peri risg o lygredd.
- Amcan Ymgyrch Erasure yw rheoli pobl y mae gan y llu gudd-wybodaeth am ymddygiad amhriodol o natur rywiol ar eu cyfer.
- Amcan Ymgyrch Porsche yw nodi cyswllt amhriodol gyda phobl sy’n agored i niwed.
Canfuom fod pob un o’r tri matrics yn gynhwysfawr iawn ac yn cael eu rheoli’n dda iawn. Cânt eu hadolygu gan y CCU yn unol â’r risg y mae unigolyn yn ei beri. Mae Ymgyrch Lotus yn arbennig o drawiadol ac mae wedi’i rhannu â CCUs eraill. Rydym yn llongyfarch y llu ar y dull hwn.
Gallu a medrusrwydd i ymchwilio i lygredd
Mae’r CCU yn dîm bach o dditectifs profiadol, ymchwilwyr a dadansoddwr troseddu. Mae’r strwythur presennol yn ei helpu i ddatblygu cudd-wybodaeth bosibl.
Mae’r CCU yn ymchwilio i bob achos o AoPSP. Ar gyfer mathau eraill o lygredd, ar ôl ymchwiliad cychwynnol, mae’r CCU yn penderfynu a ddylai’r achos gael ei drosglwyddo i’r PSD ar gyfer ymchwilio pellach.
Mae lefelau staffio yn bodloni’r galw presennol. Fodd bynnag, mae’r llu yn cydnabod bod llwythi gwaith CCU yn cynyddu. Mae’r dadansoddwr CCU yn gweinyddu’r ri matrics risg a monitro TG. Mae ymchwilwyr CCU yn gyfrifol am wahanol agweddau ar y gwaith hwn, sy’n golygu nad ydynt yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar ymchwilio i lygredd.
Dywedwyd wrthym fod swydd ychwanegol, sef swyddog atal, wedi’i chymeradwyo’n ddiweddar a swydd ymchwilydd staff dros dro wedi’i gwneud yn barhaol. Mae pennaeth y CCU yn cydnabod y byddai adnoddau pellach yn helpu i adeiladu ar ei lwyddiannau, yn enwedig mewn perthynas â monitro TG.
Adnoddau arbenigol
Mae’r CCU, gan gynnwys yr uwch dîm rheoli, yn brofiadol wrth orfodi’r gyfraith yn gudd. Mae ganddo berthynas waith dda gyda’r uned troseddau difrifol a chyfundrefnol ac mae’n mynychu’r cyfarfod troseddau cyfundrefnol.
Pan fo angen, gall y llu gyrchu adnoddau ar gyfer archwiliadau cudd trwy’r uned troseddau cyfundrefnol, lluoedd cyfagos neu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Polisïau wedi’u cynllunio i atal llygredd
Mae polisïau clir a chryno ar gyfer atal llygredd yn helpu i warchod rhag gweithgarwch llwgr, ond ni all warantu atal llygredd, neu ynddynt eu hunain atal arfer llwgr. Maent yn darparu arweiniad ar sut y dylai swyddogion a staff yr heddlu ymddwyn. Dylent ddatgan yn glir yr hyn a ddisgwylir gan aelodau’r sefydliad a pha gamau y dylent eu cymryd i amddiffyn eu hunain a’r sefydliad rhag llygredd.
Mae APP (atal) gwrthlygredd yn nodi pa bolisïau dylai fod gan luoedd ac yn rhoi arweiniad ar eu cynnwys. Mae ein harolygwyr yn archwilio eu polisïau yn y meysydd hyn:
- Cysylltiadau hysbysadwy: dylai polisïau gwmpasu sut y dylai’r llu reoli’r risgiau sy’n ymwneud â swyddogion a staff a all fod yn gysylltiedig, er enghraifft, â throseddwyr, ymchwilwyr preifat, neu aelodau o grwpiau eithafol. Dylent fynnu bod swyddogion a staff yn datgelu cysylltiadau o’r fath.
- Buddiannau busnes: dylai polisïau nodi pryd y dylai’r llu ganiatáu neu wadu cyfle i swyddogion a staff ddal swyddi eraill. Dylent egluro sut y bydd y llu yn rheoli’r risgiau sy’n codi pan fydd swyddogion a staff wedi’u caniatáu i’w cadw.
- Rhoddion a lletygarwch: dylai polisïau gwmpasu’r amgylchiadau pan ddylai swyddogion a staff yr heddlu dderbyn neu wrthod cynigion o roddion a/neu letygarwch.
Canfuom fod polisïau Heddlu Gwent yn gynhwysfawr ac yn adlewyrchu arweiniad yr APP. Mae aelodau’r gweithlu yn cyflwyno ffurflen ar-lein os oes ganddyn nhw gysylltiadau hysbysadwy neu fuddiannau busnes neu os ydyn nhw wedi cael cynnig rhoddion neu letygarwch. Mae cysylltiadau hysbysadwy a buddiannau busnes yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a’u rheoli’n dda gan y CCU.
Gweinyddwyd y gofrestr rhoddion a lletygarwch gan PSD, ond roedd y CCU i fod i gymryd drosodd y cyfrifoldeb ym mis Ionawr 2023.
Camymddwyn rhywiol
Mae’r llu yn cydnabod AoPSP fel llygredd difrifol. Yn ystod yr adolygiad ffeil, cyfeiriodd y CCU yr achosion hyn yn gyson at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Mae’r llu yn cefnogi hyfforddiant gorfodol y Coleg Plismona gydag ymgyrchoedd posteri, erthyglau mewnrwyd a chyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau camymddwyn difrifol. Mae’r CCU wedi darparu hyfforddiant pellach, gan gynnwys fideo ar AoPSP, i’r holl recriwtiaid newydd, swyddogion a staff rheng flaen, pobl sy’n gweithio yn y dalfeydd, a thîm cyfathrebu’r heddlu.
Mae staff CCU yn darparu lefel bellach o hyfforddiant i reolwyr llinell i’w helpu i nodi arwyddion rhybudd AoPSP. Canfuom ddealltwriaeth dda o AoPSP ar draws y gweithlu.
Nôl i’r cyhoeddiad
Adroddiad ar effeithiolrwydd trefniadau fetio a gwrthlygredd yn Heddlu Gwent