Ailymweld â Heddlu Gwent: achos pryder gwasanaeth i ddioddefwyr

Published on: 1 December 2023

Contents

Print this document

Llythyr gwybodaeth

Oddiwrth:
Wendy Williams
Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi
Arolygiaeth Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi

At:
Pam Kelly
Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent

Cc:
Jeff Cuthbert
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent

Sent on:
1 Rhagfyr 2023

Cefndir

Rhwng 14 Tachwedd 2022 a 21 Tachwedd 2022, arolygom Heddlu Gwent fel rhan o’n rhaglen effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlonrwydd yr heddlu (PEEL). Yn ystod ein harolygiad, nodom achos pryder y rhannom â chi:

Achos pryder

Mae angen i’r llu wella sut mae’n ateb galwadau am wasanaeth, adnabod bregusrwydd ar y pwynt cyswllt cyntaf, a mynychu digwyddiadau o fewn ei amserlenni cyhoeddedig.

Argymhellion

Dylai Heddlu Gwent, o fewn tri mis:

  • sicrhau y defnyddir dull brysbennu strwythuredig i asesu risg ac ystyried anghenion y dioddefwr;
  • gwella’r broses asesu risg galwyr i adnabod y rhai sy’n agored i niwed neu wrth risg;
  • sicrhau bod galwyr agored i niwed a mynych yn cael eu hadnabod fel mater o drefn, ac y cofnodir hyn; a
  • gwneud yn siŵr bod trinwyr galwadau yn rhoi cyngor priodol ar gadw tystiolaeth ac atal troseddu.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn chwe mis:

  • gwneud yn siŵr y gall ateb cyfran uwch o alwadau 101 di-frys fel bod lefelau cyfradd gadael galwyr yn cael eu lleihau a’u cadw mor isel â phosib; a
  • mynychu’r rhan fwyaf o alwadau o fewn ei amserlenni cyhoeddedig, a rhoi gwybod i ddioddefwyr os oes oedi.

Rhwng 25 Medi 2023 a 29 Medi 2023, gwnaethom ailymweld â Heddlu Gwent i ailadrodd ein hasesiad o wasanaethau dioddefwyr. Roedd hyn yn caniatáu i ni nodi ac adrodd ar unrhyw gynnydd yr oedd y llu wedi’i wneud yn erbyn nifer o’n hargymhellion perthnasol. Roedd hefyd yn caniatáu i ni nodi ac adrodd ar gynnydd yn erbyn meysydd eraill o welliant. Roedd hyn yn cynnwys sut mae’r llu yn ymchwilio i droseddau, yn ogystal â’r ffordd y mae’n ymateb i’r cyhoedd pan wneir galwadau am wasanaethau.

Fel rhan o’r asesiad hwn, gwnaethom adolygu 100 o ffeiliau achos a chanlyniad pob achos. Pan fydd yr heddlu’n cau achos o drosedd a adroddwyd, caiff ei neilltuo â’r hyn y cyfeirir ato fel ‘math o ganlyniad’. Mae hyn yn disgrifio’r rheswm dros gau’r achos.

Crynodeb o’r canfyddiadau

  • Mae’r llu wedi gwella sut mae’n asesu risg pan fydd y cyhoedd yn gwneud galwadau am wasanaeth, gan gynnwys pa mor dda y mae’n adnabod galwyr agored i niwed a mynych.
  • Dylai’r llu leihau’r nifer o alwadau di-frys y mae galwyr yn eu gadael am nad ydynt yn cael eu hateb, a dylai wella pa mor brydlon y mae’n mynychu digwyddiadau.
  • Mae’r llu wedi gwella pa mor dda y mae’n ymchwilio i droseddau, gan gynnwys pa mor effeithiol y mae’n dilyn trywydd ymholi a pha mor brydlon y mae’n cynnal ymchwiliadau.

Cynnydd yn erbyn achos pryder

Yn ystod ein hailymweliad ym mis Medi 2023, gwnaethom adolygu’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr achos pryder a nodwyd yn ein harolygiad yn 2022. Mae crynodeb o’n canfyddiadau isod.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn tri mis, sicrhau y defnyddir dull brysbennu strwythuredig i asesu risg ac ystyried anghenion y dioddefwr

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i fodloni.

Gwelsom welliant sylweddol o ran pa mor dda y mae’r llu yn defnyddio dull brysbennu strwythuredig pan wneir galwadau am wasanaeth. Defnyddiodd trinwyr galwadau ddull brysbennu strwythuredig i asesu risg ac ystyried anghenion y dioddefwr neu’r galwr mewn 71 o 76 achos cymwys. Mewn 71 o 71 achos, roedd y cofnod brysbennu strwythuredig yn adlewyrchiad cywir ac ystyrlon o amgylchiadau’r alwad.

Mae hyn yn welliant sylweddol o’n harolygiad diwethaf, lle dim ond 7 o 55 achos oedd â chofnod brysbennu strwythuredig.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn tri mis, wella’r broses asesu risg galwyr i adnabod y rhai sy’n agored i niwed neu wrth risg

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i fodloni.

Canfuom fod yr heddlu wedi gwella sut mae’n adnabod galwyr agored i niwed ac wrth risg. Roedd tystiolaeth o wiriad ar gyfer dioddefwr agored i niwed a/neu berson arall mewn 71 o’r 74 achos perthnasol a adolygwyd gennym. Pan nodwyd person agored i niwed, cofnodwyd hyn mewn 30 o 33 achos.

Mae hyn yn welliant o’n harolygiad diwethaf, lle cafodd 45 o 60 achos wiriad bregusrwydd.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn tri mis, sicrhau bod galwyr agored i niwed a mynych yn cael eu hadnabod fel mater o drefn, a bod hyn yn cael ei gofnodi

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i fodloni.

Canfuom fod tystiolaeth o wiriad i adnabod dioddefwr mynych er mwyn llywio’r asesiad risg brysbennu mewn 69 o 75 achos perthnasol. Defnyddiwyd y wybodaeth a gasglwyd pan nodwyd dioddefwr mynych yn effeithiol mewn 33 o 37 achos.

Mae hyn yn welliant o’n harolygiad diwethaf, lle cafodd 33 o 56 achos wiriad galwyr mynych.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn tri mis, wneud yn siŵr bod trinwyr galwadau yn rhoi cyngor priodol ar gadw tystiolaeth ac atal troseddu

Mae’r argymhelliad hwn wedi’i fodloni.

Canfuom fod trinwyr galwadau wedi rhoi cyngor priodol ar gadw tystiolaeth mewn 28 o 30 achos perthnasol. Mae hyn yn welliant o’n harolygiad diwethaf, lle’r oedd trinwyr galwadau wedi rhoi cyngor priodol ar gadw tystiolaeth mewn 7 o 23 achos.

Canfuom hefyd fod trinwyr galwadau wedi rhoi cyngor priodol ar atal troseddu mewn 35 o 36 achos perthnasol. Mae hyn yn welliant o’n harolygiad diwethaf, lle’r oedd trinwyr galwadau wedi rhoi cyngor priodol ar atal troseddu mewn 18 o 32 achos.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn chwe mis, wneud yn siŵr y gall ateb cyfran uwch o alwadau 101 di-frys fel bod lefelau cyfradd gadael galwyr yn cael eu lleihau a’u cadw mor isel â phosib

Nid yw’r argymhelliad hwn wedi’i fodloni.

Canfuom fod y llu wedi gwella sut mae’n trin galwadau di-frys. Mae wedi lleihau’r nifer o alwadau 101 y mae galwyr yn eu gadael oherwydd nad ydynt yn cael eu hateb, o 42 y cant i 23 y cant.

Mae hyn yn welliant. Ond mae’n dal i fod yn sylweddol uwch na’r safon dderbyniol, sef 10 y cant o alwadau 101 yn cael eu gadael ar gyfer lluoedd heb swyddogaeth switsfwrdd.

Dylai Heddlu Gwent, o fewn chwe mis, fynychu’r rhan fwyaf o alwadau o fewn ei amserlenni cyhoeddedig, a rhoi gwybod i ddioddefwyr os oes oedi

Nid yw’r argymhelliad hwn wedi’i fodloni.

Canfuom fod y llu wedi gwella ei amseroedd presenoldeb ychydig. Mynychodd ddigwyddiadau o fewn yr amserlenni gofynnol mewn 60 o 82 achos a adolygwyd gennym. Roedd hyn yn welliant bach o’n harolygiad diwethaf, lle mynychwyd 27 o 57 digwyddiad mewn pryd.

Canfuom hefyd fod y galwr neu’r dioddefwr wedi cael diweddariad ynghylch oedi mewn presenoldeb mewn 2 o 16 achos perthnasol. Mae hyn yn debyg i’r canfyddiadau yn ein harolygiad diwethaf, lle cafodd 5 o 30 o ddioddefwyr ddiweddariad.

Mae’r llu wedi dangos gwelliant yn y maes hwn. Ond mae’r safon y mae wedi’i chyflawni yn dal i fod yn brin o’r hyn a fyddai’n dderbyniol i’r cyhoedd.

Adolygiad o gynnydd yn erbyn meysydd i’w gwella

Yn ystod ein hailymweliad ym mis Medi 2023, gwnaethom hefyd adolygu cynnydd y llu yn erbyn y meysydd i’w gwella a nodwyd yn ein harolygiad yn 2022. Mae crynodeb o’n canfyddiadau isod.

Dylai’r llu sicrhau bod ganddo’r capasiti a’r gallu i ymchwilio’n effeithiol i droseddau ar ran y cyhoedd, a bod ei drefniadau llywodraethu a chraffu yn arwain at wella safonau ymchwilio

Mae’r maes hwn i’w wella wedi’i fodloni.

Canfuom fod 92 o 100 o ymchwiliadau a archwiliwyd gennym yn effeithiol. Mae hyn yn welliant o 68 allan o 90 achos yn ystod ein harolygiad diwethaf. Mae’r llu wedi cyflwyno prosesau newydd sydd wedi gwella craffu a llywodraethu ymchwiliadau, sydd yn ei dro wedi arwain at well safonau wrth ymchwilio i droseddau.

Dylai’r llu wneud yn siŵr y caiff cynlluniau ymchwilio eu creu lle bo’n briodol, gyda goruchwyliaeth ac atgyfeirio drwy’r amser

Mae’r maes hwn i’w wella wedi’i fodloni.

Canfuom fod y llu wedi rhoi cynlluniau ymchwilio priodol ar waith mewn 65 o 69 achos. Mae hyn yn welliant o’i gymharu â 31 allan o 42 ymchwiliad yn ystod ein harolygiad diwethaf.

Canfuom dystiolaeth o oruchwyliaeth effeithiol mewn 91 o 99 achos. Mae hyn yn cymharu â 55 allan o 77 achos yn ystod ein harolygiad diwethaf.

Dylai’r llu sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cwblhau heb oedi diangen, ac y cymerir yr holl gyfleoedd ymchwiliol perthnasol a chymesur

Mae’r maes hwn i’w wella wedi’i fodloni.

Canfuom fod yr heddlu wedi cymryd pob cyfle ymchwiliol priodol a chymesur o’r cychwyn a thrwy gydol yr ymchwiliad mewn 85 o 94 achos. Mae hyn yn cymharu â 68 allan o 87 achos yn ystod ein harolygiad diwethaf.

Pan fo dioddefwr wedi penderfynu tynnu cefnogaeth i weithredu’r heddlu yn ôl, dylai’r llu sicrhau bod cofnod archwiliadol o’r penderfyniad hwn. Dylai hyn gynnwys y rheswm pam y gwnaethpwyd y penderfyniad. Dylai’r llu wneud yn siŵr ei fod yn dogfennu a yw erlyniadau a arweinir gan dystiolaeth wedi’u hystyried ym mhob achos o’r fath

Mae’r maes hwn i’w wella wedi’i fodloni.

Canfuom lle neilltuwyd canlyniad 16 i drosedd, sy’n golygu bod rhywun dan amheuaeth wedi’i adnabod ond nad yw’r dioddefwr yn cefnogi camau pellach, roedd cofnod archwiliadwy o farn y dioddefwr mewn 17 o 17 achos. Mae hyn yn cymharu â dim ond 2 allan o 20 achos yn ystod ein harolygiad diwethaf.

Cafodd y rhesymau i’r dioddefwr dynnu eu cefnogaeth yn ôl eu cofnodi ar ffeil mewn 15 o 19 achos. Mae hyn yn cymharu â 13 allan o 20 achos yn ystod ein harolygiad diwethaf.

Canfuom dystiolaeth bod y llu yn ystyried symud ymlaen, neu geisio symud ymlaen, yr achos heb gefnogaeth y dioddefwr mewn 12 o 14 achos perthnasol. Mae hyn yn cymharu â 9 allan o 24 achos yn ystod ein harolygiad diwethaf.

Casgliad

Mae Heddlu Gwent wedi gwneud cynnydd sylweddol yn erbyn rhai o’r argymhellion y gwnaethom ganolbwyntio arnynt yn yr ailymweliad hwn. Mae angen i’r llu wella o hyd sut mae’n ymateb i alwadau di-frys, er mwyn lleihau’r gyfradd gadael. A dylai barhau i ganolbwyntio ar ba mor brydlon y mae’n mynychu digwyddiadau.

Serch hynny, rwy’n cydnabod y cynnydd cadarnhaol y mae’r llu wedi’i wneud. Gallaf gadarnhau fod yr achos pryder presennol yn cael ei ryddhau. Byddwn yn parhau i fonitro gwelliant y llu ym meysydd galwadau 101 ac amseroedd presenoldeb.

Hoffwn longyfarch y llu ar ei berfformiad clodwiw wrth wella safonau ymchwiliol. Mae’r holl feysydd i’w gwella sy’n weddill mewn perthynas ag ymchwiliadau wedi’u rhyddhau. Byddwn yn parhau i fonitro gwaith y llu yn y maes hwn yn ystod ein harolygiad PEEL 23–25.

Nôl i’r cyhoeddiad

Ailymweld â Heddlu Gwent: achos pryder gwasanaeth i ddioddefwyr